Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’n ffurfiol y Fframwaith Rheoli Haint ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch a Phellach.
Mae’r newid yn golygu y bydd addysg uwch a phellach yn dilyn yr un canllawiau ag sydd yn y cyngor iechyd cyhoeddus ehangach sy’n cael eu dilyn gan fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau. Mae’r cyngor yn trafod mesurau rheoli i leihau’r risg o drosglwyddo’r afiechydon mwyaf cyffredin, gan gynnwys y coronafeirws, y ffliw a’r norofeirws.
Mae prifysgolion a cholegau wedi bod yn dilyn canllawiau sy’n berthnasol i’w sector penodol nhw er mwyn lleihau trosglwyddiad COVID-19, ac maen nhw’n debyg i’r fframwaith lleol y mae ysgolion wedi bod yn ei ddilyn, â graddfa o fesurau posibl yn ôl y risg yn lleol.
Ar 18 Ebrill, diddymodd Llywodraeth Cymru y gofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau gynnal asesiadau risg penodol a dilyn mesurau rhesymol i atal lledaeniad y coronafeirws.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Dw i am ddiolch i staff a myfyrwyr ein colegau a’n prifysgolion am eu hymdrechion aruthrol drwy gydol y pandemig, nid dim ond wrth gefnogi myfyrwyr i ddal ati i ddysgu, ond hefyd am eu rôl fel arweinwyr yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Mae parhau i ddarparu addysg wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r sector i ofalu bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel rhag Covid a bod cyfleusterau dysgu ar gael wyneb yn wyneb ar ein campysau.
Erbyn hyn rydyn ni mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid, ac mae’r risgiau o ran iechyd cyhoeddus o fewn addysg uwch a phellach wedi lleihau’n sylweddol. Dydy parhau â mesurau iechyd cyhoeddus ychwanegol ddim yn ymateb cymesur bellach, felly, ac rydyn ni wedi gofyn i sefydliadau ddiddymu’n ffurfiol eu fframweithiau rheoli haint o heddiw ymlaen.