Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw contractau consesiwn?

  1. O dan gontract consesiwn, mae cyflenwyr yn cael o leiaf rhan o’u cydnabyddiaeth oddi wrth ddefnyddwyr y gweithiau neu’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Fel y cyfryw, caiff cyflenwyr eu hamlygu i golled bosibl o ganlyniad i’w buddsoddiad oherwydd newid yn y galw.

2. Mae dau fath gwahanol o gontractau consesiwn:

  1. contract consesiwn i gyflenwi gweithiau; er enghraifft, i adeiladu a gweithredu tollffordd lle y byddai’r cyflenwr yn cael incwm yn uniongyrchol oddi wrth ddefnyddwyr y dollfordd
  2. contract consesiwn i gyflenwi gwasanaethau; er enghraifft contract i weithredu canolfan hamdden lle y byddai’r cyflenwr yn cael incwm yn uniongyrchol oddi wrth gwsmeriaid sy’n defnyddio’r ganolfan.

3. Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â’r darpariaethau penodol sy’n gymwys i gontractau consesiwn yn unig. Os nad oes unrhyw ddarpariaethau penodol, nid oes unrhyw wahaniaeth o ran contractau consesiwn a dylid cyfeirio at ganllawiau perthnasol eraill ar agweddau gwahanol ar Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf).

Beth yw’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywodraethu contractau consesiwn?

4. Ceir y rheolau caffael sy’n llywodraethu contractau consesiwn yn y DU yn y Ddeddf, sy’n disodli Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 sydd wedi cael eu diddymu. Diffinnir contractau consesiwn yn adran 8 o’r Ddeddf.

5. Y rheol gyffredinol yw y bydd y Ddeddf yn gymwys i gonsesiynau yn yr un ffordd ag y mae’n gymwys i fathau eraill o gaffael. Fodd bynnag, ceir eithriadau i’r rheol gyffredinol ac mewn rhai achosion mae darpariaethau penodol yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i gonsesiynau. Nodir y rhain yn Atodiad A.

6. Mae adran 10 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefyllfaoedd lle mae caffaeliad cymysg yn cynnwys elfennau consesiwn ac elfennau nad ydynt yn gonsesiwn a fyddai’n ddarostyngedig i drothwyon a rheolau gwahanol, pe baent yn cael eu caffael ar wahân. Mae’n darparu ar gyfer pryd y dylai’r contractau hynny gael eu trin yn unol â’r rheolau sy’n adlewyrchu natur arbennig un elfen (h.y. pryd y dylid eu trin fel ‘contract cyfundrefn arbennig’ fel y’i diffiniwyd yn adran 10), neu pryd y dylid eu trin fel contractau sy’n ddarostyngedig i’r rheolau safonol yn y Ddeddf.

Beth sydd wedi newid?

7. Er bod contractau consesiwn yn cael eu rheoleiddio ar wahân yn flaenorol, mae’r Ddeddf yn cyfuno’r gyfundrefn contractau consesiwn yn un set o reolau cyffredin sy’n cwmpasu mathau eraill o gontractau. Drwy ei chyfuno bydd modd lleihau deddfwriaeth ym maes caffael yn gyffredinol a symleiddio’r rheolau i awdurdodau contractio.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

Cymhwyso

8. Mae contractau consesiwn yn aml yn rhai gwerth uchel ac maent yn darparu seilwaith neu wasanaethau hanfodol. Felly, mae’n briodol eu bod yn agored i gystadleuaeth yn yr un ffordd â mathau eraill o gontractau cyhoeddus ar gyfer cyflenwi gweithiau neu wasanaethau er mwyn sicrhau gwerth gorau am arian.

  1. Mae’r rheolau penodol ynglŷn â chontractau consesiwn yn gymwys i gontractau consesiwn sy’n gontractau cyhoeddus. Mae contract consesiwn yn gontract cyhoeddus:
    1. pan fydd gwerth amcangyfrifedig y contract yn uwch na gwerth y trothwy ar gyfer contractau consesiwn
    2. pan na fydd y contract yn gontract esempt fel y’i diffiniwyd yn y Ddeddf (gweler y canllaw ar gontractau esempt).

9. Nid yw’r darpariaethau yn Rhan 6 o’r Ddeddf ynglŷn â chontractau rheoleiddiedig o dan y trothwy yn gymwys i gontractau consesiwn.

Beth yw contract consesiwn?

10. Diffinnir contractau consesiwn yn adran 8 o’r Ddeddf. Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â chontractau consesiwn sy’n gontractau cyhoeddus.

11. Fel gyda mathau eraill o gontractau cyhoeddus, mae’n rhaid i gontract consesiwn fod er budd ariannol, a all gwmpasu cydnabyddiaeth ariannol ac anariannol. Fodd bynnag, mae’r diffiniad o gontract consesiwn yn cynnwys nifer o nodweddion penodol:

  1. dim ond ar gyfer cyflenwi gweithiau neu wasanaethau i awdurdod contractio y caniateir defnyddio contract consesiwn. Nid yw’r diffiniad yn cynnwys contractau i gyflenwi nwyddau
  2. mae’n rhaid i ran o’r gydnabyddiaeth o leiaf gynnwys yr hawl i ymelwa ar y gweithiau neu’r gwasanaethau. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd gan y cyflenwr yr hawl i dderbyn incwm oddi wrth ddefnyddwyr cyhoeddus yn hytrach na thaliad gan yr awdurdod contractio yn unig. Gall y cyflenwr dderbyn rhywfaint o daliad gan yr awdurdod contractio o hyd ond mae’n rhaid bod gan y cyflenwr hefyd yr hawl i ymelwa ar y gweithiau neu’r gwasanaethau fel rhan o’r gydnabyddiaeth
  3. o dan y contract, mae’n rhaid i’r cyflenwr gael ei amlygu i risg weithredu wirioneddol. Mae’n rhaid bod y risg yn un ‘wirioneddol’, h.y. ni ddylai fod yn ddamcaniaethol nac yn nominal. Diffinnir risg weithredu fel risg na fydd y cyflenwr yn gallu adennill ei gostau mewn cysylltiad â’r contract. Hynny yw, mae’n rhaid bod risg na fydd y cyflenwr yn adennill costau ar y contract. Mae’n rhaid bod y ffactorau sy’n achosi’r risg weithredu:
    1. yn rhai rhesymol ragweladwy ar yr adeg y dyfarnwyd y contract
    2. yn codi o faterion sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod contractio a’r cyflenwr. Er enghraifft, ni all godi o ffactorau megis perfformiad gwael neu dor contract.

Er enghraifft, efallai y bydd contract consesiwn i redeg ffreutur yn dwyn y risg na fyddai’r trosiant yn ddigon i dalu am dreuliau, gan amlygu’r cyflenwr i’r risg o beidio â chael enillion o’r buddsoddiadau a wnaed a’r costau yr aed iddynt.

Beth yw’r trothwyon ariannol ar gyfer contractau consesiwn?

12. Bydd y broses o ddyfarnu contract consesiwn â gwerth amcangyfrifedig sy’n uwch na’r trothwy perthnasol nad yw’n gontract esempt (h.y. contract cyhoeddus), ymrwymo iddo a’i reoli yn ‘gaffaeliad a gwmpesir’ o dan y Ddeddf. Mae’r trothwyon yn Atodlen 1 i’r Ddeddf yn adlewyrchu’r rhai a oedd ar waith pan gafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol a chânt eu diweddaru cyn i’r Ddeddf ddod i rym. Y trothwy ar gyfer contractau consesiwn, contractau amddiffyn a diogelwch sy’n gontract consesiwn a chontractau cyffyrddiad ysgafn sy’n gontract consesiwn sydd wedi bod yn gymwys ers 1 Ionawr 2024 yw £5,372,609.

13. Nid oes unrhyw wahaniaeth yn y trothwy ar gyfer contract consesiwn i gyflenwi gweithiau a chontract consesiwn i gyflenwi gwasanaethau.

14. Mae’r trothwyon yn adlewyrchu’r trothwyon yn ein rhwymedigaethau rhyngwladol a chânt eu haddasu ar y cyntaf o fis Ionawr ym mhob blwyddyn eilrif er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn arian cyfred a chwyddiant.

15. Mae adran 10 o’r Ddeddf yn nodi’r rheolau ar gyfer caffaeliadau cymysg ar gyfer ‘contractau cyfundrefn arbennig’, sy’n berthnasol pan fydd contract consesiwn yn cael ei gyfuno ag elfen o nwyddau neu wasanaethau nad ydynt yn gonsesiwn neu weithiau neu ei gaffael â chontract cyfundrefn arbennig arall megis contract gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neu gyfleustodau. Gweler y canllaw a’r siartiau llif cysylltiedig ar gaffaeliadau cymysg am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i gymhwyso’r rheolau hyn.

Pa esemptiadau sydd ar gael i awdurdodau contractio?

16. Nodir yr esemptiadau, pan na fydd y rheolau ynglŷn â chaffaeliad a gwmpesir yn y Ddeddf yn gymwys, ar gyfer pob contract cyhoeddus, gan gynnwys contractau consesiwn, yn Atodlen 2. Mae tri esemptiad yn benodol i gontractau consesiwn fel y’u nodir isod, ond gall mathau eraill o gontractau esempt fod yn berthnasol hefyd. Cyfeiriwch at y canllaw ar gontractau esempt am ragor o wybodaeth.

17. Gwasanaethau dŵr Mae Atodlen 2, paragraff 35 o’r Ddeddf yn esemptio contractau consesiwn ar gyfer cyflawni gwasanaethau dŵr penodol. Mae hyn yn sicrhau bod yr esemptiadau ar gyfer contract cyfleustodau ar gyfer gwasanaethau dŵr o’r fath hefyd yn gymwys os mai contract consesiwn yw’r contract.

18. Gwasanaethau hedfan rheolaidd (rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig) Mae Atodlen 2, paragraff 36 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer esemptiad i gontractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau hedfan rheolaidd am gyfnodau penodedig yn y DU neu yn y DU a Gibraltar ac sy’n cael eu gweithredu o dan drwydded lwyr-gyfyngedig ac yn ddarostyngedig i ofynion gwasanaeth sylfaenol. Gelwir y mathau hyn o gontract yn rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig a chânt eu rheoleiddio ar wahân o dan Reoliad 1008/2008. O dan y rheoliad hwn, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth osod rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau hedfan rheolaidd rhwng maes awyr yn y DU a maes awyr sy’n gwasanaethu rhanbarth ymylol neu ranbarth datblygu yn y DU neu ar lwybr a ystyrir yn hollbwysig i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Pan fydd rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei gosod, caniateir i unrhyw gwmni hedfan cymwys ddechrau gwasanaethau hedfan rheolaidd sy’n bodloni’r holl ofynion yn y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus. Gelwir hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ‘agored’ ac nid yw’n golygu dyfarnu contract. Os nad oes unrhyw gwmni hedfan cymwys wedi dechrau neu os na all ddangos ei fod ar fin dechrau gwasanaethau hedfan rheolaidd cynaliadwy ar lwybr dan sylw yn unol â’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyfyngu mynediad i’r gwasanaethau hedfan rheolaidd i un cwmni hedfan cymwys am gyfnod o hyd at bedair blynedd. Gelwir hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ‘gyfyngedig’. Mae’n rhaid i’r hawl i gynnig y gwasanaethau ar gyfer rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus gyfyngedig gael ei chynnig drwy dendr cyhoeddus o dan Reoliad 1008/2008. Mae’r esemptiad ym mharagraff 36 yn cwmpasu contractau consesiwn ar gyfer rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig.

19. Gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus Mae Atodlen 2, paragraff 37 o’r Ddeddf yn nodi’r esemptiad hwn.

Prisio contract consesiwn

20. Yn ychwanegol at unrhyw daliadau i’r cyflenwr oddi wrth yr awdurdod contractio, mae’n rhaid i gontract consesiwn hefyd gynnwys yr hawl i ymelwa ar y gweithiau neu’r gwasanaethau yn ystod cyfnod y contract. Felly, wrth gyfrifo gwerth contract consesiwn mae’n rhaid ystyried yr holl gydnabyddiaeth bosibl a dderbynnir gan y cyflenwr dros oes y contract, gan gynnwys unrhyw achosion o’i adnewyddu neu ei ymestyn.

21. Mae’n rhaid i’r gwerth amcangyfrifedig fod yn seiliedig ar yr uchafswm gwerth disgwyliedig a chael ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 3, paragraff 3 o’r Ddeddf, sy’n rhestru symiau y gall y cyflenwr ddisgwyl eu derbyn o dan gontract consesiwn. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r awdurdod contractio gynnwys cyfanswm y refeniw sy’n debygol o gael ei dderbyn, gan gynnwys incwm sy’n dderbyniadwy oddi wrth yr awdurdod contractio neu drwy ymelwa ar y gwasanaethau neu’r gweithiau megis tâl a godir ar ddefnyddwyr. Nid elw amcangyfrifedig yw refeniw ac ni ddylid ei leihau drwy ystyried costau y mae disgwyl i’r cyflenwr fynd iddynt. Mae’n rhaid i gydnabyddiaeth arall, megis premiymau, ffioedd, comisiynau, derbyn asedau, gwerthu asedau hefyd gael ei hymgorffori yn y prisiad.

22. Nid yw’r rhestr yn Atodlen 3, paragraff 3 yn gynhwysfawr ond mae’n ddefnyddiol i ddehongli’r mathau eraill o symiau sy’n dderbyniadwy y mae’n rhaid eu hystyried wrth amcangyfrif gwerth contract consesiwn.

23. Yn yr un ffordd â phob contract cyhoeddus, dylid cyfrifo’r gwerth amcangyfrifedig drwy gynnwys treth ar werth (TAW) a dilyn y rheolau yn Atodlen 3 ynglŷn ag osgoi trethi ac achosion lle nad oes modd llunio amcangyfrif.

Pa ganllawiau eraill sy’n berthnasol i’r pwnc hwn?

Bydd angen i awdurdodau contractio sy’n dyfarnu contractau consesiwn ddeall y Ddeddf gyfan, am fod yr un darpariaethau (er enghraifft, darpariaethau ynglŷn â gweithdrefnau tendro cystadleuol, amodau cymryd rhan a meini prawf dyfarnu) ag sy’n gymwys i awdurdodau contractio sy’n dyfarnu contractau eraill yn gymwys. Nodir yr unig eithriadau a hyblygrwydd a ganiateir yn y canllaw hwn. Felly, mae’r gyfres o ganllawiau a gyhoeddwyd ar y Ddeddf yn berthnasol, ond mae’r canllawiau canlynol yn berthnasol iawn i gontractau consesiwn:

  • Canllaw ar gaffaeliadau cymysg
  • Canllaw ar brisio contractau
  • Canllaw ar gontractau esempt
  • Canllaw ar drothwyon

Atodiad A: Crynodeb o ddarpariaethau penodol ynglŷn â chontractau consesiwn yn Neddf Caffael 2023

Adran 3: Contractau cyhoeddus

Mae adran 3(4) yn darparu bod contract consesiwn yn gontract cyhoeddus at ddiben y Ddeddf ar yr amod nad yw’n gontract esempt a bod ei werth amcangyfrifedig yn uwch na’r trothwy cymwys a nodwyd yn Atodlen 1 (fel y’i diwygiwyd).

Adran 5: Caffael cymysg: yn uwch na’r trothwy ac o dan y trothwy

Mae adran 5(5) yn nodi’n glir fod contractau consesiwn â gwerth amcangyfrifedig o dan y trothwy cymwys yn gontractau o dan y trothwy.

Adran 8: Contractau consesiwn

Mae adran 8(1) yn diffinio contract consesiwn fel contract i gyflenwi, er budd ariannol, weithiau neu wasanaethau lle mae o leiaf rhan o’r gydnabyddiaeth am gyflenwi o’r fath yn hawl i’r cyflenwr ymelwa ar weithiau neu wasanaethau sy’n destun y contract a lle mae’r cyflenwr yn cael ei amlygu i risg weithredu wirioneddol o dan y contract. Nid contract consesiwn yw contract i ddarparu nwyddau.

Mae adran 8(2) yn diffinio ‘risg weithredu’ at ddiben adran 8(1). Risg weithredu yw’r risg na fydd y cyflenwr yn gallu adennill ei gostau mewn perthynas â chyflenwi a gweithredu’r gweithiau neu’r gwasanaethau yn ystod cyfnod y contract, a bod y ffactorau sy’n creu’r risgiau yn rhesymol ragweladwy ar adeg dyfarnu’r contract ac yn deillio o faterion y tu allan i reolaeth yr awdurdod contractio a’r cyflenwr.

Adran 10: Caffael cymysg - contractau cyfundrefn arbennig

Mae adran 10(6) yn esbonio mai math o gontract cyfundrefn arbennig yw contractau consesiwn at ddibenion y Ddeddf. Mae adran 10(3) yn darparu na fydd contract yn cael ei drin yn gontract cyfundrefn arbennig os gallai rhai o’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau gael eu cyflenwi’n rhesymol o dan gontract ar wahân na fyddai’n gontract cyfundrefn arbennig ac y byddai ei werth amcangyfrifedig heb fod o dan y trothwy perthnasol ar gyfer y math hwnnw o gontract.

Adran 34: Dyfarnu cystadleuol drwy gyfeirio at farchnadoedd dynamig

Mae adran 34(7) yn darparu na ellir dyfarnu contractau consesiwn, heblaw am y rhai sydd hefyd yn gontractau cyfleustodau, o dan farchnadoedd dynamig.

Adran 45: Fframweithiau

Mae adran 45(8)(a) yn darparu na ellir dyfarnu contractau consesiwn o dan fframwaith.

Adran 52: Dangosyddion perfformiad allweddol

Mae adran 52(6)(c) yn nodi nad yw’r rhwymedigaeth i bennu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol o dan yr adran hon yn gymwys i gontractau consesiwn.

Adran 68: Telerau talu ymhlyg mewn contractau cyhoeddus

Mae adran 68(1) yn darparu nad yw telerau talu sy’n ymhlyg mewn contractau drwy’r adran hon yn ymhlyg mewn contractau consesiwn.

Adran 69: Hysbysiadau cydymffurfio taliadau

Mae adran 69(6)(d) yn darparu nad yw’r rhwymedigaeth i gyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio taliadau yn gymwys i gontractau consesiwn.

Adran 70: Gwybodaeth am daliadau o dan gontractau cyhoeddus

Mae adran 70(4)(b) yn darparu nad yw’r rhwymedigaeth i gyhoeddi gwybodaeth am daliadau o dan gontractau cyhoeddus yn gymwys i gontractau consesiwn.

Adran 73: Telerau talu ymhlyg mewn is-gontractau

Mae adran 73(6)(a) yn darparu nad yw telerau sy’n ymhlyg mewn is-gontractau yn ymhlyg mewn is-gontractau a ddyfernir i gyflawni unrhyw ran neu bob rhan o gontract consesiwn.

Adran 84: Contractau rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy

Mae adran 84(1)(b) yn diffinio contract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy fel un nad yw’n cynnwys contract o dan y trothwy sy’n gontract consesiwn.

Atodlen 1: Symiau trothwyon

Mae’r trothwyon yn Atodlen 1 i’r Ddeddf yn adlewyrchu’r rhai a oedd ar waith pan gafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol a chânt eu diweddaru cyn i’r Ddeddf ddod i rym. Y trothwy ar gyfer contractau consesiwn, contractau amddiffyn a diogelwch sy’n gontract consesiwn a chontractau cyffyrddiad ysgafn sy’n gontract consesiwn sydd wedi bod yn gymwys ers 1 Ionawr 2024 yw £5,372,609.

Atodlen 2: Contractau esempt

Mae paragraff 35 yn darparu bod contractau consesiwn ar gyfer gweithgareddau cyfleustod sy’n ymwneud â gwasanaethau dŵr a ddisgrifir yn Atodlen 4, paragraff 3(1) neu (2) yn gontractau esempt.

Mae paragraff 36 yn darparu bod contractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau hedfan rheolaidd am gyfnodau penodedig yn y DU neu yn y DU a Gibraltar ac sy’n cael eu gweithredu o dan drwydded lwyr-gyfyngedig ac sy’n ddarostyngedig i ofynion gwasanaeth sylfaenol yn gontractau esempt. Gelwir y mathau hyn o gontract yn rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig a chânt eu rheoleiddio ar wahân o dan Reoliad 1008/2008. O dan y rheoliad hwn, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth osod rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau hedfan rheolaidd rhwng maes awyr yn y DU a maes awyr sy’n gwasanaethu rhanbarth ymylol neu ranbarth datblygu yn y DU neu ar lwybr a ystyrir yn hollbwysig i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Pan fydd rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei gosod, caniateir i unrhyw gwmni hedfan cymwys ddechrau gwasanaethau hedfan rheolaidd sy’n bodloni’r holl ofynion yn y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus. Gelwir hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ‘agored’ ac nid yw’n golygu dyfarnu contract. Os nad oes unrhyw gwmni hedfan cymwys wedi dechrau neu os na all ddangos ei fod ar fin dechrau gwasanaethau hedfan rheolaidd cynaliadwy ar lwybr dan sylw yn unol â’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyfyngu mynediad i’r gwasanaethau hedfan rheolaidd i un cwmni hedfan cymwys am gyfnod o hyd at bedair blynedd. Gelwir hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ‘gyfyngedig’. Mae’n rhaid i’r hawl i gynnig y gwasanaethau ar gyfer rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus gyfyngedig gael ei chynnig drwy dendr cyhoeddus o dan Reoliad 1008/2008. Mae’r esemptiad ym mharagraff 36 yn cwmpasu contractau consesiwn ar gyfer rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig.

Mae paragraff 37 yn darparu bod contractau consesiwn i ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus yn gontractau esempt.

Atodlen 3: Amcangyfrif gwerth contract

Mae paragraff 3(1) yn nod’n glir nad yw’r rheolau ynglŷn â phrisio ym mharagraff 1 yn gymwys i brisio contract consesiwn.

Mae paragraff 3(2) yn gosod rhwymedigaeth ar yr awdurdod contractio i amcangyfrif gwerth contract consesiwn fel yr uchafswm y gallai’r cyflenwr ddisgwyl ei dderbyn o ganlyniad i’r contract, sy’n adlewyrchu’r gofyniad bod yn rhaid amcangyfrif bod rhai symiau refeniw yn dod o ffynonellau eraill heblaw am daliadau gan yr awdurdod contractio.

Mae paragraff 3(3) yn nodi rhestr o’r mathau o gydnabyddiaeth y gallai cyflenwr ddisgwyl eu derbyn, y mae’n rhaid eu hystyried wrth amcangyfrif gwerth contract consesiwn. Mae hyn yn cynnwys symiau a dderbynnir oddi wrth ddefnyddwyr y gweithiau neu’r gwasanaethau ac a allai fod yn ariannol neu’n anariannol. Mae’n rhaid i werth unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a ddarperir gan yr awdurdod contractio o dan y contract hefyd gael ei gynnwys yn y prisiad. Mae’n rhaid i TAW sy’n daladwy ar gyflenwi gwasanaethau neu weithiau, gwerth unrhyw opsiynau a geir yn y contract ar gyfer gwasanaethau neu weithiau ychwanegol neu i ymestyn neu adnewyddu’r contract i gyd gael eu prisio, ynghyd ag unrhyw bremiymau, ffioedd, comisiwn neu log y gallai’r cyflenwr eu derbyn wrth gyflawni’r contract a symiau sy’n dderbyniadwy ar adeg gwerthu asedau a ddelir gan y cyflenwr. Nid yw’r rhestr ym mharagraff 3(3) yn gynhwysfawr a gall symiau gael eu derbyn o ffynonellau eraill neu gallant fod ar ffurfiau eraill.