Sut gallwch chi helpu’ch plant i ddysgu a datblygu adref.
Yn sgil feirws COVID-19 rydyn ni wedi gorfod newid y ffordd yr ydyn ni’n byw ein bywydau. Yn ystod y cyfnod mae ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gau, ddim yn gweithredu fel arfer/ yn llawn neu lle mae plant yn gorfod ynysu, fydd angen i ysgolion a lleoliadau barhau mewn ffordd wahanol. Y peth pwysicaf i’ch plant yw sicrhau eu bod yn gallu Cadw’n Ddiogel, a Dal ati i Ddysgu.
Cadw’n ddiogel
Fel rhieni a gofalwyr, mae rhai pethau pwysig y gallwch chi eu gwneud i helpu. Y peth pwysicaf yw helpu pawb yn eich cartref i gadw’n ddiogel a gofalu am iechyd a lles y rhai hynny sy’n byw gyda chi. Darllenwch y canllawiau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yr ail beth y gallwch chi ei wneud yw cefnogi eich plant i ddal ati i ddysgu. Mae’n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hunan. Mae ysgolion ac athrawon eisoes yn sicrhau eich bod yn cael cymorth i gefnogi dysgu eich plant, a byddan nhw’n parhau i wneud hynny. Fel rhiant/gofalwr, nid oes disgwyl ichi gymryd rôl athro/athrawes nac ychwaith ichi geisio cyflwyno amserlen diwrnod ysgol yn eich cartref eich hunan.
Mae’r ysgolion yn gwneud trefniadau i’ch plant gael eu dysgu y tu allan i leoliad yr ysgol – gallai hynny ddigwydd drwy weithgareddau ar-lein, ond mae yna ffyrdd eraill o ddysgu hefyd i’ch plant gael rhoi cynnig arnyn nhw.
Bydd angen gwahanol fathau o gymorth ar eich plant sy’n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys oedran ac anghenion dysgu. Y chi ac athrawon eich plant sy’n adnabod eich plant orau, felly bydd yr ysgolion yn parhau i ddarparu’r lefel iawn o ddysgu a chymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
Dal ati i ddysgu
Yr ysgol fydd eich cyswllt cyntaf o hyd i’ch helpu i sicrhau bod eich plant yn dal ati i ddysgu.
Cofiwch fod eich plant yn dysgu drwy’r amser, a bod eu hamser yn yr ysgol yn rhan o’r dysgu hwnnw yn unig. Efallai y cewch chi ddiwrnodau pan fyddwch chi’n gweithio, a phan fydd pobl eraill gennych i ofalu amdanyn nhw. Efallai y bydd diwrnodau pan fyddwch chi neu eich plant wedi blino, pan fydd rhywun yn sâl, neu pan nad yw’n bosibl am ba reswm bynnag ichi helpu eich plant i ddysgu. Mae hynny’n iawn, a bydd yr ysgol ar gael ichi o hyd i’ch helpu a’ch cefnogi chi.
Camau syml i'w dilyn
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n bwysig ceisio rhoi rhywfaint o drefn a phatrwm arferol i’ch diwrnod. Ceisiwch ddilyn y camau syml hyn i gyflawni hynny.
Ceisiwch sefydlu trefn arferol ar gyfer y teulu
Gall hynny helpu i roi cysur a sicrwydd, gan gynnwys cefnogi lles.
Nid oes unrhyw reolau yn hynny o beth – ceisiwch ddod o hyd i’r drefn sy’n gweithio orau i chi a’ch teulu. Ond, bydd y drefn honno’n cynnwys pethau fel codi, gwisgo, amser cael prydau, ac ati.
Cadwch mewn cysylltiad ag eraill
Mae cadw mewn cysylltiad cymdeithasol ag eraill yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i helpu ein lles yn ystod y cyfnod hwn.
- Ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd i’ch plant gadw mewn cysylltiad â rhai o’r bobl y byddan nhw wedi treulio amser gyda nhw yn ystod diwrnod ysgol – mae’r ysgol yn cynnig amgylchedd cymdeithasol iawn, a gallai eich plant gweld eisiau hynny ar hyn o bryd.
- Mwynhewch yr amser y byddwch chi wrthi’n cefnogi dysgu eich plant – rydyn ni’n dysgu mwy pan fyddwn ni wedi ymlacio ac yn cael hwyl.
Cadwch yn gorfforol egnïol
Mae ymarfer corff a symudiadau nid yn unig yn dda i’ch cadw’n heini, maen nhw hefyd yn helpu ichi deimlo’n well.
- Mae’n bwysig bod eich plant yn cadw’n gorfforol egnïol yn ystod y dydd – maen nhw’n symud yn gyson yn ystod diwrnod ysgol arferol.
- Ceisiwch fynd allan i wneud rhywbeth egnïol yn yr awyr agored, yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae modd dysgu yn yr awyr agored yn ogystal â dan do, ac mae cael awyr iach yn ein helpu i deimlo’n well.
Daliwch ati i ddysgu
Mae dysgu rhywbeth newydd neu ddysgu rhywbeth yn well yn gwneud ichi deimlo’n falch o fod wedi cyflawni rhywbeth buddiol ac yn frwdfrydig i gyflawni mwy.
- Penderfynwch ar y ffordd orau i sicrhau bod dysgu o bell yn gweithio i chi a’ch plant – nid oes rhaid i bob dydd ddilyn yr un drefn.
- Ceisiwch neilltuo amser pan allwch chi i gyd ddysgu gyda’ch gilydd – bydd eich plant wedi dod i arfer â dysgu yng nghwmni eraill.
- Ceisiwch ganiatáu i’ch plant fod yn annibynnol – gadewch iddyn nhw wneud rhai pethau ar eu pennau eu hunain ambell waith.
- Mae dysgu go iawn yn cymryd amser – peidiwch â theimlo bod rhaid ichi gyflawni popeth.
Daliwch sylw
Mae rhoi sylw i’r hyn sy’n digwydd yn y fan a’r lle yn ein helpu i beidio â phoeni am bethau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.
- Siaradwch â’ch plant am yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu, a gwrandewch ar y pethau sydd ganddyn nhw i’w dweud.
- Ceisiwch ddod o hyd i rywle tawel i’ch plant fynd ati i ddysgu – weithiau bydd angen rhywfaint o lonyddwch a thawelwch arnyn nhw.
Byddwch yn garedig
Mae gwneud rhywbeth caredig i rywun arall yn gwneud inni deimlo’n well.
- Ceisiwch annog eich plentyn i fod yn garedig, fel y byddai’n digwydd yn yr ysgol.
Bydd rhagor o ganllawiau ac adnoddau i’ch cefnogi chi ar gael drwy eich ysgol a thrwy dudalen benodol ar wefan Hwb ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Cymorth dysgu o bell
Mae Cymorth dysgu o bell ar Hwb yn cynnwys adnoddau ar gyfer gweithgareddau dysgu o bell, yn ogystal â dolenni i gyngor ar iechyd a lles.