Neidio i'r prif gynnwy

Pwynt i'w nodi

1. Noder: Os bydd Awdurdod Cymreig Datganoledig yn cynnal caffaeliad mewn perthynas â chontract sydd o dan y trothwy o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl fel y'i diffinnir yn Adran 114 o Ddeddf Caffael 2023, cyfeiriwch at Ganllaw Llywodraeth y DU ar gontractau sydd o dan y trothwy.

Beth yw contract sydd o dan y trothwy?

2. Diffinnir ‘contract sydd o dan y trothwy’ yn adran 5 o’r Ddeddf (gweler paragraff 8 isod) ac, yn fras, contract â gwerth ariannol is na ‘chontract cyhoeddus’ (a ddiffinnir yn adran 3 o’r Ddeddf ac yn ddarostyngedig i’r trothwyon a nodir yn Atodlen 1 i’r Ddeddf).

3. Nid yw dyfarnu, llunio na rheoli contract sydd o dan y trothwy yn ‘gaffaeliad a gwmpesir’ fel y'i diffinnir yn adran 1 o'r Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod llai o rwymedigaethau yn y Ddeddf yn gymwys i gaffael contractau sydd o dan y trothwy nag sy'n gymwys i gaffaeliad a gwmpesir.

4. Os yw darpariaeth yn y Ddeddf yn cyfeirio'n benodol at gaffaeliad a gwmpesir, nid yw'n gymwys i gontractau sydd o dan y trothwy. Ar y cyfan, yr unig ddarpariaethau yn y Ddeddf sy'n berthnasol i gaffael contractau sydd o dan y trothwy yw'r rhai a nodir yn Rhan 6, er bod rhai eithriadau Er enghraifft, mae'r rhwymedigaethau yn adran 14 o’r Ddeddf i ystyried datganiad polisi caffael Cymru ac yn adran 90(1) i beidio â gwahaniaethu yn erbyn cyflenwr gwladwriaeth cytuniad (ond dim ond i'r graddau y cwmpesir caffaeliadau sydd o dan y trothwy gan gytundeb rhyngwladol a nodir yn Atodlen 9 i'r Ddeddf) yn gymwys i unrhyw gaffaeliad, gan gynnwys contractau sydd o dan y trothwy.

5. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau contractio sy'n ymgymryd â chaffaeliad sydd o dan y trothwy o ran cynllunio a chynnal y caffaeliad a dyfarnu a rheoli'r contract sy'n deillio ohono.

6. Gallai'r hyblygrwydd hwn (a all fod yn amodol ar bolisïau a gweithdrefnau lleol) gynnwys, er enghraifft, y gallu i ofyn am ddyfynbrisiau, cynigion neu dendrau gan gyflenwyr hysbys wedi'u targedu yn unig; neu i gyflenwyr sy'n fusnesau bach a canolig (BBaChau), neu'n fentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol.

7. Noder fodd bynnag na ddylid defnyddio'r opsiwn i neilltuo caffaeliadau ar sail lleoliad mewn perthynas â chaffaeliadau sydd o ddiddordeb trawsffiniol (h.y. a allai fod o ddiddordeb i gyflenwyr o Aelod-wladwriaethau'r UE gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon) ac sy'n cynnwys darparu nwyddau i Ogledd Iwerddon.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu contractau sydd o dan y trothwy?

8. Mae adran 5 o’r Ddeddf o’r Ddeddf yn diffinio contract sydd o dan y trothwy fel a ganlyn:

  1. contract ar gyfer cyflenwi, am fuddiant ariannol, nwyddau, gwasanaethau neu weithiau i awdurdod contractio
  2. fframwaith, neu
  3. contract consesiwn, sydd â gwerth amcangyfrifedig heb fod yn llai na ‘swm y trothwy’ ar gyfer y math o gontract.

9. Nodir symiau'r trothwyon yn Atodlen 1 i’r Ddeddf.

10. Mae adran 84 yn darparu bod ‘contract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy’ yn gontract o dan y trothwy nad yw'n un o'r canlynol:

  1. contract esempt fel y'i diffinnir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf
  2. contract consesiwn, neu
  3. contract cyfleustodau.

11. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf yn nodi'r rheolau sy'n gymwys wrth gaffael contractau sydd o dan y trothwy. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â gweithdrefnau caffael, dyletswyddau, hysbysiadau a thelerau talu ymhlyg. Mae rheoliad 25 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau) yn nodi'r wybodaeth sydd angen ei chynnwys mewn ‘hysbysiad tendro o dan y trothwy’.

12. Mae adran 84 o'r Ddeddf yn darparu nad yw darpariaethau contract o dan y trothwy yn Rhan 6 yn gymwys i gaffaeliadau a gynhelir:

  1. gan ysgol (fel y'i diffinnir yn adran 123 o'r Ddeddf), neu
  2. gan awdurdodau a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon, oni chynhelir y caffaeliad o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl neu drefniant caffael Cymreig datganoledig (megis fframwaith neu farchnad ddynamig). Byddai hyn hefyd yn wir petai'n awdurdod a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon yn cymryd rhan mewn caffaeliad ar y cyd wedi'i arwain gan awdurdod annatganoledig neu awdurdod Cymreig datganoledig, neu awdurdod prynu canolog annatganoledig neu awdurdod prynu canolog Cymreig datganoledig (am wybodaeth am awdurdodau prynu canolog gweler y canllaw ar fframweithiau), neu
  3. o dan drefniant caffael a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon, hynny yw gan ddefnyddio fframwaith neu farchnad ddynamig a sefydlwyd gan awdurdod a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon. Mae hyn hefyd yn wir pan fydd awdurdod contractio yn cymryd rhan mewn caffaeliad ar y cyd a arweinir gan awdurdod a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon neu awdurdod contractio canolog a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon.

Beth sydd wedi newid i Awdurdodau Cymreig datganoledig?

13. Yn wahanol i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, mae'r Ddeddf yn nodi gofynion statudol i awdurdodau Cymreig datganoledig sy'n cwmpasu contractau sydd o dan y trothwy.

Categorïau a throthwyon

14. Mae'r gofynion o dan y trothwy sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf a rheoliadau cysylltiedig yn gymwys ar drothwyon gwahanol i gategorïau gwahanol o awdurdodau contractio.

15. Rhestrir y categorïau yn adran 87(4) o'r Ddeddf, ond mae trothwyon gwahanol i’r rhai a nodir yn adran 87(4) yn gymwys i awdurdodau Cymreig datganoledig gan fod y rhain wedi cael eu diwygio yn unol â’r rheoliadau Cymreig (gweler rheoliad 47 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024). Mae’r trothwyon ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig fel a ganlyn:

  1. awdurdodau llywodraeth ganolog nad ydynt yn awdurdod Cymreig datganoledig – heb fod yn llai na £30,000 gan gynnwys TAW, a
  2. pob awdurdod contractio arall – heb fod yn llai na £30,000 gan gynnwys TAW.

16. Fel y nodir ar ddechrau'r canllaw, os bydd awdurdod Cymreig datganoledig yn cynnal caffaeliad mewn perthynas â chontract sydd o dan y trothwy o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl (megis un o fframweithiau Gwasanaeth Masnachol y Goron), dylid cyfeirio at ganllaw Llywodraeth y DU ar gontractau sydd o dan y trothwy. Y rheswm dros hyn yw y bydd y ffordd y cymhwysir y ddeddfwriaeth yn wahanol. Er enghraifft, y trothwy ar gyfer awdurdodau llywodraeth ganolog yw heb fod yn llai na £12,000 gan gynnwys TAW, ac mae gwaharddiad ar ddefnyddio cam addasrwydd ar wahân sy'n effeithio ar gontractau yn ôl y gofyn o Farchnadoedd Dynamig.

17. Ceir rhestr o awdurdodau llywodraeth ganolog Cymreig yn Atodlen 2 i Reoliadau Caffael (Cymru) 2024.

Gofynion o ran hysbysiadau cyhoeddi o dan y trothwy

18. Pan fo'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad tendro o dan y trothwy neu hysbysiad manylion contract o dan y trothwy, o dan y Ddeddf a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, rhaid ei gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig, GwerthwchiGymru. Bydd y platfform digidol Cymreig yna yn anfon yr hysbysiad ymlaen i'r platfform digidol canolog, gan fodloni'r gofyniad cyfreithiol i gyhoeddi'r hysbysiad ar y platfform digidol canolog o dan yr amgylchiadau a nodir yn y Ddeddf.

Hysbysiad tendro o dan y trothwy

19. Mae adran 87 o'r Ddeddf yn darparu, os bydd awdurdod contractio yn bwriadu hysbysebu ‘contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy’, bod yn rhaid iddo gyhoeddi ‘hysbysiad tendro o dan y trothwy’ gyntaf. Mae contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy yn gontract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy sydd â gwerth heb fod yn llai na £30,000 gan gynnwys TAW. Mae rheoliad 5 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn darparu bod yn rhaid i'r hysbysiad hwn gael ei gyhoeddi ar y platfform digidol canolog drwy ei gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig.

20. Nid oes gofyniad i gyhoeddi hysbysiad tendro o dan y trothwy pan fydd yr awdurdod contractio yn gwahodd dyfynbrisiau, cynigion neu dendrau gan grŵp caeedig o gyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw, (h.y. cyflenwyr ar fframwaith) neu gan un neu fwy o gyflenwyr wedi'u targedu, ar yr amod na fydd yn hysbysebu'r caffaeliad mewn unrhyw ffordd arall (er enghraifft mewn papur newydd neu ar wefan neu borth lleol). Yn yr amgylchiadau hyn, dim ond yr hysbysiad manylion contract sy’n ofynnol ar ôl i’r contract gael ei ddyfarnu.

21. Mae'r hysbysiad tendro o dan y trothwy yn fersiwn llai manwl o'r hysbysiad tendro ar gyfer caffaeliad a gwmpesir. Rhaid iddo nodi bod yr awdurdodau contractio yn bwriadu gwahodd cyflenwyr i gyflwyno tendrau a chynnwys y wybodaeth a nodir yn rheoliad 25 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 o leiaf, er y gall awdurdodau contractio gynnwys gwybodaeth ychwanegol.

22. Er nas nodir yn y rheoliadau, gall awdurdod contractio ategu'r wybodaeth yn yr hysbysiad tendro o dan y trothwy drwy gynnwys gwybodaeth ychwanegol mewn dogfennau tendro. Gall dogfennau tendro gael eu darparu gan yr awdurdod contractio mewn unrhyw ffordd, er enghraifft mewn cyfeiriad porth/gwefan neu drwy e-bost. Mae'r wybodaeth yn y dogfennau tendro yn gallu dyblygu’r wybodaeth a ddarperir yn yr hysbysiad tendro o dan y trothwy. Gallai dogfennau tendro gynnwys gwybodaeth megis manyleb, methodoleg asesu a thelerau ac amodau'r contract.

23. Bydd angen i awdurdodau contractio sicrhau bod yr hysbysiad tendro (a'r dogfennau tendro lle y bo'n gymwys) yn rhoi digon o wybodaeth i gyflenwyr er mwyn iddynt allu llunio tendr o fewn y terfynau amser y darperir ar eu cyfer yn yr hysbysiad tendro.

24. Dylai awdurdodau nodi mewn unrhyw hysbysiad tendro o dan y trothwy a yw'r contract yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at farchnad ddynamig (a'r rhan berthnasol o'r farchnad, os yw hynny'n briodol) ac os felly, god adnabod unigryw'r farchnad ddynamig. Gall awdurdodau contractio ddewis rhoi cyfle i gyflenwyr ymuno â marchnad ddynamig er mwyn cymryd rhan mewn caffaeliad ac, os byddant yn gwneud hynny, dylent roi digon o amser i gyflenwyr ddod yn aelodau’r farchnad ddynamig. Cyfeiriwch at y canllaw ar Farchnadoedd Dynamig am ragor o wybodaeth.

Hysbysiad manylion contract a chodau adnabod unigryw

25. Mae adran 87(3) o'r Ddeddf yn darparu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl ymrwymo i gontract hysbysadwy sydd o dan y trothwy, fod yn rhaid i'r awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad manylion contract. Mater i'r awdurdod contractio fydd penderfynu beth yw rhesymol ymarferol yn seiliedig ar faint, cymhlethdod a natur pob caffaeliad ond fel arfer bydd yn golygu:

  1. yn achos contract sydd i'w ddyfarnu gan awdurdod llywodraeth ganolog, o fewn 30 diwrnod i ymrwymo i'r contract, neu
  2. fel arall, o fewn 90 diwrnod i ymrwymo i’r contract.

Nid yw'r terfyn amser hwn yn gymwys yn achos contract cyffyrddiad ysgafn sydd o dan y trothwy, lle y dylai'r hysbysiad gael ei gyhoeddi o fewn 120 diwrnod i ymrwymo i'r contract.

26. Contract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy sydd â gwerth amcangyfrifedig o fwy na £30,000 yw contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy. Gan nad oes gofyniad i gyhoeddi hysbysiad tendro o dan y trothwy bob amser, mae'n bosibl weithiau mai'r hysbysiad manylion contract fydd yr hysbysiad cyntaf a'r unig hysbysiad a gyhoeddir mewn perthynas â chontract o dan y trothwy.

27. Mae'r gofyniad i gyhoeddi'r hysbysiad manylion contract yn gymwys i bob contract hysbysadwy sydd o dan y contract, ac nid dim ond y rhai lle mae angen cyhoeddi hysbysiad tendro o dan y trothwy. Dylai awdurdodau contractio nodi bod hyn yn cynnwys pan nad yw awdurdod contractio wedi cyhoeddi hysbysiad tendro o dan y trothwy gan mai dim ond dyfynbris gan un cyflenwr a geisiwyd ganddo a phan fydd contract sydd o dan y trothwy wedi'i ddyfarnu o dan fframwaith.

28. Mae rheoliad 37 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn nodi'r manylion sydd i'w cynnwys mewn hysbysiad manylion contract sydd o dan y trothwy ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig. Ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig, rhaid i bob contract a ddyfernir o dan y Ddeddf Caffael gynnwys cod adnabod cyflenwr unigryw yn hysbysiad manylion y contract. Caiff y codau adnabod unigryw eu diffinio yn rheoliad 9 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024. Mae'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad manylion contract ar gyfer contract sydd o dan y trothwy yn llai na'r hyn sy'n ofynnol o dan adran 53 ar gyfer contractau cyhoeddus.

Hysbysiad newid contract

29. Fel y nodir ym mharagraff 41 isod, pan fydd gwerth addasiad yn cynyddu gwerth contract uwchlaw swm y trothwy perthnasol yn Atodlen 1 fel y bydd yn dod yn gontract cyhoeddus, mae hwn yn gontract trosadwy. Dim ond o dan adran 74 o'r Ddeddf y caniateir addasiad a fydd yn gwneud y contract yn gontract cyhoeddus, ac unrhyw addasiad dilynol i gontract trosadwy, a rhaid i hysbysiad newid contract gael ei gyhoeddi yn unol ag adran 75.

Cyn cymhwyso mewn contractau sydd o dan y trothwy

30. Nid yw adran 85 y Ddeddf (sy’n cyfyngu ar gyflwyno tendrau drwy gyfeirio at asesiad o addasrwydd y cyflenwr i gyflawni'r contract) yn gymwys i gontract a ddyfernir gan awdurdod Cymreig datganoledig, oni chaiff ei ddyfarnu o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl. Felly, ar gyfer contractau rheoleiddiedig sydd o gan y trothwy sy'n drefniant caffael Cymreig datganoledig, gellir cyfyngu ar dendrau drwy gyfeirio at asesiad o addasrwydd y cyflenwr i gyflawni'r contract (h.y. gallant ddefnyddio cam Holiadur Cyn Cymhwyso) os byddant yn dymuno gwneud hynny (er y bydd dal angen i awdurdodau ystyried eu dyletswydd i ystyried BBaChau fel y nodir yn adran 86 o'r Ddeddf).

31. Gan nad yw adran 85 o'r Ddeddf yn gymwys i awdurdodau Cymreig datganoledig (oni bai eu bod yn dyfarnu o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl) mae hyn hefyd yn golygu y gellir dyfarnu contractau sydd o dan y trothwy o dan Farchnadoedd Dynamig a sefydlwyd gan awdurdod Cymreig datganoledig.

Dyletswydd i ystyried rhwystrau posibl i BBaChau

32. Mae adran 86 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio, cyn gwahodd tendrau, i ystyried y rhwystrau y gallai BBaChau eu hwynebu wrth gystadlu am gontract ac a ellir dileu neu leihau rhwystrau o'r fath. Nid yw'r rhwymedigaeth hon, fodd bynnag, yn gymwys i gontractau sydd o dan y trothwy a ddyfernir o dan fframwaith.

Terfynau amser

33. Mae adran 87(6) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio roi cyfnod rhesymol o amser yn yr hysbysiad tendro o dan y trothwy i gyflwyno tendrau. Rhaid i’r cyfnod hwn o amser fod yr un peth ar gyfer pob cyflenwr.

Talu'n brydlon

34. Mae adran 88 o'r Ddeddf yn gymwys i gontractau o dan y trothwy yn benodol ac yn adlewyrchu'r darpariaethau ar gyfer talu'n brydlon yn adrannau 68 a 73 sy'n gymwys i gontractau cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllaw ar anfonebu electronig a thalu.

Fframweithiau o dan y trothwy

35. Er yn annhebygol, mae’n bosibl dyfarnu contract sydd o dan y trothwy sy'n fframwaith (“fframwaith o dan y trothwy”). Mae'r diffiniad o gontract sydd o dan y trothwy yn adran 5 o'r Ddeddf yn cydnabod hyn. Mae adran 45(2) o'r Ddeddf yn diffinio fframwaith fel contract rhwng awdurdod contractio ac un neu fwy o gyflenwyr sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau gan yr awdurdod contractio i'r cyflenwr neu'r cyflenwyr yn y dyfodol.

36. Mae Fframwaith o dan y trothwy yn un lle mae cyfanswm gwerth amcangyfrifedig contractau sydd i'w dyfarnu o dan y fframwaith yn llai na'r trothwy cymwys ar gyfer y math hwnnw o gontract (gweler Atodlen 3 am arweiniad ar sut i amcangyfrif gwerth fframwaith). Gall fod yn fwy tebygol y caiff fframwaith sydd o dan y trothwy ei ddyfarnu ar gyfer contractau gwaith lle mae'r trothwy yn llawer uwch ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ar £5,372,609 (ac, felly, mae gwerth amcangyfrifedig contractau sydd i'w dyfarnu o dan y fframwaith yn uwch). Os bydd yr awdurdod contractio o'r farn y gallai gwerth contractau fod yn fwy na'r trothwy, dylai ddyfarnu'r fframwaith fel petai'n gontract sydd uwchlaw'r trothwy h.y. contract cyhoeddus.

Marchnadoedd dynamig

37. Gellir dyfarnu contractau sydd o dan y trothwy o dan Farchnadoedd Dynamig a sefydlwyd gan awdurdod Cymreig datganoledig. Dylid nodi bod gwaharddiad ar ddefnyddio cam addasrwydd ar wahân ar gyfer awdurdodau contractio annatganoledig o dan adran 85 o'r Ddeddf sy'n effeithio ar gontractau yn ôl y gofyn o Farchnadoedd Dynamig sy'n drefniadau caffael a gedwir yn ôl. Os bydd awdurdod Cymreig datganoledig yn cynnal caffaeliad mewn perthynas â chontract gwaith sydd o dan y trothwy o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl (fel y'i diffinnir yn adran 114 o'r Ddeddf), cyfeiriwch at ganllaw Llywodraeth y DU ar gontractau sydd o dan y trothwy.

38. Mae'r Ddeddf ond yn rheoleiddio marchnadoedd dynamig a sefydlwyd ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus yn y dyfodol nid contractau sydd o dan y trothwy. Felly, gellir dyfarnu contractau sydd o dan y trothwy o dan farchnad ddynamig, ond nid yw'r prosesau dyfarnu hynny yn cael eu rheoleiddio gan ddarpariaethau'r Ddeddf ar farchnadoedd dynamig. Yn yr achosion hynny, dylai'r awdurdod contractio ddilyn y canllaw hwn ar gyfer gofynion hysbysu contractau o dan y trothwy. Er enghraifft, os bydd yn dyfarnu contract sydd o dan y trothwy o dan farchnad ddynamig, efallai y bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad tendro o dan y trothwy a hysbysiad manylion contract ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy.

39. Yn yr hysbysiad manylion contract ar gyfer contract sydd o dan y trothwy a ddyfernir o dan farchnad ddynamig, rhaid i’r awdurdod contractio hefyd ddarparu cod adnabod unigryw'r farchnad ddynamig.

Addasu contract sydd o dan y trothwy

40. Gellir addasu contractau sydd o dan y trothwy ar ôl ymrwymo o'r contract heb yr un cyfyngiadau ar addasiadau sy'n gymwys i gontractau cyhoeddus yn adrannau 74-77 o'r Ddeddf. Mae’n bosibl y bydd polisïau a gweithdrefnau lleol yn gymwys i addasu contractau.

41. Fodd bynnag, mae adran 74(1) o'r Ddeddf yn cyflwyno'r cysyniad o ‘gontract trosadwy’, sef contract lle y bydd gwerth addasiad yn cynyddu gwerth y contract, ar ôl yr addasiad, uwchlaw swm y trothwy perthnasol yn Atodlen 1 i'r Ddeddf, fel y bydd y contract yn dod yn gontract cyhoeddus. Dim ond o dan adran 74 y caniateir addasu contract trosadwy. Ar ôl addasu'r contract trosadwy, bydd y contract yn ddarostyngedig i'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n rheoli contractau cyhoeddus, yn hytrach na'r darpariaethau sy'n ymwneud yn benodol â chontractau sydd o dan y trothwy yn Rhan 6. Gweler y canllaw ar addasu contractau am ragor o wybodaeth.

Gofynion o ran hysbysiad piblinell

42. Mae angen cyhoeddi hysbysiad piblinell os bydd awdurdod contractio o'r farn y bydd, yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, yn talu mwy na £100 miliwn o dan gontractau ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith, heblaw contractau esempt (‘contractau perthnasol’).

43. At ddibenion cyfrifo a fydd awdurdod contractio yn mynd dros y trothwy o £100 miliwn, rhaid i'r dull cyfrifo gynnwys yr holl daliadau a wneir o dan gontractau presennol a chontractau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir o dan gontractau sydd o dan y trothwy.

44. Pan fo'n ofynnol i awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad piblinell, nid oes gofyniad o dan y Ddeddf i gynnwys contractau arfaethedig sydd o dan y trothwy yn yr hysbysiad hwnnw am nad ydynt yn ‘gontractau cyhoeddus’ fe y’u diffinnir gan y Ddeddf. Fodd bynnag, gall awdurdod contractio gynnwys contractau sydd o dan y trothwy yn yr hysbysiad os bydd yn dymuno gwneud hynny a dylai ystyried yn a fyddai'n ddefnyddiol galluogi'r farchnad i weld yn gynnar gontractau o dan y trothwy a fydd yn cael eu dyfarnu yn y dyfodol fel rhan o ddyletswydd yr awdurdod i ystyried rhwystrau i BBaChau o dan adran 86 o’r Ddeddf. Yn benodol, gallai’r awdurdod ystyried cynnwys contractau gwaith sydd o dan y trothwy, y mae eu gwerth amcangyfrifedig rhwng £2 filiwn a’r trothwy perthnasol ar gyfer contractau gwaith, yn yr hysbysiad piblinell, i roi mwy o amser i BBaChau ystyried a ydynt yn dymuno ymateb i dendr arfaethedig a neilltuo adnoddau yn unol â hynny.

Contractau anrheoleiddiedig sydd o dan y trothwy

45. Mae adran 84 o'r Ddeddf yn darparu nad yw Rhan 6 o'r Ddeddf yn gymwys i gontractau sydd o dan y trothwy:

  1. sy'n gontractau esempt
  2. sy'n gontractau cyfleustodau neu'n gontractau consesiwn, neu
  3. a gaffaelir gan ysgol, gan awdurdod a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon (oni fydd yr awdurdod a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon yn cynnal caffaeliad o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl neu drefniant caffael Cymreig datganoledig, fel y'u diffinnir yn adran 114 o'r Ddeddf) neu o dan drefniant caffael a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon (gweler adran 84(2))

Fodd bynnag, bydd rhwymedigaethau mewn rhannau eraill o'r Ddeddf sy'n ymwneud â ‘chaffael’ yn gymwys, megis y rhai sy'n ymwneud â Datganiad Polisi Caffael Cymru a chyflenwyr gwladwriaeth gytuniad perthnasol (gweler paragraff 4 uchod).

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllaw ar drothwyon
  • Canllaw ar brisio
  • Canllaw ar gyhoeddi gwybodaeth a'r platfform digidol canolog
  • Canllaw ar ddilyniant hysbysiadau a siartiau llif
  • Canllaw ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru
  • Canllaw ar gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad
  • Canllaw Llywodraeth y DU ar gontractau sydd o dan y trothwy
  • Canllaw Llywodraeth y DU ar y Datganiad Polisi Caffael Cenedlaethol (NPPS)