Canllawiau ar honiadau maeth ac iechyd: canllawiau ar gyfer cydymffurfio â'r rheoliadau
Sut y gall busnesau gydymffurfio â Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2024 yn diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 ('rheoliadau 2007'). Mae'n gwneud hyn drwy addasu'r drefn orfodi sy'n ymwneud â mynd yn groes i ofynion penodol a bennir yn Rheoliad (CE) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a chyngor yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir ar fwyd a diodydd.
Yng Nghymru, awdurdodau lleol sy'n gorfodi cydymffurfiaeth â safonau bwyd. Fel arfer, safonau masnach neu adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol neu'r awdurdod iechyd porthladd. Maent yn cynnal archwiliadau o gynhyrchion i wirio eu bod yn bodloni'r holl safonau labelu a marchnata perthnasol a nodir mewn deddfwriaeth.
Mae'r diwygiad hwn yn galluogi'r awdurdodau hynny i ddefnyddio hysbysiadau gwella fel dull gorfodi amgen fel mai'r cam ffurfiol cyntaf o dan reoliadau 2007 ar gyfer torri'r gyfraith ar honiadau am faethiad ac iechyd fyddai cyhoeddi hysbysiad gwella yn hytrach nag erlyniad troseddol.
Mae hyn yn sicrhau bod gorfodi rheoliadau am honiadau am faethiad ac iechyd yn cyd-fynd â gweithdrefnau, cyfansoddiad a gorfodaeth safonau labelu domestig eraill sy'n gysylltiedig â maeth i gynnig ffordd fwy cymesur a llai beichus o sicrhau cydymffurfiaeth.
Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i roi o leiaf 3 mis o rybudd rhwng deddfu a gweithredu. Bydd yr offeryn statudol yn cael ei osod ar 23 Hydref 2024. Bydd yn dod i rym ar 23 Ionawr 2025, sef y dyddiad cychwyn cyffredin agosaf ar ôl y cyfnod o 3 mis.
Pam rydym yn cyflwyno'r newidiadau hyn
Ar gyfer rheoliadau labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â maeth, mae hyn yn golygu:
- amddiffyn diogelwch defnyddwyr ac iechyd y cyhoedd
- sicrhau gwybodaeth gywir am faeth i alluogi i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus am eu deiet
- sicrhau y gall busnesau barhau i fod yn gystadleuol
- osgoi unrhyw wahaniaethau heb eu cynllunio o fewn y DU ac yn rhyngwladol i leihau rhwystrau i fasnachu
Mae'n drosedd defnyddio honiadau am faethiad neu iechyd heb awdurdod. Hynny yw, un nad yw wedi'i gynnwys yn y ddeddfwriaeth. Yn flaenorol, dim ond drwy erlyniad troseddol (dirwy neu garchar) y gellid gorfodi gofynion Rheoliad (EC) 1924/2006 a ddargedwir, ac nid oeddent yn cyd-fynd â gorfodaeth yn ymwneud â labelu bwyd eraill.
Mae'r diwygiadau'n cynnig cam gorfodi amgen sy'n llai biwrocrataidd, yn fwy cymesur ac sy'n cael ei groesawu i raddau helaeth gan fusnesau ac asiantaethau gorfodi fel ei gilydd.
Mae Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gwybodaeth a Gofynion Cyfansoddiadol) (Cymru) 2016 a rheoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 eisoes yn gwneud darpariaeth i swyddogion gorfodi gyflwyno hysbysiadau gwella fel cam cynharach i sicrhau cydymffurfiaeth mewn perthynas â:
- bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc
- bwydydd at ddibenion meddygol arbennig
- amnewid deiet yn llwyr ar gyfer rheoli pwysau
Yn yr achosion hynny, lle mae methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwella, gall awdurdodau gorfodi benderfynu erlyn am y methiant hwnnw.
Mae cyflwyno hysbysiadau gwella ar gyfer methiant i gydymffurfio â honiadau maethiad ac iechyd yn Rheoliad (CE) 1924/2006 a ddargedwir trwy'r diwygiad hwn yn darparu'r un drefn orfodi ac felly'n sicrhau'r cydbwysedd cywir o gynnal safonau ansawdd ar gyfer defnyddwyr a rheoleiddio cadarn a chymesur.
Sut mae'r rheoliadau hyn yn addasu'r drefn orfodi gyfredol
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007. Maent yn addasu'r drefn orfodi sy'n ymwneud â gofynion penodol a bennir yn Rheoliad (EC) 1924/2006 Senedd Ewrop a chyngor yr Undeb Ewropeaidd ar honiadau am faeth ac iechyd a wneir ar fwyd. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno hysbysiadau gwella y dylid eu defnyddio fel cam cyntaf mwy cymesur wrth orfodi'r gofynion ynghylch defnyddio honiadau am faethiad ac iechyd ar fwyd a diod yng Nghymru.
Mae gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir drwy'r adrannau canlynol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990:
- 16(1)(f)
- 17(2)
- 26(1)(a)
- 26(2)(e)
- 26(3)
- 48(1)
Canllawiau hysbysiad gwella deddfwriaeth maeth
Mae canllawiau ar ddefnyddio hysbysiadau gwella mewn meysydd eraill o gyfraith sy'n ymwneud â maeth wedi cael eu cyhoeddi yn flaenorol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei chodau ymarfer ar gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi'u diweddaru ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, mae cyrff gorfodi a'r diwydiant yn gyfarwydd â'r defnydd o hysbysiadau gwella.
Mae rhagor o wybodaeth am honiadau am faethiad ac iechyd a chofrestr NHC Prydain ar gael yn y canllawiau i gydymffurfio â Rheoliad (CE) 1924/2006.
Y sefyllfa yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig
Cyhoeddodd Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ymgynghoriad cyhoeddus 8 wythnos rhwng 21 Hydref 2022 a 16 Rhagfyr 2022 ar gynigion i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio newydd ar gyfer methu â chydymffurfio â safonau bwyd yn yr Alban. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn busnesau bwyd yn yr Alban. Gosododd yr Alban Reoliadau Deddf Bwyd (Yr Alban) 2015 (Hysbysiadau Cydymffurfio) 2023 gerbron Senedd yr Alban ar 25 Mai 2023 a daethant i rym ar 30 Mehefin 2023.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar wahân yn 2023 i ofyn am farn ar gyflwyno hysbysiadau gwella ar gyfer honiadau am faethiad ac iechyd yn Lloegr. Gosodwyd eu hofferyn statudol ar 20 Chwefror 2024. Daw hysbysiadau gwella ar gyfer honiadau am faethiad ac iechyd i rym yn Lloegr ar 1 Hydref 2024.
Gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi'i hadfer, bydd gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon yn gallu cyflwyno newidiadau tebyg i ddarpariaethau gorfodi sy'n ymwneud â chyflwyno hysbysiadau gwella ar gyfer honiadau am faethiad ac iechyd, os ydynt yn dewis gwneud hynny.