Canllawiau Deddf Caffael 2023: fframweithiau
Arweiniad technegol ar fframweithiau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw fframweithiau a fframweithiau agored?
1. Mae Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn diffinio fframwaith fel a ganlyn:
contract rhwng awdurdod contractio ac un neu fwy o gyflenwyr sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau gan awdurdod contractio i'r cyflenwr neu'r cyflenwyr yn y dyfodol
(adran 45(2)).
Mae hyn yn golygu bod fframwaith yn nodi o dan ba ddarpariaethau y caiff contractau yn y dyfodol ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a/neu waith eu dyfarnu. Mae'r Ddeddf yn diffinio fframwaith agored fel a ganlyn:
cynllun o fframweithiau sy'n darparu ar gyfer dyfarnu fframweithiau olynol ar yr un telerau fwy neu lai
(adran 49(1)).
2. Mae fframwaith sydd dros y trothwy ac nad yw wedi'i eithrio yn gontract cyhoeddus a chaiff ei ddyfarnu'n gyffredinol yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol (gweler paragraff 8 isod ar gyfer fframweithiau a ddyfernir yn uniongyrchol). Yn y canllawiau hyn, cyfeirir at gontractau a ddyfernir o dan fframwaith fel ‘contractau yn ôl y gofyn’ ac, oni nodir fel arall, mae contractau yn ôl y gofyn yn golygu contractau yn ôl y gofyn sy'n gontractau cyhoeddus. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd fframwaith yn gorfodi awdurdod contractio i ymrwymo i gontract yn ôl y gofyn, ond mae'n bosibl bod rhai yn gwneud hyn.
Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu fframweithiau?
3. Mae adrannau 45-49 o'r Ddeddf yn esbonio beth yw fframwaith ac yn nodi'r rheolau sy'n llywodraethu'r fframwaith ei hun a chontractau yn ôl y gofyn a gaiff eu dyfarnu oddi tano. Mae adrannau 45, 46 a 48 yn gymwys i bob fframwaith ar y cyfan; nid yw adran 47 yn gymwys i fframweithiau agored, fframweithiau a ddyfernir gan gyfleustodau preifat a ‘fframweithiau cyffyrddiad ysgafn’ (gweler paragraffau 68-70 ar gyfer fframweithiau cyffyrddiad ysgafn); a dim ond i fframweithiau agored y mae adran 49 yn gymwys
Beth sydd wedi newid?
4. Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at 'fframweithiau' yn hytrach na 'chytundebau fframwaith', fel yn y ddeddfwriaeth flaenorol, ond, fel arall, maent yn debyg ar y cyfan. Mae hefyd yn cynnwys fframweithiau agored, nad oeddent yn bodoli o'r blaen, ac sy'n fwy hyblyg na chytundebau fframwaith o dan y ddeddfwriaeth flaenorol.
5. Mae'r Ddeddf yn darparu y gall ‘amodau cymryd rhan’ gael eu cymhwyso fel rhan o'r broses o ddyfarnu contract yn ôl y gofyn ac mae'n ymhlygu teler ym mhob fframwaith sy'n datgan bod hawl gan awdurdod contractio i wahardd cyflenwr sy'n dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy rhag cymryd rhan mewn unrhyw broses ddethol (sy'n cynnwys unrhyw broses ddethol i ddyfarnu heb gystadleuaeth bellach) ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn.
6. Yn wahanol i'r gofynion o dan y ddeddfwriaeth flaenorol, mae'n rhaid i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract ar ôl dyfarnu contract yn ôl y gofyn a hysbysiad manylion contract ar ôl ymrwymo i'r contract.
Pwyntiau allweddol a bwriad polisi
Dyfarnu fframweithiau
7. Mae fframweithiau sy'n gontractau cyhoeddus fwyaf tebygol o gael eu dyfarnu yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol.
8. Caniateir i awdurdodau contractio ddyfarnu fframwaith yn uniongyrchol o dan adrannau 41 neu 43 o'r Ddeddf, ar yr amod nad yw'r fframwaith yn fframwaith agored (adran 49(10) o'r Ddeddf).
9. Gan fod fframweithiau'n cael eu dyfarnu naill ai'n dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol neu, lle y caniateir hynny, yn uniongyrchol, mae'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud â gweithdrefnau tendro cystadleuol a dyfarniadau uniongyrchol yn berthnasol i ddyfarnu fframwaith yn gyffredinol, er enghraifft, y gofyniad i gyhoeddi hysbysiad tendro neu hysbysiad tryloywder sy'n ymwneud â'r fframwaith a darpariaethau ar gyflenwyr gwaharddedig a gwaharddadwy.
Fframweithiau trydydd parti ac awdurdodau caffael canoledig
10. Dim ond o dan fframwaith a sefydlwyd gan awdurdod contractio y gall awdurdodau contractio ddyfarnu contractau yn ôl y gofyn. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd awdurdod lleol yn dymuno defnyddio fframwaith a sefydlwyd gan drydydd parti, mae'n rhaid i'r fframwaith hwnnw fod wedi cael ei sefydlu gan awdurdod contractio arall, megis awdurdod caffael canoledig neu awdurdod lleol arall. Mater i'r awdurdod contractio yw sicrhau bod y fframwaith a ddefnyddir ganddo i ddyfarnu contract yn ôl y gofyn wedi cael ei sefydlu gan awdurdod contractio.
11. Awdurdod contractio sy'n ymgymryd â phrosesau caffael er budd awdurdodau contractio eraill yw awdurdod caffael canoledig (adran 1(4) o'r Ddeddf). Gall awdurdodau contractio ddirprwyo eu rhwymedigaeth i gynnal prosesau caffael i awdurdod caffael canoledig yn rhannol neu'n gyfan gwbl, gan gynnwys lle mae awdurdod caffael canoledig yn sefydlu fframwaith i'w ddefnyddio gan un awdurdod contractio arall neu fwy. Mae hyn yn golygu bod yr awdurdod caffael canoledig yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Ddeddf wrth sefydlu'r fframwaith. Yna bydd yn ofynnol i unrhyw awdurdod contractio sy'n penderfynu defnyddio'r fframwaith i gaffael contract yn ôl y gofyn gydymffurfio â'r Ddeddf (mewn perthynas â'r contract yn ôl y gofyn hwnnw).
12. Er enghraifft, gallai grŵp o awdurdodau contractio sy'n awdurdodau lleol greu cyfrwng at ddibenion arbennig ar y cyd at ddiben cynnal prosesau caffael ar gyfer yr awdurdodau a sefydlodd y cyfrwng at ddibenion arbennig a chyrff cyhoeddus eraill yn unig. Gan mai nod y cyfrwng at ddibenion arbennig yw cynnal prosesau caffael ar gyfer aelodau'r awdurdod contractio ac awdurdodau contractio eraill, bydd yn awdurdod caffael canoledig. Enghraifft arall o awdurdod caffael canoledig yw sefydliad fel Gwasanaethau Masnachol y Goron sy'n ymwneud â dyfarnu fframweithiau mawr i'w defnyddio gan ystod eang o awdurdodau cyhoeddus.
13. Mae'n rhaid i awdurdod contractio sy'n penderfynu caffael contract yn ôl y gofyn o dan fframwaith fodloni ei hun bod y fframwaith wedi cael ei sefydlu yn unol â'r Ddeddf. Yna mae'n rhaid i'r awdurdod contractio gynnal ei broses gaffael o dan y fframwaith yn unol â'r fframwaith a'r Ddeddf.
14. Nid yw'r Ddeddf yn rheoleiddio endidau nad ydynt yn awdurdod contractio (er enghraifft, cwmnïau preifat), felly lle caiff fframwaith ei sefydlu gan endid nad yw'n awdurdod contractio (Fframwaith Trydydd Parti), rhaid i'r endid hwnnw fod yn gweithredu fel asiant awdurdod (neu awdurdodau) contractio a enwir. Dylai awdurdodau contractio sy'n dymuno defnyddio Fframwaith Trydydd Parti i gaffael contract yn ôl y gofyn ymgymryd â'u gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy eu hunain i fodloni eu hunain bod y fframwaith wedi cael ei gaffael yn unol â'r Ddeddf drwy, er enghraifft, gadarnhau gyda'r awdurdod (neu awdurdodau) contractio a enwir yn y lle cyntaf, ac adolygu'r ddogfennaeth sydd ar gael am y fframwaith (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, yr hysbysiadau perthnasol megis yr hysbysiad piblinell neu'r hysbysiad tendro, dogfennaeth dendro ac ati).
15. Ar gyfer Fframweithiau Trydydd Parti, yr awdurdod (neu awdurdodau) contractio a enwir fydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am gydymffurfio â'r Ddeddf mewn perthynas â sefydlu'r fframwaith, yn hytrach na'r endid nad yw'n awdurdod contractio sy'n gweithredu fel asiant.
Prisio
16. Mae'n rhaid i werth amcangyfrifedig fframwaith gael ei gynnwys yn yr hysbysiad tendro a'r fframwaith ac ni ddylid mynd y tu hwnt i'r gwerth hwn (ond gweler paragraff 18 isod). Wrth amcangyfrif gwerth contract fframwaith, mae Atodlen 3, paragraff 2(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod contractio amcangyfrif gwerth y contractau yn ôl y gofyn sydd i'w dyfarnu o dan y fframwaith.
17. Os caiff fframwaith ei rannu'n lotiau, mae rheoliad 19(2) o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gynnwys gwerthoedd amcangyfrifedig ar gyfer pob lot yn yr hysbysiad tendro, os yw'r rhain yn hysbys. Efallai yr hoffai'r awdurdod contractio hefyd gynnwys gwerthoedd amcangyfrifedig ar gyfer pob lot yn y fframwaith ei hun, er nad yw hyn yn ofynnol. Lle caiff y rhain eu cynnwys yn yr hysbysiad tendro neu'r fframwaith, ni ellir mynd y tu hwnt i amcangyfrifon y lotiau unigol, ond gellir caniatáu i'r gwerthoedd sydd mewn fframwaith gael eu diwygio o dan adran 74 (Addasu contract cyhoeddus) o'r Ddeddf.
18. Os bydd sefyllfa'n codi lle ei bod hi'n debygol yr eir y tu hwnt i werth amcangyfrifedig y fframwaith neu, os yw'n berthnasol, lot unigol, efallai yr hoffai'r awdurdod contractio ystyried a yw'n bosibl addasu'r fframwaith er mwyn diwygio'r gwerth amcangyfrifedig o dan adran 74 o'r Ddeddf.
Ffioedd (adran 45(7))
19. Mae adran 45 yn darparu y gellir codi ffioedd mewn perthynas â fframwaith ond dim ond ar gyflenwyr y dyfarnwyd contract yn ôl y gofyn iddynt y gellir eu codi ac mae'n rhaid iddynt gael eu pennu fel canran sefydlog o werth amcangyfrifedig y contract yn ôl y gofyn a ddyfarnwyd i'r cyflenwr. Mae'r cyfeiriad at bennu ffioedd fel canran ‘sefydlog’ yn golygu na all y ffioedd newid yn ystod oes y fframwaith.
20. Ni chaniateir codi tâl ar gyflenwyr er mwyn cael mynediad at fframwaith nac unrhyw ffioedd eraill sy'n gysylltiedig â rheoli'r fframwaith.
21. Gellir ond codi ffioedd os caiff y manylion eu nodi yn y fframwaith (adran 45(7)) a'r hysbysiad tendro neu'r hysbysiad tryloywder (rheoliadau 21(2)(k) a 27(2)(w) o'r Rheoliadau).
Cyfnod hwyaf fframwaith
22. Ac eithrio mewn perthynas â fframweithiau agored (gweler paragraffau 35 a 44 isod), y cyfnod hwyaf ar gyfer fframwaith amddiffyn a diogelwch neu fframwaith cyfleustodau yw wyth mlynedd fel rheol, a phedair blynedd ar gyfer pob fframwaith arall (adran 47(1) o'r Ddeddf).
23. Nid yw'r cyfnod hwyaf yn berthnasol os bydd yr awdurdod contractio o'r farn bod natur y nwyddau neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu'r gweithiau sydd i'w cyflawni o dan y contractau yn ôl y gofyn a ddyfernir o dan y fframwaith yn golygu bod angen cyfnod hwy (adran 47(2) o'r Ddeddf).
24. Un enghraifft lle gall fod angen cyfnod hwy na'r cyfnod hwyaf a nodir yn adran 47(1) yw prosiectau adeiladu neu seilwaith mawr lle caiff amrywiaeth o gontractau yn ôl y gofyn eu dyfarnu o dan fframwaith drwy gydol oes datblygiad. Mae'n bosibl y bydd angen dyfarnu contractau, er enghraifft, ar gyfer gwasanaethau proffesiynol cychwynnol, megis dylunio, yn ogystal ag ar gyfer agweddau amrywiol ar y gwaith adeiladu/datblygu a allai gael ei gwblhau fesul cam, hyd at y cam cwblhau.
25. Enghraifft arall yw pe bai'r fframwaith yn gofyn am fuddsoddiad ymlaen llaw gan gyflenwr er mwyn cyflawni'r contractau yn ôl y gofyn, er enghraifft i ddatblygu system TG, a byddai'r enillion ar y buddsoddiad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol i gontractau yn ôl y gofyn gael eu dyfarnu dros gyfnod hwy na'r cyfnod hwyaf.
26. Mae'n bosibl hefyd y gall fod angen i fframwaith bara yn hirach na'r cyfnod hwyaf a ganiateir pe bai'r cylch cyllido ar gyfer y prosiect (h.y. gallu'r awdurdod contractio i dalu am y prosiect) yn rhagori ar y cyfnod hwyaf (gan dybio bod y gwaith o ddatblygu'r prosiect a ddarperir o dan y fframwaith ynghlwm wrth y cylch cyllido).
27. Os bydd fframwaith yn hirach na'r cyfnod hwyaf, mae'n rhaid i'r awdurdod contractio gyhoeddi'r rhesymeg dros y cyfnod hwy yn yr hysbysiad tendro neu'r hysbysiad tryloywder ar gyfer y fframwaith (adran 47(3) o'r Ddeddf).
28. Nid yw'r cyfnodau hwyaf a nodir yn adran 47(1) yn gymwys i fframwaith a ddyfernir o dan fframwaith agored, fframwaith a ddyfernir gan gyfleustod preifat na fframwaith cyffyrddiad ysgafn (adran 47(5) o'r Ddeddf).
29. Gall contractau yn ôl y gofyn estyn y tu hwnt i gyfnod y fframwaith.
Diwygio'r cyfnod hwyaf
30. Ar ôl i'r fframwaith gael ei ddyfarnu, gallai fod yn bosibl, gan ddibynnu ar adran 74 o'r Ddeddf, estyn cyfnod fframwaith, fel gydag unrhyw gontract cyhoeddus arall. Fodd bynnag, os bydd awdurdod contractio yn diwygio'r cyfnod sy'n golygu bod y cyfnod yn mynd y tu hwnt i'r cyfnod hwyaf o bedair blynedd/wyth mlynedd, bydd adran 47(2) yn gymwys o hyd a bydd yn rhaid cyfiawnhau'r estyniad o dan adran 47(3). Argymhellir bod y cyfiawnhad hwn yn cael ei nodi yn yr hysbysiad newid contract.
Fframweithiau agored
31. Mae adran 49(1) o'r Ddeddf yn darparu mai cynllun o fframweithiau olynol a ddyfernir ar yr un telerau fwy neu lai yw fframwaith agored. Effaith adran 49(9) yw bod 'yr un telerau fwy neu lai' yn golygu nad oes modd gwneud unrhyw ddiwygiadau sylweddol i'r hysbysiad tendro na'r hysbysiad tryloywder ar gyfer y fframweithiau olynol yn y cynllun. Mae hyn yn cynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer dyfarnu'r fframwaith. Mae adran 49(9) yn cyfeirio at adran 31 o'r Ddeddf (Addasu caffaeliad adran 19) wrth ystyried a yw'r telerau fwy neu lai yr un peth ac mae'n golygu bod yn rhaid i'r hysbysiad tendro neu'r hysbysiad tryloywder olynol ganiatáu i'r un cyflenwyr gyflwyno ceisiadau neu dendrau fel y gwnaeth yr hysbysiad tendro neu'r hysbysiad tryloywder gwreiddiol.
32. Er bod fframweithiau agored yn wahanol i fframweithiau safonol, yn gyffredinol, mae'r rheolau ar gyfer fframweithiau safonol yr un mor gymwys i fframweithiau agored, ond mae rhai gwahaniaethau:
- mae adrannau 45, 46 a 48 yn gymwys i bob fframwaith
- mae adran 47 yn gymwys i fframweithiau nad ydynt yn fframweithiau agored yn unig (ond nid yw'n gymwys i fframweithiau a gaiff eu dyfarnu gan gyfleustodau preifat a fframweithiau cyffyrddiad ysgafn)
- dim ond i fframweithiau agored y mae adran 49 yn gymwys.
33. Yn wahanol i fframwaith safonol, gyda fframwaith agored, gellir ychwanegu cyflenwyr newydd pan gaiff y fframwaith ei ailagor (gweler paragraffau 40-43 isod).
34. Bydd fframweithiau agored yn arbennig o fuddiol, er enghraifft, mewn marchnadoedd lle mae nifer mawr o gyflenwyr, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle caiff rhai cyflenwyr eu hatal rhag cymryd rhan am gyfnodau hir (a all ddigwydd gyda fframweithiau safonol), neu mewn marchnadoedd sy'n ehangu lle disgwylir newydd-ddyfodiaid.
35. Ac eithrio lle mai dim ond un cyflenwr sydd ar y fframwaith agored (gweler paragraff 44 isod), mae'n rhaid i fframwaith agored ddarparu i'r fframwaith gael ei ailagor o leiaf unwaith yn ystod tair blynedd gyntaf ei oes ac o leiaf unwaith bob pum mlynedd ar ôl hynny. Y cyfnod hwyaf ar gyfer fframwaith agored yw wyth mlynedd i gyd (gweler adran 49(2) o'r Ddeddf). Mae hyn yn golygu y gall y fframwaith cyntaf (“fframwaith 1”) bara uchafswm o dair blynedd, ond os caiff y fframwaith agored ei ailagor (h.y. ei aildendro) unwaith yn unig, yna dim ond am hyd at bum mlynedd y gall y fframwaith dilynol (“fframwaith 2”) bara (er mwyn osgoi mynd y tu hwnt i gyfnod wyth mlynedd y fframwaith agored). Mae'r ddelwedd isod yn dangos enghraifft o'r broses hon:

36. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi mai dyma'r nifer lleiaf o weithiau y gellir agor fframwaith agored. Gallai fframwaith agored, er enghraifft, gael ei ailagor bob blwyddyn am yr wyth mlynedd gyfan. Mae'r ddelwedd isod yn dangos enghraifft o'r broses hon:

37. Mae'n rhaid i gyfnod pob fframwaith yn y cynllun gael ei nodi ym mhob fframwaith (adran 45(5)(e) o'r Ddeddf). Er nad yw ymhlith gofynion penodol y Ddeddf na'r rheoliadau, argymhellir bod y fframwaith agored yn nodi cyfnod dangosol pob fframwaith yn y cynllun (h.y. pryd y disgwylir i'r fframwaith gael ei ailagor); diben hyn yw sicrhau tryloywder a galluogi cyflenwyr i ddeall sut y bydd y fframwaith agored yn gweithredu ond, ar yr un pryd, mae'n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd. Gallai awdurdodau contractio hefyd gynnwys opsiynau i estyn un neu fwy o'r fframweithiau o fewn y cynllun os bydd angen, a fyddai'n cynnig rhagor o hyblygrwydd.
38. Er enghraifft, gallai awdurdod contractio nodi ei fod yn bwriadu ailagor fframwaith agored ar ddiwedd blwyddyn dau ac ar ddiwedd blwyddyn chwech, ond y bydd y ddau fframwaith yn cynnwys opsiwn i estyn pob fframwaith am flwyddyn. Ni fyddai'n bosibl i'r awdurdod contractio estyn y fframwaith cyntaf y tu hwnt i ddiwedd blwyddyn tri oherwydd y gofyniad yn adran 49(2)(a)(i) i'r fframwaith gael ei agor o fewn y tair blynedd gyntaf. Byddai hyn yn golygu y byddai'r fframwaith cyntaf am gyfnod o ddwy flynedd, gydag opsiwn i estyn i dair blynedd, a byddai'r ail fframwaith am gyfnod o bedair blynedd, gydag opsiwn i estyn i bum mlynedd. Gallai'r awdurdod contractio benderfynu ar y pryd i beidio ag agor y fframwaith cyntaf ar ddiwedd blwyddyn dau, ar yr amod ei fod yn gwneud hynny ar ddiwedd blwyddyn tri. Os na chaiff yr opsiwn ei arfer ar gyfer y fframwaith cyntaf ac y caiff y fframwaith agored ei ailagor ar ddiwedd blwyddyn dau, gallai'r ail fframwaith yn y cynllun bara pedair neu bum mlynedd, gan ddibynnu ar b'un a benderfynodd yr awdurdod contractio arfer yr opsiwn i estyn yr ail fframwaith. Byddai'r fframwaith olaf yn y cynllun yn para am flwyddyn neu ddwy flynedd, gan ddibynnu ar b'un a wnaeth yr awdurdod arfer yr opsiwn yn yr ail fframwaith.
39. Yn unol ag adran 49(2)(b) o'r Ddeddf, mae'n rhaid i fframwaith agored ddarparu i un fframwaith ddod i ben pan gaiff y fframwaith nesaf yn y cynllun ei ddyfarnu, er bod adran 49(3) yn caniatáu i awdurdodau contractio wneud darpariaeth yn y fframwaith agored fel y gall unrhyw brosesau ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn o dan y fframwaith sydd wedi dod i ben sydd eisoes wedi dechrau barhau ar ôl i'r fframwaith hwnnw ddod i ben. Dylai awdurdodau contractio nodi'n glir yn y fframwaith agored os mai dyma fydd yr achos.
Dyfarnu fframweithiau i gyflenwyr ar ôl ailagor y fframwaith
40. Mae adran 49(4) ac adran 49(5) o'r Ddeddf yn nodi sut y gall awdurdodau contractio ddyfarnu contractau i ‘gyflenwyr presennol’. Mae adran 49(8) yn darparu bod cyflenwr presennol yn gyflenwr sy'n barti i fframwaith o dan fframwaith agored – mae'r cyfeiriad hwn at ‘fframwaith o dan fframwaith agored’ yn golygu'r fframwaith a oedd yn bodoli yn union cyn i'r fframwaith nesaf yn y cynllun gael ei ddyfarnu.
41. Mae adran 49(4) o'r Ddeddf yn darparu os na fydd fframwaith yn rhoi terfyn ar nifer y cyflenwyr a all fod yn barti i'r fframwaith, y gellir penodi cyflenwr presennol i'r fframwaith newydd yn seiliedig, yn unol â'i ddewis, ar un o'r canlynol:
- y ffaith y dyfarnwyd fframwaith yn y cynllun i'r cyflenwr yn flaenorol, h.y. nid oes gofyniad i'r cyflenwr gyflwyno tendr newydd os nad yw'n dymuno diweddaru ei gynnig. Er mwyn i'r opsiwn hwn fod ar gael, fel yr esbonnir ym mharagraff 40, mae'n rhaid i'r cyflenwr fod yn barti i'r fframwaith a oedd yn bodoli yn union cyn i'r fframwaith gael ei ddyfarnu. Os bydd y cyflenwr yn dewis yr opsiwn hwn, ni fydd yr awdurdod contractio yn ailasesu'r tendr cynharach a bydd y cyflenwr yn parhau ar y fframwaith agored
- ailasesu tendr sy'n ymwneud â dyfarniad cynharach, neu
- asesu tendr newydd sy'n ymwneud â'r fframwaith newydd.
42. Mae adran 49(5) o'r Ddeddf yn darparu os bydd y fframwaith yn cyfyngu nifer y cyflenwyr a all fod yn barti i'r fframwaith, y gellir penodi cyflenwr presennol i'r fframwaith newydd yn seiliedig, yn unol â'i ddewis, ar y naill neu'r llall o'r canlynol:
- ailasesu tendr sy'n ymwneud â dyfarniad cynharach, neu
- asesu tendr newydd sy'n ymwneud â'r fframwaith newydd.
43. Dylai'r awdurdod contractio nodi'r weithdrefn ar gyfer ailagor y fframwaith agored a dyfarnu fframweithiau olynol yn y dogfennau tendro cysylltiedig er mwyn i'r fframwaith newydd gael ei ddyfarnu fel rhan o'r cynllun. Dylai hyn gynnwys yr opsiynau sydd ar gael i gyflenwyr presennol a'r hyn sy'n ofynnol ganddynt os byddant yn dymuno cymryd rhan yn y broses o ddyfarnu'r fframwaith newydd. Er enghraifft, nodi ei bod yn ofynnol i gyflenwyr presennol ddatgan yn ffurfiol ar ba sail y maent yn dymuno cymryd rhan, er enghraifft yn seiliedig ar y ffaith bod fframwaith wedi cael ei ddyfarnu iddynt o dan y cynllun yn flaenorol (lle y bo'n berthnasol), p'un a ydynt yn dymuno i dendr sy'n ymwneud â dyfarniad cynharach gael ei asesu, neu b'un a ydynt wedi cyflwyno tendr newydd i'w asesu.
Fframweithiau agored un cyflenwr
44. Mae adran 49(6) o'r Ddeddf yn darparu os mai dim ond i un cyflenwr y dyfernir fframwaith, y bydd cyfnod hwyaf y fframwaith agored bedair blynedd o'r pwynt pan ddaw'r fframwaith agored yn fframwaith un cyflenwr, yn hytrach nag wyth mlynedd o'r dyddiad y caiff y fframwaith cyntaf ei ddyfarnu. Bydd hyn parhau i fod yn wir hyd yn oed os caiff fframwaith dilynol yn y cynllun ei ddyfarnu i fwy nag un cyflenwr.
45. Isod ceir dwy enghraifft i ddangos sut mae adran 49(6) yn gweithio mewn dwy senario wahanol:
- Enghraifft 1: Caiff gweithdrefn dendro gystadleuol ei chynnal er mwyn sefydlu fframwaith agored, sy'n arwain at ddyfarnu Fframwaith 1 i un cyflenwr. Felly, mae'r fframwaith agored cyffredinol yn gyfyngedig i bedair blynedd ar y mwyaf, o'r dyddiad y dyfarnwyd y fframwaith un cyflenwr (adran 49(6) o'r Ddeddf). Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r awdurdod contractio ailagor y fframwaith o leiaf unwaith yn ystod tair blynedd gyntaf Fframwaith 1 (adran 49(2)(a)(i) o'r Ddeddf). Caiff Fframwaith 1 ei ailagor ar ôl dwy flynedd a dechreuir gweithdrefn dendro gystadleuol newydd. O ganlyniad i'r broses gaffael hon, caiff Fframwaith 2 ei ddyfarnu i dri chyflenwr. Dim ond am ddwy flynedd y gall Fframwaith 2 a'r fframwaith agored cyffredinol bara er mwyn sicrhau nad yw'n mynd y tu hwnt i'r terfyn hwyaf, sef pedair blynedd.
- Enghraifft 2: Caiff Fframwaith 1 ei ddyfarnu i dri chyflenwr. Os caiff y fframwaith ei ailagor ar ddiwedd blwyddyn dau a chaiff y fframwaith (Fframwaith 2) ei ddyfarnu i un cyflenwr yn unig, dim ond am bedair blynedd y gall y fframwaith agored bara bellach o'r dyddiad y dyfernir Fframwaith 2. Byddai hyn yn golygu y gallai'r fframwaith agored bara cyfanswm o chwe blynedd (y ddwy flynedd gyntaf o dan Fframwaith 1, a phedair blynedd o dan Fframwaith 2). Os caiff y Fframwaith ei ailagor yn ddiweddarach, a bod y fframwaith (Fframwaith 3) yn cael ei ddyfarnu i ddau gyflenwr neu fwy, chwe blynedd fydd y cyfnod hwyaf o hyd (h.y. pedair blynedd o'r pwynt y dechreuir Fframwaith 2, sef y fframwaith un cyflenwr).
Dyfarnu contractau yn ôl y gofyn
46. Mae adran 45 o'r Ddeddf yn rhoi caniatâd penodol i awdurdodau contractio ddyfarnu contractau yn ôl y gofyn sy'n gontractau cyhoeddus o dan fframweithiau.
47. Gellir dyfarnu contractau yn ôl y gofyn gyda chystadleuaeth rhwng cyflenwyr ar y fframwaith neu hebddi. Defnyddir ‘proses ddethol gystadleuol’ pan fydd awdurdodau contractio yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn (adran 45(3) ac adran 46 o'r Ddeddf). Mae'n rhaid i'r broses ddethol ar gyfer dyfarnu contractau yn ôl y gofyn gael ei hamlinellu yn y fframwaith (adran 45(5)(d) o'r Ddeddf). Fodd bynnag, mae rhywfaint o hyblygrwydd oherwydd er bod yn rhaid amlinellu'r broses ddethol, nid yw'r Ddeddf yn nodi'n benodol faint o fanylder sydd ei angen a gall hyn fod ar lefel uchel neu mewn termau mwy manwl. Er enghraifft, gall awdurdod contractio ddarparu bod fframwaith yn caniatáu i awdurdodau contractio sy'n defnyddio'r fframwaith gynnwys amodau cymryd rhan (gweler paragraffau 54 - 58 isod) er mwyn asesu gallu technegol cyflenwyr i gyflawni'r contract fel rhan o'r broses ddethol gystadleuol ar gyfer contractau yn ôl y gofyn a gadael i'r awdurdod contractio bennu'r rhain, gan ystyried eu hamgylchiadau penodol eu hunain. Fel arall, gall yr awdurdod contractio nodi amodau cymryd rhan lefel uchel yn y fframwaith a chaniatáu i awdurdodau contractio sy'n defnyddio'r fframwaith ychwanegu rhagor o fanylion at y rhai sydd eisoes wedi'u nodi'n unig.
48. Mewn proses ddethol gystadleuol, mae'n rhaid i unrhyw asesiad o gynigion cyflenwyr fod yn seiliedig ar rai o'r meini prawf dyfarnu, neu bob un ohonynt, a ddefnyddiwyd i asesu tendrau pan ddyfarnwyd y fframwaith yn unig. Mae adran 46(9) o'r Ddeddf yn caniatáu i'r meini prawf hyn gael eu mireinio, er enghraifft, gellir cynnwys is-feini prawf ychwanegol neu esbonio'r meini prawf ymhellach.
49. Mae adran 45(3-4) o'r Ddeddf yn darparu oni bai mai dim ond un cyflenwr sydd ar y fframwaith, mai dim ond pan fydd y fframwaith yn nodi dull gwrthrychol o ddethol cyflenwr a thelerau craidd y contractau yn ôl y gofyn a gaiff eu dyfarnu y gall awdurdod contractio ddyfarnu contract heb gystadleuaeth. Ni ellir diwygio'r telerau craidd a nodir yn y fframwaith oni bai y cânt eu diwygio o dan adran 74 o'r Ddeddf a'u bod yn cynnwys, er enghraifft, pethau i'w cyflawni (h.y. y gofynion sylfaenol o ran yr hyn y mae'n rhaid i'r cyflenwr ei ddarparu o dan y contract yn ôl y gofyn, megis cydymffurfio â gofynion yr awdurdod, tendr y cyflenwr o dan y fframwaith, safonau, polisïau ac amseroldeb), gwarantiadau, dull prisio a thaliadau, cofnodion, indemniadau, darpariaethau terfynu, dull amrywio.
50. Gall dull gwrthrychol o ddethol cyflenwr fod ar ffurf, er enghraifft, system 'safle tacsis' lle caiff contractau yn ôl y gofyn eu dyfarnu ar sail cylchdro, neu system ‘sgôr uchaf’ gyda chyfyngiad ar nifer neu werth contractau yn ôl y gofyn a gaiff eu darparu i un cyflenwr. Unwaith y bydd y cyflenwr sy'n cyflwyno'r tendr â'r sgôr uchaf yn cyrraedd y cap, byddai'r contract yn ôl y gofyn nesaf yn cael ei ddyfarnu i'r cyflenwr a gyflwynodd y tendr â'r ail sgôr uchaf.
51. Mae adran 45(8) yn darparu na ellir defnyddio fframwaith i ddyfarnu:
- fframwaith arall, neu
- gontract consesiwn.
Beth i chwilio amdano wrth ddyfarnu contractau yn ôl y gofyn o dan fframwaith trydydd parti
52. Os bydd awdurdod contractio yn dymuno dyfarnu contract yn ôl y gofyn o dan fframwaith a sefydlwyd gan awdurdod contractio arall, rhaid iddo sicrhau bod y fframwaith yn addas ar gyfer y contract y mae'n bwriadu ei ddyfarnu. Yn benodol, dylai'r awdurdod contractio gadarnhau:
- bod y fframwaith wedi cael ei sefydlu gan awdurdod contractio (gweler paragraffau 10-15 uchod)
- fel y bo'n berthnasol, bod hysbysiad tendro neu hysbysiad tryloywder wedi cael ei gyhoeddi
- bod yr hysbysiad tendro neu'r hysbysiad tryloywder (lle y bo'n berthnasol) a'r fframwaith:
- yn nodi'n glir bod yr awdurdod contractio yn un o'r rhai a ganiateir i ddefnyddio'r fframwaith
- yn cynnwys nwyddau, gwasanaethau neu weithiau o fath a ddyfernir o dan y contract yn ôl y gofyn
- yn nodi'r materion eraill fel sy'n ofynnol gan adran 45(5) o'r Ddeddf a rheoliad 21 neu 27 o'r Rheoliadau (fel y bo'n berthnasol), megis y pris sy'n daladwy, neu'r dull o bennu'r pris sy'n daladwy o dan y contract yn ôl y gofyn ac unrhyw broses ddethol a ddefnyddir
- nad yw cyfanswm gwerth y contractau yn ôl y gofyn a ddyfarnwyd o dan y fframwaith hyd yn hyn yn fwy na gwerth amcangyfrifedig y fframwaith fel y nodwyd yn yr hysbysiad tendro a'r fframwaith.
53. Dylai awdurdodau contractio ddeall y sefyllfa o ran atebolrwydd ar gyfer y fframwaith, yn enwedig pan fydd fframwaith wedi cael ei sefydlu gan awdurdod contractio arall, neu pan fydd awdurdod contractio yn atebol fel prif arferydd am fframwaith trydydd parti fel y disgrifir ym mharagraff 15. Pan fydd yn dyfarnu contract yn ôl y gofyn, mae'n rhaid i'r awdurdod contractio gydymffurfio â'r broses ddethol a nodir yn y fframwaith, gan nodi'n benodol pan ganiateir iddo ddyfarnu contract heb ddilyn proses ddethol gystadleuol.
Amodau cymryd rhan
54. Fel y nodir uchod, mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio gynnwys amodau cymryd rhan fel rhan o broses ddethol gystadleuol ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn (adran 46(1) o'r Ddeddf).
55. Caiff amod cymryd rhan mewn proses ddethol gystadleuol ei ddiffinio fel amod y mae'n rhaid i gyflenwr ei fodloni er mwyn i gontract yn ôl y gofyn gael ei ddyfarnu iddo (adran 46(2) o'r Ddeddf) ac mae'n debyg i amod cymryd rhan mewn gweithdrefn dendro gystadleuol (gweler adran 22 o'r Ddeddf). Er enghraifft, mewn proses ddethol gystadleuol, mae'n rhaid i amodau cymryd rhan fod yn ffordd gymesur o sicrhau bod gan y cyflenwyr ar y fframwaith y capasiti cyfreithiol ac ariannol a'r gallu technegol i gyflawni'r contract sy'n destun y broses gaffael (adran 46(1)), rheolau ynghylch yr hyn a all fod yn ofynnol er mwyn dangos capasiti cyfreithiol ac ariannol (adran 46(3)) ac ystyr cymesur, sy'n debyg i'r rhai yn adran 22. Yn ogystal, mae'r diffiniad o ‘cymesur’ yn adran 46(5) yr un peth ag yn adran 22(5).
56. Nid yw unrhyw asesiad o amodau cymryd rhan a gaiff ei gynnwys fel rhan o broses ddethol gystadleuol o dan fframwaith yn ‘ailasesiad’ yn ôl y gyfraith o unrhyw amodau cymryd rhan a oedd yn berthnasol i ddyfarnu'r fframwaith. Fodd bynnag, gall amod cymryd rhan ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn gynnwys gofyniad sy'n nodi bod yn rhaid i'r amodau cymryd rhan ar gyfer dyfarnu'r fframwaith gael eu bodloni neu gall gynnwys rhai o'r un amodau cymryd rhan neu bob un ohonynt. Gall hefyd gynnwys amodau ychwanegol nad ydynt yn gymwys i ddyfarnu'r fframwaith, er enghraifft, gofynion pwrpasol o ran yswiriant sy'n berthnasol i'r contract yn ôl y gofyn penodol sydd i'w ddyfarnu.
57. Os bydd y broses ddethol gystadleuol yn cynnwys asesiad yn erbyn amodau cymryd rhan, rhaid nodi hyn yn y fframwaith (gweler adran 45(5)(d) o'r Ddeddf).
58. Nid yw'n ofynnol i awdurdod contractio wahardd cyflenwyr nad ydynt yn bodloni'r amodau cymryd rhan rhag cymryd rhan mewn proses ddethol gystadleuol neu symud ymlaen mewn proses o'r fath (adran 46(7)), ond mae adran 46(2) yn golygu bod yn rhaid i'r cyflenwr llwyddiannus fodloni'r amodau er mwyn gallu dyfarnu'r contract iddo. Mae hyn yn galluogi cyflenwyr i barhau i fod yn rhan o'r broses gan weithio tuag at fodloni'r amodau ar yr un pryd cyn y caiff y contract ei ddyfarnu. Gweler y canllawiau ar amodau cymryd rhan i gael rhagor o wybodaeth.
Dyfarniad uniongyrchol
59. Ni ellir defnyddio dyfarniad uniongyrchol o dan adrannau 41 (Dyfarniad uniongyrchol mewn achosion arbennig) neu 43 (Newid i ddyfarniad uniongyrchol) o'r Ddeddf i ddyfarnu contract yn ôl y gofyn o dan fframwaith ac mae'n ddiangen. Yn ymarferol, os caniateir dyfarniad uniongyrchol o dan y Ddeddf, gall yr awdurdod contractio ddyfarnu contract yn uniongyrchol i unrhyw gyflenwr, gan gynnwys cyflenwr ar fframwaith, y tu allan i'r broses ddethol ar gyfer y fframwaith.
Gwahardd cyflenwyr rhag cymryd rhan mewn proses ddethol o dan fframwaith
60. Mae adran 45(6) o'r Ddeddf yn darparu na all fframwaith ganiatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract yn ôl y gofyn i gyflenwr gwaharddedig nac atal awdurdod contractio rhag gofyn am wybodaeth ychwanegol gan gyflenwyr cyn dyfarnu contract yn ôl y gofyn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau contractio ystyried a yw cyflenwyr yn gyflenwyr gwaharddedig cyn dyfarnu contract yn ôl y gofyn, er y bydd hyn wedi cael ei ystyried pan ddyfarnwyd y fframwaith. Os cafodd y fframwaith ei sefydlu gan awdurdod contractio arall i'w ddefnyddio gan awdurdodau contractio eraill, dylai'r awdurdod contractio sy'n dyfarnu'r contract yn ôl y gofyn gadarnhau gyda'r awdurdod contractio sy'n gyfrifol am y fframwaith a yw'r cyflenwr wedi dod yn gyflenwr gwaharddedig ers i'r fframwaith gael ei ddyfarnu, er y dylai hefyd ystyried hyn ei hun a holi'r cyflenwr yn uniongyrchol yn ogystal ag edrych ar y rhestr rhagwaharddiadau (gweler y canllawiau ar waharddiadau a'r canllawiau ar ragwahardd).
61. Mae adran 48(1) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio wahardd cyflenwr rhag cymryd rhan mewn proses ddethol o dan fframwaith os yw'n gyflenwr gwaharddedig neu'n dod yn gyflenwr gwaharddadwy. Gwneir hyn drwy ymhlygu teler ym mhob fframwaith sy'n nodi y gall yr awdurdod contractio wahardd cyflenwr ar y sail hon.
62. Mae adran 78 o'r Ddeddf (Hawl ymhlyg i derfynu contractau cyhoeddus) yn darparu bod hawl ymhlyg ym mhob contract cyhoeddus, a fyddai'n cynnwys fframwaith sy'n gontract cyhoeddus, i derfynu'r contract ar seiliau penodol (gweler y canllawiau ar derfynu contract). Os bydd sail yn gymwys, a bod gan fframwaith gyflenwyr lluosog, gall yr awdurdod contractio sy'n barti i'r fframwaith derfynu'r fframwaith mewn perthynas â'r cyflenwr perthnasol yn unig, heb derfynu'r fframwaith ar gyfer pob cyflenwr. Yn y senario hon, dylai'r awdurdod contractio sy'n sefydlu'r fframwaith gyhoeddi hysbysiad (‘hysbysiad cyflawni contract’) o dan adran 78(2)(b) i ddatgan y caiff y fframwaith ei derfynu'n rhannol, a nodi yn yr hysbysiad fod y cyflenwr wedi cael ei dynnu o'r fframwaith er mwyn sicrhau bod yr holl awdurdodau contractio y mae hawl ganddynt i ddefnyddio'r fframwaith yn ymwybodol o'r sefyllfa. (Nid yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad terfynu contract o dan adran 80 yn y senario hon am nad yw'r contract wedi cael ei derfynu a'i fod yn parhau ar gyfer cyflenwyr eraill a'r awdurdod contractio).
Crynodebau asesu
63. Nid yw'n ofynnol darparu crynodebau asesu i gyflenwyr ar ôl dyfarnu contract yn ôl y gofyn. Fodd bynnag, anogir awdurdodau contractio i'w darparu fel enghraifft o arfer orau.
Fframweithiau a chontractau sydd o dan y trothwy
64. Byddai'n anarferol dyfarnu contract sydd o dan y trothwy sy'n fframwaith, ond nid yn amhosibl (‘fframwaith sydd o dan y trothwy’). Mae'r diffiniad o gontract sydd o dan y trothwy yn adran 5 o'r Ddeddf yn cydnabod hyn. Mae adran 45(2) o'r Ddeddf yn diffinio fframwaith fel contract rhwng awdurdod contractio ac un neu fwy o gyflenwyr sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau gan yr awdurdod contractio i'r cyflenwr neu'r cyflenwyr yn y dyfodol.
65. Mae fframwaith sydd o dan y trothwy yn un lle mae cyfanswm gwerth amcangyfrifedig contractau sydd i'w dyfarnu o dan y fframwaith yn llai na'r trothwy cymwys ar gyfer y math hwnnw o gontract (gweler Atodlen 3 am arweiniad ar sut i amcangyfrif gwerth fframwaith). Gall fod yn fwy tebygol y caiff fframweithiau sydd o dan y trothwy eu dyfarnu ar gyfer contractau gwaith lle mae'r trothwy yn llawer uwch ar gyfer nwyddau a gwasanaethau (ac, felly, mae gwerth amcangyfrifedig contractau sydd i'w dyfarnu o dan y fframwaith yn uwch). Os bydd yr awdurdod contractio o'r farn y gallai gwerth contractau fod yn fwy na'r trothwy, dylai ddyfarnu'r fframwaith fel pe bai'n fframwaith sydd dros y trothwy.
66. Gall awdurdod contractio ddewis dyfarnu contract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy o dan fframwaith nad yw'n fframwaith sydd o dan y trothwy. Gan fod y contract a ddyfernir o dan y fframwaith yn gontract sydd o dan y trothwy, mae hyn yn golygu:
- nad oes rhaid i awdurdodau contractio gyhoeddi unrhyw rai o'r hysbysiadau sy'n ofynnol ar gyfer contractau cyhoeddus a ddyfernir o dan fframweithiau ar gyfer y contract, er y gallant wneud hynny'n wirfoddol
- lle y bo'n berthnasol, bydd angen i awdurdodau contractio gydymffurfio â'r rheolau yn Rhan 6 o'r Ddeddf ar gontractau sydd o dan y trothwy (er enghraifft, mae adran 87(3) yn golygu bod hysbysiad manylion contract yn ofynnol os yw'r contract yn gontract hysbysadwy sydd o dan y trothwy).
Gweler y canllawiau ar gontractau sydd o dan y trothwy i gael rhagor o wybodaeth.
67. Os yw contract yn ôl y gofyn yn gontract cymysg, lle mae un elfen o'r contract neu fwy o dan y trothwy, mae'n rhaid dyfarnu'r contract yn ôl y gofyn yn unol â'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud â fframweithiau ac, yn gyffredinol, bydd yn ddarostyngedig i ofynion llawn y Ddeddf (h.y. nid dim ond y rheini sy'n berthnasol i gontractau sydd o dan y trothwy). Gweler y canllawiau ar gaffael cymysg i gael rhagor o wybodaeth.
Fframweithiau sy'n gontractau cyffyrddiad ysgafn
68. Mae adran 9(5) o'r Ddeddf yn darparu bod cyfeiriad yn y Ddeddf at gontract cyffyrddiad ysgafn yn cynnwys fframwaith sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau yn y dyfodol gan awdurdod contractio i gyflenwr neu gyflenwyr sydd naill ai ar gyfer gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn yn gyfan gwbl neu'n bennaf (cyfeirir ato yn y canllawiau hyn fel 'fframwaith cyffyrddiad ysgafn').
69. Ar y cyfan, mae fframweithiau cyffyrddiad ysgafn yn ddarostyngedig i'r un rheolau yn y Ddeddf sy'n gymwys i fframweithiau eraill. Er enghraifft, ni chaiff fframwaith cyffyrddiad ysgafn ganiatáu i gontract yn ôl y gofyn gael ei ddyfarnu i gyflenwr gwaharddedig (adran 45(6)(a)). Fodd bynnag, mae rhai eithriadau ar gyfer fframweithiau cyffyrddiad ysgafn (gweler adrannau 45(9), 46(11) a 47(5)) o'r Ddeddf.
70. Lle defnyddir fframwaith nad yw'n fframwaith cyffyrddiad ysgafn i ddyfarnu contract cyffyrddiad ysgafn, ni fydd unrhyw esemptiadau yn gymwys i ddyfarnu'r contract cyffyrddiad ysgafn a rhaid dilyn darpariaethau'r Ddeddf ar gyfer fframwaith safonol. Nid yw adrannau 45(9), 46(11) a 47(5) o'r Ddeddf yn gymwys.
Hysbysiadau sy'n berthnasol i fframweithiau
71. Bydd angen i awdurdodau contractio gydymffurfio â darpariaethau'r Ddeddf ar gyfer hysbysiadau safonol pan fyddant yn sefydlu ac yn rheoli fframwaith gyda'r eithriadau a nodir ym mharagraffau 72-76 isod.
Hysbysiad piblinell
72. Mae angen cyhoeddi hysbysiad piblinell os bydd awdurdod contractio o'r farn y bydd, yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, yn talu mwy na £100 miliwn o dan gontractau ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith heblaw contractau esempt (‘contractau perthnasol’). At ddibenion cyfrifo a fydd awdurdod contractio yn mynd dros y trothwy o £100 miliwn, rhaid i'r dull cyfrifo gynnwys yr holl daliadau a wneir o dan gontractau presennol a chontractau yn y dyfodol. Er bod fframwaith yn gontract, ni chaiff gwerth fframwaith ei hun ei ystyried. Mae hyn am na fydd taliadau yn cael eu gwneud o dan y fframwaith ei hun ond, yn hytrach, cânt eu gwneud o dan bob contract perthnasol a ddyfernir o dan y fframwaith. Pan fo'n ofynnol i awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad piblinell, nid oes gofyniad o dan y Ddeddf i gynnwys fframweithiau y bwriedir eu dyfarnu yn y dyfodol yn yr hysbysiad. Fodd bynnag, dylai awdurdod caffael canoledig sy'n bwriadu sefydlu fframwaith i'w ddefnyddio gan awdurdodau contractio eraill sy'n werth dros £2 filiwn gynnwys y fframwaith ar ei hysbysiad piblinell er mwyn rhoi gwybod i'r farchnad yn gynnar. Os bydd awdurdod contractio yn bwriadu sefydlu fframwaith, gall gynnwys y manylion yn ei hysbysiad piblinell er mwyn helpu i roi gwybod i gyflenwyr am y broses gaffael yn gynnar. Gall hefyd gyhoeddi Hysbysiad Caffael Arfaethedig.
Hysbysiad tendro
73. Gellir sefydlu fframweithiau o dan y weithdrefn agored a'r weithdrefn hyblyg gystadleuol. Mae hysbysiadau tendro ar gyfer fframweithiau yr un peth â'r rhai ar gyfer contractau eraill ar y cyfan, gyda rhywfaint o wybodaeth ychwanegol. Caiff yr wybodaeth ychwanegol hon ei nodi yn rheoliad 21(2) o'r Rheoliadau, sef (yn gryno):
- manylion y broses ddethol a gaiff ei chymhwyso i ddyfarnu contractau yn ôl y gofyn
- cyfnod (hyd) y fframwaith a'r rhesymau (lle y bo'n berthnasol) dros ddyfarnu fframwaith â chyfnod hwy na phedair neu wyth mlynedd yn unol ag adran 47(2) o'r Ddeddf
- nodi pob awdurdod contractio a all ddyfarnu contractau yn ôl y gofyn o dan y fframwaith yn ystod ei gyfnod. Gellir gwneud hyn naill ai drwy restru enwau'r awdurdodau hynny, neu drwy ddisgrifio categorïau o awdurdodau, er enghraifft 'yr holl awdurdodau llywodraeth ganolog fel y'u diffinnir yn Neddf Caffael 2023'
- p'un a yw'r awdurdod contractio yn bwriadu dyfarnu'r fframwaith i un cyflenwr, uchafswm o gyflenwyr (ac, yn yr achos hwn, beth yw'r uchafswm), neu nifer diderfyn o gyflenwyr
- p'un a yw'r fframwaith yn darparu ar gyfer codi ffioedd yn unol ag adran 45(7) o'r Ddeddf ac, os felly, y ganran sefydlog o werth amcangyfrifedig unrhyw gontract a ddyfernir i'r cyflenwr yn unol â'r fframwaith ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen er mwyn deall sut y caiff ffioedd eu codi
- p'un a yw'r fframwaith a gaiff ei sefydlu yn fframwaith agored ac, os felly, dyddiad gorffen amcangyfrifedig y fframwaith agored
- os caiff y fframwaith ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, y cod adnabod unigryw a ddefnyddiwyd i gaffael y fframwaith blaenorol yn y cynllun (gwneir hyn yn yr un ffordd â chysylltu â hysbysiad cynharach mewn proses gaffael, er enghraifft, drwy chwilio am yr hysbysiad yn systemau'r awdurdod contractio, ar y Platfform Digidol Cymreig (GwerthwchiGymru) neu ar y platfform digidol canolog).
Hysbysiad tryloywder
74. Caiff yr hysbysiad hwn ei ddefnyddio'n gyffredinol yn lle hysbysiad tendro os bydd awdurdod contractio yn bwriadu dyfarnu fframwaith yn uniongyrchol (nid yw'n berthnasol i fframweithiau agored gan na ellir eu dyfarnu'n uniongyrchol). Caiff yr wybodaeth ychwanegol y mae angen ei chynnwys mewn hysbysiad tryloywder er mwyn dyfarnu fframwaith ei nodi yn rheoliad 27(2)(w) o'r Rheoliadau, sef:
- cyfnod y fframwaith
- p'un a fydd y fframwaith yn caniatáu i ffioedd gael eu codi ar gyflenwr yn unol â'r fframwaith ac, os felly, manylion y ganran sefydlog a ddefnyddir i godi tâl ar y cyflenwr yn unol ag adran 45(7) o'r Ddeddf
- yr awdurdodau contractio sydd â hawl i ddyfarnu contractau yn unol â'r fframwaith (boed hynny drwy restru enwau'r awdurdodau hynny neu drwy ddisgrifio categorïau o awdurdodau).
Hysbysiad dyfarnu contract
75. Wrth sefydlu fframwaith, mae hysbysiad dyfarnu contract yn ofynnol ar gyfer fframweithiau sy'n gontractau cyhoeddus. Caiff y manylion y mae angen eu cynnwys mewn hysbysiad dyfarnu contract eu nodi yn rheoliad 29 o'r Rheoliadau. Mae angen crynodebau asesu pan gaiff fframwaith sy'n gontract cyhoeddus ei ddyfarnu hefyd (rheoliad 32 o'r Rheoliadau). Fodd bynnag, mae'r gofynion ynglŷn â gwybodaeth ar gyfer hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat ychydig yn wahanol i'r rhai sydd eu hangen ar gyfer awdurdodau contractio eraill (gweler rheoliad 31 o'r Rheoliadau). Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar hysbysiadau dyfarnu contract a chyfnodau segur a'r canllawiau ar grynodebau asesu.
Hysbysiad manylion contract
76. Mae'r hysbysiad hwn yn ofynnol ar ôl ymrwymo i'r fframwaith. Yn ogystal â llawer o'r wybodaeth y mae angen ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract ar gyfer gweithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol, mae'r wybodaeth ychwanegol ganlynol hefyd yn ofynnol, a nodir yn rheoliad 34 o'r Rheoliadau:
- yr awdurdodau contractio sydd â hawl i ddyfarnu contractau cyhoeddus yn unol â'r fframwaith (boed hynny drwy restru enwau'r awdurdodau hynny neu drwy ddisgrifio categorïau o awdurdodau)
- cyfnod y fframwaith (adran 47 o'r Ddeddf)
- p'un a gaiff y fframwaith ei ddyfarnu o dan fframwaith agored ac, os felly, dyddiad gorffen amcangyfrifedig y fframwaith agored
- p'un a ddyfarnwyd y fframwaith:
- yn dilyn gweithdrefn agored
- yn dilyn gweithdrefn hyblyg gystadleuol, neu
- yn uniongyrchol, yn unol ag adran 41 neu 43 o'r Ddeddf
- manylion am sut y caiff y fframweithiau olynol o dan fframwaith agored eu dyfarnu
- p'un a yw'r fframwaith yn darparu i ffioedd gael eu codi ar gyflenwr yn unol â'r fframwaith ac, os felly, manylion y ganran sefydlog a ddefnyddir i godi tâl ar y cyflenwr yn unol ag adran 45(7) o'r Ddeddf
- y pris sy'n daladwy, neu'r dull o bennu'r pris sy'n daladwy, o dan gontract cyhoeddus a ddyfernir yn unol â'r fframwaith
- manylion y broses ddethol a gaiff ei chymhwyso i ddyfarnu contract cyhoeddus yn unol â'r fframwaith
- lle caiff y fframwaith ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, y cod adnabod unigryw a ddefnyddiwyd wrth gaffael y fframwaith blaenorol yn y cynllun.
Hysbysiadau a gwybodaeth arall sy'n berthnasol i gontractau yn ôl y gofyn
77. Yn gyffredinol, bydd angen i awdurdodau contractio ddilyn darpariaethau'r Ddeddf ar gyfer hysbysiadau safonol pan fyddant yn dyfarnu contractau o dan fframwaith. Mae'r eithriadau canlynol yn gymwys i ddarpariaethau hysbysiadau ar gyfer contractau a ddyfernir o dan fframwaith.
Hysbysiad piblinell
78. Er nad yw'n un o ofynion y Ddeddf, anogir awdurdodau contractio i gynnwys contractau yn ôl y gofyn sy'n werth dros £2 filiwn yn eu hysbysiadau piblinell.
Hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad
79. Er nad yw'r darpariaethau ynghylch gweithgarwch ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad a hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn y Ddeddf yn gymwys wrth ddyfarnu contract yn ôl y gofyn, gall awdurdodau contractio, lle y bo'n berthnasol ac yn briodol, gynnal gweithgarwch ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad a chyhoeddi hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad cyn dyfarnu contract yn unol â fframwaith.
Hysbysiad tendro
80. Ni chaiff hysbysiadau tendro eu cyhoeddi ar gyfer contractau yn ôl y gofyn o dan fframweithiau.
Hysbysiad tryloywder
81. Nid yw hysbysiadau tryloywder yn berthnasol i gontractau yn ôl y gofyn.
Hysbysiad dyfarnu contract
82. Mae hysbysiadau dyfarnu contract yn ofynnol ar gyfer pob contract yn ôl y gofyn sy'n gontract cyhoeddus, heblaw am gontractau amddiffyn a diogelwch a ddyfernir o dan fframwaith amddiffyn a diogelwch a dyfarniad uniongyrchol: contractau dewis defnyddwyr a ddyfernir o dan Atodlen 5, paragraff 15. Mae'r gofynion ynglŷn â gwybodaeth ar gyfer hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat ychydig yn wahanol i'r rhai sydd eu hangen ar gyfer awdurdodau contractio eraill. Gweler y canllawiau ar hysbysiadau dyfarnu contract a chyfnodau segur am ragor o wybodaeth.
Crynodebau asesu
83. Nid yw proses ddethol gystadleuol ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn yn weithdrefn dendro gystadleuol ar gyfer dyfarnu contract o dan adran 19. Mae hyn yn golygu nad yw'r darpariaethau ar grynodebau asesu a chyfnod segur mandadol yn gymwys, er y gall awdurdod contractio ddewis darparu crynodebau asesu a rhoi cyfnod segur gwirfoddol ar waith.
84. Dylid nodi gan nad yw'r broses ddethol gystadleuol yn cynnwys asesu tendrau, (er y gall fod yn ofynnol asesu cynigion cyflenwyr yn unol ag adran 46(8) o'r Ddeddf), nid yw'n ofynnol cynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 28(2)(n) mewn perthynas â chyflenwyr aflwyddiannus yn yr hysbysiad dyfarnu contract.
Hysbysiad manylion contract
85. Mae rheoliad 35 o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth sydd angen ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir ar ôl i gontract yn ôl y gofyn gael ei ddyfarnu. Eto, fel gyda fframweithiau, mae angen cynnwys llawer o'r un wybodaeth â'r hyn sydd ei angen ar gyfer gweithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol, yn ogystal â'r wybodaeth ychwanegol ganlynol:
- y cod adnabod unigryw ar gyfer caffael y fframwaith y caiff y contract ei ddyfarnu yn unol ag ef
- lle caiff y fframwaith ei drefnu gan gyfeirio at lotiau, y rhif unigryw a roddir gan yr awdurdod contractio i'r lot y caiff y contract ei ddyfarnu yn unol â hi
- manylion pa un o'r gweithdrefnau canlynol a ddefnyddiwyd i ddyfarnu'r contract cyhoeddus:
- proses ddethol gystadleuol ar gyfer fframweithiau, neu
- ddyfarniad heb gystadleuaeth bellach, ac
- os yw'n ddyfarniad heb gystadleuaeth bellach, esboniad o'r rheswm pam roedd yr awdurdod contractio o'r farn ei fod yn berthnasol, gan gyfeirio at adran 45(4) o'r Ddeddf.
86. Mae'n rhaid i awdurdodau contractio sy'n dyfarnu ‘contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy’ o dan fframwaith gyhoeddi hysbysiad manylion contract sy'n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 37 o'r Rheoliadau ac, er nad yw'n ofynnol o dan y Ddeddf, dylai'r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y fframwaith a ddefnyddir.
Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?
- Canllawiau ar hysbysiadau piblinell
- Canllawiau ar drothwyon
- Canllawiau ar amodau cymryd rhan
- Canllawiau ar weithdrefnau tendro cystadleuol
- Canllawiau ar asesu tendrau cystadleuol
- Canllawiau ar ddyfarniad uniongyrchol
- Canllawiau ar gontractau sydd o dan y trothwy
- Canllawiau ar hysbysiadau dyfarnu contract a chyfnodau segur
- Canllawiau ar grynodebau asesu
- Canllawiau ar derfynu contract
- Canllawiau ar gaffael cymysg
- Canllawiau ar waharddiadau
- Canllawiau ar ragwahardd
- Canllawiau ar Ddilyniant Hysbysiadau a Siartiau Llif