Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw trothwyon?

1. Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn Neddf Caffael 2023 ('y Ddeddf') yn gymwys i gontractau cyhoeddus yn unig (fel y'u diffinnir yn adran 3). Dim ond pan nad yw wedi'i esemptio (fel yr amlinellir yn Atodlen 2) a bod ganddo werth amcangyfrifedig (gan gynnwys TAW) nad yw'n llai na'r trothwyon a amlinellir yn Atodlen 1 y mae contract yn cael ei hystyried yn gontract cyhoeddus. Mae adran 123 o'r Ddeddf, sef' Dehongli', yn esbonio bod cyfeiriad at swm sy'n daladwy neu wedi'i dalu, yn dderbyniadwy neu wedi'i dderbyn, neu i'w dalu neu ei dderbyn o dan gontract yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw swm sy'n ddarostyngedig i TAW (defnyddir y termau 'derbyniadwy' ac 'wedi'i dderbyn' i adlewyrchu'r ffordd wahanol mae contractau consesiwn yn cael eu prisio). Felly, mae'r trothwyon hyn yn hanfodol wrth sicrhau bod awdurdodau contractio yn deall pryd y mae angen iddynt gydymffurfio â'r darpariaethau safonol yn y Ddeddf.

2. Mae contractau penodol sydd â gwerth contract o dan y trothwyon yn Atodlen 1 yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ar gyfer contractau o dan y trothwy isod yn Rhan 6 o'r Ddeddf. Am ragor o wybodaeth, gwelwch baragraffau 14–16 isod a'r canllawiau ar wahân ar gontractau sydd o dan y trothwy.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli trothwyon?

3. Nodir y trothwyon cymwys yn Atodlen 1 i'r Ddeddf a gellir eu grwpio mewn tri phrif gategori:

  1. Y rhai sy'n cyd-fynd â chytundebau rhyngwladol
  2. Contractau amddiffyn a diogelwch (er nad yw'r rhain yn berthnasol i awdurdodau datganoledig Cymru), a
  3. Contractau cyffyrddiad ysgafn.

4. Rhaid i awdurdodau datganoledig Cymru ystyried y trothwyon canlynol hefyd:

  1. Contractau hysbysadwy o dan y trothwy (gwelwch baragraffau 14–16 isod a'r canllawiau ar wahân ar gontractau o dan y trothwy)
  2. Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a rheoliadau. Pan ddaw'r ddeddfwriaeth hon i rym bydd dyletswyddau penodol yn berthnasol i gontractau sydd dros y trothwyon hyn (gwelwch ddiwedd y ddogfen am ragor o wybodaeth).

5. Fel yr eglurwyd yn fanylach ym mharagraff 10 isod, mae'r trothwyon yn y Ddeddf wedi cael eu diweddaru ers hynny i gyd-fynd â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar gaffael cyhoeddus. Nodwyd y trothwyon diwygiedig yn Nodyn Polisi Caffael 11/23 ac maent yn cael eu nodi isod hefyd. Bydd y Ddeddf yn cael ei diweddaru pan ddaw i rym i sicrhau bod y trothwyon diwygiedig yn cael eu hadlewyrchu.

Pwyntiau allweddol a bwriad y polisi

Cytundebau rhyngwladol

6. Mae gan y DU ddyletswydd i roi mynediad i'w marchnadoedd caffael cyhoeddus i gyflenwyr o wladwriaethau y mae ganddi gytundeb masnach perthnasol gyda nhw (dim ond mewn perthynas â'r telerau y cytunwyd arnynt yn y cytundeb masnach y mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol). Rhestrir y cytundebau masnach hyn yn Atodlen 9 i'r Ddeddf.

7. Mae trothwyon y DU yn ei chytundebau masnach perthnasol naill ai'n cyd-fynd â'r trothwyon yn Atodlenni'r y DU i Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau. Yn unol â hynny, mae'r DU yn parhau i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau rhyngwladol drwy alinio'r trothwyon perthnasol yn y Ddeddf â throthwyon y DU yn y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau (GPA).

8. Mae trothwyon y DU mewn Hawliau Arbennig Tynnu Arian (SDRau). Bob dwy flynedd mae'n ofynnol i'r DU ddarparu ei throthwyon SDR ar gyfer y GPA mewn Sterling. Wedyn mae'r trothwyon diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ionawr bob blwyddyn eilrif. Mae hyn er mwyn addasu ar gyfer amrywiadau arian cyfred.

9. Er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn parhau i gyd-fynd â throthwyon y DU yn y GPA mewn sterling, mae Atodlen 1 yn cynnwys pŵer i awdurdod priodol (un o Weinidogion y Goron, Gweinidogion Cymru neu un o adrannau Gogledd Iwerddon) ddiweddaru trothwyon perthnasol yn y Ddeddf drwy offeryn statudol. Cyhoeddir Nodyn Polisi Caffael bob dwy flynedd i gadarnhau'r trothwyon newydd mewn sterling.

10. Mae'r trothwyon a restrir yn rhesi 4, 6 a 9 i 12 yn Atodlen 1, paragraff 1(1) yn cyfateb i drothwyon y DU yn y GPA mewn sterling ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2022 hyd at 31 Rhagfyr 2023. Roedd y trothwyon hyn ar waith pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 26 Hydref 2023. Bydd y trothwyon hyn yn cael eu diweddaru pan ddaw'r Ddeddf i rym i sicrhau eu bod yn parhau i gyd-fynd â throthwyon y GPA a gafodd eu diweddaru ar 1 Ionawr 2024. Er mwyn cyfeirio atynt yn hawdd, mae'r trothwyon diwygiedig wedi cael eu hamlinellu yn y tabl isod:

Math o gontract Trothwyon (gan gynnwys TAW): 1 Ionawr 2024 hyd at 31 Rhagfyr 2025
Contract gweithiau cyfleustodau£5,372,609
Contract cyfleustodau nad yw'n gontract gwaith, contract amddiffyn a diogelwch neu gontract cyffyrddiad ysgafn.£429,809
Contract gweithiau a gwasanaethau consesiwn£5,372,609
Contract gwaith£5,372,609
Contract ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau (a all fod yn gontractau cymysg sy'n cynnwys rhai elfennau gwaith) i awdurdod llywodraeth ganolog nad yw yn unrhyw res arall.£139,688
Contract ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau (a all fod yn gontractau cymysg sy'n cynnwys rhai elfennau gwaith) i awdurdod llywodraeth is-ganolog nad yw yn unrhyw res arall.£214,904

Contractau cyffyrddiad ysgafn

11. Mae Atodlen 1 yn rhoi pŵer i ddiweddaru'r trothwyon ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn. Nid yw'r trothwyon hyn yn cael eu pennu gan y GPA ac felly nid ydynt yn cael eu newid bob dwy flynedd.

12. Mae Atodlen 1, fodd bynnag, yn caniatáu i drothwyon contractau cyffyrddiad ysgafn gael eu diweddaru at ddibenion gwahanol; er enghraifft i ganiatáu ar gyfer chwyddiant neu adlewyrchu blaenoriaethau sy'n newid ar gyfer contractau yn y categori hwn.

13. Pan fydd contract cyffyrddiad ysgafn hefyd yn gontract consesiwn, mae'r trothwy uwch a ddefnyddir ar gyfer contractau consesiwn yn berthnasol. Mae'r trothwy hwn yn parhau i gyd-fynd â throthwy GPA y DU ar gyfer gwasanaethau adeiladu, sef 5,000,000 SDR (£5,372,609 ar hyn o bryd) ac mae'n cael ei ddiweddaru bob dwy flynedd.

Math o gontractTrothwy (gan gynnwys TAW)
Contractau Cyffyrddiad Ysgafn£884,720
Contractau consesiwn cyffyrddiad ysgafn£5,372,609 (1 January 2024 to 31 December 2025)
Pob contract cyffyrddiad ysgafn arall£663,540

Contractau hysbysadwy sydd o dan y trothwy yng Nghymru

14. Mae adran 87 o'r Ddeddf yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru ddiweddaru'r trothwy ariannol ar gyfer contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy drwy offeryn statudol. Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer hwn drwy Reoliad 47(3) o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024, sy'n golygu, ar gyfer awdurdodau datganoledig Cymru, fod 'contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy' yn gontract a reoleiddir sydd o dan y trothwy ac iddo werth amcangyfrifedig dros £30,000 (gan gynnwys TAW).

15. Bydd y trothwy hwn yr un mor berthnasol yng Nghymru i awdurdodau llywodraeth ganolog ac awdurdodau nad ydynt yn awdurdodau llywodraeth ganolog. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gontract sydd â gwerth dros y gwerth hwn yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad manylion contract gael ei gyhoeddi gan holl awdurdodau datganoledig Cymru.

16. Fodd bynnag, os yw awdurdod llywodraeth ganolog Cymru yn caffael o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl, fel Fframwaith neu Farchnad Ddeinamig a sefydlwyd gan Wasanaethau Masnachol y Goron, er enghraifft, yna'r trothwy a fyddai'n berthnasol yw £12,000 (gan gynnwys TAW).

Diffiniad o dermau

17. Mae Atodlen 1 o'r Ddeddf yn diffinio'r ymadroddion canlynol a ddefnyddir yn Atodlen 1 a thrwy gydol y Ddeddf:

Awdurdodau llywodraeth ganolog

Gweinidogion Cymru a phob un o'r endidau (a'u holynwyr) a restrir yng ngholofnau 1 neu 2 o'r Tabl yn Atodlen 2 i Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (mae Atodlen 1 o'r Ddeddf yn cynnwys rheoliad sy'n gwneud pŵer sy'n caniatáu i awdurdod priodol restru'r awdurdodau contractio hynny sy'n 'awdurdodau llywodraeth ganolog').

Gwaith cyflawn

Strwythur gweithredol sy'n deillio o wneud y gwaith.

Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau (GPA)

ystyr y 'Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau' ('y GPA') yw’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau a lofnodwyd ym Marrakesh ar 15 Ebrill 1994, fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Awdurdod llywodraeth is-ganolog

Awdurdod contractio nad yw'n:

  1. awdurdod llywodraeth ganolog, nac yn
  2. cyfleustod preifat nac ymgymeriad cyhoeddus.

Gwaith

Y gweithgareddau sy'n dod o fewn y codau'r Eirfa Gaffael Gyffredin a restrir yn Atodlen 3 i Reoliadau Caffael 
(Cymru) 2024 (mae Atodlen 1 o'r Ddeddf yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau sy'n caniatáu i awdurdod priodol restru'r categorïau hynny o weithgareddau sydd i'w hystyried yn 'waith' at ddibenion diffinio 'contract gwaith'). 

Contract gweithiau

Contract mai ei brif bwrpas yw naill ai:

  1. cyflawni 'gwaith' (gweler y diffiniad uchod) o dan y contract hwnnw (boed yn arwain at waith cyflawn ai peidio), neu
  2. hwyluso cyflawni gwaith o dan drefniant ar wahân, pan fwriedir i'r gwaith hwnnw arwain at waith cyflawn sy'n cydymffurfio â manylebau a nodir yn y contract hwnnw.

What other guidance is of particular relevance to this topic area?

  • Guidance on covered procurement
  • Guidance on exempted contracts
  • Guidance on below-threshold contracts

Where can I go for more information or training?

Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023

18. The Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023 (SPPP Act) places a socially responsible procurement duty on Welsh contracting authorities, so that they:

“…must seek to improve the economic, social, environmental and cultural well-being of its area by carrying out public procurement in a socially responsible way

(Section 24(1)).

19. The definition of a public contract in the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023 is broader than the definition in the Procurement Act, with no reference to financial thresholds (see Section 21 of the SPPP Act).

20. The SPPP Act places additional (reasonable steps and reporting) duties on contracting authorities in relation to a category of procurements known as “prescribed contracts”. These are defined (section 24(8)) as “a major construction contract”, an outsourcing services contract and any other public contract of a description prescribed by the Welsh Ministers. A major construction contract, which DWAs will need to be aware of when this legislation comes into force, is a public contract that is a works contract with an estimated value of no less than £2,000,000 inclusive of VAT.

21. The Explanatory Memorandum to the SPPP Act indicates that it has been the policy intention of Welsh Ministers to extend to the definition of prescribed contracts, by regulation, to include above-threshold contracts, linked to the Procurement Act.

22. A further category of “registrable contracts” will also be defined in regulations. The details of these contracts must be included in a published contracts register (section 40).

23. The definitions for “works” and “works contract” in the SPPP Act have been amended by the Procurement (Wales) Regulations 2024 (Regulation 46(3)(b) and (c) in relation to the Procurement Act 2023 (Act), to reflect the definitions contained within these Regulations and the Act.

24. Separate regulations and guidance on the SPPP Act will be published which will provide further information on the above.