Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw contract esempt?

1. Math o gontract a restrir yn Atodlen 2 yw contract esempt. Nid yw’r rheolau ynglŷn â chaffaeliad a gwmpesir yn Neddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn gymwys iddo.

2. Mae’r esemptiadau yn sicrhau bod awdurdodau contractio yn cael rhyddid i gyflawni’r caffaeliad mwyaf priodol lle y byddai’r rheolau yn y Ddeddf fel arall yn amhriodol neu’n anaddas.

Beth yw’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywodraethu contractau esempt?

3. Mae adran 3 o’r Ddeddf yn nodi’r tri math o gontractau sy’n gontractau cyhoeddus, sef contractau ar gyfer cyflenwi: nwyddau, gwasanaethau neu weithiau; fframweithiau; a chontractau consesiwn yr amcangyfrifir bod eu gwerth yn fwy na’r trothwy ariannol cymwys ac nad ydynt yn gontractau esempt.

4. Mae Atodlen 2 o’r Ddeddf yn nodi’r mathau o gontractau esempt. Mae iddi ddwy ran. Mae Rhan 1 yn pennu pa gontractau sydd bob amser yn esempt oherwydd natur y gydberthynas rhwng yr awdurdod contractio a’r parti arall yn y contract, ac mae Rhan 2 yn pennu pa gontractau sy’n esempt oherwydd natur testun y contract.

5. Nid yw’n ofynnol caffael contractau esempt yn unol â darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â chaffaeliad a gwmpesir. Fodd bynnag, mae contractau esempt yn rhwym wrth ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â ‘caffael’; er enghraifft, mewn perthynas â Datganiad Polisi Caffael Cymru yn adran 14 (a all fod neu na all fod yn gymwys, yn dibynnu ar ofynion Datganiad Polisi Caffael Cymru ei hun). Yn y canllaw hwn, mae cyfeiriadau at gontractau sy’n esempt o dan y Ddeddf yn golygu darpariaethau cyffredinol y Ddeddf, h.y. y rhai sy’n ymwneud â chaffael a gwmpesir.

Beth sydd wedi newid?

6. Mae’r Ddeddf yn cadw’r esemptiadau sydd ar gael mewn deddfwriaeth flaenorol (gyda mân newid i ddileu’r esemptiad ynglŷn â gwasanaethau ymgyrchu gwleidyddol a oedd yn berthnasol pan oedd y DU yn aelod o’r UE lle mae pleidiau gwleidyddol yn awdurdodau contractio mewn rhai gwladwriaethau, ond nid yn y DU), yn symleiddio sut mae’r esemptiadau hynny wedi’u llunio ac yn sicrhau bod y derminoleg a ddefnyddir yn fwy priodol ar gyfer cyfraith ddomestig.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

Rhan 1: Contractau esempt â chyd-barti

7. Mae Rhan 1 yn disgrifio’r contractau sydd wedi’u hesemptio o dan y Ddeddf oherwydd natur y gydberthynas rhwng y partïon sy’n contractio. Cyfeirir at y rhain fel contractau esempt â chyd-barti ac fe’u nodir isod.

Trefniadau fertigol

8. Dim ond i awdurdodau contractio sy’n awdurdodau cyhoeddus y mae’r esemptiad ynglŷn â threfniadau fertigol yn gymwys; nid yw’n gymwys i ymgymeriadau cyhoeddus nac i gyfleustodau preifat. Mae’r esemptiad ar gael pan fydd awdurdod contractio (neu ddau neu fwy o awdurdodau contractio yn gweithredu ar y cyd) (y cyfeirir ato yn y canllaw hwn fel ‘perchennog yr awdurdod contractio’) yn contractio â pherson (y cyfeirir ato yn y canllaw hwn fel y ‘person rheoledig’) y mae gan berchennog yr awdurdod contractio y math o reolaeth ag a nodwyd yn y Ddeddf drosto. Un enghraifft o berson rheoledig yw cwmni masnach awdurdod lleol a sefydlwyd gan berchennog yr awdurdod contractio, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag awdurdodau contractio eraill, i ddarparu gwasanaethau.

9. Mae Atodlen 2, paragraff 2(2) o’r Ddeddf yn nodi’r meini prawf sy’n pennu a yw’r person yn ‘rheoledig’, y mae’n rhaid i bob un ohonynt gael eu bodloni er mwyn i’r esemptiad fod yn gymwys, sef:

  1. Rhiant ymgymeriad yw perchennog yr awdurdod contractio, fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 2(4) (sy’n cyfeirio at y diffiniad yn Adran 1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006).
  2. Nid oes unrhyw berson arall yn arfer (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) dylanwad penderfynol dros weithgareddau’r person rheoledig
  3. Mae’r person rheoledig yn cyflawni mwy nag 80% o’i weithgareddau dros, neu ar ran, berchennog yr awdurdod contractio, neu dros neu ar ran personau eraill a reolir gan berchennog yr awdurdod contractio, a
  4. Phan fo rheolaeth ar y cyd gan berchennog awdurdod contractio sy’n cynnwys mwy nag un awdurdod contractio, caiff pob awdurdod contractio ei gynrychioli ar fwrdd y person rheoledig neu gorff gwneud penderfyniadau cyfatebol, ac nid yw’r person rheoledig yn cyflawni gweithgareddau sy’n groes i fuddiannau un neu fwy o’r awdurdodau contractio hyn.

10. Nid yw person yn ‘rheoledig’ os bydd person arall nad yw’n awdurdod cyhoeddus yn dal cyfranddaliadau yn y person hwnnw.

11. Mae’r esemptiad hwn yn gymwys i gontractau a ddyfernir gan berchennog yr awdurdod contractio i’r person rheoledig ac i gontractau a ddyfernir gan y person rheoledig i’w berchennog awdurdod contractio.

Trefniadau llorweddol

12. Mae Atodlen 2, paragraff 3 o’r Ddeddf yn nodi’r esemptiad sy’n gymwys i gontractau rhwng awdurdodau contractio (y cyfeirir atynt yn y canllaw hwn fel ‘awdurdodau contractio sy’n cydweithredu’) yn unig a dim ond pan fydd y ddau awdurdod contractio sy’n cydweithredu yn awdurdodau cyhoeddus. Nid yw’n gymwys i ymgymeriadau cyhoeddus nac i gyfleustodau preifat.

13. Mae trefniant llorweddol yn bodoli rhwng awdurdodau contractio sy’n cydweithredu:

  1. os bwriedir i’r trefniant gyflawni nodau cyffredin mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau cyhoeddus
  2. os mai er budd y cyhoedd yn unig y mae’r trefniant
  3. os mai’r bwriad yw na fydd mwy nag 20% o’r gweithgareddau a ragwelir o dan y trefniant yn cael eu cyflawni am resymau heblaw am ddibenion eu swyddogaethau cyhoeddus.

14. Ystyr swyddogaethau cyhoeddus yw gweithgareddau y mae awdurdodau contractio yn eu cyflawni fel awdurdod cyhoeddus – er enghraifft, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am waredu gwastraff cartrefi. Gallai gweithgareddau a gyflawnir at ddibenion swyddogaeth gwaredu gwastraff gynnwys, er enghraifft, ailgylchu neu waredu gwastraff drwy ei dirlenwi.

15. Gall awdurdodau contractio hefyd gyflawni gweithgareddau nad ydynt at ddiben eu swyddogaeth gyhoeddus, er enghraifft, awdurdodau lleol yn gwaredu gwastraff masnachol i wneud elw.

Contractau amddiffyn a diogelwch

16. Mae Atodlen 2, paragraff 4 o’r Ddeddf yn nodi esemptiad ar gyfer contractau amddiffyn a diogelwch rhwng awdurdod contractio a llywodraeth gwladwriaeth neu diriogaeth arall. Ceir rhagor o fanylion yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar ddarpariaethau amddiffyn a diogelwch.

Contractau cyfleustodau

17. Mae Atodlen 2, paragraffau 5 a 6 o’r Ddeddf yn nodi esemptiadau ar gyfer contractau cyfleustodau. Mae paragraff 5 yn esemptio contract rhwng cyfleustod a chyd-fenter berthnasol y mae’r cyfleustod yn barti ynddo. Mae paragraff 6 yn esemptio contract a ddyfernir gan gyfleustod i berson sy’n ymgysylltiol â’r cyfleustod neu gan gyd-fenter berthnasol i berson sy’n ymgysylltiol ag unrhyw aelod o’r gyd-fenter. Ceir rhagor o fanylion yn y canllawiau ar gaffael cyfleustodau.

Cyfrifiadau contractau esempt: Trefniadau fertigol, Trefniadau llorweddol a Phersonau ymgysylltiol

18. Er mwyn ymdrin yn ddigonol â’r holl sylwadau a gyflwynwyd ar wella eglurder darpariaethau’r OS ar gyfrifiadau a hefyd roi digon o amser i ddrafftio ac adolygu’r diwygiadau, gwnaethom benderfynu cael gwared ar y darpariaethau ynglŷn â chyfrifiadau yn Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Yn hytrach, byddwn yn ymgorffori’r darpariaethau hyn yn ein hofferyn statudol nesaf y bwriadwn ei osod ym mis Medi. Caiff y canllaw hwn ei ddiweddaru pan fydd y darpariaethau hyn ynglŷn â chyfrifiadau yn derfynol.

Rhan 2: Contractau esempt ar sail testun

19. Mae Atodlen 2, paragraff 7(1) o’r Ddeddf yn esbonio mai contractau o fath a restrir yn Rhan 2 a fframweithiau ar gyfer dyfarnu contractau yn y dyfodol o fath a restrir yn Rhan 2 yn unig yw contractau esempt. Os bydd fframwaith hefyd yn darparu ar gyfer dyfarnu contractau o fath nas rhestrir yn Rhan 2, nid yw’r esemptiad ar gael. Nid yw’r esemptiadau yn Rhan 2 yn annibynnol ar ei gilydd a gall contract fod yn esempt am ei fod yn dod o dan fwy nag un math o esemptiad.

20. Pan fydd esemptiad yn gymwys i ran o gontract yn unig, mae prawf rhesymoldeb yn gymwys (gweler paragraff 7(2)) i atal y contract rhag bod yn gontract esempt pe gallai’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau sydd i’w darparu at brif ddiben y contract gael eu gwahanu a’u cyflenwi’n rhesymol o dan gontract gwahanol, ac na fyddai’r contract ar wahân hwnnw yn dod o dan un o’r esemptiadau yn Rhan 2.

21. Mae paragraff 7(3) yn darparu, wrth ystyried a yw’n rhesymol cyflenwi’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau o dan gontract ar wahân, y caiff awdurdodau contractio ystyried goblygiadau ymarferol ac ariannol dyfarnu mwy nag un contract. Nid rhestr hollgynhwysfawr yw hon a gellir ystyried ffactorau eraill.

Tir ac adeiladau ac ati

22. Mae Atodlen 2, paragraff 8 o’r Ddeddf yn esemptio contract ar gyfer caffael (drwy ba fodd bynnag y bo) (neu gaffael buddiant mewn neu dros) tir, adeiladau neu unrhyw waith cyflawn arall (a ddiffinnir drwy gyfeirio at Atodlen 1 fel strwythur gweithredol o ganlyniad i gyflawni gweithiau) neu gontract sy’n ymwneud â buddiant neu hawl dros unrhyw gyfryw bethau. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, gontractau i brynu neu rentu parciau neu adeiladau.

23. Mae’r esemptiad yn caniatáu i awdurdodau contractio ystyried adeiladau neu safleoedd penodol sy’n bodloni eu gofynion, gan ystyried nifer o ffactorau, er enghraifft mae angen i ganolfan gwaith, llyfrgell neu swyddfa fod mewn lleoliad penodol, bod ar ffurf cynllun penodol, a chynnig cyfleusterau penodol. Yn yr enghraifft hon, byddai’n amhriodol ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gydymffurfio â’r Ddeddf er mwyn prynu adeilad neu safle penodol sy’n bodoli eisoes; gan mai dim ond perchennog yr adeilad neu’r safle fyddai mewn sefyllfa i ymateb i’r tendr.

Darlledu

24. Ceir dau esemptiad ar gyfer contractau sy’n ymwneud â darlledu. Mae’r esemptiad yn Atodlen 2, paragraff 9 yn esemptio contractau y mae awdurdodau contractio (e.e. y BBC) yn ymrwymo iddynt ar gyfer cynnwys darlledu. Byddai hyn yn caniatáu, er enghraifft, i ddarlledwyr symbylu creadigrwydd drwy bennu terfynau, o fewn y fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu’n unol ag ef, ynglŷn â phwy a all dendro er mwyn cynyddu cystadleuaeth rhwng cyflenwyr mewnol ac allanol.

25. Mae’r esemptiad ym mharagraff 10 yn esemptio contractau ar gyfer yr hawl i ddarlledu (drwy unrhyw fodd) i’r cyhoedd, ddeunydd a gyflenwir gan y cyflenwr – byddai’r deunydd hwn yn cynnwys, er enghraifft, rhaglen neu hysbyseb a gyflenwir gan y cyflenwr.

26. Nid yw’r esemptiadau hyn yn gymwys i gyflenwi cyfarpar neu wasanaethau technegol sydd eu hangen i gynhyrchu, cyd-gynhyrchu a darlledu rhaglenni o’r fath, er enghraifft, camera, goleuadau, propiau.

Gwasanaethau cyfathrebu electronig

27. Mae Atodlen 2, paragraff 11 o’r Ddeddf yn esemptio contractau y mae eu prif ddiben yn ymwneud â hwyluso awdurdod contractio i ddarparu ‘gwasanaeth cyfathrebu electronig’2 i’r cyhoedd. Diffinnir ‘gwasanaeth cyfathrebu electronig’ yn adran 32 o’r Ddeddf Cyfathrebu fel:

a service consisting in, or having as its principal feature, the conveyance by means of an electronic communications network of signals, except insofar as it is a content service.

Mae paragraff 12 yn esemptio contractau y mae eu prif ddiben yn ymwneud â chaniatáu i awdurdod contractio ddarparu, cynnal neu ddefnyddio ‘rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus'. Diffinnir ‘rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus’ yn adran 151 o’r Ddeddf Cyfathrebu fel:

an electronic communications network provided wholly or mainly for the purpose of making electronic communications services available to members of the public.

28. Mae’r contractau hyn yn esempt am fod awdurdodau contractio sy’n cymryd rhan yn y meysydd hyn yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol sy’n ddigon i sicrhau eu bod yn rhoi gwerth am arian heb fod angen rheoleiddio.

Dull amgen o ddatrys anghydfod

29. Mae Atodlen 2, paragraff 13 o’r Ddeddf yn esemptio contractau ar gyfer prynu gwasanaethau cymrodeddu, cyfryngu neu gymodi a gwasanaethau tebyg eraill, a hynny am fod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu gan gyrff neu unigolion sy’n meddu ar arbenigedd penodol neu enw da ac sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng y partïon dan sylw.

Gwasanaethau cyfreithiol

30. Nid yw pob contract ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol yn esempt o dan Atodlen 2, paragraff 14 o’r Ddeddf. Y mathau o wasanaethau cyfreithiol sy’n esempt yw’r rhai sy’n ymwneud â gweithrediadau barnwrol neu weithrediadau eraill i ddatrys anghydfodau, gwasanaethau notari a gwasanaethau y mae’n rhaid iddynt gael eu cyflawni gan berson penodol o dan orchymyn llys neu dribiwnlys neu ddeddfiad, e.e. gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir gan warcheidwaid penodedig. Byddai’n amhriodol mynnu bod y contractau hyn yn agored i gystadleuaeth. Nid yw gwasanaethau cyfreithiol eraill (h.y. y rhai nas rhestrwyd ym mharagraff 14) yn esempt ond, yn hytrach, byddant yn ddarostyngedig i’r rheolau arbennig ar gyfer gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn (nodir gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn yn Atodlen 1 i Reoliadau Caffael 2024 ac maent yn cynnwys gwasanaethau cyfreithiol nas cwmpesir gan yr esemptiad hwn) yn y Ddeddf.

Gwasanaethau ariannol

31. Mae’r esemptiad ar gyfer contractau gwasanaethau ariannol yn cydnabod y byddai’n amhriodol i awdurdodau contractio gael benthyciadau neu wasanaethau ariannol drwy eu caffael o dan y Ddeddf. Byddai’r prif ffynonellau cyllido ar gyfer awdurdodau contractio yn annhebygol o ymateb i hysbysiadau tendro felly byddai’r awdurdod yn annhebygol o gaffael y cytundeb gorau. At hynny, mae’r terfynau amser a llawer o’r rheolau eraill yn anaddas.

32. Mae’r esemptiad yn Atodlen 2, paragraff 15 o’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio gael benthyciadau oddi wrth, er enghraifft, y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, pan fydd angen cyllid arnynt, er enghraifft, ar gyfer prosiectau cyfalaf megis ffyrdd neu adeiladau ysgol newydd.

33. Mae paragraff 16 yn hepgor contractau ar gyfer ‘gwasanaeth neu weithgarwch buddsoddi’, neu ar gyfer ‘gwasanaeth ategol’ mewn perthynas ag ‘offeryn ariannol’ lle mae’r gwasanaeth neu’r gweithgarwch yn cael ei ddarparu gan gwmni buddsoddi neu sefydliad credyd cymwys. Diffinnir y termau hyn mewn deddfwriaeth ar wahân (gweler paragraff 16(2)).

34. Mae’r esemptiad ym mharagraff 17 yn nodi’n glir bod contractau ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan Fanc Lloegr y tu allan i gwmpas y Ddeddf. Mae Banc Lloegr yn cefnogi polisïau economaidd y Llywodraeth. Mae’n cynnig cyfleusterau sterling cyfanwerthu heb risg bron i’r Llywodraeth, yn gweithredu fel asiant gweithredu ar gyfer trafodiadau cyfnewid tramor, yn cefnogi sterling fel arian cyfred wrth gefn byd-eang a gofynion rheoli cronfeydd wrth gefn cilyddol banciau canolog ac yn rheoli cronfeydd wrth gefn arian cyfred tramor fel asiant dros Drysorlys EF. Fel y cyfryw, nid yw contractau â Banc Lloegr yn briodol ar gyfer caffael o dan y Ddeddf.

Cyflogaeth

35. Mae Atodlen 2, paragraffau 18 a 19 o’r Ddeddf yn esemptio contractau cyflogaeth (a ddiffinnir drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth cyflogaeth berthnasol ym mharagraff 18(2)) a chontractau eraill ag unigolion a benodir i swydd gyhoeddus (a all gynnwys penodi cyfarwyddwyr anweithredol awdurdod cyhoeddus neu aelodau o ymchwiliad cyhoeddus).

36. Nid yw’r esemptiad ar gyfer contractau cyflogaeth a chontractau eraill yn cwmpasu contractau gwasanaeth ar gyfer lleoli personél, pan fydd y cyflenwr yn lleoli personél gyda’r awdurdod contractio o dan y contract.

Gwasanaethau brys

37. Mae Atodlen 2, paragraff 20 o’r Ddeddf yn esemptio contractau ar gyfer gwasanaethau brys, ond dim ond mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny a restrir a dim ond os mai sefydliad neu gymdeithas nid er elw yw’r cyflenwr a benodir. Ni chaiff contractau, er enghraifft, ar gyfer gwasanaethau ambiwlans nad ydynt yn rhai brys (e.e. gwasanaethau ambiwlans i gasglu cleifion o’r cartref i’w cludo i apwyntiadau rheolaidd) eu cwmpasu gan yr esemptiad hwn.

Gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus

38. Mae Atodlen 2, paragraff 21 o’r Ddeddf yn esemptio contractau ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus penodol a ddyfernir o dan ddeddfwriaeth ar wahân a bennwyd yn adran 136(11) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993. (Gweler paragraff 76 isod sy’n trafod Atodlen 2, paragraff 37 sydd hefyd yn esemptio contractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus.)

39. Effaith ymarferol yr esemptiad hwn yw bod contractau a ddyfernir ar gyfer consesiynau rheilffyrdd a metro, a bysiau a thramiau, yn esempt o dan y Ddeddf ond nid yw contractau ar gyfer tramiau a bysiau nad ydynt yn gonsesiynau yn esempt ac felly maent yn cael eu caffael o dan y Ddeddf.

Gwasanaethau ymchwil a datblygu

40. Mae’r esemptiad ar gyfer contractau gwasanaethau ymchwil a datblygu yn Atodlen 2, paragraff 22 o’r Ddeddf yn gymwys os bwriedir i’r gwasanaethau fod er budd y cyhoedd neu arwain at fudd y cyhoedd ac ar yr amod nad yw’r contract yn cynnwys nwyddau na gweithiau.

41. Mae’n rhaid i’r gwasanaethau ymchwil a datblygu sydd i’w darparu gynnwys o leiaf un o’r gweithgareddau canlynol:

  1. ymchwil ‘sylfaenol’ i gaffael gwybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd heb unrhyw gymhwysiad na defnydd penodol dan sylw
  2. ymchwil ‘gymhwysol’ a gyfeirir yn bennaf at feithrin gwybodaeth wyddonol neu dechnegol at amcan penodol
  3. datblygiad ‘arbrofol’ sy’n defnyddio gwybodaeth sy’n bodoli eisoes i ddechrau gweithgynhyrchu deunyddiau neu gynhyrchion newydd, sefydlu prosesau, systemau neu wasanaethau newydd; neu sicrhau gwelliant sylweddol mewn deunyddiau, cynhyrchion, prosesau, systemau a gwasanaethau sy’n bodoli eisoes
  4. gweithgynhyrchu a phrofi prototeipiau.

42. Mae cwmpas yr esemptiad ar gyfer gwasanaethau ymchwil a datblygu wedi’i gyfyngu fel na fydd yn cwmpasu diwydiannu’r nwyddau a/neu’r gwasanaethau yn fasnachol. Felly, nid yw’r esemptiad yn gymwys os bydd y contract yn cynn:

  1. cynhyrchu offer at ddibenion gweithgynhyrchu, neu
  2. ddatblygu prosesau diwydiannol i weithgynhyrchu nwyddau neu weithiau sy’n deillio o ymchwil a datblygu a fyddai’n cynnwys, er enghraifft:
    1. gwneud a chymhwyso prototeipiau cyn cynhyrchu a ddefnyddir i ddatblygu’r prosesau gweithgynhyrchu
    2. peiriannu diwydiannol, dylunio neu weithgynhyrchu diwydiannol.

43. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio ddewis sut maent yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu ac yn caffael gwasanaethau ymchwil a datblygu. Mae’r esemptiad ar gyfer gwasanaethau ymchwil a datblygu yn rhoi rhyddid i awdurdodau contractio lunio rhaglenni ymchwil a datblygu a allai geisio datblygu cynhyrchion neu dechnoleg er budd y farchnad yn ei chyfanrwydd, ac nad oes gan yr awdurdod ei hun unrhyw ofynion yn eu cylch. Er enghraifft, contractau’r llywodraeth ar gyfer ymchwil gan sefydliadau ymchwil cyhoeddus, prifysgolion neu’r sector preifat.

44. Yn ychwanegol at yr esemptiad ar gyfer contractau ymchwil a datblygu, mae awdurdodau contractio yn gallu dyfarnu contract yn uniongyrchol pan fydd y cyfiawnhad dros ddyfarnu contract yn uniongyrchol yn Atodlen 5, paragraff 2 (Prototeipiau a datblygu) yn gymwys. Mae i’r seiliau dros ddyfarniad uniongyrchol gwmpas ehangach ar gyfer ymchwil a datblygu na’r esemptiad hwn; gweler y canllaw ar ddyfarniad uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

45. Mae awdurdodau contractio hefyd yn gallu caffael gwasanaethau ymchwil a datblygu o dan weithdrefn hyblyg gystadleuol os mai’r bwriad, er enghraifft, yw cynnwys cam ymchwil a datblygu mewn caffaeliad er mwyn gallu prynu’r cynnyrch terfynol hefyd.

Cytundebau a sefydliadau rhyngwladol

46. Mae Atodlen 2, paragraffau 23 a 24 o’r Ddeddf yn esemptio contractau y mae rhwymedigaeth ar yr awdurdod contractio i’w dyfarnu yn unol â rheolau caffael cytundeb rhyngwladol y mae’r DU yn barti ynddo neu sefydliad rhyngwladol y mae’r DU yn aelod ohono. Gall cytundeb rhyngwladol gynnwys, er enghraifft, confensiwn, cytuniad neu drefniant arall megis memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng gwladwriaethau. Gall sefydliad rhyngwladol gynnwys, er enghraifft, sefydliad rhyngwladol parhaol â phersonoliaeth gyfreithiol ar wahân, a sefydlwyd drwy gytuniad rhwng gwladwriaethau neu sefydliadau rhynglywodraethol.

47. Dim ond os yw cytundeb rhyngwladol yn nodi gweithdrefn gaffael y mae’n rhaid i’r awdurdod contractio ei dilyn y mae’r esemptiad ym mharagraff 23 yn gymwys a hynny dim ond i gontractau sy’n ymwneud â’r canlynol:

  1. lleoli milwyr, neu
  2. weithredu prosiect ar y cyd gan y gwledydd sy’n ei lofnodi.

48. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y mae’r esemptiad ym mharagraff 24 yn gymwys:

  1. mae’n ofyniad gan sefydliad rhyngwladol y mae’r DU yn aelod ohono bod y DU (ac felly awdurdodau contractio) yn dyfarnu contract yn unol â’r weithdrefn a fabwysiadwyd gan y sefydliad, ac
  2. mae’r weithdrefn yn anghyson mewn unrhyw ffordd berthnasol â’r weithdrefn sydd i’w dilyn yn y Ddeddf.

49. Nid yw paragraff 24 yn gymwys i gontractau amddiffyn a diogelwch (mae esemptiadau ar wahân yn gymwys i gontractau amddiffyn a diogelwch).

Diogelwch gwladol

50. Mae’r esemptiad yn Atodlen 2, paragraff 25 o’r Ddeddf yn gymwys i gontractau na ddylent, ym marn awdurdod contractio, er budd diogelwch gwladol, fod yn ddarostyngedig i’r Ddeddf gyfan nac i ran o’r Ddeddf.

51. Ni ddiffinnir diogelwch gwladol yn y Ddeddf er mwyn sicrhau ei fod yn ddigon hyblyg i ddiogelu buddiannau diogelwch gwladol y DU. Nid yw’r canllaw hwn ychwaith yn diffinio diogelwch gwladol. Fodd bynnag, dylai awdurdodau contractio gydnabod bod y cysyniad o ddiogelwch gwladol wedi datblygu y tu hwnt i sofraniaeth, amddiffyn gwladol, cuddwybodaeth a gwrthguddwybodaeth. Gall gynnwys dimensiynau megis gwrthsefyll terfysgaeth a throseddau cyfundrefnol, seiberddiogelwch, cadw trefn gyhoeddus, diogelwch economaidd, cysylltiadau tramor, a diogelwch amgylcheddol.

52. Dim ond er budd diogelwch gwladol y gall penderfyniad i gymhwyso’r eithriad gael ei wneud Mae buddiannau eraill yn amherthnasol. Er enghraifft, ni all awdurdod contractio ddefnyddio’r esemptiad i sicrhau buddiannau economaidd iddo’i hun. Nid yw hyn yn golygu nad oes dimensiwn economaidd pwysig i ddiogelwch gwladol oherwydd gellir ei ddeall fel rhywbeth sy’n diogelu seilwaith a gweithgareddau sy’n hanfodol i weithrediad neu sefydlogrwydd yr economi neu’r system ariannol (gan gynnwys systemau talu) neu ddiogelwch a chadernid sefydliadau ariannol. Felly, efallai y bydd yr esemptiad ar gyfer diogelwch gwladol yn angenrheidiol i ddiogelu seilwaith a gweithgareddau o’r fath ond nid i ddiogelu mantais economaidd i’r awdurdod.

53. Er enghraifft, mae’r senarios lle y gellid defnyddio’r esemptiad diogelwch gwladol ar gyfer seilwaith economaidd ac ariannol hanfodol, ar yr amod bod yr awdurdod contractio yn rhoi cyfiawnhad priodol, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  1. lle mae angen mynediad i safleoedd sensitif iawn, e.e. mynediad i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau cyfrinachol sy’n ymwneud â phapur arian Banc Lloegr, er mwyn cyflawni’r contract
  2. lle mae’r wybodaeth sydd ei hangen i allu cynnig ar gyfer contract a chyflawni’r hyn sy’n ofynnol gan y contract yn gyfrinachol iawn, e.e. gwybodaeth sy’n ymwneud ag agweddau sensitif ar ddyluniad papur arian a nodweddion diogelwch
  3. lle mae cyfrinachedd y contract neu hunaniaeth y darparwr yn hollbwysig i weithrediad neu sefydlogrwydd yr economi genedlaethol neu’r system ariannol (gan gynnwys systemau talu) neu ddiogelwch a chadernid sefydliadau ariannol, e.e.
    1. agor cyfrifon ar gyfer gwasanaethau bancio, a/neu eu cynnal, gan Fanc Lloegr
    2. cyngor cyfreithiol neu broffesiynol neu benodiadau sy’n ymwneud ag ymyriadau â’r farchnad, gwaith cyn datrys, methiant posibl sefydliad(au) ariannol neu weithrediadau gilt.

54. Mae’r esemptiad diogelwch gwladol ar gael i bob awdurdod contractio. Awdurdodau contractau sy’n adnabod eu busnes eu hunain orau, gan gynnwys sut y caiff risgiau i ddiogelwch gwladol eu nodi a’u rheoli i gefnogi eu gweithrediadau a’u gwasanaethau eu hunain ac efallai y byddant am gyhoeddi canllawiau lleol ynglŷn â sut i fynd i’r afael â risgiau penodol i ddiogelwch gwladol sy’n rhai sensitif iawn eu natur, gan gynnwys pwy sy’n gwneud penderfyniadau neu gyda phwy y mae angen ymgynghori, a pha ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried.

55. Cynghorir awdurdodau contractio yn gryf i gadw cofnod ysgrifenedig o’u rhesymeg dros ddefnyddio’r esemptiad hwn. Dylai’r awdurdod contractio esbonio a chyfiawnhau’n fras beth yw’r risgiau hynny i ddiogelwch gwladol a pha gamau sy’n cael eu cymryd i liniaru’r risgiau. Mae angen i’r esboniad hwn fod yn gofnod o’r hyn a benderfynwyd pan gafodd y penderfyniad ei wneud.

Eithriadau diogelwch gwladol mewn cytundebau rhyngwladol

56. Pan fydd awdurdod contractio yn ceisio dibynnu ar esemptiad diogelwch gwladol i ddyfarnu contract a gwmpesir gan gytundeb rhyngwladol â gwlad arall y mae’r DU wedi ymrwymo iddo, dylai’r awdurdod contractio fodloni ei hun fod eithriad yn y cytundeb rhyngwladol yn gymwys mewn perthynas â’r dyfarniad.

57. Bydd y cwestiwn ynghylch a yw contract wedi’i gwmpasu gan gytundeb rhyngwladol yn dibynnu ar b’un a yw’r gweithiau, y gwasanaethau neu’r nwyddau sydd i’w darparu wedi’u cynnwys yn atodlenni cwmpas y DU i’r cytundeb. Er enghraifft, nodir atodlenni cwmpas y DU i Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau mewn saith Atodlen.

58. Mae’r penodau ar gaffael yn y rhan fwyaf o gytundebau rhyngwladol y mae’r DU yn barti ynddynt yn cynnwys eithriad diogelwch gwladol ar yr un telerau â’r hyn a geir yn Erthygl III.1 o’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau, neu ar delerau tebyg i hynny, sy’n nodi:

Nothing in this Agreement shall be construed to prevent any Party from taking any action or not disclosing any information that it considers necessary for the protection of its essential security interests relating to the procurement of arms, ammunition or war materials, or to procurement indispensable for national security or for national defence purposes.

59. Mae’n rhaid i awdurdod contractio sy’n ceisio dibynnu ar yr eithriad hwn fodloni ei hun bod gofynion yr eithriad wedi’u bodloni. Mae’r eithriad yn y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau yn caniatáu i awdurdodau contractio gymryd unrhyw gamau neu beidio â datgelu unrhyw wybodaeth lle bo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau diogelwch hanfodol y DU. Fodd bynnag, dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn y gellir cymhwyso’r eithriad yn y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau yn yr ystyr mai dim ond mewn perthynas â thri chategori caffael y gellir dibynnu arno:

  1. caffael arfau, arfogaeth neu ddeunydd rhyfel
  2. caffael anhepgorol at ddibenion diogelwch gwladol, neu
  3. gaffael at ddibenion amddiffyn gwladol.

60. Ar gyfer pob math arall o gaffael, byddai angen i awdurdod contractio ystyried eithriadau eraill yn y cytundeb rhyngwladol. Er enghraifft, mae Erthygl III.2 o’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau yn darparu’r eithriad canlynol:

Subject to the requirement that such measures are not applied in a manner that would constitute a means of arbitrary or unjustifiable discrimination between Parties where the same conditions prevail or a disguised restriction on international trade, nothing in this Agreement shall be construed to prevent any Party from imposing or enforcing measures:

  1. necessary to protect public morals, order or safety
  2. necessary to protect human, animal or plant life or health
  3. necessary to protect intellectual property, or
  4. relating to goods or services of persons with disabilities, philanthropic institutions or prison labour.

Unwaith eto, mae’n rhaid i awdurdodau contractio sydd am ddibynnu ar yr eithriad hwn ddangos bod gofynion yr esemptiad yn cael eu bodloni. Mae Erthygl III.2(a) a (b) yn berthnasol o bosibl i ddiogelwch gwladol. Ni chaniateir i ddyfarnu’r contract fod yn gyfystyr â dull o wahaniaethu rhwng partïon yn y cytundeb rhyngwladol mewn ffordd fympwyol neu mewn ffordd na ellir ei chyfiawnhau, nac yn gyfyngiad cuddiedig ar fasnach ryngwladol. Hynny yw, ni all awdurdodau contractio ddibynnu ar yr eithriad hwn i ffafrio cyflenwyr o’r DU neu gynnyrch o’r DU mewn ffordd fympwyol neu ffordd na ellir ei chyfiawnhau nac i gyfyngu ar fasnach ryngwladol. Mae’n rhaid i’r contract a ddyfernir hefyd fod yn gysylltiedig â buddiant penodol a bennir yn (a) neu (b), a mynd i’r afael â’r buddiant hwnnw, e.e. trefn gyhoeddus ac mae’n rhaid ei fod yn ‘angenrheidiol’ er mwyn diogelu’r buddiant hwnnw, e.e. gwrthsefyll anhrefn gyhoeddus ar raddfa fawr megis llosgi bwriadol a dwyn.

61. Pan fydd esemptiad diogelwch gwladol yn Atodlen 2, paragraff 25 o’r Ddeddf yn gymwys, mae’n debygol y bydd modd defnyddio esemptiad mewn cytundeb rhyngwladol hefyd, ond mae hyn yn gofyn am ddadansoddiad penodol, ar wahân ym mhob achos unigol. Ceir rhagor o fanylion am y cytundebau rhyngwladol yn Atodlen 9 o’r Ddeddf yn y canllaw ar gyflenwyr masnach gytuniad.

Gweithgareddau cuddwybodaeth

62. Mae Atodlen 2, paragraff 26 o’r Ddeddf yn esemptio contractau at ddibenion cyflawni, hwyluso, neu gefnogi gweithgareddau cuddwybodaeth. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio gweithgareddau cuddwybodaeth, a chyfrifoldeb awdurdodau contractio unigol yw penderfynu a yw’n gymwys i’w gofyniad contractio.

63. Mae adran 2(5)(b) o’r Ddeddf yn nodi bod y Gwasanaeth Diogelwch (MI5), y Gwasanaeth Cuddwybodaeth (MI6) a Phencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCHQ) yn awdurdodau eithriedig ac felly nid ydynt wedi’u cwmpasu gan y diffiniad o awdurdod contractio, sy’n golygu nad ydynt wedi’u cwmpasu gan y Ddeddf, ac felly nad yw’r esemptiad hwn yn berthnasol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yn berthnasol i awdurdodau contractio eraill nad cuddwybodaeth yw eu prif swyddogaeth, e.e. y Swyddfa Gartref, sy’n ymrwymo i gontractau sy’n ymwneud â gweithgareddau cuddwybodaeth.

Contractau amddiffyn a diogelwch

64. Mae Atodlen 2, paragraffau 27 i 30 o’r Ddeddf yn esemptio contractau amddiffyn a diogel:

  1. (paragraff 27) os yw’r cyflenwr wedi’i leoli mewn ardal y tu allan i’r DU lle mae lluoedd arfog yn cael eu hadleoli ac mae anghenion gweithredol yn golygu bod angen i’r contract gael ei ddyfarnu i’r cyflenwr hwnnw.
  2. (paragraff 28) os yw’r cyflenwr wedi’i leoli mewn gwladwriaeth neu diriogaeth y tu allan i’r DU lle mae gan y lluoedd arfog bresenoldeb milwrol ac mae’r wladwriaeth neu’r wlad letyol yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflenwr ddarparu’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gwaith y mae’r contract yn ymwneud â nhw.
  3. (paragraff 29) os yw contractau yn cael eu dyfarnu o dan weithdrefn a fabwysiedir gan sefydliad rhyngwladol y mae’r DU yn aelod ohono.
  4. (paragraff 30) os yw contractau yn cael eu dyfarnu o dan drefniadau rhyngwladol i ddatblygu cynhyrchion newydd ar y cyd neu i ymelwa ar y prosiectau hynny ar ôl iddynt gael eu datblygu.

65. Ceir rhagor o fanylion yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar ddarpariaethau amddiffyn a diogelwch.

Contractau cyfleustodau

66. Mae Atodlen 2, paragraffau 31 i 34 o’r Ddeddf yn esemptio contractau cyfleustodau fel a ganlyn:

  1. (paragraff 31) contractau sy’n cael eu dyfarnu at ddibenion gwerthu neu brydlesu’r nwyddau, y gweithiau neu’r gwasanaethau a gyflenwir o dan y contractau hynny i drydydd partïon (ac eithrio pan mai awdurdod prynu canolog yw’r cyfleustod).
  2. (paragraffau 32 a 33) contractau ar gyfer prynu dŵr neu ynni, neu danwydd i gynhyrchu ynni, gan gyfleustodau sy’n cyflawni gweithgarwch cyfleustod perthnasol.
  3. (paragraff 34) contractau ar gyfer y gweithgareddau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4, sydd wedi’u hesemptio rhag y Ddeddf am eu bod wedi’u hamlygu i rymoedd cystadleuol mewn marchnad heb gyfyngiadau.

67. Ceir rhagor o fanylion yn y canllawiau ar gaffael cyfleus.

Contractau consesiwn

68. Mae Atodlen 2, paragraffau 35 i 37 o’r Ddeddf yn esemptio contractau consesiwn fel a ganlyn:

  1. (paragraff 35) ar gyfer cyflawni gweithgarwch cyfleustod ar gyfer gwasanaethau dŵr penodol.
  2. (paragraff 36) contractau sy’n rhoi hawl lwyr-gyfyngedig i weithredu gwasanaeth hedfan rheolaidd perthnasol.
  3. (paragraff 37) contractau ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus.

69. Ceir rhagor o fanylion yn y canllaw ar gaffael consesiynau.

Dinas Llundain

70. Mae Atodlen 2, paragraff 38 o’r Ddeddf yn esemptio contractau yr ymrwymir iddynt gan Gyngor Cyffredin Corfforaeth Dinas Llundain ac eithrio at ddibenion ei swyddogaethau cyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu i Ddinas Llundain ymgymryd â chaffaeliadau sy’n ymwneud â’i gweithgareddau masnachu masnachol heb gymhwyso’r Ddeddf ac mae’n angenrheidiol oherwydd strwythur unigryw Dinas Llundain.

Pa ganllawiau eraill sy’n berthnasol i’r pwnc hwn?