Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion Cyffredinol

Newid ac addasu gwasanaethau

Mae cyfrifoldeb ar bob darparwr gwasanaeth i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 yn y gweithle ac ar safleoedd o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.  Darllewch canllawiau ar fesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd.

Dylid cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol ar bob adeg.

Os bydd gwasanaethau neu raglenni wedi’u hachredu, dylent gael cyngor gan eu corff achredu cyn gynted ag y bo modd.

Dylai gwasanaethau ystyried yn ofalus a chofnodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â phob dull gweithredu cyn penderfynu oedi, addasu neu ailddechrau gwasanaeth neu driniaeth.

Dylid rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaethau, grwpiau amlasiantaethol, comisiynwyr a chyllidwyr am y penderfyniad i oedi, addasu neu ailddechrau gwasanaeth cyn gynted â phosibl.

 Os bydd gwasanaeth yn cael ei atal, dylid rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth am sut y gallant gael cymorth amgen, ac a fydd modd iddynt barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn y dyfodol. Gallai rhoi terfyn ar wasanaeth neu driniaeth neu ei addasu/haddasu fod yn ofidus ac yn anodd i ddefnyddwyr gwasanaethau a dylai’r gwasanaethau geisio adlewyrchu dealltwriaeth o hynny fel rhan o’u ffordd o weithio. Ond, ar yr un pryd, ni ddylent gyfaddawdu’r angen i asesu risg a chymryd camau priodol.

Dylai darparwyr gwasanaethau hefyd ystyried eu hasesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a sicrhau bod hygyrchedd yn gynhwysol wrth adolygu gwasanaethau.

Diogelu a gweithio amlasiantaethol

Diogelu pobl yw’r egwyddor a ddylai fod yn llywio pob penderfyniad a wneir gan sefydliad mewn perthynas â’r ffordd y mae’n parhau i weithredu. Rhaid ichi sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'ch dyletswyddau o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru. Darllenwch rhagor o wybodaeth am ddiogelu.

Dylid parhau i atgyfeirio pobl os bydd angen, er mwyn eu diogelu, er enghraifft, i Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) neu i wasanaethau plant ac oedolion.

Bydd y rhan fwyaf o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn dal i fod yn weithredol yn ystod y cyfnod hwn. Dylai gwasanaethau a all atgyfeirio defnyddwyr gwasanaethau at SARC sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth.

Dylai gwasanaethau ystyried effaith trawma sy'n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n gysylltiedig â VAWDASV wrth gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Darllenwch rhagor o wybodaeth am ACE Aware Wales.

Mae'n bosibl y bydd defnyddwyr gwasanaethau yn bryderus y bydd cyfyngiadau a threfniadau llacio yn effeithio ar drefniadau ymweld a chysylltiad rhwng rhieni. Darllenwch CAFCASS Cymru wedi cyhoeddi canllawiau yn ymwneud â'r Coronafeirws.

Asesu a rheoli risgiau

Dylai’r gwasanaethau wneud defnydd o ddulliau asesu risg dilys. Dylid cynnal asesiad risg mewn perthynas â phob newid a bydd angen diweddaru asesiadau risg yn rheolaidd yng ngoleuni'r sefyllfa newidiol.

Mae'n bosibl y bydd COVID-19 a'r newidiadau cysylltiedig i fywyd dyddiol yn y DU yn cynyddu'r risg y bydd VAWDASV yn digwydd a difrifoldeb achosion o'r fath mewn nifer o ffyrdd.  Efallai y bydd dioddefwyr a'r rhai sy'n cyflawni yn cael mwy o anhawster wrth geisio cael gafael ar eu rhwydweithiau a'u gwasanaethau cymorth arferol lle gallent fod wedi gwneud datgeliadau.   Gall diffyg preifatrwydd oddi wrth bartneriaid ac aelodau o'r teulu hefyd atal unigolion rhag gwneud datgeliadau i linellau cymorth neu ar we-sgyrsiau arbenigol.

Mae gwasanaethau arbenigol yn rhagweld y gall achosion o briodi dan orfod gynyddu wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, wrth i lawer o feysydd mewn cymdeithas ailagor, ac wrth i gyfyngiadau teithio a gofynion cwarantîn gael eu codi. Mae'n bosibl y bydd plant a phobl yn eu harddegau wedi bod yn byw gyda sawl cyflawnwr ar ffurf aelodau o'r teulu ac nad ydynt wedi cael y preifatrwydd a'r llonyddwch i allu ceisio cymorth. Darllenwch gellir dod pellach ar briodi dan orfod.

Mae plant o gymunedau lle mae’r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn digwydd wedi cael llawer llai o gyfle i geisio cymorth ac maent wedi bod yn byw gyda sawl cyflawnwr yn aml. Os bydd plant yn llwyddo i gyrraedd ffôn neu gyfrifiadur, mae'n hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth arbenigol yn gyflym, yn enwedig o ystyried y gallai'r risg fod wedi cynyddu oherwydd oedi wrth aros am ymateb. Darllenwch gellir pellach ar anffurfio organau cenhedlu benywod. 

Hefyd, mae'n bosibl y bydd y rhai hynny sy'n dioddef trais rhywiol yn y cartref wedi cael llai o gyfle i wneud datgeliadau a cheisio cymorth a dylid eu hatgyfeirio i gael cymorth arbenigol cyn gynted â phosibl.

Cydnabyddir y gall cyflawnwyr trais domestig ddefnyddio mesurau COVID-19 er mwyn gwthio eu hymddygiad sy'n gorfodi ac yn rheoli ymhellach. Gall COVID-19 hefyd gynyddu straen am nifer o resymau eraill, gan gynnwys pryderon am iechyd, colli cyflogaeth, anawsterau ariannol a'r straen sy'n gysylltiedig â newidiadau mawr i fywydau pob dydd. Gall hyn hefyd gynyddu'r risg o gyflawni VAWDASV, gan y rhai hynny sydd wedi cyflawni gweithredoedd felly o'r blaen a'r rhai nad ydynt wedi gwneud hynny.

Cadw cofnodion, cyfrinachedd a'r GDPR

Dylai egwyddorion arferion da gael eu dilyn o hyd pan fydd gwasanaethau’n addasu, gan gynnwys cadw cofnodion da.

Bydd yn rhaid i wasanaethau barhau i gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a gwneud pob ymdrech i ddiogelu cyfrinachedd, lle y bo'n ddiogel gwneud hynny, a dylent ystyried hyn yn ofalus wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio. Dylai gwasanaethau gyfeirio at weithdrefnau eu sefydliad ar rannu gwybodaeth heb ganiatâd.

Mae'n bosibl y bydd angen adolygu polisïau GDPR er mwyn adlewyrchu newidiadau i arferion gwaith a'r ffordd y bydd y gwasanaethau yn rheoli GDPR gyda'r ffordd newydd o weithio, er enghraifft wrth weithio gartref neu yn yr awyr agored, neu pan fydd grwpiau neu raglenni yn gweithredu ar-lein.

Profi, olrhain a diogelu

Gwybodaeth am brofi, olrhain a diogelu.

Mae'r holl swyddogion olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn cwblhau modiwl e-ddysgu ar VAWDASV fel rhan o'u hyfforddiant.

Os cysylltir â rhywun i ddweud ei fod wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn arall sydd wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19, ni fydd yn cael unrhyw wybodaeth am yr unigolyn arall, megis ei enw na phryd y buont mewn cysylltiad â'i gilydd.

Paratoi ar gyfer cynnydd posibl yn y galw

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu y bydd cynnydd yn y galw am wasanaethau VAWDASV wrth i ofynion hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol gael eu llacio. Gall hyn fod o ganlyniad i ddioddefwyr a goroeswyr yn dod i gysylltiad unwaith eto â ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol y gallent ymddiried ynddynt, neu a allai adnabod arwyddion VAWDASV.

Mae'n bosibl hefyd y bydd achosion o gam-drin yn gwaethygu neu'n cynyddu wrth i'r cyfyngiadau newid. Gall y rhai sy'n cyflawni brofi mwy o straen o ganlyniad i newidiadau i'w gwaith neu eu ffordd o fyw neu gallent feddwl bod eu rheolaeth dros eu dioddefwyr yn lleihau. 

Mae'n anodd dweud pryd yn union y gall cynnydd o'r fath ddigwydd neu pa mor fawr y gallai fod, ond dylai gwasanaethau ystyried a chynllunio ar gyfer newidiadau posibl i gyfyngiadau a all sbarduno cynnydd yn y galw cyn gynted â phosibl.

Gall y cynnydd ddigwydd ar adegau gwahanol i wasanaethau gwahanol. Er y gall gwasanaethau cymorth ar gyfer cam-drin domestig ddisgwyl y gallai hyn ddigwydd cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio, mae gwasanaethau trais rhywiol yn awgrymu y gall y cynnydd hwn yn y galw ddigwydd sawl mis yn ddiweddarach ac y gall fod cynnydd parhaus yn y galw dros gyfnod hir o amser.

Plant yn dychwelyd i'r ysgol

  • Wrth i fwy o blant ddychwelyd i'r ysgol, gall cam-drin domestig gael ei ddatgelu i bobl sy'n gweithio mewn ysgolion neu gallent adnabod arwyddion.
  • Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd cam-drin ar sail ‘anrhydedd’, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod neu baratoadau ar gyfer priodas dan orfod, yn cael ei ddatgelu neu ei nodi.
  • Hefyd, gall plant yn dychwelyd i'r ysgol gynnig cyfle i ddioddefwyr/goroeswyr cam-drin domestig sy'n rhieni neu'n warchodwyr ddod i gysylltiad ag oedolion eraill, gan gynnwys athrawon a rhieni a gwarcheidwaid eraill.

Mwy o wasanaethau'r GIG yn ailddechrau

Wrth i fwy o wasanaethau'r GIG ailddechrau, gall dioddefwyr/goroeswyr a'r rhai sy'n cyflawni pob math o VAWDASV wneud datgeliadau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol neu gallai'r gweithwyr adnabod arwyddion.

  •  Gall cynnydd mewn apwyntiadau wyneb yn wyneb hefyd gyfrannu at hyn oherwydd gallai unigolion deimlo'n fwy hyderus i ddatgelu pan fydd ganddynt breifatrwydd i wneud hynny.

Mwy o bobl yn dychwelyd i'r gwaith

  • Gall cynnydd yn nifer y bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith roi cyfle i ddioddefwyr wneud datgeliadau yn eu gweithle, neu geisio cymorth gan wasanaeth arbenigol pan fydd eu partner yn credu eu bod yn y gwaith.
  • Wrth i'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig ddychwelyd i'r gwaith, gallent wneud datgeliadau neu gallai eu partneriaid achub ar y cyfle i gysylltu â gwasanaethau arbenigol.

Cynllunio ar gyfer y dyfodol hirdymor

Cyllid

Os ystyrir bod angen gwario cyllid mewn ffyrdd gwahanol, dylai’r gwasanaethau gysylltu â chyllidwyr cyn gynted ag y bo modd er mwyn ceisio cael cytundeb ffurfiol.

Dylai gwasanaethau siarad â'u cyllidwyr arferol, gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, er mwyn canfod a fydd cyllid maent yn dibynnu arno fel arfer ar gael o hyd. Mae llawer o sefydliadau wedi ailgyfeirio cyllid i ymdrechion COVID-19.

Hyblygrwydd

Lle y bo'n bosibl, dylai gwasanaethau geisio sicrhau bod eu dulliau gweithredu yn hyblyg a dylent baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd cyfyngiadau'n dychwelyd, naill ai ar lefel genedlaethol neu'n lleol.

Y staff a'r gweithle

Lleoliad gwaith

Dylai gwasanaethau ystyried a ddylai'r staff fod yn gweithio gartref, yn y gweithle neu mewn lleoliadau eraill gan ystyried y canllawiau perthnasol i gyflogwyr a gweithwyr. Bydd gweithgareddau gwahanol yn gofyn am ymatebion gwahanol. Er enghraifft, gellid gwneud gwaith gweinyddol cyffredinol o bell, ond mae'n bosibl y bydd angen i staff ymweld â chartrefi defnyddwyr gwasanaethau er mwyn gwneud gwaith cynllunio diogelwch. Mae'n bosibl y gellir cynnal rhai gweithgareddau, megis cwnsela, o bell ac wyneb yn wyneb, a dylai gwasanaethau asesu manteision a risgiau pob dull. Os yw'n bosibl, dylid ceisio rhoi dull ar waith sy'n hyblyg i'r staff a'r defnyddwyr gwasanaethau. Darllenwch nodyn Cynghori Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch gwasanaethau wyneb yn wyneb, tai a lleoliadau gofal cymdeithasol.

Wrth i wasanaethau barhau i addasu ac ailddechrau eu gweithrediadau, mae'n hanfodol eu bod yn cymryd yr holl fesurau rhesymol i gadw pellter corfforol ar eu safleoedd, rhwng aelodau o staff a rhwng aelodau o staff a chleientiaid. Ar ben hynny, mae gofyn i weithleoedd a safleoedd gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19.

Dylai gwasanaethau gadw mewn cof y gallai methu cadw pellter o 2 fetr yn y gweithle beri risg o niwed i'r staff a defnyddwyr gwasanaethau, o ganlyniad i'r feirws ei hun ac absenoldebau staff posibl pe byddai sawl gweithiwr yn sâl ar yr un pryd. Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau mae’n bosibl na fyddai’n rhesymol gweithredu mesurau i gadw pellter o 2 fetr, a bydd angen mesurau eraill i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws.

Efallai y bydd gwasanaethau yn awyddus i ystyried rhoi rhai o'r opsiynau canlynol ar waith er mwyn galluogi pobl i gadw pellter corfforol a gweithio'n ddiogel yn y gweithle:

  • cynnig canllawiau clir i ddefnyddwyr gwasanaethau a chreu llawlyfr, hyfforddiant, mynediad at yr adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithle, a/neu wybodaeth i'w dosbarthu i'r staff
  • gall rota sy'n nodi pa aelodau o staff a all fod bod yn bresennol ar ba ddyddiau gyfyngu ar nifer y staff sydd yn y gweithle ar unrhyw adeg a/neu gellir creu timau o staff sy'n gallu gweithio yn y swyddfa ar yr un pryd
  • marciau clir ar fannau gwaith ac mewn swyddfeydd er mwyn cadw pellter corfforol a nodi capasiti ystafelloedd
  • cynnal cyfarfodydd drwy apwyntiad yn unig a dim gwasanaeth galw heibio
  • cynnal apwyntiadau brys wyneb yn wyneb ar gyfer mynediad i wasanaethau, megis yr heddlu a llochesi, yn unig

Mae dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau hefyd i gymryd mesurau rhesymol eraill i gyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws. Bydd hyn yn gymwys boed yn rhesymol cadw 2 fetr o bellter rhwng pobl neu beidio. Gallai hyn gynnwys mesurau fel:

  • osgoi defnyddio desgiau poeth a glanhau desgiau a mannau ar ôl eu defnyddio
  • sicrhau digon o gyfleusterau golchi dwylo
  • sicrhau digon o gyfleusterau diheintio dwylo
  • glanhau arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml, megis dolenni drysau a switshys golau, yn rheolaidd a defnyddio dodrefn y gellir eu glanhau’n hawdd rhwng cyfarfodydd, megis cadeiriau/byrddau plastig
  • darparu diodydd mewn cwpanau untro yn unig
  • cynnig pinnau ysgrifennu/papur newydd i ddefnyddwyr gwasanaethau neu ofyn iddynt ddod â'u rhai eu hunain o gartref
  • glanhau yn unol â’r canllawiau.

Mae'n bosibl hefyd y bydd angen i wasanaethau ystyried lefelau angenrheidiol o gyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithgareddau gwahanol ar sail asesiad risg o lefel y cysylltiad a pha mor hir y disgwylir iddo bara. Wrth weithio yn y swyddfa a chadw pellter cymdeithasol, efallai na fydd angen defnyddio cyfarpar diogelu personol (masgiau neu feisorau), neu mai dim ond lefelau isel y bydd angen eu defnyddio, wrth ryngweithio â staff eraill a chleientiaid; ond mae'n bosibl y bydd staff sy'n gweithio o gartrefi defnyddwyr gwasanaethau neu leoliadau eraill am ystyried yr angen i wisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol. Dylai gwasanaethau adolygu eu cofrestr risg rheoli heintiau yn rheolaidd gan y gall lefelau risg lleol amrywio. Darllenwch hagor o wybodaeth am orchuddion wyneb.

Mae dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau hefyd i roi gwybodaeth i bobl sy’n mynd i mewn i’w safle neu sy’n gweithio yno ar sut i gyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â Covid-19. Mae gwybodaeth ar gael yn y canllawiau ar gyfer cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd.

Llesiant staff

Dylai gwasanaethau fod yn ymwybodol y gall staff ddioddef trawma eilaidd o ganlyniad i'w gwaith a dylent weithio i leihau'r risg hon.

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain o'r farn bod gweithio gartref yn cynyddu'r risg y bydd staff yn dioddef trawma eilaidd oherwydd gall fod llai o wahaniaeth rhwng bywyd cartref a bywyd gwaith ac mae'n bosibl na fydd cymorth gan gydweithwyr ar gael mor hawdd. Darllenwch canllawiau Cymdeithas Seicolegol Prydain ar leihau'r tebygolrwydd o ddioddef trawma eilaidd wrth weithio gartref.

Mae gwasanaethau hefyd wedi nodi bod dioddefwyr a goroeswyr sydd ag anghenion cynyddol gymhleth a lefelau uwch o risg yn ceisio cymorth. Yn ogystal â sicrhau bod yr adnoddau priodol ganddynt i helpu'r dioddefwyr a'r goroeswyr hynny, dylai gwasanaethau sicrhau eu bod yn cynyddu'r oruchwyliaeth a gynigir i'w staff eu hunain yn unol â hynny.

Dylid sicrhau bod cymorth i staff yn parhau i fod ar gael dros y ffôn neu drwy fideoalwad, gan gynnwys goruchwyliaeth glinigol, cael ôl-drafodaethau, cymorth proffesiynol, cwnsela, a chyfarfodydd tîm.

Dylai gwasanaethau fod yn ymwybodol y gall staff eu hunain fod yn ddioddefwyr VAWDASV, gan gynnwys yn ystod pandemig COVID-19, a dylai polisïau a gweithdrefnau fod ar waith i adlewyrchu hyn. Darllenwch Cymorth i Ferched Cymru canllawiau.

Ailddechrau gwaith wyneb yn wyneb

Dylid osgoi gweithio wyneb yn wyneb os nad oes modd cadw pellter corfforol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid ystyried mesurau lliniaru ychwanegol, fel feisorau wyneb a chyfarfodydd mewn ystafelloedd wedi’u hawyru. Dylai gwasanaethau gynnal asesiadau risg cyn ailddechrau gwaith wyneb yn wyneb. Mae canllawiau ar gael ar gadw pellter cymdeithasol, ac ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o COVID-19 yn y gweithle ac mewn safleoedd sydd ar agor i’r cyhoedd.

Mae'n bosibl y bydd rhai gwasanaethau'n ystyried ailddechrau gwaith wyneb yn wyneb yn yr awyr agored. Efallai y byddwch am ystyried yr opsiwn hwn ond, wrth ystyried unrhyw leoliad newydd, dylech hefyd ystyried y risgiau ychwanegol y gallai hyn eu cyflwyno, yn enwedig o ran cyfrinachedd. Gallai hyn hefyd amharu ar gleientiaid os na ellir cynnig lefel o barhad.

Dylech baratoi i ailddechrau gwaith wyneb yn wyneb gyda threfniadau cadw pellter corfforol a mesurau diogelu priodol ar waith. Yn ymarferol, efallai y byddwch am ystyried y canlynol:

  • pa mor fawr yw eich ystafelloedd cyfarfod ac a allwch lynu wrth ganllawiau cadw pellter corfforol;
  • a oes modd rheoli mynedfeydd ac allanfeydd er mwyn cadw pellter corfforol;
  • trefniadau ar gyfer yr ystafell aros a'r dderbynfa;
  • sut y bydd mannau cyfarfod yn cael eu glanhau cyn ac ar ôl eu defnyddio;
  • a oes gennych aelodau o staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau sydd mewn mwy o berygl o COVID-19 neu sy’n gwarchod eu hunain na allant ailddechrau gwaith wyneb yn wyneb o bosibl, a sut y byddwch yn darparu ar eu cyfer;
  • a oes rhai aelodau o staff a defnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn wynebu mwy o berygl nac yn gwarchod eu hunain yn dal i deimlo'n anghyfforddus yn gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl eraill.

Gall gwasanaethau ddefnyddio’r adnodd asesu risg ar gyfer y gweithlu i asesu lefel risg eu gweithwyr.

Dylai gwasanaethau gadw mewn cysylltiad â defnyddwyr gwasanaethau a sicrhau eu bod yn ymwybodol o fesurau diogelwch a rhagofalon cyn i waith wyneb yn wyneb ailddechrau.

Dylai gwasanaethau ystyried pa mor gymhleth yw anghenion eu defnyddwyr gwasanaethau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'u hanghenion a'u ffordd o fyw. Dylai gwasanaethau sy'n gweithio yn y gymuned gyda defnyddwyr gwasanaethau sy'n ei chael hi'n anodd dilyn mesurau diogelu, wrth ddefnyddio’r gwasanaeth ac yn eu bywydau bob dydd, ac sydd o ganlyniad yn wynebu mwy o risg o ddod i gysylltiad â Covid-19, ystyried yr angen am fesurau diogelwch ychwanegol a chyfarpar diogelu personol.

Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi llunio canllawiau ar weithio gyda menywod sydd wedi cael eu hecsbloetio drwy'r diwydiant.

Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau o bell

Lle y bo modd, dylid ystyried opsiynau i barhau i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau pan na fydd cysylltiad uniongyrchol yn bosibl. Gallai fideoalwad neu alwad ffôn fod yn opsiynau y gellid eu hystyried.

Dylai gwasanaethau hefyd sicrhau bod eu darpariaeth ar gael i bawb a bod rhwystrau'n cael eu lleihau.

Mae llawer o wasanaethau wedi bod yn cynnal rhaglenni ac ymyriadau drwy lwyfannau ar-lein. Mae angen i wasanaethau ystyried diogelwch y llwyfan maent yn ei ddefnyddio, sicrhau bod asesiadau risg digonol yn cael eu cwblhau a rhoi gweithdrefnau ar waith sy'n lliniaru risgiau a allai godi mewn perthynas â grwpiau ar-lein, gan gynnwys diogelu, y GDPR a chasglu data.

Dylid meddwl am ystyriaethau ychwanegol o ran cynnal cyfrinachedd a'r GDPR yng nghyd-destun gwaith grŵp ar-lein pan fydd risg y bydd aelodau o gartrefi'r bobl eraill sy'n rhan o'r grŵp yn digwydd clywed cyfranogwyr.

Os yw’n bosibl, dylid helpu defnyddwyr gwasanaethau i ddod o hyd i rywle yn eu cartrefi sy’n caniatáu preifatrwydd er mwyn iddynt allu ymrwymo heb fod unrhyw beth yn tynnu eu sylw. Os na fydd hyn yn bosibl, dylai’r staff ystyried opsiynau eraill, a dylai lleoliad defnyddiwr y gwasanaeth a phobl eraill sydd yn y cartref gael eu cofnodi.

Pan fydd rhai o'r gwasanaethau, neu bob un ohonynt, yn parhau i gael eu cynnal ar-lein, efallai y bydd canllawiau Cymdeithas Seicolegol Prydain, “Effective Therapy via Video: Top Tips”, yn ddefnyddiol i sefydliadau.

Ymweliadau â chartrefi

Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl barhau ac, yn hyn o beth, gall ymweliadau â chartrefi at ddibenion cynllunio diogelwch ac asesu barhau i gael eu cynnal pan na fydd yn bosibl gweithio o bell os bydd mesurau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu staff a chleientiaid rhag dod i gysylltiad â COVID-19.

Cyn ymweld â chartref, dylai gwasanaethau sicrhau nad oes unrhyw un yn y cartref na’r aelwyd estynedig yn dangos symptomau COVID-19, yn hunanynysu nac wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sy’n hunanynysu, ac nad oes gan yr aelod(au) o staff sy'n cynnal yr ymweliad nac aelodau ei gartref/eu cartrefi symptomau COVID-19, na ddylent fod yn hunanynysu ac nad ydynt wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sy’n hunanynysu. Darllenwch anllawiau ar hunanynysu ar gael.

Dylai gwasanaethau wneud pob ymdrech i gadw pellter corfforol ar bob adeg, gan gynnwys wrth fynd i mewn i gartref unigolyn. Dylid osgoi cyffwrdd unrhyw arwynebedd os oes modd, gwisgo cyfarpar diogelu priodol a’u gwaredu yn ofalus, a golchi dwylo ar ôl gadael.

Os ystyrir bod unrhyw un yn y cartref mewn perygl uwch o gael COVID-19 neu'n gwarchod ei hun, dylid ystyried ymhellach a fydd ymweliad â'r cartref yn addas. Ceir rhagor o wybodaeth am beryglon uwch a gwarchod rhag COVID-19.

Ystyriaethau ychwanegol ar gyfer cymorth i blant a phobl ifanc

Plant a phobl ifanc

Dylai gwasanaethau sicrhau bod hawliau'r plentyn yn cael eu hystyried wrth wneud cynlluniau i ailddechrau darpariaeth wyneb yn wyneb. Fframwaith ar gyfer gweithio gyda phlant sydd wedi'i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru. Ei nod yw helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant ym mhob agwedd ar wneud penderfyniadau, polisïau ac arferion.

Mae egwyddorion Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant fel a ganlyn:

  • Ymgorffori hawliau plant - rhoi hawliau plant wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydraddoldeb a dim gwahaniaethu – sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod cystal ag y gall fod.
  • Grymuso plant – gwella galluoedd plant fel unigolion er mwyn iddynt allu manteisio ar hawliau yn well, ac ymgysylltu ag unigolion a sefydliadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u dwyn i gyfrif.
  • Cyfranogi gwrando ar blant ac ystyried eu barn mewn ffordd ystyrlon.
  • Atebolrwydd – dylai awdurdodau fod yn atebol i blant am benderfyniadau a gweithredoedd sy'n effeithio ar eu bywydau.

Er bod gwasanaethau wedi gwneud popeth posibl mewn amgylchiadau anodd iawn, yn anffodus bydd rhai plant wedi cael eu niweidio heb yn wybod inni. Mae darparu amser a lle i wrando'n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hybu arferion diogelu da.

Ystyriaethau ychwanegol ar gyfer darparwyr llety arbenigol

Dylai gwasanaethau hefyd ystyried eu hymateb i staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau llety argyfwng a'r hyblygrwydd sydd ei angen i reoli'r llety'n effeithiol. Wrth i lefelau o gymorth gynyddu mewn gwasanaethau llety a/neu wrth i wasanaethau ailddechrau ar eu capasiti llawn, disgwylir y bydd angen rhagor o staff. Disgwylir hefyd y bydd lefel cymhlethdod achosion yn cynyddu o ganlyniad i gyfyngiadau drwy gydol pandemig COVID-19 a dylai gwasanaethau ystyried hyn o fewn eu cymhareb staffio.

Darllenwch gellir dod o hyd i ganllawiau pellach i ddarparwyr llety ar gyfer goroeswyr trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol.

Ystyriaethau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau i gyflawnwyr

Mae'r adran hon ar gyfer ystyriaethau ychwanegol sy'n benodol i wasanaethau sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni VAWDASV. Dylai gwasanaethau i gyflawnwyr hefyd gyfeirio at y canllawiau uchod i gael gwybodaeth am addasu i COVID-19.

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Safonau Gwasanaeth i Gyflawnwyr Trais Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar yr amrediad o ffactorau y dylai gwasanaethau i'r rhai sy'n cyflawni VAWDASV eu hystyried wrth addasu’r ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, a’u helpu i sicrhau bod eu gwaith yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Darllenwch Respect wedi cyhoeddi canllawiau i'w gwasanaethau achrededig ac i ymarferwyr, sydd ar gael.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi ei ganllawiau ei hun i staff mewn perthynas â rheoli troseddwyr cam-drin domestig yng nghyd-destun COVID-19.

Yn ystod cyfnodau pan fydd llai o adnoddau, dylid dilyn egwyddorion y model risg-angen-ymatebolrwydd, a dylai’r gwasanaethau roi sylw ac adnoddau i’r unigolion sydd fwyaf tebygol o fod mewn perygl. Dylai asesiadau risg a’r atgyfeiriadau a chamau gweithredu dilynol gael eu cyflawni ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth, hyd yn oed os gwneir penderfyniad i barhau â gwaith uniongyrchol gyda'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf yn unig.

Os gwyddys na all defnyddiwr gwasanaeth ymgymryd â rhaglen neu ymyriad heb gysylltiad uniongyrchol, am resymau sy’n cynnwys nad oes mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiadur, ffôn clyfar neu rywle preifat ar gael, dylid cyfleu hynny i’r asiantaethau perthnasol.

Dylai’r gwasanaethau fod yn ymwybodol y gallai peidio â chael cysylltiad uniongyrchol gael effaith ar ansawdd y trafodaethau ac effeithiolrwydd yr ymdrechion i reoli ymddygiad a/neu newid ymddygiad.

Os nad yw’n bosibl i wasanaeth, rhaglen neu ymyriad barhau heb gysylltiad uniongyrchol, neu os yw’r risg o wneud hynny’n rhy uchel, efallai y bydd angen terfynu neu ohirio’r gwasanaeth, y rhaglen neu’r ymyriad hwnnw. Gall peidio â chwblhau ymyriad neu raglen fod yn gysylltiedig â mwy o risg. Os bydd grŵp neu ymyriad un-i-un yn cael eu hatal, yna dylid cymryd camau i sicrhau bod lefelau risg defnyddwyr y gwasanaeth dan sylw’n cael eu monitro a’u cyfleu i’r asiantaethau perthnasol.

Dylai gwasanaethau ystyried yr effaith y gallai atal rhaglenni ac ymyriadau ei chael ar wasanaethau cysylltiedig eraill, megis yr heddlu neu’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Dylent roi gwybod i'r partneriaid hynny am y penderfyniad i atal rhaglen neu ymyriad cyn gynted ag y bo modd.

Dylai fod gan wasanaethau broses glir i ddelio ag atgyfeiriadau newydd yn ystod y cyfnod hwn. Os bydd rhaglen neu ymyriad yn cael eu hatal, dylid ystyried yr effaith debygol ar gymhelliant a’r risg sy’n gysylltiedig â gohirio atgyfeiriadau.

Dolenni

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Adnoddau eraill

Llesiant staff

Cam-drin ar sail ‘anrhydedd’

Plant a phobl Ifanc

Gwasanaethau i gyflawnwyr

Rhannu’r dudalen hon