Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw amodau cymryd rhan?

1. Mae Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn galluogi awdurdodau contractio i bennu amodau cymryd rhan y mae'n rhaid i gyflenwr eu bodloni er mwyn i gontract cyhoeddus gael ei ddyfarnu iddo yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol. Rhaid i'r amodau ymwneud â'r canlynol yn unig:

  1. adnoddau cyfreithiol ac ariannol y cyflenwr, neu
  2. ei allu technegol i gyflawni'r contract.

2. Mae'n rhaid iddynt fod yn ffordd gymesur o sicrhau adnoddau neu allu perthnasol y cyflenwr, ar ôl rhoi sylw i natur, cymhlethdod a chost y contract cyhoeddus.

3. O'u cymharu â meini prawf dyfarnu (adran 23 o'r Ddeddf) a ddefnyddir i asesu'r tendr, defnyddir amodau cymryd rhan i asesu'r cyflenwr. Rhaid i awdurdodau contractio nodi'r amodau hyn yn glir yn yr hysbysiad tendro, a ategir (lle y bo angen) gan y dogfennau tendro.

4. Mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol, gellir defnyddio amodau cymryd rhan i gyfyngu ar nifer y cyflenwyr. Rhaid i'r amodau ddarparu ar gyfer dewis cyflenwyr mewn cylch cymryd rhan cychwynnol drwy fecanwaith llwyddo/methu neu drwy ddefnyddio meini prawf gwrthrychol i roi sgôr i gyflenwyr fel y nodir yn yr hysbysiad tendro. Gallai hyn leihau nifer y cyfranogwyr i restr fer o gyflenwyr a fydd wedyn yn mynd ymlaen i gylchoedd tendro yn y dyfodol.

5. Yr awdurdod contractio sy'n gyfrifol am ystyried a drafftio amodau cymryd rhan addas a phenderfynu sut y cânt eu hasesu.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu amodau cymryd rhan?

6. Ymdrinnir ag amodau cymryd rhan yn bennaf yn adran 22 o'r Ddeddf. Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth i awdurdodau contractio bennu amodau cymryd rhan y mae'n rhaid i gyflenwr eu bodloni er mwyn i'r contract gael ei ddyfarnu iddo. Mae'n nodi cyfyngiadau ar yr ymarfer hwn (a esbonnir isod) yn ogystal â phennu paramedrau ar gyfer defnyddio tystiolaeth a dibyniaeth y cyflenwr ar drydedd partïon wrth fodloni'r amodau cymryd rhan.

Beth sydd wedi newid?

7. Mae'r rhwymedigaeth bod yn rhaid i amodau cymryd rhan fod yn gymesur â'r caffaeliad yn newid yn y geiriad o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 ond ni ddisgwylir iddi arwain at unrhyw newid mewn ymarfer.

8. Nid yw'r Ddeddf yn rhagnodi sut y dylai cyflenwyr ddangos eu bod yn bodloni'r amodau cymryd rhan, yn wahanol i reoliad 59 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a rheoliad 80(4) o Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ddogfen Gaffael Sengl gael ei defnyddio (yr Holiadur Dethol Safonol yn ymarferol). Serch hynny, gellir defnyddio templedi ‘cymryd rhan’ ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf o ran amodau cymryd rhan.

9. Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (rheoliad 60) a Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (rheoliad 80) yn nodi rhestrau hollgynhwysfawr o ddulliau profi y gallai awdurdodau contractio eu defnyddio i asesu safonau gallu technegol neu broffesiynol. Ni chaiff y darpariaethau hyn eu hatgynhyrchu yn y Ddeddf.

10. Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys cyfyngiadau penodol ynglŷn â gwneud cyfrifon archwiliedig ac yswiriant yn ofynnol yn yr amodau cymryd rhan. Mae'r rhain wedi'u cynnwys er mwyn dileu rhwystrau i newydd-ddyfodiaid a'i gwneud yn haws i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) gymryd rhan mewn caffaeliadau cyhoeddus.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

11. Mae adran 22(1) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio bennu amodau sy'n sicrhau adnoddau cyfreithiol ac ariannol a gallu technegol cyflenwr i gyflawni'r contract. Mae'n rhaid i unrhyw amodau a bennir fod yn ffordd gymesur o sicrhau bod gan gyflenwyr yr adnoddau hyn neu'r gallu hwn, o ystyried natur, cost a chymhlethdod y contract. Felly, fel arfer bydd amodau cymryd rhan wedi'u cyfyngu i asesu'r agweddau hynny ar adnoddau cyfreithiol ac ariannol a gallu technegol sy'n hanfodol i gyflawni'r contract.

12. Mae'n rhaid i gyflenwr fodloni'r amodau cymryd rhan a bennwyd er mwyn i'r contract gael ei ddyfarnu iddo. Dylai awdurdodau contractio feddwl yn ofalus wrth bennu amodau oherwydd, os bydd cyflenwr yn methu â bodloni un amod, hyd yn oed os bydd yn bodloni pob un o'r amodau eraill, ni ellir dyfarnu'r contract iddo yn y pen draw (gweler isod am amseriadau bodloni'r amodau cymryd rhan).

13. Mae adran 22(4) o Ddeddf yn nodi'n glir:

  1. er y gall amodau gynnwys cymwysterau, profiad neu allu technegol, na allant ymwneud â dyfarniad blaenorol gan awdurdod contractio penodol (felly, er enghraifft, gellir mynnu bod gan gyflenwr brofiad o'r sector cyhoeddus ond ni ellir mynnu bod ganddo brofiad gyda sefydliad penodol yn y sector cyhoeddus)
  2. na all yr amodau hyn fynd yn groes i'r rheolau ynglŷn â manylebau technegol yn adran 56 (manylebau technegol)
  3. na all amod ofyn am gymwysterau penodol heb ddarparu ar gyfer cymwysterau eraill sy'n cyfateb iddynt.

14. Caiff awdurdodau contractio atal cyflenwr rhag cymryd rhan mewn gweithdrefn dendro gystadleuol neu fynd ymlaen fel rhan o weithdrefn o'r fath pan na fydd y cyflenwr wedi bodloni amod cymryd rhan (adran 22(7) o'r Ddeddf). Mae hyn yn golygu, er bod yn rhaid i gyflenwr fodloni pob un o'r amodau cymryd rhan er mwyn i'r contract cyhoeddus gael ei ddyfarnu iddo (gweler adran 22(2) o'r Ddeddf), y caiff awdurdod contractio ddewis pryd y caiff cyflenwyr eu gwahardd rhag cymryd rhan mewn gweithdrefn dendro gystadleuol. Er enghraifft, caiff awdurdod contractio ganiatáu i gyflenwyr gadarnhau eu bod yn bodloni amodau yn ddiweddarach yn ystod y broses mewn gweithdrefn aml-gam neu, o dan adran 72 o'r Ddeddf, caiff gyfarwyddo bod y cyflenwr yn is-gontractio rhan o'r contract i gyflenwr arall er mwyn bodloni'r amodau cymryd rhan (gweler paragraff 28 isod).

15. Yn aml, wrth wahardd cyflenwyr na allant fodloni'r amodau cymryd rhan (ac na allant, felly, gyflawni'r contract), mae'n arfer da gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Gall hyn atal yr awdurdod contractio a'r cyflenwr rhag gwario amser a defnyddio adnoddau yn ddiangen. Gallai rhoi adborth prydlon hefyd helpu i achub y blaen ar heriau i unrhyw benderfyniadau dyfarnu dilynol. Fodd bynnag, mewn caffaeliadau penodol, caiff awdurdodau contractio benderfynu a fyddant yn caniatáu i gyflenwyr symud ymlaen drwy'r caffaeliad gyda gofyniad y bydd cyflenwyr yn bodloni'r amodau yn ddiweddarach a chyn i'r contract gael ei ddyfarnu. Er enghraifft, caiff awdurdod contractio benderfynu peidio ag atal cyflenwr nad yw'n bodloni safon benodol rhag mynd ymlaen os bydd y cyflenwr hwnnw yn gweithio tuag at fodloni'r safon pan gaiff amodau eu hasesu. Os bydd yr awdurdod contractio yn penderfynu caniatáu i'r cyflenwr gymryd rhan yn y caffaeliad, dylai ystyried y darpariaethau ynglŷn â thriniaeth gyfartal yn adran 12 o'r Ddeddf. Os bydd awdurdod contractio yn credu y bydd yn debygol o arfer ei ddisgresiwn yn y modd hwn, argymhellir yn gryf y dylid nodi'r disgresiwn i wneud hynny yn yr hysbysiad tendro ac unrhyw ddogfennau tendro cysylltiedig fel y caiff cyflenwyr eu hysbysu o'r posibilrwydd wrth benderfynu a ddylent gyflwyno cais.

Gwybodaeth ariannol a gwybodaeth am yswiriant

Cyfrifon archwiliedig

16. Gwaherddir awdurdodau contractio rhag ei gwneud yn ofynnol, fel amod cymryd rhan, i gyfrifon blynyddol archwiliedig gael eu darparu gan gyflenwyr nad yw'n ofynnol fel arall i'w cyfrifon gael eu harchwilio o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 nac unrhyw ddeddfwriaeth dramor gyfatebol.

17. Os nad yw'n ofynnol i gyfrifon cyflenwr gael eu harchwilio felly, bydd angen asesu tystiolaeth amgen wrth ystyried ei adnoddau ariannol.

Yswiriant

18. Gwaherddir awdurdodau contractio rhag ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr fod ag yswiriant sy'n ymwneud â chyflawni'r contract cyn iddo gael ei ddyfarnu. Diben hyn yw sicrhau nad oes disgwyl i fusnesau fynd i gostau diangen ar gyfer yswiriant pan nad oes unrhyw sicrwydd y byddant yn cael y busnes.

19. Yn lle hynny, os bydd lefel benodol o yswiriant yn ofynnol ar gyfer y contract, anogir awdurdodau contractio i ystyried yn gyntaf a oes angen y lefel benodol honno o yswiriant. Os bydd yr awdurdod contractio o'r farn bod ei hangen, gall awdurdod contractio gynnwys amod cymryd rhan y bydd gan y cyflenwr y lefelau contractiol o yswiriant sy'n ofynnol pan fydd contract yn dechrau a gofyn am dystiolaeth o hynny (ar yr amod bod yr amod hwn fel arall yn cydymffurfio â'r Ddeddf gan gynnwys yr amcanion yn adran 12). Er enghraifft, gallai'r dystiolaeth fod ar ffurf tystysgrifau sy'n dangos bod gan y cyflenwr yswiriant eisoes neu lythyr gan gwmni yswiriant sy'n cadarnhau y byddai'n cynnig yr yswiriant i'r cyflenwr ynghyd ag ymrwymiad gan y cyflenwr y bydd yn trefnu'r yswiriant. Yn yr ail achos, rhaid i'r ffaith bod y cyflenwr wedi trefnu'r yswiriant gael ei chadarnhau cyn i'r contract allu cael ei ddyfarnu.

20. Os bydd gofynion cyfreithiol ar gyflenwyr sy'n ymwneud ag yswiriant sy'n bodoli y tu allan i'r contract ond a fyddai'n berthnasol serch hynny i'r contract (h.y. yswiriant atebolrwydd cyflogwr), gall y rhain hefyd fod yn ofynnol fel rhan o'r amodau cymryd rhan.

Asesu'r amodau cymryd rhan

21. Bydd angen i awdurdodau contractio ystyried sut i werthuso ymatebion cyflenwyr i'r amodau a bennwyd ar gyfer y caffaeliad ac, os cânt eu defnyddio, beth fydd y meini prawf asesu. Mae hyn yn cynnwys nodi'r hyn sy'n ofynnol er mwyn bodloni'r amod.

22. Mae amodau cymryd rhan ar wahân i feini prawf dyfarnu ac, mewn unrhyw weithdrefn, rhaid i'r ymatebion i'r amodau cymryd rhan gael eu hasesu ar wahân i'r ymateb i'r tendr a'r meini prawf dyfarnu. Yn ymarferol, gall ddigwydd ar yr un pryd (er enghraifft, mewn gweithdrefn agored) ond unwaith y bydd cyflenwr wedi bodloni'r amodau cymryd rhan, rhaid i'w dendr gael ei asesu mewn perthynas â'r meini prawf dyfarnu yn unig a heb gyfeirio at unrhyw sgôr na gradd a bennwyd fel rhan o'r asesiad o'r amodau cymryd rhan.

23. O dan weithdrefn hyblyg gystadleuol, caiff awdurdod contractio, gan ddefnyddio meini prawf gwrthrychol sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad tendro, ddefnyddio amodau cymryd rhan er mwyn cyfyngu ar nifer y cyflenwyr sy'n symud ymlaen neu lunio rhestr fer o gyflenwyr (adran 20(4) o'r Ddeddf). Er enghraifft, yn dilyn hysbysiad tendro sy'n gwahodd ceisiadau i gymryd rhan, caiff pob cyflenwr â diddordeb gyflwyno ei ymateb i'r amodau cymryd rhan ac, yn dilyn asesiad yn erbyn yr amodau cymryd rhan a gyhoeddwyd yn yr hysbysiad tendro, gellid dewis nifer cyfyngedig o gyflenwyr i symud ymlaen i'r cam nesaf. Ym mhob achos, dylai nifer y cyflenwyr y mae'r awdurdod contractio yn bwriadu eu symud i'r cam nesaf fod yn ddigon i sicrhau cystadleuaeth wirioneddol.

Dilysu'r amodau cymryd rhan

24. Nid yw'r Ddeddf yn rhagnodi'r mathau na'r ffynonellau o wybodaeth y gall awdurdodau contractio eu defnyddio i ddilysu amodau cymryd rhan. Mae adran 22(6) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod contractio ofyn am dystiolaeth ddilysadwy gan drydydd parti er mwyn bodloni amod cymryd rhan. Er enghraifft, gall honiadau ynglŷn â sefydlogrwydd ariannol cyflenwr fod yn ddilysadwy yn annibynnol drwy gyfeirio at ddata a ddarparwyd gan fanc y cyflenwr (ar gais y cyflenwr) neu drwy gyfeirio at statws credyd a ddarparwyd gan asiantaeth asesu statws credyd. Serch hynny, ni ddylai dulliau profi na thystiolaeth ategol fod yn rhy lafurus i gyflenwyr a rhaid iddynt fodloni'r gofyniad o ran cymesuredd yn adran 22 o'r Ddeddf. Er enghraifft, gall fod yn briodol gofyn am ymweliadau safle, samplau ac archwiliadau o dan rai amgylchiadau ond nid pob un. Os bydd angen tystiolaeth ategol, dylai awdurdodau contractio ystyried pryd y byddai'n briodol i gyflenwyr gyflwyno'r dystiolaeth honno, o ystyried yr amcanion caffael a'r hyn sy'n ofynnol er mwyn sicrhau y cynhelir y caffaeliad yn briodol.

Dibynnu ar gyflenwyr eraill i fodloni amodau cymryd rhan

25. Mewn caffaeliadau penodol, efallai na all cyflenwr fodloni'r holl amodau cymryd rhan ar ei ben ei hun. O dan yr amgylchiadau hyn, caiff fodloni'r amodau drwy gydberthynas â chyflenwr arall, er enghraifft drwy ffurfio consortiwm, neu enwebu isgontractiwr sy'n bodloni rhai o'r amodau neu bob un ohonynt; mae adran 22(8-
9) o'r Ddeddf yn nodi'r amgylchiadau lle y caiff cyflenwr fodloni amodau cymryd rhan drwy gysylltiad o'r fath. Er enghraifft, er mwyn cyflawni contract rheoli cyfleusterau integredig, gallai cyflenwyr sy'n arbenigo ym maes gwasanaethau meddal a chyflenwyr sy'n arbenigo ym maes gwasanaethau caled ffurfio consortiwm er mwyn cyflwyno cais. Fel arall, gallai cyflenwr sy'n arbenigo ym maes gwasanaethau meddal isgontractio'r gwasanaethau caled fel rhan o'r contract.

26. Mae adran 22(9) o'r Ddeddf yn esbonio'r cydberthnasau gwahanol yr ystyrir eu bod yn golygu bod cyflenwr (y cyflenwr cyntaf) yn gysylltiedig â chyflenwr arall. Ceir y cydberthnasau hyn:

  1. pan fydd y cyflenwyr yn cyflwyno tendr gyda'i gilydd, e.e. fel consortiwm, neu
  2. pan fydd y cyflenwr cyntaf yn bwriadu isgontractio'r gwaith o gyflawni'r contract cyfan neu ran ohono i gyflenwr arall, neu
  3. pan fydd cyflenwr arall yn gwarantu y caiff y contract cyfan neu ran ohono ei gyflawni (ei chyflawni) gan y cyflenwr cyntaf.

Yn achos trefniadau isgontractio neu warantu sy'n galluogi'r cyflenwr cyntaf i fodloni'r amodau cymryd rhan, rhaid i'r awdurdod contractio fodloni ei hun y bydd y cyflenwyr yn ymrwymo i drefniadau cyfreithiol gyfrwymol sy'n golygu y bydd y cyflenwr cyntaf yn isgontractio'r gwaith o gyflawni'r contract cyfan neu ran ohono i'r llall, neu y bydd y cyflenwr arall yn gwarantu y caiff y contract cyfan neu ran ohono ei gyflawni (ei chyflawni) gan y cyflenwr cyntaf.

27. At ddibenion bodloni adran 22(9) o'r Ddeddf, nid oes angen i'r cyflenwr cyntaf fod mewn trefniant cyfreithiol gyfrwymol uniongyrchol â'r cyflenwr arall. Er enghraifft, os dibynnir ar isgontractiwr ail haen i fodloni'r amod, gallai adran 22(9) o'r Ddeddf gael ei bodloni pan geir trefniadau cyfreithiol gyfrwymol cefn wrth gefn i bob pwrpas, rhwng y cyflenwr cyntaf a'i isgontractiwr haen gyntaf yn ogystal â rhwng yr isgontractiwr haen gyntaf a'r isgontractiwr ail haen.

28. Mae adran 72 o'r Ddeddf yn gymwys pan fydd awdurdod contractio naill ai'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwr isgontractio neu'n caniatáu i gyflenwr isgontractio ac y dibynnwyd ar yr isgontractiwr hwnnw i fodloni amodau cymryd rhan. O dan yr amgylchiadau hyn, caiff awdurdod contractio gyfarwyddo cyflenwr i lunio cytundeb cyfreithiol gyfrwymol â'r isgontractiwr arfaethedig. Os na fydd y cyflenwr yn gweithredu yn unol â'r cyfarwyddyd, gall yr awdurdod contractio wrthod ymrwymo i'r contract cyhoeddus â'r cyflenwr, ei gwneud yn ofynnol i isgontractiwr amgen (a allai fod wedi bodloni'r amodau cymryd rhan perthnasol) gael ei benodi neu derfynu'r contract os ymrwymwyd iddo eisoes.

29. Os bydd awdurdod contractio yn bwriadu dyfarnu contract i gyflenwr sydd wedi dibynnu ar gyflenwyr eraill i fodloni'r amodau cymryd rhan, bydd angen cyhoeddi manylion y cyflenwyr hynny, ac eithrio'r rhai sy'n gweithredu fel gwarantwr (adran 22(9)(b)(ii) o'r Ddeddf) yn yr hysbysiad dyfarnu contract (gweler rheoliad 28 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024). Felly, dylai awdurdod contractio sicrhau ei fod yn cael y wybodaeth hon yn ystod y caffaeliad.

Mae adran 26(4) yn diffinio ‘person â chyswllt’, at ddibenion y Ddeddf, fel person y mae'r cyflenwr yn dibynnu arno er mwyn bodloni'r amodau cymryd rhan, ond nid person sy'n gweithredu fel gwarantwr. Mae rheoliad 28 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i enw a chyfeiriad pob ‘person â chyswllt’ gael eu cyhoeddi yn yr hysbysiad dyfarnu contract.

Marchnadoedd dynamig

30. I bob pwrpas, mae marchnad ddynamig yn rhestr o gyflenwyr sydd wedi bodloni'r ‘amodau ar gyfer’ aelodaeth o'r farchnad ddynamig (neu ran o'r farchnad ddynamig). Mae amodau ar gyfer aelodaeth yn debyg i amodau cymryd rhan ac fe'u caniateir ar yr amod eu bod yn ffordd gymesur o asesu adnoddau cyfreithiol ac ariannol neu allu technegol cyflenwyr i gyflawni contractau sydd i'w dyfarnu drwy gyfeirio at y farchnad. Mae adrannau 36(1-5) o'r Ddeddf yn nodi darpariaethau sy'n ymwneud â chyflwyno cyfrifon, yswiriant, cymwysterau cyflenwyr, profiad neu allu technegol, cymesuredd a thystiolaeth, sy'n debyg i'r rhai ar gyfer amodau cymryd rhan.

31. Caiff awdurdodau contractio bennu amodau cymryd rhan, gan ddefnyddio rhan 22 o'r Ddeddf, wrth ddyfarnu contractau o dan farchnad ddynamig.

Fframweithiau

32. Gan fod fframwaith ei hun yn gontract cyhoeddus (ar yr amod ei fod am fuddiant ariannol ac uwchlaw'r trothwy perthnasol ac nad yw'n gontract esempt), mae'r Ddeddf yn gymwys, yn gyffredinol, pan ddyfernir fframwaith. Mae hyn yn golygu y caiff awdurdodau contractio bennu amodau cymryd rhan, gan ddefnyddio rhan 22 o'r Ddeddf, yn yr un ffordd ag ar gyfer unrhyw gontract cyhoeddus arall.

33. Rhaid i awdurdodau contractio sy'n tynnu'n ôl o fframwaith gydymffurfio â thelerau'r fframwaith y maent yn ei ddefnyddio ac, felly, dylai awdurdodau contractio sy'n sefydlu fframwaith sicrhau bod y fframwaith yn caniatáu i amodau cymryd rhan gael eu defnyddio yn y broses ddethol gystadleuol ar gyfer contractau yn ôl y gofyn.

34. Os caniateir hynny yn y fframwaith, mae adran 46 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdod contractio i bennu ‘amodau cymryd rhan’ hefyd pan ddyfernir contract yn ôl y gofyn yn seiliedig ar broses ddethol gystadleuol o dan fframwaith (gweler adran 46(2)). Maent yn debyg i amodau cymryd rhan o dan adran 22 o'r Ddeddf am eu bod yn cael eu caniatáu ar yr amod eu bod yn ffordd gymesur o asesu adnoddau cyfreithiol ac ariannol cyflenwyr neu eu gallu technegol i gyflawni contractau sydd i'w dyfarnu o dan y fframwaith. Mae adran 46(1-5) o'r Ddeddf yn nodi darpariaethau sy'n ymwneud â chyflwyno cyfrifon, yswiriant, cymwysterau cyflenwyr, profiad neu allu technegol, cymesuredd a thystiolaeth, sy'n debyg i'r rhai ar gyfer amodau cymryd rhan o dan adran 22 o'r Ddeddf.

35. Gall amod cymryd rhan ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn gynnwys amod sy'n nodi bod yn rhaid i'r amodau cymryd rhan ar gyfer dyfarnu contract gael eu bodloni neu gall gynnwys rhai o'r un amodau neu bob un ohonynt. Gall hefyd gynnwys amodau ychwanegol nad ydynt yn gymwys i ddyfarnu'r fframwaith, er enghraifft, gofynion pwrpasol o ran yswiriant sy'n berthnasol i'r contract yn ôl y gofyn penodol sydd i'w ddyfarnu.

Contractau gwaith

36. Ar gyfer contractau gwaith, gan gynnwys caffael contractau cymysg sy'n cynnwys cyflenwadau a gwasanaethau, gall awdurdodau contractio barhau i ddefnyddio holiadur cyn cymhwyso diwydiant megis y Safon Asesu Gyffredin ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y Ddeddf (er enghraifft, bod yr amodau yn gymesur a'u bod yn caniatáu i'r awdurdodau contractio ystyried yr amcanion caffael yn adran 12 o'r Ddeddf).

Rhyngweithio â'r platfform digidol canolog

37. Bydd y platfform digidol canolog yn storio gwybodaeth am gyflenwyr a allai fod yn berthnasol i asesu amodau cymryd rhan. (Gweler y canllaw ar y platfform digidol canolog.)

38. Mae rheoliad 6 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gael cadarnhad gan gyflenwyr eu bod wedi cyflwyno ‘gwybodaeth graidd y cyflenwr’ sy'n gyfredol ar y platfform digidol canolog, a bod gwybodaeth graidd y cyflenwr a gyflwynwyd ganddynt wedi'i rhannu. Felly, bydd angen i gyflenwyr sy'n cyflwyno tendr ar gyfer contractau cyhoeddus rannu gwybodaeth benodol drwy'r platfform digidol canolog er mwyn cymryd rhan. Mae gwybodaeth graidd y cyflenwr yn cynnwys y canlynol:

  1. gwybodaeth sylfaenol y cyflenwr (h.y. enw a chyfeiriad)
  2. gwybodaeth y cyflenwr o ran seiliau dros wahardd
  3. gwybodaeth y cyflenwr o ran ei sefyllfa economaidd ac ariannol, megis cyfrifon archwiliedig o dan amgylchiadau penodol
  4. gwybodaeth o ran ei bersonau cysylltiedig.

39. Bydd angen i'r awdurdod contractio gael unrhyw wybodaeth sydd ei angen arno am amodau cymryd rhan, nad yw wedi'i chynnwys ar y platfform digidol canolog, gan y cyflenwr gan ddefnyddio dull arall (er enghraifft, fel rhan o wybodaeth y cyflenwr a gyflwynwyd yn ystod y broses gaffael drwy system dendro electronig yr awdurdod contractio ei hun).

Pa hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r agwedd hon ar y Ddeddf?

40. Rhaid i'r hysbysiad tendro, wedi'i ategu gan unrhyw ddogfennau tendro, gynnwys yr amodau cymryd rhan ac unrhyw feini prawf y gellid eu defnyddio i gyfyngu ar nifer y cyfranogwyr.

41. Bydd angen i'r hysbysiad dyfarnu contract gynnwys manylion personau â chyswllt h.y. cyflenwyr y mae'r cyflenwr wedi dibynnu arnynt i fodloni'r amodau cymryd rhan.

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?

  • Canllaw ar amcanion caffael a gwmpesir
  • Canllaw ar asesu tendrau cystadleuol
  • Canllaw ar weithdrefnau tendro cystadleuol
  • Canllaw ar y platfform digidol canolog a chyhoeddi gwybodaeth
  • Canllaw ar fanylebau technegol
  • Canllaw ar waharddiadau
  • Canllawiau ar ragwahardd
  • Canllaw ar ddilyniant hysbysiadau a siartiau llif

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth neu hyfforddiant?

The Government Commercial Function Playbooks ar GOV.UK
Assessing and Monitoring the Economic And Financial Standing Of Bidders And Suppliers ar GOV.UK