Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'n amlwg ein bod yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang na welwyd mo'i debyg o'r blaen wrth i COVID-19 barhau i ymledu.  Mae gan bob gwasanaeth statudol ran i'w chwarae i gefnogi'r ymateb dyngarol ehangach ac mae gan awdurdodau lleol a darparwyr cymorth rôl allweddol i'w chwarae.

Diben

Canllawiau i awdurdodau lleol a darparwyr cymorth sy'n cefnogi ac yn darparu llety â chymorth a llety dros dro i bobl sy'n cysgu allan yw'r rhain. Maent yn nodi'r angen i roi mesurau ymarferol ar waith i ymdrin â sefyllfaoedd lle:

  • Mae pobl yn anfodlon dilyn cyfarwyddiadau ynglŷn â hunanynysu a chyfyngiadau symud mewn llety â chymorth, hostelau a llety dros dro, neu ni allant wneud hynny.
  • Mae pobl sy'n cysgu allan yn anfodlon dilyn cyfarwyddiadau ynglŷn â hunanynysu a chyfyngiadau symud, neu ni allant wneud hynny.

Delio â phobl mewn llety â chymorth, hostelau neu lety dros dro

Preswylwyr presennol

Dylai pob defnyddiwr gwasanaeth presennol yn y llety gael llythyr ar reoliadau COVID-19 a'r mesurau sydd ar waith i'w dilyn yn y llety. Dylai darparwr y llety ddefnyddio templed llythyr 1 yn Atodiad A at y diben hwn. Lle mae pobl yn cael anhawster deall gwybodaeth ysgrifenedig, dylai darparwyr cymorth gymryd camau i sicrhau bod pobl yn deall cynnwys y llythyr. Gallai hyn gynnwys pobl sydd â phroblemau llythrennedd, anawsterau dysgu neu anableddau, neu bobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Preswylwyr newydd

Dylai pob defnyddiwr gwasanaeth newydd yn y llety gael llythyr ar reoliadau COVID-19 a'r mesurau sydd ar waith i'w dilyn yn y llety. Defnyddiwch dempled llythyr 1. Lle mae pobl yn cael anhawster deall gwybodaeth ysgrifenedig, dylai darparwyr cymorth gymryd camau i sicrhau bod pobl yn deall cynnwys y llythyr. Gallai hyn gynnwys pobl sydd â phroblemau llythrennedd, anawsterau dysgu neu anableddau, neu bobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Wrth dderbyn defnyddiwr gwasanaeth newydd, dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety gynnal asesiad risg cychwynnol drwy ganfod a oes gan y person newydd sy'n dod i mewn i'r llety unrhyw symptomau sy'n awgrymu COVID-19.  Os bydd ganddo symptomau, bydd angen dilyn y canllawiau cenedlaethol presennol sy'n gofyn i'r unigolyn hwnnw hunanynysu am 7 diwrnod am fod ganddo symptomau.  Os na fydd ganddo unrhyw symptomau, dylid dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid a glanhau yn unol â'r canllawiau i awdurdodau lleol a darparwyr mewn lleoliadau llety â chymorth.

Os daw i'r ddarpariaeth o gartref arall lle bu’n hunanynysu am 14 diwrnod (am ei fod yn rhan o gartref a oedd yn cynnwys person â symptomau) am ryw reswm, yna ni fydd angen iddo 'droi'r cloc yn ôl', ond dylai gadw at ei derfyn amser gwreiddiol nes bod ei gyfnod o 14 diwrnod wedi dod i ben.

Defnyddwyr gwasanaethau sy'n gwrthod cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ond nad oes ganddynt symptomau

Os bydd unigolyn yn gwrthod dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol, dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety ddilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar drawma ac ystyried a all ymdrin ag unrhyw rai o'r rhesymau pam na all pobl gydymffurfio neu pam nad ydynt yn barod i wneud hynny.

Os bydd yr unigolyn yn parhau i wrthod dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol fel y nodwyd yn llythyr 1, a'i fod yn achosi niwed neu risg bosibl i eraill, ond nad oes ganddo symptomau, yna dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety gysylltu â'r heddlu yn y lle cyntaf. Bydd yr heddlu yn ceisio siarad â'r unigolyn a'i ddarbwyllo i gydweithredu. Mae gan yr heddlu hefyd bwerau o dan Reoliad 8(5) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i roi hysbysiad cosb benodedig sy'n arwain at ddirwy i unigolyn nad yw'n dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol.

Unigolion sydd â symptomau

Dylai unrhyw unigolion sydd â symptomau hunanynysu am 7 diwrnod yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Os bydd y symptomau yn achosi cryn bryder i weithwyr cymorth, dylid ceisio cyngor ychwanegol drwy ffonio Llinell Gymorth 111 y GIG. Os bydd yr unigolyn yn ddifrifol wael neu wedi cael anaf neu os bydd ei fywyd mewn perygl, ffoniwch 999 fel achos brys.

Dylid atgoffa unigolion am y cyngor ysgrifenedig a roddwyd (templed llythyr 1) sy'n nodi pam y mae angen iddynt hunanynysu a'r canllawiau i'w dilyn. Lle mae pobl yn cael anhawster deall gwybodaeth ysgrifenedig, dylai darparwyr cymorth gymryd camau i sicrhau bod pobl yn deall cynnwys y llythyr. Gallai hyn gynnwys pobl sydd â phroblemau llythrennedd, anawsterau dysgu neu anableddau, neu bobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety gynnal asesiad risg i gadarnhau a yw'r llety presennol yn addas ar gyfer amgylchiadau'r unigolyn i hunanynysu am 7 neu 14 diwrnod. Dylai hyn gynnwys:

  • A yw'r person yn debygol o allu cydymffurfio â chyfarwyddiadau ynglŷn â hunanynysu neu fod yn barod i wneud hynny.  Gallai anfodlonrwydd neu anallu i gydymffurfio ddeillio o brofiad person o drawma, problemau iechyd meddwl a/neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau.
  • A oes gan y llety gegin ac ystafell ymolchi gymunedol. Os felly, a ellir rheoli hyn yn ddiogel ai peidio.
  • A oes gan yr unigolyn unrhyw anghenion iechyd meddwl y mae angen eu hasesu (e.e. risg o hunanladdiad neu hunan-niwed)?  Ac os felly, sut y gall barhau i gael cymorth seicolegol neu seiciatrig. 
  • A oes gan yr unigolyn unrhyw broblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac os felly, sut y gellir mynd i’r afael â'r rhain yn ystod y cyfnod hunanynysu. Gall hyn gynnwys ystyried opsiynau rhagnodi neu ddulliau o leihau niwed megis blychau gwaredu offer miniog.

Dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety gysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ffonio 0300 003 0032 (rhwng 8am a 10pm) i gofnodi'r achos, a fydd yn cynghori a oes angen prawf ac yn nodi unrhyw gyngor arall y gellir ei roi.   

Lle nad oes modd i rywun hunanynysu yn ei lety presennol

Lle nad oes modd i rywun hunanynysu yn ei lety presennol oherwydd yr amgylchedd ffisegol, neu oherwydd anawsterau i ddeall neu gydymffurfio â chyfarwyddiadau, dylai darparwyr geisio dod o hyd i lety amgen. Dylai'r llety hwn fod yn hunangynhwysol a chynnwys ystafelloedd ymolchi preifat a dylid parhau i roi cymorth. Dylid gwneud hyn mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a'r celloedd cydgysylltu canolog o fewn awdurdodau lleol, sydd wedi cael y dasg o gydgysylltu gwasanaethau llety a chymorth yn ystod y pandemig hwn. Lle mae gan bobl broblemau iechyd meddwl a phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, dylai hyn hefyd gael ei wneud mewn partneriaeth â'r gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Os nad yw unigolyn yn barod i  hunanynysu

Cam 1

Os bydd unigolyn yn gwrthod hunanynysu, yn y lle cyntaf dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety ddilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar drawma ac ystyried a all ymdrin ag unrhyw rai o'r rhesymau pam na all pobl gydymffurfio neu pam nad ydynt yn barod i wneud hynny. Er enghraifft:

  • A yw'r rhesymau dros hunanynysu wedi cael eu cyfleu'n effeithiol? A allech gyfleu hyn mewn fformat gwahanol neu drwy gymorth gan gymheiriaid?
  • A oes rheswm sy'n gysylltiedig â'i brofiad o drawma sy'n ei wneud yn amharod neu'n bryderus ynglŷn â hunanynysu?
  • A ydych wedi rhoi sicrwydd i'r unigolyn y caiff ei anghenion sylfaenol eu diwallu? h.y. rhoi tegell a ffwrn ficrodon i'r unigolyn er mwyn iddo allu paratoi ei fwyd/diodydd ei hun, rhoi sicrwydd y bydd rhywun yn nôl bwyd a chyflenwadau ar ei ran.
  • A ydych wedi rhoi sicrwydd y bydd ei gymorth yn parhau tra bydd yn hunanynysu? A ydych wedi darparu’r dechnoleg i'w alluogi i gael cymorth dros y ffôn neu drwy fideo?
  • A ydych wedi rhoi sicrwydd y bydd yn gallu cael ei bresgripsiynau o hyd?
  • A oes ganddo broblemau iechyd meddwl neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau ac a ydych wedi rhoi sicrwydd y caiff yr anghenion cymorth hyn eu diwallu o hyd?
  • A fydd yn gallu cyfathrebu â'i ffrindiau a’i deulu yn ystod y cyfnod hunanynysu? A allwch roi mynediad i'r rhyngrwyd, neu ffôn clyfar iddo?
  • A yw'n pryderu na fydd ganddo ddim byd i'w wneud? A allwch gynnig rhai gweithgareddau, neu geisio set deledu neu gonsol gemau yn rhodd?

Cam 2

Os byddwch wedi dilyn dull gweithredu sy'n seiliedig ar drawma a bod yr unigolyn yn parhau i wrthod hunanynysu, yna dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety gysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ffonio 0300 00 300 32 i drafod yr opsiynau sydd ar gael a chael cyngor.  Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydgysylltu â Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol perthnasol er mwyn ystyried priodoldeb cymryd camau cyfreithiol gan ddefnyddio ei bwerau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2a) (Cymru) 2020 ac Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (Rhan 4) a chamau gweithredu anffurfiol eraill. Mae gweithdrefnau a thempledi ar gyfer y prosesau cyfreithiol hyn eisoes ar waith a chaiff camau eu cymryd yn seiliedig ar risg ac amseroldeb.

Cam 3

Caiff achosion o wrthod cydymffurfio eu rheoli rhwng y darparwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddog yr Amgylchedd yr awdurdod lleol, a fydd yn cydgysylltu'n rheolaidd. Caiff y broses gyfreithiol, os caiff ei rhoi ar waith, ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.  Lle na ellir rheoli'r unigolyn yn y llety mwyach, yna dylid ystyried unwaith eto gyda'r awdurdod lleol a'r celloedd cydgysylltu canolog a oes llety amgen ar gael ac a fyddai'r unigolyn yn barod i hunanynysu yn y llety amgen.

Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio Protocol Cymru Gyfan ar gymhwyso deddfwriaeth diogelu iechyd gyfredol i reoli trosglwyddiad COVID-19 mewn sefyllfaoedd brys. Efallai y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn penderfynu defnyddio ei bwerau o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws, a fyddai'n cael ei ystyried yn ddefnydd mwy amserol o Orchymyn Rhan 2A. Bydd y penderfyniadau yn seiliedig ar achosion unigol.

Delio â phobl sy'n cysgu allan

Pe bai gan unigolyn sy'n cysgu allan symptomau, yna dylid cysylltu â gwasanaethau allgymorth yn y lle cyntaf i drefnu llety dros dro addas yn unol â'r Canllawiau COVID-19 ar gymorth awdurdodau lleol i bobl sy'n cysgu allan.

Unigolion sydd â symptomau

Pe bai gan unigolyn sy'n cysgu allan symptomau, yna dylid cysylltu â gwasanaethau allgymorth yn y lle cyntaf i drefnu llety dros dro addas yn unol â'r Canllawiau COVID-19 ar gymorth awdurdodau lleol i bobl sy'n cysgu allan.

Wrth geisio llety, dylai'r gwasanaeth allgymorth a'r awdurdod lleol gynnal asesiad risg er mwyn nodi pa fath o lety a fyddai'n addas i'r unigolyn. Dylai hyn gynnwys:

  • A yw'r person yn debygol o allu cydymffurfio â chyfarwyddiadau ynglŷn â hunanynysu neu fod yn barod i wneud hynny. Gallai hyn fod o ganlyniad i'w brofiad o drawma, problemau iechyd meddwl a/neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau.
  • A oes gan y llety gegin ac ystafell ymolchi gymunedol. Os felly, a ellir rheoli hyn yn ddiogel ai peidio.
  • A oes gan yr unigolyn unrhyw anghenion iechyd meddwl y mae angen eu hasesu (e.e. risg o hunanladdiad neu hunan-niwed)?  Ac os felly, sut y gall barhau i gael cymorth seicolegol neu seiciatrig.
  • A oes gan yr unigolyn unrhyw broblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac os felly, sut y gellir mynd i’r afael â'r rhain yn ystod y cyfnod hunanynysu. Gall hyn gynnwys ystyried opsiynau rhagnodi neu ddulliau o leihau niwed megis blychau gwaredu offer miniog.

Os bydd yn addas a bod yr unigolyn yn cydweithredu, yna dylid ei symud i'r llety dros dro i hunanynysu a dylai'r gweithiwr cymorth/gweithiwr tai/darparwr llety gysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gofnodi'r achos a chael unrhyw gyngor ar brofi. 

Os nad yw unigolyn yn barod i  hunanynysu

Dylai staff allgymorth ddilyn egwyddorion allgymorth grymusol, gan gydnabod ei bod yn cymryd amser i feithrin cydberthnasau ac ennyn ymddiriedaeth pobl sydd wedi bod yn cysgu allan. Mae hyn yn cynnwys bod yn bwrpasol, yn ddyfalbarhaus, a chanolbwyntio ar yr unigolyn, gan roi sawl cyfle i bobl ymgysylltu. Er bod y pandemig presennol yn rhoi mwy o bwys ar sicrhau llety, mae'n bwysig bod staff allgymorth yn parhau i ddefnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar drawma er mwyn annog pobl i gael llety.

Os na fydd unigolyn yn barod i gydweithredu a symud i lety dros dro i hunanynysu, yn y lle cyntaf dylai'r tîm allgymorth ddefnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar drawma ac ystyried a all ymdrin ag unrhyw rai o'r rhesymau pam na all pobl gydymffurfio neu pam nad ydynt yn barod i wneud hynny. Er enghraifft:

  • A yw'r rhesymau dros hunanynysu wedi cael eu cyfleu'n effeithiol? A allech gyfleu hyn mewn fformat gwahanol neu drwy gymorth gan gymheiriaid?
  • A oes rheswm sy'n gysylltiedig â'i brofiad o drawma sy'n ei wneud yn amharod neu'n bryderus ynglŷn â hunanynysu?
  • A ydych wedi rhoi sicrwydd i'r unigolyn y caiff ei anghenion sylfaenol eu diwallu? h.y. rhoi tegell a ffwrn ficrodon i'r unigolyn er mwyn iddo allu paratoi ei fwyd/diodydd ei hun, rhoi sicrwydd y bydd rhywun yn nôl bwyd a chyflenwadau ar ei ran. 
  • A ydych wedi rhoi sicrwydd y bydd eu cymorth yn parhau tra bydd yn hunanynysu? A ydych wedi darparu’r dechnoleg i'w alluogi i gael cymorth dros y ffôn neu drwy fideo?
  • A ydych wedi rhoi sicrwydd y bydd yn gallu cael ei bresgripsiynau o hyd?
  • A oes ganddo broblemau iechyd meddwl neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau ac a ydych wedi rhoi sicrwydd y caiff yr anghenion cymorth hyn eu diwallu o hyd?
  • A fydd yn gallu cyfathrebu â'i ffrindiau a’i deulu yn ystod y cyfnod hunanynysu? A allwch roi mynediad i'r rhyngrwyd, neu ffôn clyfar iddo?
  • A yw'n pryderu na fydd ganddo ddim byd i'w wneud? A allwch gynnig rhai gweithgareddau, neu geisio set deledu neu gonsol gemau yn rhodd?

Os bydd yr unigolyn yn dal yn anfodlon cydweithredu, yna dylai'r tîm allgymorth gysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ffonio 0300 003 0032 (rhwng 8am a 10pm) i gofnodi'r achos, a fydd yn cynghori a oes angen cynnal prawf ac yn nodi unrhyw gyngor arall y gellir ei roi. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydgysylltu â Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol perthnasol er mwyn ystyried priodoldeb cymryd camau cyfreithiol gan ddefnyddio ei bwerau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2a) (Cymru) 2020 ac Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (Rhan 4) a chamau gweithredu anffurfiol eraill. Mae gweithdrefnau a thempledi ar gyfer y prosesau cyfreithiol hyn eisoes ar waith a chaiff camau eu cymryd yn seiliedig ar risg ac amseroldeb.

Caiff achosion o wrthod cydymffurfio eu rheoli rhwng y darparwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddog yr Amgylchedd yr awdurdodau lleol, a fydd yn cydgysylltu'n rheolaidd â'i gilydd. Caiff y broses gyfreithiol, os caiff ei rhoi ar waith, ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol. Dylid ystyried unwaith eto gyda'r awdurdod lleol a'r gell gydgysylltu ganolog a oes llety amgen ar gael ac a fyddai'r unigolyn yn barod i hunanynysu yn y llety amgen.

Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio Protocol Cymru Gyfan ar gymhwyso deddfwriaeth diogelu iechyd gyfredol i reoli trosglwyddiad COVID-19 mewn sefyllfaoedd brys. Efallai y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn penderfynu defnyddio ei bwerau o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws, a fyddai'n cael ei ystyried yn ddefnydd mwy amserol o Orchymyn Rhan 2A. Bydd y penderfyniadau yn seiliedig ar achosion unigol.

Pobl sy'n cysgu allan sy'n gwrthod dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol ond nad oes ganddynt symptomau

Os bydd unigolyn yn gwrthod cadw at y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol, dylai'r tîm allgymorth ddefnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar drawma ac ystyried a all ymdrin ag unrhyw rai o'r rhesymau pam na all pobl gydymffurfio neu pam nad ydynt yn barod i gydymffurfio.

Os bydd yr unigolyn yn parhau i wrthod dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol, a'i fod yn achosi niwed neu risg bosibl i eraill, ond nad oes ganddo symptomau, yna dylai'r tîm allgymorth gysylltu â'r heddlu yn y lle cyntaf. Mae gan yr heddlu hefyd bwerau o dan Reoliad 8(5) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i roi hysbysiad cosb benodedig sy'n arwain at ddirwy i unigolyn nad yw'n dilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Canllawiau ar Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) (DGM) a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (TDAR) yn ystod  Pandemig y Coronafeirws (COVID-19).

Mae’r canllawiau brys hyn ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr a Chymru sy’n gofalu am, a/neu drin, person sydd â diffyg galluedd meddyliol perthnasol i gydsynio â’r gofal a/neu driniaeth hynny yn ystod yr achos o coronafeirws.

Mae’r canllawiau yn sicrhau bod y sawl sy’n cymryd penderfyniadau yn eglur ynghylch y camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n canolbwyntio ar senarios newydd ac achosion o ‘amddifadu o ryddid’ posibl a grëir gan yr achos o coronafeirws

Yn ystod yr achos, mae egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (DGM) a’r trefniadau diogelu a ddarperir gan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (TDAR) yn dal i fod yn weithredol. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu amddiffyniadau ar gyfer pobl sydd â diffyg neu a allai bod â diffyg galluedd meddyliol perthnasol i wneud penderfyniadau am wahanol agweddau o’u bywyd.

Mae’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn rhan bwysig o’r Ddeddf hon ac maent yn darparu amddiffyniadau pellach i’r rhai y mae’n rhaid eu hamddifadu o’u rhyddid er mwyn derbyn gofal neu driniaeth mewn cartref gofal neu ysbyty, ond nad sydd â galluedd i gydsynio i’r trefniadau hynny. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn weithredol mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys tai â chymorth. Ymdrinnir â hyn ym mharagraffau 23 a 24 o’r canllawiau:

UnrhywN leoloiad arall:

23. Dylid gweithredu’r un fframwaith â’r hyn a ddisgrifir yn y canllawiau uchod ar gyfer gwneud penderfyniadau budd pennaf ac amddifadu person o’u rhyddid wrth ystyried y trefniadau gofal neu driniaeth ar gyfer person sydd â diffyg galluedd perthnasol mewn lleoliadau eraill megis byw â chymorth.

24. Os yw’r trefniadau yn gyfystyr ag amddifadu o ryddid, yna dylid gwneud cyfeiriad yn y rhan fwyaf o achosion at y Llys Gwarchod. Mae’r Llys wedi cyhoeddi ei ganllawiau ei hun ar gyfer y cyfnod hwn o argyfwng a bydd yn parhau i’w diweddaru yn ôl yr angen.

Canllawiau eraill

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r gwledydd datganoledig eraill, yn rhan o Gynllun Gweithredu'r DU i fynd i'r afael â COVID-19.

Caiff y cyngor ar COVID-19 ei ddiweddaru'n rheolaidd ac mae ar gael yn:

Caiff y gwefannau hyn eu diweddaru'n rheolaidd ac maent yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau.

Noder hefyd y cyngor gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar rannu data.

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â chanllawiau perthnasol eraill a gyhoeddwyd:

COVID-19: Canllawiau i awdurdodau lleol a darparwyr mewn lleoliadau llety â chymorth

(COVID 19) Canllawiau i ddarparwyr llety ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: coronafeirws

COVID-19: Canllawiau ar gymorth gan awdurdodau lleol ar gyfer y rheini sy’n cysgu allan

COVID 19:  Guidance for substance misuse and homelessness services

COVID-19: Canllawiau i wasanaethau camddefnyddio sylweddau a digartrefedd

Cyfarpar diogelu personol

Am ganllawiau ar ddefnyddio PPE mewn lleoliadau ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol – darllenwch gyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru 25 Mawrth 2020 

Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru 30 Mawrth 2020

Atodiad A – Templed llythyr 1

Templed Llythyr 1:at breswylwyr presennol a newydd mewn llety â chymorth, hostelau a llety dros dro yn nodi mesurau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu

Annwyl Breswylydd

Cyfyngu ar ledaeniad y Coronafeirws – Hysbysiad Gwybodaeth

Mae eich cydweithrediad i gyfyngu ar ledaeniad y Coronafeirws yn bwysig iawn. Mae’r Coronafeirws yn heintus dros ben ac mae'n peri risg sylweddol i'ch iechyd chi ac iechyd pobl eraill.

Mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith ac mae'n rhaid i bawb yn y DU gydymffurfio â nhw er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y Coronafeirws. Mae'r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu, wedi cael pwerau i'w gorfodi, gan gynnwys drwy ddirwyon a gwasgaru pobl sydd wedi dod ynghyd.

Mae'r llythyr hwn yn esbonio'n fanwl y pethau y gallwch ac na allwch eu gwneud er mwyn sicrhau na fydd salwch y coronafeirws yn ymledu. 

RHAID i chi wneud y canlynol:

1.  Cydymffurfio â phob cais gan yr awdurdod lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a darparwr eich llety er mwyn sicrhau y caiff yr haint ei atal.

2.   Aros yn eich llety a dim ond gadael am y rhesymau canlynol:

  • Nôl bwyd neu feddyginiaethau ond dim ond pan fydd yn rhaid i chi wneud hynny.
  • Gwneud un math o ymarfer corff y dydd, er enghraifft rhedeg, cerdded neu feicio.  Gallwch fynd ar eich pen eich hun neu gyda'r person/pobl rydych yn rhannnu'ch ystafell â nhw.
  • Diwallu unrhyw angen meddygol, neu roi gofal neu gymorth i rywun sy'n agored i niwed.
  • Os oes rhaid i chi weithio a'ch bod wedi'ch dosbarthu'n weithiwr hanfodol.
  • Os bydd yn rhaid i chi fynd i apwyntiad hanfodol ac na allwch wneud hynny dros y ffôn.

3.  Cofiwch gadw pellter o 2 fetr (6 throedfedd) oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.

Symptomau’r Coronafeirws

Y symptomau mwyaf cyffredin yw:

  • peswch cyson newydd – mae hyn yn golygu eich bod wedi dechrau pesychu dro ar ôl tro
  • tymheredd uchel – rydych yn teimlo'n boeth wrth gyffwrdd eich brest a'ch cefn.

Beth y dylech ei wneud os bydd gennych symptomau?

Rhaid i chi roi gwybod i'ch darparwr llety/gweithiwr cymorth. Arhoswch yn eich ystafell ar eich pen eich hun am 7 diwrnod er mwyn osgoi cysylltiad ag unrhyw un arall. Bydd eich gweithiwr cymorth / darparwr yn gwneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gael cyflenwadau bwyd ac unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Os ydych yn rhannu'ch ystafell ag unrhyw un arall, efallai y gofynnir i chi symud i ystafell ar wahân i hunanynysu am 7 diwrnod.

Os na fydd ystafell sengl ar gael, bydd yn rhaid i chi aros yn yr un ystafell â'r person rydych wedi bod yn rhannu ag ef a bydd yn rhaid i'r ddau ohonoch aros yn yr ystafell am 14 diwrnod.

Pethau y gallwch eu gwneud er mwyn lleihau'r risg o ddal y coronafeirws

Dilynwch y camau syml hyn er mwyn lleihau'r risg y byddwch chi ac unrhyw un arall rydych yn rhannu'ch llety â nhw yn mynd yn sâl oherwydd y coronafeirws:

  • Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr yn aml – gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad.
  • Defnyddiwch jel diheintio dwylo os na fydd sebon a dŵr ar gael.
  • Golchwch eich dwylo cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd adref.
  • Defnyddiwch hances bapur neu'ch llawes (nid eich dwylo) i orchuddio'ch ceg a'ch trwyn pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian.
  • Rhowch hancesi papur wedi'u defnyddio yn y bin yn syth ac yna golchwch eich dwylo.
  • Cyfyngwch ar faint o amser rydych yn ei dreulio mewn mannau a rennir yn eich annedd a chadwch bellter o 2 fetr (6 throedfedd) oddi wrth eraill.

Mae'n hanfodol eich bod yn dilyn y mesurau a amlinellir yn yr hysbysiad. Os na fyddwch yn cydymffurfio, gall y llys roi cyfyngiadau pellach arnoch.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chynnwys y llythyr hwn, neu os ydych yn cael trafferth cydymffurfio â'r gofynion, yna mae croeso i chi gysylltu â'ch gweithiwr achos neu'ch gweithiwr cymorth yn uniongyrchol. 

Rhannu’r dudalen hon