Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Hydref 2015.
Manylion am y canlyniad
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Summary_of_responses_150.jpg?itok=4zh_kIBA)
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 220 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gyflwyno canllawiau codi tâl drafft newydd i Ofwat iddynt eu hystyried wrth osod eu rheolau codi tâl ar gyfer ymgymerwyr dŵr perthnasol sy'n gweithredu'n llwyr neu'n bennaf yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Derbyniodd Deddf dŵr 2014 Gydsyniad y Frenhines ar 14 Mai 2014. Mae’r Ddeddf yn gosod allan fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio’r drefn ar gyfer codi tâl ar y diwydiant dŵr. Drwyddi mae Gweinidogion Cymru yn cael datblygu Canllawiau Codi Tâl newydd am y tro cyntaf. Bydd gofyn i Ofwat ystyried y Canllawiau hyn wrth ddatblygu’u rheolau codi tâl hwythau ar gyfer ymgymerwyr dŵr ac ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy’n gweithredu’n llwyr neu’n bennaf yng Nghymru.
Pwrpas y Canllawiau Codi Tâl yw sicrhau bod Rheolau Codi Tâl Ofwat yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector dŵr.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn disgrifio:
- ein nodau ynghylch codi tâl yn y diwydiant dŵr hynny yng nghyd-destun ein hymrwymiadau polisi cyffredinol i’r sector dŵr yng Nghymru
- amcanion ac egwyddorion ehangach Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Consultation_document_203.jpg?itok=AqnAmC5s)