Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar reoliad 8 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ymateb iechyd y cyhoedd i bandemig y coronafeirws yng Nghymru. 

Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol i wneud rheoliadau sy’n gosod cyfyngiadau neu ofynion ar bobl er mwyn atal, rheoli a diogelu rhag lledaeniad y coronafeirws ac achosion ohono ac er mwyn darparu ymateb iechyd y cyhoedd i hynny yng Nghymru.

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn y ddeddfwriaeth yng Nghymru yn wahanol mewn rhai agweddau i’r rhai mewn mannau eraill yn y DU, felly mae’n bwysig eich bod yn deall y gyfraith a’r canllawiau sy’n gymwys yng Nghymru. 

Wrth inni leihau ein cysylltiad o ddydd i ddydd â phobl eraill, byddwn ni yn arafu lledaeniad yr haint. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau gan gynnwys:

  • ei gwneud yn ofynnol i bobl aros yn lleol, heblaw am mewn amgylchiadau penodol
  • cau busnesau a lleoliadau penodol
  • rhoi cyfyngiadau ar ymgynnull

Rhaid i bawb yng Nghymru gydymffurfio â’r mesurau hyn. Mae’r heddlu wedi cael y pwerau i orfodi’r mesurau. Mae hynny’n cynnwys rhoi dirwyon a gwasgaru pobl sydd wedi ymgynnull.

Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i adolygu’r cyfyngiadau hyn bob 21 diwrnod.

Aros yn lleol

Beth yw ystyr “lleol”?

Nid yw’r gyfraith yn diffinio “lleol”, a hynny yn fwriadol, gan y gall olygu gwahanol bethau mewn gwahanol amgylchiadau (gweler isod). Ond yn gyffredinol, rydym yn ystyried bod unrhyw beth o fewn tua pum milltir i’ch cartref yn lleol ichi.

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn byw o fewn pum milltir i’r ystod arferol o amwynderau a gwasanaethau cyhoeddus yr ystyrir eu bod yn hanfodol at ddibenion bywyd bob dydd – fel siopau bwyd, fferyllfeydd, meddygfeydd a banciau. Ond rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl iawn y bydd y gwasanaethau hyn wedi’u lleoli dros ardal ddaearyddol ehangach mewn ardaloedd gwledig, a all olygu y bydd angen i bobl deithio ymhellach i gael y gwasanaethau sydd fwyaf lleol iddyn nhw. Felly, er bod y rheol pum milltir yn synhwyrol i’r rhan fwyaf o bobl, os ydych chi’n byw mewn ardal wledig mae’n debygol y byddwch wedi arfer diffinio eich ardal leol ychydig yn fwy eang.

Os yw’r gwasanaethau ac amwynderau hanfodol agosaf atoch (fel siopau bwyd, meddygfeydd, ysgolion) ymhellach na phum milltir i ffwrdd, rydym yn ystyried bod y rhain yn dal yn “lleol” ichi. Mae hyn hefyd yn wir am lyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Lle bynnag y bo’n bosibl, dylech wneud gweithgareddau fel siopa, ymarfer corff neu weithgareddau hamdden cyffredinol yn lleol. Er enghraifft, dylai pobl siopa o fewn tua pum milltir i’w cartref (neu’n nes os yw’n bosibl) yn hytrach na theithio ymhellach i ymweld â siopau tebyg sydd ymhellach i ffwrdd, oni bai eu bod yn byw mewn ardaloedd lle byddai hyn yn cyfyngu’n afresymol ar eu dewisiadau.

Ni ystyrir bod teithio 10 milltir i fynd i’r archfarchnad yn rhesymol oni bai nad oes dewis ymarferol arall yn nes at eich cartref. Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn pentref sydd ag un siop yn unig, a bod y siopau nesaf agosaf yr ydych fel arfer yn eu defnyddio ychydig ymhellach na phum milltir i ffwrdd, ystyrir hyn hefyd yn lleol – nid ydych wedi’ch cyfyngu i siopa yn yr un lle bob amser. Enghraifft yw hyn sy’n dangos bod aros yn lleol yn gysyniad hyblyg, o fewn rheswm.

O 22 Mehefin, caniateir siopa “nad yw’n hanfodol” (am ddillad, er enghraifft) ond mae’n rhaid gwneud hyn yn lleol. Does dim eithriadau i hyn.

Wrth i’r achosion o coronafeirws leihau, mae’r Gweinidogion wedi dweud eu bod yn dymuno codi’r gofyniad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf, os yw’r amodau’n parhau i fod yn ffafriol yng Nghymru i ganiatáu hyn.

Rhesymau pam y gall pobl adael eu hardal leol

Ar hyn o bryd, ni ddylech adael eich ardal leol i wneud unrhyw beth y gellid disgwyl yn rhesymol ichi ei wneud yn lleol.

Fodd bynnag, ceir rhai gweithgareddau yr ystyrir eu bod yn ddigon pwysig i fod yn eithriadau i’r gofyniad i aros yn lleol. Yn y rheoliadau, cyfeirir at y rhain fel “esgusodion rhesymol” dros adael yr ardal leol.

Mae’r rheoliadau hefyd yn dweud nad yw’r esgusodion rhesymol hyn ond ar gael i chi os nad yw’n “rhesymol ymarferol” i wneud y gweithgareddau yn eich ardal leol. Mae’r adran islaw’r un hon yn rhoi rhagor o ganllawiau ar yr hyn a olygir gan yr ymadrodd hwnnw.

Mae’r esgusodion rhesymol dros adael eich ardal leol os oes angen yn cynnwys:

  • cael cyflenwadau a gwasanaethau ar eich cyfer chi neu’ch cartref, er enghraifft bwyd, meddyginiaeth, gofal milfeddygol ac ar gyfer cynnal a chadw hanfodol yn y cartref
  • ymweld â gwasanaethau iechyd nad ydynt ar gael yn lleol
  • cynnig gofal neu gymorth i rywun y mae arno ei angen, megis person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, ond dylech ystyried a oes ffynonellau cymorth eraill ar gael
  • helpu’r GIG drwy roi gwaed
  • osgoi anaf neu salwch, neu ddianc rhag perygl o niwed
  • ymweld â rhywun ar sail dosturiol (gweler yr adran nesaf)
  • mynd i’r llys neu gadw at amodau mechnïaeth

Mae hefyd yn rhesymol gadael eich ardal leol i weithio, ond mae’n dal i fod yn wir y dylai pawb sy’n gallu gweithio o gartref barhau i wneud hynny lle bynnag y bo’n rhesymol ymarferol.

Cewch hefyd ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged, ac i fynd i angladd os cewch wahoddiad gan y sawl sy’n trefnu’r angladd, neu os ydych yn ofalwr i berson sy’n mynd i’r angladd. (Mae hyn yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ar y niferoedd sy’n gallu bod yn bresennol, fodd bynnag, er mwyn sicrhau y gellir cadw pellter o 2 fetr).

Rheswm arall y caniateir ichi adael eich ardal leol yw i fynd i seremoni priodas neu bartneriaeth sifil. Caiff mannau addoli agor i weinyddu priodas a ffurfio partneriaethau sifil cyn belled y cedwir at fesurau cadw pellter cymdeithasol a caiff y lleoliadau hyn benderfynu a ydynt yn dymuno agor at ddibenion o’r fath. Golyga hyn y gellir cynnal seremonïau cyfyngedig yn y lleoliadau hyn ac mewn swyddfeydd cofrestru. Nid yw hyn yn ymestyn i dderbyniadau neu ddathliadau eraill y bydd llawer yn dymuno eu mwynhau fel rhan o’u priodas. Nid yw mynd i’r afael â coronafeirws yn ein galluogi i fynd ymhellach ar hyn o bryd.

Yn olaf, cewch deithio y tu allan i’ch ardal leol os ydych wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiad tramor, a bod rhaid mynd i leoliad penodol i bleidleisio. Dylech ddefnyddio pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy (neu ddull pleidleisio arall) os yw hynny’n ymarferol, ond os mai bod yn bresennol i bleidleisio yw’r unig ddewis sydd ar gael, caiff pleidleiswyr cymwys deithio i’w gorsaf bleidleisio swyddogol, er enghraifft mewn llysgenhadaeth neu swyddfa gonswl.

Wrth ystyried a oes angen teithio y tu allan i’ch ardal leol, dylech gofio bod cyfrifoldeb personol ar bob un ohonom i gydnabod y risgiau y mae’r feirws yn eu peri i ni ein hunain, i’n teuluoedd ac i’n cymunedau ehangach.

Bydd angen i bobl farnu drostynt eu hunain beth sy’n rhesymol, yn unol â’r egwyddor gyffredinol honno. Cofiwch mai diben y cyfyngiadau sy’n parhau yw atal trosglwyddiad y feirws, gan gynnwys i’n hanwyliaid. Am y rheswm hwn, dylech geisio osgoi siwrneiau hir a fyddai’n golygu bod rhaid i chi ddefnyddio cyfleusterau o dan do fel toiledau tra’r ydych oddi cartref (gan gofio bod toiledau cyhoeddus wedi cau ar hyn o bryd), gan fod y risg o drosglwyddo’r feirws yn fwy o dan do, a gallai’r feirws gael ei drosglwyddo gennych chi neu i chi pan fyddwch yn cyffwrdd ag arwynebau.

Dyma’r rhesymeg dros geisio lleihau’r amser a dreulir y tu allan i’ch ardal leol, ac fel bob amser dylech ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. Bydd hylendid personol, fel parhau i olchi eich dwylo’n rheolaidd, a defnyddio hylif diheintio dwylo os nad yw hynny’n bosibl, yn dal i fod yn bwysig hefyd.

Os ydych wedi gadael eich ardal leol am un rheswm sy’n cael ei ganiatáu, gall fod yn rhesymol gwneud gweithgareddau hanfodol eraill hefyd pan ydych y tu allan i’r ardal leol, fel gwneud eich siopa wythnosol ger eich gweithle. Fodd bynnag, yn unol â’r prif fwriad o leihau lledaeniad y feirws, ni ddylech ond gwneud y pethau hyn os na fydd yn rhesymol bosibl eu gwneud yn lleol i’ch cartref (er enghraifft, os ydych oddi cartref at ddibenion gwaith drwy gydol oriau agor eich siopau lleol, ac nad oes neb arall a allai yn rhesymol ymweld â’r fferyllfa ar eich rhan).

Sail dosturiol dros ymweld â theulu neu ffrindiau agos yng Nghymru

Rydym wedi cael sawl ymholiad yn gofyn a gaiff pobl ymweld â ffrindiau neu berthnasau ar sail dosturiol, yn aml oherwydd bod rhywun yn dioddef gofid emosiynol neu â salwch corfforol neu feddyliol difrifol.

Mewn sawl achos, mae ymweld ag eraill yn esgus rhesymol i deithio os yw’n cynnwys rhoi gofal neu gymorth i unigolyn agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys bod o dan do gyda’r person hwnnw os oes angen. Mae’r eithriad hwn i’r rheol gyffredinol yn un eang gan ei fod yn cynnwys unrhyw fath o ofal, sy’n cael ei ddarparu gan unrhyw berson, i rywun sy’n agored i niwed.

Mae “agored i niwed” yn dilyn yr ystyr arferol ond mae’r rheoliadau’n nodi’n glir y bydd hyn yn cynnwys unrhyw blentyn ac (oherwydd natur y coronafeirws) unrhyw berson sy’n 70 oed a hŷn neu bobl sydd ag un o nifer o gyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes. Mae hefyd yn rhesymol i fynd â bwyd a chyflenwadau eraill i berson agored i niwed.

Ond er y caniateir gofalu am berson agored i niwed, os yw rhywun yn arbennig o agored i niwed yn sgil coronafeirws, dylech ystyried hyn cyn ymweld â nhw. Mae’n hanfodol eich bod yn lleihau’r risg o ledaenu coronafeirws mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Os nad ydych chi’n rhoi gofal i berson agored i niwed, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na chaniateir ichi ymweld â rhywun y tu allan i’ch ardal leol. Os oes rhesymau tosturiol dros ymweld â rhywun, mae’r rhain yn amgylchiadau lle bydd gennych esgus rhesymol i adael eich ardal leol.

Efallai bod gennych chi resymau tosturiol dros ymweld â rhywun os yw’r person hwnnw yn cael trafferth ymdopi â’r cyfyngiadau symud yn gyffredinol, neu efallai bod ganddynt salwch corfforol neu feddyliol; wedi dioddef profedigaeth neu efallai eich bod chi’n bryderus am eu lles neu eu llesiant yn gyffredinol.

Enghreifftiau eraill o bethau a ganiateir fyddai ymweld â phobl sy’n byw neu’n aros mewn cartrefi gofal, mewn gwasanaethau byw â chymorth, neu mewn cartrefi plant neu sefydliadau troseddwyr ifanc. Ym mhob achos, bydd rhaid i’r darparwr roi mesurau diogelwch a mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith cyn caniatáu ymweliadau, a dylech gysylltu â nhw cyn teithio.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn gofyn i bobl ystyried nid yn unig beth y cânt ei wneud (beth sy’n cael ei ganiatáu gan y gyfraith) ond hefyd beth y dylent ei wneud (beth yw’r peth iawn i’w wneud i leihau lledaeniad coronafeirws). Dylech ystyried pa mor bell y byddai’n rhaid ichi deithio, ac i ba raddau y byddai’n rhaid ichi ddefnyddio cyfleusterau fel toiledau neu gymysgu gydag eraill o dan do (er enghraifft, oherwydd y byddai’n rhaid ichi aros dros nos). Dylech hefyd ystyried a oes dewisiadau eraill i ymweld â’r person wyneb yn wyneb, neu a yw’n bosibl rhoi gofal heb fynd i’w cartref.

Dylid cadw at arferion cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo a hylendid anadlol da bob amser. Efallai y byddwch yn ystyried gwisgo gorchudd wyneb os nad yw hyn yn ymarferol. Os ydych yn ymweld ag ysbyty, hosbis neu gartref gofal, dylech gysylltu â nhw yn gyntaf a pheidio â theithio heb wneud trefniadau ymlaen llaw.

Mae rhagor o wybodaeth am wisgo gorchudd wyneb.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i leihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Bydd y canllawiau uchod yr un mor berthnasol i bobl o rannau eraill o’r DU ag ydynt i bobl sy’n byw yng Nghymru. Os ydych yn breswylydd o Gymru ac yn credu bod gennych reswm da dros ymweld â rhywun o’r tu allan i Gymru ar sail dosturiol neu i roi gofal neu gymorth, dylech hefyd ddilyn y canllawiau hyn. Dylech ddarllen y canllawiau o’r wlad yr ydych yn ymweld â hi yn ogystal.

Wrth i’r achosion o coronafeirws leihau, mae’r Gweinidogion wedi dweud eu bod yn dymuno codi’r gofyniad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf, os yw’r amodau’n parhau i fod yn ffafriol yng Nghymru i ganiatáu hyn.

Teithio i wneud ymarfer corff a hamdden yn yr awyr agored

Mae ymarfer corff a mathau eraill o hamdden yn yr awyr agored yn cael eu caniatáu a’u hannog. Cewch wneud unrhyw fath o weithgarwch corfforol yn lleol, sydd fel uchod yn gyffredinol yn golygu o fewn tua pum milltir i’ch cartref.

Ond rydym yn cydnabod bod rhai mathau o ymarfer corff sydd, er eich bod yn dechrau yn lleol, yn mynd â chi ymhellach. Er enghraifft, gall beiciwr cryf gael ei ymarfer corff drwy deithiau beic o 40 milltir neu fwy. Caniateir ymarfer corff fel math o deithio “llesol” yn y modd hwn (taith feicio hir, rhedeg neu feicio) yn awr os yw’r ymarfer corff yn dechrau ac yn gorffen yn y cartref. Byddai hyn hefyd yn berthnasol i ddefnyddio sgwteri symudedd a dyfeisiau eraill wedi’u pweru at ddibenion ymarfer corff ar gyfer y rhai sydd angen eu defnyddio.

Wedi dweud hynny, mae’n bwysig peidio ag arwain at risg o ledaenu’r feirws drwy dorri ar yr ymarfer corff hwnnw ac aros neu ymgynnull gydag eraill y tu allan i’ch ardal leol. Dylid osgoi mannau prysur hefyd, a sicrhau eich bod yn cadw pellter cymdeithasol bob amser. Mae’r rheolau ar ymgynnull ag eraill hefyd yn golygu er y cewch yn awr ymarfer corff gyda phobl o un cartref arall, na chaniateir gweithgareddau grŵp. Gall gofalwyr hefyd fynd gyda phobl os oes angen.

Ni ddylech chwaith deithio (gyda char neu feic modur neu drafnidiaeth gyhoeddus) i ffin bellaf eich ardal leol cyn dechrau ymarfer corff er mwyn teithio ymhellach o’ch cartref. Ni ddylech wneud unrhyw deithiau hir, er enghraifft i ymarfer corff yn y cefn gwlad, ger yr arfordir neu mewn mannau hardd y tu allan i’ch ardal leol (mae llawer ohonynt ar gau beth bynnag er mwyn atal hyn).

Efallai y bydd angen i bobl â phroblemau iechyd neu symudedd penodol deithio o’u cartref er mwyn gallu ymarfer corff. Er enghraifft, efallai na fydd rhai defnyddwyr cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd yn gallu dechrau ymarfer corff yn syth o’r tŷ am resymau ymarferol ac y bydd angen iddynt yrru i leoliad gwastad addas, fel parc, i wneud hyn. Yn yr amgylchiadau hyn dylai’r daith fod i leoliad hygyrch cyfleus o fewn yr ardal leol, neu’r lleoliad agosaf sydd ar gael y tu allan i’ch ardal leol. Ni ddylid gwneud unrhyw deithiau hir os nad yw’n gwbl angenrheidiol.

Os yw’r ymarfer corff a ffafrir gennych chi yn ymarfer y gellir ond ei wneud mewn lleoliadau penodol, mae angen gwneud hyn yn lleol hefyd. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys golff, pysgota neu chwaraeon dŵr. Os gallwch wneud y rhain yn eich ardal leol yna mae croeso ichi wneud hynny, ond ni chaniateir gyrru y tu allan i’ch ardal leol at y dibenion hyn.

Wrth i’r achosion o coronafeirws leihau, mae’r Gweinidogion wedi dweud eu bod eisiau codi’r gofyniad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf, os yw’r amodau’n parhau i fod yn ffafriol yng Nghymru i ganiatáu hyn.

“Ddim yn rhesymol ymarferol”

Mae’r term “rhesymol ymarferol” yn ymadrodd cyfreithiol cyffredin a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd lle bydd angen defnyddio barn bersonol ynglŷn â beth y gellir disgwyl i bobl ei wneud. Yn y cyd-destun “aros yn lleol”, mae’n golygu y dylai pobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin ynglŷn ag a fyddai’n bosibl iddynt wneud rhai pethau yn eu hardal leol.

Y ffordd orau o ddangos hyn yw drwy esiamplau. 

  • Efallai y bydd angen i rai pobl deithio ymhellach nag eraill i wneud gweithgaredd, er enghraifft oherwydd bod ganddynt anghenion symudedd neu faterion iechyd meddwl. Mewn rhai amgylchiadau mae’n rhesymol i’r unigolion hynny deithio ymhellach i ddod o hyd i wasanaethau priodol gyda chyfleusterau hygyrch neu dirwedd addas i ymarfer corff. Caniateir hyn o dan y rheolau.
  • Os ydych chi’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus ac y gallwch gyrraedd siop y tu allan i ardal leol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond na fyddech yn gallu cyrraedd unrhyw un o’r siopau yn eich ardal leol, fe ganiateir ichi deithio i’r siop y tu allan i’ch ardal leol (er y dylech geisio mynd i’r siop agosaf a fydd yn diwallu eich anghenion).
  • I rai pobl, bydd safon y ffyrdd neu faterion tebyg yn golygu y bydd yn cymryd llawer hirach i gyrraedd rhywle tair milltir i ffwrdd nag y byddai i gyrraedd siop debyg sydd 10 milltir i ffwrdd ond ar hyd ffordd wahanol a diogelach. Gallai fod yn rhesymol yn yr amgylchiadau hynny i deithio i’r siop sydd ymhellach i ffwrdd – er y dylech hefyd ystyried a yw’r naill siop neu’r llall yn debygol o fod yn brysur iawn, gan ei bod hefyd yn ddymunol i osgoi torfeydd mawr.

Mae’r meysydd hyn eto yn rhai lle bydd angen i bobl ddefnyddio synnwyr cyffredin o ran yr hyn sy’n rhesymol yn eu hamgylchiadau nhw, ond gofynnir i bawb fod yn gyfrifol ac ystyried y risg i chi eich hun ac i eraill.

Mae'n rhaid i bawb ddilyn y mesurau hyn. Mae cyngor ar wahân ar gael i unigolion neu gartrefi sy'n ynysu ac i’r bobl fwyaf agored i niwed sydd angen cymryd camau gwarchod. Lle nad yw rhieni (neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant neu sy’n gofalu am blentyn) yn byw yn yr un cartref, gall plant o dan 18 gael eu symud rhwng cartrefi eu rhieni neu gartrefi’r bobl hynny.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi nodi nifer o weithwyr hanfodol y gall eu plant barhau i fynd i'r ysgol neu at eu darparwr gofal plant. Nid yw'r diffiniad hwn o weithiwr hanfodol yn effeithio ar ba un a gewch deithio i'r gwaith - os nad ydych yn weithiwr hanfodol, cewch barhau i deithio i'r gwaith, os nad yw’n rhesymol ichi allu gweithio gartref.

Caiff gweithwyr hanfodol a rhieni plant sy’n agored i niwed adael y cartref i fynd â’u plant i’r ysgol neu at eu darparwr gofal plant ac i’w nôl oddi yno.

Dylai gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill - megis gwasanaethau cymdeithasol, cefnogaeth i ddioddefwyr, cefnogaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a

Phensiynau, neu'r system gyfiawnder – gael eu defnyddio o bell lle bo modd, ond cewch adael y cartref os yw’n hanfodol eich bod yn mynd yno’n bersonol.

Caniateir symud tŷ, ond mae cyfyngiadau ar sut y bydd cartrefi’n cael eu marchnata.

Cau rhai busnesau a lleoliadau

I leihau cysylltiad cymdeithasol a/neu gorfforol, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn ofynnol i fusnesau a lleoliadau penodol gau. Gweler y canllawiau ar gau busnesau i gael rhagor o wybodaeth.

Rhwystro pobl rhag ymgynnull yn gyhoeddus

Gweithgareddau awyr agored

Mae’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf wedi dangos bod y feirws sy’n achosi coronafeirws yn darfod yn gyflym (ychydig funudau) yng ngolau cryf yr haul.[1] Oherwydd hyn mae bod allan yn yr awyr agored yn peri risg is o lawer o drosglwyddo’r feirws o gymharu â bod o dan do. O’r herwydd, nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol mwyach ar y math o weithgareddau awyr agored y gallwch eu gwneud yn eich ardal leol, pa mor aml y gallwch fynd allan i’r awyr agored neu faint o amser rydych yn ei dreulio yn yr awyr agored. Mewn gwirionedd, mae ymarfer corff yn yr awyr agored a gweithgareddau hamdden eraill yn yr awyr agored yn fuddiol i iechyd a lles, ac felly mae’n rhywbeth a anogir yn gryf.

Bellach mae’r prif gyfyngiadau cyfreithiol ar bwy sydd gyda chi a’r pellter a gedwir rhyngoch pan fyddwch yn yr awyr agored. Trafodir hyn yn yr adran nesaf.

Fodd bynnag, mae nifer o gyfyngiadau ymarferol yn parhau o ran pa weithgareddau awyr agored y gallwch eu gwneud.

Yn gyntaf, mae cyfyngiadau ar y mathau o weithgareddau sydd ar gael ichi oherwydd cau busnesau penodol ac adeiladau eraill, megis cyrtiau chwaraeon a meysydd chwarae awyr agored, mewn achosion lle bernir nad yw’n ddiogel eu hailagor hyd yma.

Mae hefyd yn arbennig o bwysig o hyd i atal ardaloedd penodol rhag mynd yn orlawn. O’r herwydd, er nad yw gyrru wedi ei wahardd, mae nifer o feysydd parcio ar gau o hyd, er enghraifft ger traethau a pharciau, a gall cyfyngiadau parcio eraill fod ar waith, neu gall rhai ffyrdd fod ar gau o hyd hefyd. Dylech hefyd ddisgwyl gweld nifer uwch nag arfer o gerddwyr a beicwyr yn defnyddio’r ffyrdd.

Felly, fel rheol gyffredinol, dylech yrru cyn lleied â phosibl o hyd. Os gallwch ddiwallu holl anghenion eich cartref o fewn pellter cerdded, mae’n well gwneud hynny.

Cyn gadael eich cartref dylech gynllunio sut y byddwch yn cadw’n ddiogel ac yn lleihau risgiau. Er enghraifft, dylech ystyried a fyddwch yn osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae pobl eraill wedi cyffwrdd â hwy, sut y byddwch yn gwneud hynny, a sut y byddwch yn dilyn arferion hylendid dwylo a hylendid anadlol da. Dylech hefyd ystyried amgylchiadau lle gall fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol, sut y byddwch yn osgoi neu’n lliniaru’r risgiau, ac ystyried pa bethau ychwanegol y gall fod eu hangen arnoch, megis hylif diheintio dwylo gorchudd wyneb. Darllenwch ragor o ganllawiau am amddiffyn eich hun ac eraill.

Mae llawer o doiledau cyhoeddus ar gau o hyd, gan eu bod yn peri risgiau penodol i iechyd y cyhoedd, a dylid ystyried hynny wrth benderfynu pa mor bell y dylech deithio oddi cartref.

Gan mai un o ddibenion y cyfyngiadau yw lleihau’r pwysau ar GIG Cymru, ein cyngor ni yw na ddylai pobl wneud mathau o ymarfer corff sy’n peri elfen sylweddol o risg.

Cwrdd â phobl o gartrefi eraill yn yr awyr agored

Caniateir i bobl o un cartref gwrdd yn yr awyr agored â phobl o un cartref arall ar y tro, ar yr amod eu bod yn aros yn lleol. Fodd bynnag, mae’n bwysig dilyn y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol (cadw pellter o 2 fetr o leiaf) a dilyn arferion hylendid dwylo a hylendid anadlol.

Nid oes unrhyw derfyn ar nifer y bobl o’r ddau gartref sy’n gallu cwrdd yn yr awyr agored. Er enghraifft, os ydych yn rhan o gartref o bump o bobl, gall eich cartref cyfan gwrdd â chartref arall sy’n cynnwys pump o bobl. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol, er bod cwrdd yn yr awyr agored yn cael ei ystyried yn weithgaredd risg isel os dilynir y cyngor arall, wrth gwrs ni ellir dileu’r risg yn llwyr, ac mae’r risg yn cynyddu wrth i fwy o bobl ymgynnull.

Mae gofalwyr yn cael eu hystyried yn aelodau o gartref at y dibenion hyn – felly, er enghraifft, os oes gofalwr gan un person o bob cartref, gall y ddau ofalwr hynny ymgynnull gydag aelodau’r ddau gartref.

Dim ond gydag aelodau un cartref ar y tro y cewch gwrdd yn yr awyr agored. Fodd bynnag, gallwch gwrdd ag aelodau mwy nag un cartref mewn diwrnod, ar yr amod bod y cyfarfodydd hynny ar wahân.

Fodd bynnag, mae cynulliadau awyr agored sy’n cynnwys aelodau mwy na dau gartref yn anghyfreithlon o hyd, a gallwch gael dirwy neu gael eich erlyn am gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath.

Nid oes unrhyw derfynau amser ar unrhyw gyfarfodydd neu gynulliadau awyr agored o’r fath, nac unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar y gweithgareddau y gellir eu gwneud yn yr awyr agored, ar yr amod y gellir cadw pellter corfforol.

Fe’ch cynghorir i osgoi cyffwrdd ag arwynebau pryd bynnag y bo’n bosibl, gan fod y feirws yn gallu goroesi am oriau neu ddiwrnodau ar rai arwynebau os nad yw’n cael ei ddileu gan olau’r haul neu drwy lanhau priodol.[2 Wrth gwrdd â phobl o gartref arall, dylech hefyd osgoi cyffwrdd ag unrhyw beth y mae aelodau’r cartref arall wedi cyffwrdd ag ef – felly er enghraifft os ydych yn cwrdd ar gyfer picnic, dylai pob cartref gludo, paratoi a bwyta eu bwyd eu hunain ar wahân, a dylech osgoi rhannu offer, llestri neu blatiau rhwng cartrefi. Fe’ch cynghorir hefyd i fynd â hylif diheintio dwylo gyda chi a’i ddefnyddio yn aml, yn enwedig cyn bwyta neu ar ôl cyffwrdd ag arwynebau.

Mannau awyr agored preifat

Oherwydd y cyngor gwyddonol bod y risg o drosglwyddo coronafeirws yn is o lawer yn yr awyr agored, rydym yn eich annog i dreulio amser yn yr awyr agored, gan fod hynny’n fuddiol i iechyd a lles. Er y gall y rhan fwyaf o bobl, yn ymarferol, gael mynediad i fannau awyr agored y tu hwnt i’r cartref (yn dilyn y newidiadau i’r rheolau ar 1 Mehefin), nid yw hynny’n gymwys i bawb. Gan hynny, bellach caniateir hefyd i aelodau dau gartref gwrdd mewn mannau agored preifat, megis gardd un o’r cartrefi, ar yr amod y gellir cadw pellter o 2 fetr o hyd rhwng aelodau’r ddau gartref.

Mae hyn yn cynnwys gerddi a rennir, ar yr amod y cedwir pellter digonol rhwng y cynulliadau gwahanol, gan gadw pellter cymdeithasol rhwng aelodau’r gwahanol gartrefi. Gall hefyd gynnwys unrhyw fannau agored sy’n eiddo preifat megis balconïau neu rodfeydd awyr agored mewn bloc o fflatiau, ar yr amod y gellir cadw pellter cymdeithasol yn effeithiol.

Mae angen ystyried risgiau penodol wrth ymweld â mannau agored preifat. Yn enwedig, dylid treulio cyn lleied o amser â phosibl yn cerdded drwy ardaloedd o dan do. Os yw’n bosibl mynd i’r ardd heb fynd i ardal o dan do, dylech wneud hyn. Gofynnir i bobl yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn pob sefyllfa arall lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae cyngor pellach ar wisgo gorchudd wyneb.

Yr egwyddor gyffredinol i’w dilyn, o dan do ac yn yr ardd, yw na ddylech gyffwrdd ag unrhyw beth y mae aelodau cartref arall wedi cyffwrdd ag ef. Gall handlenni drysau, botymau canu clychau a switshys goleuadau fod yn ffynonellau heintio posibl. Dylid osgoi cyffwrdd ag arwynebau, yn enwedig o dan do, ac ni ddylid defnyddio cyfleusterau a rennir (megis toiledau). Os nad yw’n bosibl, mae’n rhaid eu glanhau yn drylwyr cyn ac ar ôl eu defnyddio. Ni ddylid rhannu eitemau megis cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc rhwng cartrefi..

[1] Papur SAGE - SAGE35-2d

[2] https://academic.oup.com/jid/advance-article/doi/10.1093/infdis/jiaa274/5841129

Cwrdd o dan do â phobl o gartrefi eraill

Mae’r coronafeirws yn lledaenu’n fwy effeithiol o lawer o dan do, oherwydd gall oroesi yn yr aer ac ar arwynebau am amser hir heb fod yn ngolau uniongyrchol yr haul.[1] Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bobl aros yn lleol, mae’r gyfraith hefyd yn gosod cyfyngiadau ar fod o dan do gyda phobl eraill heb esgus rhesymol.

Y safbwynt cyfreithiol sylfaenol yw na ddylech fynd i mewn i gartref rhywun arall, na chaniatáu i rywun o’r tu allan i’ch cartref chi i ddod i mewn i’ch cartref chi, na chwrdd o dan do â rhywun o gartref arall.

Mae’r gyfraith yn cynnwys rhesymau pam y caniateir mynd o dan do mewn amgylchiadau cyfyngedig.

Mynd i mewn i gartrefi pobl eraill, neu ganiatáu iddynt ddod i mewn i’ch cartref chi

Mae’n debygol mai’r prif resymau y gallech fynd i mewn i gartref person arall yn gyfreithlon fyddai er mwyn darparu gofal i rywun, neu i helpu rhywun sydd angen cymorth, megis person hŷn, plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed, neu i wneud eich gwaith pan fo angen ichi fod yn gorfforol bresennol i wneud hynny. Dyma’r prif resymau hefyd y gallech ganiatáu i rywun arall fynd i mewn i’ch cartref chi.  

Yn yr un modd â rhannau eraill o’r canllawiau hyn, bydd angen i chi arfer rhywfaint o grebwyll personol o ran pa un a oes wir angen ichi fynd i mewn i gartref rhywun arall neu ganiatáu i rywun ddod i mewn i’ch cartref chi, am ba hyd y mae angen ichi/iddynt aros yno, a’r hyn y mae wir angen ichi/iddynt ei wneud yno. Cofiwch, pan fo pobl o gartrefi gwahanol yn cymysgu o dan do, mae hynny’n peri risg i chi, aelodau’r cartref yr ymwelir ag ef, cartref yr ymwelydd, ac unrhyw un arall a ddaw i gysylltiad ag unrhyw un o’r bobl hynny. Mae’r un ystyriaethau’n gymwys o ran caniatáu i bobl ddod i mewn i’ch cartref chi.

Pan fo angen i chi fynd i mewn i gartrefi pobl eraill, mae’n bwysig iawn eich bod chi ond yn gwneud hynny os ydych yn iach, heb unrhyw symptomau, eich bod chi’n dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a hylendid anadlol a sicrhau eich bod yn cyffwrdd â chyn lleied o arwynebau â phosibl. Nid ydym yn argymell defnyddio gorchudd wyneb. Yr egwyddor gyffredinol yw na ddylech gyffwrdd ag unrhyw beth y mae aelodau cartref arall wedi cyffwrdd ag ef. Mae handlenni drysau, botymau canu clychau a switshys goleuadau yn ffynonellau heintio posibl. Dylid osgoi cyffwrdd ag arwynebau pryd bynnag y bo’n bosibl, a dylai unrhyw beth y mae angen ichi gyffwrdd ag ef gael ei lanhau’n drwyadl wedi hynny. Ni ddylid defnyddio cyfleusterau a rennir (megis toiledau) os yw hynny’n bosibl a dylid eu glanhau’n drylwyr cyn ac ar ôl eu defnyddio os nad oes modd osgoi eu defnyddio.

Gweithgareddau eraill o dan do

Mae’r gyfraith ynglŷn â chwrdd â phobl o dan do yn debyg i’r gyfraith ynglŷn â gadael eich ardal leol. Hynny yw, fel rheol gyffredinol, ni chaniateir hynny: ond mae rhai gweithgareddau yn cael eu hystyried yn rhai digon pwysig i fod yn eithriadau i’r rheol honno. Cyfeirir at y rhain yn y rheoliadau fel “esgusodion rhesymol”.

Mae’r esgusodion rhesymol dros fynd i le o dan do os oes angen gwneud hynny yn cynnwys:

  • ymweld â siopau, ar eich pen eich hunain neu gydag aelodau o’ch cartref neu unrhyw ofalwyr
  • ymweld â gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau milfeddygol
  • darparu gofal neu gymorth i rywun y mae arno ei angen, megis person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, ond dylech ystyried a oes ffynonellau cymorth eraill ar gael
  • helpu’r GIG drwy roi gwaed
  • osgoi anaf neu salwch, neu ddianc rhag perygl o niwed

Mae hefyd yn rhesymol mynd i mewn i adeilad sy’n cynnwys pobl eraill, er mwyn mynd i weithio, ond mae’n wir o hyd y dylai pawb sy’n gallu gweithio o’u cartrefi barhau i wneud hynny lle bo’n rhesymol bosibl.

Mae gennych hawl hefyd i fynd o dan do fel rhan o ymweliad â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged, ac mae gennych hawl i fynychu angladd os mai chi sy’n ei drefnu, os cewch wahoddiad gan y sawl sy'n ei drefnu, neu os ydych yn ofalwr i berson sy'n mynychu'r angladd.

Yn olaf, rydym nawr hefyd yn caniatáu i bobl fynd i seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil. Mae hawl gennych fod o dan do at y dibenion hyn ond mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn gymwys. (Eto, nid yw hyn yn golygu y gellir cynnal derbyniadau priodas).

Os bydd angen ichi fod o dan do ar gyfer unrhyw un o'r dibenion hyn, mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a hylendid anadlol, ac yn cyffwrdd â chyn lleied o arwynebau ag sy’n bosibl. O dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch am ystyried defnyddio gorchudd wyneb. Yr egwyddor gyffredinol yw na ddylech gyffwrdd ag unrhyw beth y mae aelodau o gartref arall wedi cyffwrdd ag ef. Mae handlenni drysau, botymau canu cloch a switshys goleuadau yn ffynonellau heintio posibl. Dylid osgoi cyffwrdd arwynebau lle bynnag y bo modd, a dylai unrhyw beth y mae angen i chi ei gyffwrdd gael ei lanhau’n drylwyr wedyn.

Mae canllawiau penodol ar gael ynglŷn â gweithleoedd ac ynglŷn â chyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr.

[1] https://academic.oup.com/jid/advance-article/doi/10.1093/infdis/jiaa274/5841129

Cydymffurfio â'r cyfyngiadau

Bydd y mesurau hyn yn lleihau ein cyswllt o ddydd i ddydd â phobl eraill. Maent yn rhan hanfodol o'n hymdrechion i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws.

Rhaid i bawb gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

Mae gan yr heddlu y pwerau i’w gorfodi, gan gynnwys drwy ddirwyon a gwasgaru cynulliadau pan nad yw pobl yn cydymffurfio. Yn ogystal, mae gan awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol bwerau i orfodi mesurau cau llwybrau.

Bydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’r mesurau hyn bob 21 diwrnod. Os ydych yn gadael eich cartref, os nad oes gennych esgus rhesymol, neu os ydych yn ymgynnull yn gyhoeddus, gall yr heddlu:

  • eich gorchymyn i fynd adref, gadael ardal neu wasgaru
  • eich gorchymyn i gymryd camau i atal eich plant rhag torri’r rheolau hyn os ydynt eisoes wedi gwneud hynny
  • mynd â chi adref – neu’ch arestio – os nad ydych yn dilyn eu cyfarwyddiadau neu pan fyddant yn credu bod hynny’n angenrheidiol.

Mae gan yr heddlu bwerau i orfodi cydymffurfiaeth â’r rheoliadau a byddant yn defnyddio disgresiwn a synnwyr cyffredin wrth roi’r mesurau hyn ar waith. Yn yr un modd, rydym yn disgwyl i’r cyhoedd ymddwyn yn gyfrifol er mwyn achub bywydau.

Serch hynny, os yw’r heddlu yn credu’ch bod wedi torri’r rheolau hyn – neu os ydych yn gwrthod dilyn eu cyfarwyddiadau – gallant roi hysbysiad cosb benodedig ichi am £60 (sy’n gostwng i £30 os ydych yn ei dalu o fewn 14 diwrnod). Caiff y ddirwy hon ei dyblu ar gyfer pob tramgwydd ddilynol hyd at uchafswm o £1,920 ar gyfer y chweched ac unrhyw achosion pellach.  Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys osod unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm). Mae gan awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol bwerau tebyg i ddelio â phobl sy’n torri’r gyfraith drwy ddefnyddio llwybrau cyhoeddus sydd wedi’u cau.

Bydd y llywodraeth yn parhau i adolygu hyn a bydd yn cynyddu’r cosbau os daw hi i’r amlwg bod hynny’n angenrheidiol i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio.

Yn yr un modd, bydd busnes neu fenter sy’n gweithredu’n groes i’r mesurau hyn yn troseddu. Bydd awdurdodau lleol (er enghraifft, swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach) yn monitro cydymffurfiaeth, gyda chymorth yr heddlu os yw’n briodol.

Os nad ydych yn talu, mae’n bosibl y gellir mynd â chi i lys, a gall ynadon roi dirwyon diderfyn.

Rhannu’r dudalen hon