Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am arholiadau ac asesiadau, gan gynnwys Safon Uwch, yn ystod pandemigy coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy’n digwydd o ran cymwysterau 2021?

Cyn y Nadolig, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai cymwysterau cyffredinol yn 2021 yn seiliedig ar ddull gweithredu tair elfen o asesiadau nad ydynt yn arholiadau, asesiadau mewnol ac asesiadau allanol. Gwnaed y penderfyniad hwn ar sail cyngor a ddarparwyd gan Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni o benaethiaid ysgolion a cholegau a enwebwyd gan gonsortia rhanbarthol, Colegau Cymru ac awdurdodau lleol. 

Ers hynny, mae’r argyfwng iechyd y cyhoedd wedi gwaethygu. Oni bai bod cyfraddau trosglwyddo’r haint yn y gymuned yn gostwng yn sylweddol erbyn 29 Ionawr, bydd ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu o bell ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr tan hanner tymor mis Chwefror. O ganlyniad, bu’n rhaid inni ailedrych ar ein cynigion ar gyfer cymwysterau i adlewyrchu effaith hyn ar les a hyder dysgwyr.

Mae’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni wedi ailymgynnull bellach, ac wedi datblygu cynigion diwygiedig yn y cyd-destun newydd hwn. Mae hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth fanwl i adroddiad terfynol yr adolygiad annibynnol o gymwysterau dan arweiniad Louise Casella, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 22 Ionawr.

Mae’r Gweinidog wedi cytuno i’r cynigion diwygiedig, ac wedi’u derbyn fel ei pholisi. Ceir crynodeb ohonynt isod.

Bydd dysgwyr sy'n dilyn cyrsiau TGAU, Safon UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru yn derbyn cymwysterau wedi’u dyfarnu drwy fodel Gradd a Bennir gan Ganolfan.

Mae hyn yn golygu y bydd graddau'n cael eu pennu gan eu hysgol neu eu coleg yn seiliedig ar asesiad o waith y dysgwr.

Bydd modd i ysgolion a cholegau ddefnyddio ystod o dystiolaeth i bennu graddau i’w dyfarnu i’w dysgwyr, gan gynnwys asesiadau di-arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth. Yn ogystal, bydd CBAC yn cynnig cyfres o bapurau blaenorol wedi'u haddasu i alluogi ysgolion i barhau i asesu’r dysgu o fewn eu cynlluniau addysgu, er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i athrawon a dysgwyr. Ond ni fydd asesiadau allanol ffurfiol.

Bydd Cymwysterau Cymru’n gweithio gyda CBAC, a gyda chymorth y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, i ddarparu fframwaith asesu i helpu ysgolion a cholegau i ddatblygu eu cynlluniau asesu. Dylai’r cynlluniau asesu ddangos digon o sylw i gysyniadau allweddol i ganiatáu i ddysgwyr symud ymlaen, a manylion am sut y mae’r Ganolfan wedi pennu gradd y dysgwr. Bydd CBAC yn sicrhau ansawdd y cynlluniau asesu hyn.

Unwaith y bydd y broses sicrhau ansawdd wedi'i chwblhau yn y Ganolfan, bydd y radd yn cael ei chyflwyno i CBAC. Ni fydd unrhyw ymyrraeth yn y cyfamser ar y graddau. Bydd dysgwyr yn apelio i'w hysgol neu eu coleg os ydyn nhw'n anhapus â'u gradd, ac i CBAC os ydyn nhw'n anhapus â'r broses.

Mae'r dull gweithredu hwn o ran cael Gradd a Bennir gan Ganolfan, yn gosod ymddiriedaeth yn ymrwymiad athrawon a darlithwyr i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael, a'u gwybodaeth am ansawdd gwaith eu dysgwyr.

Rydym wedi ceisio sicrhau bod y drefn raddio mor glir â phosibl o dan yr amgylchiadau, gan barhau i fod mor syml â phosibl. Addysgu cynnwys craidd a gwahanol agweddau ar bob cwrs yw’r flaenoriaeth absoliwt o hyd i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad, er mwyn eu cefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'r camau nesaf, a chyda hyder yn y graddau a ddyfarnwyd iddynt.

Ceir rhagor o wybodaeth am y model Gradd a Bennir gan Ganolfan a’r hyn y mae’n ei olygu i athrawon a dysgwyr ar wefannau Cymwysterau Cymru a CBAC.

Beth sy’n digwydd o ran ymgeiswyr preifat?

Ar 20 Ionawr, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg mai canolfannau fydd yn pennu graddau cymwysterau dysgwyr cyrsiau TGAU, Safon UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd graddau'n cael eu pennu gan eu hysgol neu eu coleg ar sail asesiad o waith y dysgwr. Ar yr un pryd, gwnaed ymrwymiad clir i ddatblygu trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat i sicrhau bod llwybr clir ar gael ar eu cyfer hwythau – gan gydnabod na allai pob ymgeisydd preifat gael eu cymwysterau y llynedd.

Ers hynny rydym wedi gweithio gyda'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, gyda chymorth cyngor arbenigol gan CBAC a Chymwysterau Cymru, i ddatblygu'r trefniadau hyn ar gyfer ymgeiswyr preifat ac yn haf 2021 bydd dau lwybr ar gael.

Asesiad gan ganolfan gyfarwydd

Os oes gan ymgeisydd preifat berthynas eisoes â chanolfan, er enghraifft dysgwr yn y ganolfan yn ailsefyll arholiad, neu ymgeisydd lle mae canolfan eisoes wedi’i gofrestru’n amodol, yna bydd y canolfannau hynny yn ymgymryd â gweithgareddau asesu gan ddefnyddio'r un dull ag ar gyfer eu dysgwyr eu hunain. Bydd y ganolfan yn darparu'r graddau a bennir ar gyfer y dysgwr a bydd hefyd yn gyfrifol am adolygu ei phrosesau ei hun os bydd ymgeisydd yn apelio yn erbyn ei ganlyniadau dros dro.

Cofrestru â chanolfan at ddibenion asesu

Os nad oes gan ymgeisydd preifat berthynas â chanolfan eisoes, yna bydd canolfannau'n cael eu nodi fel lleoliadau sy’n cofrestru ymgeiswyr preifat at ddibenion asesu. Bydd ymgeiswyr preifat yn mynd i'r canolfannau hyn i wneud gweithgareddau asesu a bennir gan CBAC. Bydd CBAC yn marcio'r gweithgareddau asesu hyn, ochr yn ochr â phortffolio o waith y dysgwr, i bennu gradd. Bydd CBAC yn seilio ei farn ar yr un canllawiau ag a ddefnyddir gan ganolfannau, gan gynnwys y disgrifyddion gradd a gyhoeddir. CBAC hefyd fydd yn rheoli'r broses apelio ar gyfer yr ymgeiswyr hyn.

Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer canolfannau sy'n derbyn ymgeiswyr preifat ac maent ar gael.

Rhestr o ganolfannau sy'n cofrestru ymgeiswyr preifat

Rydym wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod o leiaf un ysgol neu goleg yn eu hardal leol wedi'i nodi'n ganolfan i gofrestru ymgeiswyr preifat. Mae hyn er mwyn sicrhau bod trefniadau asesu priodol ar gael i bob ymgeisydd preifat sydd am ennill cymwysterau.

Mae rhestr o'r canolfannau yng Nghymru sydd wedi'u nodi ar gyfer cofrestru ymgeiswyr preifat.  Cynghorir ymgeiswyr preifat sy'n dymuno cael eu cofrestru ar gyfer cymhwyster TGAU, UG, Safon Uwch neu’r Dystysgrif Her Sgiliau a ddarperir gan CBAC i gysylltu â'u canolfan leol i drefnu cofrestru. Sylwer, yn dibynnu ar leoliad yr ymgeisydd preifat yn ardal yr awdurdod lleol, mae’n bosibl y gall canolfan gofrestru mewn ardal awdurdod lleol cyfagos fod yn nes i’r ymgeisydd.  

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru â chanolfan yw 26 Ebrill, fodd bynnag, anogir ymgeiswyr preifat i gysylltu'n gynnar â chanolfan a nodwyd er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer y broses asesu. Gall canolfannau barhau i dderbyn ymgeiswyr sydd â chysylltiad eisoes â’r ganolfan ar ôl y dyddiad hwn, fodd bynnag, mae hynny yn ôl disgresiwn y ganolfan ac mae’n bosibl y codir ffi mynediad hwyr.

Grant cymorth i ymgeiswyr preifat

Bydd grant ar gael i gefnogi canolfannau sydd wedi'u nodi ar gyfer cofrestru ymgeiswyr preifat. Diben y grant yw talu costau sy'n gysylltiedig ag ysgwyddo trefniadau asesu ar gyfer ymgeiswyr preifat eleni, er mwyn osgoi trosglwyddo unrhyw gostau ychwanegol i ymgeiswyr.

Bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu'n hyblyg drwy grant i awdurdodau lleol fel y gellir ei ddefnyddio i gefnogi canolfannau sy'n cofrestru ymgeiswyr, yn ogystal ag er mwyn talu costau sy’n gysylltiedig â helpu ymgeiswyr preifat i gael mynediad at y trefniadau asesu hyn, er enghraifft cludiant i'r ganolfan dan sylw, cynnal asesiadau o drefniadau mynediad ac ati.

Ffioedd ar gyfer ymgeiswyr preifat

Mewn blwyddyn arferol, mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr preifat yn talu'r ffi mynediad ar gyfer eu cymhwyster, a thâl ychwanegol i'r ganolfan am weinyddu eu cofrestriad. Bydd hyn yn aros yr un fath ar gyfer haf 2021.

Bwriad y grant o £200 fesul ymgeisydd preifat fesul cofrestriad yw talu unrhyw gostau ychwanegol a fyddai'n cael eu hysgwyddo eleni wrth gofrestru ymgeiswyr preifat oherwydd bod y dull asesu yn wahanol – nid ydym yn dymuno i ymgeiswyr preifat wynebu unrhyw rwystrau ychwanegol rhag cofrestru. Disgwylir i ganolfannau godi'r un ffi ar ymgeiswyr preifat ag a godwyd ganddynt wrth gynnal arholiadau yn y gorffennol. Dylai'r ymgeisydd preifat dalu, o leiaf, ffi mynediad y corff dyfarnu.

Trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat sy'n astudio ar gyfer cymwysterau cyffredinol nas cymeradwywyd

Mae'r trefniadau a nodir uchod yn ymwneud â chymwysterau cyffredinol a ddarperir gan CBAC yn unig, gan fod Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio'r rhain. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall ymgeiswyr preifat yng Nghymru hefyd gymryd cymwysterau sy'n cael eu rheoleiddio gan Ofqual ac mae'r Adran Addysg yn Lloegr wedi cytuno ar y dull a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgeiswyr preifat sy'n dilyn y cymwysterau hynny.

Mae rhestr o ganolfannau sydd â'r gallu i dderbyn ymgeiswyr preifat sy'n dilyn cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a reoleiddir gan Ofqual wedi'i chyhoeddi gan y Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ) ac mae ar gael.

Er bod y canolfannau a restrir wedi'u lleoli'n bennaf yn Lloegr, maent yn cynnwys nifer o ddarparwyr dysgu o bell, a all fod yn fwy hygyrch i ymgeiswyr preifat sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, er enghraifft Tutors and Exams.

Os yw ymgeiswyr preifat sy'n ceisio cymryd cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a reoleiddir gan Ofqual yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ganolfan, yna yn y lle cyntaf dylent gysylltu â'u corff dyfarnu:

Mae'r Adran Addysg yn Lloegr yn darparu grant i ganolfannau sy'n derbyn ymgeiswyr preifat ar gyfer cymwysterau a reoleiddir gan Ofqual. Mae meini prawf cymhwysedd Adran Addysg Lloegr wedi’u diweddaru i gynnwys y ddarpariaeth ganlynol ar gyfer ymgeiswyr preifat yng Nghymru.

Candidates in Wales

“Exceptionally, where a candidate has been unable to find an opportunity to enter for their qualifications in Wales, a centre in England can include a candidate in their claim who is in Wales or would have had a reasonable expectation that they would have entered exams in Wales if they had gone ahead. With the exception of the requirements relating to being in England, the candidate must meet all other eligibility criteria in this guidance. In addition, the candidate must not be receiving any other financial support specifically for the cost of assessing that qualification from the Welsh Government or local authorities. The qualifications in scope for these candidates are GCSE, AS, or A levels, provided by a board other than WJEC. Centres should note that they will be required to indicate in their claim which candidates are from Wales, as funding for these will be provided by the Welsh Government, not the Department for Education”.

Ymgeiswyr Preifat yn sefyll arholiadau TGAU neu Safon Uwch rhyngwladol

Nid yw'r cymwysterau hyn yn cael eu rheoleiddio gan Ofqual na Chymwysterau Cymru, felly yn y lle cyntaf cynghorir ymgeiswyr preifat sy'n dilyn cyrsiau’r cymwysterau hyn i gysylltu â'u corff dyfarnu yn uniongyrchol.

Dyrannwyd arian ychwanegol i awdurdodau lleol i roi cymorth i deuluoedd plant o oedran ysgol gorfodol sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhagnodi sut y dylid dyrannu'r cyllid er mwyn caniatáu hyblygrwydd i awdurdodau lleol helpu i ddiwallu amrywiol anghenion ac amgylchiadau gwahanol teuluoedd sy’n dewis Addysgu yn y Cartref (EHE) ledled Cymru – gallai hyn gynnwys cymorth tuag at unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â chael mynediad at arholiadau TGAU neu Safon Uwch rhyngwladol. Dylai teuluoedd drafod gyda swyddog EHE eu hawdurdod lleol pa gyllid a allai fod ar gael iddynt, fodd bynnag, mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu cyllid.

Beth am ddysgwyr ym Mlwyddyn 10?

Yn achos dysgwyr ym Mlwyddyn 10 sydd i fod i gwblhau cymhwyster eleni, bydd y dull hwn yn berthnasol ond ni fydd yn berthnasol i ddysgwyr sydd i fod i gymryd unedau asesu unigol. Bydd Cymwysterau Cymru’n ystyried pa addasiadau a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer y pynciau hyn y flwyddyn nesaf.

Beth am ddysgwyr ym Mlwyddyn 12?

Bydd dysgwyr ym Mlwyddyn 12 yn cael gradd UG a bennir gan Ganolfan. Bydd hynny’n cydnabod eu gwaith caled a'u dysgu eleni, yn eu galluogi i symud ymlaen i astudio cwrs Safon Uwch, ac yn cefnogi ceisiadau UCAS, ond ni fydd yn cyfrannu at y dyfarniad Safon Uwch terfynol yn 2022.  

Beth am asesiadau nad ydynt yn arholiadau?

Gan gydnabod yr heriau sy'n codi yn sgil y tarfu parhaus a gorfod dysgu o bell, mae'r terfynau amser a'r rheolaethau sy’n ymwneud ag asesiadau nad ydynt yn arholiadau yn cael eu dileu ac ni fyddant yn cael eu cymedroli gan CBAC.

Fodd bynnag, lle bo'n bosibl, byddem yn annog ysgolion a cholegau i helpu dysgwyr i ymgymryd â rhai o'u hasesiadau di-arholiad er mwyn parhau i feithrin sgiliau a dysgu.

Mae meithrin gwybodaeth a sgiliau, ac ymdrin â chysyniadau craidd i gefnogi cynnydd, yn flaenoriaeth o hyd a dylid parhau i ganolbwyntio ar hyn, gyda chymorth ein canllawiau a'n dull o ddysgu o bell fel bo'n briodol.

Pa gymorth fydd ar gael i ddysgwyr ym mlynyddoedd 11. 12 a 13?

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.9m yn ychwanegol mewn adnoddau addysg i gefnogi dysgwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 i baratoi ar gyfer eu hasesiadau TGAU a Safon Uwch. Mae'r adnoddau adolygu, sydd ar gael ar wefan Hwb a CBAC, yn cynnwys 'trefnwyr gwybodaeth' i helpu i ddysgu ffeithiau a gwybodaeth allweddol, arweiniad i’r arholiadau a chanllawiau adolygu. Mae'r adnoddau yn ychwanegol at y £7m sy’n cael ei ddarparu i ysgolion a cholegau er mwyn cyflwyno rhaglenni mentora a chymorth adolygu ar gyfer dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau. 

Addysgu cynnwys craidd a gwahanol agweddau ar bob cwrs yw’r flaenoriaeth absoliwt o hyd i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad, er mwyn eu cefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'r camau nesaf, a chyda hyder yn y graddau a ddyfarnwyd iddynt. Mae’r model Gradd a Bennir gan Ganolfan wedi’i gynllunio i gefnogi hyn fel bod dysgwyr yn gallu parhau â’u dysgu yn nhymor yr haf.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i edrych ar sut y gellid cefnogi dysgwyr yng Nghymru drwy'r cyfnod hwn, a phontio i gyrsiau prifysgol. Mae’r trafodaethau a'r ymrwymiadau cychwynnol gan ein prifysgolion wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Yn yr un modd, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach ac ysgolion i weld sut y gallant gefnogi'r dysgwyr hynny sydd ym mlynyddoedd 10, 11 a 12 ar hyn o bryd, wrth iddynt symud i'r flwyddyn academaidd newydd. Mae'n hanfodol i’r sector addysg ehangach barhau i ddod ynghyd i gefnogi ein dysgwyr.

Pryd bydd dysgwyr Blwyddyn 11 ac 13 yn gallu gadael ysgol?

Rydym yn cydnabod bod dysgwyr ac ymarferwyr addysgol wedi profi amhariad sylweddol yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf. I gydnabod yr angen am sefydlogrwydd, ni fydd unrhyw newidiadau i ddyddiadau tymor nac i'r oedran gadael ysgol y flwyddyn academaidd hon. Rydym i gyd yn dymuno sicrhau bod dysgwyr yn barod ac yn hyderus i symud i'w camau nesaf. Yn ystod gweddill tymor yr haf, mae gan ysgolion a cholegau yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar gefnogi trosglwyddo myfyrwyr ymhellach o Flynyddoedd 11, 12 ac 13, gan gynnwys trwy'r dyraniad cyllid o £8.5m a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer ysgolion a cholegau. Rydym yn cydnabod y straen a'r ansicrwydd y mae'r pandemig wedi'u hachosi i lawer o'n dysgwyr, ac yn cydnabod y bydd dysgwyr yn elwa o gael amser i ffwrdd yn ystod yr haf er mwyn cael gorffwys yn dda cyn y flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi 2021.

Ydy penderfyniad y Gweinidog i ganslo arholiadau yng Nghymru yn berthnasol i gymwysterau byrddau arholi Lloegr?

Nac ydy. Dim ond i gymwysterau a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru, a gynlluniwyd ar gyfer Cymru ac a ddarperir gan CBAC y mae’r trefniadau newydd ar gyfer haf 2021 yn berthnasol. Nid ydynt yn berthnasol i gymwysterau a ddarperir gan gyrff dyfarnu yn Lloegr, gan fod y cyrff yma yn cael eu rheoleiddio gan Ofqual. 

Be sy’n digwydd os ydw i’n credu bod camgymeriad wedi ei fod gyda fy nghanlyniad i?

Mae gofyn bod gan ysgolion a cholegau broses apelio, sy’n caniatáu i ti ofyn i dy ganlyniad gael ei adolygu os wyt ti’n credu bod camgymeriad wedi bod a/neu i gywiro unrhyw gamgymeriadau ffeithiol. Bydd gofyn i CBAC gael proses sy’n caniatáu am apêl ar sail camgymeriadau gweithredol, er enghraifft y canlyniadau anghywir yn cael ei ddyfarnu i rywun gydag enw tebyg.

A fydd canslo’r arholiadau yn effeithio ar fy nghynlluniau i fynd i’r Brifysgol?

Rydym wedi bod yn trafod gyda phrifysgolion sydd wedi pwysleisio mai eu blaenoriaeth yw myfyrwyr sydd wedi bod drwy elfennau craidd eu cwrs, a chyn belled â bod yna dystiolaeth dryloyw a thrylwyr o wybodaeth a gallu dysgwr, na fydd dysgwyr o dan anfantais wrth symud ymlaen. Mae’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni wedi bod yn datblygu cynlluniau sy’n diwallu’r anghenion hyn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phrifysgolion wrth i fanylion gweithredol y model Gradd a Bennir gan Ganolfan gael eu cwblhau fel eu bod yn parhau i fod â hyder yn y dull rydym yn ei gymryd i gefnogi dysgwyr yng Nghymru. 

Nod ein dull gweithredu yw sicrhau cymaint o amser â phosibl i addysgu a dysgu, fel bod dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn symud ymlaen yn hyderus. 

A fydd yn rhaid i ddysgwyr sefyll y prawf Rhifedd (Rhesymu) eleni?

Ni fydd profion statudol ar bapur yng Nghymru eleni. Bydd asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu) ar-lein yn cael eu treialu, ac yn dod yn ofyniad statudol o flwyddyn academaidd 2021 i 2022. 

A fydd yn ofynnol i ddysgwyr gymryd yr asesiadau personol ar-lein mewn Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen?

Mae asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen yn darparu dull hyblyg i ysgolion gasglu gwybodaeth am sgiliau eu dysgwyr. Maent wedi cael eu llunio i gefnogi cynnydd ac i ennyn diddordeb dysgwyr mewn deall ble maen nhw wedi’i gyrraedd gyda’u dysgu. Ar gyfer blwyddyn ysgol 2020 i 2021, y gofyn yw i ysgolion gynnal yr asesiadau ar sail ‘cystal ag y bo modd’.   

Lle mae dysgwyr wedi cwblhau asesiadau rhifedd gweithdrefnol eleni, bydd ysgolion yn gallu cael adborth ar eu sgiliau, eu sgoriau safonedig ar sail oedran ac adroddiadau cynnydd.  

Mae adroddiadau adborth ar gyfer yr asesiadau darllen hefyd ar gael. Fodd bynnag, dim ond ar ôl i’r rhan fwyaf o’r dysgwyr gymryd yr asesiadau darllen y bydd sgoriau ac adroddiadau cynnydd ar gael.

Dylid nodi mai diben yr asesiadau hyn yw helpu dysgwyr i wneud cynnydd; nid yw asesiadau personol yn rhan o’r broses gymwysterau.