Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall pobl sy’n byw â chymorth weld eu teulu a’u ffrindiau a chadw’n saff gyda’u gweithwyr cymorth a gofal

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r canllawiau hyn yn weithredol ar draws Cymru yn ystod y cyfnod o fesurau cenedlaethol sydd mewn grym a dylid eu darllen ynghyd â’r cwestiynau cyffredin (FAQ) ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os oes unrhyw gyfyngiadau ychwanegol yn dod i rym, megis cyfyngiadau cenedlaethol, bydd y ddeddfwriaeth, y canllawiau a’r cwestiynau cyffredin (FAQs) sy’n berthnasol i’r cyfyngiadau hynny yn cael blaenoriaeth dros y canllawiau hyn.

I bwy mae’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau anstatudol hyn ar gyfer tenantiaid sy’n byw â chymorth; eu teuluoedd; darparwyr tai, gofal a chymorth; a chomisiynwyr gwasanaethau, yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Datblygwyd y canllawiau hyn mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid, yn cynnwys sefydliadau sy’n cynrychioli pobl sy’n byw â chymorth; cyrff sy’n cynrychioli darparwyr gofal a chymorth; cyrff sy’n cynrychioli teuluoedd pobl sy’n byw â chymorth; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Cymorth Cymru; Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; a Chartrefi Cymunedol Cymru.

Pwrpas

Prif bwrpas y canllawiau hyn yw helpu pobl sy’n byw â chymorth, eu teuluoedd, a darparwyr tai, gofal a chymorth ynghyd â’u gweithwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a chadw’n ddiogel.

Mae pobl sy’n byw â chymorth yn denantiaid a chanddynt anghenion gofal cymdeithasol. Mae hyn yn wahanol iawn i dderbyn llety a gofal drwy drwydded a/neu drefniant cytundeb cymorth fel un pecyn, fel sy’n cael ei ddarparu mewn cartref gofal. Mae’r gwahaniaeth yn bwysig gan fod canllawiau gwahanol yn gymwys i’r rheini sy’n byw mewn cartref gofal. Mae’r rheoliadau yn gymwys i denantiaid sy’n byw â chymorth yn yr un ffordd ag i bob tenant arall.

Mae rhai pobl sy’n byw â chymorth yn berchen ar eu heiddo neu ran o’u heiddo yn hytrach na rhentu fel tenantiaid. Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i’r amgylchiadau hynny hefyd.

Cefndir

Gall y cyfyngiadau sy’n bodoli yn ystod argyfwng y coronafeirws arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Mae’r rhain yn arbennig o acíwt yn achos y rheini sy’n llai abl i ddeall yr angen i newid eu gweithgareddau rheolaidd, megis pobl ag anabledd dysgu, awtistiaeth, neu gyflwr iechyd meddwl. Dylid hybu a chefnogi ailgysylltu’n ddiogel â theulu a ffrindiau, er mwyn gwella lefelau lles, a lleihau unigrwydd a’r ymdeimlad eu bod wedi’u hynysu.

Mae gan bobl sy’n byw â chymorth yr un hawliau â phawb arall i gwrdd ac ymweld â phobl eraill, a’r un cyfrifoldebau dros eu diogelwch nhw eu hunain a diogelwch pobl eraill. Gweler y canllawiau ar gyfer Lefel Rhybudd 0 am fwy o wybodaeth. Fodd bynnag, gallai’r sefyllfa i’r rheini sy’n byw â chymorth fod yn fwy cymhleth. Maent yn derbyn gofal a chymorth, a heb i hyn ddigwydd efallai na fyddent yn gallu byw’n annibynnol. Bydd gan rai pobl lai o alluedd i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac efallai y bydd gan bobl eraill gyfrifoldeb am wneud y penderfyniadau gorau drostynt.

Mae trefniadau byw â chymorth yn aml yn darparu llety i nifer o unigolion gyda’i gilydd, pob un â’i denantiaeth ei hun. Mae pob tenant mewn lleoliad byw â chymorth yn aelwyd unigol. Mae’r math o lety yn amrywio: gall pobl fyw mewn tŷ a rennir gyda chyfleusterau a rennir (megis cyfleusterau tŷ bach, ymolchi, bwyta neu goginio) neu mewn fflatiau ar wahân gydag ardaloedd cymunol.

Os yw pobl sy’n byw â chymorth yn rhannu cyfleusterau tŷ bach, ymolchi, bwyta neu goginio, dylech fod yn ymwybodol o’r risgiau uwch a chymryd camau priodol i leihau’r risg (gweler canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar atal a rheoli heintiau, a safonau glanhau).

Hawliau a chyfrifoldebau

Mae’n hanfodol bod gan bobl lais a rheolaeth dros eu tai, eu gofal a’u lles eu hunain. Rhaid i weithwyr proffesiynol sicrhau bod gan denantiaid sy’n byw â chymorth ac, os yw’n briodol, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ran yn y broses o asesu unrhyw risgiau yn sgil y coronafeirws, a bod unrhyw gamau i liniaru risg yn gymesur â lefel ac effaith y risg. Os yw materion yn ymwneud â galluedd meddyliol dan sylw, gan ystyried cyfrifoldebau corff cyhoeddus i gadw pobl yn ddiogel, mae’n orfodol hefyd ystyried hawliau unigol pobl, yn cynnwys darpariaethau Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Dylai darparwyr gofal sicrhau eu bod yn ystyried gwerthoedd ac egwyddorion moesegol wrth drefnu a darparu gofal cymdeithasol i oedolion. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y fframwaith moesegol yn Responding to COVID-19: the ethical framework for adult social care gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhestr gyfeirio ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod ystyriaethau moesegol yn cael sylw yng nghyd-destun Covid-19. Mae’r fframwaith yn glir y dylid bob amser ddefnyddio parch a rheswm fel yr egwyddorion sylfaenol wrth lywio gwaith cynllunio a chefnogi dyfarniadau. Gall adnodd Gofal Cymdeithasol Cymru, “Risg Cadarnhaol a Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd” hefyd fod yn ganllaw defnyddiol, er enghraifft, drwy gynnig “Deg cwestiwn i lywio gwneud penderfyniadau am risg”.

Gwneud penderfyniadau ac asesu risg

Mae pobl sy’n byw â chymorth yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain am eu bywyd eu hunain, ac eithrio os yw diffyg galluedd meddyliol yn golygu bod eraill yn gwneud rhai penderfyniadau er eu lles. Rôl eu darparwyr cymorth, unrhyw dîm amlddisgyblaethol a’u teuluoedd yw eu helpu nhw i ddeall y risgiau iddyn nhw eu hunain ac i eraill, a lle bynnag y bo’n bosibl, cymryd camau i reoli’r risgiau hynny. Os yw tenantiaid â galluedd yn gwneud penderfyniadau wedyn sy’n anghyfreithlon neu os oes posibilrwydd eu bod yn rhoi eraill mewn perygl sylweddol, mae prosesau cyfreithiol a diogelu wedi’u sefydlu y dylid eu dilyn.

Dylai pawb weithio gyda’i gilydd i gynnal asesiad risg deinamig er mwyn ystyried budd pennaf y rheini sy’n byw â chymorth a chymryd pob cam rhesymol i leihau’r tebygolrwydd o drosglwyddo’r coronafeirws drwy ddilyn y canllawiau perthnasol i ddiogelu eu hunain. Mae ‘asesiad risg deinamig’ yn golygu proses barhaus o arsylwi a dadansoddi risgiau a pheryglon mewn amgylchedd sy’n newid neu sydd â’r potensial i fod yn berygl mawr. Mae hyn yn caniatáu i risgiau gael eu hadnabod yn gyflym a chymryd camau i leihau/diddymu risgiau.

Mae’n hanfodol bod gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a thai proffesiynol yn cysylltu â phobl sy’n byw â chymorth, eu teuluoedd a’u gofalwyr i gyd fel eu bod yn rhan o’r broses o asesu unrhyw risgiau, a bod unrhyw asesiad risg yn gymesur. Bydd angen i bobl sy’n byw â chymorth, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u darparwyr gofal a chymorth weithio’n agos gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl yn gallu arfer eu hawliau i gwrdd ac ymweld â phobl eraill, gan amddiffyn iechyd a diogelwch pob tenant ar yr un pryd.

Efallai ei bod yn briodol rhoi eitemau atgoffa gweledol hygyrch, fel posteri, neu gymhorthion cyfathrebu eraill, o gwmpas y lleoliad byw â chymorth er mwyn atgyfnerthu unrhyw gamau a fabwysiadwyd y mae’n rhaid eu dilyn.

Er mwyn bodloni dymuniadau unigolion i gwrdd â phobl, dylid mynd ati i deilwra cynllun personol. Mae hyn yn golygu deall y risgiau y gall yr unigolyn neu eu ffrindiau neu aelodau o’u teulu fod yn agored iddynt wrth weld ei gilydd, a sut y gall hyn effeithio arnyn nhw ac eraill. Dylid ystyried i ba raddau y mae unigolyn yn agored i ganlyniadau niweidiol COVID-19 oherwydd ffactorau fel oedran neu gyflwr (neu gyflyrau) iechyd.

Gellid sefydlu system o “gytundebau” ymwelwyr sy’n gofyn i ymwelwyr lenwi holiadur iechyd a diogelwch cyn ymweld. Mae’r ffordd hon o weithio’n hybu cyd-ddealltwriaeth ac yn meithrin ymddiriedaeth. Ceir ystod o adnoddau defnyddiol ar wefan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.

Cynghorir pobl sy’n byw â chymorth, eu ffrindiau a’u teuluoedd y gellid cyfyngu ar eu gallu i ymweld yn dilyn asesiad risg ac yn ddibynnol ar amgylchiadau penodol. Dylid trafod a chytuno y rhesymau am unrhyw gyfyngiadau ar ymweliadau gyda’r rheini sy’n byw â chymorth, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a’u cyfathrebu’n glir.

Efallai y bydd rhai pobl sy’n byw â chymorth heb alluedd i ddeall a gwneud penderfyniadau ar sail cyngor am bandemig y coronafeirws. Os nad oes gan bobl y galluedd gofynnol, bydd proses i wneud penderfyniadau ar eu rhan er eu budd pennaf eisoes wedi’i chytuno, a dylid ei dilyn. Mae’n bwysig cymryd pob cam angenrheidiol i gyfathrebu â phobl yn y ffordd y byddant yn fwyaf tebygol o’i deall. Er enghraifft, gall pobl ag awtistiaeth a phobl ag anabledd dysgu, dementia neu salwch meddwl gael trafferth yn deall cyfarwyddiadau cymhleth neu eu hanghofio. Rhaid dilyn y camau hyn, ynghyd ag egwyddorion a gofynion eraill Deddf Galluedd Meddyliol 2005, pan deimlir bod person sy’n derbyn cymorth yn ddiffygiol mewn galluedd.

Darllenwch ganllawiau y DU ar weithredu Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn ystod y pandemig. Ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth hon, mae’n bwysig ystyried hawliau’r unigolyn, yn cynnwys hawliau dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Gweithio mewn lleoliad byw â chymorth

Yn aml, mae lleoliad byw â chymorth yn weithle i weithwyr gofal a chymorth, yn cynnwys y rheini sy’n cael eu hariannu gan bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, yn ogystal â phobl eraill a gyflogir ar y safle, neu bobl a gyflogir i wneud gwaith ar y safle.

Darllenwch ein canllawiau ar Byw gyda’r coronafeirws: canllawiau i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau, trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau mawr yng Nghymru o dan Lefel Rhybudd 0. Yn ogystal, dylai’r rheini sy’n ymweld â lleoliad byw â chymorth er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac Atal a Rheoli Heintiau.

Bydd ar y rheini sy’n gyfrifol am drefnu gwirfoddolwyr mewn lleoliadau byw â chymorth ddyletswydd gofal i’r gwirfoddolwyr i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol bosibl, nad ydynt yn agored i beryglon i’w hiechyd a’u diogelwch. Os oes pobl eraill yn gweithio yn y lleoliad byw â chymorth, disgwylir i wirfoddolwyr gadw at y mesurau a sefydlwyd i leihau risg y coronafeirws, fel sy’n ofynnol yn ôl y rheoliadau a’r asesiadau risg a gwblhawyd.

Profi a hunanynysu

Dylid pobl sy’n byw â chymorth, eu ffrindiau a theuluoedd, a phobl sy’n gweithio mewn lleoliad byw â chymorth ddilyn y prif ganllawiau ar sut i hunanynysu a sut i gael prawf, os oes rhaid. Dylid dilyn unrhyw drefniadau penodol ar gyfer profi a hunanynysu sy’n gymwys i bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau byw â chymorth.

Mae tenantiaid mewn llety sy’n rhannu cyfleusterau megis cegin neu ystafell ymolchi yn cael eu trin fel aelwyd unigol at ddibenion hunanynysu. Mae hyn yn golygu, os ydych yn byw mewn llety a rennir, os oes unrhyw un sy’n byw yno yn gorfod hunanynysu oherwydd eu bod yn dangos symptomau’r coronafeirws, yn aros am ganlyniadau prawf, yn hunanynysu yn dilyn cyfarwyddiad gan Profi Olrhain Diogelu neu os ydynt wedi profi’n bositif am COVID-19, yna rhaid i bawb yn y llety a rennir hunanynysu.

Profi, Olrhain, Diogelu

Dylai pobl sy’n ymweld, byw neu weithio mewn lleoliad byw â chymorth ymgysylltu â Phrofi, Olrhain, Diogelu os ydynt yn cael prawf positif am COVID-19, neu os yw Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â nhw oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad â pherson sydd wedi profi’n bositif am COVID-19.

Mae’n bwysig i gasglu manylion cyswllt pobl sydd wedi bod yn y lleoliad byw â chymorth (yn cynnwys staff ac ymwelwyr) ac i gadw’r wybodaeth am 21 diwrnod. Mae hyn yn caniatáu cysylltu â phobl os oes risg eu bod wedi bod yn agored i coronafeirws ar y safle. Mae’r canllawiau ar gasglu manylion cyswllt yn rhoi mwy o wybodaeth.

Cefnogaeth bellach

Mae’n bosibl na fydd y canllawiau hyn yn delio â phob senario. Dylid trin pob sefyllfa yn unigol, gan ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol a sicrhau bod yr unigolion dan sylw, eu teuluoedd a’r rheini sy’n cynrychioli eu budd pennaf yn chwarae rhan lawn mewn penderfyniadau. Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gefnogi asesiadau risg unigol a rhoi cyngor ynglŷn ag atal a rheoli heintiau. Cysylltwch â nhw ar 0300 00300 32.

Byddwn yn parhau i adolygu’r canllawiau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â rheoliadau a chanllawiau ehangach.