Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw contractau cyffyrddiad ysgafn?

1. Contractau cyffyrddiad ysgafn yw contractau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau addysg penodol a gwasanaethau cyhoeddus penodol eraill ac maent yn ddarostyngedig i reolau caffael mwy hyblyg. Un peth sydd gan y gwasanaethau hyn yn gyffredin yw eu bod yn wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol i unigolion neu grwpiau o bobl a'u bod, felly, yn haeddu cael triniaeth arbennig a mwy o hyblygrwydd.

2. Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â'r darpariaethau penodol sy'n gymwys i gontractau cyffyrddiad ysgafn yn unig. Os nad oes unrhyw ddarpariaethau penodol, nid oes unrhyw wahaniaeth o ran contractau cyffyrddiad ysgafn a dylid cyfeirio at ganllawiau perthnasol eraill ar agweddau gwahanol ar Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf).

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu contractau cyffyrddiad ysgafn?

3. Mae adran 9 (Contractau cyffyrddiad ysgafn) o'r Ddeddf yn diffinio ‘contract cyffyrddiad ysgafn’ ac yn darparu i reoliadau nodi pa wasanaethau (y cyfeirir atynt yn y rheoliadau fel ‘gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn’) y gellir eu caffael o dan gontract cyffyrddiad ysgafn.

4. Mae Atodlen 1 i Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau) yn nodi pa wasanaethau sy'n wasanaethau cyffyrddiad ysgafn drwy ddisgrifiad ac yn cyfeirio at godau cyfatebol yr Eirfa Gaffael Gyffredin. Mae contractau cyffyrddiad ysgafn (nad ydynt yn gontractau esempt) yn gontractau cyhoeddus os ydynt uwchlaw'r trothwy perthnasol yn Atodlen 1 i'r Ddeddf ar gyfer y math o gontract.

5. Mae'r Ddeddf yn cynnwys rheolau ac esemptiadau arbennig ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn a grynhoir yn y tabl yn Atodiad A i'r canllaw hwn.

6. Mae adran 33 (Neilltuo contractau i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus) yn caniatáu i gontractau cyffyrddiad ysgafn penodol gael eu neilltuo i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus, ar yr amod mai pum mlynedd neu lai yw cyfnod y contract.

Beth sydd wedi newid?

7. Mae'r Ddeddf yn nodi pa gontractau sy'n gontractau cyffyrddiad ysgafn yn yr un modd, fwy neu lai, â'r ddeddfwriaeth flaenorol – drwy nodi'r gwasanaethau penodol y gellir eu caffael o dan gontractau cyffyrddiad ysgafn. Er nad oes unrhyw reolau ar wahân mwyach, mae eithriadau a darpariaethau arbennig yn y Ddeddf sy'n golygu bod mwy o hyblygrwydd a llai o reolau sy'n llywodraethu sut y cynhelir ymarferion caffael ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn.

8. Mae Atodlen 5, paragraffau 15 i 17 (Cyfiawnhad dros ddyfarniadau uniongyrchol) o'r Ddeddf yn nodi cadarnhad newydd dros ddyfarniad uniongyrchol ar gyfer ‘contractau dewis defnyddwyr’, sy'n golygu, os caiff ei fodloni, nad oes angen i'r awdurdod contractio gynnal gweithdrefn dendro gystadleuol cyn dyfarnu contract. Yn fras, mae'r cadarnhad hwn dros ddyfarniadau uniongyrchol yn gymwys lle mae deddfwriaeth neu ganllawiau statudol ar wahân yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr awdurdod contractio, wrth gaffael gwasanaethau o'r fath, i ystyried barn defnyddiwr y gwasanaethau, neu ei ofalwr, ynghylch pa gyflenwr ddylai ddarparu'r gwasanaethau.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

Cymhwyso

9. Contract cyffyrddiad ysgafn yw contract sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cyflenwi gwasanaethau, fel y nodwyd uchod, o fath a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau.

10. Mae'r darpariaethau cyffyrddiad ysgafn penodol yn y Ddeddf yn gymwys mewn caffaeliadau:

  1. pan fydd y contract cyffyrddiad ysgafn yn gontract cyhoeddus, a
  2. pan na fydd y caffaeliad yn gaffaeliad iechyd rheoleiddiedig fel y'i diffiniwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.

11. Mae contract cyffyrddiad ysgafn yn gontract cyhoeddus:

  1. pan fydd gwerth amcangyfrifedig y contract yn uwch na'r trothwy ariannol perthnasol, a
  2. pan na fydd y contract yn gontract esempt fel y'i diffiniwyd yn y Ddeddf (gweler y canllaw ar gontractau esempt).

Beth yw caffaeliad iechyd rheoleiddiedig?

12. Mae caffaeliad iechyd rheoleiddiedig yn cyfeirio at nwyddau neu wasanaethau penodedig a gaiff eu caffael gan ‘awdurdod perthnasol’ sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau caffael ar wahân a wnaed o dan adran 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Bydd Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Cyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) sydd i'w cyhoeddi, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, yn cyflwyno ‘Cyfundrefn Dethol Darparwyr newydd Cymru’ ac yn gwneud darpariaeth ar wahân ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd penodol gan awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Diffinnir ‘awdurdod perthnasol’ o dan adran 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac mae'n cynnwys byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau iechyd arbennig a chynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y rheolau a sefydlir o dan Reoliadau Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru, yn hytrach na Deddf Caffael 2023, wrth gaffael gwasanaethau iechyd a gwmpesir gan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Beth yw'r trothwyon ariannol ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn?

13. Mae Atodlen 1 o'r Ddeddf yn nodi'r trothwyon gwahanol sy'n gymwys i'r categorïau gwahanol o gontractau. Mae p'un a yw gwerth amcangyfrifedig contract (nad yw'n gontract esempt) uwchlaw neu islaw'r trothwy perthnasol yn pennu a yw'n gontract cyhoeddus o dan y Ddeddf, hynny yw, a yw'n ddarostyngedig, yn gyffredinol, i'r rheolau ar gyfer contractau cyhoeddus, neu (os yw'n berthnasol) i'r darpariaethau o dan y trothwy yn Rhan 6.

14. Nodir isod y trothwyon ariannol presennol y mae contractau cyffyrddiad ysgafn yn gontractau cyhoeddus pan fyddant yn eu cyrraedd neu'n uwch na nhw, ac maent wedi bod yn gymwys ers 1 Ionawr 2024. Mae'r trothwyon yn y Ddeddf yn adlewyrchu'r rhai a oedd ar waith pan gafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol a chânt eu diweddaru drwy is-ddeddfwriaeth cyn i'r Ddeddf ddod i rym.

Contractau cyffyrddiad ysgafnTrothwy
Contract cyfleustodau sy'n gontract cyffyrddiad ysgafn£884,720
Contract consesiwn sy'n gontract cyffyrddiad ysgafn£5,372,609
Pob contract cyffyrddiad ysgafn arall£663,540

15. Nodir y rheolau ynglŷn â chyfrifo gwerth amcangyfrifedig contract yn Atodlen 3 i'r Ddeddf (Amcangyfrif gwerth contract). Y brif egwyddor yw bod yn rhaid i'r amcangyfrif adlewyrchu'r cyfanswm tebygol y gallai'r awdurdod contractio ddisgwyl ei dalu o dan y contract (gan gynnwys TAW) ac nad bwriad y dull cyfrifo yw osgoi gorfod cydymffurfio â'r Ddeddf. Gweler y canllaw ar brisio gontractau am ragor o wybodaeth.

Caffael contractau cyffyrddiad ysgafn

16. Mae'r Ddeddf yn integreiddio contractau cyffyrddiad ysgafn yn y gyfundrefn gaffael ehangach ac yn cynnwys rheolau ac esemptiadau arbennig pan ellir cyfiawnhau mwy o hyblygrwydd. Mae hyn yn nodi'n glir sut y dylid cynnal caffaeliadau o'r fath ac yn sicrhau bod uniondeb a thryloywder yn rhan annatod o'r broses, gan barchu nodweddion unigryw'r contractau hyn ar yr un pryd.

17. Rhaid hysbysebu contractau cyffyrddiad ysgafn gan ddefnyddio hysbysiad tendro oni fydd cyfiawnhad dros ddyfarniad uniongyrchol yn gymwys. Mae'n ofynnol i awdurdodau contractio gadarnhau a yw cyflenwyr yn gyflenwyr gwaharddedig neu waharddadwy ac ystyried gwrthdaro buddiannau cyn dyfarnu'r contract. Sicrheir tryloywder drwy ofynion cyhoeddi, gan gynnwys gofynion ar gyfer hysbysiad dyfarnu contract a hysbysiad manylion contract. Pan fydd awdurdod Cymreig datganoledig yn caffael o dan drefniant caffael a neilltuir ac mae'r contract yn werth mwy na £5 miliwn, bydd angen cyhoeddi'r contract hefyd.

18. Mae caffael contract cyffyrddiad ysgafn sy'n gontract cyhoeddus yn gaffaeliad a gwmpesir ac, felly, bydd yn ddarostyngedig i'r amcanion caffael yn adran 12 (Caffaeliad a gwmpesir: amcanion) o'r Ddeddf. Yn ôl y rhain, rhaid i awdurdod contractio ystyried y canlynol:

  1. pwysigrwydd sicrhau gwerth am arian
  2. pwysigrwydd sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r cyhoedd
  3. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth er mwyn i gyflenwyr ac eraill allu deall polisïau a phenderfyniadau caffael yr awdurdod contractio
  4. pwysigrwydd gweithredu ag uniondeb, a chael ei weld yn gweithredu felly.

19. Mae adran 12 hefyd yn darparu, wrth gynnal caffaeliad a gwmpesir, fod yn rhaid i awdurdodau contractio wneud y canlynol:

  1. trin cyflenwyr yn yr un ffordd oni ellir cyfiawnhau eu trin yn wahanol
  2. rhoi sylw i'r ffaith y gall busnesau bach a chanolig wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan ac ystyried a ellir dileu neu leihau rhwystrau o'r fath.

20. Mae'r amcanion caffael hyn yn darparu paramedrau cyffredinol ac mae gan yr awdurdod contractio y rhyddid i lunio'r weithdrefn ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn o fewn y paramedrau hyn. Gweler y canllaw ar amcanion caffaeliad a gwmpesir am ragor o wybodaeth.

Neilltuo contractau ar gyfer gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus

21. Mae adran 33 o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio neilltuo mathau penodol o gontractau i gwmnïau cydfuddiannol yn y sector cyhoeddus. Mae'r gallu hwn yn ategu'r agenda gwerth cymdeithasol a gall helpu awdurdodau contractio i gyflawni ymrwymiadau o ran gwerth cymdeithasol drwy ddyfarnu contractau i gyflenwyr y mae i flaenoriaethau o'r fath le canolog yn eu sefydliad. Er bod neilltuo contractau yn cael ei annog, rhaid i unrhyw benderfyniad i wneud hynny gael ei ystyried yng nghyd-destun ehangach gwerth am arian.

22. Cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus yw sefydliadau:

  1. sy'n gweithredu er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn bennaf er mwyn darparu un neu fwy o ‘wasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy’ (gweler paragraff 24 isod)
  2. sy'n sefydliadau nid er elw, neu sy'n darparu ar gyfer dosbarthu elw i'w haelodau yn unig, ac
  3. sy'n cael eu rheoli gan eu cyflogeion.

23. Er mwyn cael ‘contract a neilltuir’, rhaid i gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus fod yn ‘gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymhwysol’, sy'n golygu na ddylai fod wedi ymrwymo i gontract a neilltuir ar gyfer yr un math o wasanaethau cyffyrddiad ysgafn gyda'r un awdurdod contractio yn ystod y tair blynedd flaenorol.

24. Y mathau o gontractau cyffyrddiad ysgafn y gellir eu neilltuo o dan adran 33 yw'r rhai ar gyfer cyflenwi ‘gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy’, lle mae'r llythyren “N” wedi'i nodi ger y disgrifiad o'r gwasanaeth yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau.

25. Os bydd contract yn cael ei neilltuo i gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus, mae adran 33(2) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio ddefnyddio'r weithdrefn hyblyg gystadleuol oherwydd, yn wahanol i'r weithdrefn agored, mae'n darparu ar gyfer eithrio cyflenwyr nad ydynt yn bodloni'r gofyniad hwn.

26. Mae adran 33(4) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio ddiystyru unrhyw dendrau gan gyflenwyr nad ydynt yn gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymhwysol wrth asesu tendrau o dan adran 19 pan fyddant yn cynnal gweithdrefn o'r fath. Gellir gwneud hyn ar y cam cymryd rhan neu fel rhan o'r asesiad o dendrau, gan ddibynnu ar sut mae'r weithdrefn wedi'i strwythuro. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllaw ar gontractau a neilltuir i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth.

Lotiau

27. Mae adran 18 (Dyletswydd i ystyried lotiau) o'r Ddeddf yn gymwys i gontractau cyffyrddiad ysgafn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio ystyried a ellid rhannu'r gofyniad yn lotiau a chyflenwi'r gwasanaethau o dan fwy nag un contract. Ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn, mae rheoliad 19(2)(q) (Hysbysiadau tendro: gweithdrefn agored) o'r Rheoliadau yn darparu nad oes gofyniad i roi cyfiawnhad yn yr hysbysiad tendro os na fydd y contract yn cael ei rannu'n lotiau. Gweler y canllaw ar lotiau am ragor o wybodaeth.

Gweithdrefnau tendro cystadleuol

28. Mae awdurdodau contractio sy'n dyfarnu contractau cyffyrddiad ysgafn yn ddarostyngedig i'r un darpariaethau sy'n ymwneud â gweithdrefnau tendro cystadleuol ag sy'n gymwys wrth ddyfarnu mathau eraill o gontractau. Nodir y darpariaethau sy'n ymwneud â gweithdrefnau tendro cystadleuol yn adran 20 (Gweithdrefnau tendro cystadleuol) o'r Ddeddf. Gweler y canllaw ar weithdrefnau tendro cystadleuol am ragor o wybodaeth.

29. Nid yw'r cyfnodau cymryd rhan a thendro ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn yn cael eu gwneud yn orfodol gan adran 54 (Terfynau amser) o'r Ddeddf, sy'n golygu y gellir caffael gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn yn gyflymach. Fodd bynnag, rhaid i awdurdodau contractio sicrhau bod amserlenni yn rhesymol, er enghraifft, gan ystyried natur y gofyniad a chymhlethdod y contract sy'n cael ei ddyfarnu (gweler adran 54(1)).

Newidiadau i weithdrefnau cystadleuol cyn cyflwyno tendrau terfynol

30. Mae adran 31(2)(b) (Addasu caffaeliad adran 19) o'r Ddeddf yn caniatáu i addasiadau i weithdrefn hyblyg gystadleuol, hyd yn oed os ystyrir eu bod yn sylweddol, gael eu gwneud cyn y terfyn amser ar cyflwyno tendrau terfynol pan fydd y caffaeliad ar gyfer contract cyffyrddiad ysgafn.

31. Wrth wneud addasiadau o'r fath, rhaid i awdurdodau contractio wneud y canlynol:

  1. sicrhau bod addasiadau o'r fath yn cyd-fynd â'r amcanion caffael yn adran 12 o'r Ddeddf
  2. ystyried diwygio unrhyw amserlenni cymwys o ganlyniad i addasiadau o'r fath
  3. hysbysu'r cyflenwyr sy'n cymryd rhan am newidiadau o'r fath, pan fydd cyfnod cymryd rhan yn gymwys.

Dyfarniad uniongyrchol

32. Mae adran 41 (Dyfarniad uniongyrchol mewn achosion arbennig) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract heb gynnal gweithdrefn dendro gystadleuol yn gyntaf pan fydd cyfiawnhad dros ddyfarniad uniongyrchol (fel y'i nodir yn Atodlen 5 i'r Ddeddf) yn gymwys. Er y gall mathau eraill o gyfiawnhad fod yn berthnasol, mae cyfiawnhad penodol ar gyfer contractau ar gyfer ‘gwasanaethau dewis defnyddwyr’ a gallai'r rhai a nodir isod fod yn arbennig o berthnasol.

33. Mae Atodlen 5, paragraff 6 (Cyflenwyr unigol) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract yn uniongyrchol pan fydd rhesymau technegol yn golygu mai dim ond cyflenwr penodol a all gyflenwi'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith gofynnol, ac nad oes unrhyw ddewisiadau amgen rhesymol i'r nwyddau neu'r gwasanaethau hynny neu'r gwaith hwnnw. Yng nghyd-destun contractau cyffyrddiad ysgafn, gallai hyn godi pan fydd defnyddio cyfundrefn ddeddfwriaethol benodol yn golygu mai dim ond i un darparwr penodol y gellir dyfarnu'r contract. Er enghraifft, o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, gallai fod yn ofynnol i ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol gael ei darparu gan gyflenwr penodol. Mewn rhai achosion gall tribiwnlys annibynnol benderfynu bod yn rhaid i ddarparwr penodol ddarparu gwasanaethau addysg, a bydd cydymffurfio â'r penderfyniad barnwrol hwnnw yn bodloni'r sail dros ddyfarniad uniongyrchol am resymau technegol.

34. Mae Atodlen 5, paragraffau 15 i 17 (Contractau dewis defnyddwyr) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract dewis defnyddwyr yn uniongyrchol. Rhaid i'r contract fod ar gyfer gwasanaethau dewis defnyddwyr a rhaid i'r awdurdod contractio fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol (er enghraifft, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i ystyried barn yr unigolyn sy'n cael y gwasanaethau, neu ei ofalwr, wrth ddethol y cyflenwr y dyfernir y contract iddo. Mae hyn yn dangos yn glir nad oes gofyniad o dan y Ddeddf i gynnal gweithdrefn dendro gystadleuol mewn sefyllfa lle mae gan yr unigolyn, neu ei ofalwr, hawl gyfreithiol i fynnu bod yr awdurdod contractio yn ystyried ei ddymuniad bod cyflenwr penodol yn cael ei ddewis ac mae paragraffau 15 i 17 yn gymwys.

35. Mae Atodlen 5, paragraff 16 o'r Ddeddf yn diffinio gwasanaethau dewis defnyddwyr fel gwasanaethau:

  1. sydd o fath a nodir mewn rheoliadau o dan adran 9 (Contractau cyffyrddiad ysgafn)
  2. a gyflenwir er budd unigolyn penodol, ac
  3. y byddai'n ofynnol i awdurdod contractio, wrth ddyfarnu contract ar gyfer eu cyflenwi, o dan ddeddfiad, ystyried barn yr unigolyn, neu berson sy'n darparu gofal i'r unigolyn (ei ofalwr), ynghylch pwy ddylai gyflenwi'r gwasanaethau.

36. Rhaid i'r contract gydymffurfio â'r amodau yn Atodlen 5, paragraff 17 o'r Ddeddf:

  1. paragraff 17(a), bod yr unigolyn neu'r gofalwr wedi mynegi dymuniad o ran pwy ddylai gyflenwi'r gwasanaethau, neu fod natur y gwasanaethau sydd i'w cyflenwi yn golygu mai dim ond un cyflenwr a all eu darparu, a
  2. paragraff 17(b), bod yr awdurdod contractio o'r farn nad yw defnyddio gweithdrefn dendro gystadleuol er lles pennaf yr unigolyn.

37. Mae gan awdurdodau contractio yr hyblygrwydd i adlewyrchu anghenion penodol categorïau gwahanol o ddefnyddwyr (gan gynnwys yr angen i gynnwys a grymuso grwpiau dan anfantais a grwpiau sy'n agored i niwed) yn y meini prawf dyfarnu ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn.

38. Yn gyffredinol, rhaid i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad tryloywder cyn dyfarnu contract cyffyrddiad ysgafn yn uniongyrchol. Nid yw'r hysbysiad yn ofynnol ar gyfer contractau dewis defnyddwyr a ddyfernir o dan baragraffau 15 i 17 o Atodlen 5 i'r Ddeddf.

39. Gweler y canllaw ar ddyfarniad uniongyrchol am ragor o wybodaeth am y mathau hyn o gyfiawnhad.

Fframweithiau

40. Mae'r diffiniad o gontract cyffyrddiad ysgafn o dan y Ddeddf yn cynnwys ‘fframwaith cyffyrddiad ysgafn’, sef contract sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn yn dyfodol.

41. Mae hyn yn golygu bod fframweithiau cyffyrddiad ysgafn, ar y cyfan, yn ddarostyngedig i'r Ddeddf, er enghraifft mae'r darpariaethau yn adran 45 (Fframweithiau) sy'n ymwneud â fframweithiau yn gymwys, ar y cyfan. Fodd bynnag, mae eithriadau ac mae adran 45(9) yn rhoi mwy o hyblygrwydd gan nad oes gofyniad i gynnal proses ddethol gystadleuol (ac, felly, nid yw adran 46 yn gymwys) nac i wybodaeth benodol gael ei chynnwys yn y fframwaith. Mae adran 47(5)(c) yn darparu nad oes cyfnod hwyaf ar gyfer fframwaith cyffyrddiad ysgafn.

42. Pan fydd fframwaith nad yw'n gontract cyffyrddiad ysgafn yn cael ei ddefnyddio i ddyfarnu contractau ar gyfer gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn, bydd holl ddarpariaethau'r Ddeddf yn gymwys, gan gynnwys, er enghraifft, y broses ddethol gystadleuol a nodir yn y fframwaith.

Meini prawf dyfarnu

43. Mae adran 23(6) (Meini prawf dyfarnu) o'r Ddeddf yn caniatáu i ffactorau ychwanegol gael eu hystyried mewn meini prawf dyfarnu ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn, er mwyn adlewyrchu'r ffaith y gall derbynnydd gwasanaeth fod â'r hawl i arfer ei ddewis, neu y gall agosrwydd y cyflenwr a defnyddiwr y gwasanaeth fod yn bwysig er mwyn cyflenwi gwasanaethau yn effeithiol ac yn effeithlon (h.y. er mwyn sicrhau nad oes nifer o ddarparwyr gofal yn cris-groesi awdurdod lleol).

Cyfnod segur

44. Mae adran 51(3)(f) (Cyfnodau segur o ran dyfarnu contractau) o'r Ddeddf yn darparu nad oes cyfnod segur gorfodol ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn, er bod awdurdodau contractio yn cael eu hannog i ddefnyddio cyfnod segur gwirfoddol er mwyn lleihau'r risg y caiff y contract ei osod o'r neilltu o dan adran 105 (Rhwymedïau ôl-gontractiol: amodau gosod o'r neilltu) o'r Ddeddf. Gweler y canllaw ar hysbysiadau dyfarnu contract a'r cyfnod segur am ragor o wybodaeth.

Dangosyddion perfformiad allweddol

45. Mae adran 52(6) (Dangosyddion perfformiad allweddol) o'r Ddeddf yn esemptio contractau cyffyrddiad ysgafn rhag y gofyniad i awdurdodau contractio bennu a cyhoeddi o leiaf dri dangosydd perfformiad allweddol mewn perthynas â chontractau gwerth mwy na £5 miliwn.

Addasu contractau

46. Mae adran 74(2) (Addasu contract cyhoeddus) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer addasu contractau cyffyrddiad ysgafn, heb orfod cymhwyso darpariaethau eraill yr adran. At hynny, yn unol ag adran 75(6) (Hysbysiadau newid contract) o'r Ddeddf, nid oes gofyniad i gyhoeddi hysbysiad newid contract yn achos contract cyffyrddiad ysgafn sy'n cael ei addasu. Unwaith eto, mae hyn yn adlewyrchu'r bwriad cyffredinol i gynnal rheolau cyffyrddiad ysgafn llai beichus.

47. Felly, gellir addasu contractau cyffyrddiad ysgafn o dan y Ddeddf o dan unrhyw amgylchiadau, ar yr amod bod awdurdodau contractio yn ystyried yr amcanion caffael yn adran 12 o'r Ddeddf.

Beth yw'r prif hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r agwedd hon ar y Ddeddf?

48. Caiff y broses o gaffael contractau cyffyrddiad ysgafn o dan y Ddeddf ei rheoli, ar y cyfan, gan yr un gofynion o ran tryloywder a hysbysiadau ag sy'n gymwys i gontractau eraill. Nodir yr eithriadau yn fanylach uchod ac maent fel a ganlyn:

  1. nid yw'n ofynnol i gontractau cyffyrddiad ysgafn gyfiawnhau peidio â dyfarnu contract drwy gyfeirio at lotiau mewn hysbysiad tendro (gweler paragraff 27 uchod)
  2. nid yw contractau cyffyrddiad ysgafn yn ddarostyngedig i gyfnod segur gorfodol ac, felly, nid oes gofyniad i nodi cyfnod segur yn yr hysbysiad dyfarnu contract (rhaid cynnwys gwybodaeth am gyfnod segur gwirfoddol os bwriedir defnyddio cyfnod o'r fath) (gweler paragraff 44 uchod)
  3. mae angen cyhoeddi hysbysiad manylion contract ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn o fewn 120 diwrnod ar ôl i'r awdurdod contractio ymrwymo i'r contract a chyhoeddi'r contract (pan fo'n ofynnol o dan drefniant caffael a neilltuir) o fewn 180 diwrnod (adran 53 ‘Hysbysiadau manylion contract a chyhoeddi contractau’ o'r Ddeddf)
  4. nid yw'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gontractau cyffyrddiad ysgafn bennu na chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol ac, felly, nid yw'r gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth gysylltiedig am berfformiad yn yr hysbysiad cyflawni contract yn gymwys (gweler paragraff 45 uchod)
  5. nid oes gofyniad i awdurdodau contractio sy'n addasu contract cyffyrddiad ysgafn gyhoeddi hysbysiad newid contract (gweler paragraffau 46-47 uchod).

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

49. Bydd angen i awdurdodau contractio sy'n dyfarnu contractau cyffyrddiad ysgafn ddeall y Ddeddf gyfan, am fod yr un darpariaethau (er enghraifft, darpariaethau ynglŷn â gweithdrefnau tendro cystadleuol, amodau cymryd rhan a meini prawf dyfarnu) ag sy'n gymwys i awdurdodau contractio sy'n dyfarnu contractau eraill yn gymwys. Fodd bynnag, mae'r canllawiau canlynol yn arbennig o berthnasol wrth gadarnhau a gaiff contract ei reoli gan y darpariaethau yn y Ddeddf ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn:

  • Canllaw ar drothwyon
  • Canllaw ar gontractau esempt
  • Canllaw ar gaffaeliadau cymysg
  • Canllaw ar amcanion caffael a gwmpesir
  • Canllawiau ar gontractau a neilltuir i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth
  • Canllaw ar ddyfarniad uniongyrchol
  • Canllaw ar lotiau
  • Canllaw ar weithdrefnau tendro cystadleuol
  • Canllaw ar brisio contractau
  • Canllaw ar hysbysiadau dyfarnu contract a'r cyfnod segur

Atodiad A: Crynodeb o'r darpariaethau cyffyrddiad ysgafn penodol yn y Ddeddf

Adran 9 – Contractau cyffyrddiad ysgafn

Mae adran 9(1) yn diffinio ‘contract cyffyrddiad ysgafn’ fel contract sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cyflenwi gwasanaethau penodol a nodir drwy reoliadau a wneir o dan adran 9(2).

Mae adran 9(2) yn darparu y caiff awdurdod priodol (a ddiffinnir yn adran 123(1)), drwy reoliadau, nodi pa wasanaethau sy'n wasanaethau cyffyrddiad ysgafn.

Mae adran 9(3-4) yn cyfyngu ar y pŵer yn 9(2) drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdod priodol ystyried natur y gwasanaethau ac a yw'n briodol iddynt fod yn gontractau cyffyrddiad ysgafn.

Mae adran 9(5) yn egluro bod cyfeiriad at gontract cyffyrddiad ysgafn yn cynnwys cyfeiriad at fframwaith ar gyfer dyfarnu contractau cyffyrddiad ysgafn.

Adran 10 – Caffael cymysg: contractau cyfundrefn arbennig

Mae adran 10(6) yn rhestru contractau cyffyrddiad ysgafn ymhlith y mathau gwahanol o gontractau cyfundrefn arbennig.

Bydd rhai contractau cymysg yn cynnwys elfennau a fyddai, petaent yn cael eu caffael ar wahân, yn ddarostyngedig i reolau arbennig, megis contractau cyffyrddiad ysgafn. Wrth ddyfarnu contract cymysg sy'n cynnwys un neu fwy o elfennau a fyddai, petaent yn cael eu caffael ar wahân, yn ddarostyngedig i ‘gyfundrefn arbennig’, ynghyd ag elfennau uwchlaw'r trothwy eraill na fyddent yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn arbennig honno, mae adran 10(3) yn darparu na all awdurdod contractio fanteisio ar reolau cyfundrefn arbennig o'r fath pan fyddai'n rhesymol rhannu'r gofyniad.

Adran 23 – Meini prawf dyfarnu

Mae adran 23(6) yn darparu rhestr ychwanegol (nad yw'n hollgynhwysfawr) o'r hyn a all fod yn gyfystyr â ‘phwnc contract’ ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn. Mae hyn yn cynnwys barn unigolyn neu ei ofalwr ac anghenion gwahanol derbynwyr gwasanaethau gwahanol. Gall hefyd gynnwys pan fydd agosrwydd y cyflenwr a derbynwyr gwasanaethau yn bwysig er mwyn cyflenwi'r gwasanaethau yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'r hyblygrwydd ychwanegol hwn yn cydnabod natur arbennig y contractau hyn.

Adran 31 – Addasu caffaeliad adran 19

Mae adran 31(2)(b) yn darparu ar gyfer addasu telerau gweithdrefn hyblyg gystadleuol ar gyfer caffael contract cyffyrddiad ysgafn cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno tendrau neu dendrau terfynol, fel y bo'n berthnasol.

Adran 33 – Neilltuo contractau i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus

Mae adran 33(1) yn darparu y gall contract ar gyfer ‘gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy’ â chyfnod hwyaf o bum mlynedd neu lai gael ei neilltuo i ‘gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymhwysol’ o dan yr adran hon.

Mae adran 33(2-4) yn nodi bod yn rhaid i'r caffaeliad gael ei gynnal o dan weithdrefn hyblyg gystadleuol a bod yn rhaid i'r awdurdod contractio ddiystyru unrhyw dendr gan gyflenwr nad yw'n gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymhwysol.

Mae adran 33(8) yn caniatáu i awdurdod priodol nodi, drwy reoliadau, pa rai o'r gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn (sydd wedi'u nodi fel y cyfryw drwy reoliadau a wneir o dan adran 9 (contractau cyffyrddiad ysgafn)) sy'n ‘wasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy’, ac, felly, sy'n neilltuadwy o dan yr adran hon.

Adran 45 – Fframweithiau

Mae adran 45(9) yn darparu nad yw adran 45(3-5) yn gymwys pan fydd fframwaith yn gontract cyffyrddiad ysgafn (h.y. mae'n fframwaith sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer dyfarnu contractau cyffyrddiad ysgafn yn y dyfodol).

Mae adran 45(3-5) yn cynnwys rheolau ynglŷn â'r prosesau dethol ar gyfer dyfarnu contractau a pha wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y fframwaith.

Adran 46 – Fframweithiau: proses ddethol gystadleuol

Mae adran 46(11) yn nodi nad yw'r adran hon yn gymwys pan fydd y fframwaith yn gontract cyffyrddiad ysgafn.

Adran 47 – Fframweithiau: cyfnod hwyaf

Mae adran 47(5)(c) yn nodi nad yw'r adran hon (nac felly'r cyfnod hwyaf) yn gymwys i fframweithiau sy'n gontractau cyffyrddiad ysgafn.

Adran 51 – Cyfnodau segur o ran dyfarnu contractau

Mae adran 51(3) yn esbonio nad oes angen cyfnod segur gorfodol ar gyfer mathau penodol o gontract, sy'n cynnwys contractau cyffyrddiad ysgafn. Mae hyn yn golygu y gellir ymrwymo i gontractau cyffyrddiad ysgafn yn syth ar ôl i'r hysbysiad dyfarnu contract gael ei gyhoeddi.

Mae adran 51(4) yn caniatáu i awdurdodau contractio sy'n dyfarnu contractau cyffyrddiad ysgafn nodi cyfnod segur yn yr hysbysiad dyfarnu contract yn wirfoddol ac yn nodi, os darperir ar gyfer cyfnod segur o'r fath, fod yn rhaid cydymffurfio ag ef.

Mae adran 51(5) yn nodi bod yn rhaid i gyfnod segur gwirfoddol bara o leiaf wyth diwrnod gwaith.

Adran 52 – Dangosyddion perfformiad allweddol

Mae adran 52(6) yn nodi nad yw'r adran hon yn gymwys i gontractau cyffyrddiad ysgafn.

Adran 53 – Hysbysiadau manylion contract a chyhoeddi contractau

Mae adran 53(1)(a) yn nodi, unwaith y bydd awdurdod contractio wedi ymrwymo i gontract cyffyrddiad ysgafn, fod yn rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad manylion contract mewn perthynas â'r contract hwnnw o fewn 120 diwrnod ar ôl iddo ymrwymo i'r contract hwnnw.

Mae adran 53(3)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio gyhoeddi copi o gontract cyffyrddiad ysgafn o fewn 180 diwrnod i'r dyddiad yr ymrwymir iddo, os bydd gwerth amcangyfrifedig y contract yn fwy na £5 miliwn.

Mae adran 53(4)(a) a 53(4)(b) yn nodi o dan ba amgylchiadau nad yw adran 53(3) yn gymwys, sy'n cynnwys contract cyffyrddiad ysgafn a ddyfernir gan awdurdod Cymreig datganoledig oni chaiff ei ddyfarnu o dan drefniant caffael a neilltuir.

Adran 54 – Terfynau amser

Mae adran 54(3) yn nodi nad oes ‘cyfnod cymryd rhan’ lleiaf ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn. Mae hyn yn cyfeirio at y cyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae awdurdod contractio yn rhoi gwahoddiad i gyflwyno ceisiadau i gymryd rhan mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol ac yn gorffen â'r diwrnod terfynol ar gyfer cyflwyno'r ceisiadau hynny.

Mae adran 54(4) yn nodi nad oes cyfnod tendro lleiaf ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn. Mae hyn yn cyfeirio at y cyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae awdurdod contractio yn rhoi gwahoddiad i gyflwyno tendrau fel rhan o weithdrefn dendro gystadleuol ac yn gorffen â'r diwrnod terfynol ar gyfer cyflwyno tendrau.

Adran 71 – Asesiad o gyflawni contract

Mae adran 71(6) yn esemptio contractau cyffyrddiad ysgafn rhag y rhwymedigaethau cyhoeddi yn adran 71(5) mewn perthynas ag achos penodol o dor contract neu fethiant i gyflawni.

Adran 74 – Addasu contract cyhoeddus

Mae adran 74(2) yn nodi y caiff awdurdod contractio addasu contract cyhoeddus neu gontract trosadwy os yw'r contract yn gontract cyffyrddiad ysgafn.

Adran 75 – Hysbysiadau newid contract

Mae adran 75(6)(b) yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad newid contract yn gymwys i gontractau cyffyrddiad ysgafn.

Adran 120A – Pŵer i ddatgymhwyso'r Ddeddf hon mewn perthynas â chaffaeliad gan y GIG yng Nghymru

Diwygir adran 120 gan adran 2 o Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Mae is-adran 120A yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n datgymhwyso unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf sy'n ymwneud â chaffael gwasanaethau iechyd rheoleiddiedig a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, sef caffaeliadau sy'n ddarostyngedig i ddarpariaeth a wnaed o dan adran 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Adran 124 – Mynegai ymadroddion diffiniedig

Mae adran 124 yn croesgyfeirio termau a ddefnyddir yn y Ddeddf at y darpariaethau perthnasol lle y cânt eu diffinio ac mae'n cynnwys y term contract cyffyrddiad ysgafn.

Atodlen 1 – Symiau Trothwyon

Mae paragraff 1 yn nodi'r trothwyon ar gyfer contractau cyffyrddiad ysgafn. Caiff y trothwyon hyn eu diweddaru gan reoliadau cyn i'r Ddeddf ddod i rym er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd mewn grym ers 1 Ionawr 2024, sef:

  • Contract cyfleustodau sy'n gontract cyffyrddiad ysgafn – £884,720
  • Contract consesiwn sy'n gontract cyffyrddiad ysgafn – £5,372,609
  • Contractau cyffyrddiad ysgafn eraill – £663,540

Mae paragraff 3 yn darparu pŵer ar wahân i ddiweddaru trothwyon contractau cyffyrddiad ysgafn.

Atodlen 5, paragraffau 15 i 17 – Cyfiawnhad dros ddyfarniad uniongyrchol

Mae'r cyfiawnhad hwn dros ddyfarniad uniongyrchol yn gymwys pan na fydd contract yn addas ar gyfer gweithdrefn dendro gystadleuol oherwydd gofyniad cyfreithiol i awdurdod contractio ystyried anghenion neu ddewisiadau defnyddiwr penodol.

Mae paragraff 15 yn darparu y gellir dyfarnu contractau cyhoeddus ar gyfer cyflenwi ‘gwasanaethau dewis defnyddwyr’ yn uniongyrchol, ar yr amod y bodlonir amodau paragraff 17.

Mae paragraff 16 yn diffinio ‘gwasanaethau dewis defnyddwyr’ fel ‘gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn’ (a nodir o dan reoliadau yn adran 9) a gyflenwir er budd unigolyn penodol a lle mae'n rhaid i'r awdurdod contractio (drwy ddeddfiad arall, h.y. dull deddfwriaethol arall megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) ystyried barn yr unigolyn neu ei ofalwr o ran pwy ddylai gyflenwi'r gwasanaeth.

Mae paragraff 17 yn nodi bod yn rhaid bod yr unigolyn neu ei ofalwr wedi mynegi dymuniad o ran pwy ddylai ddarparu'r gwasanaeth, neu fod natur y gwasanaeth sydd i'w gyflenwi yn golygu mai dim ond un cyflenwr a all ei ddarparu. At hynny, rhaid i'r awdurdod contractio fod o'r farn bod peidio â dyfarnu'r contract o dan weithdrefn dendro gystadleuol er lles pennaf yr unigolyn.