Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd pobl sy’n cael eu hystyried yn ‘eithriadol o agored i niwed’ eu cynghori gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i gymryd camau diogelu ychwanegol yn ystod brig y pandemig yng Nghymru, hynny yw, i ‘warchod’ eu hunain.

Cyflwynwyd y cyngor gwarchod gyntaf ar ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth.

Newidiadau arfaethedig o 16 Awst ymlaen

Nid oes angen i’r rhai a oedd yn dilyn y cyngor gwarchod o’r blaen wneud hynny mwyach. Cewch nawr ddilyn yr un rheolau â gweddill poblogaeth Cymru. Mae hyn yn golygu:

  • Nid oes angen ichi gadw 2 fetr neu 3 cham oddi wrth bobl eraill sy’n byw gyda chi neu sy’n rhan o’ch aelwyd estynedig (lle caniateir)
  • Cewch fynd i’ch gwaith, os na allwch weithio gartref, cyhyd â bod y busnes yn ddiogel o ran COVID-19 (wedi cymryd camau rhesymol i leihau’r risg i weithwyr)
  • Caiff plant sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain fynd i’r ysgol
  • Cewch fynd allan am unrhyw reswm, gan gynnwys mynd i’r siop i nôl bwyd ond dylech gadw 2 fetr neu 3 cham oddi wrth bobl eraill.

Fel rhan o’r trefniadau cymorth, bydd y cynllun bocsys bwyd yn dod i ben, ond bydd slotiau â blaenoriaeth gydag archfarchnadoedd yn parhau i fod ar gael a bydd gwasanaeth danfon meddyginiaeth ar gael drwy’r Cynllun Cenedlaethol Cyflenwi Presgripsiynau gan Wirfoddolwyr tan ddiwedd mis Medi.

Anfonodd Prif Swyddog Meddygol Cymru lythyr yn rhoi’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf. Mae copi o’r llythyr ar gael yma.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn i bobl, gan gynnwys plant, sy'n wynebu risg uchel o ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws (COVID-19) am fod ganddynt gyflwr iechyd difrifol penodol sy'n bodoli eisoes (rhestrir y rhain isod).

Beth yr ydym yn ei olygu wrth 'eithriadol o agored i niwed'?

Mae ‘pobl eithriadol o agored i niwed’ yn golygu pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor difrifol – oddi ar restr benodol iawn o gyflyrau.

Yn ôl yr hyn yr ydym yn ei wybod hyd yma, mae effaith eu cyflwr iechyd hirdymor ar eu system imiwnedd yn eu rhoi mewn perygl uchel o salwch difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae'r bobl yn y grŵp hwn yn cynnwys:

  1. Pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ solet
  2. Pobl â mathau penodol o ganser:
    • Pobl â chanser sydd wrthi'n cael triniaeth cemotherapi weithredol neu radiotherapi radical ar gyfer canser yr ysgyfaint
    • Pobl â chanser y gwaed neu ganser mêr esgyrn fel lewcemia, lymffoma neu myeloma ac sydd ar unrhyw gamyn eu driniaeth
    • Pobl sy'n cael imiwnotherapi neu driniaethau eraill parhaus â gwrthgyrff ar gyfer canser
    • Pobl sy'n cael triniaethau canser eraill wedi'u targedu a all effeithio ar y system imiwnedd, fel atalyddion cinasau proteinau neu atalyddion PARP
    • Pobl sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu drawsblaniad bôn-gelloedd yn y 6 mis diwethaf, neu sy'n dal i gymryd cyffuriau atal imiwnedd
  3. Pobl â chyflyrau anadlol difrifol gan gynnwys pob ffeibrosis systig, asthma difrifol a chlefyd rhwystrol cronig difrifol yr ysgyfaint (COPD)
  4. Pobl â chlefyd difrifol mewn un organ (e.e. clefyd yr iau/afu, clefyd cardiofasgiwlaidd, clefyd arennol, neu glefyd niwrolegol).
  5. Pobl â chlefydau anghyffredin a gwallau cynhenid mewn metabolaeth sy'n cynyddu'n sylweddol y risg o heintiau (fel diffyg imiwnedd cyfun difrifol (SCID), clefyd y crymangelloedd mewn unigolion homosygaidd)
  6. Pobl ar therapïau atal imiwnedd sy'n ddigon i gynyddu'r risg o haint yn sylweddol.
  7. Menywod beichiog sydd â graddau sylweddol o glefyd ar y galon, boed yn glefyd cynhenid neu fel arall.
  8. Phlant hyd at 18 oed sydd â graddau sylweddol o glefyd ar y galon, boed yn glefyd cynhenid neu fel arall.

Os credwch eich bod yn perthyn i un o'r categorïau o bobl eithriadol o agored i niwed a restrir uchod ac nad ydych wedi cael llythyr, dylech drafod eich pryderon gyda'ch meddyg teulu neu ddoctor yn yr ysbyty.

Pethau y dylech fod yn eu gwneud i gadw’n ddiogel

  • Cadw 2m neu dri cham oddi wrth bobl eraill heblaw am aelodau o’ch cartref neu’ch aelwyd estynedig (lle caniateir).
  • Dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth ar gorchuddion wyneb.
  • Golchi’ch dwylo yn rheolaidd â dŵr a sebon am 20 eiliad.
  • Cynllunio ymlaen llaw. Cyn mynd am dro dylech ystyried a fydd llefydd ar gael i orffwyso, neu cyn teithio ymhellach o’ch cartref dylech ystyried a fydd toiledau ar agor. Cofiwch fynd â hylif diheintio dwylo gyda chi rhag ofn na fydd cyfleusterau golchi dwylo ar gael.
  • Gweithio gartref os gallwch chi neu, fel arall, mynd yn ôl i’ch gweithle os yw’n ddiogel o ran COVID-19 (wedi cymryd camau rhesymol i leihau’r risg i weithwyr).
  • Cysylltu â’ch archfarchnad leol i gael blaenoriaeth wrth siopa ar-lein os nad ydych eto’n teimlo’n barod i fynd i’r siop. Os byddwch yn mynd i archfarchnad, dewiswch adegau tawelach o’r dydd.
  • Defnyddio’r ffôn neu’r rhyngrwyd i gysylltu â’ch meddyg teulu, eich fferyllfa neu wasanaethau eraill yr ydych eu hangen.
  • Cysylltu â’ch cyngor lleol os na fydd neb yn gallu’ch helpu. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y llythyr hwn.

Pethau na ddylech fod yn eu gwneud i gadw’n ddiogel

  • Peidiwch â mynd yn agos at unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws. Gallai’r symptomau hyn fod yn un neu bob un o’r canlynol: tymheredd uchel (dros 37.8 °C), peswch newydd cyson, colli ei synnwyr blasu neu arogli.
  • Peidiwch â mentro’n ddiangen, er enghraifft, mynd i rywle dan do lle mae llawer o bobl wedi ymgynnull gan ei gwneud yn amhosibl cadw pellter corfforol.
  • Peidiwch â mynd i’r feddygfa neu’r ysbyty heb ffonio yn gyntaf. Os bydd angen ichi gysylltu â’r GIG dylech ddweud eich bod wedi bod yn gwarchod eich hun.

Beth y byddwn yn ei wneud pe bai nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru yn cynyddu

Byddwn yn cadw cofnod o bawb ar y rhestr gwarchod cleifion rhag ofn y bydd angen inni ofyn i unrhyw un warchod eu hunain eto yn y dyfodol.

Os bydd cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru yn newid ar gyfer eich ardal, byddwn yn rhoi gwybod i’r cyhoedd drwy orsafoedd radio a sianeli teledu lleol ac os bydd angen ichi warchod eich hun eto, bydd ef yn ysgrifennu atoch eto. 

Maes o law, hoffem ddeall risg bersonol pob unigolyn yn well. Rydym wrthi’n gweithio gyda gwledydd eraill y DU i ddatblygu adnodd a fydd yn galluogi meddygon teulu i asesu risg unigolyn a pha gamau y dylai eu cymryd i helpu i leihau’r risg.

Gwaith a chyflogaeth

Gan fod y cyngor gwarchod wedi’i rewi, ni fydd pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn gymwys mwyach am Dâl Salwch Statudol ar sail y cyngor gwarchod.

Dylech barhau i weithio gartref os yw’n bosibl, ond cewch ddychwelyd i’r gwaith os yw’ch gweithle yn ddiogel o ran COVID-19.

Dylai’ch cyflogwr eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel a rhaid iddynt gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws drwy sicrhau bod pellter o 2m yn cael ei gadw rhwng gweithwyr yn eich gweithle (os na allwch weithio gartref). Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar gamau i’w cymryd i ddiogelu’r gweithle.

Dylai cyflogwyr fod yn ystyriol o anghenion penodol gwahanol grwpiau o weithwyr neu unigolion.

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn erbyn unrhyw un oherwydd nodwedd warchodedig megis oedran, rhyw, anabledd, hil neu ethnigrwydd.

Hefyd, mae gan gyflogwyr gyfrifoldebau penodol ynghylch gweithwyr anabl a mamau newydd neu feichiog.

Gallwch gael cyngor ar eich sefyllfa benodol a’ch hawliau cyflogaeth drwy fynd ar wefan Acas neu ffonio llinell gymorth Acas, 0300 123 1100.

Os ydych yn teimlo bod eich cyflogwr, neu rywun sy’n darparu gwasanaeth ichi, wedi’ch trin yn annheg mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) yn cynnig gwasanaeth cynghori am ddim. Mae’r gwasanaeth ar gael drwy ffonio 0808 800 0082, drwy ffôn testun 0808 800 0084 neu ar y wefan.

Os oes gennych bryderon ynghylch eich iechyd a’ch diogelwch yn y gwaith, gallwch eu codi gyda chynrychiolwyr diogelwch undeb llafur, neu gyda’r corff sy’n gyfrifol am orfodaeth yn eich gweithle, naill ai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’ch awdurdod lleol.

Os ydych yn hunangyflogedig, mae cymorth ar gael drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Rhaglen cymorth cyflogaeth wedi’i hariannu gan gyllid cyhoeddus yw Mynediad at Waith. Ei nod yw helpu rhagor o bobl anabl i ddechrau gweithio neu barhau i weithio. Gall ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl anabl neu bobl sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor. Gall ddarparu cymorth pan fo angen help neu addasiadau ar rywun y tu hwnt i addasiadau rhesymol. Ffoniwch linell gymorth Mynediad at Waith 0800 121 7479.

Os oes angen help arnoch gan y system les, ewch i: Deall Credyd Cynhwysol ar GOV.UK.

Plant a phobl ifanc

Yn yr un modd ag oedolion, ni fydd angen i blant a phobl ifanc warchod eu hunain mwyach, sy’n golygu y gallant fynd yn ôl i’r ysgol neu’r coleg/prifysgol.

Mae tystiolaeth gref sy’n awgrymu nad oes angen i lawer o blant a phobl ifanc warchod eu hunain unrhyw bryd oherwydd, yn gyffredinol, mae gan blant a phobl ifanc risg is o lawer o salwch difrifol yn sgil COVID-19.

Mae oddeutu 5,000 o blant a phobl ifanc ar y Rhestr Gwarchod Cleifion yng Nghymru.

Rydym yn disgwyl y bydd y mwyafrif o blant yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr hon. Mae hyn yn golygu na fyddai gofyn iddynt warchod eu hunain eto yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl mai dim ond y rhai sy’n derbyn triniaethau penodol, megis triniaeth ar gyfer gofal canser neu’r rhai sydd â risg o haint difrifol oherwydd diffyg imiwnedd, fydd yn aros ar y rhestr warchod ac felly mae’n bosibl y bydd gofyn iddynt hwy warchod eu hunain eto yn y dyfodol.

Bydd pediatregydd neu feddyg teulu’ch plentyn yn rhoi gwybod ichi a ddylai’ch plentyn aros ar y Rhestr Gwarchod Cleifion.

Os byddwch yn datblygu symptomau o’r coronafeirws (COVID-19)

Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn, fe’ch cynghorir i archebu prawf ar unwaith.

  • tymheredd uchel (uwchben 37.8 °C)
  • peswch cyson newydd
  • wedi colli eich synnwyr blasu neu arogli, neu sylwi ar newid ynddynt

Cymorth

Daeth y cynllun bocsys bwyd i ben pan gafodd y cyngor gwarchod ei rewi, ond os oes angen cymorth arnoch o hyd ac na allwch gael cymorth gan ffrindiau, perthnasau neu gymdogion, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol.

Mae llawer o archfarchnadoedd hefyd yn cynnig bocsys bwyd y gallwch eu harchebu i gael eu danfon at eich drws. Mae'r rhan fwyaf hefyd wedi cyflwyno gwahanol ddulliau e-dalu i gael gwared â’r angen i gael gafael ar arian parod os bydd pobl eraill yn siopa ar eich rhan. Gallwch gael gwybod am opsiynau eraill.

Bydd y Cynllun Cenedlaethol Cyflenwi Presgripsiynau gan Wirfoddolwyr ar gael tan ddiwedd mis Medi.

Rydym yn gofyn i fferyllfeydd cymunedol sicrhau eu bod yn blaenoriaethu slotiau danfon meddyginiaeth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Os oes gennych rywun a all gasglu’ch meddyginiaeth neu os nad oes angen i’ch meddyginiaeth gael ei danfon atoch mwyach, rhowch wybod i’ch fferyllfa.

Mae gwasanaeth ar gael hefyd os yw’r coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnoch chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, ac mae angen cymorth ychwanegol. Bydd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer ystod eang o faterion, o dalu biliau i ddod o hyd i rywle i fyw.

Apwyntiadau ysbyty a meddyg teulu

Pan fo hynny’n bosibl, bydd apwyntiadau meddyg teulu yn parhau i gael eu cynnal dros y ffôn, dros e-bost neu ar-lein. Os bydd rhaid ichi gael eich gweld wyneb yn wyneb, bydd eich practis meddyg teulu yn cysylltu â chi i roi gwybod beth y dylech ei wneud. Bydd eich ysbyty neu’ch clinig yn cysylltu â chi os bydd rhaid gwneud unrhyw newidiadau i’ch gofal neu’ch triniaeth. Ffoniwch eich ysbyty neu’ch clinig os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad.

Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo masg meddygol pan fydd angen ichi fynd i’ch meddygfa neu’r ysbyty. Os nad oes gennych fasg, gallwch ofyn am un pan fyddwch yn cyrraedd.

Cyngor i ymwelwyr, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gofal ichi

Gall gofalwyr neu weithwyr cymorth sy’n eich helpu â’ch anghenion bob dydd barhau i ddod i’ch gweld, oni bai bod ganddynt arwyddion o’r coronafeirws.

Rhaid i ofalwyr neu weithwyr cymorth olchi eu dwylo â dŵr a sebon am 20 eiliad pan fyddant yn cyrraedd eich cartref, a gwneud hynny’n aml tra byddant yn eich cartref.

Mae'n syniad da siarad â'ch gofalwyr am yr hyn sy'n digwydd os bydd un ohonynt yn mynd yn sâl, ac ystyried cynllun wrth gefn. Os nad oes gennych ffrindiau neu deulu a all eich helpu, ceir grwpiau cymunedol lleol a allai fod o gymorth. Os nad ydych yn gallu cael gafael ar grŵp cymunedol lleol, gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol am gyngor – mae manylion cyswllt ar gyfer pob awdurdod lleol wedi'u cynnwys yn y llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Beth yw'r cyngor ar gyfer gofalwyr anffurfiol sy'n darparu gofal i rywun sy'n eithriadol o agored i niwed?

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n eithriadol o agored i niwed, mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i'w diogelu a lleihau eu risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws:

  • Dim ond gofal sy'n hanfodol y dylid ei ddarparu.
  • Golchwch eich dwylo ar ôl cyrraedd eu cartref ac yn aml pan fyddwch yno, gan ddefnyddio sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad, neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.
  • Gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn peswch neu'n tisian.
  • Rhowch yr hancesi yn y bin ar unwaith ar ôl eu defnyddio a golchwch eich dwylo wedyn.
  • Peidiwch ag ymweld na darparu gofal os ydych yn sâl, ond gwnewch drefniadau eraill ar gyfer eu gofal.
  • Rhowch wybodaeth am bwy y dylent alw arnynt os ydynt yn teimlo'n sâl, sut i ddefnyddio'r gwasanaeth coronafeirws ar-lein, a gadewch y rhif 111 rywle amlwg.
  • Holwch am gwahanol ffynonellau o gymorth y gellid eu defnyddio a chael rhagor o gyngor ar greu cynllun wrth gefn sydd ar gael gan Carers UK.
  • Gofalwch am eich lles a'ch iechyd corfforol eich hun yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael isod.

Cyngor i’r rhai sy’n byw mewn cartref gofal

Ar gyfer y rhai sy’n byw mewn cartref, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau eraill mewn grym o ganlyniad i ganllawiau ar ymweld â chartref gofal. Bydd y canllawiau hyn yn parhau i gael eu hadolygu, yn unol â’r cyfyngiadau ehangach.

Iechyd meddwl a lles

teimlo’n bryderus neu’n ofnus.

Mae’n bwysig gofalu am eich lles meddwl. Dyma rai syniadau sut i wneud hynny:  

  • Sylwi ar eich hwyliau ac ystyried a allwch wneud unrhyw beth yn wahanol. Mae meddwl am ffyrdd o ofalu am eich lles yn gallu helpu.
  • Peidio â barnu’ch hun pan fyddwch yn cael diwrnod anodd. Mae gwahanol ffyrdd o gysuro a chalonogi’ch hun. Beth am roi cynnig ar weithgareddau ymlacio neu siarad â phobl eraill?
  • Cymryd un cam ar y tro. Cynlluniwch bethau bach i’w gwneud i ddod allan yn raddol o’ch cyfnod gwarchod, er enghraifft, mynd am dro byr gyda ffrind neu fynd i siop fach i feithrin eich hyder.
  • Canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei reoli, fel eich meddyliau a’ch ymddygiad. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar eich hwyliau.
  • Cysylltu ag eraill. Gofynnwch am gymorth gan ffrindiau a theulu neu gan sefydliadau lleol.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau ar gyfer eich iechyd meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth ac yn poeni am effaith unigrwydd, cysylltwch â'ch gweithiwr allweddol/cydgysylltydd gofal neu ddarparwr i adolygu eich cynllun gofal. Os oes gennych anghenion ychwanegol, cysylltwch â'ch gweithiwr allweddol neu'ch cydlynydd gofal i ddatblygu cynllun diogelwch neu argyfwng.

Os oes gennych anabledd dysgu ac rydych angen cymorth i ddeall y llythyr gwarchod, mae fersiwn hawdd ei deall ar gael  neu cysylltwch â Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru ar 0808 8000 300 yn rhad ac am ddim, rhwng 9am a 5pm unrhyw ddydd gan gynnwys gwyliau banc. Gallwch hefyd e-bostio helpline.wales@mencap.org.uk.

Mae yna wasanaethau hefyd i'ch cefnogi chi ac eraill y gallech chi fod yn poeni amdanyn nhw. Gall siarad am bryderon a phroblemau wneud pethau’n haws.

Mae llawer o linellau cymorth a gwasanaethau gwybodaeth sy'n darparu canllawiau a gwybodaeth wedi'u teilwra i bobl â chyflyrau iechyd penodol. Mae rhestr o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau o'r fath ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – cliciwch ar y 'Cyfeiriadur Elusennau a Sefydliadau Cymorth i'r rhai â chyflyrau neu ofynion iechyd penodol.’

Mae llinell gymorth C.A.L.L. yn llinell gymorth iechyd meddwl benodol ar gyfer Cymru. Mae’n darparu gwasanaethau gwrando cyfrinachol a chefnogaeth emosiynol a gall eich helpu i gysylltu â chymorth yn eich ardal leol gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennol. Mae ar gael ar 0800 132 737, neu drwy decstio 'help’ i 81066. Fel arall ewch i wefan C.A.L.L.

Mae mwy o wybodaeth ar ofalu am eich iechyd a lles meddyliol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Os ydych yn dal i gael trafferth ar ôl sawl wythnos a'i fod yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu ffoniwch 111.

Rhannu’r dudalen hon