Canllawiau cymeradwyo arolygon
Dylai arolygon a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru, a rhai cyrff eraill megis Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fynd drwy broses cymeradwyo arolygon Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pam rydym yn cymeradwyo arolygon?
Mae ein proses cymeradwyo arolygon wedi ei chynllunio i asesu bod arolwg yn angenrheidiol, y bydd yn darparu data cadarn, a’i fod yn cael ei gynnal yn y modd mwyaf cost-effeithiol. Ystyrir bob amser opsiynau o ran a fyddai’n fwy cost-effeithiol defnyddio data sy’n bodoli eisoes, diwygio arolwg sy’n bodoli eisoes neu gynnal arolwg newydd. Mae’r broses cymeradwyo arolygon yn sicrhau bod arolwg wedi’i gynllunio’n dda ac nad yw’n casglu gwybodaeth y gellid ei chael o ffynhonnell arall. Mae hyn nid yn unig yn sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus; mae hefyd yn lleihau’r amser y mae unigolion a busnesau yn ei dreulio yn llenwi arolygon. Yn olaf, mae’r broses cymeradwyo arolygon yn ein helpu i fodloni gofynion y Y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
A oes arnoch angen cymeradwyaeth i’ch arolwg?
Ydych chi’n bwriadu cynnal ‘arolwg ystadegol’?
Ydych chi’n gweithio i un o’r cyrff y mae’r broses yn berthnasol iddynt?
Os mai ‘nac ydw’ yw eich ateb i’r naill gwestiwn neu’r llall yna nid oes angen i’ch arolwg gael ei gymeradwyo, ond rydym bob amser yn fodlon rhoi cyngor neu adborth i chi ar eich arolwg.
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i’r ddau gwestiwn hyn yna bydd angen i’ch arolwg gael ei gymeradwyo.
Os nad ydych yn siŵr, darllenwch yr adrannau isod.
A ydych yn bwriadu cynnal ‘arolwg ystadegol’?
Mae arolwg ystadegol yn cael ei ddiffinio fel “any structured inquiry designed to obtain aggregated data where the individual or corporate identities of the respondents are in themselves of little significance.”
Mae hyn yn golygu y gellid bod angen cymeradwyo’r arolygon canlynol:
- holiaduron
- cyfweliadau ffôn
- cyfweliadau wyneb yn wyneb
- ymgynghoriadau â defnyddwyr.
Nid oes angen cymeradwyaeth os ydych yn dosbarthu ffurflenni adborth ar ddiwedd cwrs lle mae pawb sy’n bresennol yn staff Llywodraeth Cymru. Gall rhoi ffurflenni adborth i staff nad ydynt yn gweithio i Lywodraeth Cymru olygu bod angen cymeradwyo’r arolwg; i wirio, cysylltwch â’r tîm cymeradwyo arolygon.
Mae grŵp ffocws (fel arfer) yn cynnwys tua deuddeg o bobl sy’n cyfrannu at sgwrs fanwl ar fater penodol. Fe’i defnyddiwyd yn helaeth i gynnal ymchwil farchnata ymhlith cwsmeriaid posibl (er enghraifft, “Beth yw eich barn am y cynnyrch hwn?”). Gall grŵp ffocws helpu o ran cynllun holiadur, ond ni ddylid ystyried bod y canlyniadau yn cynrychioli poblogaeth fwy. Nid arolwg yw grŵp ffocws, ac felly nid oes angen cymeradwyaeth arolygon ar ei gyfer.
A ydych yn gweithio i gorff y mae’r broses gymeradwyo yn berthnasol iddo?
Rhaid i chi gael cymeradwyaeth arolwg os ydych yn cynnal arolwg ar gyfer:
- Llywodraeth Cymru
- Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
Am restr lawn o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gweler Atodiad A.
Felly sut rydych yn cyflwyno eich arolwg ar gyfer y broses?
Y cam cyntaf yw llenwi'r ffurflen cymeradwyo arolwg.
Os ydych yn dal yn ansicr a oes angen cymeradwyaeth ar eich arolwg arfaethedig, yna cysylltwch â ni ymlaen llaw i drafod cyngor-arolygon@llyw.cymru. Gall hyn gynnwys arolygon sy’n cael eu cynnwys yn rhan o gontract caffael. Dan yr amgylchiadau hyn argymhellir trafodaeth ymlaen llaw gydag ystadegydd neu ymchwilydd sy’n arbenigo yn y pwnc. Bydd y tîm cymeradwyo arolygon yn awgrymu ystadegydd/ymchwilydd addas os nad oes un yn rhan o’r prosiect eisoes.
Yn dilyn unrhyw drafodaethau cychwynnol, y cam nesaf yw llenwi’r ffurflen cymeradwyo arolygon.
Wedi i chi lenwi’r ffurflen, anfonwch hi ynghyd â’ch arolwg i’r cyngor-arolygon@llyw.cymru.
Wedi i chi wneud hyn byddwn yn anfon eich arolwg at ystadegydd/ymchwilydd sy’n arbenigo yn y pwnc er mwyn adolygu strwythur a pherthnasedd y cwestiynau. Yna byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych a oes angen cymeradwyaeth ar yr arolwg, ac yna beth sydd angen ei wneud (os unrhyw beth) i sicrhau cymeradwyaeth i’ch arolwg. Bydd rhif cymeradwyo arolwg yn cael ei bennu wedi i gymeradwyaeth gael ei rhoi.
Mae cymeradwyo arolygon yn ddibynnol ar argaeledd yr ystadegydd/ymchwilydd pwnc a’u hymrwymiadau eraill. Anelwn at sicrhau cymeradwyaeth i arolygon o fewn ugain diwrnod gwaith ond fe’ch cynghorir i gyflwyno’r arolwg arfaethedig ymhell cyn dyddiad cychwyn y gwaith maes. Bydd newidiadau angenrheidiol i’r holiadur ac ailgyflwyno yn ychwanegu at hyd y broses. Gall arolygon hwy gymryd yn fwy, ac efallai y bydd angen eu hanfon at yr Uned Rheoli Arolygon yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Angen gwybodaeth bellach?
Tîm cymeradwyo arolygon
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: cyngor-arolygon@llyw.cymru
Atodiad A: cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol
- Chwaraeon Cymru
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymwysterau Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau
- Panel Apelio Annibynnol ar gyfer Ffermwyr Cymru