Neidio i'r prif gynnwy

Y peth pwysicaf oll y gallwn ni i gyd ei wneud i frwydro yn erbyn y coronafeirws yw aros gartref er mwyn diogelu’r GIG ac achub bywydau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am yr ymateb iechyd cyhoeddus i’r coronafeirws yng Nghymru.

Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol i wneud Rheoliadau sy’n gosod cyfyngiadau neu ofynion ar bobl er mwyn atal, rheoli a diogelu rhag lledaeniad y coronafeirws ac achosion ohono ac er mwyn darparu ymateb iechyd y cyhoedd i hynny.

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn y ddeddfwriaeth yng Nghymru yn wahanol mewn rhai agweddau i’r rhai mewn mannau eraill yn y DU, felly mae’n bwysig eich bod yn deall y gyfraith a’r canllawiau sy’n gymwys yng Nghymru.

Wrth inni leihau ein cysylltiad o ddydd i ddydd â phobl eraill, byddwn ni yn arafu lledaeniad yr haint. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau gan gynnwys:

  • ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref, heblaw am ddibenion penodol iawn
  • cau busnesau a lleoliadau penodol
  • atal mwy na dau berson rhag ymgynnull yn gyhoeddus, oni bai eu bod yn aelodau o’r un cartref neu eithriadau penodol eraill

Rhaid i bawb yng Nghymru gydymffurfio â’r mesurau newydd hyn. Mae’r heddlu wedi cael y pwerau i orfodi’r mesurau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref ac i beidio ag ymgynnull mewn mannau cyhoeddus. Mae hynny’n cynnwys rhoi dirwyon a gwasgaru pobl sydd wedi ymgynnull.

Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i adolygu’r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos.

2. Aros gartref

Yr unig adeg y dylech fod y tu allan i’ch cartref yw am resymau penodol iawn, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel esgus rhesymol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • os oes angen nwyddau a gwasanaethau ar eich cyfer chi neu’ch cartref, megis bwyd, meddyginiaeth, a gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tŷ. Rydym yn annog pawb i wneud y pethau hyn mor anaml â phosibl
  • ymarfer corff, er enghraifft, rhedeg, cerdded neu feicio – ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch cartref (neu ofalwr). Rhaid gwneud hyn yn lleol. Edrychwch ar y canllawiau ar ymarfer i gael rhagor o wybodaeth
  • ymweld â’ch meddygfa neu wasanaethau iechyd lleol gan gynnwys y deintydd
  • mynd ag arian i’r banc neu sefydliad tebyg neu gael arian oddi yno
  • darparu gofal neu gymorth i rywun agored i niwed, gan gynnwys nôl bwyd neu feddyginiaeth iddynt
  • cynorthwyo’r GIG drwy roi gwaed
  • osgoi anaf neu salwch
  • teithio’n ôl ac ymlaen o’ch gwaith, ond dim ond os nad yw hi’n rhesymol ymarferol gweithio gartref
  • ymweld â mynwent, safle claddu neu ardd goffa i dalu teyrnged
  • mynd i angladd os cawsoch eich gwahodd gan y sawl sy’n ei drefnu, neu os ydych yn ofalwr i rywun sy’n mynd i’r angladd, ond mae cyfyngiadau ar y nifer a gaiff fod yn bresennol, er mwyn sicrhau y cedwir ddau fetr ar wahân
  • defnyddio cyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff, neu ymweld â llyfrgell, canolfan arddio neu feithrinfeydd planhigion

Dylech geisio treulio cyn lleied o amser â phosibl i ffwrdd oddi wrth eich cartref a sicrhau’ch bod ddau fetr oddi wrth unrhyw un nad yw’n aelod o’ch cartref.

Mae'n rhaid i bawb ddilyn y mesurau hyn. Mae cyngor ar wahân ar gael i unigolion neu gartrefi sy'n ynysu, ac ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed sydd angen eu gwarchod. Lle nad yw rhieni yn byw yn yr un cartref, gall plant o dan 18 gael eu symud rhwng cartrefi eu rhieni. Mae hynny’n cynnwys unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhianta dros y plentyn neu sy’n gofalu amdano.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi nodi nifer o weithwyr hanfodol y gall eu plant barhau i fynd i'r ysgol neu at eu darparwr gofal plant. Nid yw'r diffiniad hwn o weithiwr hanfodol yn effeithio ar ba un a gewch deithio i'r gwaith - os nad ydych yn weithiwr hanfodol, cewch barhau i deithio i'r gwaith, os nad yw’n rhesymol ichi allu gweithio gartref.

Caiff gweithwyr hanfodol a rhieni plant sy’n agored i niwed adael y cartref i fynd â’u plant i’r  ysgol neu at eu darparwr gofal plant ac i’w nôl oddi yno.

Dylai gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill - megis gwasanaethau cymdeithasol, cefnogaeth i ddioddefwyr, cefnogaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu'r system gyfiawnder – gael eu defnyddio o bell lle bo modd, ond cewch adael y cartref os yw’n hanfodol eich bod yno’n bersonol.

Caniateir symud tŷ, ond dim ond os nad oes modd gohirio’r symud.

3. Cau rhai busnesau a lleoliadau

I leihau cysylltiad cymdeithasol a/neu gorfforol, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn ofynnol i fusnesau a lleoliadau penodol gau. Gweler y canllawiau cau busnesau.

4. Rhwystro pobl rhag ymgynnull yn gyhoeddus

I sicrhau bod pobl yn aros gartref ac ar wahân i’w gilydd, mae’r Llywodraeth hefyd yn gwahardd mwy na dau berson rhag ymgynnull yn gyhoeddus.

Mae eithriadau i’r cyfyngiad hwn, ond dim ond ar gyfer dibenion penodol iawn:

  • pan fo grŵp o bobl o’r un cartref yn ymgynnull – golyga hyn y caiff rhiant, er enghraifft, fynd â’i blant i’r siop os nad yw’n bosibl eu gadael gartref
  • pan fo ymgynnull yn hanfodol ar gyfer dibenion gwaith – ond dylai gweithwyr geisio cynnal cyn lleied â phosibl o gyfarfodydd a chynulliadau eraill yn y gweithle
  • mynd i angladd (os cewch wahoddiad gan y sawl sy’n trefnu’r angladd)
  • hwyluso symud tŷ
  • darparu gofal neu gymorth i rywun agored i niwed
  • darparu cymorth mewn argyfwng
  • cymryd rhan mewn achosion cyfreithiol neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn gwahardd digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys priodasau, seremonïau bedydd a seremonïau crefyddol eraill mewn mannau addoli. Nid yw hyn yn cynnwys angladdau.

5. Mynd i'r gwaith

Fel y nodir yn yr adran ar aros gartref, cewch deithio at ddibenion gwaith, ond dim ond os nad yw hi’n rhesymol ymarferol gweithio gartref.

Ac eithrio’r sefydliadau sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau ar gau busnesau, nid yw’r Llywodraeth wedi’i gwneud yn ofynnol i fusnesau eraill gau – yn wir, mae’n bwysig bod busnes yn parhau. Serch hynny, daeth gofynion newydd i rym ar 7 Ebrill sy’n golygu bod rhaid i bob busnes a pherson sy’n gyfrifol am waith a wneir ar eiddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cedwir dau fetr o bellter rhwng pawb yn yr eiddo hwnnw (ac eithrio aelodau o’r un cartref, er enghraifft, pan fo gweithiwr yn gwneud gwaith atgyweirio yng nghartref rhywun). Mae hyn yn cynnwys gwaith a wneir y tu mewn a’r tu allan.

Dylai cyflogwyr a gweithwyr drafod eu trefniadau gweithio, a dylai cyflogwyr gymryd camau i'w gwneud yn haws i'w gweithwyr weithio gartref, gan gynnwys darparu cyfarpar TG addas i'w galluogi i weithio o bell.

Weithiau, ni fydd hyn yn bosibl, gan na all pawb weithio o’u cartrefi. Mae rhai swyddi yn gofyn bod pobl yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w gwaith neu fel rhan o’u gwaith. 

Os na allwch weithio gartref, gallwch barhau i deithio at ddibenion gwaith, cyn belled nad ydych yn dangos symptomau'r coronafeirws ac nad ydych chi nac unrhyw un yn eich cartref yn hunanynysu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar hunanynysu.

Argymhellir i gyflogwyr sydd â phobl yn eu swyddfeydd neu ar safle ddilyn y canllawiau i gyflogwyr a busnesau gan gynnwys, ble bynnag y bo modd, fod cyflogeion yn golchi eu dwylo â dŵr a sebon yn aml, am o leiaf 20 eiliad (neu â hylif diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael).

Bydd rhaid i gyflogwyr hefyd ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol eraill o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch i leihau’r perygl o niwed i iechyd.

O ran gwaith a wneir yng nghartrefi pobl, er enghraifft, gan weithwyr sy’n gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, caniateir i hynny barhau, a bwrw bod y gweithiwr yn iach a heb symptomau. Yn yr un modd â busnesau eraill, ar gyfer unrhyw waith a wneir mewn cartrefi, bydd angen i bwy bynnag sy’n gyfrifol am y gwaith gymryd camau priodol i sicrhau bod pobl yn cadw ddau fetr ar wahân (ond nid yw hyn yn berthnasol i drigolion y cartref eu hunain).

Argymhellir na ddylid gwneud gwaith mewn cartref sy’n ynysu nac mewn cartref lle mae unigolyn yn cael ei warchod, oni bai bod y gwaith yn angenrheidiol i ddelio â pherygl uniongyrchol i ddiogelwch yn y cartref, megis gwaith plymio neu atgyweirio brys, a bod y gweithiwr yn fodlon gwneud hynny. Mewn achosion o’r fath, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr a chartrefi.

Ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, ni waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau.

Fel y nodir yn yr adran ar gau rhai busnesau a lleoliadau penodol, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau y mae'r gofyniad hwn yn berthnasol iddyn nhw. Mae cyngor i weithwyr y sefydliadau hyn ar gymorth ariannol a chymorth o ran cyflogaeth ar gael yn gov.uk/coronavirus.

Dylai gweithwyr bob amser ddilyn y canllawiau ar hunanynysu os oes ganddyn nhw neu unrhyw aelod o’u cartref symptomau.

6. Cydymffurfio â'r cyfyngiadau

Bydd y mesurau hyn yn lleihau ein cyswllt o ddydd i ddydd â phobl eraill. Maent yn rhan hanfodol o'n hymdrechion i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws.

Rhaid i bawb gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

Mae gan yr heddlu y pwerau i’w gorfodi, gan gynnwys drwy ddirwyon a gwasgaru cynulliadau pan nad yw pobl yn cydymffurfio. Yn ogystal, mae gan awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol bwerau i orfodi mesurau cau llwybrau.

Bydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’r mesurau hyn bob 21 diwrnod. Os ydych yn gadael eich cartref, os nad oes gennych esgus rhesymol, neu os ydych yn ymgynnull yn gyhoeddus am unrhyw reswm heblaw am y rhai a nodir, gall yr heddlu:

  • eich gorchymyn i fynd adref, gadael ardal neu wasgaru
  • eich gorchymyn i gymryd camau i atal eich plant rhag torri’r rheolau hyn os ydynt eisoes wedi gwneud hynny
  • mynd â chi adref – neu’ch arestio – os nad ydych yn dilyn eu cyfarwyddiadau neu pan fyddant yn credu bod hynny’n angenrheidiol.

Mae gan yr heddlu bwerau i orfodi cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau a byddant yn defnyddio disgresiwn a synnwyr cyffredin wrth roi’r mesurau hyn ar waith. Yn yr un modd, rydym yn disgwyl i’r cyhoedd ymddwyn yn gyfrifol, gan aros gartref er mwyn achub bywydau.

Serch hynny, os yw’r heddlu yn credu’ch bod wedi torri’r rheolau hyn – neu os ydych yn gwrthod dilyn eu cyfarwyddiadau – gallant roi hysbysiad cosb benodedig ichi am £60 (sy’n gostwng i £30 os ydych yn ei dalu o fewn 14 diwrnod). Caiff y ddirwy hon ei dyblu ar gyfer pob tramgwydd ddilynol hyd at uchafswm o £1,920 ar gyfer y chweched ac unrhyw achosion pellach.  Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys osod unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm). Mae gan awdurdodau lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol bwerau tebyg i ddelio â phobl sy’n torri’r gyfraith drwy ddefnyddio llwybrau cyhoeddus sydd wedi’u cau.

Bydd y llywodraeth yn parhau i adolygu hyn a bydd yn cynyddu’r cosbau os daw hi i’r amlwg bod hynny’n angenrheidiol i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio.

Yn yr un modd, bydd busnes neu fenter sy’n gweithredu’n groes i’r mesurau hyn yn troseddu. Bydd awdurdodau lleol (er enghraifft, swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach) yn monitro cydymffurfiaeth, gyda chymorth yr heddlu os yw’n briodol.

Os nad ydych yn talu, mae’n bosibl y gellir mynd â chi i lys, a gall ynadon roi dirwyon diderfyn.

Rhannu’r dudalen hon