Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw hysbysiad cyflawni contract?

1. Defnyddir hysbysiad cyflawni contract i gyhoeddi gwybodaeth yn unol ag adran 71 o Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf). Mae'r hysbysiad cyflawni contract yn cyflawni dwy swyddogaeth:

  1. cofnodi perfformiad cyflenwyr yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol lle bo adran 52(1) o'r Ddeddf yn gymwys, a
  2. cofnodi gwybodaeth am achosion penodol o dorri contract neu fethu â chyflawni contract cyhoeddus ac eithrio lle bo'r achos o dorri contract yn arwain at derfynu contract yn llawn (ac mewn achos o'r fath, rhaid cyhoeddi hysbysiad terfynu contract (gweler paragraff 28 isod)).

2. Mae'r hysbysiad cyflawni contract yn rhoi tryloywder i awdurdodau contractio eraill a'r cyhoedd am berfformiad cyflenwr. Mae hefyd yn darparu ffynhonnell wrthrychol o wybodaeth i awdurdodau contractio ar gyfer sail ddisgresiynol dros wahardd mewn perthynas ag achos o dorri contract a pherfformiad gwael a bydd eu galluogi i wneud penderfyniadau gwell wrth ystyried y sail dros wahardd.

3. Ni fydd yr Hysbysiad Cyflawni Contract ar gael tan ddyddiad diweddarach. Rhoddir diweddariad i randdeiliaid maes o law.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu hysbysiadau cyflawni contract?

4. Mae Adran 52 o'r Ddeddf yn diffinio ac yn nodi'r rhwymedigaethau i bennu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol a'r esemptiadau rhag y gofynion hyn. Mae'n diffinio dangosydd perfformiad allweddol fel ffactor neu fesur y gellir asesu perfformiad cyflenwr o ran cyflawni contract yn ei erbyn yn ystod cylch oes y contract.

5. Rhaid cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â'r dangosyddion perfformiad allweddol a nodir yn y contract pan ymrwymir iddo yn yr hysbysiad manylion contract a gyhoeddir o dan adran 53 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 33 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau) yn nodi'r wybodaeth am ddangosyddion perfformiad allweddol y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiad manylion contract.

6. Mae adran 71 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio asesu perfformiad cyflenwyr yn rheolaidd yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd a chyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â'r asesiad hwnnw yn ogystal ag achosion penodol o dorri'r contract neu berfformiad gwael.

7. Mae'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyhoeddi o dan adran 71 o'r Ddeddf wedi'i nodi yn yr hysbysiad cyflawni contract y cyfeirir ato yn rheoliad 40 o'r Rheoliadau.

Beth sydd wedi newid?

8. Cyhoeddir yr hysbysiad cyflawni contract ar y platfform digidol canolog. Mae'n hysbysiad newydd sy'n cynnwys gwybodaeth nad oedd yn ofynnol ei chyhoeddi o dan y ddeddfwriaeth flaenorol ac yn rhoi mwy o dryloywder yn ystod cyfnod y contract.

9. Mae adran 71 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod contractio, o leiaf unwaith y flwyddyn yn ystod oes y contract a phan gaiff y contract ei derfynu, asesu perfformiad y cyflenwr yn erbyn unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd o dan adran 52 o'r Ddeddf a chyhoeddi'r wybodaeth a nodir yn y rheoliadau mewn perthynas â'r asesiad hwnnw. Mae rheoliad 40 o'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth a nodir gael ei chyhoeddi yn yr hysbysiad cyflawni contract. Gweler y canllawiau ar ddangosyddion perfformiad allweddol am ragor o wybodaeth.

10. Mae adran 71 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod contractio gyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud ag achosion penodol o dorri contract neu fethu a chyflawni contract cyhoeddus. Mae rheoliad 40 yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth a nodir gael ei chyhoeddi yn yr hysbysiad cyflawni contract hefyd. Os bydd awdurdod contractio wedi cyhoedd hysbysiad cyflawni contract yn dilyn achos o dorri contract neu berfformiad gwael a nodir yn adran 71 o'r Ddeddf, mae Atodlen 7, paragraff 12(4) o'r Ddeddf yn darparu bod sail ddisgresiynol dros wahardd yn gymwys mewn perthynas â'r cyflenwr perthnasol. Dim ond os cyhoeddwyd yr hysbysiad yn ystod y pum mlynedd blaenorol ac os yw'r awdurdod contractio o'r farn bod yr amgylchiadau sy'n arwain at gymhwyso'r sail dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto y gellir gwahardd y cyflenwr ar y sail hon. Gweler y canllawiau ar waharddiadau am ragor o wybodaeth.

11. Mae'r sail hon dros wahardd yn un newydd ac yn ategu tair sail ddisgresiynol arall dros wahardd mewn perthynas ag achos o dorri contract neu berfformiad gwael a nodir yn Atodlen 7, paragraffau 12(1-3) o'r Ddeddf. Roedd y sail gyfatebol dros wahardd yn y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yn gulach ac, yn absenoldeb unrhyw fath o ofynion o ran hysbysiadau, roedd awdurdodau contractio yn dibynnu ar hunanddatganiadau cyflenwyr i gadarnhau nad oedd cyflenwyr yn bodloni'r sail hon.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

Asesu perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a chyhoeddi gwybodaeth am ddangosyddion perfformiad allweddol

12. Ceir gwybodaeth am bennu dangosyddion perfformiad allweddol yn y canllawiau ar ddangosyddion perfformiad allweddol a'r canllawiau ar hysbysiadau manylion contract. I grynhoi (ond dylid cyfeirio at y canllawiau ar ddangosyddion perfformiad allweddol), mae adran 52(1) o'r Ddeddf yn nodi ei bod yn ofynnol i awdurdod contractio fel arfer bennu o leiaf tri dangosydd perfformiad allweddol mewn perthynas â'r contract cyn ymrwymo i gontract cyhoeddus â gwerth amcangyfrifedig o fwy na £5 miliwn. Lle y caiff dangosyddion perfformiad allweddol eu pennu yn unol ag adran 52(1) o'r Ddeddf, mae adran 52(3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gyhoeddi pob un o'r dangosyddion perfformiad allweddol.

13. Pan fydd awdurdod Cymreig datganoledig yn defnyddio trefniant caffael a gedwir yn ôl, ni fydd rheoliadau Cymru yn gymwys ac, felly, dylai gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth y DU.

14. Mae adran 52(6)(b) o'r Ddeddf yn darparu nad yw'r gofyniad i bennu dangosyddion perfformiad allweddol o dan adran 52(1) yn gymwys os yw'r contract cyhoeddus yn:

  1. fframwaith
  2. contract cyfleustodau a ddyfarnwyd gan gyfleustod preifat
  3. contract consesiwn, neu
  4. contract cyffyrddiad ysgafn.

15. Os bydd contract wedi'i esemptio rhag pennu dangosyddion perfformiad allweddol, neu os bydd yr awdurdod contractio o'r farn na ellid asesu perfformiad y cyflenwr yn briodol drwy ddangosyddion o'r fath, yna ni fydd unrhyw rwymedigaeth i gyhoeddi hysbysiadau cyflawni contract at ddibenion monitro'r dangosyddion perfformiad allweddol (ond gallant fod yn ofynnol yn dilyn achos o dorri contract neu berfformiad gwael a ddisgrifir yn adran 71 o'r Ddeddf).

16. Os bydd contract yn ‘gontract trosadwy’ a ddiffinnir yn adran 74 o'r Ddeddf (addasu contract cyhoeddus), nid oes unrhyw ofyniad i bennu dangosyddion perfformiad allweddol pan fydd y contract yn trosi, hyd yn oes os caiff y contract hwnnw, ar ôl ei drosi'n gontract cyhoeddus, ei brisio dros £5 miliwn. Y rheswm dros hyn yw bod y gofyniad i bennu dangosyddion perfformiad allweddol o dan adran 52(1) o'r Ddeddf yn codi cyn ymrwymo i gontract cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i awdurdodau contractio ddechrau adrodd ar achosion o dorri neu fethu â chyflawni'r contractau hyn os bydd yr amgylchiadau perthnasol yn adran 71 o'r Ddeddf yn gymwys. Y rheswm dros hyn yw unwaith y daw contract trosadwy yn gontract cyhoeddus, bydd y darpariaethau yn adran 71 sy'n gymwys i gontractau cyhoeddus yn gymwys i'r contract cyhoeddus hwnnw.

17. Mae rheoliad 40 yn nodi'r wybodaeth i'w chyhoeddi yn yr hysbysiad cyflawni contract wrth adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Rhaid i'r hysbysiad gynnwys:

  1. gwybodaeth am yr awdurdod contractio
  2. teitl y caffaeliad
  3. y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad a'r contract cyhoeddus
  4. y dangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd yn unol ag adran 52(1) o'r Ddeddf
  5. datganiad yn nodi bod yr hysbysiad yn cael ei ddefnyddio i nodi asesiad yr awdurdod contractio o berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol a ddewiswyd
  6. gwybodaeth am y cyflenwr y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef
  7. asesiad yr awdurdod contractio o berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol a ddewiswyd yn unol â'r graddau a nodir yn rheoliad 40(5) (sydd wedi'u hatgynhyrchu yn y tabl isod ym mharagraff 18), a
  8. y cyfnod o amser y mae asesiad yr awdurdod contractio yn berthnasol iddo.

18. Gweler isod y graddau a nodir yn rheoliad 40(5):

GraddDisgrifiad
DaMae'r perfformiad yn bodloni'r dangosyddion perfformiad allweddol neu'n rhagori arnynt
Yn nesáu at y targedMae'r perfformiad yn agos at fodloni'r dangosyddion perfformiad allweddol
Mae angen iddo wellaMae'r perfformiad islaw'r dangosyddion perfformiad allweddol
AnnigonolMae'r perfformiad yn sylweddol islaw'r dangosyddion perfformiad allweddol
ArallNi ellir dweud bod y perfformiad yn dda, ei fod yn nesáu at y targed, bod angen ei wella, neu ei fod yn annigonol

19. Mae'n bosibl y bydd awdurdod contractio yn asesu ei gyflenwyr yn erbyn eu graddau mewnol eu hunain o hyd, ond rhaid iddynt ddefnyddio'r graddau uchod wrth gwblhau'r hysbysiad cyflawni contract.

Amseriad cyhoeddi: adrodd ar berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol

20. Pan gaiff ei ddefnyddio i gyhoeddi asesiad o berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan adran 52(1) o'r Ddeddf, rhaid i'r hysbysiad cyflawni contract gael ei gyhoeddi o leiaf unwaith bob 12 mis yn ystod cylch oes y contract a phan gaiff y contract ei derfynu. Gall awdurdodau contractio ddewis asesu perfformiad (gan gyhoeddi gwybodaeth am y dangosyddion perfformiad allweddol neu beidio) yn amlach os byddant yn dewis gwneud hynny. Bydd pob hysbysiad cyflawni contract a gyhoeddir yn gysylltiedig â'r un blaenorol yn y dilyniant fel bod modd olrhain i ba raddau y mae'r contract wedi'i gyflawni dros ei oes.

21. Gan y gall yr asesiad o berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol ac achos o dorri neu fethu â chyflawni'r contract ddigwydd ar adegau gwahanol, gall hysbysiadau cyflawni contract gynnwys pethau gwahanol ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac mae'n bosibl y bydd nifer o hysbysiadau cyflawni contract mewn perthynas â chontract penodol.

22. Pan gaiff y contract ei derfynu, bydd angen cyhoeddi'r contract cyflawni contract sy'n nodi'r asesiad terfynol o gyflawni contract cyn cyhoeddi'r hysbysiad terfynu contract. Y rheswm dros hyn yw bod yr hysbysiad terfynu contract i bob diben yn cau'r cofnod o'r contract ar y system ddigidol ganolog.

Newidiadau i'r dangosyddion perfformiad allweddol

23. Mae rheoliad 40 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod contractio gyhoeddi asesiad o berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd o dan adran 52(1) o'r Ddeddf. Gall y dangosyddion perfformiad allweddol hyn fod yn wahanol i'r rhai a nodwyd yn yr hysbysiad cyflawni contract neu mewn hysbysiadau cyflawni contract blaenorol oherwydd gallai'r awdurdod contractio (ar yr amod y byddai hyn yn addasiad a ganiateir o dan adran 74 o'r Ddeddf) ystyried cyflwyno dangosydd perfformiad newydd (neu ddiwygio un sy'n bodoli eisoes) er mwyn asesu perfformiad yn ei erbyn ac adrodd arno neu barhau i adrodd ar y dangosyddion perfformiad allweddol a ddefnyddiwyd yn yr hysbysiad manylion contract, neu'r hysbysiad cyflawni contract diwethaf (fel y bo'n berthnasol) ond gyda'r radd ‘Arall’.

24. Dylai awdurdodau contractio ddefnyddio'r blwch testun rhydd yn y maes sy'n disgrifio'r dangosyddion perfformiad allweddol i nodi pa ddangosyddion perfformiad allweddol yn yr hysbysiad cyflawni contract sy'n rhai newydd neu ddiwygiedig.

Cadw gwybodaeth yn ôl o dan Adran 94 o'r Ddeddf

25. Gan fod yn rhaid cyhoeddi'r dangosyddion perfformiad allweddol i'w mesur, mae cyhoeddi perfformiad y cyflenwr yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn yn annhebygol o fod yn gyfystyr â ‘chyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif’ (a ddiffinnir yn adran 94 o'r Ddeddf) nad yw'n ofynnol ei chyhoeddi, ond bydd angen asesu hyn yn erbyn yr amgylchiadau sy'n berthnasol ar y pryd.

Cyhoeddi gwybodaeth am achosion o berfformiad gwael a thorri contract

26. Mae'r hysbysiad cyflawni contract hefyd yn fodd i awdurdodau contractio adrodd ar achosion perthnasol o dorri contract a pherfformiad gwael fel sy'n ofynnol o dan adran 71(5) o'r Ddeddf, ac eithrio lle y caiff y contract i derfynu'n llawn yn dilyn achos o dorri contract. Mae adran 71(5) yn gymwys i'r rhan fwyaf o gontractau cyhoeddus (nid dim ond y rheini dros £5 miliwn), gan gynnwys fframweithiau a chontractau consesiwn.

27. Os defnyddir yr hysbysiad cyflawni contract i gyhoeddi gwybodaeth am achos lle mae cyflenwr wedi torri contract cyhoeddus, rhaid i'r achos hwnnw fod wedi arwain at un o'r canlynol (neu gyfuniad ohonynt):

  1. terfynu'r contract yn rhannol (gweler paragraff 28 isod am ofynion cyhoeddi lle y caiff contract ei derfynu'n llawn)
  2. dyfarnu iawndal, neu
  3. cytundeb setlo rhwng y cyflenwr a'r awdurdod contractio.

28. Os bydd achos o dorri contract yn arwain at derfynu contract yn llawn, caiff hysbysiad terfynu contract ei gyhoeddi yn lle hynny, sy'n rhoi'r wybodaeth berthnasol am yr achos o dorri contract neu berfformiad gwael (gweler y canllawiau ar wahân ar derfynu contract). Mae hyn yn osgoi'r angen i gyhoeddi dau hysbysiad mewn perthynas â'r un digwyddiad.

29. Pan ddefnyddir yr hysbysiad cyflawni contract i gyhoeddi gwybodaeth am fethiant cyflenwr i gyflawni contract cyhoeddus mewn ffordd sy'n bodloni'r awdurdod, mae'n rhaid bod y cyflenwr wedi cael cyfle priodol i wella ei berfformiad a'i fod wedi methu â gwneud hynny cyn i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi.

30. Nid yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad cyflawni contract mewn perthynas ag achosion o dorri contract neu fethu â chyflawni o dan adran 71 o'r Ddeddf yn gymwys i gontractau cyfleustodau preifat na chontractau cyffyrddiad ysgafn.

31. Mae'n bwysig nodi bod torri contract neu berfformiad gwael yn ymwneud â'r contract cyfan, nid dim ond y dangosyddion perfformiad allweddol a all fod wedi'u cynnwys yn yr hysbysiad manylion contract neu'r hysbysiad cyflawni contract diweddaraf.

32. Nid yw'r seiliau torri contract a methu â chyflawni sy'n arwain at rwymedigaethau hysbysiad cyflawni contract yn adrannau 71(3) a 71(4) o'r Ddeddf yn annibynnol ar ei gilydd. Er enghraifft, gall fod digwyddiad sy'n gyfystyr â methu â chyflawni (o dan adran 71(4))) a thorri contract (o dan adran 71(3)) lle bydd yr awdurdod contractio yn penderfynu terfynu'r contract yn rhannol. Gellir rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn yn yr un hysbysiad cyflawni contract, yn dibynnu ar y cyfnod o amser sydd rhwng y naill ddigwyddiad a'r llall (gweler amseriad cyhoeddi isod).

Gofynion o ran gwybodaeth

33. Lle bu achos o dorri contract neu fethu â chyflawni o dan gontract cyhoeddus, rhaid i'r hysbysiad gynnwys y wybodaeth a nodir yn y rheoliad 40(7). Yn y naill achos a'r llall, mae hyn yn cynnwys:

  1.  gwybodaeth am yr awdurdod contractio
  2. teitl y caffaeliad
  3. y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad a'r contract cyhoeddus
  4. gwybodaeth am y cyflenwr
  5. bod adran 71(5) o'r Ddeddf yn gymwys a'r amgylchiadau a arweiniodd at gymhwyso'r adran honno
  6. datganiad yn nodi pam y mae'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi, a
  7. yr wybodaeth ychwanegol a nodir yn rheoliad 40(7)(g-m) mewn perthynas â'r achos o dorri contract neu fethu â chyflawni (er enghraifft gwaith adfer neu gynlluniau gwella, hysbysiadau rhybudd neu dorri contract).

34. Os bydd cyflenwr wedi torri contract cyhoeddus, rhaid i'r hysbysiad cyflawni contract hefyd nodi'r canlynol:

  1. p'un a arweiniodd yr achos o dorri contract at derfynu'r contract yn rhannol ac i ba raddau y mae'r contract wedi cael ei derfynu
  2. p'un a arweiniodd yr achos o dorri contract at ddyfarnu iawndal neu gytundeb setlo ynghyd â'r dyddiadau cysylltiedig
  3. os bydd iawndal wedi'i ddyfarnu neu unrhyw arian arall wedi'i dalu, swm yr iawndal neu unrhyw arian arall a dalwyd ac ar ba sail (er enghraifft, yn unol â'r contract cyhoeddus, penderfyniad llys neu dribiwnlys, neu setliad a negodwyd)
  4. os bydd penderfyniad a gofnodwyd o ddyfarniad llys neu dribiwnlys fod contract wedi'i dorri, dolen i'r dudalen we lle y gellir gweld y penderfyniad, neu gopi o'r penderfyniad (y gellir ei atodi i'r hysbysiad).

Amseriad cyhoeddi

35. Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad cyflawni contract hwn o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod y mae adran 71(5) o'r Ddeddf yn gymwys yn gyntaf mewn perthynas ag achos penodol o dorri contract neu fethu â chyflawni. Mae hyn yn golygu bod y cloc yn dechrau o'r adeg:

  1. lle bo achos o dorri contract, pan fydd un o'r canlynol yn digwydd:
    1. caiff y contract ei derfynu'n rhannol (lle y caiff y contract ei derfynu'n llawn, mae adran 80 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad terfynu contract gael ei gyhoeddi o fewn yr un cyfnod)
    2. caiff iawndal ei ddyfarnu
    3. daw'r awdurdod contractio a'r cyflenwr i gytundeb setlo, neu
  2. yn achos perfformiad gwael, pan fydd y cyflenwr yn methu â gwella ei berfformiad.

36. Mewn achos o dorri contract, gallai'r gofynion o ran amseriad yn adran 71 o'r Ddeddf olygu, er enghraifft, bod yn rhaid cyhoeddi'r hysbysiad cyflawni contract cyn dyfarnu iawndal neu ddod i gytundeb setlo os cafodd rhan o'r contract ei derfynu cyn i'r dyfarniad gael ei wneud neu cyn i'r awdurdod contractio a'r cyflenwr ddod i gytundeb setlo. Yn yr achos hwn, bydd yr wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad cyflawni contract yn gyfyngedig i'r hyn sydd ar gael ar adeg ei gyhoeddi. Nid oes unrhyw ofyniad o dan y Ddeddf i'r awdurdod contractio ddiweddaru'r hysbysiad â gwybodaeth ychwanegol pan fydd ar gael, ond gall yr awdurdod contractio ddewis gwneud hynny (a byddai'n arfer dda).

37. Yn achos perfformiad gwael, efallai mai mater i'r awdurdod contract fydd penderfynu pryd y daw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad cyflawni contract yn gymwys, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Bydd y cloc yn dechrau pan fydd yr awdurdod contractio yn penderfynu bod y cyflenwr wedi methu â chyflawni mewn ffordd sy'n bodloni'r awdurdod contractio ar ôl cael cyfle priodol i wella ei berfformiad. Bydd angen i'r awdurdod contractio bennu'r union ddyddiad y bydd hynny'n digwydd, gan ystyried y darpariaethau contractiol penodol sy'n gymwys. Er enghraifft, efallai mai'r dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad i'r cyflenwr i'r perwyl ei fod wedi methu â gwella ei berfformiad ar ôl cyfnod penodol o amser a/neu wedi methu â rhoi cynllun unioni y cytunwyd arno ar waith fydd hynny.

Cadw gwybodaeth yn ôl o dan Adran 94 o'r Ddeddf

38. Gallai cyflenwr ofyn am i wybodaeth gael ei chadw'n ôl rhag cael ei chyhoeddi o dan adran 94 o'r Ddeddf ar y sail ei bod yn ‘wybodaeth fasnachol sensitif’, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o fygwth buddiannau masnachol unrhyw berson pe bai'n cael ei chyhoeddi neu ei datgelu fel arall. Mater i'r awdurdod contractio fydd penderfynu a ellir cyfiawnhau hyn ac mae adran 94(1) yn darparu bod angen cynnal prawf budd cyhoeddus wrth ystyried a ddylid cadw gwybodaeth yn ôl.

39. Un o'r rhesymau dros gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 71(5) o'r Ddeddf am achos o dorri contract neu berfformiad gwael yw er mwyn darparu cofnod cyhoeddus o ba gyflenwyr sy'n ddarostyngedig i'r sail ddisgresiynol dros wahardd a nodir yn Adran 7, paragraff 12(4) o'r Ddeddf (h.y. cyhoeddi hysbysiad yn ymwneud ag achos o dorri contract neu berfformiad gwael). Mae bodolaeth yr hysbysiad yn golygu y bydd y cyflenwr (os bydd yr hysbysiad o fewn y cyfnod perthnasol o amser) yn waharddadwy o dan gaffaeliad sy'n cael ei gyflawni gan awdurdod contractio arall os bydd yr amgylchiadau a arweiniodd at y sail dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto (gweler y canllawiau ar waharddiadau).

40. Er y gallai'r cyflenwr ystyried bod rhai o'r gofynion o ran gwybodaeth yn rheoliad 40 (yn arbennig y gofyniad yn rheoliad 40(7)(k) i esbonio natur yr achos o dorri contract neu fethu â chyflawni) yn wybodaeth fasnachol sensitif, er mwyn iddi gael ei chadw'n ôl o dan adran 94(1)(b) o'r Ddeddf, mae'n rhaid bod budd cyhoeddus tra phwysig dros wneud hynny. Mae trothwy uchel ar gyfer cadw'r cyfryw wybodaeth yn ôl gan ei bod er budd cyhoeddus ei chyhoeddi fel arfer.

41. O ran sensitifrwydd manylion unrhyw iawndal a ddyfarnwyd, os cafodd yr iawndal hwnnw ei ddyfarnu yn unol â chontract cyhoeddus a gyhoeddwyd, yna ni fyddai fawr ddim cyfiawnhad dros gadw'r wybodaeth honno yn ôl. Yn yr un modd, os bydd penderfyniad wedi'i wneud gan lys neu dribiwnlys a bod yr wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd, ni fyddai unrhyw gyfiawnhad dros beidio â chynnwys y manylion (neu ddolen i'r penderfyniad neu gopi ohono) yn yr hysbysiad cyflawni contract.

42. Nid yw'n ofynnol cyhoeddi manylion cytundeb setlo o dan y Ddeddf na'r rheoliadau; mae'n ddigon nodi bod yr awdurdod contractio a'r cyflenwr wedi dod i gytundeb a, lle y bo'n berthnasol, cynnwys y swm o arian a dalwyd o dan y cytundeb.

43. Dylai awdurdodau contractio hefyd fod yn ymwybodol y gallai partïon â diddordeb wneud cais am wybodaeth na chaiff ei chyhoeddi yn yr hysbysiad cyflawni contract o hyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a lle na chaiff gwybodaeth ei chyhoeddi neu lle y caiff ei chadw'n ôl o dan adran 94 o'r Ddeddf, y gellid herio awdurdod contractio drwy adolygiad barnwrol.

Defnyddio'r hysbysiad cyflawni contract wrth ddileu cyflenwr o gontract aml-gyflenwr

44. Lle bo gan awdurdod contractio un contract â nifer o gyflenwyr, megis yn achos rhai fframweithiau, gall yr awdurdod contractio benderfynu dileu cyflenwr o'r contract, er enghraifft, am ei fod wedi dod yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy ar ôl i'r contract gael ei ddyfarnu, ond gan barhau â'r contract hwnnw o hyd. Mewn achosion o'r fath, anogir awdurdodau contractio i gyhoeddi hysbysiad cyflawni contract (lle nad yw eisoes yn ofynnol gan y Ddeddf) er mwyn rhoi tryloywder am ba gyflenwyr all gyflawni'r contract neu, lle y bo'n berthnasol, y gellir dyfarnu contract yn ôl y gofyn iddynt o dan y fframwaith. Os caiff hysbysiad cyflawni contract ei gyhoeddi'n wirfoddol at y diben hwn, dylai'r hysbysiad cyflawni contract nodi'n glir nad yw'r hysbysiad yn cael ei gyhoeddi o dan adran 71(5) o'r Ddeddf, h.y. nad yw'r cyflenwr wedi torri'r contract, oni bai bod adran 71(5) yn gymwys o dan yr amgylchiadau mewn gwirionedd.

45. At hynny, er mwyn deall pa gyflenwyr sy'n barti i fframweithiau penodol a sefydlwyd gan awdurdodau contractio eraill, ac sydd felly'n gymwys i gael contract yn ôl y gofyn o dan y fframwaith, gall awdurdodau contractio wneud y canlynol:

  1. cadarnhau gyda gweinyddwr y fframwaith a oes unrhyw gyflenwyr wedi'u dileu o'r fframwaith o dan adran 78 o'r Ddeddf (neu fel arall)
  2. gofyn i gyflenwyr ardystio eu bod yn barti i'r fframwaith o hyd.

Pa hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r agwedd hon ar y Ddeddf?

46. Cyn cyhoeddi'r hysbysiad cyflawni contract, gellir cyhoeddi unrhyw rai o'r hysbysiadau canlynol:

  1. hysbysiad manylion contract: caiff hwn bob amser ei gyhoeddi cyn yr hysbysiad cyflawni contract cyntaf a, lle bo adran 52(1) o'r Ddeddf yn gymwys, bydd yn cynnwys o leiaf dri dangosydd perfformiad allweddol
  2. hysbysiad cyflawni contract: gan y gall fod angen cyhoeddi nifer o hysbysiadau cyflawni contract dros oes contract, gall un hysbysiad ddilyn un arall
  3. hysbysiad newid contract: gall contract fod wedi'i addasu mewn ffordd sy'n golygu bod yn rhaid cyhoeddi hysbysiad newid contract o dan adran 75 o'r Ddeddf.

47. Efallai mai'r hysbysiad nesaf yn y dilyniant fydd:

  1. hysbysiad newid contract
  2. hysbysiad cyflawni contract
  3. hysbysiad terfynu contract: ar ddiwedd y contract, mae'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad terfynu contract. Os bydd achos o dorri contract yn arwain at derfynu'r contract yn llawn, defnyddir yr hysbysiad hwn i nodi'r wybodaeth yn ymwneud â'r achos o dorri contract yn lle'r hysbysiad cyflawni contract.

Pa ganllawiau eraill sy'n arbennig o berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllawiau ar ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Canllawiau ar gyhoeddi gwybodaeth
  • Canllawiau ar hysbysiadau manylion contract
  • Canllawiau ar waharddiadau