Canllawiau ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn i ysgolion
Mae'r canllawiau anstatudol hyn yn ymwneud â gofynion newydd a osodwyd gan Reoliadau 2024. Maent ar gyfer awdurdodau derbyn, paneli apelau derbyn a fforymau derbyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Canllawiau anstatudol yw'r rhain sydd wedi'u bwriadu ar gyfer awdurdodau derbyn, (cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol), paneli apelau derbyn a fforymau derbyn.
Cyhoeddir y canllawiau hyn yn unol ag adran 10 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo addysg personau yng Nghymru.
Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i ystyried y canllawiau hyn, ond byddai Gweinidogion Cymru yn disgwyl i'r rhai hynny y'u bwriedir hwy ar eu cyfer eu cadw mewn cof wrth ystyried materion y maent yn berthnasol iddynt.
Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnig datganiad cynhwysfawr o'r gyfraith, nac yn honni eu bod yn gwneud hynny, ac felly ni ddylid eu hystyried fel cyngor ar yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Mae'n darparu canllawiau ar ofynion newydd a osodir gan Reoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 ("Rheoliadau 2024") a ddaethant i rym ar 28 Mehefin 2024.
Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad at riant yn y canllawiau hyn yn unol â'r diffiniad yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996.
Diben Rheoliadau 2024
Mae Rheoliadau 2024 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun ar gyfer pob blwyddyn ysgol ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir yn eu hardal ("cynllun cydlynol"). Mae hyn yn cynnwys ysgolion preswyl ond nid yw'n cynnwys lleoedd chweched dosbarth mewn ysgolion, ysgolion arbennig a gynhelir nac ysgolion meithrin a gynhelir.
Yr hyn sydd orau gan riant
Diben cynlluniau cydlynol yw sefydlu mecanweithiau ar gyfer sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, fod pob rhiant plentyn sy'n byw yn ardal yr awdurdod lleol sydd wedi gwneud cais am le mewn ysgol yn y 'cylch derbyn arferol' yn cael cynnig un, a dim ond un, lle ysgol ar yr un diwrnod. Dylai cynlluniau hefyd fynd i'r afael â sut yr ymdrinnir â cheisiadau hwyr a'r trefniadau ar gyfer trin derbyniadau y tu allan i'r 'cylch derbyn arferol'.
Mae'r hawl i riant fynegi dewis ynghylch lle mewn ysgol yn parhau. Nodir yr hawl honno yn adran 86 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") sy'n darparu bod awdurdod lleol o dan ddyletswydd gyfreithiol i wneud trefniadau ar gyfer galluogi rhiant plentyn yn ardal yr awdurdod i:
- fynegi dewis o ran yr ysgol y dymuna i'w blentyn fynd iddi
- rhoi rhesymau dros ei ddewis
Mae adran 86 o Ddeddf 1998 yn datgan yn ogystal y gall y trefniadau hefyd ganiatáu i riant nodi mwy nag un ysgol a ffafrir ganddynt. Yn yr achos hwnnw mae adran 86 yn darparu nad yw'r hawl i fynegi dewis yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir y mae rhiant plentyn wedi'i dewis, gynnig lle i'r plentyn yn yr ysgol os yw'r plentyn, yn unol â chynllun cydlynol, yn cael cynnig lle mewn ysgol wahanol y mae'r rhiant hefyd wedi'i nodi fel un a ffafrir ganddynt.
Gosod trefniadau derbyn
Nid yw cynlluniau cydlynol yn effeithio ar hawliau a dyletswyddau cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i osod a defnyddio eu trefniadau derbyn eu hunain a'u meini prawf goralw eu hunain. Mae cynlluniau cydlynol yn brosesau gweinyddol i wneud derbyniadau i ysgolion yn haws, yn fwy tryloyw ac yn llai o straen i rieni. Nid ydynt yn golygu bod rhaid i bob awdurdod derbyn mewn ardal gael yr un meini prawf goralw, na rhai tebyg.
Pryd fydd Rheoliadau 2024 yn berthnasol?
Mae'r gofynion yn Rheoliadau 2024 yn berthnasol o 28 Mehefin 2024. Bydd y Cod Derbyn i Ysgolion a'r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion yn cael eu diweddaru maes o law i adlewyrchu'r gofynion hyn.
Ceir crynodeb o’r camau allweddol sydd i'w cymryd gan awdurdod lleol yn rhan olaf y canllawiau hyn.
Y camau i'w cymryd gan awdurdod lleol mewn perthynas â chynllun cydlynol
Y cam cyntaf yw i bob awdurdod lleol lunio, mewn perthynas â blwyddyn benderfynu 2025 i 2026 (y flwyddyn benderfynu gyntaf) a blynyddoedd penderfynu dilynol, cynllun cydlynol (y cyfeirir ato fel "cynllun cymhwysol" yn Rheoliadau 2024) mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yn ei ardal.
Diffinnir y flwyddyn benderfynu yn Rheoliadau 2024 i olygu'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau 2 flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd y mae'r trefniadau derbyn yn berthnasol iddi.
Bydd y cynllun cydlynol cyntaf yn gymwys i drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2027 i 2028. Mae gweithio yn ôl o'r flwyddyn ysgol honno'n golygu bod rhaid i awdurdodau lleol fod wedi llunio a mabwysiadu cynllun cydlynol erbyn 1 Ionawr 2025 ac erbyn 1 Ionawr ar gyfer yr holl flynyddoedd sy'n dilyn.
Unwaith y bydd yr awdurdod lleol wedi llunio cynllun cydlynol ar gyfer ei ardal, rhaid iddo ymgynghori ar y cynllun drafft. Mae'r rhai y mae'n ofynnol ymgynghori â nhw fel a ganlyn:
- y fforwm derbyn
- pob corff llywodraethu sy'n awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol
- unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r awdurdod lleol yn credu y bydd y cynllun cydlynol yn debygol o effeithio arno
Rhaid i'r awdurdod lleol ystyried ymatebion yr ymgyngoreion yn ofalus ac a ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau i'w cynllun cydlynol arfaethedig.
Rhaid cynnal yr ymgynghoriad gyda'r bwriad o sicrhau bod y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion a gynhelir yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, yn gydnaws â'i gilydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol.
Ar ôl i'r awdurdod lleol gynnal ei ymgynghoriad, rhaid iddo benderfynu ar y cynllun cydlynol ar ei ffurf wreiddiol, neu gydag unrhyw addasiadau a welir yn dda gan yr awdurdod lleol. Rhaid i'r awdurdod lleol fabwysiadu'r cynllun cymhwysol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu gan bob corff llywodraethu sy'n awdurdod derbyn yr ymgynghorodd yr awdurdod lleol ag ef.
Nid oes gofyniad i ymgynghori ar gynllun cydlynol ar gyfer y blynyddoedd dilynol oni bai bod y cynllun yn sylweddol wahanol i'r cynllun a fabwysiadwyd ar gyfer y flwyddyn flaenorol, neu os nad yw'r awdurdod lleol wedi ymgynghori ar gynllun a fabwysiadwyd ganddo yn ystod y 6 blynedd flaenorol.
Ar gyfer blwyddyn derbyn 2027 i 2028, rhaid i bob awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru, drwy e-bostio SGOA@llyw.cymru, ar neu cyn 28 Chwefror 2025 p'un a yw wedi mabwysiadu cynllun cydlynol ai peidio. Wedi hynny, ar gyfer pob blwyddyn dderbyn sy'n dilyn, rhaid i bob awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru ar 28 Chwefror, neu cyn hynny, yn y flwyddyn benderfynu berthnasol, p'un a yw wedi mabwysiadu cynllun cydlynol ai peidio. Rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru bod cynlluniau ar waith.
Gall Gweinidogion Cymru osod cynllun cydlynol pan nad yw awdurdod lleol wedi hysbysu Gweinidogion Cymru erbyn 28 Chwefror bob blwyddyn benderfynu a yw cynllun wedi'i fabwysiadu ai peidio.
Gofynion cynllun cydlynol
Mae'n rhaid i gynllun cydlynol ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn wneud y canlynol:
- sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, bod pob rhiant yn ardal yr awdurdod lleol sy'n gwneud cais ar y ffurflen gais gyffredin yn cael un cynnig o le i blentyn mewn ysgol a gynhelir o dan y cynllun
- sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, mewn unrhyw achos pan fo plentyn yn gymwys i gael ei dderbyn i fwy nag un ysgol a gynhelir, bod y plentyn yn cael cynnig lle ym mha un bynnag o'r ysgolion a gynhelir hynny sydd wedi ei gosod uchaf gan y rhiant ar y ffurflen gais gyffredin
- ei gwneud yn ofynnol i ffurflen gais gyffredin gael ei chwblhau, gan alluogi rhiant yn ardal awdurdod lleol:
- i ddarparu ei enw a'i gyfeiriad
- i ddarparu enw, cyfeiriad a dyddiad geni ei blentyn
- i wneud cais am ddim llai na 3 ysgol a gynhelir, pa un a yw unrhyw ysgol a gynhelir y gwneir cais amdani o fewn ardal yr awdurdod lleol ai peidio
- i roi rhesymau dros unrhyw gais
- i raddio pob cais mewn perthynas ag unrhyw gais arall (hyd yn oed os nad yw awdurdodau derbyn yn yr ardal yn defnyddio system raddio fel rhan o'u trefniadau derbyn unigol)
- sicrhau bod copi o'r ffurflen gais gyffredin yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol a sicrhau bod copïau ar gael yn swyddfa'r awdurdod lleol i'w dosbarthu yn ddi-dâl i rieni ar gais. Rhaid i'r ffurflen gais gyffredin gael ei hategu gan ffurflen ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer ceisiadau ar-lein. Gellir ategu'r ffurflen gais gyffredin (ond nid ei disodli) â ffurflenni ychwanegol lle gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol ar ysgolion penodol yn yr ardal, er enghraifft i asesu ymrwymiad enwadol neu mewn perthynas â phrofion
- nodi ar gyfer pob ysgol a gynhelir y mae'r cynllun cydlynol yn berthnasol iddi ai'r awdurdod lleol ynteu'r corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn
- lle mai'r corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir a'i fod wedi gwneud trefniadau i gorff arall benderfynu ar y drefn blaenoriaeth y caiff y cais am yr ysgol ei rancio yn ei hôl, nodi'r corff hwnnw
- phennu bod rhaid i'r awdurdod lleol gael unrhyw hysbysiad derbyn ar gyfer cynnig o le i blentyn i ysgol a gynhelir, o fewn pythefnos i ddyddiad y cynnig
Mewn perthynas â cheisiadau a wneir yn ystod cylch derbyn arferol, rhaid i gynllun cydlynol:
- ei gwneud yn ofynnol bod y ffurflen gais gyffredin yn cael ei chyflwyno i'r awdurdod lleol erbyn 15 Ionawr yn y flwyddyn gynnig, mewn perthynas â cheisiadau am ysgolion cynradd, ac erbyn 31 Hydref yn y flwyddyn gynnig, mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer ysgolion uwchradd. Rhaid iddo hefyd nodi sut y penderfynir ar geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau hyn
- ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, pa un ai ef yw'r awdurdod derbyn ai peidio, anfon at riant unrhyw benderfyniad sy'n cynnig neu'n gwrthod lle i blentyn mewn ysgol a gynhelir ar y dyddiad cynnig
- phennu'r dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflawni pob un o'r camau y mae'n ofynnol eu cymryd yn ôl y pwyntiau bwled a restrir
Mae Rheoliadau 2024 yn datgan bod cais yn cael ei wneud yn ystod cylch derbyn arferol:
- os yw ar gyfer derbyn disgybl i grŵp oedran perthnasol
- nad yw'n gais hwyr neu'n gais a wnaed yn ystod y flwyddyn. Mewn geiriau eraill, mae'n cyfeirio at gais a wnaed cyn y dyddiad a nodir ar gyfer derbyn ceisiadau ym mhrosbectws yr ysgol
Mewn cysylltiad â cheisiadau a wneir ar gyfer ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun cydlynol ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol wneud y canlynol:
- pan fo'r cais ar gyfer ysgol a gynhelir y mae'r corff llywodraethu yn awdurdod derbyn ar ei chyfer, i ddarparu i'r corff llywodraethu, neu'r corff y mae'r corff llywodraethu wedi gwneud trefniadau ag ef i gorff arall benderfynu ar y drefn blaenoriaeth y caiff y cais am yr ysgol ei rancio yn ei hôl mewn perthynas â cheisiadau eraill, manylion y cais ac unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir gan y rhiant
- pan fo'r cais ar gyfer ysgol a gynhelir y mae'r awdurdod lleol yn awdurdod derbyn iddi, penderfynu ar y drefn blaenoriaeth y caiff pob cais am yr ysgol ei rancio yn ei hôl mewn perthynas â cheisiadau eraill, drwy gyfeirio at feini prawf derbyn yr ysgol a gynhelir
- penderfynu, yn unol â darpariaethau'r cynllun cydlynol, a yw'r plentyn i gael cynnig neu wrthod lle mewn ysgol a gynhelir yn ei ardal pan fo'n ymddangos i'r awdurdod lleol bod plentyn yn ei ardal yn gymwys i gael cynnig lle mewn mwy nag un ysgol a gynhelir, neu nad yw plentyn yn ei ardal yn gymwys i gael cynnig lle mewn unrhyw ysgol a gynhelir
- gwneud y penderfyniad hwn gan gadw mewn cof feini prawf derbyn yr ysgolion hynny (y mae'r rhiant wedi gwneud cais iddynt)
- mewn achos pan fo'r awdurdod lleol yn penderfynu a yw plentyn yn gymwys i gael cynnig lle mewn ysgol a gynhelir, ond nid yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol honno, rhaid iddo hysbysu corff llywodraethu'r ysgol o'i benderfyniad
- anfon ei benderfyniad at y rhiant, p'un ag ef yw'r awdurdod derbyn ai peidio, ac eithrio pan fo'r cais yn ymwneud â phlentyn sy'n byw mewn awdurdod lleol gwahanol. Os felly, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol hwnnw o'i benderfyniad
Mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer ysgolion y tu allan i'r ardal:
- pan fo rhiant yn ardal awdurdod lleol ("yr awdurdod cartref") yn cyflwyno cais am le mewn ysgol a gynhelir mewn ardal awdurdod lleol gwahanol ("yr awdurdod cynnal") drwy gyfrwng y ffurflen gais gyffredin, yna rhaid i'r awdurdod cartref anfon manylion y cais ymlaen at yr awdurdod cynnal
- rhaid i'r cynllun cydlynol bennu, wrth wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cynnig neu wrthod lle i blentyn mewn unrhyw ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod cartref y gwnaed cais ar ei chyfer hefyd, bod rhaid i'r awdurdod cartref hwnnw ystyried unrhyw wybodaeth a ddarperir gan yr awdurdod cynnal ynghylch a yw'r plentyn yn mynd i gael cynnig neu wrthod lle mewn ysgol a gynhelir o fewn ardal yr awdurdod cynnal hwnnw
- yn ogystal, rhaid i'r cynllun cydlynol ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r awdurdod cartref anfon at y rhiant unrhyw benderfyniad yn cynnig neu'n gwrthod lle yn yr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod cynnal gan awdurdod derbyn yr ysgol honno
O ran dyletswyddau corff llywodraethu, rhaid i'r cynllun cydlynol ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu sy'n awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir wneud y canlynol:
- anfon ymlaen at yr awdurdod lleol y mae wedi'i leoli ynddo fanylion unrhyw geisiadau a wneir yn uniongyrchol i'r ysgol a gynhelir yn ystod y cylch derbyn arferol, neu fel cais hwyr, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir gan y rhiant, ni waeth a yw'r rhiant sy'n gwneud y cais yn byw yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw ai peidio
- penderfynu neu wneud trefniadau i gorff arall (gan gynnwys ei awdurdod lleol) benderfynu, drwy gyfeirio at feini prawf derbyn yr ysgol a gynhelir, ar y drefn flaenoriaeth y mae pob cais am yr ysgol yn cael ei rancio yn ei hôl mewn perthynas â cheisiadau eraill
- hysbysu ei awdurdod lleol o'r penderfyniad. Neu, pan fo trefniadau wedi'u gwneud i gorff arall (nad yw'n awdurdod lleol iddo) wneud penderfyniad ar y drefn flaenoriaeth y mae pob cais am yr ysgol yn cael ei rancio yn ei hôl mewn perthynas â cheisiadau eraill, dylai'r corff llywodraethu drefnu bod y corff hwnnw yn hysbysu ei awdurdod lleol o'i benderfyniad
Dylai awdurdod lleol hysbysu unrhyw awdurdod derbyn arall (neu, yn achos ceisiadau am ysgolion y tu allan i ardal yr awdurdod lleol, yr awdurdod lleol arall dan sylw) am unrhyw gais a wneir ar y ffurflen gais gyffredin ar gyfer eu hysgol, a throsglwyddo unrhyw wybodaeth ategol berthnasol (megis prawf o fod yn aelod gweithredol o eglwys).
Dim ond gyda'r rhai sydd angen ei wybod y dylid rhannu trefn rancio y rhieni o ran ysgolion, megis awdurdod lleol arall sy'n defnyddio trefn rancio yn ei gynllun cydlynol, neu awdurdod derbyn ysgol y mae ei feini prawf goralw yn crybwyll trefn rancio.
Gall awdurdod lleol a'i ysgolion ddarparu yn y cynllun cydlynol y gwnaethant gytuno arno, mai dim ond os cânt eu cyflwyno drwy'r awdurdod lleol cartref ar ffurflen gais gyffredin yr awdurdod lleol hwnnw y gellir ystyried unrhyw ffurflenni ychwanegol a ddarperir gan ysgolion sydd angen gwybodaeth atodol. Fel arall, gallent gytuno bod ffurflenni ychwanegol o'r fath a anfonir yn uniongyrchol i ysgolion neu awdurdodau lleol eraill i gael eu trin yn yr un modd â'r rhai a dderbynnir drwy'r awdurdod lleol cartref, unwaith y bydd wedi'i sefydlu bod y rhain yn ymwneud yn unig â cheisiadau sy'n cael eu crybwyll a'u rancio ar ffurflen yr awdurdod lleol cartref.
Yna, rhaid i bob dewis gael ei ystyried gan yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol dan sylw. Erbyn y dyddiad a bennir yng nghynllun cydlynol yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol, dylai cyrff llywodraethu sy'n awdurdodau derbyn ar gyfer eu hysgolion roi rhestr i'w hawdurdod lleol o'r holl blant a wnaeth gais am le yn eu hysgol, wedi'u rancio yn eu trefn blaenoriaeth yn ôl y trefniadau derbyn, gan ddangos pa feini prawf sy'n berthnasol i ba blentyn.
Os oes gan ysgol, dyweder, 100 o leoedd, mae angen i'r awdurdod lleol wybod nid yn unig pa 100 o ymgeiswyr sy'n gweddu orau i'r meini prawf goralw, ond hefyd pa blant sydd nesaf petai lleoedd newydd yn dod ar gael wrth i gynigion lluosog posibl gael eu hosgoi yn unol â thelerau'r cynllun cydlynol. Pan fydd nifer y ceisiadau'n llawer uwch na'r nifer y gellir eu derbyn, efallai na fydd angen rancio'n unigol y plant yn y grwpiau blaenoriaeth isaf yn ôl y meini prawf goralw, oherwydd nid oes unrhyw debygolrwydd y daw lle ar gael iddynt hyd yn oed os bydd cryn nifer o ymgeiswyr â blaenoriaeth uwch yn gadael y rhestr wrth i gynigion lluosog posibl gael eu hosgoi.
Os yw rhiant sy'n byw mewn un awdurdod lleol yn gwneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol arall, rhaid i'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol roi gwybod i'r awdurdod lleol cartref a yw'n bwriadu cynnig lle. Efallai y bydd yr awdurdod lleol cartref yn ystyried yr wybodaeth honno wrth benderfynu a ddylid cynnig lle i'r rhiant mewn ysgol yn ei ardal ei hun ai peidio, ond dylai egluro ei fwriadau yn glir i rieni yn ei brosbectws cyfansawdd.
Y prif rwymedigaethau ar yr awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn eraill yn y cynllun cydlynol
Rhaid i awdurdodau lleol weithredu cynllun cydlynol yn eu hardal eu hunain. Fodd bynnag, bydd rhieni sy'n preswylio mewn un awdurdod lleol ond sy'n dymuno gwneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol arall yn gwneud cais drwy ffurflen gais gyffredin yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol. Pan wneir ceisiadau trawsffiniol, bydd angen i awdurdodau lleol roi gwybod i'w gilydd am ganlyniad y ceisiadau hynny, er mwyn monitro achosion lle mae mwy nag un cynnig wedi'i wneud.
Yr amserlen
Ar wahân i'r dyddiadau cynnig cenedlaethol, mater i awdurdodau lleol yw cytuno â'u hysgolion eu hunain sy'n awdurdodau derbyn, ar ddyddiadau cau eraill, a'u cynnwys yn eu cynllun cydlynol. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn cytuno â'u hawdurdodau cyfagos ar ddyddiad ar gyfer cyfnewid gwybodaeth am y cynigion y bydd y naill a'r llall yn eu gwneud i drigolion yr awdurdod arall. Dylai hyn fod yn ddigon o amser cyn y diwrnod cynnig cenedlaethol i'r awdurdod lleol cartref gael amser i ddod o hyd i gynigion amgen i'r rhai y bu eu holl geisiadau am ysgolion a ffefrir ganddynt yn aflwyddiannus.
Mae'n hanfodol bod cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yn cydymffurfio ag amserlenni y cytunwyd arnynt er mwyn i'r cynllun cydlynol yn ardal eu hawdurdod lleol weithio. Mae hefyd yn hanfodol bod awdurdodau lleol yn cadw at amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gydag awdurdodau lleol cyfagos.
Prosbectws cyfansawdd
Ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027, a phob blwyddyn ysgol wedi hynny, fel rhan o'r wybodaeth gyffredinol sydd i'w chyhoeddi ganddynt yn eu prosbectws cyfansawdd rhaid i awdurdodau lleol ddarparu crynodeb o'u cynllun cydlynol fel y penderfynir arno bob blwyddyn, ynghyd ag esboniad clir o'r camau yn y broses o wneud cais am le mewn ysgol.
Rhaid i grynodeb o'r cynllun cydlynol gynnwys y canlynol:
- disgrifiad cryno o'r modd y gellir gwneud cais am le mewn ysgol o dan y cynllun, gan gynnwys sut i wneud cais ac erbyn pa ddyddiad
- disgrifiad cryno o ba bryd y bydd rhieni yn cael gwybod am gynnig o le mewn ysgol o dan y cynllun
- disgrifiad cryno o ba bryd y bydd apelau yn erbyn gwrthod lle yn cael eu clywed
- disgrifiad byr o sut y penderfynir ar geisiadau na wnaed fel rhan o'r cylch derbyn arferol o dan y cynllun
- chopi o'r ffurflen gais gyffredin
Crynodeb o'r camau allweddol sydd i'w cymryd gan awdurdod lleol
Mae'r canlynol yn dangos llinell amser o'r camau allweddol y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu cymryd wrth fodloni gofynion Rheoliadau 2024. Mae'r siart llif wedi'i seilio ar y flwyddyn benderfynu gyntaf (1 Medi 2024 i 31 Awst 2025).
Rhwng 28 Mehefin 2024 a 1 Ionawr 2025
Rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori ar eu cynllun cydlynol arfaethedig a mabwysiadu cynllun o'r fath erbyn 1 Ionawr 2025. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cwblhau'r broses erbyn 31 Rhagfyr 2024 fan bellaf.
Yr ymgyngoreion yw:
- y fforwm derbyn
- pob corff llywodraethu yn ei ardal sy'n awdurdod derbyn
- unrhyw awdurdod lleol arall y cred yr awdurdod lleol y bydd yn debygol o gael ei effeithio
O ran blynyddoedd penderfynu dilynol, dim ond o dan yr amodau isod y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r cyrff rhestredig hynny:
- pan fo'r cynllun cydlynol yn sylweddol wahanol i'r cynllun a fabwysiadwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol, neu
- pan nad yw'r awdurdod lleol wedi ymgynghori ar gynllun cydlynol a fabwysiadwyd ganddo o fewn y 6 blynedd flaenorol
Ar 28 Chwefror 2025 neu cyn hynny
Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru, drwy anfon e-bost at SGOA@llyw.cymru, a yw wedi mabwysiadu cynllun cydlynol. Os bydd awdurdod lleol yn methu â bodloni'r gofyniad hwn, caiff Gweinidogion Cymru osod cynllun ar gyfer yr awdurdod lleol.
Rhwng mis Mawrth 2025 a mis Awst 2025
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr awdurdodau lleol yn datblygu eu trefniadau derbyn ar gyfer 2027 i 2028 cyn ymgynghori arnynt o 1 Medi 2025 ymlaen.
Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, y dyddiadau statudol ar gyfer cynigion ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yw 3 Mawrth (uwchradd) ac 16 Ebrill (cynradd) a bydd awdurdodau lleol yn trefnu i apelau gan rieni sy'n apelio yn erbyn penderfyniadau lleol gael eu clywed (nid yw 1 Mawrth a 2 Mawrth 2025 yn ddiwrnodau gwaith).
Rhwng 1 Medi 2025 a 1 Mawrth 2026
Rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori ar ei drefniadau derbyn ar gyfer 2027 i 2028, a fydd yn cynnwys crynodeb o'r cynllun cydlynol.
Erbyn 15 Ebrill 2026
Rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu ar ei drefniadau derbyn ar gyfer 2027 i 2028.
Rhwng mis Medi 2026 a mis Ionawr 2027
Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi ei brosbectws ar gyfer 2027 i 2028, gan gynnwys crynodeb o'r cynllun cydlynol, heb fod yn hwyrach na 1 Hydref 2026.
Dyma'r cyfnod pan fydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod ffurflenni cais cyffredin ar gyfer lleoedd ysgol ar gael. Bydd cynllun cydlynol yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffurflen gais gyffredin gael ei chyflwyno i'r awdurdod lleol erbyn 15 Ionawr yn y flwyddyn gynnig, mewn perthynas â cheisiadau am ysgolion cynradd, ac erbyn 31 Hydref yn y flwyddyn gynnig, mewn perthynas â cheisiadau am ysgolion uwchradd.
Rhwng mis Hydref 2026 a mis Mawrth ac Ebrill 2027
Bydd yr awdurdod lleol yn cydgysylltu ceisiadau y mae'n eu derbyn a'u hanfon at gyrff llywodraethu perthnasol ac awdurdodau lleol eraill yn ôl y gofyn.
Dyddiadau statudol cynnig ysgolion yw 1 Mawrth (uwchradd) ac 16 Ebrill (cynradd).