Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad?

1. Mae adran 89 o Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn diffinio ‘cyflenwr gwladwriaeth gytuniad’ fel cyflenwr sydd â hawl i fuddion cytundeb rhyngwladol a bennwyd yn Atodlen 9 i'r Ddeddf.

2. Y budd i gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad yw na all awdurdodau contractio wahaniaethu yn eu herbyn (adran 90). Mae gan gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad yr un hawliau ac, o dan adran 100, yr un mynediad at rwymedïau o dan y Ddeddf â ‘chyflenwyr y DU’ (gweler paragraff 14 isod) ar gyfer caffaeliadau a gwmpesir gan y cytundeb rhyngwladol perthnasol. Effaith y gofyniad dim gwahaniaethu yw cynyddu'r gronfa gystadleuol o gyflenwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn caffaeliad, gan ysgogi gwerth gwell am arian.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad?

3. Mae Rhan 7 o'r Ddeddf yn pennu'r hawliau a roddir i gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad o dan y Ddeddf. Dim ond i 1gaffael contractau cyhoeddus (contractau sydd ar gyfer buddiant ariannol, contractau sydd uwchlaw'r trothwy a chontractau nad ydynt yn esempt) y mae'r Rhan hon yn berthnasol ar y cyfan ac nid yw'n atal contractau sydd o dan y trothwy rhag cael eu neilltuo ar gyfer cyflenwyr sydd wedi'u lleoli yn y DU yn unig neu gyflenwyr sydd wedi'u lleoli mewn rhanbarth neu sir benodol yn y DU. (Gweler y canllaw ar gontractau o dan y trothwy am ragor o wybodaeth.)

* Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE yn estyn y rhwymedigaeth dim gwahaniaethu i gaffael unrhyw gontract ac nid dim ond contractau cyhoeddus. Mae Erthygl 288 yn gwahardd y DU rhag mabwysiadu mesur a fyddai'n gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr o'r UE sydd wedi'u sefydlu yn y DU (ac i'r gwrthwyneb). Ceir eithriadau i hyn ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd clinigol y GIG (fel y'u diffiniwyd), a chaffaeliadau sy'n ddarostyngedig i'r eithriadau oherwydd diogelwch gwladol a'r eithriadau cyffredinol.

4. Mae adran 89 yn nodi'r diffiniad o gyflenwr gwladwriaeth gytuniad.

5. Mae Atodlen 9 yn nodi'r cytundebau rhyngwladol sy'n rhoi statws cyflenwr gwladwriaeth gytuniad.

6. Mae adran 90 yn darparu, wrth gynnal caffaeliad, na chaiff awdurdod contractio wahaniaethu yn erbyn cyflenwr gwladwriaeth gytuniad ac mae'n nodi'r hyn a fyddai'n gyfystyr â gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad.

7. Mae adran 100 (dyletswyddau o dan y Ddeddf hon sy'n orfodadwy drwy achosion sifil) yn darparu bod y dyletswyddau a osodir ar awdurdodau contractio gan Rannau 1 i 5, 7 ac 8 yn ddyledus i gyflenwyr yn y DU a chyflenwyr gwladwriaeth gytuniad (gweler paragraff 18 isod).

Beth sydd wedi newid?

8. Mae'r Ddeddf yn defnyddio'r term ‘cyflenwr gwladwriaeth gytuniad’, gan nodi diffiniad o'r term a gan ddarparu na all awdurdodau contractio wahaniaethu yn erbyn cyflenwyr o'r fath wrth gynnal caffaeliad. Mae hyn yn dilyn y sefyllfa yn y ddeddfwriaeth flaenorol. Mae'r Ddeddf yn nodi'n glir y gall awdurdodau contractio ddiystyru ceisiadau neu dendrau a gyflwynir gan gyflenwyr nad ydynt yn gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad (h.y. cyflenwyr o wledydd nad oes gan y DU gytundeb rhyngwladol perthnasol â nhw).

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

9. Mae'r Ddeddf yn rhoi rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar gaffael cyhoeddus ar waith drwy adlewyrchu'r rhwymedigaethau hynny yn ei darpariaethau a darparu na chaiff awdurdodau contractio wahaniaethu yn erbyn cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad. Bydd awdurdod contractio sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf yn cydymffurfio'n awtomatig â'r rhwymedigaethau rhyngwladol hynny.

10. Yn gyffredinol, mae'r DU yn gweithredu cyfundrefn gaffael agored (amlinellir y sefyllfa o ran caffael ym maes amddiffyn a diogelwch yn ddiweddarach yn y canllaw); mae hyn yn golygu, yn amodol ar y darpariaethau ar gyflenwyr gwaharddedig neu waharddadwy, y dylai awdurdodau contractio dderbyn ceisiadau neu dendrau gan gyflenwyr y DU a chyflenwyr tramor. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio benderfynu peidio â dyfarnu contract i gyflenwr nad yw'n gyflenwr gwladwriaeth gytuniad (adran 19(3)(b)) neu i wahardd cyflenwyr nad ydynt yn gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad rhag cymryd rhan mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol (adran 20(5)(c) a (d)). Fodd bynnag, er mwyn sicrhau cystadleuaeth agored ac annog gwerth am arian, dylai awdurdodau contractio ystyried yn ofalus cyn gwneud hynny. Cyn diystyru tendr o'r fath neu wahardd cyflenwr o'r fath, byddai angen i awdurdod contractio sicrhau ei hun nad yw'r cyflenwr dan sylw yn gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad neu nad yw'n cynnig darparu nwyddau, gwasanaethau neu waith sydd wedi'u cwmpasu gan gytundeb rhyngwladol. Dim ond os bydd rheswm dros wneud hynny sy'n ymwneud â gwerth da am arian (er enghraifft, os gallai hyn effeithio ar effeithiolrwydd y cyflenwr i ddarparu'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau) y dylai fod angen i awdurdod contractio ystyried a yw cyflenwr yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad ai peidio.

Cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad: dim gwahaniaethu

11. Rhaid i awdurdodau contractio beidio â gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad. Mae adran 90(2) yn darparu y bydd awdurdod contractio yn gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad os bydd yn trin y cyflenwr yn llai ffafriol na chyflenwr o'r DU neu gyflenwr gwladwriaeth gytuniad arall yn seiliedig ar gysylltiad y cyflenwr â'i wladwriaeth gytuniad neu ddiffyg cysylltiad â'r DU neu wladwriaeth gytuniad arall. Mae adran 90(4) yn darparu bod hyn hefyd yn wir pan fydd y cyflenwr yn cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau sy'n tarddu o ‘wladwriaeth gytuniad’, a ddiffinnir fel gwladwriaeth, tiriogaeth neu gyfundrefn o wladwriaethau neu diriogaethau sy'n barti i gytundeb rhyngwladol a nodir yn Atodlen 9. Byddai hyn yn wir p'un a yw'r cyflenwr sy'n cyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau hynny yn gyflenwr yn y DU, yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad perthnasol neu'n unrhyw gyflenwr arall. Mae hyn yn berthnasol drwy gydol y caffaeliad.

12. Mae adran 90(3) yn darparu, wrth ystyried a yw cyflenwr gwladwriaeth gytuniad wedi cael ei drin yn llai ffafriol, mai'r gymhariaeth berthnasol yw'r ffordd y caiff y cyflenwr gwladwriaeth gytuniad ei drin o gymharu â chyflenwr yn y DU neu gyflenwr gwladwriaeth gytuniad arall o dan amgylchiadau nad ydynt yn sylweddol wahanol.

13. Dim ond i'r graddau y mae hawl ganddo i fuddion cytundeb rhyngwladol a bennwyd yn Atodlen 9 mewn perthynas â'r caffaeliad sy'n cael ei gyflawni neu ei herio y mae cyflenwr yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad. Mae hyn yn golygu y gall cyflenwr fod yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad ar gyfer rhai caffaeliadau ac nid eraill. Bydd cyflenwr ond yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad os daw o wlad sydd â chytundeb rhyngwladol â'r DU sy'n cwmpasu'r awdurdod contractio sy'n cyflawni'r caffaeliad, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gweithiau a gaffaelir a bod darpariaethau'r Ddeddf dan sylw o fewn cwmpas y cytundeb hwnnw.

14. Mae adran 90(7) yn diffinio cyflenwr yn y DU fel cyflenwr sydd wedi'i sefydlu yn y DU neu mewn Tiriogaeth Dramor Brydeinig neu Diriogaeth Ddibynnol y Goron, neu sy'n cael ei reoli neu ei ariannu'n bennaf o un o'r rhain, ac nad yw'n gyflenwr gwladwriaeth gytuniad.

15. Mae'r cytundebau rhyngwladol a bennwyd yn Atodlen 9 yn cynnwys pennod ar gaffael. Yn y bennod, yn y rhan fwyaf o achosion, mae atodlen mynediad i'r farchnad sy'n nodi pa endidau (h.y. awdurdodau llywodraeth ganolog, awdurdodau is-ganolog a chyfleustodau), nwyddau, gwasanaethau, gweithiau (y cyfeirir atynt fel ‘gwasanaethau adeiladu’) ac eithriadau sy'n gymwys i'r cytundeb. O ran gweithredu, caiff Atodlen 9 ei diweddaru yn ôl y gofyn er mwyn adlewyrchu pan fydd unrhyw gytundebau rhyngwladol presennol yn cael eu dileu neu eu diwygio neu er mwyn ychwanegu cytundebau newydd.

Gall awdurdodau contractio gadarnhau a yw eu caffaeliad wedi'i gwmpasu gan unrhyw un o'r cytundebau rhyngwladol a restrir yn Atodlen 9. Mae'r cytundebau hyn i gyd ar gael yn gyhoeddus yma: Cytundebau masnach y DU y gellir eu defnyddio. Mae esemptiadau ar gyfer rhai sectorau, er enghraifft, gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau ymchwil a datblygu, a chynnwys ac amser darlledu.

17. Mae adran 100 yn darparu bod y ddyletswydd i gydymffurfio ag adran 90 yn orfodadwy mewn achosion sifil o dan y Ddeddf. Mae hyn yn golygu y bydd gan gyflenwr gwladwriaeth gytuniad yr un mynediad at rwymedïau o dan y Ddeddf i herio caffaeliad a gwmpesir gan y cytundeb rhyngwladol perthnasol â chyflenwr yn y DU. Bydd gan gyflenwyr yn y DU fynediad cyfatebol at rwymedïau ym marchnadoedd caffael gwladwriaethau cytuniad. O dan adran 65 o'r Ddeddf, gall cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad (a chyflenwyr yn y DU) hefyd apelio i'r llys mewn perthynas â phenderfyniadau rhagwaharddiad gan un o Weinidogion y Goron, er enghraifft, i ychwanegu enw'r cyflenwr at y rhestr rhagwaharddiadau.

18. Dylid nodi, er ei bod yn bosibl na fydd gan gyflenwr nad yw'n gyflenwr yn y DU nac yn gyflenwr gwladwriaeth gytuniad hawl i herio drwy'r Ddeddf Caffael yn uniongyrchol, gall ddefnyddio ffyrdd eraill o herio. Gellir rhoi mesurau dialgar ar waith hefyd pan fydd parti yn torri cytundeb (gweler paragraff 20 isod).

19. Fel y nodir ym mharagraff 10, mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio sy'n cynnal gweithdrefn hyblyg gystadleuol wahardd cyflenwyr nad ydynt yn gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad (adran 20(5)(c)) neu ddiystyru tendr gan gyflenwr nad yw'n gyflenwr gwladwriaeth gytuniad (adran 19(3)(b)(i)) mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol. Gall awdurdodau contractio sy'n cynnal gweithdrefn hyblyg gystadleuol hefyd wahardd cyflenwyr sy'n bwriadu is-gontractio'r gwaith o gyflawni'r contract cyfan, neu ran ohono, i gyflenwr nad yw yn y DU neu nad yw'n gyflenwr gwladwriaeth gytuniad (adran 20(5)(d)) neu benderfynu peidio â dyfarnu contract i gyflenwr o'r fath (adran 19(3)(b)(ii)).

Mesurau dialgar

20. Os na fydd parti i gytundeb rhyngwladol yn cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan y cytundeb hwnnw, gall fod hawl gan y parti arall, yn amodol ar delerau'r cytundeb, i roi mesurau dialgar ymarferol ar waith neu, os bydd y parti yn torri'r rhwymedigaethau, i roi mesurau digolledu ar waith. Mae adran 92 yn darparu y gellir gwneud rheoliadau pan fydd hyn yn codi o ganlyniad i anghydfod sy'n ymwneud â chaffael o dan gytundeb rhyngwladol a bennwyd yn Atodlen 9. Gall mesurau dialgar gynnwys, er enghraifft, wneud rheoliadau i atal cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad o wlad sy'n torri'r cytundeb rhag cael mynediad i'r farchnad ar gyfer nwyddau neu wasanaethau penodol. Dim ond i wneud darpariaeth sy'n ymwneud â chaffael y gellir defnyddio'r pŵer hwn. Mae angen cymeradwyaeth Seneddol ar ei gyfer hefyd.

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllaw ar amcanion caffael a gwmpesir
  • Canllaw ar gontractau sydd o dan y trothwy
  • Canllaw ar waharddiadau
  • Canllaw ar reolau dyfarnu
  • Canllaw ar rwymedïau