Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Cynulleidfa

Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig yw’r rhain ac maent yn wirfoddol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd pleidiau sy’n cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau Cymreig yn cymryd y camau a awgrymir fel rhan o’u hymrwymiad i gyflawni ein nod cyffredin o greu Senedd fwy amrywiol.

Diffiniadau

Mae cyfeiriadau a wneir drwy’r ddogfen hon at ‘bleidiau gwleidyddol’ neu ‘bleidiau’ yn cyfeirio at bleidiau gwleidyddol cofrestredig (Mae plaid wleidyddol gofrestredig yn golygu plaid sydd wedi’i chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000).

Mae cyfeiriadau at ‘strategaethau’ neu ‘strategaeth’ yn cyfeirio at strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant pleidiau gwleidyddol.

Sail gyfreithiol

Mae Rhannau 1 a 2 o’r canllawiau hyn yn cael eu dyroddi o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae Rhan 3 o’r canllawiau hyn yn cael ei dyroddi o dan bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 60 a 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Diweddariadau

Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd ac mae'n bosibl y byddant yn cael eu diwygio fel y bo'n briodol. 

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus ac i hyrwyddo hawliau a chanlyniadau pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein cyrff etholedig ar hyn o bryd.

Adlewyrchir ein nod cyffredinol yn ein pumed Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol, sef:

creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.

O fewn y cyd-destun ehangach hwn y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld holl wynebau Cymru, a chlywed holl leisiau Cymru, yn cael eu hadlewyrchu ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig wrth iddynt wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pob un ohonom.

Mae gan bleidiau gwleidyddol rôl allweddol i'w chwarae wrth gyflawni'r nod hwn fel ceidwaid i'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n sefyll am swydd etholedig. Mae cyfle'n awr, wrth inni ddechrau pennod newydd yn esblygiad y Senedd, i bleidiau ailystyried eu prosesau ar gyfer dethol a recriwtio ymgeiswyr er mwyn gwella cynrychiolaeth amrywiol. Fel rhan o hyn, mae cyfle i adeiladu ar lwyddiannau blaenorol y Senedd o ran sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau a sicrhau ein safle blaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol o ran cynrychiolaeth menywod yn y Senedd.

Mae’r canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi fel adnodd i gefnogi pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried camau ymarferol i’w cymryd i gyfrannu at yr uchelgais gyffredin o gael mwy o amrywiaeth ymysg ein cynrychiolwyr etholedig, a sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Bwriedir i unrhyw gyfeiriadau yn y canllawiau hyn at sefydliadau a dogfennau trydydd parti ddarparu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael yn unig. Ni ddylid ystyried barn unrhyw drydydd parti ar unrhyw faterion fel barn Gweinidogion Cymru.

Y cefndir

Mae cryn dipyn o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i ystyried pa ddiwygiadau y gallai fod eu hangen i wneud y Senedd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae hyn wedi arwain at gyflwyno nifer o newidiadau ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i gael mwy o gapasiti i graffu ar waith y Llywodraeth. O 2026 ymlaen, bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol i gynrychioli pob un o’r 16 etholaeth newydd ledled Cymru, gan wneud cyfanswm o 96 Aelod o’r Senedd, a bydd yr Aelodau hyn yn cael eu hethol o dan system etholiadol gyfrannol ‘rhestr gaeedig’.

Yn ogystal â’r diwygiadau hyn i’r system etholiadol a’r ffiniau, mae pwyllgorau dros y blynyddoedd wedi dod i’r casgliad y dylid cymryd camau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli poblogaeth Cymru yn well.

Mae’r adroddiadau wedi canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau diwylliannol, strwythurol ac ariannol y mae pobl yn eu hwynebu wrth sefyll am swydd etholedig, a’r heriau sy’n wynebu rhai wrth iddynt geisio cadw eu swydd. Maent hefyd wedi galw am fwy o dryloywder ynghylch ymdrechion pleidiau gwleidyddol i hwyluso amrywiaeth a chynhwysiant ymysg ymgeiswyr, ac amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd.

Mae pob grŵp gwleidyddol yn y Senedd wedi mynegi ei ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ymysg Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys gwella cynrychiolaeth menywod ac unigolion o grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys pobl sydd â hunaniaethau croestoriadol. Mae Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi cydnabod bod gan bob plaid gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod hyn yn digwydd, a bod angen gweithredu mewn nifer o feysydd.

Diwygio'r Senedd: argymhellion pwyllgorau

Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i gyd wedi galw am gamau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli’r bobl y mae’n eu gwasanaethu’n well.

Dywedodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017 (Senedd sy'n gweithio i Gymru ar Senedd Cymru) ei fod yn:

credu’n gryf y byddai dethol ac ethol Cynulliad mwy amrywiol yn gwella gweithrediad y Cynulliad a’r ffordd y mae’n gweithio dros bobl Cymru ac yn eu cynrychioli.

Fe wnaeth Panel Arbenigol 2017 hefyd argymell y dylai deddfwriaeth diwygio’r Senedd gynnwys darpariaeth a fyddai’n sicrhau bod gwybodaeth am amrywiaeth ar gael.

Dywedodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020 (Diwygio’r Senedd: y camau nesaf ar Senedd Cymru) ei fod, drwy gydol ei ymchwiliad:

wedi clywed dadleuon darbwyllol am fanteision amrywiaeth ymysg cynrychiolwyr etholedig

gan fynd ymlaen i argymell y canlynol:

Dylai pleidiau gwleidyddol sy’n ymladd etholiadau’r Senedd baratoi a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant sy’n asesu amrywiaeth a chynhwysiant eu diwylliant, eu prosesau, eu ffyrdd o weithio a’u cynrychiolaeth, a nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gynyddu amrywiaeth eu haelodaeth, ymgeiswyr ac Aelodau etholedig.

Daeth yr un pwyllgor i’r casgliad er bod:

y Senedd wedi perfformio’n gymharol gryf o ran cynrychiolaeth gytbwys o ran rhywedd, bod prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd

ac argymhellodd y dylai pleidiau gwleidyddol fynd ati’n wirfoddol i gasglu, anonymeiddio a chyhoeddi data am amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd.

Gwnaeth y Pwyllgor Diben Arbennig ar ddiwygio’r Senedd, a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Mai 2022 (Diwygio ein Senedd: llais cryfach i bobl Cymru), nifer o argymhellion gyda’r nod o gynyddu amrywiaeth y Senedd, gan ddefnyddio tryloywder a gwybodaeth i sbarduno newid, ac i nodi a chael gwared ar rwystrau rhag cael swyddi cyhoeddus. 

Mae’r argymhellion canlynol yn berthnasol iawn i’r canllawiau hyn:

Rydym yn argymell bod deddfwriaeth diwygio’r Senedd yn cynnwys darpariaethau sy’n annog pob plaid wleidyddol sydd ag ymgeiswyr yn sefyll mewn etholiad Senedd i gyhoeddi strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, gan nodi sut y mae wedi ceisio hwyluso amrywiaeth o fewn ei hymgeiswyr, o leiaf chwe mis cyn etholiad y Senedd sydd wedi’i drefnu

a:

Rydym yn argymell gosod gofyniad deddfwriaethol ar Awdurdod Datganoledig yng Nghymru i gasglu a chyhoeddi data dienw ar amrywiaeth ymgeiswyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r argymhellion hyn ac mae’n cyhoeddi’r canllawiau hyn i gefnogi pleidiau gwleidyddol i weithredu yn y ddau faes pwysig hyn.

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae gan Gomisiwn y Senedd gynlluniau i adolygu ei weithdrefnau a’i arferion gyda golwg ar ddenu a chadw ystod mor eang ac amrywiol â phosibl o Aelodau. Ers pandemig Covid-19, mae Aelodau o’r Senedd wedi gallu cymryd rhan o bell mewn trafodion Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau, ac mae Comisiwn y Senedd yn defnyddio technoleg i helpu i gael gwared ar rwystrau rhag cymryd rhan ym musnes y Senedd. Yn ogystal, rhoddir ystyriaeth i rannu swyddi ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau a bydd gwaith i addasu’r Siambr i gynnwys 96 o Aelodau yn ceisio sicrhau bod unrhyw newidiadau i ffyrdd o weithio yn y dyfodol yn ystyried anghenion pawb sy’n dymuno sefyll i gael eu hethol i’r Senedd (Mae rhagor o fanylion ar gael yn llythyr y Llywydd at y Pwyllgor ar y Bil Diwygio, dyddiedig 15 Ebrill 2024). 

Mae adolygiad thematig y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyflogau a chymorth personol Aelodau, wrth ystyried y newidiadau sy’n ofynnol ar gyfer y Seithfed Senedd, hefyd yn ystyried sut y gellir dileu rhwystrau i gefnogi amrywiaeth Aelodau (Bwrdd Taliadau Annibynnol: Rhaglen waith strategol 2022-26 ar Bwrdd Taliadau).

Yn 2024, sefydlodd y Senedd Bwyllgor Senedd y Dyfodol (on Senedd Cymru), sydd fel rhan o'i gylch gwaith, yn ystyried atebion i rwystrau (go iawn ac ymddangosiadol) a allai, neu sydd â’r potensial i, lesteirio gallu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiadau bywyd, dewisiadau a chredoau.

Amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig mewn llywodraeth leol ac yn y Senedd

Ar hyn o bryd, nid oes fawr o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd am strategaethau pleidiau gwleidyddol, ac yn benodol sut y maent yn bwriadu gweithredu i wella amrywiaeth ymysg darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd. Drwy gyhoeddi strategaethau, byddai pleidiau gwleidyddol yn fwy tryloyw ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud i hybu amrywiaeth ymysg yr ymgeiswyr sy’n eu cynrychioli mewn etholiadau Cymreig, a sut y maent yn helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan mewn etholiadau Cymreig.

Mae rhywfaint o wybodaeth ar gael am amrywiaeth ymgeiswyr llywodraeth leol ac Aelodau etholedig, ond nid yw hyn yn rhoi darlun cynhwysfawr gan fod cyfraddau ymateb i arolygon llywodraeth leol yn isel. 

Mae’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd (Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol: 2022) yn dangos (o’r rheini a ymatebodd) yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf yn 2022:

  • roedd 40% o’r Cynghorwyr Sir etholedig a ymatebodd i’r arolwg yn fenywod (43% o’r Cynghorwyr Cymuned)
  • roedd 46% o’r Cynghorwyr Sir etholedig yn 60 oed neu’n hŷn (56% o’r Cynghorwyr Cymuned)
  • dywedodd 96% o’r Cynghorwyr Sir a Chymuned etholedig eu bod yn perthyn i grŵp ethnig gwyn
  • dywedodd 89% o’r Cynghorwyr Sir etholedig eu bod yn heterorywiol neu’n strêt (88% o’r Cynghorwyr Cymuned), dywedodd 6% eu bod yn lesbiaid, yn hoyw neu’n ddeurywiol (5% o’r Cynghorwyr Cymuned)
  • dywedodd 1% o’r holl ymgeiswyr nad yw’r rhywedd y maent yn uniaethu ag ef yr un fath â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni. Dewisodd 2% beidio ag ymateb
  • roedd 13% o’r Cynghorwyr Sir etholedig yn eu hystyried eu hunain yn anabl (15% o’r Cynghorwyr Cymuned)

Ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021, nododd gwasanaeth Ymchwil y Senedd (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw'r Chweched Senedd? ar Senedd Cymru) mai ychydig o wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n gyhoeddus am amrywiaeth a chefndir Aelodau o’r Senedd. Fodd bynnag, nododd yr ymchwil y canlynol:

O’i gymharu, yn ôl Cyfrifiad 2021:

Adroddodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd (Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf ar Senedd Cymru) yn 2020 er bod:

y Senedd wedi perfformio’n gymharol gryf o ran cynrychiolaeth gytbwys rhwng y rhywiau, bod prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd. 

Bydd unrhyw wybodaeth ddienw y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei chyhoeddi am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd yn ategu gwybodaeth a gyhoeddir am ymgeiswyr llywodraeth leol gan ddefnyddio’r broses bresennol a sefydlwyd drwy Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Bydd hefyd yn darparu darlun cyfannol o gynrychiolaeth ar draws etholiadau datganoledig yng Nghymru yn hytrach na llywodraeth leol neu’r Senedd ar ei phen ei hun. Gellid defnyddio’r wybodaeth hon wedyn i lywio penderfyniadau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wella cynrychiolaeth ar lefel Cymru gyfan.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u rhannu’n dair rhan fel a ganlyn:

rhan 1: canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd

rhan 2: canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy’n ymwneud ag ymgeiswyr ac Aelodau etholedig

rhan 3: canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod

Nodweddion ac amgylchiadau penodedig

At ddibenion Rhannau 1 a 2, mae'r canllawiau hyn yn nodi nodweddion ac amgylchiadau y dylai pleidiau gwleidyddol fod yn eu hystyried wrth ddatblygu eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ac wrth gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth. 

Mae’r nodweddion a’r amgylchiadau hyn yn cynnwys rhai o’r nodweddion gwarchodedig a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond nid pob un ohonynt.Mae’r nodweddion a’r amgylchiadau canlynol wedi’u pennu ar sail dealltwriaeth bresennol Llywodraeth Cymru o ba grwpiau a allai gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth a/neu a allai wynebu rhwystrau penodol rhag cael eu hethol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried y nodweddion a’r amgylchiadau sy’n rhan o arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol yng Nghymru ar hyn o bryd ar y sail y bydd yn ddefnyddiol sicrhau bod rhywfaint o gysondeb a chymharedd rhwng y setiau data lle bo hynny’n bosibl. Ar sail yr ystyriaethau hyn, mae’r canllawiau’n awgrymu y dylai pleidiau gwleidyddol ystyried y nodweddion a’r amgylchiadau canlynol wrth gasglu gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ac wrth ddatblygu eu strategaethau.

Nodweddion gwarchodedig (fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, adrannau 5 i 7, a 9 i 12 ar Ddeddfwriaeth.gov.uk):

Nodweddion ac amgylchiadau ychwanegol:

  • cefndir economaidd-gymdeithasol
  • cyflyrau iechyd
  • statws neu hanes traws
  • profiad gwleidyddol blaenorol
  • cyfrifoldebau gofalu
  • cyfrifoldeb rhiant
  • iaith

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai'r nodweddion a'r amgylchiadau 'ychwanegol' hyn gael eu dehongli'n wahanol gan wahanol bobl. Bwriad y cwestiynau a gynigir fel rhan o’r arolwg templed yn Rhan 2 yw helpu i ddarparu geiriad eang ar gyfer y nodweddion hyn yng nghyd-destun yr hyn a allai fod fwyaf perthnasol wrth sefyll am swydd etholedig yng Nghymru.

Bwriad y cwestiynau yw helpu pleidiau gwleidyddol i gael gwybodaeth ddefnyddiol am broffiliau eu hymgeiswyr ac a ydynt yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr sy'n rhoi dewis o gynrychiolwyr sy'n adlewyrchu ystod o brofiadau a safbwyntiau i’r etholwyr ai peidio.

Ystyriaethau cyfreithiol

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ar wahanol gamau y gallent ystyried eu cymryd. Fel rhan o’r ystyriaeth honno, mae’n bosibl y bydd angen iddynt gael cyngor cyfreithiol ynghylch a fyddai cam arfaethedig yn gyfreithlon yn eu hamgylchiadau nhw ac ynghylch sut i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth fynd ar drywydd y cam hwnnw. Cyfrifoldeb y pleidiau yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith wrth gymryd unrhyw gamau yn sgil y canllawiau hyn. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Cyngor ac arweiniad pellach:

Rhan 1: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd

Diben

Diben y rhan hon o’r canllawiau yw helpu pleidiau gwleidyddol i ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd.

Bwriedir i’r rhan hon ategu Rhan 2 o’r canllawiau sy’n ymwneud â chamau gweithredu y dylai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Gallai'r wybodaeth hon am ymgeiswyr i’r Senedd, o'i hystyried ochr yn ochr â gwybodaeth gymharol am ymgeiswyr ar gyfer llywodraeth leol, helpu pleidiau gwleidyddol i asesu pa mor amrywiol yw eu hymgeiswyr a'u Haelodau etholedig, a gallai fod yn ddefnyddiol wrth lywio eu strategaethau i fynd i'r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodwyd.

Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant

Dogfen sydd wedi’i llunio i gyflwyno ymrwymiad sefydliad i feithrin amgylchedd mwy amrywiol, teg a chynhwysol yw strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant. Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, byddai’n cyflwyno ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ymgeiswyr ac Aelodau etholedig mewn etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd a sut y bwriedir cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

Pam y dylai pleidiau gwleidyddol gael strategaeth

Mae cael cynrychiolaeth fwy amrywiol ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig yn golygu mwy na chynyddu amrywiaeth yr ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio. Mae’n ymwneud â newid diwylliannol tymor hir a mynd i’r afael â materion systemig yn ein system wleidyddol a diwylliant sefydliadol pleidiau gwleidyddol. O ganlyniad, caiff yr ystod lawn o brofiadau a safbwyntiau eu hystyried yn well wrth wneud penderfyniadau. Byddai hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd sy’n digwydd o ganlyniad i ddiffyg cynrychiolaeth amrywiol yn y llywodraeth.

Mae cynrychiolaeth fwy amrywiol yn golygu y gall penderfyniadau gael eu llywio gan ystod ehangach o safbwyntiau a phrofiadau bywyd. Gall hyn, yn ei dro, arwain at fwy o hyder ac ymddiriedaeth yn ein systemau democrataidd. 

Mae strategaeth yn galluogi pleidiau gwleidyddol i nodi sut y maent yn bwriadu cyfrannu at sicrhau mwy o amrywiaeth yn ein cyrff democrataidd yng Nghymru. Gall pleidiau gwleidyddol ddefnyddio eu strategaethau i ailwerthuso eu strwythurau a’u prosesau mewnol i feithrin amgylchedd mwy cynhwysol, ac annog pobl o grwpiau ymylol neu grwpiau sydd o dan anfantais i oresgyn rhwystrau rhag cael eu hethol ar bob lefel o lywodraeth fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Mae strategaeth gyhoeddedig yn gofyn am ymrwymiad tymor hir i amrywiaeth a chynhwysiant, nid dim ond adeg etholiadau, ac mae’n galluogi pleidiau gwleidyddol i fod yn dryloyw ynghylch y camau y maent yn eu cymryd i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth.

Syniadau ar sut i lunio strategaeth

Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth berthnasol sy'n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant mewn swydd etholedig. Bydd hyn yn helpu pleidiau gwleidyddol i asesu beth yw eu man cychwyn, pa grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, y rhwystrau sy’n wynebu’r grwpiau hynny, ac yn helpu i dargedu ymgysylltiad er mwyn llunio eu strategaeth.

Dylai pleidiau gwleidyddol ymgysylltu â rhanddeiliaid (gan gynnwys unrhyw rwydweithiau pleidiau mewnol sy’n cynrychioli grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli) wrth ddatblygu eu strategaethau. Dylai'r ymgysylltiad hwn gynnwys pobl a chymunedau amrywiol, neu sefydliadau sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny. Bydd hyn yn galluogi pleidiau gwleidyddol i dynnu ar brofiadau bywyd gwerthfawr a'u helpu i nodi'r rhwystrau penodol sy'n wynebu pobl sydd â nodweddion penodol ac unigolion mewn amgylchiadau penodol wrth anelu at swydd etholedig. Bydd hefyd yn helpu pleidiau i nodi camau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.

Dylai pleidiau gwleidyddol gofio y gallai fod angen dull croestoriadol, gan y bydd rhai unigolion yn gallu uniaethu ag amryw o nodweddion neu amgylchiadau, a all arwain at fathau gwahanol o anfantais neu wahaniaethu o'u cyfuno. 

Beth ddylid ei gynnwys mewn strategaeth

Fel arfer, mae strategaethau’n cynnwys gwybodaeth sy’n dangos ymrwymiad, ar y lefel uchaf yn y sefydliad, i feithrin diwylliant amrywiol a chynhwysol, bod yn agored ac yn dryloyw. Maent hefyd fel arfer yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol a llwybr ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno yn y tymor hir – yn aml wedi’i rhannu’n amcanion mesuradwy tymor byr a thymor canolig.

Dylai strategaeth gynnwys yr elfennau allweddol canlynol:

  • ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant gan uwch-arweinwyr y blaid, yn ogystal â gwahanol lefelau yn y blaid.
  • cyfathrebu clir ynghylch pam y mae amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i’r blaid e.e. sut y maent yn cyd-fynd â gwerthoedd y blaid?
  • beth yw cenhadaeth y blaid wleidyddol o ran amrywiaeth, er enghraifft. beth yw’r nod terfynol, beth yw llwyddiant, a sut y mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth?
  • pa ddull y mae’r blaid yn ei ddefnyddio i sicrhau bod y rheini sy’n rhan o’r blaid yn deall ac yn mabwysiadu’r diwylliant sydd ei angen i alluogi amrywiaeth i ffynnu?
  • trosolwg o'r sefyllfa bresennol e.e. beth mae'r data gwaelodlin yn ei ddangos am y lefelau presennol o gynrychiolaeth yn y blaid ar draws gwahanol grwpiau, ac ymhlith pobl sydd â phroffiliau croestoriadol (h.y. y rhai sy'n rhannu cyfuniad o amryw o nodweddion penodol)?
  • pennu amcanion amrywiaeth a thargedau mesuradwy (Dangosyddion Perfformiad Allweddol).
  • sut y bydd cynnydd yn cael ei fesur, er enghraifft. casglu data’n rheolaidd, cymharu’n barhaus â data sylfaenol, ymchwil ansoddol i ddeall profiadau aelodau pleidiau, ymgeiswyr ac Aelodau etholedig dros amser?
  • hyfforddiant y gallai’r blaid ei gynnig i godi ymwybyddiaeth o faterion amrywiaeth

Er nad yw Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn gymwys i bleidiau gwleidyddol fel cymdeithasau preifat, efallai y bydd yn ddefnyddiol i bleidiau ymgyfarwyddo â'r Ddyletswydd, gan ei bod yn cynnwys egwyddorion a fframweithiau perthnasol a allai helpu i fynd i'r afael ag elfennau allweddol o'u strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant. Ceir canllawiau manylach ar y Ddyletswydd fel y mae'n gymwys i awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: dyletswyddau penodol yng Nghymru ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

Taith ymgeiswyr

Mae cynrychiolwyr etholedig fel arfer yn dilyn llwybr cyffredin o ddinesydd cymwys, i ddarpar ymgeisydd, ymgeisydd, ac yn olaf Aelod etholedig. Anogir pleidiau gwleidyddol i ystyried pa gamau y gallant eu cymryd mewn perthynas â'r daith wleidyddol hon a sut, a phryd, y gallant ymyrryd i gael gwared ar rai rhwystrau a chael effaith gadarnhaol (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) ar ganfyddiadau a phrofiadau unigolion wrth iddynt deithio ar hyd y llwybr hwn.

Camau gweithredu y dylid eu hystyried

Rydym wedi cynnwys isod rai camau y dylai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i helpu pobl sydd â’r nodweddion penodedig, neu sydd yn yr amgylchiadau penodedig, i oresgyn rhwystrau rhag cael eu hethol. Nodwyd hefyd rai o fanteision gwneud hynny. Anogir pleidiau i gofnodi’r camau hyn, a’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un, yn eu strategaethau.

Mae’r camau gweithredu hyn, a’r manteision cysylltiedig, wedi’u grwpio’n bedwar categori cyffredinol:

  • cynllunio strategol: yn seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a gwybodaeth
  • diwylliant sefydliadol
  • asesu a dethol ymgeiswyr
  • cymorth i ymgeiswyr

Efallai y bydd pleidiau am roi blaenoriaeth i’r camau hynny sy'n debygol o gael yr effaith fwyaf cyn yr etholiad nesaf.

Cynllunio strategol: yn seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a gwybodaeth

Cynllunio strategol: camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried

  • Neilltuo Cydlynydd neu Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar lefel briodol ac ystyried a ellid paratoi adroddiad amrywiaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol / at sylw’r blaid ar lefel Weithredol mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu yn y Gynhadledd Flynyddol. Gellid cysylltu’r adroddiad amrywiaeth â strategaeth y blaid a’r camau y mae’r blaid wedi ymrwymo iddynt drwy’r strategaeth honno.
  • Ystyried manteision defnyddio Pecynnau Cymorth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fel ffordd o asesu sefyllfa gychwynnol y blaid o ran amrywiaeth a chynhwysiant ac fel sail i'w strategaeth tymor hwy. Datblygwyd pecyn cymorth gan y Glymblaid 5050Amrywiol i helpu pleidiau gwleidyddol yng Nghymru (Pecyn cynrychiolaeth amrywiol a chyfartalar ar gael yn hwyrach yn y gwanwyn ar wefan Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru).
  • Ystyried tystiolaeth ac ymchwil berthnasol sy’n ymwneud ag unrhyw ffactorau sy’n atal unigolion rhag dilyn gyrfa fel cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol neu Aelodau o’r Senedd, ac ystyried camau y gall y blaid eu cymryd i fynd i’r afael â’r ffactorau hynny.
  • Mynd ati’n weithredol i fonitro amrywiaeth ymysg ymgeiswyr, Aelodau etholedig a staff yn y sefydliad. Bwriad Rhan 2 o’r canllawiau hyn yw helpu pleidiau i ymgymryd â’r gwaith monitro rheolaidd hwn.
  • Gosod nodau neu dargedau realistig yn seiliedig ar ddata, ymchwil, a dadansoddiad o'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran y bylchau presennol mewn cynrychiolaeth.
  • Sicrhau bod amcanion a chamau gweithredu yn cyd-fynd ag amcanion ehangach y blaid.
  • Cyhoeddi strategaeth i ganiatáu i bob aelod a’r cyhoedd weld yr hyn y maent yn gweithio tuag ato a sut y maent yn bwriadu ei gyflawni.

Cynllunio strategol: manteision posibl

  • Sicrhau bod aelod o staff, ar lefel briodol, sydd â ffocws strategol ar wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y blaid.
  • Darparu her ac atebolrwydd i uwch-reolwyr a sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei integreiddio ym mhob agwedd ar waith a pholisïau’r blaid.
  • Galluogi monitro cynnydd yn erbyn y strategaeth i adrodd yn ôl i’r uwch-reolwyr ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol neu i’w ystyried mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
  • Dangos ymrwymiad y blaid i gynyddu amrywiaeth ac yn annog gweithredu i gyrraedd targedau penodol.
  • Gall casglu data meintiol yn rheolaidd ac yn gyson roi trosolwg o ffigurau amrywiaeth, tynnu sylw at feysydd o arfer da neu feysydd y mae angen eu gwella, a helpu i fonitro cynnydd dros amser.
  • Gall casglu data ansoddol gasglu barn a safbwyntiau aelodau i nodi a mynd i’r afael â rhwystrau, datblygu ffyrdd mwy cynhwysol o weithio, a mesur ymatebion i fentrau pleidiau.
  • Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol am yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallent ei wneud yn wahanol i annog amrywiaeth a chynhwysiant.

Diwylliant sefydliadol

Diwylliant sefydliadol: camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried

  • Dangos ymrwymiad sylfaenol i amrywiaeth a chynhwysiant drwy eu gwneud yn rhan annatod o gyfansoddiad y blaid.
  • Archwilio prosesau a pholisïau'r blaid, gan gynnwys unrhyw fentrau newydd, drwy lens cydraddoldeb. Gallai hyn gynnwys cynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wrth ddatblygu strategaeth i helpu i nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol ar grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, yn ogystal â chamau gweithredu lliniarol.
  • Bod â pholisïau clir ar waith sy’n adlewyrchu ymrwymiad y blaid i hybu amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu cefnogi a’u hannog fel rhan o’r cod ymddygiad ar gyfer yr holl staff, gwirfoddolwyr, aelodau, ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig, a bod ymwybyddiaeth ymysg y grwpiau hyn o ymrwymiad y blaid i amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys strategaeth y blaid.
  • Darparu rhaglen hyfforddi a datblygu i’r holl staff, ar lefel leol a chenedlaethol, sy’n cynnwys ymwybyddiaeth ddiwylliannol o'r rhwystrau sy'n wynebu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol ac egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Annog a hwyluso rhwydweithiau o fewn y blaid i gynrychioli buddiannau pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
  • Sicrhau bod maniffestos y blaid a’i hysbysebion, ei negeseuon a’i chyfathrebiadau yn gwneud ymrwymiad clir i amrywiaeth.
  • Integreiddio dwyieithrwydd ym mhrosesau, gweithgareddau, polisïau a chyfathrebiadau'r blaid i hybu cynhwysiant a normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg.
  • Ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i ddiogelu ymgeiswyr rhag camdriniaeth, aflonyddu a bygythiadau a sicrhau diogelwch ymgeiswyr. Bwriad Llywodraeth Cymru yw gwneud treuliau sy'n gysylltiedig â diogelwch yn esempt rhag terfynau gwariant ymgeiswyr a phleidiau mewn pryd ar gyfer etholiad 2026, mewn ymateb i un o argymhellion adroddiad Comisiwn Moesgarwch Jo Cox.
  • Mae ymgeiswyr o grwpiau penodol fel arfer yn wynebu mwy o wahaniaethu, cam-drin a throseddau casineb nag eraill ac, o ganlyniad, gallant fod yn fwy amharod i ystyried sefyll mewn etholiad. Gall gwybod y byddant yn cael eu cefnogi a bod prosesau clir ar waith o fewn y blaid fod yn galonogol o dan yr amgylchiadau hyn. Dylai pleidiau wneud y canlynol:
    • Mabwysiadu dull gweithredu cadarn drwy sefydlu polisi a phroses effeithiol, gyson, dryloyw a hygyrch ar gyfer delio â chwynion am wahaniaethu neu gam-drin sy’n digwydd yn fewnol mewn plaid.
    • Sicrhau bod y broses yn darparu amserlenni clir, cyfrinachedd lle bo hynny'n briodol, a mecanwaith datrys anghydfodau strwythuredig i feithrin ymddiriedaeth ac atebolrwydd.
    • Hyfforddi staff ar bob lefel i reoli cwynion yn deg ac yn empathig, gan sicrhau bod pob aelod yn deall ei hawliau a'r gweithdrefnau.
  • Bod yn rhagweithiol wrth rannu canllawiau ac adnoddau ar ddiogelwch a chyfathrebu mewn ymgyrchoedd, gan gynnwys sut i fynd i'r afael ag aflonyddu, camdriniaeth a bygythiadau. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei chael yn ddefnyddiol cyfeirio at adnoddau sydd ar gael gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gymdeithas Llywodraeth Leol a Glitch, er enghraifft.
  • Cymryd camau rhagweithiol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol diweddar o dan Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 (Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith: canllawiau technegol ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).
  • Annog arferion gweithio hyblyg i alluogi pawb i gyfranogi a sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau yn hygyrch i bawb.

Diwylliant sefydliadol: manteision posibl

  • Adlewyrchu ymrwymiad y blaid, ar y lefel uchaf, i hybu amrywiaeth a chynhwysiant, a chael gwared ar rwystrau.
  • Dangos tryloywder, ymddiriedaeth ac atebolrwydd cyhoeddus.
  • Helpu i osod disgwyliadau clir a meithrin diwylliant mwy cynhwysol ar bob lefel yn y blaid, gan sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd a manteision amrywiaeth.
  • Grymuso rhwydweithiau yn y blaid i gynrychioli gwahanol fuddiannau; annog cyfranogiad llefarwyr o ystod eang o gefndiroedd sydd â phrofiadau bywyd gwahanol; helpu i sicrhau bod y rhwystrau sy’n wynebu pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn cael eu cyfleu a herio’r blaid i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’n gynhwysol.
  • Creu amgylchedd gwaith parchus a chroesawgar, a allai ddenu mwy o aelodau a staff amrywiol yn y dyfodol.
  • Addysgu staff am rwystrau a mathau o wahaniaethu a rhagfarn sy’n gallu bodoli (yn ymwybodol neu’n ddiarwybod), yr effaith y gall y rhain ei chael a sut i’w lleihau.
  • Dangos dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu, cam-drin, casineb at fenywod, homoffobia, hiliaeth neu ragfarn ar sail anabledd.
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor i aelodau'r blaid ac ymgeiswyr ynghylch sut y gallant helpu i ddiogelu eu hunain rhag aflonyddu, bygythiadau a chamdriniaeth.
  • Rhoi sicrwydd y bydd aelodau’r blaid ac ymgeiswyr yn cael eu cefnogi os byddant yn profi gwahaniaethu.

Asesu a dethol ymgeiswyr

Asesu a dethol ymgeiswyr: camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried

  • Sicrhau bod dull y blaid o ddethol ymgeiswyr yn hygyrch ac yn gynhwysol ar bob cam. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod paneli dethol yn amrywiol, bod aelodau’r panel dethol wedi cael hyfforddiant addas ar amrywiaeth a rhagfarn ddiarwybod a’u bod yn ymwybodol o'r Model Cymdeithasol o Anabledd [Troednodyn 1 ][Troednodyn 2], a bod y cyfweliadau dethol yn hygyrch i bawb.
  • Ystyried defnyddio prosesau recriwtio a dethol dienw i gael gwared ar ragfarn ddiarwybod.
  • Gofyn cwestiynau i ymgeiswyr sy’n uniongyrchol berthnasol i’w sgiliau neu i’r rôl, ac nid cwestiynau sy’n ymwneud â’u hamgylchiadau neu eu nodweddion personol.
  • Ystyried cymryd camau i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth drwy gefnogi unigolion o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i deimlo eu bod yn gallu a’u bod yn barod i gyflwyno eu hunain ar gyfer y broses ddethol. Gallai hyn gynnwys codi ymwybyddiaeth am y broses ddemocrataidd ymhlith grwpiau penodol ac ariannu rhwydweithiau a rhaglenni cymorth gan gymheiriaid ar gyfer pobl o grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
  • Ymgymryd â gweithgareddau allgymorth rhagweithiol i recriwtio ystod amrywiol o ddarpar ymgeiswyr. Defnyddio iaith glir (neu ieithoedd cymunedol lle byddai hyn o gymorth) i gyfathrebu â darpar ymgeiswyr fel bod pobl o bob cefndir, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan.
  • Bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch prosesau’r blaid ar gyfer diwydrwydd dyladwy mewn perthynas ag ymgeiswyr ac ynghylch trefniadau dethol y blaid, gan gynnwys y camau y mae’r blaid yn eu cymryd i wneud y trefniadau hyn yn hygyrch, yn wrthrychol, yn deg ac yn gynhwysol.
  • Bod yn agored ynghylch unrhyw feini prawf ar gyfer bod yn ymgeisydd, er enghraifft os oes gofyniad i berson fod wedi bod yn aelod o blaid am gyfnod penodol cyn y gall sefyll fel ymgeisydd.
  • Ystyried pa gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd fel rhan o drefniadau dethol y blaid i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth. Cofiwch, mae gweithredu cadarnhaol yn wirfoddol, ond os bydd pleidiau’n penderfynu cymryd camau o’r fath, rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 [Troednodyn 3 ]

Asesu a dethol ymgeiswyr: manteision posibl

  • Rhoi mwy o hyder i bobl a allai fod â diddordeb mewn sefyll (ond a allai fod â diffyg profiad neu hyder) fod ganddynt obaith realistig o gael eu dethol ac y byddant yn cael eu cefnogi gan y blaid.
  • Rhoi cefnogaeth i ddarpar ymgeiswyr yn ystod y broses ymgeisio.
  • Gallai amrywiaeth ar banel dethol helpu i sicrhau bod safbwyntiau amrywiol ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac mae’n lliniaru unrhyw risg bod rhagfarn neu wahaniaethu diwylliannol neu sefydledig yn parhau.
  • Mae’n dangos bod y blaid yn cydnabod gwerth ymgeiswyr sydd ag ystod eang o brofiadau, cefndiroedd a safbwyntiau – nid dim ond y rheini sydd â phrofiad blaenorol o’r blaid.
  • Mae mwy o dryloywder yn y broses ddethol yn debygol o arwain at fwy o ymddiriedaeth yn y broses.

Cymorth i ymgeiswyr

Cymorth i ymgeiswyr: camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried

  • Cyflwyno cyfleoedd mentora, hyfforddi a chysgodi i ddarpar ymgeiswyr. Gallai hyn fod ar ffurf cynllun ‘cyfaill’ wedi’i drefnu o fewn y blaid. Os nad oes cynlluniau o’r fath ar gael yn y blaid, efallai y bydd cynlluniau eraill y gallai’r blaid gyfeirio pobl atynt, er enghraifft:
  • Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal – a allai fod o fudd i unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn dod yn gynghorydd lleol neu’n Aelod o’r Senedd. Mae’r rhaglen hon yn cael ei harwain gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru a Stonewall Cymru. Ei nod yw cynyddu amrywiaeth y gynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.
  • Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth – a ddarperir gan Anabledd Cymru. Nod y prosiect hwn yw ennyn diddordeb mwy o bobl anabl mewn gwleidyddiaeth ac annog eu cyfranogiad yn y maes, gan gynnwys sefyll am swydd etholedig ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.
  • Elect Her – sy'n hwyluso rhwydweithiau ac yn darparu cyfleoedd ac adnoddau sydd â'r nod o gael mwy o fenywod i sefyll mewn etholiad.
  • Hyrwyddo unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael yn y blaid neu yn rhywle arall ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig penodol neu sydd o grwpiau ymylol, er enghraifft y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.
  • Egluro yn nogfennau’r blaid pa gostau ymgyrchu fydd yn cael eu talu gan y blaid.
  • Ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i gefnogi ymgeiswyr, er enghraifft ymgeiswyr, a allai fod angen addasiadau rhesymol neu a allai wynebu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â chludiant a hygyrchedd, gan nodi bod y costau hyn wedi’u heithrio rhag terfynau gwario ymgyrchoedd.
  • Dylid teilwra cymorth i ystyried y rhwystrau penodol sy'n wynebu gwahanol ymgeiswyr i helpu i alluogi cyfranogiad.
  • Ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i ddiogelu darpar ymgeiswyr ac ymgeiswyr sy'n profi camdriniaeth, bygythiadau neu wahaniaethu o'r tu allan i'w plaid, er enghraifft gan y cyfryngau, y cyhoedd, neu eraill. Dylai hyn gynnwys cefnogi ymgeiswyr i roi gwybod am gamdriniaeth a bygythiadau i awdurdodau priodol a chyfeirio ymgeiswyr at ffynonellau cymorth priodol, er enghraifft wefan Canolfan Cymorth Casineb Cymru.
  • Darparu cymorth ôl-ofal i ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddo i gael eu hethol i gynnal eu cymhelliant i barhau i fod yn rhan o wleidyddiaeth neu geisio cael eu hailenwebu.
  • Annog a chefnogi pob ymgeisydd yn gadarnhaol i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg beth bynnag fo'i gefndir neu ei lefelau hyfedredd, er mwyn hybu mwy o gynhwysiant.
  • Sicrhau bod dogfennaeth ar gael mewn fformatau hygyrch, er enghraifft Iaith Arwyddion Prydain, fersiwn Hawdd ei Deall neu Braille.

Gall pleidiau gwleidyddol ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eu dyletswyddau mewn perthynas ag addasiadau rhesymol yng nghod ymarfer statudol Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cymorth i ymgeiswyr: manteision posibl

  • Mae’n galluogi pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i gael gwybodaeth gan berson profiadol yn y blaid a/neu i ddysgu gan eraill sydd â’r un dyheadau ac sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
  • Ysbrydoli unigolion a’u gwneud yn fwy cyfarwydd â bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.
  • Mae’n darparu modelau rôl i feithrin y sgiliau, yr wybodaeth, yr hyder a’r awdurdod sydd eu hangen ar unigolion i sefyll mewn etholiad.
  • Cefnogi datblygiad a chynhwysiant pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn enwedig os ydynt yn teimlo y bydd y blaid yn cymryd camau i’w hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a’u bygwth.
  • Mae’n agor rhwydweithiau newydd i unigolion a gallai fod yn gam tuag at gyfleoedd newydd.
  • Mae’n galluogi unigolion i ddysgu gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o chwalu rhwystrau rhag cael eu hethol.
  • Sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt – naill ai gan y blaid neu o ffynonellau eraill.
  • Mae’n helpu i leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal pobl rhag cael eu hethol ac yn annog pobl o wahanol gefndiroedd i geisio cael swydd etholedig.
  • Mae mynd i’r afael â cham-drin, aflonyddu a bwlio yn hanfodol er mwyn cefnogi pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, a gwneud iddynt deimlo eu bod yn gallu cynnig eu hunain fel ymgeiswyr. Gall canllawiau ynghylch diogelwch a chyfathrebu mewn ymgyrchoedd, gan gynnwys canllawiau ynghylch y cyfryngau cymdeithasol, fod yn ddefnyddiol fel ffordd o sicrhau diogelwch ac atebolrwydd. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn dymuno nodi’r canllawiau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer ymgeiswyr gwleidyddol a phleidiau ar Ryddid Mynegiant a Thrafodaeth Barchus.

Cyhoeddi strategaeth – pryd ac ymhle

Dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi eu strategaethau mewn lle amlwg ac mewn fformatau hygyrch ar eu gwefannau er mwyn sicrhau tryloywder a gwelededd.

Fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (Diwygio ein Senedd Llais cryfach i bobl Cymru ar Senedd Cymru), dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi eu strategaethau o leiaf 6 mis cyn etholiad y Senedd yn 2026 i ddarparu tryloywder cynnar ac i sicrhau bod pleidleiswyr yn cael digon o wybodaeth am y strategaeth. Tra bo strategaeth fanylach yn cael ei datblygu, dylai pleidiau gwleidyddol ystyried a allant gyhoeddi Datganiad o Fwriad i ddangos eu hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant. O ran y strategaeth y mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu hannog i’w chyhoeddi cyn etholiad y Senedd yn 2026, bydd angen i bleidiau ddefnyddio gwybodaeth bresennol am amrywiaeth a chynhwysiant yn y blaid yn hytrach na gwybodaeth newydd am amrywiaeth yng nghyswllt ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd sy’n cael ei chasglu a’i chyhoeddi yn unol ag argymhelliad Rhan 2 o’r canllawiau hyn. Dylai pleidiau gwleidyddol wedyn geisio adolygu a diweddaru eu strategaethau yn barhaus cyn belled ag y bo modd cyn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Senedd yn y dyfodol (gan ddefnyddio'r wybodaeth am amrywiaeth sydd wedi'i chyhoeddi i lywio eu cynnwys).

Crynodeb o'r camau sy'n gysylltiedig â chyhoeddi ac adolygu strategaeth plaid wleidyddol

  1. Cyhoeddi'r strategaeth gychwynnol
  2. Etholiad y Senedd (2026)
  3. Cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr etholiadau'r Senedd
  4. Ystyried a oes angen diwygio'r i adolygu strategaeth a'i hailgyhoeddi yn sgil gwybodaeth am amrywiaeth y Senedd
  5. Etholiad Llywodraeth Leol (2027)
  6. Edrych ar ddata'r arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol
  7. Adolygu a diweddaru'r strategaethau barhaus
  8. Etholiadau Cymru yn y dyfodol

Defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth i helpu i ddatblygu strategaeth (gweler Rhan 2 am ragor o fanylion) 

Bydd yr wybodaeth am amrywiaeth a gesglir gan blaid wleidyddol yn bwysig wrth lunio ei strategaeth. Bydd yr wybodaeth hon yn tynnu sylw at unrhyw dangynrychiolaeth ac yn galluogi plaid wleidyddol i benderfynu ar y camau penodol i’w cynnwys yn y strategaeth i wella cynrychiolaeth. Gall gwybodaeth am amrywiaeth hefyd helpu pleidiau gwleidyddol i asesu pa mor llwyddiannus fu’r camau a gymerwyd i gynyddu amrywiaeth ac i ystyried y newidiadau sydd eu hangen.

Dull adolygu

Dylai’r pleidiau gwleidyddol adolygu’r strategaethau’n rheolaidd a’u diweddaru i adlewyrchu’r cynnydd (neu fel arall) o ran gwella amrywiaeth ymysg ymgeiswyr ac Aelodau etholedig mewn etholiadau lleol a chenedlaethol. Dros amser, dylai’r pleidiau adolygu pa mor dda y maent yn perfformio yn erbyn y camau yr ymrwymwyd iddynt yn flaenorol yn eu strategaeth, yn ogystal â’u hamcanion, eu targedau a’u Dangosyddion Perfformiad Allweddol. 

Dylai pleidiau gwleidyddol sicrhau eu bod yn gosod targedau wedi'u diffinio'n glir yn seiliedig ar feini prawf llwyddiant a gweithredu proses dryloyw sy'n weladwy i'r aelodau a'r etholwyr ehangach. Bydd hyn yn sicrhau bod pleidiau’n parhau i fod yn atebol am yr ymrwymiadau a wnaed i wella amrywiaeth.

Rhan 2: canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy’n ymwneud ag ymgeiswyr ac Aelodau etholedig

Diben

Diben y rhan hon o’r canllawiau yw helpu pleidiau gwleidyddol i gymryd camau i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Er bod Llywodraeth y DU wedi datgan ei hymrwymiad i gychwyn y darpariaethau yn adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gyhoeddi data dienw sy'n ymwneud ag amrywiaeth eu hymgeiswyr mewn etholiadau perthnasol, nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu'n eang ar hyn o bryd. Nid yw'r prosesau presennol yn dryloyw nac yn gyson, sy’n ei gwneud yn anodd asesu amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol i’r Senedd ac fel Aelodau o’r Senedd.

Bwriad y rhan hon yw ategu Rhan 1 o’r canllawiau, sy’n annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol.

Beth rydyn ni'n ei olygu wrth wybodaeth amrywiaeth

Yn y cyd-destun hwn, mae gwybodaeth am amrywiaeth yn golygu gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â nodweddion neu amgylchiadau personol unigolyn (gweler y nodweddion a’r amgylchiadau penodedig a restrir yn y cyflwyniad i’r canllawiau hyn) y gall pleidiau gwleidyddol eu casglu am ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau yn etholiadau’r Senedd.

Gellir casglu’r wybodaeth drwy arolwg a drefnir gan y blaid wleidyddol. Mae rhai pleidiau gwleidyddol eisoes yn casglu’r wybodaeth hon, ond nid yw’n cael ei chyhoeddi fel mater o drefn o ran ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd, ac ar hyn o bryd nid yw’r broses yn dryloyw.

Gall yr wybodaeth hon helpu pleidiau gwleidyddol i ddeall yr hyn y gallant ei wneud ac y mae angen iddynt ei wneud i fod yn rhan o’r uchelgais o gael Senedd fwy amrywiol sy’n cynrychioli’r bobl y mae yma i’w gwasanaethu. Mae ganddi hefyd y potensial i alluogi sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, sefydliadau’r trydydd sector, a phleidiau gwleidyddol eu hunain, i nodi camau i gefnogi grwpiau penodol neu ddileu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Dulliau casglu: sut a phryd i gasglu data

Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio’r arolwg templed sydd wedi’i gynnwys yn nes ymlaen yn yr adran hon i gasglu gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Mae defnyddio’r un cwestiynau yn creu cysondeb o ran yr hyn sy’n cael ei ofyn ac, o ganlyniad, yr wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n caniatáu inni gymharu etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.

Dylai pleidiau gwleidyddol ystyried y dulliau canlynol wrth gasglu a chrynhoi gwybodaeth am amrywiaeth:

  • gofyn i ddarpar ymgeiswyr lenwi arolwg, yn wirfoddol, fel rhan o’u cais i ddod yn ymgeisydd. Mae'n debygol mai dyma’r amser gorau o ran cael cyfradd ymateb uchel
  • esbonio diben casglu’r wybodaeth a phwysleisio y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chyhoeddi’n ddienw er mwyn diogelu preifatrwydd unigolion
  • a oes modd i’r wybodaeth a gesglir gael ei dadgyfuno’n grwpiau ar wahân i’w chyhoeddi? Dylai pleidiau gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ar gyfer ‘pob ymgeisydd’ a chyhoeddi’r un wybodaeth ar wahân ar gyfer ymgeiswyr ‘llwyddiannus’ ac ‘aflwyddiannus’ lle bo hynny'n bosibl heb adnabod unigolion
  • a yw’n bosibl cyhoeddi gwybodaeth am gyfran yr ymgeiswyr sy’n rhannu mwy nag un nodwedd, e.e. cyfuniad o oedran a rhyw fel un categori, a rhyw ac anabledd fel categori ar wahân lle bo hynny'n bosibl heb adnabod unigolion?
  • bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau'r pleidiau o dan ddeddfwriaeth diogelu data sy'n rheoleiddio'r defnydd o ddata personol ac ystyried canllawiau ar dechnegau, meincnodi a gwyddor data i wella cymharedd a chydlyniad ystadegau. Darperir canllawiau pellach yn yr adran nesaf ar gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data
  • darparu cymorth i ymgeiswyr i ymateb i'r arolwg. Gall hyn gynnwys ystyried sut i oresgyn unrhyw rwystrau iaith neu ganllaw atodol er mwyn helpu i ddeall cwestiynau'r arolwg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ymatebion a data cywir

Diogelu Data

Wrth gynnal yr arolwg a chrynhoi'r wybodaeth, mae angen i bleidiau gwleidyddol gofio eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data (gan gynnwys GDPR y DU) sy'n rheoleiddio'r defnydd o ddata personol a'r camau y mae'n rhaid eu dilyn i sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Gall y camau hyn gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cynnal Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data, nodi sail gyfreithlon briodol ar gyfer prosesu, a darparu Hysbysiad Preifatrwydd ochr yn ochr ag unrhyw arolwg y gofynnir i unigolion ei lenwi. Dylai pleidiau ofyn am gyngor gan eu Swyddog Diogelu Data fel y bo'n briodol. Os nad yw'r blaid wedi penodi swyddog o'r fath, dylent ystyried gofyn i rywun yn y blaid arwain ar faterion diogelu data.

Rydym wedi gweithio gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i nodi ffynonellau canllawiau defnyddiol i gefnogi pleidiau gwleidyddol i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr. 

Os ydynt yn chwilio am drosolwg o'r egwyddorion a'r ystyriaethau sylfaenol, efallai y bydd yn ddefnyddiol i bleidiau gwleidyddol ddarllen cyngor ar gyfer sefydliadau bach ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Dyma rai awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar gwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Ddiogelu Data, nodi'r seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu'r wybodaeth a datblygu Hysbysiadau Preifatrwydd:

Mae gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn adnodd defnyddiol ar gyfer cyngor ar gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i bleidiau gwleidyddol ofyn am gyngor cyfreithiol ar gydymffurfiaeth mewn perthynas â'u hamgylchiadau penodol.

Cyhoeddi gwybodaeth

Dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiaeth yn amlwg ar eu gwefannau o fewn 6 wythnos i ddyddiad pob etholiad y Senedd. Bydd sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn gynnar ar ôl etholiad 2026, yn benodol, yn sicrhau bod yr wybodaeth werthfawr hon ar gael i’r Senedd ac i eraill a allai fod yn dymuno asesu i ba raddau y mae’r Seithfed Senedd yn cynrychioli pobl Cymru.

Fel y nodwyd uchod, lle bo modd, dylai pleidiau gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ‘pob ymgeisydd’ ar gyfer yr etholiad perthnasol a chyhoeddi’r un wybodaeth ar wahân mewn perthynas ag ymgeiswyr ‘llwyddiannus’ ac ‘aflwyddiannus’. Wrth gyhoeddi data eu hymgeiswyr, bydd angen i bleidiau gwleidyddol fod yn ofalus nad yw’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n golygu bod modd adnabod unrhyw ymgeisydd unigol. Dylai pleidiau gwleidyddol fod yn ymwybodol y gallai’r risg y bydd unigolion penodol yn cael eu hadnabod gynyddu wrth i wybodaeth gael ei dadgyfuno neu ei chyflwyno ar sail groestoriadol.

Mae canllawiau ar anhysbysu a chyfrinachedd data ar wefan Analysis Function ar gael a allai fod o gymorth i sefydliadau sydd angen troi data personol yn ddata dienw. Mae canllawiau'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar anonymeiddio yn esbonio sut i gynnal cyfrinachedd data wrth wneud y data mor ddefnyddiol â phosibl.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i bleidiau gwleidyddol wybod bod gwybodaeth sy'n ymwneud ag ymgeiswyr llywodraeth leol yng Nghymru eisoes yn cael ei chasglu a'i chyhoeddi.

Sut y dylid defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth i lunio strategaeth

Bydd yr wybodaeth gychwynnol am amrywiaeth a gaiff ei chasglu, ei chrynhoi a’i chyhoeddi gan bleidiau gwleidyddol yn allweddol i alluogi pleidiau gwleidyddol i ddeall yn well i ba raddau y mae eu hymgeiswyr i’r Senedd yn cynrychioli poblogaeth ehangach Cymru. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg cyntaf yn ffurfio gwaelodlin i asesu cynnydd yn y dyfodol.

Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio’r wybodaeth hon i asesu pa grwpiau o bobl sy’n cael eu tangynrychioli, neu sy’n wynebu rhwystrau rhag bod yn ymgeisydd neu rhag cael eu hethol. Gellir defnyddio’r wybodaeth i nodi strategaethau neu gamau gweithredu y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i ddileu neu leihau’r rhwystrau hynny wrth symud ymlaen, a’u cofnodi yn strategaethau’r pleidiau.

Dylid adolygu strategaethau’n rheolaidd i ystyried y cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth dros amser, yn ogystal ag ymchwil a thystiolaeth arall sy’n berthnasol i ddeall pam y mae rhai pobl yn llai tebygol o ymgeisio am swydd etholedig neu o fynd i swydd etholedig, neu’n llai llwyddiannus o ran cael eu hethol. 

Gellir defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth hefyd i asesu pa mor effeithiol fu’r strategaeth a’r camau a gymerwyd hyd yma, ac i alluogi pleidiau i addasu, mireinio neu ehangu eu dull gweithredu.

Cynnwys yr arolwg

Mae arolwg templed wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, a dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio hwn yn sail i’w harolwg o ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd.

Mae’r arolwg templed yn cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig yn fras ar yr Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol a safonau wedi'u cysoni i sicrhau cysondeb ac i alluogi cymharu ar lefel leol a chenedlaethol.

Sylwer bod rhai cwestiynau wedi cael eu cynnwys nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â nodweddion gwarchodedig er mwyn cyd-fynd â’r arolwg cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y ffordd orau o sicrhau cysondeb rhwng arolygon a safonau wedi'u cysoni ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd yn y dyfodol.

Ymgeiswyr y Senedd: arolwg amrywiaeth (templed)

Rhan 3: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod.

Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a gyflwynodd adroddiad yn 2022 bod:

pwyllgor perthnasol yn ystyried sut y gellir gwneud rhagor o waith i ystyried rhinweddau a goblygiadau cwotâu amrywiaeth deddfwriaethol ar gyfer nodweddion ar wahân i rywedd

Argymhellodd hefyd ar gyfer y nodweddion eraill hyn y byddai’n fwy priodol canolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar wella’r wybodaeth sydd ar gael am lefelau presennol cynrychiolaeth ymysg y grwpiau hyn ac am y camau gweithredu y mae pleidiau gwleidyddol yn eu cymryd i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant [Troednodyn 4].

Yn unol ag argymhellion adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, mae Rhan 1 o’r canllawiau hyn yn darparu awgrymiadau ar gyfer camau gweithredu i bleidiau gwleidyddol eu hystyried er mwyn cynyddu amrywiaeth cynrychiolwyr etholedig ar draws ystod eang o nodweddion ac amgylchiadau. Mae Rhan 2 yn rhoi cyngor ymarferol ar sut y gall pleidiau gwleidyddol gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr, er mwyn darparu sail glir ar gyfer pennu eu nodau tymor hwy a chynllunio pa gamau gweithredu a allai fod fwyaf priodol ac effeithiol o ran cynyddu cynrychiolaeth y grwpiau hyn.

Gallai camau gweithredu cadarnhaol ar gyfer y nodweddion ehangach hyn fod yn rhywbeth y mae pleidiau gwleidyddol yn dymuno ei ystyried [Troednodyn 5], ond mae Rhan 1 o’r canllawiau hyn [Troednodyn 6] yn nodi rhai camau pwysig y gall pob plaid wleidyddol eu cymryd i ddeall beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd o ran cynrychiolaeth ymysg y nodweddion hyn ac i ddileu rhai o’r rhwystrau hysbys sy’n atal y grwpiau hyn rhag cymryd rhan.

Cynrychiolaeth rhywedd a pham ei bod yn bwysig

Mae cynrychiolaeth rhywedd, yn enwedig yn y Senedd, wedi cael ei harchwilio’n fanylach gan amrywiol baneli a phwyllgorau arbenigol dros y blynyddoedd diwethaf. Un o’r rhesymau dros hyn yw bod rhywedd ymgeiswyr yn fwy amlwg na nodweddion ac amgylchiadau eraill a bod tueddiadau o ran cynrychiolaeth rhywedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 wedi’u cofnodi’n dda.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Senedd sy’n gytbwys o ran rhywedd ac mae’n dymuno gweithio gydag eraill i gyflawni’r uchelgais hon nawr ac yn y dyfodol. Llwyddodd y Senedd i sicrhau cydbwysedd rhywedd ymysg ei Haelodau yn 2003. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i rai pleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu camau gwirfoddol i gynyddu cynrychiolaeth menywod, gan gynnwys cwotâu. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen gwneud mwy er mwyn i’r Senedd adlewyrchu’n fras gyfansoddiad rhywedd y boblogaeth yn y dyfodol.

Mae manteision o gael mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth, o ran y materion penodol y mae menywod yn tueddu i ymgysylltu â nhw a'r safbwyntiau y maent yn eu cyflwyno i ymdrin â'r materion hynny, ac o ran sut y maent yn gweithio gydag eraill tuag at sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl y maent yn eu cynrychioli. Ar wahân i bwysigrwydd amlwg sicrhau bod modelau rôl ar gael ar gyfer menywod a merched eraill mewn swyddi o bŵer a dylanwad, mae ymchwil (Arweinwyr gwleidyddol benywaidd: effaith rhywedd ar ddemocratiaeth ar Kings College London) yn dangos bod menywod yn tueddu i ganolbwyntio ar feysydd polisi sy’n gysylltiedig, er enghraifft, â gofal iechyd, tlodi, hawliau menywod, addysg, y teulu a chymdeithas sifil. Yn ogystal, gallant ddod â phersbectif gwahanol i feysydd polisi sy'n cael eu hystyried yn rhai gwrywaidd yn draddodiadol, fel diogelwch a threth (Cynrychiolaeth Sylweddol Menywod: Achos y Gostyngiad TAW ar Gynhyrchion Glanweithdra ar Oxford Academic).

Gall menywod hefyd gael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant mewn deddfwrfeydd, gan hybu (Arweinwyr gwleidyddol benywaidd: effaith rhywedd ar ddemocratiaeth ar Kings College London) ffyrdd penodol o weithio, a chydweithio (Sut mae cwotâu rhyw etholiadol yn effeithio ar bolisi? ar Annual Reviews) ar draws y rhaniad gwleidyddol ar feysydd o ddiddordeb cyffredin. Gallant gael effaith gadarnhaol ar leihau hierarchaethau o fewn sefydliadau a gwthio cyrff democrataidd i fabwysiadu polisïau ac arferion mwy cynhwysol sy'n galluogi Aelodau etholedig i gydbwyso eu rôl wleidyddol yn well â chyfrifoldebau eraill fel dyletswyddau gofalu neu fagu plant (Effaith Arweinyddiaeth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a Gwneud Penderfyniadau Gwleidyddol ar UN Women).

Gall twf yn nifer y menywod sy'n wleidyddion (Gwleidyddiaeth Presenoldeb ar Oxford University Press) adfywio a chryfhau cyfreithlondeb cyrff democrataidd. Er enghraifft, mae tystiolaeth bod diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymhlith pleidleiswyr benywaidd yn cynyddu pan fydd mwy o fenywod yn ymgeiswyr ac Aelodau etholedig (Pŵer i'r bobl? Mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn awdurdodau cyfunol a llywodraeth leol ar IPPR).

Sut y gellir cynyddu cynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth?

Mae Rhan 1 o'r canllawiau hyn yn cyfeirio at daith nodweddiadol ymgeiswyr ac yn awgrymu mesurau y gall pleidiau gwleidyddol eu cymryd i wneud eu plaid, a gwleidyddiaeth yn fwy cyffredinol, yn rhywle lle mae menywod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u cefnogi. Yn hanesyddol, mae nifer y menywod sy’n sefyll i gael eu hethol yng Nghymru wedi bod yn isel. Yn 2021, er enghraifft, dim ond 31% o ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd oedd yn fenywod (Etholiad y Senedd yn 2021: Papur briffio ar Senedd Cymru).

Gallai enghreifftiau o ymyriadau gan bleidiau gwleidyddol a allai fod yn arbennig o effeithiol wrth ddenu mwy o fenywod i sefyll gynnwys:

  • gweithgareddau allgymorth cynnar wedi'u hanelu at grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a hwylusir o bosibl drwy bartneriaethau â sefydliadau sy'n eirioli dros amrywiaeth a chydraddoldeb rhywedd. Gallai'r gweithgareddau hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu o brofiadau bywyd pobl a gellir eu targedu at grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu a allai fod yn wynebu anfanteision croestoriadol
  • polisïau ac arferion gweithio hyblyg ac sy'n ystyriol o deuluoedd
  • prosesau a deunyddiau ymgeisio sy'n glir, yn hygyrch ac yn gynhwysol
  • rhaglenni hyfforddi, mentora, rhwydweithio ac arwain i fenywod
  • rheolau, polisïau a phrosesau clir gan bleidiau sy'n ceisio atal aflonyddu, ymddygiad bygythiol a thrais a hyfforddiant/canllawiau ar ddiogelwch mewn ymgyrchoedd
  • amrywiaeth a chydraddoldeb rhywedd gweladwy ymhlith swyddi mewnol gan bleidiau ar bob lefel, yn ogystal ag ymhlith ymgeiswyr ac Aelodau etholedig

Cwotâu rhywedd

Yn ogystal â recriwtio mwy o fenywod, dylai pleidiau gwleidyddol ystyried sut y gallant gefnogi’r broses o ethol yr ymgeiswyr hyn i sicrhau bod y Senedd, a phobl Cymru, yn elwa ar amrywiaeth eang o safbwyntiau, galluoedd a sgiliau. Dyma lle gallai cwotâu rhywedd gwirfoddol fod yn ddefnyddiol (Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf ar Senedd Cymru).

Defnyddir cwotâu rhywedd mewn dros 130 o wledydd ledled y byd fel mecanwaith i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn sefydliadau democrataidd. Mewn rhai gwledydd, er enghraifft Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Belg a Sbaen, mae gofynion cyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol i weithredu cwotâu fel rhan o'r broses ar gyfer cyflwyno ymgeiswyr ar gyfer etholiad. Mewn gwledydd eraill, er enghraifft Sweden, Gwlad yr Iâ a Seland Newydd, mae cwotâu rhywedd yn wirfoddol ac yn ffurfio rhan o werthoedd craidd, statud neu gyfansoddiad pleidiau gwleidyddol. Mae cwotâu gwirfoddol ar eu mwyaf effeithiol pan fo ymrwymiad gan yr holl bleidiau a gynrychiolir i'w defnyddio.

Er bod gan wahanol wledydd gyfreithiau cydraddoldeb gwahanol y mae'n rhaid iddynt weithredu oddi tanynt, mae cwotâu rhywedd serch hynny yn offeryn cyffredin yn y cyd-destun rhyngwladol ac yn aml mae ganddynt y potensial nid yn unig i gynyddu cynrychiolaeth menywod ond hefyd i gynyddu amrywiaeth ymgeiswyr yn ehangach, gan nad yw menywod yn grŵp unffurf, ac mae hunaniaethau pobl yn aml yn amlddimensiwn.

Beth all pleidiau gwleidyddol ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd?

Gan fod nifer y dynion sy’n ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd fel arfer yn fwy na nifer y menywod, os na fydd pleidiau gwleidyddol yn gweithredu, mae perygl y bydd y duedd gyffredinol o anghydbwysedd rhywedd yn parhau yn ein senedd genedlaethol. Mae risg benodol y gallai ehangu’r Senedd yn sylweddol, gan gynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96, arwain at fwy o anghydbwysedd rhywedd nag ar hyn o bryd.

Dylai pleidiau gwleidyddol ystyried unrhyw gamau pellach y gallent eu cymryd, gan gynnwys gweithredu cwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod, gyda’r bwriad o sicrhau cydbwysedd rhywedd ymysg eu hymgeiswyr sy’n cael eu hethol i’r Senedd. Gallai gweithredu cwotâu gwirfoddol arwain at gydbwysedd rhywedd yn y Senedd sy’n adlewyrchu’r boblogaeth yn well ac, yn ei dro, gallai wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol.

Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r canllawiau, mae pleidiau gwleidyddol yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys unrhyw rwymedigaethau perthnasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnwys darpariaeth i ganiatáu mathau penodol o gamau gweithredu cadarnhaol a fyddai fel arall yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni. Cyfeirir at adran 158 yn Rhan 1 uchod. Mae Rhan 7 o'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cymdeithasau gan gynnwys pleidiau gwleidyddol. Mae adran 104 yn y rhan honno ac y cyfeirir ati isod, yn ddarpariaeth arall sy'n caniatáu math penodol o gamau gweithredu cadarnhaol mewn perthynas â phobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig.

Dylai pleidiau nodi, wrth gymryd unrhyw gamau gweithredu cadarnhaol yn dibynnu ar y darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010, y byddant yn rhwym wrth y diffiniadau sy'n berthnasol at ddibenion y Ddeddf honno. Mater i'r pleidiau gwleidyddol yw sicrhau bod unrhyw gamau y maent yn eu cymryd yn gyfreithlon.

Adran 104

Mae adran 104 [Troednodyn 7] o'r Ddeddf Cydraddoldeb yn caniatáu i bleidiau gwleidyddol cofrestredig wneud trefniadau mewn perthynas â dethol ymgeiswyr i'w hethol at ddibenion lleihau anghydraddoldeb o ran cynrychiolaeth pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol mewn cyrff etholedig, ond rhaid i'r camau a gymerir fod yn ffordd gymesur o gyflawni'r dibenion hynny.

Nid yw'r trefniadau dethol a ganiateir gan adran 104 yn cynnwys llunio rhestr fer o'r unigolion sy'n rhannu'r un nodwedd warchodedig yn unig (Adran 104(6)) oni bai pan fo'r nodwedd warchodedig yn rhyw (Adran 104(7). Fodd bynnag, dylid nodi y bydd y ddarpariaeth sy'n caniatáu rhestrau byr un rhyw yn cael eu diddymu'n awtomatig ar ddiwedd 2030 (Adran 105(1)).

Nodweddion gwarchodedig yw'r nodweddion hynny a ddiffinnir fel nodweddion gwarchodedig at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (Adran 4). Yng nghyd-destun cwotâu rhywedd y nodwedd warchodedig berthnasol yw rhyw (ar legislation.gov.uk) ac mae'r termau dyn a menyw (ar legislation.gov.uk) a ddefnyddir yn y diffiniad o'r nodwedd warchodedig honno ac a ddiffinnir yn y Ddeddf yn berthnasol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau i gymdeithasau, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, ar yr hyn y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei olygu iddynt (Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Cod Ymarfer ar Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

Etholiadau'r Senedd 2026 a thu hwnt

Efallai y bydd angen i bleidiau gwleidyddol adolygu a diwygio eu trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd sydd wedi’u trefnu ar gyfer 2026 a’r dyfodol o ystyried newidiadau i’r system bleidleisio. Wrth wneud hynny, dylent ystyried a allant, yn eu hamgylchiadau nhw, ymgorffori darpariaethau ynghylch cynnwys a lleoli ymgeiswyr benywaidd ar eu rhestrau ymgeiswyr a beth ddylai unrhyw ddarpariaethau o’r fath fod. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol hefyd yn dymuno ystyried a yw grwpiau eraill o bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn cael eu tangynrychioli ymhlith eu cynrychiolwyr etholedig (os oes ganddynt yr wybodaeth honno) ac, os felly, pa gamau y gallent eu cymryd i fynd i'r afael â hyn gan gynnwys camau y gallent eu cymryd yn dibynnu ar adran 104 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Wrth ddylunio unrhyw brosesau dethol gyda’r nod o gynyddu cynrychiolaeth menywod, dylai pleidiau gwleidyddol ystyried y ffactorau canlynol gan eu bod yn cael eu cydnabod yn eang fel y tri dimensiwn pwysig sy’n ffurfio cwota effeithiol ar gyfer system bleidleisio gyfrannol ‘rhestr gaeedig’, sef:

  1. trothwy cynrychiolaeth: mae hyn yn gosod isafswm o fenywod sy’n ymgeiswyr ar gyfer rhestrau ymgeiswyr plaid, er enghraifft, o leiaf 50% o fenywod ar bob rhestr ymgeiswyr [Troednodyn 8]
  2. meini prawf fertigol: meini prawf ar gyfer lleoli menywod ar restr ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, er enghraifft, gosod menywod mewn swyddi am yn ail ar y rhestr
  3. meini prawf llorweddol: meini prawf o ran cyfran y rhestrau lle bo menyw yn y safle cyntaf neu yn yr unig safle ar y rhestr e.e. sicrhau bod o leiaf hanner rhestrau ymgeiswyr plaid ledled Cymru yn dechrau gyda menyw

Mae’r elfennau uchod yn gweithio’n dda ar gyfer system statudol o gwotâu, sy’n gorfod bod yn berthnasol i bob plaid, beth bynnag fo’i hamgylchiadau a chyfran y cynrychiolwyr mewn corff etholedig. Mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu sut i ymdrin â’r mater hwn gan ystyried eu hamgylchiadau penodol, gan gynnwys eu hasesiad o’r safleoedd mwy ffafriol ar eu rhestrau. Roedd rhai o’r sefydliadau a gyflwynodd dystiolaeth (SCECLB2 – P Electoral Reform Society Cymru on Senedd Cymru) wrth graffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi ymgeiswyr benywaidd mewn safleoedd sydd, ym marn y pleidiau, yn rhai ffafriol ar restrau ymgeiswyr. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn dymuno ystyried trefniadau wedi’u targedu’n well, gan ddefnyddio’r elfennau uchod ac yn dibynnu ar eu hamgylchiadau penodol.

Fel canllaw, gall fod o gymorth i bleidiau gwleidyddol wybod bod rhestrau ymgeiswyr sydd wedi’u trefnu yn y ffordd fertigol ganlynol (h.y. rhestr am yn ail gyda menyw yn y safle cyntaf ac yna am yn ail) yn cael eu hystyried yn fwy tebygol o arwain at grŵp o Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli cyfran y menywod yn y boblogaeth gyffredinol.

Dylai pleidiau gwleidyddol hefyd ystyried a ddylid cael meini prawf llorweddol, yn ogystal â meini prawf fertigol. Os yw pob rhestr ymgeiswyr yn dechrau gyda dyn a’i bod wedyn yn eu rhestru am yn ail, oni bai fod y blaid yn ennill nifer gyfartal o seddi (neu ddim seddi) ym mhob etholaeth, bydd mwy o ddynion o lawer yn cael eu hethol fel Aelodau o’r Senedd ar gyfer plaid na menywod. Felly, gall y safle llorweddol fel yr eglurir yn (3) hefyd fod yn bwysig o ran sicrhau grŵp o Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli cyfran y menywod yn y boblogaeth gyffredinol.

Enghraifft o restr lawn o 8 ymgeisydd sydd wedi’u rhestru am yn ail gyda menyw yn y safle cyntaf

  • Safle 1: Menyw
  • Safle 2: Dyn
  • Safle 3: Menyw
  • Safle 4: Dyn
  • Safle 5: Menyw
  • Safle 6: Dyn
  • Safle 7: Menyw
  • Safle 8: Dyn

Dylai pleidiau gwleidyddol ystyried a ydynt efallai am ddangos eu hymrwymiad i gwotâu gwirfoddol mewn ffyrdd sy'n galluogi atebolrwydd am eu camau gweithredu, er enghraifft drwy gyhoeddi strategaethau yn gynnar, neu drwy siarteri neu gyfansoddiadau pleidiau.

Troednodiadau

[1] Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n gwahaniaethu rhwng 'amhariad' ac 'anabledd' mewn ffordd bwysig. Mae'n cydnabod bod pobl ag amhariadau yn cael eu hanablu gan rwystrau sy'n bodoli'n gyffredin mewn cymdeithas ac sy'n gallu atal pobl anabl rhag cymryd rhan a chael eu cynnwys ym mhob rhan o fywyd. Mae'r arolwg templed yn Rhan 2 yn esbonio sut y mae un o gwestiynau'r arolwg sy'n ymwneud ag anabledd/cyflyrau iechyd yn cael ei eirio'n wahanol o dan y Model Cymdeithasol o Anabledd a sut y gall pleidiau ystyried defnyddio cwestiwn gwahanol os ydynt yn dymuno dynodi a oes gan berson anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

[2] Mewn perthynas â nodwedd warchodedig anabledd, mae adran 13(3) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu nad yw trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw'n anabl yn gyfystyr â gwahaniaethu.

[3] Mae adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys darpariaeth gyffredinol ar gyfer gweithredu cadarnhaol sy'n caniatáu i bleidiau gwleidyddol gymryd camau i liniaru anfantais a brofir gan bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig, lleihau eu tangynrychiolaeth mewn perthynas â gweithgareddau penodol a diwallu eu hanghenion penodol. Bydd angen i bleidiau gwleidyddol fodloni eu hunain bod unrhyw fesurau o'r fath yn ffordd gymesur o gyflawni'r nod perthnasol. Os bydd pleidiau gwleidyddol wedi cymryd mesurau yn dibynnu ar adran 104 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (gweler Rhan 3 o'r canllawiau hyn), mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi y bydd y darpariaethau hynny'n gymwys yn hytrach nag adran 158.

[4] Rhywedd yw'r term a ddefnyddir yn y canllawiau hyn a chan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, a'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Mae 'cwotâu rhywedd' yn ymadrodd a ddefnyddir yn helaeth i ddisgrifio system cwotâu etholiadol er mwyn cynyddu cynrychiolaeth menywod mewn sefydliadau gwleidyddol. Yng nghyd-destun unrhyw gamau a gymerir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae 'rhywedd' yn gyfeiriad at nodwedd warchodedig 'rhyw' o fewn ystyr y Ddeddf honno.

[5] Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn gweld bod Rhan 1 o ganllaw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i bleidiau gwleidyddol ar y Ddeddf Cydraddoldeb (ar Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynob) yn ddefnyddiol wrth ystyried pa gamau cadarnhaol y gallant eu cymryd yn eu prosesau dethol i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol.

[6] Gweler Rhan 1 mewn cysylltiad ag asesu a dethol ymgeiswyr, a chymorth yn dibynnu ar y ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer gweithredu cadarnhaol a geir yn adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010

[7] Os bydd pleidiau gwleidyddol wedi cymryd mesurau yn dibynnu ar adran 104 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, mae'r Ddeddf yn nodi y bydd y darpariaethau hynny'n gymwys yn hytrach nag adran 158 (adran 158(4)).

[8] Trothwy gofynnol o 50% oedd y model a gynigiwyd ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a dynnwyd yn ôl yng Nghyfnod 2. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Pwyllgor y Bil Diwygio.