Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a chwmpas y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn i bobl, gan gynnwys plant, sy'n wynebu risg uchel o ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws (COVID-19) am fod ganddynt gyflwr iechyd difrifol penodol sy'n bodoli eisoes (rhestrir y rhain isod).

Mae hefyd ar gyfer eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr.

Mae'r canllawiau i'w defnyddio gan bobl sy’n gwarchod eu hunain yn eu cartrefi, neu mewn cyfleusterau gofal hirdymor. Ein cyngor cryf i bobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol, sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uchel o salwch difrifol yn sgil y coronafeirws (COVID-19), yw dilyn mesurau "gwarchod" i'w cadw'n ddiogel. Byddwn yn disgrifio'r mesurau hyn yn fanwl yn ddiweddarach.

Mae "gwarchod" yn golygu diogelu’r bobl hynny sy'n hynod o agored i gymhlethdodau difrifol yn sgil y coronafeirws oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd penodol sy'n bodoli eisoes. 

Mae’r cyngor i’r rhai sy’n gwarchod eu hunain i aros gartref drwy’r amser wedi newid. Mae hyn gan fod llai o bobl â’r coronafeirws bellach felly mae llai o risg o ddal y coronaferiws. Mae’r risg o ddal y coronafeirws yn yr awyr agored yn is na’r risg o dan do, os bydd mesurau hylendid da a chadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn yn gaeth. Bellach gall y rhai sy’n gwarchod eu hunain yn y cartref adael eu cartrefi ar gyfer ymarfer corff neu i gyfarfod â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored. Dylech gadw at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol (2 fetr neu 3 cam oddi wrth y person arall) ac fe ddylech ddilyn arferion hylendid da gan gynnwys golchi dwylo yn aml am 20 eiliad o leiaf neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo.

Dylai pobl ddilyn y cyngor hwn hyd at 15 Mehefin 2020 o leiaf. Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu cyn hir at y rhai sy’n gwarchod eu hunain er mwyn eu cynghori ynghylch beth i’w wneud ar ôl 15 Mehefin 2020.

Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) i sicrhau trefniadau i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael yn lleol i bobl sy'n gwarchod eu hunain.

Beth yr ydym yn ei olygu wrth 'eithriadol o agored i niwed'?

Mae ‘pobl eithriadol o agored i niwed’ yn gategori newydd o bobl yng Nghymru sydd â chyflwr iechyd hirdymor difrifol – oddi ar restr benodol iawn o gyflyrau.

Mae effaith eu cyflwr iechyd hirdymor ar eu system imiwnedd yn eu rhoi mewn perygl uchel o salwch difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Rydym yn gofyn i'r grŵp hwn o bobl ddilyn cyfres o fesurau arbennig, o'r enw "mesurau gwarchod", i amddiffyn eu hunain rhag mynd yn sâl.

Mae'r bobl yn y grŵp hwn yn cynnwys:

  1. Pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ solet
  2. Pobl â mathau penodol o ganser:
    • Pobl â chanser sydd wrthi'n cael triniaeth cemotherapi weithredol neu radiotherapi radical ar gyfer canser yr ysgyfaint
    • Pobl â chanser y gwaed neu ganser mêr esgyrn fel lewcemia, lymffoma neu myeloma ac sydd ar unrhyw gamyn eu driniaeth
    • Pobl sy'n cael imiwnotherapi neu driniaethau eraill parhaus â gwrthgyrff ar gyfer canser
    • Pobl sy'n cael triniaethau canser eraill wedi'u targedu a all effeithio ar y system imiwnedd, fel atalyddion cinasau proteinau neu atalyddion PARP
    • Pobl sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu drawsblaniad bôn-gelloedd yn y 6 mis diwethaf, neu sy'n dal i gymryd cyffuriau atal imiwnedd
  3. Pobl â chyflyrau anadlol difrifol gan gynnwys pob ffeibrosis systig, asthma difrifol a chlefyd rhwystrol cronig difrifol yr ysgyfaint (COPD)
  4. Pobl â chlefyd difrifol mewn un organ (e.e. clefyd yr iau/afu, clefyd cardiofasgiwlaidd, clefyd arennol, neu glefyd niwrolegol).
  5. Pobl â chlefydau anghyffredin a gwallau cynhenid mewn metabolaeth sy'n cynyddu'n sylweddol y risg o heintiau (fel diffyg imiwnedd cyfun difrifol (SCID), clefyd y crymangelloedd mewn unigolion homosygaidd)
  6. Pobl ar therapïau atal imiwnedd sy'n ddigon i gynyddu'r risg o haint yn sylweddol.
  7. Menywod beichiog sydd â graddau sylweddol o glefyd ar y galon, boed yn glefyd cynhenid neu fel arall.
  8. Phlant hyd at 18 oed sydd â graddau sylweddol o glefyd ar y galon, boed yn glefyd cynhenid neu fel arall.

Mae’r mesurau gwarchod yn eich amddiffyn. Rydym yn eich cynghori'n gryf i ddilyn y canllawiau hyn ond eich penderfyniad chi yw gwneud hynny. Bydd hwn yn benderfyniad personol iawn a byddem yn eich cynghori i siarad â'ch teulu a'ch ffrindiau am hyn, a chyda'ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, os oes angen.

Byddwch yn cael llythyr gan Lywodraeth Cymru yn nodi'r cyngor a'r ffynonellau help a chymorth yn eich cymuned leol. Os ydych yn gyflogedig, mae hwn hefyd yn brawf na fyddwch yn gallu mynd i'r gwaith tra byddwch mewn cyfnod gwarchod, a gallwch rannu’r llythyr gyda'ch cyflogwr. Os ydych yn gallu, cewch weithio gartref, os yw eich swydd yn caniatáu hynny. Ni fydd angen i chi gael nodyn salwch gan eich meddyg teulu.

Os oes angen help arnoch gan y system les, ewch i'r dudalen credyd cynhwysol ar GOV.UK.

Os credwch eich bod yn perthyn i un o'r categorïau o bobl eithriadol o agored i niwed a restrir uchod ac nad ydych wedi cael llythyr, dylech drafod eich pryderon gyda'ch meddyg teulu neu ddoctor yn yr ysbyty.

Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod pryderus ac y bydd cwestiynau a phryderon gan gan y bobl y’u hystyrir yn eithriadol agored i niwed. Mae cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod gennych ystod eang o help a chymorth.

Sut ydw i'n gwybod os ydw i yn y grŵp o bobl eithriadol o agored i niwed?

Bydd pawb yn y categori ‘eithriadol o agored i niwed’ yn cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, sy'n nodi'r camau y dylid eu cymryd i ddiogelu eich iechyd. Gelwir y rhain yn fesurau "gwarchod".

Mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi gweithio'n galed iawn ar y rhestr hon i sicrhau ei bod yn cynnwys enwau'r bobl hynny sydd yn y categori ‘eithriadol o agored i niwed’.

Mae meddygon teulu a doctoriaid ysbytai hefyd wedi cael rhestr o'r bobl sydd wedi derbyn llythyrau i'w chymharu â'u rhestrau cleifion. Gallant gysylltu ag unrhyw bobl risg uchel ychwanegol na chawsant eu nodi o bosibl er mwyn sicrhau eu bod hefyd yn derbyn y cynghorion yn y llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Os oes gennych un or cyflyrau iechyd a restrir uchod, rydych yn wynebu risg uchel o salwch difrifol a fydd angen triniaeth ysbyty os ydych yn dal y coronafeirws (COVID-19).

Defnyddir y mesurau gwarchod i amddiffyn pobl yr ystyrir eu bod yn agored iawn i niwed os ydynt yn dod i gysylltiad â feirws.

Mae’r cyngor i’r rhai sy’n gwarchod eu hunain i aros gartref drwy’r amser wedi newid. Mae hyn gan fod llai o bobl â’r coronafeirws bellach felly mae llai o risg o ddal y coronaferiws. Mae’r risg o ddal y coronafeirws yn yr awyr agored yn is na’r risg o dan do, os bydd mesurau hylendid da a chadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn yn gaeth. Bellach gall y rhai sy’n gwarchod eu hunain yn y cartref adael eu cartrefi ar gyfer ymarfer corff neu i gyfarfod â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored, gan ddilyn y canllawiau isod.

Fe'ch cynghorir yn gryf i beidio â gadael y cartref ac eithrio i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored neu i gyfarfod â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored nes 15 Mehefin o leiaf. Dylech gadw at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol (2 fetr neu 3 cam oddi wrth y person arall) ac fe ddylech ddilyn arferion hylendid da gan gynnwys golchi dwylo yn aml am 20 eiliad o leiaf neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo, ac osgoi cyffwrdd pethau y bydd eraill wedi eu cyffwrdd. Dylech geisio gwneud unrhyw ymarfer corff yn yr awyr agored ar adegau pan fydd llai o bobl eraill o gwmpas, er mwyn cyfyngu ar unrhyw risg. Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu cyn hir at y rhai sy’n gwarchod eu hunain er mwyn dweud beth i’w wneud ar ôl 15 Mehefin 2020.

Bydd ymweliadau gan ofalwyr neu weithwyr gofal iechyd, a fyddai fel rheol yn dod i helpu â'ch anghenion dyddiol neu ofal cymdeithasol, yn gallu parhau fel arfer. Ond rhaid i ofalwyr a gweithwyr gofal gadw draw os oes ganddynt unrhyw symptom y coronafeirws:

  • tymheredd uchel (uwchben 37.8°C)
  • peswch newydd a chyson
  • colli neu newid i synnwyr arolygu neu flasu arferol

Efallai y bydd y canllaw hwn ar ddarparu gofal cartref yn ddefnyddiol: COVID-19: Canllawiau ar ddarparu gofal cartref ar GOV.UK

Rhaid i bawb sy'n dod i mewn i'ch cartref olchi eu dwylo â dŵr cynnes a sebon am o leiaf 20 eiliad wrth gyrraedd eich tŷ, ac yn aml tra byddant yn eich cartref.

Bydd yn syniad da i ysgrifennu rhestr o bobl – yn gyfeillion, yn deulu neu'n rhwydwaith cefnogi yn eich cymuned leol – a all eich helpu â'ch gofal os bydd eich prif ofalwr yn mynd yn sâl. Gallwch hefyd gysylltu â'ch awdurdod lleol am gyngor a chymorth (mae'r manylion cyswllt ar gael yn y llythyr).

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi datblygu symptomau COVID-19, gofynnwch am gyngor clinigol gan ddefnyddio gwasanaeth coronafeirws ar-lein neu, os nad ydych yn gallu mynd ar y we, ffoniwch 111. Gwnewch hyn cyn gynted ag y byddwch yn cael symptomau.

Os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, nid oes angen iddyn nhw ddilyn y mesurau gwarchod ond mae angen iddyn nhw gymryd camau ychwanegol i helpu i'ch diogelu chi – mae'n bwysig iawn eu bod yn dilyn y canllawiau cyfredol ynglŷn â chadw pellter cymdeithaso. 

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n eithriadol o agored i niwed, rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi cael cyfarwyddyd i ddilyn "mesurau gwarchod"?

Os oes gennych un o’r cyflyrau iechyd a restrir uchod, rydych yn wynebu risg uchel o salwch difrifol a fydd angen triniaeth ysbyty os ydych yn dal y coronafeirws (COVID-19).

Bydd mesurau gwarchod yn helpu i amddiffyn pobl sy'n eithriadol o agored i niwed drwy leihau eu cysylltiad â phobl eraill, a'r risg o gael eu hamlygu i’r coronafeirws.

Yn ymarferol, mae'n golygu na ddylai pobl sy'n eithriadol o agored i niwed adael eu cartrefi ac eithrio i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored neu gyfarfod pobl o aelwyd arall yn yr awyr agored. Y tu mewn i'w cartrefi, os ydynt yn byw gydag eraill, dylent barhau i gadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol gydag aelodau eraill o'u haelwyd.

Fe'ch cynghorir yn gryf i ddilyn y canllawiau hyn hyd at 15 Mehefin 2020 o leiaf. Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu cyn hir at y rhai sy’n gwarchod eu hunain i’w cynghori ynghylch beth i’w wneud ar ôl 15 Mehefin 2020.

Dyma'r camau gweithredu:

  1. Osgoi unrhyw gysylltiad ag unrhyw un sy'n dangos symptomau’r coronafeirws (mae'r rhain yn cynnwys tymheredd uchel (uwchben 37.8°C) neu beswch newydd a pharhaus, nu golli neu newid eich synnwyr arolygu neu flasu)
  2. Peidio â gadael y cartref ac eithrio i wneud ymarfer corff neu gyfarfod pobl o aelwyd arall yn yr awyr agored, gan ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol (cadw 2 fetr neu 3 cam ar wahân i bobl eraill) yn gaeth iawn, a dilyn arferion hylendid da
  3. Cadw draw oddi wrth grwpiau mawr o bobl, gan gynnwys priodasau, dathliadau eraill a gwasanaethau crefyddol
  4. Trefnu bod bwyd a meddyginiaeth yn cael eu danfon i'ch cartref
  5. Cadw mewn cysylltiad â phobl eraill gan ddefnyddio technoleg fel y ffôn, y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol
  6. Defnyddio gwasanaethau ffôn neu wasanaethau ar-lein i gysylltu â'ch meddyg teulu neu wasanaethau hanfodol eraill
  7. Golchi eich dwylo'n rheolaidd â sebon a dŵr cynnes am 20 eiliad, a gwneud yn siŵr bod yr holl ofalwyr neu weithwyr cymorth sy'n ymweld â'ch cartref yn gwneud yr un peth.

Rydym yn gwybod y bydd y mesurau gwarchod yn anodd.

Dylech geisio dod o hyd i ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu a dal ati gyda’ch gweithgareddau arferol dros y ffôn neu'r rhyngrwyd.

Bydd y cyngor hwn yn berthnasol nes 15 Mehefin 2020 o leiaf. Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu cyn hir at y rhai sy’n gwarchod eu hunain i’w cynghori ynghylch beth i’w wneud ar ôl 15 Mehefin 2020.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi'n byw gyda rhywun?

Ni fydd angen i’r bobl eraill yn eich cartref ddilyn y mesurau gwarchod hyn os nad oes ganddynt gyflwr iechyd difrifol sy’n bodoli’n barod (fel y’u rhestrwyd yn gynharach). Ond fe fyddan nhw yno i'ch cefnogi chi, a rhaid iddyn nhw ddilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.

  • Dylech dreulio cyn lleied o amser â phosibl gydag eraill mewn mannau a rennir megis y gegin, yr ystafell ymolchi a'r ystafell fyw, ac agor ffenestri i awyru’r ystafelloedd rydych yn eu rhannu.
  • Ceisiwch gadw 2 fetr (3 cham) i ffwrdd oddi wrth eraill, a chysgu mewn gwely ar wahân lle bo hynny'n bosibl.
  • Defnyddiwch dyweli ac ystafelloedd ymolchi ar wahân. Os ydych yn rhannu ystafell ymolchi, glanhewch hi bob tro ar ôl ei defnyddio. Ystyriwch greu rota ar gyfer ymolchi, gyda chi'n defnyddio'r cyfleusterau yn gyntaf.
  • Dylech osgoi defnyddio'r gegin ar yr un pryd ag eraill, a bwyta eich prydau mewn ystafelloedd ar wahân. Sicrhewch fod yr holl lestri cegin yn cael eu glanhau'n drylwyr.

 

Rydym yn gwybod y bydd yn anodd i rai pobl fyw bywydau ar wahân. Ond rhaid dilyn y canllawiau hyn a rhaid i bawb olchi eu dwylo'n rheolaidd â sebon a dŵr cynnes am 20 eiliad, osgoi cyffwrdd â'u hwyneb, a glanhau arwynebau y maent yn eu cyffwrdd yn aml.

Os yw gweddill eich cartref yn dilyn y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o ledaenu'r feirws o fewn y cartref drwy ddilyn y cyngor uchod, nid oes angen iddyn nhw hefyd ddilyn y mesurau gwarchod yn union fel chi.

Hylendid da

Dyma rai canllawiau syml i'w dilyn i helpu i atal lledaeniad heintiau’r llwybr anadlu a'r frest:

  • Golchwch eich dwylo'n amlach – âsebon a dŵr cynnes am o leiaf 20 eiliad, neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo. Gwnewch hyn ar ôl i chi chwythu eich trwyn, tisian neu beswch, a chyn ac ar ôl i chi fwyta neu drin bwyd.
  • Peidiwch â chyffwrdd eich llygaid, eich trwyn na'ch ceg â'ch dwylo heb eu golchi.
  • Osgowch gysylltiad agos â phobl sydd â symptomau.
  • Gofalwch eich bod yn peswch neu disian i mewn i hances, yna taflu’r hances i’r bin.
  • Glanhewch a diheintiwch eitemau ac arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn y cartref.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi'n datblygu symptomau posibl y coronafeirws (COVID-19)?

Os byddwch yn datblygu symptomau COVID-19:

  • tymheredd uchel (uwchben 37.8°C)
  • peswch newydd a chyson
  • colli neu newid i synnwyr arolygu a blasu arferol

gofynnwch am gyngor clinigol gan ddefnyddio’r gwasanaeth coronafeirws ar-lein neu, os nad ydych yn gallu mynd ar y we, ffoniwch 111.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os ydych yn ddifrifol wael. Peidiwch ag ymweld â'r meddyg teulu, fferyllfa, canolfan gofal brys, nac ysbyty.

Er mwyn helpu'r Gwasnaeth Iechyd i roi'r gofal gorau i chi os bydd angen i chi fynd i'r ysbyty o ganlyniad i ddal coronafeirws, dylech baratoi un bag ysbyty. Dylai hwn gynnwys eich enw cyswllt mewn argyfwng, rhestr o'r meddyginiaethau y byddwch yn eu cymryd (gan gynnwys pa ddogn a pha mor aml), unrhyw wybodaeth am eich apwyntiadau gofal wedi'u cynllunio a phethau y byddai eu hangen arnoch i aros dros nos (byrbrydau, pyjamas, brwsh dannedd, eich meddyginiaeth ac ati). Os oes gennych gynllun gofal uwch, cofiwch gynnwys hwnnw.

Sut y gallwch gael cymorth gyda bwydydd a moddion os ydych yn dilyn mesurau gwarchod?

Gofynnwch i'ch teulu, ffrindiau a chymdogion eich helpu, a defnyddiwch wasanaethau ar-lein pryd bynnag y bo modd. Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â'ch awdurdod lleol am gymorth (mae manylion cyswllt wedi'u cynnwys yn eich llythyr).

Os nad yw eich presgripsiwn yn cael ei gasglu na'i ddanfon i chi ar hyn o bryd, gallwch drefnu hyn trwy:

  1. Gofyn i rywun godi'ch presgripsiwn o'r fferyllfa leol, (dyma'r opsiwn gorau, os yn bosibl).
  2. Cysylltu â'ch fferyllfa i ofyn iddynt ddanfon eich presgripsiwn i chi, neu ddod o hyd i wirfoddolwr (a fydd wedi cael archwiliad adnabod) i'w gasglu a’i ddanfon i chi.

Efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau hefyd ar gyfer casglu/danfon unrhyw feddyginiaeth arbenigol a ragnodir i chi gan eich tîm gofal ysbyty.

Os ydych yn cael cymorth gan sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft, gofal gan eich awdurdod lleol, bydd hyn yn parhau fel arfer. Gofynnir i'ch darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol gymryd camau ychwanegol i sicrhau eich bod yn cael eich diogelu. Mae'r cyngor ar gyfer gofalwyr ffurfiol wedi'i gynnwys yn y canllawiau ar ddarparu gofal cartref ar GOV.UK.

Bwyd

Os nad ydych yn gally archebu siopa bwyd ar y we ac nad ydych yn cael unrhyw gymorth gan deulu, ffrindiau, cymdogion neu grwpiau cefnogi lleol tra byddwch yn gwarchod eich hunan, byddwch yn gallu gofyn am focsys bwyd wythnosol am ddim. Bydd pob bocs bwyd yn cynnwys digon o fwyd am wythnos i un person sy’n gwarchod ei hunan – os bydd dau o bobl mewn cartref yn gwarchod eu hunain, gellir gofyn am ddau focs bwyd.

I ofyn am focs bwyd wythnosol am ddim, ffoniwch y rhif arbennig ar gyfer eich awdurdod lleol, sydd yn y llythyr a gawsoch oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol.

Bydd y bocs bwyd yn cael ei ddanfon yn syth i'ch cartref. Mae gan awdurdodau lleol drefniadau ar waith hefyd i helpu pobl sydd mewn angen brys – cyn i'r gwasanaeth danfon ddechrau.

Bydd y bocs bwyd yn cynnwys bwydydd hanfodol mewn pecynnau a thuniau ond dim ond ychydig o gynnyrch ffres. Nid ydym yn gallu bodloni angehnion dietegol pobl gan gynnwys alargeddau ar hyn o bryd. Bydd yr holl gynnwys wedi'i labelu, ac felly bydd angen ei wirio'n oflaus. Rydym yn edrych i weld os allwn fodloni anghenion dietegol pobl, gan gynnwys alergeddau, yn y dyfodol, ac yn gobeithio gwella'r amrywiaeth.

Bydd bocs yn rhoi bwyd a hanfodion ar gyfer un person am wythnos. Os oes dau o bobl gymwys yn y tŷ, bydd dau ocs bwyd yn cael eu danfon.

Erbyn hyn mae manylion y rheiny sydd wedi derbyn llythyr gwarchod gyda'r archfarchnadoedd. Bydd hyn yn eu galluogi i flaenoriaethu archebion dros y we i'r rheiny sy'n gwarchod.

Meddyginiaethau

Os nad yw eich presgripsiwn yn cael ei gasglu na'i ddanfon ar hyn o bryd, gallwch drefnu hyn:

  • gofynnwch i rywun godi'ch presgripsiwn o'r fferyllfa leol, (dyma'r opsiwn gorau, os yn bosibl)
  • cysylltwch â'ch fferyllfa i ofyn am gyngor ar sut i gael eich moddion

Gall gwirfoddolwyr helpu fferyllfeydd trwy ddanfon moddion i gartrefi pobl - bydd pob gwirfoddolwr wedi cael archwiliad adnabod ac wedi cael hyfforddiant mewn atal heintiau a danfon meddyginiaeth.

Efallai y bydd arnoch angen gwneud trefniadau ar gyfer casglu neu ddanfon meddyginiaeth arbenigol hefyd, a gawsoch ar bresgripsiwn gan eich tîm gofal yn yr ysbyty.

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych apwyntiadau yn yr ysbyty neu gyda’r mfeddyg teulu yn ystod y cyfnod hwn?

Rydym yn cynghori pawb i gael apwyntiadau dros y ffôn neu'r rhyngrwyd, pan fo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, os oes gennych apwyntiad ysbyty neu apwyntiad meddygol arall wedi’i drefnu, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch meddyg i sicrhau eich bod yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnoch. Mae'n bosibl y bydd angen i'ch ysbyty ganslo neu ohirio rhai clinigau neu apwyntiadau.

Beth yw'r cyngor i ymwelwyr, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gofal i chi?

Dylech gysylltu ag ymwelwyr rheolaidd â'ch cartref, fel ffrindiau a theulu, er mwyn rhoi gwybod iddynt eich bod yn dilyn mesurau gwarchod. Ni ddylent ddod i mewn i’ch cartref chi yn ystod y cyfnod hwn, oni bai eu bod yn darparu gofal hanfodol ar eich cyfer. Mae gofal hanfodol yn cynnwys pethau fel help i ymolchi, gwisgo, neu fwydo.

Os ydych yn derbyn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol rheolaidd gan sefydliad, un ai drwy eich awdurdod lleol neu eich bod yn talu amdanoch chi eich hun, rhowch wybod i'ch darparwyr gofal eich bod yn dilyn mesurau gwarchod, a chytunwch ar gynllun ar gyfer parhau â'ch gofal.

Os ydych yn cael gofal hanfodol gan ffrindiau neu aelodau o'ch teulu, siaradwch â'ch gofalwyr am gamau ychwanegol y gallant eu cymryd i'ch cadw'n ddiogel. 

Mae'n syniad da siarad â'ch gofalwyr am yr hyn sy'n digwydd os bydd un ohonynt yn mynd yn sâl, ac ystyried cynllun wrth gefn. Os nad oes gennych ffrindiau neu deulu a all eich helpu, ceir grwpiau cymunedol lleol a allai fod o gymorth. Os nad ydych yn gallu cael gafael ar grŵp cymunedol lleol, gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol am gyngor – mae manylion cyswllt ar gyfer pob awdurdod lleol wedi'u cynnwys yn y llythyr gan Brif Swyddog Meddgol Cymru.

Beth yw'r cyngor ar gyfer gofalwyr anffurfiol sy'n darparu gofal i rywun sy'n eithriadol o agored i niwed?

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n eithriadol o agored i niwed, mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i'w diogelu a lleihau eu risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws:

  • Dim ond gofal sy'n hanfodol y dylid ei ddarparu.
  • Golchwch eich dwylo ar ôl cyrraedd eu cartref ac yn aml pan fyddwch yno, gan ddefnyddio sebon a dŵr cynnes am o leiaf 20 eiliad, neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.
  • Gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn peswch neu'n tisian.
  • Rhowch yr hancesi yn y bin ar unwaith ar ôl eu defnyddio a golchwch eich dwylo wedyn.
  • Peidiwch ag ymweld na darparu gofal os ydych yn sâl, ond gwnewch drefniadau eraill ar gyfer eu gofal.
  • Rhowch wybodaeth am bwy y dylent alw arnynt os ydynt yn teimlo'n sâl, sut i ddefnyddio'r gwasanaeth coronafeirws ar-lein, a gadewch y rhif 111 rywle amlwg.
  • Holwch am gwahanol ffynonellau o gymorth y gellid eu defnyddio a chael rhagor o gyngor ar greu cynllun wrth gefn sydd ar gael gan Carers UK.
  • Gofalwch am eich lles a'ch iechyd corfforol eich hun yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael isod.

Sut i ofalu am eich lles meddyliol

Gall y mesurau gwarchod a chadw pellter fod yn ddiflas ac yn rhwystredig. Efallai y byddant yn effeithio ar eich hwyliau a'ch teimladau ac efallai eich bod yn teimlo'n isel, yn bryderus, neu'n cael problemau cysgu, ac efallai y byddwch yn gweld eisiau bod y tu allan ac ymysg pobl eraill. Dyna pam rydym ni’n dweud bellach y gall y rhai sy’n gwarchod eu hunain adael eu cartrefi nawr i wneud ymarfer corff neu gyfarfod pobl o aelwyd arall yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol ac yn dilyn arferion hylendid da.

Ar adegau fel hyn, gall fod yn hawdd syrthio i batrymau ymddygiad nad ydynt yn iach a gall hynny, yn ei dro, wneud i chi deimlo'n waeth. Mae pethau syml y gallwch eu gwneud a allai helpu i aros yn brysur yn feddyliol, ac yn gorfforol, yn ystod y cyfnod hwn, fel:

  • Treulio amser yn gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau – gallai hyn gynnwys ymarfer corff yn yr awyr agored, darllen, coginio, hobïau eraill dan do neu wylio/gwrando ar hoff raglenni teledu neu radio.
  • Ceisio bwyta prydau iach, cytbwys, yfed digon o ddŵr, ymarfer corff yn rheolaidd, a cheisio osgoi smygu, alcohol a chyffuriau hamdden.

Mae mwy o wybodaeth ar ofalu am eich iechyd a lles meddyliol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae gwylio'r newyddion yn gyson yn gallu gwneud i chi deimlo'n fwy pryderus. Os ydych chi'n credu ei fod yn effeithio arnoch chi, ceisiwch gyfyngu ar yr amser rydych chi'n ei dreulio yn gwylio, darllen neu wrando ar y cyfryngau. Gall helpu i ddarllen neu edrych ar y newyddion ar adegau penodol neu gyfyngu hyn i ychydig o weithiau'r dydd.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau ar gyfer eich iechyd meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth ac yn poeni am effaith unigrwydd, cysylltwch â'ch gweithiwr allweddol/cydgysylltydd gofal neu ddarparwr i adolygu eich cynllun gofal. Os oes gennych anghenion ychwanegol, cysylltwch â'ch gweithiwr allweddol neu'ch cydlynydd gofal i ddatblygu cynllun diogelwch neu argyfwng.

Mae yna wasanaethau hefyd i'ch cefnogi chi ac eraill y gallech chi fod yn poeni amdanyn nhw. Gall siarad am bryderon a phroblemau wneud pethau’n haws.

Mae llinell gymorth C.A.L.L. yn llinell gymorth iechyd meddwl benodol ar gyfer Cymru. Mae’n darparu gwasanaethau gwrando cyfrinachol a chefnogaeth emosiynol a gall eich helpu i gysylltu â chymorth yn eich ardal leol gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennol. Mae ar gael ar 0800 132 737, neu drwy decstio 'help’ i 81066. Fel arall ewch i wefan C.A.L.L.

Os ydych yn dal i gael trafferth ar ôl sawl wythnos a'i fod yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu ffoniwch 111.

Pa gamau y gallwch chi eu cymryd i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn?

Defnyddiwch gymorth gan ffrindiau, teulu a rhwydweithiau cefnogi eraill. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â'r rhai sydd o'ch cwmpas dros y ffôn, drwy'r post, neu ar-lein.

Gadewch i bobl wybod sut yr hoffech chi gadw mewn cysylltiad ac ymgorffori hynny yn eich trefn arferol. Mae hyn hefyd yn bwysig o ran gofalu am eich lles meddyliol ac efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â nhw am sut rydych chi'n teimlo, os ydych chi eisiau.

Cofiwch, mae'n iawn rhannu eich pryderon gydag eraill rydych chi'n ymddiried ynddynt, ac wrth wneud hynny, efallai y byddwch chi'n darparu cymorth iddyn nhw yn y pen draw. Efallai y byddwch hefyd am gysylltu â llinell gymorth C.A.L.L. ar 0800 132 737, neu drwy decstio 'help' i 81066. Fel arall ewch i wefan C.A.L.L.

Beth yw'r cyngor i bobl sy'n byw mewn cyfleusterau gofal hirdymor, naill ai i'r henoed neu i bobl ag anghenion arbennig?

Mae'r cyngor hwn hefyd yn berthnasol i bobl eithriadol o agored i niwed sy'n byw mewn cyfleusterau gofal hirdymor.

Dylai darparwyr gofal drafod y cyngor hwn yn ofalus gyda'r teuluoedd, y gofalwyr a'r meddygon arbenigol sy'n gofalu am breswylwyr er mwyn sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu dilyn yn fanwl.

Beth yw'r cyngor i rieni ac ysgolion sydd â phlant hynod o agored i niwed?

Mae'r cyngor hefyd yn berthnasol i blant hynod o agored i niwed mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig. 

Rhannu’r dudalen hon