Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn, y dylid eu darllen ochr yn ochr â’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol ar gyfer Ysgolion a’r Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau, yn nodi gwybodaeth ychwanegol, pan fo angen, ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais.

At ddiben y canllawiau hyn, mae diffiniad eang o ddysgwr sy'n agored i niwed a dan anfantais wedi'i fabwysiadu. Mae'n cynnwys dysgwyr sydd yn un neu fwy o'r grwpiau canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig iddynt:

  • dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • dysgwyr ag anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) sy'n cael mynediad at addysg bellach a hyfforddiant 
  • dysgwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol
  • plant â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal
  • dysgwyr sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
  • plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • gofalwyr ifanc
  • plant sy'n wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod

Ni fydd pob dysgwr o'r grwpiau hyn yn wynebu rhwystrau i ddysgu nac yn agored i dangyflawni. Gall dysgwyr o'r grwpiau hyn wynebu amrywiaeth o rwystrau i gyflawni eu potensial, felly bydd angen dulliau amrywiol arnynt a chymorth penodol er mwyn diwallu eu holl anghenion unigol. Hefyd, gall dysgwyr berthyn i sawl un o'r grwpiau uchod ar yr un pryd, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.

Nid yw'r rhestr o grwpiau yn gynhwysfawr. Gellir ystyried bod dysgwyr nad ydynt yn y grwpiau hyn yn agored i niwed neu dan anfantais, gan gynnwys o ganlyniad i COVID-19 yn benodol. Er enghraifft, bydd rhai dysgwyr na fyddent wedi cael eu hystyried yn ddysgwyr sy’n agored i niwed neu dan anfantais cyn COVID-19 angen cymorth ychwanegol oherwydd eu profiadau yn ystod y pandemig. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg sydd o gartrefi lle na chaiff y Gymraeg ei siarad, yn enwedig os ydynt yn wynebu rhwystrau eraill i ddysgu hefyd. Gall hyn fod yn wir hefyd yn achos y dysgwyr hynny nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Bwriedir i'r canllawiau yn y ddogfen hon gefnogi ysgolion a lleoliadau i sicrhau eu bod yn defnyddio dull gweithredu cynhwysol. Er bod y gwaith o gymhwyso'r canllawiau yn canolbwyntio ar sicrhau manteision i ddysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais, bydd hefyd yn sicrhau manteision sy’n estyn y tu hwnt i'r grwpiau a restrir uchod, gan y bydd yr hyn sy'n gweithio i'n grwpiau agored i niwed a dan anfantais yn aml o fudd i bob dysgwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr anawsterau sylweddol a wynebwyd gan awdurdodau lleol ac ysgolion o ran darparu gwasanaethau a chyflawni eu dyletswyddau statudol, gan gynnwys mewn perthynas â dysgwyr ag AAA, ADY a dysgwyr EOTAS, yn ystod y pandemig. 

Cydnabyddir y bu heriau penodol wrth ymdrin â dysgu seiliedig ar waith a sicrhau bod dysgwyr sydd mewn gweithle ar gyfer profiad gwaith, neu leoliadau gwaith, yn ddiogel bob amser. Mae cyfathrebu da â chyflogwyr, dysgwyr a'u teuluoedd yn parhau i fod yn hollbwysig.

Mae unrhyw gyfeiriad at ysgolion yn y canllawiau hyn yn cynnwys ysgolion a lleoliadau a restrir isod:

  • Lleoliadau blynyddoedd cynnar a gynhelir
  • Ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir
  • Unedau/canolfannau adnoddau arbenigol
  • Unedau cyfeirio disgyblion
  • Sefydliadau addysg bellach
  • Dysgu Oedolion yn y Gymuned
  • Dysgu a phrentisiaethau seiliedig ar waith
  • Colegau arbenigol
  • Darparwyr Annibynnol sy’n darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS)

Efallai y bydd ysgolion annibynnol a lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir am ystyried agweddau ar y cyngor hwn sy'n berthnasol a/neu yn ddefnyddiol yn eu tyb nhw.

Dysgwyr sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Ar 25 Awst 2021, cafodd plant a phobl ifanc eu tynnu o'r rhestr gwarchod cleifion, ar ôl i astudiaethau ganfod bod plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a ystyriwyd yn wreiddiol yn eithriadol o agored i'r clefyd yn glinigol, mewn perygl isel iawn o fynd yn ddifrifol wael neu farw o gael eu heintio â’r feirws. Er bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr gwarchod cleifion, mae nifer bach o hyd yn y grŵp hwn a allai fod wedi cael cyngor gan eu harbenigwyr eu hunain i ynysu neu leihau eu cyswllt cymdeithasol oherwydd triniaeth neu gyflwr meddygol. Yn yr achosion hyn, dylai ysgolion gydweithio â'r ALl, gweithwyr cymorth (ee, swyddogion cyswllt â theuluoedd) a gweithiwr cymdeithasol (pan fo hynny'n berthnasol) i fynd ar drywydd y rhiant/gofalwr i ystyried amgylchiadau'r plentyn a chytuno ar ba drefniadau a roddir ar waith i gefnogi'r dysgwr hwnnw o bell.

Camau gweithredu priodol ar gyfer pob lefel risg

Mae’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol ar gyfer Ysgolion yn amlinellu’r camau gweithredu priodol y mae angen i ysgolion eu cymryd ym mhob lefel risg.

Er y bwriedir i’r camau gweithredu a amlinellir yn y Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol ar gyfer Ysgolion fod yn berthnasol i ysgolion arbennig, rydym yn ymwybodol nad yw camau gweithredu fel cadw pellter cymdeithasol a defnyddio cyfarpar diogelu personol bob amser yn briodol. Yn yr achosion hyn, dylai ysgolion neu leoliadau ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol i ystyried yn ofalus a chynnal asesiad risg, gan roi ystyriaeth i bob lleoliad unigol ac anghenion dysgwyr unigol.

Defnyddio cyfarpar diogelu personol

Dylid ystyried llesiant dysgwyr wrth benderfynu a ddylid gwisgo gorchuddion wyneb. Ni ddylai dysgwyr sy’n ei chael yn anodd gwisgo gorchuddion wyneb eu gwisgo, er enghraifft rhai dysgwyr ag AAA/ADY, gan y gallai hynny, yn anfwriadol, gynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws. Dylid hefyd ystyried sut y mae dysgwr yn debygol o ymateb i bobl eraill sy’n defnyddio gorchuddion wyneb, ynghyd ag unrhyw effaith bosibl ar ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn enwedig yn y Cyfnod Sylfaen.

Wrth ystyried y defnydd o orchuddion wyneb, bydd angen i ysgolion a lleoliadau benderfynu ar amgylchiadau unigol yn ofalus ac ar sail asesiadau risg, gan ystyried anghenion dysgwyr a staff unigol, ynghyd â’r hyn y maent yn eu ffafrio.

Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi ystyried effaith gorchuddion wyneb ar blant byddar.

Ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, a'u cefnogi

Dylai ysgolion a lleoliadau roi sicrwydd i ddysgwyr a rhieni/gofalwyr ynghylch y mesurau y maent yn eu cymryd i leihau'r risg. Gall hyn gynnwys rhoi gwybodaeth am y canlynol i rieni/gofalwyr:

  • trefniadau iechyd a diogelwch, ac arferion golchi dwylo a hylendid anadlol da
  • sefydliad dosbarth
  • trefniadau ar gyfer cael mynediad at y cwricwlwm
  • trefniadau glanhau ar waith
  • defnyddio gorchuddion wyneb gan staff a, pan fo'n berthnasol, dysgwyr fel y bo'n briodol ar gyfer yr ysgol neu'r lleoliad penodol (er nad yw'r rhain yn cael eu hargymell fel mater o drefn yn yr ystafell ddosbarth), a threfniadau ar gyfer y dysgwyr hynny y bydd defnyddio gorchuddion wyneb yn achosi problemau iddynt
  • Profion llif unffordd ar gael ar gyfer oedolion a dysgwyr uwchradd hŷn
  • trefniadau ar gyfer gofal personol, ee, newid a bwydo
  • trefniadau sydd ar waith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n ymweld, ee, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis therapyddion, nyrsys ysgol a staff arbenigol awdurdod lleol

Pontio

Gall pontio i ysgol neu leoliad newydd fod yn gyfnod ansicr i ddysgwyr. Mae'n bosibl y bydd y sefyllfa bresennol wedi dwysáu unrhyw bryderon am fod pethau megis trefniadau pontio sefydledig wedi gorfod cael eu haddasu er enghraifft. Mae sicrhau bod dysgwyr o grwpiau agored i niwed a dan anfantais yn pontio’n effeithiol yn arbennig o bwysig, a hynny o ran eu llesiant a'u haddysg ehangach, ac mae’n bosibl y byddant yn elwa ar gymorth parhaus.

Gwahardd disgyblion

Dim ond fel dewis olaf y dylid gwahardd disgyblion. Os nad oes modd osgoi gwahardd disgybl, mae canllawiau Llywodraeth Cymru, Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, yn amlinellu'r cymorth y mae rhaid i ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol ei ddarparu i bob plentyn sydd wedi ei wahardd o ysgol ac o unedau cyfeirio disgyblion.

Mae'r canllawiau'n nodi'n glir y dylai ysgolion a lleoliadau osgoi gwahardd dysgwyr â datganiadau AAA yn barhaol ac eithrio yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol, ac y dylent wneud pob ymdrech i osgoi gwahardd dysgwyr sy'n cael eu cefnogi drwy Weithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy, gan gynnwys y rhai sy'n destun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy ond sy'n cael eu hasesu am ddatganiad. Yn yr un modd, dylid hefyd geisio osgoi gwahardd y dysgwyr hynny sydd ag ADY a Chynllun Datblygu Unigol (CDU) pan fo modd.

Dylai ysgolion a lleoliadau fod yn arbennig o sensitif i waharddiadau sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal. Dylai ysgolion a lleoliadau geisio pob dull ymarferol o gadw dysgwr yn yr ysgol a dylent geisio cyngor gan yr awdurdod lleol a gweithwyr proffesiynol eraill pan fo'n briodol.

Osgoi gwaharddiadau ac atgyfeiriadau at EOTAS

Bydd pandemig y coronafeirws yn gyfrifol am unrhyw gynnydd mewn ymddygiad heriol ymysg dysgwyr sy’n mynychu addysg brif ffrwd. Gallai hyn fod yn arbennig o wir ymysg y dysgwyr hynny a oedd yn ei chael yn anodd ymgysylltu ag addysg cyn COVID-19 a/neu yn ystod y pandemig, ac a all gael trafferth addasu i'r newid mewn arferion dyddiol, gan gynnwys yr arferion mwy strwythuredig a'r disgwyliadau o ran dysgu ac ymddygiad. 

Gall deall yr hyn sy'n achosi'r newid mewn ymddygiad fod yn fan cychwyn ar gyfer cefnogi'r dysgwr i addasu a rheoli ei ymddygiad.

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried addasu eu polisi ymddygiad er mwyn ystyried effaith bosibl COVID-19 ar lesiant ac ymddygiad a llesiant dysgwyr.

Nid yw hyn yn golygu gostwng disgwyliadau cyffredinol o ran safonau ymddygiad derbyniol. Yn hytrach, dylai ysgolion a lleoliadau barhau i ganolbwyntio ar anghenion unigolion, gan ddarparu cymorth yn ôl yr angen, a sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu'r gofyniad am ddealltwriaeth a hyblygrwydd.

Dylai ysgolion a lleoliadau hefyd ystyried ceisio cyngor gan y gwasanaeth ieuenctid sydd ag arbenigedd mewn delio â phobl ifanc ag ymddygiad heriol, a defnyddio’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, i gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu'r risg fwyaf o ymddieithrio.

Mae rhagor o wybodaeth am reoli ymddygiad mewn ystafelloedd dosbarth ar gael ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Cyfranogi

Mae cyfranogiad yn hollbwysig i lesiant a'i nod yw sicrhau bod hawliau plant i gymryd rhan mewn penderfyniadau a wneir yn eu hysgol neu eu lleoliad yn cael ei cyflawni. Felly mae'n bwysig bod ysgolion a lleoliadau yn sicrhau bod trefniadau cyfranogiad yn parhau. Mae hefyd yn hanfodol y gall pob grŵp o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai o grwpiau agored i niwed a dan anfantais, gymryd rhan.

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried ystod o drefniadau ar gyfer hwyluso cyfranogiad parhaus, ee, defnyddio blychau awgrymiadau, pleidleisio ar-lein, creu grwpiau cyfranogiad fesul blwyddyn neu ddefnyddio adnoddau sydd ar gael ar Hwb. 

Mae rhagor o gyllid wedi’i sicrhau ar gyfer 2021 i 2022 felly dylid ystyried cymorth drwy'r rhaglen hon ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais. Mae'r fformiwla ariannu ar gyfer y rhaglen Recriwtio, Adfer, Codi Safonau wedi'i llywio gan ffocws ar y dysgwyr mwyaf agored i niwed gan gynnwys pwysoliadau ar gyfer meysydd fel amddifadedd, Anghenion Dysgu Ychwanegol, dysgwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a'r rhai mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Dylid ystyried barn dysgwyr, pan fo'n ymarferol, a'u rhieni/gofalwyr wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau hawliau plant a phobl ag anableddau ac mae ymgynghori â nhw yn helpu i roi grym gwirioneddol i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn enwedig mewn perthynas â'r hawl yn Erthygl 12 sy’n nodi y dylai’r rhai sy'n gallu gwneud hynny fynegi eu barn, eu teimladau a'u dymuniadau mewn perthynas â phob mater sy'n effeithio arnynt. Mae ymgynghori â phlant a rhieni/gofalwyr hefyd yn fwy tebygol o arwain at benderfyniadau gwell. 

Nawr yn fwy nag erioed, ni ellir gorbrisio pwysigrwydd arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gefnogi grwpiau o ddysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais. Bydd awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau wedi bod yn datblygu cyfranogiad dysgwyr drwy ymarfer sy'n canolbwyntio ar unigolyn. Un o nodweddion allweddol ymarfer sy'n canolbwyntio ar unigolyn yw bod dysgwyr yn cael y cyfle i fynegi'r hyn sy'n gweithio iddynt, a'r hyn nad yw'n gweithio, a pha gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae Estyn, wedi gweithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, y consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau esgobaethol i lunio cyngor i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ar sut i barhau â busnes ysgol ac uned cyfeirio disgyblion yn ystod y pandemig Covid-19. Mae'r cyngor hwn yn rhoi crynodeb defnyddiol o'r egwyddorion ar gyfer defnyddio technoleg ac yn tynnu sylw at arferion a fabwysiadwyd gan ysgolion a lleoliadau.

Ystyriaethau penodol:

1. Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae’r system ADY newydd a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi dechrau’n raddol ers fis Medi 2021.

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd rhai plant yn dechrau cael Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) o dan y Ddeddf ADY. Wrth i’r gwaith o weithredu’r Ddeddf a’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd gael ei rhoi ar waith, dylid nodi y bydd y dyletswyddau a’r gofynion sy’n ymwneud ag ADY hefyd yn parhau i fod yn gymwys, fel y maent yn gymwys ar gyfer AAA. Dylai’r canllawiau a amlinellir yn y ddogfen hon sy’n ymwneud â diwallu anghenion dysgwyr ag AAA, fod yn gymwys yn yr un modd i’r dysgwyr hynny ag ADY, pan fo hynny’n berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith o weithredu’r Ddeddf a'r system newydd fesul cam wedi’i chynnwys yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.

2. Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Mae gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg y pŵer i ddiwygio, dros dro, ddyletswyddau statudol awdurdodau lleol. Nid yw’r pŵer hwn wedi’i ddefnyddio ar gyfer AAA yn ystod y pandemig. Mae dyletswyddau awdurdodau lleol sy’n deillio o Ddeddf Addysg 1996 a Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 wedi aros mewn grym gydol yr amser, ac mae Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002 yn parhau i fod yn gymwys. Mae dyletswydd awdurdod lleol i drefnu darpariaeth addysgol arbennig a bennir mewn datganiad dysgwr wedi aros yr un fath.

Efallai nad yw rhai dysgwyr ag AAA wedi mynychu eu lleoliad arferol am gyfnodau yn ystod y pandemig. Efallai fod hyn wedi ei gwneud hi'n anodd i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau sicrhau'r ystod o ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer y dysgwyr hynny sydd â datganiadau AAA a'r rhai sydd hebddynt. Bydd ysgolion a lleoliadau wedi cadw mewn cysylltiad â rhieni/gofalwyr yn ystod y cyfnod hwn a dylent fod wedi bod yn rhoi adnoddau a chyngor dysgu a chymorth iddynt. Fodd bynnag, er y cydnabyddir mai teuluoedd yn aml sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu plentyn, nid yw rhieni a gofalwyr yn weithwyr proffesiynol ac mae llawer wedi cael anawsterau wrth geisio diwallu anghenion dysgu eu plentyn yn ystod y cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.

Yn ystod y pandemig, mae gallu awdurdod lleol a/neu ysgol neu leoliad i ddiwallu’n llawn y gofynion addysgol a geir mewn datganiad AAA neu Gynllun Datblygu Unigol, yn debygol o fod yn ddibynnol ar lawer o ffactorau. Dylai'r awdurdod lleol a/neu'r ysgol neu'r lleoliad weithio gyda rhieni/gofalwyr, dysgwyr a, lle y bo'n briodol, asiantaethau eraill, i drafod a chytuno ar unrhyw drefniadau wrth gefn y mae angen eu rhoi ar waith i ddiwygio darpariaeth a nodir yn y datganiad o ganlyniad i COVID-19, pe byddai rhagor o gyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol yn ofynnol. 

i) Cymorth y bydd dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig yn ei gael gan gynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr cymorth, gwasanaethau addysg arbenigol a/neu therapyddion

Mae'n rhaid i anghenion dysgwyr â datganiadau AAA barhau i gael eu diwallu. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a nodir yn y datganiad ei bodloni gan yr ysgol neu'r lleoliad.

Mae sawl enghraifft lle mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau, ac asiantaethau partner wedi gweithio mewn modd creadigol i ddarparu dulliau ymarferol a hyblyg, gan gynnwys darparu gwasanaethau o bell. Pan fo dysgwyr sy’n agored i niwed yn hunanynysu, mae’n bwysig bod ysgolion yn rhoi systemau ar waith i gadw mewn cysylltiad â nhw, gan gynnig gofal bugeiliol, a gwirio eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth addysgol. Dylid ystyried yn ofalus pa mor briodol yw gweithgareddau dysgu o bell, a dylai unrhyw ddeunyddiau dysgu fod yn briodol i anghenion unigol dysgwyr.

Mae'n bosibl bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis therapyddion lleferydd ac iaith, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol, wedi bod yn defnyddio Gwasanaeth Ymgynghori Fideo y GIG yn hytrach na chyfarfod â chleientiaid wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig. Gall ysgol neu leoliad y dysgwr ddarparu gwybodaeth benodol am ddarpariaeth cynorthwywyr addysgu/cymorth a therapyddion. 

Lle bydd dysgwyr yn cael budd o ddefnyddio pyllau hydrotherapi, dylai asesiad risg unigol gael ei gwblhau ar gyfer pob achos.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau barhau i sicrhau bod anghenion unigol dysgwyr yn cael eu hystyried yn llawn. Wrth benderfynu ar gamau dilynol priodol, gan gynnwys cyngor, cymorth ac arweiniad, anghenion dysgwyr unigol fydd y brif ystyriaeth o hyd. Mae'n rhaid i ddarpariaeth fod yn seiliedig ar anghenion unigol hefyd. Nid yw'n briodol defnyddio polisïau cyffredinol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau sicrhau nad ydynt yn atal ymweliadau gan weithwyr proffesiynol a allai fod yn fuddiol i ddysgwyr ag AAA. Gallai gwneud hynny dorri dyletswyddau AAA statudol.

Mae disgwyliad clir y dylai gwasanaethau i ddysgwyr ag AAA gael eu cynnal. 

ii) Adolygu'r datganiad o AAA

Nid yw'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu datganiadau AAA wedi newid. Rhaid i ddatganiadau AAA eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae enghreifftiau lle mae awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau wedi parhau â'r trefniant hwn o bell yn ystod y pendemig. Mae'n bosibl y bu oedi wrth gael y cyngor angenrheidiol gan weithwyr proffesiynol. Fodd bynnag, dylid blaenoriaethu'r gwaith o gwblhau'r adolygiadau hyn a chwblhau unrhyw rai nad oedd modd eu dechrau yn ystod y pandemig. Dylid rhoi ystyriaeth benodol i effaith COVID-19 mewn adolygiadau o ddatganiadau o hyn ymlaen.

iii) Y broses ar gyfer cynnal asesiadau statudol o AAA

Mae dyletswyddau awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau mewn perthynas ag asesiadau statudol AAA ar waith o hyd ynghyd â'r amserlenni.

iv) Dysgwyr sydd â chynlluniau datblygu unigol neu gynlluniau addysg unigol a darpariaeth addysgol arbennig

Dechreuodd y broses o weithredu’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd yn raddol, sy'n cynnwys llunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ym mis Medi 2021. Mae rhai awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau wedi dechrau defnyddio cynlluniau datblygu unigol cyn i Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ddod i rym. O fis Ionawr 2022, bydd rhai grwpiau o blant ag AAA yn dechrau symud o’r system AAA i’r system ADY. Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae plant yn symud o’r system AAA i’r system ADY i’w chael yn y canllawiau i ymarferwyr.

Pan fo ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion wedi rhoi Cynlluniau Datblygu Unigol cyn 1 Ionawr 2022, er enghraifft fel rhan o gynllun peilot, ni fydd gan y Cynlluniau Datblygu Unigol hynny unrhyw rym cyfreithiol. Pan fo plentyn a chanddo Gynllun Datblygu Unigol a luniwyd cyn fis Ionawr 2022 yn cael ei symud o’r system AAA i’r system ADY, bydd hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion (fel sy’n briodol) angen ei roi i’r plentyn a’i riant.

Nid oes datganiad gan lawer o ddysgwyr ag AAA. Dylai fod ganddynt gynllun addysg unigol. Dylai cynlluniau addysg unigol a chynlluniau datblygu unigol amlinellu anghenion y dysgwr a pha gamau y bydd yr ysgol yn eu cymryd i ddiwallu'r anghenion hynny. Rhaid i gorff llywodraethu ysgol brif ffrwd a gynhelir wneud pob ymdrech i sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol arbennig sy'n ofynnol ar gyfer disgybl ag anghenion addysgol arbennig ar gael[1]. Yn yr un modd, o dan y Ddeddf ADY, mae dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (gan gynnwys UCDau) i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol eu disgyblion yn galw amdani.[2]

Mae'n bosibl y bydd y cyfnodau pan oedd ysgolion ar gau wedi effeithio ar allu awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau i ddiwallu anghenion dysgwyr ag AAA yn llawn, p'un a oes ganddynt ddatganiad neu gynllun anstatudol ai peidio. Dylai'r awdurdod lleol a/neu'r ysgol (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion) ystyried anghenion dysgwyr unigol, gan gynnwys unrhyw effaith uniongyrchol o ganlyniad i COVID-19, er mwyn pennu pa gymorth sydd ei angen ar y dysgwr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf o ran ei lesiant a'i addysg ehangach. Dylai'r adolygiad hwn a'r cymorth a bennir gael eu dogfennu yng nghynllun y dysgwr.

v) Darparu seibiant i ddysgwyr ag AAA

Mae enghreifftiau lle mae ysgolion a lleoliadau arbennig a gynhelir wedi cynyddu ac ehangu eu darpariaeth seibiant. Mae'n bwysig bod yr awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth glir am y ddarpariaeth seibiant sydd ar gael ar yr adeg hon.

vi) Hawliau i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch AAA

Mae gan rieni/gofalwyr a dysgwyr yr un hawliau i apelio o hyd. Yn y lle cyntaf, dylai rhieni/gofalwyr geisio datrys pryderon yn uniongyrchol gyda'r ysgol a/neu'r awdurdod lleol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau partneriaeth rhieni. Mae'r rhain yn rhoi cyngor a gwybodaeth i rieni/gofalwyr mewn perthynas ag AAA. Hefyd, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau osgoi a datrys anghytundeb a gwasanaethau eirioli annibynnol. Dylai rhieni/gofalwyr wybod am y rhain. Gall rhieni/gofalwyr a dysgwyr sydd â hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru wneud apeliadau i'r tribiwnlys o hyd.

vii) Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru / Tribiwnlys Addysg Cymru

Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) yn dribiwnlys annibynnol. Mae'n ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau penodol am blentyn neu berson ifanc a'i addysg. Mae hefyd yn ymdrin â honiadau o wahaniaethu a thriniaeth annheg mewn ysgol yn ymwneud ag anabledd.

Ar 1 Medi 2021, newidiodd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ei enw i Dribiwnlys Addysg Cymru. Y rheswm am hyn yw bod y gwaith o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r system ADY wedi dechrau. Ceir rhagor o wybodaeth am weithredu'r system ADY yn adran nesaf y canllawiau hyn.

Wrth weithredu'r system ADY yn raddol, bydd y tribiwnlys yn gweithio o dan y ddeddfwriaeth AAA ac ADY ar yr un pryd. Bydd y pwerau, y rheolau a'r prosesau a ddefnyddiwyd gan TAAAC yn parhau, er mwyn caniatáu iddo barhau i ddelio ag achosion o dan y system Anghenion Addysgol Arbennig. Fodd bynnag, bydd y tribiwnlys hefyd yn delio ag achosion o dan y system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r pwerau, y rheolau a'r prosesau ychydig yn wahanol, felly bydd y gwefannau ar gyfer TAAAC a Thribiwnlys Addysg Cymru yn rhedeg ochr yn ochr i barhau i ddarparu gwybodaeth, gan ddibynnu o dan ba system y gwneir apêl neu hawliad.

Nid yw swyddogaethau statudol TAAAC wedi cael eu diwygio gan Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Yr amcan pennaf yw bod y tribiwnlys yn ymdrin ag apelau a hawliadau mewn ffordd deg a chyfiawn.

Mae gan Lywydd y Tribiwnlys bwerau rheoli achosion amrywiol a nodir yn Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012 mewn perthynas ag achosion o dan y system ADY; ac yn Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 mewn perthynas ag achosion o dan y system ADY, yn unol â'r prif amcan.

Mae gwefan Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn cynnwys deunyddiau defnyddiol am rôl y Tribiwnlys, gan gynnwys y penderfyniadau y gall eu hystyried o dan y system AAA, ac ystod o wybodaeth ac adnoddau i rieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc ac awdurdodau lleol.

Mae gwefan Tribiwnlys Addysg Cymru yn darparu gwybodaeth debyg i'r wybodaeth ar wefan Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, ond mewn perthynas ag apeliadau neu hawliadau o dan y system ADY. Bydd y ddwy wefan yn rhoi gwybod i chi pa un y mae angen i chi ymweld ag hi i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Mae er budd pennaf plant a phobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr bod unrhyw ymholiadau neu anghydfodau mewn perthynas ag AAA/ADY yn cael eu datrys yn brydlon ac yn lleol pan fo'n bosibl, er enghraifft ar lefel ysgol neu awdurdod lleol. Mae angen i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau a rhieni/gofalwyr weithio mewn partneriaeth. Cynghorir rhieni/gofalwyr i gysylltu â'u darparwr addysg yn y lle cyntaf. 

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr Plant a Phobl Ifanc y gall fod ganddynt Anghenion Addysgol Arbennig, yn cynnwys canllawiau i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y cymorth sydd ar gael iddynt, gan gynnwys rôl gwasanaethau partneriaeth rhieni. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu cyngor a gwybodaeth am faterion AAA/ADY i ddysgwyr ag AAA/ADY a’u rhieni[3].

viii) Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau, colegau addysg bellach a byrddau iechyd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer rhoi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith. Fe wnaeth y system a grëwyd gan y Ddeddf ddechrau fesul cam ym mis Medi 2021.

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd plant y credir bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol o'r newydd, hynny yw, nid ydynt eisoes yn ymwneud â'r system AAA mewn unrhyw ffordd, yn symud i'r system ADY. Mae hyn yn golygu pan fydd ysgol neu awdurdod lleol yn penderfynu bod gan ddysgwr ADY, bydd y dysgwr yn cael CDU yn hytrach na datganiad neu ddarpariaeth AAA drwy weithredu gan yr ysgol/a mwy. Bydd plant a gedwir yn gaeth hefyd yn symud i’r system ADY o fis Medi 2021 ymlaen.

O fis Ionawr 2022 ymlaen, bydd plant sy'n derbyn darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar/a mwy neu weithredu gan yr ysgol/a mwy yn dechrau symud ar draws o'r system AAA i'r system ADY. Bydd plant yn y blynyddoedd canlynol yn symud ymlaen yn y flwyddyn gyntaf o weithredu – blynyddoedd meithrin 1 a 2, a blynyddoedd 1, 3, 5, 7 a 10. Gall plant mewn blynyddoedd eraill symud i’r system ADY o dan nifer o amgylchiadau. Gall rhieni/gofalwyr a phlant sy’n cael darpariaeth addysgol arbenigol drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar/a mwy neu weithredu yn yr ysgol/a mwy wneud cais i symud i’r system ADY newydd unrhyw bryd.

Mae rhai grwpiau o blant a phobl ifanc na fyddant yn symud i’r system ADY ym mlwyddyn gyntaf y broses o weithredu’r system newydd. Mae’r rhain yn cynnwys plant neu bobl ifanc sydd, ar 1 Ionawr 2022:

  • dros yr oedran ysgol gorfodol
  • ym mlwyddyn 11, ac eithrio pan y’u cedwir yn gaeth
  • â datganiad (ac eithrio pan gedwir plentyn yn gaeth) neu mewn achos sydd ar y gweill[4]
  • â Chynllun Addysg Sengl drwy weithredu yn yr ysgol/a mwy, ac nad ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol a gynhelir nac mewn uned cyfeirio disgyblion. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol a phlant sydd wedi’u cofrestru mewn ysgolion annibynnol, meithrinfeydd nas cynhelir neu a addysgir gartref yn ddewisol.

 Bydd canllawiau ar weithredu'r Ddeddf, gan gynnwys y broses ar gyfer symud i'r system newydd, yn cael eu cyhoeddi yn nhymor yr hydref. Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru, sy'n cynnwys y gofynion statudol a'r canllawiau sy'n ymwneud â'r system ADY, i'w gweld yma.

[1] Mae Rhan IV, Pennod 1 o Ddeddf Addysg 1996 (Plant yng Nghymru ag Anghenion Addysgol Arbennig) wedi’i diddymu’n rhannol ers 1 Medi 2021 wrth ddechrau’r system ADY yn raddol, ond mae’n aros mewn grym ar gyfer personau penodedig.

[2] Mae adran 47 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 mewn grym yn rhannol ac eithrio mewn perthynas â phersonau penodedig wrth ddechrau’r system ADY yn raddol.

[3] Wrth ddechrau’r system ADY yn raddol o fis Medi 2021 ymlaen, mae adran 332AA o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â phersonau penodedig; ac mae adran 9 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi dod i rym ac eithrio mewn perthynas â phersonau penodedig

[4] Mae achos sydd ar y gweill yn cyfeirio at achosion pan fo plentyn neu berson ifanc naill ai’n ymwneud â phroses sy’n gysylltiedig â’r system datganiad AAA a ddarperir ar ei chyfer yn Neddf 1996 neu â phroses sy’n gysylltiedig â chynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal a ddarperir ar eu cyfer yn Neddf Plant a Theuluoedd 2014. Ceir rhagor o fanylion ynghylch achosion sydd ar y gweill yn y canllawiau technegol.

Dysgwyr sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)

Mwy o broblemau ymddygiadol

Mae darpariaeth EOTAS o reidrwydd yn wahanol i addysg brif ffrwd ac, er y rhoddir sylw i gynnydd addysgol, prif ffocws darparwyr yw helpu plant a phobl ifanc i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n eu hatal rhag manteisio ar addysg brif ffrwd a chymryd rhan mewn addysg, a'u goresgyn. Bydd dysgwyr yn mynychu lleoliadau EOTAS am nifer o resymau, gan gynnwys ymddygiad heriol sy'n gysylltiedig ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, er enghraifft.

Mae posibilrwydd y bydd ymddygiad heriol yn cynyddu ymhlith dysgwyr EOTAS oherwydd eu profiadau yn ystod COVID-19. Mae hefyd yn bosibl y bydd angen cymorth pellach ar rai dysgwyr a fu'n gwneud cynnydd gyda'u hymddygiad cyn COVID-19 am eu bod wedi colli'r drefn strwythuredig a'r cymorth a gawsant yn eu lleoliad yn ystod y cyfyngiadau symud. Dylai lleoliadau ystyried diwygio eu polisi ymddygiad er mwyn ystyried effaith COVID-19 ar lesiant ac ymddygiad dysgwyr. Dylid cwblhau asesiadau risg fel y bo'n briodol hefyd.

Efallai y bydd angen i leoliadau roi strategaethau rhagweithiol ar waith i gefnogi dysgwyr, ac addasu ymatebion i ymddygiadau heriol er mwyn ystyried y tarfu a brofwyd ac i roi'r cymorth sydd ei angen ar ddysgwyr er mwyn iddynt ddychwelyd i'r lleoliad. Dylai lleoliadau hefyd weithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau y gall dysgwyr gael gafael ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl a chwnsela, fel y bo'n briodol. Efallai y bydd yr astudiaethau achos hyn o fudd i leoliadau wrth ddatblygu trefniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Dysgwyr o deuluoedd incwm isel

Rydym wedi ymrwymo i ddileu anghydraddoldeb ar bob lefel o’r gymdeithas, sy'n cynnwys gweithredu polisïau ym maes addysg a fydd yn rhoi'r cyfleoedd bywyd gorau i bawb. Mae sicrhau bod dysgwyr o deuluoedd incwm isel yn cyflawni eu canlyniadau addysgol gorau wrth wraidd ein system addysg. Defnyddir cymhwysedd am brydau ysgol am ddim fel dangosydd procsi ar gyfer amddifadedd. Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd pwysig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn cyflawni canlyniadau addysgol gwell. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o'r dysgwyr hyn yn cyflawni eu potensial llawn o hyd. Mae perygl y bydd argyfwng COVID-19 yn dadwneud y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n bosibl y bydd angen amrywiaeth o gymorth ar ddysgwyr o deuluoedd incwm isel er mwyn helpu â’r ffaith iddynt beidio â mynychu'r ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud, ac adfer o hyn. Gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u llesiant, ynghyd â chymorth ychwanegol gyda'u dysgu.

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried anghenion dysgwyr unigol cyn gynted â phosibl a dylid rhoi rhaglen gymorth ac ymyrraeth unigol ar waith.

Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau ystyried sut y gallant addasu rhaglenni magu plant neu ddysgu fel teulu presennol er mwyn rhoi gwell cymorth i rieni/gofalwyr gefnogi dysgu eu plentyn.

Rhaglen allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi dysgwyr sydd dan anfantais yw'r Grant Datblygu Disgyblion sy'n werth £110 miliwn ar gyfer 2021 i 2022, y ffigur mwyaf erioed. Gallai blaenoriaethau gynnwys, er enghraifft, sicrhau bod ymarferwyr yn cael sesiynau gloywi dysgu proffesiynol ar arferion sy'n ystyriol o drawma a/neu ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, neu ffocws ychwanegol ar ‘olrhain’ cynnydd dysgwyr er mwyn helpu’r dysgwr i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu .

Dylai ysgolion a lleoliadau barhau i ystyried ffyrdd o roi arferion effeithiol ar waith i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, a dylai hyn fod wrth wraidd y gwaith o gynllunio datblygiad ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell y defnyddir Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu y Sefydliad Gwaddol Addysgol i gefnogi gwaith cynllunio. Mae'r Sefydliad Gwaddol Addysgol hefyd wedi llunio ystod o adnoddau i gefnogi ymarferwyr i fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad addysgol, sy'n arbennig o berthnasol i gyd-destun COVID-19.

Mae Estyn hefyd wedi llunio ystod o adroddiadau arferion da i gefnogi ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys un ar gefnogi dysgwyr sydd dan anfantais ac yn agored i niwed.

Cynghorwyr Strategol y Grant Datblygu Disgyblion sydd ym mhob consortia rhanbarthol yw'r pwynt cyswllt ar gyfer pob ysgol a lleoliad mewn perthynas â dulliau gweithredu effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cefnogi dysgwyr o deuluoedd incwm isel. Gallant gynnig cymorth ac arweiniad ar y canlynol:

  • ymyriadau addas yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf
  • defnyddio dulliau gweithredu ysgol gyfan
  • buddion tracio 
  • cefnogi'r gwaith o werthuso arferion cyfredol
  • hwyluso rhwydweithiau cefnogi rhanbarthol

O dan yr amgylchiadau presennol yn fwy nag erioed, gall y cynghorwyr strategol gefnogi ysgolion a lleoliadau i sicrhau eu bod yn defnyddio eu dyraniadau o dan y Grant Datblygu Disgyblion yn y ffordd orau er mwyn cefnogi dysgwyr sydd dan anfantais wrth inni symud ymlaen i'r flwyddyn academaidd newydd.

Cost y diwrnod ysgol

O ystyried yr amgylchiadau economaidd heriol sy'n wynebu nifer o deuluoedd ar hyn o bryd, a'r tebygolrwydd y bydd hyn yn gwaethygu dros y misoedd nesaf lle rhagwelir y bydd nifer y teuluoedd sy'n cael budd-daliadau yn cynyddu'n sylweddol, mae'n hanfodol bod ysgolion a lleoliadau yn ystyried ‘cost y diwrnod ysgol’ wrth gynllunio eu busnes craidd a'u gweithgareddau neu eu digwyddiadau.

Mae Plant yng Nghymru wedi llunio cyfres o ganllawiau i ysgolion a lleoliadau yn ymwneud ag agweddau allweddol ar gost y diwrnod ysgol, gan gynnwys deall achosion ac effaith byw mewn tlodi, bwyd a llwgu, a gwisg ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion a lleoliadau fod yn ystyriol wrth osod eu polisi gwisg ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 am ei bod yn bosibl na fydd llawer o deuluoedd sydd dan anfantais yn gallu fforddio eitemau ychwanegol o ddillad. Ceir canllawiau pellach ar wisg ysgol yn y canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau ac yn canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

Mae adnoddau Comisiynydd Plant Cymru yn ffordd i ddysgwyr, staff a llywodraethwyr ysgolion a lleoliadau fapio'r costau a allai fod yn anodd i blant a theuluoedd eu fforddio – a hynny yn ystod y diwrnod ysgol ac yn ystod y flwyddyn ysgol. Gall yr adnoddau gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o leihau cost y diwrnod ysgol.

Dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal

Bydd llawer o ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal a phlant wedi’u mabwysiadu, wedi wynebu anawsterau sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf. Oherwydd mesurau’r cyfyngiadau symud, bydd rhai plant heb gael llawer o gyswllt wyneb yn wyneb â’u teuluoedd biolegol a’u rhwydwaith cefnogaeth, gan gynnwys eu gweithwyr cymdeithasol. I rai teuluoedd, bydd y cyfyngiadau symud wedi rhoi pwysau ar leoliadau maethu gan achosi i rai lleoliadau gau, neu wedi ei gwneud hi'n anodd iddynt gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a bydd angen ailsefydlu'r cydberthnasau hyn yn awr.

Efallai y bydd yr amgylchiadau hyn wedi gwneud i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal deimlo'n unig ac wedi cyfrannu at gynnydd mewn problemau ymlyniad a thrawma. Mae llawer o ysgolion a lleoliadau wedi cael hyfforddiant trawma ac ymlyniad sy'n amhrisiadwy wrth gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn llawn.

Mae'n rhaid i bob ysgol a lleoliad a gynhelir yng Nghymru gael person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gyda chyfrifoldeb am hybu cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Yn y bôn, bydd y person dynodedig yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion plant sy'n derbyn gofal yn cael eu diwallu yn yr ysgol neu'r lleoliad. Rhan allweddol o'r rôl yw gweithio gyda phobl eraill i sicrhau bod llesiant plant sy'n derbyn gofal yn cael ei fonitro'n effeithiol a bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu.

Dylai fod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal gynllun addysg personol effeithiol a ddylai ddisgrifio beth sydd angen digwydd er mwyn ei helpu i gyflawni ei botensial llawn. Er y cydnabyddir y bydd goblygiadau ymarferol i'r ffordd y caiff cynlluniau addysg personol eu darparu a'u hadolygu yn ystod y cyfnod hwn, dylai'r awdurdod lleol barhau i weithio mewn partneriaeth â'r dysgwr a'r ysgol (yn enwedig y person dynodedig), i ddatblygu ac adolygu'r cynllun yng ngoleuni unrhyw amgylchiadau sydd wedi newid, fel ei fod yn adlewyrchu anghenion y dysgwr yn llawn, yn cael ei ddiweddaru'n gyson ac yn cael ei roi ar waith. Mae cynlluniau addysg personol ar gael gan gydgysylltydd addysg plant sy’n derbyn gofal yr awdurdod lleol.

Gofalwyr ifanc

Efallai y byddant yn poeni am sut y bydd y person maent yn gofalu amdano yn cael ei gefnogi pan fydd yn yr ysgol. Gallant hefyd fod yn bryderus ynghylch trosglwyddo'r feirws a'r risg o gario'r haint gartref i rieni/gofalwyr, chwiorydd a brodyr neu aelodau eraill o'r teulu sy'n sâl neu sydd ag anghenion gofal a chymorth sy'n eu gwneud yn agored i salwch neu heintiau.

Efallai y bydd eu cyfrifoldebau gofalu wedi cynyddu yn ystod y pandemig; naill ai o ran nifer yr oriau roeddent yn gofalu, y mathau o dasgau roeddent yn eu cwblhau neu nifer y bobl roeddent yn gofalu amdanynt. Gall hyn olygu nad yw gofalwr ifanc wedi gallu ymroi'n llawn i ddysgu gartref a'i fod wedi mynd ar ei hôl hi gyda'i astudiaethau, a all beri pryder iddo am ei addysg. Mae'n bosibl hefyd y bydd mwy o gyfrifoldebau gofalu wedi ei gwneud hi'n anodd cadw mewn cysylltiad â ffrindiau neu rwydweithiau cymorth ehangach. 

Rydym yn gwybod nad yw llawer o blant a phobl ifanc yn dweud bod ganddynt rôl ofalu, neu nid ydynt yn dweud wrth staff yr ysgol eu bod yn ofalwr ifanc. Gall ysgolion a lleoliadau helpu gofalwyr ifanc i ddeall eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hawl gan bob gofalwr ifanc i gael asesiad o anghenion gofalwr ac i gael diwallu unrhyw anghenion cymorth cymwys. Nid oes rhaid i'r unigolyn maent yn gofalu amdano gael asesiad o anghenion gan yr awdurdod lleol ac anghenion gofal a chymorth a nodwyd er mwyn cynnal yr asesiad hwn. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw byr ar hawliau gofalwyr di-dâl. 

Ariannodd Llywodraeth Cymru Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd i lunio canllawiau a chynlluniau gwersi, a lansiwyd yn 2020, er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i wella eu dealltwriaeth o anghenion a hawliau cyfreithiol gofalwyr ifanc. Hefyd, yn 2019, cyhoeddodd Estyn yr adolygiad thematig Darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru. Mae’n bosibl y bydd yr argymhellion o fudd i ysgolion a lleoliadau wrth gynllunio cymorth ar gyfer gofalwyr ifanc.

Dylai gofalwyr ifanc a'u teuluoedd gael eu hannog i drafod pryderon am eu haddysg â'u hysgol neu eu lleoliad ac unrhyw asiantaethau eraill sy'n gweithio gyda'r teulu. Gallai ysgolion a lleoliadau hefyd gynnig gwybodaeth am y cymorth a'r cynlluniau diogelu y maent wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu eu dysgwyr, a'r cymorth sydd ar waith i helpu gofalwyr ifanc gyda'u hastudiaethau.

Yn fwy cyffredinol, gall gofalwr ifanc gael gafael ar amrywiaeth o wybodaeth a chyngor ar-lein, neu fathau eraill o gymorth, a all gynnwys gwasanaethau awdurdodau lleol i ofalwyr ifanc. Gallant gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar y rhain ar wefan eu hawdurdod lleol neu drwy ffonio eu hawdurdod lleol.Mae mwy na hanner yr awdurdodau lleol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy eu gwasanaeth gofalwyr ifanc, yn cynnig cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc, ygallai gofalwr ifanc fod o gymorth i'w ddangos i athrawon a staff eraill yr ysgol, gan dynnu sylw at eu cyfrifoldebau gofalu.

Gall gofalwyr ifanc hefyd gael cymorth drwy sefydliadau gofalwyr lleol neu genedlaethol, megis Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru neu Gofalwyr Cymru, neu drwy ganolfan leol i ofalwyr.

Dysgwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol a'r rhai sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol)

Efallai y bydd gan ddysgwyr a theuluoedd o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol bryderon am y ffaith eu bod yn fwy agored i COVID-19 a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod eu plentyn yn ôl yn yr ysgol, yn enwedig os nad oeddent yn cael darpariaeth ar y safle yn flaenorol. Yn benodol, y risg y bydd y dysgwr yn cario'r haint gartref i aelodau o'r teulu a all fod yn agored i salwch neu heintiau. 

Pan fydd dysgwyr yn dysgu Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol, efallai na fyddant wedi defnyddio eu sgiliau iaith yn ystod y cyfnodau cyfyngiadau symud ac mae’n bosibl eu bod wedi colli eu hyder. Gallai hyn arwain at orbryder neu ymddieithrio o'r ysgol.

Mae'n bosibl na fydd gan rieni dysgwyr â SIY/CIY y sgiliau Saesneg neu Gymraeg i gefnogi dysgu o bell eu plant. Gall ymgysylltu â theuluoedd â lefel isel o lythrennedd neu sydd â SIY/CIY achosi heriau penodol. Mae'n bosibl y bydd diffyg mynediad at destun hawdd ei ddarllen neu wybodaeth glywedol wedi gwaethygu'r heriau hyn. 

Mae canllawiau i rieni/gofalwyr wedi’u cyhoeddi ac maent ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd.

Gall mynediad at ddeunyddiau yn iaith y cartref fod yn broblem. Mae rhai awdurdodau lleol wedi datblygu canllawiau i ysgolion a lleoliadau er mwyn pwysleisio'r rhwystrau y mae dysgwyr ag SIY/CIY yn eu hwynebu yn ystod cyfnod mor heriol. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar wefannau addas i hyrwyddo dysgu, cronfeydd o adnoddau i'w lawrlwytho, a chymorth i ysgolion a lleoliadau ar ddefnyddio adnoddau gweledol a chlywedol. Mae'n atgoffa staff o'r pwysigrwydd i annog teuluoedd i ddefnyddio iaith y cartref i ddysgu os nad yw eu sgiliau Cymraeg neu Saesneg wedi datblygu'n dda. Mae enghreifftiau o staff dwyieithog yn gweithio mewn awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ac adborth i ddysgwyr yn iaith eu cartref lle y bo angen.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol, gyda'u dysgu ac i loywi eu sgiliau iaith. Rhaid inni roi tawelwch meddwl i ddysgwyr a'u teuluoedd a rhoi'r hyder iddynt y byddant yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Gwasanaethau Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig awdurdodau lleol wedi gweithio gydag ysgolion a lleoliadau, dysgwyr a'u teuluoedd i gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd a rhannu arferion da ar draws eu hardaloedd awdurdod lleol. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae staff yn nodi iddynt gael galwadau rhwng teuluoedd, ysgolion a lleoliadau a'r gwasanaethau Cymraeg neu Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sydd wedi bod yn fuddiol. Gwnaethant helpu i sicrhau bod rhieni yn deall sut y gallant gefnogi addysg eu plant yn y ffordd orau a chael gafael ar adnoddau.

Dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr

Y dystiolaeth anecdotaidd gan ddarparwyr gwasanaethau Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol a thrwy Grŵp Rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr Llywodraeth Cymru yw bod lefel uwch o ddysgwyr yn cael eu hymddieithrio o fewn y cymunedau hyn yn ystod y pandemig. Ymhlith y materion a nodwyd mae pryderon am ddod i gysylltiad â'r feirws, diffyg mynediad at ddeunyddiau dysgu, cael cyfarpar digidol a chysylltedd yn hwyr ac achosion o ddiffyg lle digonol a phriodol i ymgysylltu â dysgu o bell.

Mae posibilrwydd hefyd y gallai profiadau dysgu gwael yn y gorffennol ymhlith rhai rhieni/gofalwyr gyfyngu ar eu gallu i gefnogi rhai agweddau ar ddysgu ffurfiol eu plentyn.

Mae meithrin cydberthnasau gwell â'r grwpiau hyn yn allweddol wrth geisio deall pam nad yw addysg yn flaenoriaeth i rai dysgwyr a'u teuluoedd, yn enwedig yn ystod argyfwng COVID-19. Gall fod diffyg cyd-ddealltwriaeth rhwng ysgolion a lleoliadau a theuluoedd a all herio ymgysylltiad a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys rhwystrau diwylliannol lle nad yw teuluoedd efallai'n deall yr hyn y mae ysgolion a lleoliadau yn ei ddisgwyl, ac efallai nad yw ysgolion a lleoliadau yn deall faint o gymorth y gall fod ei angen ar deuluoedd. 

Yn y senarios achos gorau, bydd dull amlasiantaethol sydd wedi'i sefydlu'n dda o gefnogi teuluoedd a dysgwyr unigol yn y grwpiau hyn. Mewn achosion o'r fath, bydd ysgolion a lleoliadau a gwasanaethau cymorth wedi parhau i adeiladu ar gydberthnasau sydd eisoes wedi'u sefydlu'n dda ac yn ceisio deall y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Plant sy'n wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod

Bydd amgylchedd cartref a phrofiadau dysgwyr wedi bod yn wahanol yn ystod y cyfyngiadau symud a dylid atgoffa’r holl staff o’u dyletswyddau diogelu yn y canllawiau diogelu statudol ar gyfer lleoliadau addysg Cadw Dysgwyr yn Ddiogel ac o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru.

Bydd rôl y person diogelu dynodedig yn hollbwysig a dylai’r holl staff a dysgwyr gael gwybod pwy yw’r person diogelu dynodedig a sut mae cysylltu â nhw. Bydd ymdrechion i leihau cysylltiadau yn golygu ei bod hi’n anoddach cael gafael ar oedolyn y mae rhywun yn ymddiried ynddo, neu’r person diogelu dynodedig, felly dylai ysgolion a lleoliadau ystyried sut gall dysgwyr siarad yn breifat. Mae canllawiau i leoliadau addysg ar gael.

Dylai ysgolion, lleoliadau a gwasanaethau plant barhau i gydweithio'n agos i sicrhau bod pob plentyn a theulu yn cael y cymorth sydd ei angen. Bydd gan awdurdodau lleol amrywiaeth o arferion gwaith mewn lle i sicrhau bod partneriaid diogelu yn gallu cydweithio i gadw dysgwyr yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu dysgwyr a’u cefnogi i ymateb i bryderon am ddysgwyr sydd mewn perygl. Mae’r canllawiau’n gysylltiedig â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a dylid eu defnyddio gyda nhw.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 172 KB.

Maint Ffeil 172 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.