Canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig: asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
Sut fydd y canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn effeithio ar bobl gyda nodweddion gwarchodedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Sut bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb?
Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i gyd wedi galw am fesurau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli’r bobl mae’n eu gwasanaethu’n well.
Dywedodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020 ei fod, drwy gydol ei ymchwiliad, wedi clywed dadleuon darbwyllol am fanteision amrywiaeth ymysg cynrychiolwyr etholedig, gan fynd ymlaen i argymell y canlynol: ‘Dylai pleidiau gwleidyddol sy’n ymladd etholiadau’r Senedd baratoi a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant sy’n asesu amrywiaeth a chynhwysiant eu diwylliant, eu prosesau, eu ffyrdd o weithio a’u cynrychiolaeth, a nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gynyddu amrywiaeth eu haelodaeth, ymgeiswyr ac Aelodau etholedig’ (Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf on Senedd Cymru). Daeth yr un pwyllgor i’r casgliad er bod ‘y Senedd wedi perfformio’n gymharol gryf o ran cynrychiolaeth gytbwys o ran rhywedd, bod prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd’, ac argymhellodd y dylai ‘pleidiau gwleidyddol fynd ati’n wirfoddol i gasglu, anonymeiddio a chyhoeddi data am amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd’.
Bwriad y canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant yw cefnogi pleidiau gwleidyddol cofrestredig gyda’r canlynol:
- datblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig, a’u hadolygu’n rheolaidd
- cymryd camau i gasglu, trefnu a chyhoeddi gwybodaeth wedi’i hanonymeiddio am amrywiaeth ar gyfer ymgeiswyr y Senedd
- ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru
Bydd y canllawiau, os ydynt yn cael eu gweithredu gan bleidiau gwleidyddol, yn helpu i hyrwyddo cydraddoldeb drwy:
- gwell tryloywder ynghylch y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd, neu sy’n cael eu cynllunio, gan bleidiau gwleidyddol: ar hyn o bryd, fawr iawn o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am strategaethau pleidiau gwleidyddol, ac yn benodol sut maen nhw’n bwriadu gweithredu i wella amrywiaeth ymysg darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd. Drwy gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, byddai pleidiau gwleidyddol yn fwy tryloyw ynghylch yr hyn maen nhw’n ei wneud i hyrwyddo amrywiaeth ymysg eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau Cymru, a sut y gallent helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn etholiadau Cymru.
- gwell wybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr y Senedd: bydd unrhyw wybodaeth sydd wedi’i hanonymeiddio y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei chyhoeddi am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd yn ategu gwybodaeth a gyhoeddir am ymgeiswyr llywodraeth leol gan ddefnyddio’r broses bresennol a sefydlwyd drwy Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Os cyhoeddir yr wybodaeth hon gan bleidiau gwleidyddol, bydd yn helpu darparu darlun cyfannol o gynrychiolaeth ar draws etholiadau datganoledig yng Nghymru yn hytrach na llywodraeth leol neu’r Senedd ar ei phen ei hun. Gellid defnyddio’r wybodaeth hon wedyn i lywio penderfyniadau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wella cynrychiolaeth ar lefel Cymru gyfan.
- gwell tebygolrwydd o gael Senedd gytbwys o ran y rhywiau o 2026 ymlaen: os yw pleidiau gwleidyddol yn gallu gweithredu cwotâu rhywedd yn wirfoddol, mae’n fwy tebygol bod cyfran y menywod sy’n cael eu hethol i’r Senedd yn adlewyrchu cyfran poblogaeth Cymru yn fras
Trafodwyd effeithiau posibl y canllawiau (cadarnhaol a negyddol) gydag ystod o randdeiliaid perthnasol fel rhan o weithgarwch ymgysylltu cychwynnol i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft a nodwyd effeithiau pellach yn ystod yr ymarfer ymgynghori ei hun.
Gan ystyried amcan cyffredinol y canllawiau, sef ceisio sicrhau cyrff etholedig mwy cynrychioliadol ac effeithiol yng Nghymru, ystyrir bod gan y cynnig y potensial i gyfrannu’n gadarnhaol at y canlynol:
- dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth a gweithgarwch anghyfreithlon
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig berthnasol
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig berthnasol
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft yn gefnogol o nodau ac amcanion cyffredinol y canllawiau ar y cyfan ac yn credu bod cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn etholiadau Cymru yn hanfodol er mwyn adeiladu a chynnal democratiaeth iach yng Nghymru. Ar y llaw arall, roedd lleiafrif yn credu y byddai canolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant yn arwain at erydu ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein cyrff etholedig a hefyd yn arwain at lai o gyfranogiad gwleidyddol.
Beth yw’r effeithiau negyddol posibl ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig a’r rhai sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel a sut byddwch chi’n lliniaru’r rhain?
Wrth gyhoeddi data eu hymgeiswyr, bydd angen i bleidiau gwleidyddol fod yn ofalus nad yw’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n golygu bod modd adnabod unrhyw ymgeisydd unigol. Bydd angen iddynt fod yn ystyriol bod y risg y bydd unigolion penodol yn cael eu hadnabod yn cynyddu wrth i wybodaeth gael ei dadgyfuno neu ei chyflwyno ar sail groestoriadol. Roedd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn poeni am y posibilrwydd y gellir adnabod unigolion o’r wybodaeth am amrywiaeth a gyhoeddwyd gan bleidiau gwleidyddol. Codwyd hyn yn aml yng nghyd-destun partïon llai nad oedd ganddynt y gallu a’r adnoddau angenrheidiol i roi’r canllawiau ar waith yn effeithiol.
Roedd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad hefyd yn teimlo (fel yr oedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i nodi) bod rhai o gwestiynau arfaethedig yr arolwg yn gallu cael eu hystyried i fod yn ymwthiol ym mywydau preifat pobl. Bwriad yr arolwg yw bod yn ganllaw i bleidiau gwleidyddol ac mae gan bob cwestiwn opsiwn ‘gwell gen i beidio â dweud’, felly nid yw’r canllawiau’n argymell y dylai fod yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd ddarparu gwybodaeth os yw’n teimlo’n anghyfforddus yn gwneud hynny.
Nododd ymatebwyr eraill i’r ymgynghoriad y gallai fod effaith negyddol bosibl ar hawliau menywod petai ymgeisydd nad yw’n fenyw yn cael lle ar restr a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer menywod fel rhan o ddull plaid o ymdrin â chwotâu gwirfoddol. Bydd angen i bleidiau gwleidyddol sicrhau nad yw cymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y rheini sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol (fel menywod), yn effeithio’n niweidiol ar hawliau’r bobl hynny neu ar bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig wahanol. Wrth gymryd unrhyw gamau cadarnhaol gan ddibynnu ar ddarpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010, bydd y partïon hynny’n rhwym wrth y diffiniadau penodol sy’n berthnasol i’r Ddeddf honno. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at y ffaith bod gan bartïon rwymedigaethau cyfreithiol y dylent eu hystyried o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys mewn perthynas ag atal gwahaniaethu ac yn eu cyfeirio at ganllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i’w cefnogi wrth ystyried y rhwymedigaethau hyn (Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Cod Ymarfer ar Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).
Effaith negyddol bosibl arall y canllawiau a nodwyd gan rai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yw’r potensial i Ran 3 (a’i ffocws ar gynrychiolaeth menywod) arwain at bleidiau gwleidyddol yn canolbwyntio llai ar gynyddu cynrychiolaeth ymysg grwpiau sy’n rhannu nodweddion ac amgylchiadau gwarchodedig eraill. Mewn cyferbyniad â hyn, roedd eraill y teimlo fod Rhan 3 o’r canllawiau’n tynnu sylw at yr angen i bleidiau gymryd camau brys i liniaru’r risg o anghydbwysedd sylweddol rhwng y rhywiau yn y Seithfed Senedd.
Pa rwystrau, os o gwbl, y mae pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn eu hwynebu? A ellir lleihau, dileu neu liniaru'r rhwystrau hyn?
Mae thema gyffredin o dangynrychiolaeth hanesyddol ymysg grwpiau penodol o bobl ar draws gwleidyddiaeth yng Nghymru a’r DU. I rai o’r bobl hyn, ac yn enwedig i’r rhai hynny a allai uniaethu â mwy nag un grŵp, gall y daith i fyd gwleidyddiaeth golygu goresgyn ystod o rwystrau (Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau). Gall cefndir, addysg, profiadau, galwedigaeth, amgylchiadau ariannol, mynediad at wybodaeth a rhwydweithiau unigolyn, er enghraifft, fod yn ffactorau sy’n cyfrannu at ddiffinio taith rhywun i fyd gwleidyddiaeth, neu p’un a fyddai’n ystyried mynd i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cyntaf.
Mae corff cynyddol o ymchwil ar y rhwystrau i swyddi etholedig a wynebir gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Gall hyn gynnwys rhwystrau ariannol, diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol, sefydliadol, strwythurol a ffisegol rhag cymryd rhan. Mae llawer o’r rhwystrau’n cael eu crynhoi yn yr adran hon, gyda rhai yn cael eu cyfeirio atynt eto mewn adrannau diweddarach lle maent yn ymwneud yn fwy penodol â grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol.
Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Senedd Cymru), a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd yn 2018, sy’n archwilio’r rhwystrau y mae darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn eu hwynebu. Canfu’r adroddiad fod rhai grwpiau mewn cymdeithas yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael eu dewis fel ymgeisydd oherwydd canfyddiadau ynghylch yr hyn mae’r pleidiau yn chwilio amdano (stereoteipiau), y broses ddethol, a rhagfarn ddiarwybod. Canfu’r adroddiad hefyd fod diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau enwebu yn annymunol i ddarpar ymgeiswyr, yn enwedig y rheini sy’n newydd i wleidyddiaeth plaid.
Canfu’r adroddiad fod oedran hefyd yn cael ei ystyried yn ffactor wrth ddewis ymgeiswyr, gyda phobl ifanc, yn benodol, yn ei nodi fel rhwystr. Roedd menywod yn llawer mwy tebygol o ystyried bod rhai rhwystrau’n arwyddocaol, yn enwedig cyfrifoldebau gofalu, diogelwch personol a theuluol, a llwyth gwaith trwm. Yn hanesyddol, mae ymchwilwyr wedi nodi “bwlch mamolaeth” yn Nhŷ’r Cyffredin yn y DU, gyda llai o Aelodau Seneddol sy’n fenywod sydd â phlant nag Aelodau Seneddol sy’n ddynion sydd â phlant. Roedd y canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at dangynrychiolaeth mamau yn Nhŷ’r Cyffredin yn y DU (Rosie Campbell a Sarah Childs. 2014. ‘Parents in Parliament: ‘Where’s Mum?’.’ The Political Quarterly 85 (4)).
Nodwyd hefyd yn adroddiad 2018 bod prosesau dethol ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn rhwystr mawr i ddewis unigolion o leiafrifoedd ethnig am fod ‘pleidiau yn tueddu i fod â’r farn bod ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn colli pleidleisiau ymysg pleidleiswyr gwyn’ (Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Senedd Cymru).
Comisiynwyd ymchwil hefyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 ar chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig penodol. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2022 ac mae’n cyflwyno damcaniaeth newid (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid) ar gyfer gwella cynrychiolaeth ac amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol yng Nghymru.
Canfu’r ymchwil hwn fod rhwystr ariannol yn atal pobl â nodweddion gwarchodedig penodol rhag cymryd rhan, yn ogystal â phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig a phobl â chyfrifoldebau gofalu, gan ei bod yn bosibl na fyddai’r pleidiau gwleidyddol yn talu costau ymgyrchu’r unigolion. Gwelwyd hefyd fod menywod ‘yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu, gweithio’n rhan-amser, a chymryd seibiant gyrfa i fagu plant’ o’i gymharu â dynion (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid).
Roedd yr adroddiad yn nodi cyfnod mewn swydd yn benodol fel rhwystr a oedd yn arwain at lai o gyfleoedd i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Adroddwyd hefyd y gall prosesau dethol mewn llywodraeth leol fod â thuedd tuag at bobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol.
Mewn perthynas ag ymgeiswyr LHDTC+, canfu Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig (Building inclusive democracies: A guide to strengthening the participation of LGBTI+ persons in political and electoral processes ar Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig) y gellid categoreiddio’r rhwystrau y mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu fel rhai strwythurol, unigol, sefydliadol, a chysylltiedig â thrais. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rwystrau fel diffyg modelau rôl gwleidyddol, sylw ystrydebol yn y cyfryngau, allgáu o restrau ymgeiswyr pleidiau, ac aflonyddu neu drais yn erbyn ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig LHDTC+. Roedd hefyd yn tynnu sylw at rwystrau fel pleidiau gwleidyddol yn darparu llai o adnoddau a chyfleoedd gweladwy i’w hymgeiswyr LHDTC+ eu hunain, a chostau uchel etholiadau.
Roedd Anabledd a chynrychiolaeth wleidyddol: Dadansoddi'r rhwystrau i swydd etholedig yn y DU (ar Sage Journals), a gyhoeddwyd yn 2022, wedi dangos, er bod anableddau weithiau’n ‘gudd’, y gallai pobl sy’n dymuno ymgeisio am swyddi etholedig fod yn amharod i’w datgelu. Canfuwyd bod cyfran y gwleidyddion anabl yn is na 20%, sef y gyfran fras o bobl anabl ym Mhrydain Fawr.
Nododd yr adroddiad y rhwystrau penodol i swyddi etholedig y mae pobl anabl yn eu hwynebu; roedd rhai ohonynt yn debyg i'r rhai y mae menywod ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu gyda chyfres benodol o rwystrau ychwanegol sy’n cael eu categoreiddio fel hygyrchedd, adnoddau ac ableddiaeth.
Mae Addressing Barriers to Women's Representation in Party Candidate Selections (Mynd i'r afael â rhwystrau i gynrychiolaeth menywod mewn dewisiadau ymgeiswyr plaid ar Lyfrgell Ar-lein Wiley) yn cyfeirio at ‘alw’ a ‘chyflenwad’ wrth recriwtio menywod i’r maes gwleidyddol. Mae’r adroddiad yn dadlau bod cyflenwad yn cynyddu ac yn lleihau mewn ymateb i alw pleidiau gwleidyddol am ymgeiswyr benywaidd. Mae hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch aflonyddu, cam-drin a bygwth ymgeiswyr benywaidd ac aelodau etholedig, a allai atal llawer o ddarpar ymgeiswyr benywaidd rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd pryderon cynyddol ynghylch diogelwch a’r dirywiad mewn trafodaethau gwleidyddol. Wrth adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael mewn astudiaethau amrywiol, mae Dr Cowper-Cowles yn nodi bod 'rhagfarn yn erbyn menywod adeg dewis ymgeiswyr' yn 'rhwystr mawr sy'n atal menywod rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth’ (Arweinwyr gwleidyddol benywaidd: effaith rhywedd ar ddemocratiaeth, tudalen 42 ar Kings College London). Mae'r Global Institute for Women’s Leadership hefyd yn awgrymu bod 'menywod yn cael eu rhoi yn is i lawr ar restrau ymgeiswyr na dynion neu mewn sefyllfaoedd lle mae'n anoddach ennill' mewn cyd-destunau lle defnyddir systemau etholiadol cyfrannol rhestr gaeedig (Arweinwyr gwleidyddol benywaidd: effaith rhywedd ar ddemocratiaeth, tudalen 42 ar Kings College London).
Roedd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn myfyrio ar brofiad menywod o leiafrifoedd ethnig sy’n aml yn wynebu mwy o rwystrau i ddewis neu ethol na menywod o gefndiroedd mwy breintiedig, gan nodi bod y menywod hyn yn wynebu cyfraddau uwch o gyfrifoldebau gofalu, tlodi, diweithdra, hiliaeth, rhywiaeth a gwahaniaethu. Tynnodd yr ymatebydd sylw hefyd at y ffaith bod disgwyliadau diwylliannol a theuluol o ran rolau menywod, diffyg cefnogaeth gan wasanaethau, ac effaith Islamoffobia yn gallu llesteirio gallu rhai o’r menywod hyn yn anghymesur i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
Fel rhan o ymgyrch barhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo mwy o amrywiaeth mewn swyddi etholedig, mae nifer o fesurau pwysig yn cael eu cyflwyno a fydd yn arwain at newidiadau yn y Senedd ac mewn llywodraeth leol drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r canllawiau hyn, gan anelu at gofnodi, deall a dileu rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer grwpiau penodol, mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau i hyrwyddo amrywiaeth i bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad yn gysylltiedig â’u hanableddau. Yn ogystal â hynny, mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â’u nodweddion a’u hamgylchiadau penodol.
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 hefyd yn gwneud newidiadau i’r fformat a’r broses ymgysylltu o ran datblygu a chyflawni’r arolwg o ymgeiswyr sy’n ofynnol mewn cysylltiad ag etholiadau llywodraeth leol. Bydd canllawiau arolygon Etholiadau Lleol yn parhau i esblygu ac ymgorffori’r gwersi a ddysgwyd o bob cyfres o etholiadau, gan gynnwys sut mae annog mwy o bobl i gymryd rhan yn yr arolwg i gynyddu’r adborth cyfoethog a gesglir fel rhan o’r broses.
Cafwyd sylwadau gan nifer o ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar y gwahanol rwystrau a wynebir gan wahanol grwpiau a ffyrdd y gellid mynd i’r afael â’r rhain. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn pwysleisio’r angen i bleidiau gwleidyddol sefydlu perthnasoedd hirdymor ac ymgysylltu’n effeithiol â grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a sefydliadau cynrychioladol er mwyn cael cipolwg ar brofiadau bywyd ar lefel genedlaethol a lleol. Teimlwyd y byddai hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o anghenion cymunedau a’r rhwystrau penodol a wynebir gan grwpiau penodol wrth gymryd rhan yn y broses wleidyddol.
Sut ydych chi/y byddwch chi'n defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i chasglu o'r ymchwil i nodi effeithiau?
Fel y nodwyd eisoes, mae llawer iawn o dystiolaeth sy’n archwilio’r rhwystrau y gall pobl eu hwynebu wrth fynd i fyd gwleidyddiaeth, ac mae rhywfaint o’r rhain wedi’u crynhoi yn yr asesiad effaith hwn. Mae’r dystiolaeth hon, ynghyd ag adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar ganllawiau drafft, wedi helpu i lywio’r asesiad effaith hwn a’r canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol.
Mae effeithiau sy’n ymwneud â grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol yn cael eu cofnodi yn y rhannau perthnasol o’r templed hwn. Mae’r effeithiau hyn wedi’u dadansoddi yn ôl yr effeithiau hynny sy’n deillio o’r 3 rhan wahanol o’r canllawiau.
Pan fydd yr un effeithiau’n berthnasol i wahanol grwpiau, nid yw’r disgrifiad llawn o’r effaith yn cael ei ailadrodd ar gyfer pob grŵp unigol ond mae’n cael ei grynhoi fel Effaith Gadarnhaol 1/Effaith Gadarnhaol 2/ ac ati ar ôl y disgrifiad llawn cyntaf.
Sut byddwch chi’n gwybod a yw eich darn o waith yn llwyddiant?
Ni fydd y canllawiau eu hunain yn effeithio’n uniongyrchol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig neu bobl mewn amgylchiadau penodol. Bydd maint yr effaith ar unrhyw grŵp penodol yn dibynnu ar y camau penodol a gymerir, a llwyddiant neu fethiant y camau hynny, gan bleidiau gwleidyddol (mewn ymateb i’r canllawiau). Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd modd dros amser i ddadansoddi’r data sydd wedi’i gasglu, ei drefnu a’i gyhoeddi er mwyn penderfynu a fu cynnydd yn amrywiaeth yr ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig yn etholiadau Cymru.
Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r canllawiau o bryd i’w gilydd, a’u diwygio os oes angen. Bydd y broses hon o adolygu parhaus yn cynnwys ystyried pa mor effeithiol yw’r canllawiau yn ymarferol, ar sail trafodaethau gyda rhanddeiliaid perthnasol ac adborth ganddynt.
Ydych chi wedi datblygu fframwaith canlyniadau i fesur effaith?
Mae’r canllawiau’n argymell y dylai pleidiau gwleidyddol fel arfer cyhoeddi eu strategaethau o leiaf 6 mis cyn etholiad y Senedd yn 2026, a dylai’r pleidiau adolygu’r strategaethau’n barhaus, gan ddefnyddio’r wybodaeth am amrywiaeth sydd ar gael iddynt.
Mae’r canllawiau hefyd yn cynghori pleidiau i gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr y Senedd hyd at 6 wythnos ar ôl pob etholiad yn y Senedd.
Cofnod o’r effeithiau yn ôl nodweddion gwarchodedig
Oedran
Meddyliwch am wahanol grwpiau oedran
Oedran: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae’r nodwedd warchodedig ‘oedran’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
(Oedran) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Oedran) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
Oedran: rhesymau dros eich penderfyniad
Oedran cyfartalog Aelod o'r Senedd yn 2021 oedd 55 oed (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd? ar Senedd Cymru). Mae hyn yn cael ei gymharu ag oedran cyfartalog poblogaeth Cymru, sy’n 42.4 oed (ar adeg y ffigurau yng nghanol 2020) (Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU, Lloegr a Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon: canol 2020 ar Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod y Senedd ar hyn o bryd yn denu pobl hŷn yn hytrach na’r boblogaeth gyffredinol.
Bydd argaeledd data yn galluogi monitro tueddiadau dros amser o ran oedran ymgeiswyr y Senedd.
Oedran: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Anabledd
Ystyriwch fodel cymdeithasol o anabledd3 a’r ffordd y gallai eich cynnig achosi, neu y gellid ei ddefnyddio i ddileu, y rhwystrau sy’n gwneud pobl â gwahanol fathau (Adolygu’r dystiolaeth: anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal).
Anabledd: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae’r nodwedd warchodedig ‘anabledd’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
(Anabledd) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Anabledd) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
Anabledd: rhesymau dros eich penderfyniad
Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos yr oedd yna 16.1 miliwn o bobl yn y DU ag anabledd ym mlwyddyn ariannol 2022/23. Mae hyn yn cynrychioli 24% o gyfanswm poblogaeth y DU (Arolwg Adnoddau i Deuluoedd: blwyddyn ariannol 2022 i 2023 on GOV.UK). Ar hyn o bryd, nid oes data ar gael ar faint o Aelodau’r Senedd sydd ag anabledd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod pobl anabl yn wynebu rhwystrau penodol drwy gydol eu taith i ddod yn ymgeiswyr yn etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd (Rhwystrau i swydd etholedig i bobl anabl on GOV.UK).
Mae’r adroddiad dadansoddi amrywiaeth (Dadansoddi amrywiaeth: rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tudalen 26 ar Senedd Cymru) yn nodi:
Yng nghyd-destun tangynrychiolaeth ddifrifol pobl ag anableddau yn ein deddfwrfeydd etholedig, nid yw’n syndod nad yw’r sefydliadau hyn yn llwyddo i gynrychioli buddiannau pobl ag anableddau yn sylweddol.
Mae’r adroddiad hefyd yn mynd ymlaen i nodi (Dadansoddi amrywiaeth: rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tudalen 88 ar Senedd Cymru) y gallai:
rhwystrau o’r fath gynnwys costau ceisio am swydd etholedig a chael eu dethol, yn enwedig i bobl ag anableddau a allai wynebu costau ychwanegol o ran gofynion mynediad.
Anabledd: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Ar wahân i’r canllawiau, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad yn gysylltiedig â’u hanableddau.
Ailbennu rhywedd (y weithred o drawsnewid a phobl drawsryweddol)
Ailbennu rhywedd: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae’r nodwedd warchodedig ‘ailbennu rhywedd’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
(Ailbennu rhywedd) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Ailbennu rhywedd) effaith negyddol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Efallai na fydd rhai pobl draws yn dymuno datgelu eu hanes neu eu statws traws i bleidiau gwleidyddol, gan fod tystiolaeth bod rhai pobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon yn teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi ac yn ofni’r canlyniadau o fod yn gwbl agored am eu hamgylchiadau personol.
(Ailbennu rhywedd) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
(Ailbennu rhywedd) effaith negyddol 2: cwotâu rhywedd gwirfoddol
Os bydd pleidiau gwleidyddol yn dewis defnyddio cwotâu rhywedd gwirfoddol, gallai hyn gael effaith negyddol o ran preifatrwydd ac iechyd meddwl ymgeiswyr traws – er y bydd hyn yn dibynnu ar yr unigolyn a’r amgylchiadau penodol
Ailbennu rhywedd: rhesymau dros eich penderfyniad
Gyda’i Gynllun Gweithredu LHDTC+, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi unigolion o’r gymuned LHDTC+ i sefyll am swydd etholedig. Fodd bynnag, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am unigolion trawsrywiol sy’n ceisio sefyll i gael eu hethol i’r Senedd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod lefelau isel o addysg wleidyddol yn gyffredin ar draws nifer o grwpiau ar y cyrion, gan gynnwys y gymuned LHDTCRh+ (Ryrie et al., 2010), pobl anabl (Agran et al., 2016), a'r ddemograffeg hynaf ac ieuengaf (Blackwell et al., 2019). Mae ymchwilwyr hefyd wedi cysylltu lefelau is o addysg wleidyddol ag ymgysylltiad gwleidyddol is yn gyffredinol.
Mae prinder gwybodaeth am gyfranogiad mewn gwleidyddiaeth gan bobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon (gan gynnwys hunaniaethau croestoriadol). Os caiff data ei gasglu, ei drefnu a'i gyhoeddi gan bleidiau gwleidyddol, dylai hyn rhoi llinell sylfaen fwy dibynadwy a chydlynol ar gyfer ymchwil bellach a chamau gweithredu ystyrlon gan bartïon a phartneriaid eraill i gael gwared ar rwystrau ac i gynyddu cyfranogiad.
Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos y gall pobl draws fod yn bryderus am gael eu ‘datgelu heb gydsyniad’ neu eu ‘datguddio’ ac y gall hyn effeithio ar eu penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth amdanynt eu hunain yn gyhoeddus, yn enwedig wrth gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau gwleidyddol proffil uchel, gan gynnwys sefyll mewn etholiad (Profiadau a rhwystrau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, tudalen 33 ar GOV.UK). Mae ymchwil arall yn dangos bod 81% o’r ymatebwyr o’r 1054 o bobl draws a holwyd wedi mynegi bod diffyg derbyniad gan bobl o’r rhywedd maen nhw’n byw ynddo, wedi creu teimlad o ofn ac felly eu bod yn ei weld fel rhwystr rhag cymryd rhan mewn ystod o fywyd bob dydd (Astudiaeth iechyd meddwl a lles emosiynol traws 2012, tudalen 88 ar Scottish Trans).
O dan adran 104 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gall pleidiau gwleidyddol gymryd camau drwy eu trefniadau dethol i leihau anghydraddoldeb ymysg eu haelodau etholedig drwy gyfeirio at y rhai hynny sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol a’r rhain hynny nad ydynt, gan gynnwys pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ‘ailbennu rhywedd’ a ‘rhyw’. Mae’r grwpiau hyn hefyd yn cael eu gwarchod rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth sy’n ymwneud â’u nodweddion gwarchodedig. Bydd natur a graddfa’r effaith ar bobl drawsryweddol yn dibynnu ar i ba raddau y mae pleidiau gwleidyddol yn cymryd camau gweithredu mewn ymateb i’r canllawiau.
Ailbennu rhywedd: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Er mwyn mynd i’r afael â’r effaith negyddol a nodwyd mewn perthynas â gwybodaeth am amrywiaeth a chanfyddiadau penodol yr ymchwil a amlinellwyd yn y golofn flaenorol, mae Rhan 2 y canllawiau yn annog partïon i ganiatáu i ymgeiswyr gwblhau opsiwn “gwell gen i beidio â dweud” mewn perthynas â’r holl gwestiynau amrywiaeth yn y templed arolwg enghreifftiol.
Mae hwn yn fesur lliniaru pwysig os yw datgelu gwybodaeth am unrhyw un o’i nodweddion neu ei amgylchiadau yn gwneud i unrhyw unigolyn deimlo’n anghyfforddus.
Mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu sut i weithredu cwotâu gwirfoddol, gan gynnwys llunio eu rhestrau ymgeiswyr. Bydd angen i bartïon ystyried eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y darpariaethau perthnasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Gwneir hyn yn glir yn y canllawiau.
Beichiogrwydd a mamolaeth
Beichiogrwydd a mamolaeth: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Nid yw’r nodwedd warchodedig ‘beichiogrwydd a mamolaeth’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau, er y bydd hyn yn cael ei adolygu’n gyson. Fodd bynnag, mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu hannog i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â ‘chyfrifoldeb gofalu’ ymgeiswyr y Senedd a ‘chyfrifoldebau rhianta’.
(Beichiogrwydd a mamolaeth) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Beichiogrwydd a mamolaeth) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill,rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
Beichiogrwydd a mamolaeth: rhesymau dros eich penderfyniad
Mae ymchwil yn dangos bod (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: Damcaniaeth newid [3.6]) normau rhywedd yn cael:
effaith negyddol ar botensial menywod i ennill cyflog; er enghraifft, drwy adael y farchnad lafur yn gynharach oherwydd cyfrifoldebau gofalu.
Mae menywod yn
fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu, gweithio’n rhan-amser, a chymryd seibiant gyrfa i fagu plant,
ac yn fwy tebygol o dalu costau gofal plant, o’u cymharu â’u cymheiriaid gwrywaidd (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig:Damcaniaeth newid [3.7]). Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pwysig i’w gwneud yn ymarferol i unigolion sy’n wynebu rhwystrau penodol i aros mewn swydd etholedig, er enghraifft wrth ddarparu cymorth ariannol i Aelodau o’r Senedd sydd â gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill. Yn ogystal, nid yw cost gofal plant yn gymwys fel treuliau a dalwyd at ddibenion etholiadol ac nid oes angen rhoi gwybod amdanynt (Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 ar Senedd Cymru).
Beichiogrwydd a mamolaeth: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Dylid nodi bod y canllawiau’n cynnwys cwestiwn arolwg arfaethedig sy’n ymwneud â ‘cyfrifoldeb rhiant’ a ddylai alluogi partïon (wrth eu hystyried ochr yn ochr â gwybodaeth arall a gasglwyd e.e. sy’n ymwneud â ‘rhyw’) i gasglu gwybodaeth i helpu i ganfod a oes tangynrychiolaeth o famau neu dadau ymysg eu hymgeiswyr – ac archwilio’r rhesymau dros hynny.
Hil
Mae'n cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, sipsiwn a theithwyr a mudwyr, ceiswyr loches a ffoaduriaid.
Hil: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae’r nodwedd warchodedig ‘hil’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
(Hil) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Hil) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill,rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
Hil: rhesymau dros eich penderfyniad
Yn 2021, adroddodd Comisiwn y Senedd am amrywiaeth yng nghanran yr Aelodau o wahanol bleidiau gwleidyddol sy’n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol – 13% o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr, 3% o Aelodau Seneddol Llafur a dim aelodau o Blaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd? ar Senedd Cymru).
Nid oes gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd am lefelau cynrychiolaeth yn y Senedd gan gymunedau eraill o fewn y nodwedd warchodedig hon, er ein bod, er enghraifft, yn gwybod bod “un o bob chwech o drigolion arferol Cymru a Lloegr wedi cael eu geni y tu allan i’r DU.”(Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr ar Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Casglwyd data am grwpiau ethnig Sipsiwn, Roma a Theithwyr am y tro cyntaf yng nghyfrifiad 2021.
Mae ymchwil yn tynnu sylw at rwystrau penodol a brofir gan unigolion o grwpiau ethnig gan gynnwys, er enghraifft, llai o gysylltiad â rhwydweithiau gwleidyddol a diffyg modelau rôl addas oherwydd: “...mae llai o leiafrifoedd ethnig yn y llwybrau traddodiadol at wleidyddiaeth—felly, gweithio i bleidiau, gweithio mewn deddfwrfeydd fel cynghorwyr, y math hwnnw o beth”.(Diwygio’r Senedd: y camau nesaf, tudalen 122 ar Senedd Cymru)
Fel y nodwyd gan adroddiad 2022 y Pwyllgor Diben Arbennig:
mae’r fath o ddiffyg gwybodaeth yn rhwystr i bleidiau ac i ymgyrchwyr sy’n ceisio annog a sicrhau bod amrywiaeth o ymgeiswyr a chynrychiolwyr yn cael eu dewis a’u hethol.
Drwy annog pleidiau i fod yn fwy systematig a chyson wrth gasglu data amrywiaeth mewn perthynas ag ymgeiswyr, y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at fwy o dryloywder a chamau gweithredu.
Hil: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Mae’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022, yn ymrwymiad allweddol gan y Rhaglen Lywodraethu ac mae wedi ymrwymo i ddileu hiliaeth systemig a sefydliadol yng Nghymru. Mae’n arbennig o berthnasol i’r canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ac mae’n canolbwyntio ar gynyddu cynrychiolaeth menywod o leiafrifoedd ethnig mewn swyddi o arweinyddiaeth.
Crefydd, cred a diffyg cred
Crefydd, cred a diffyg cred: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae’r nodwedd warchodedig ‘crefydd a chred’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
(Crefydd, cred a diffyg cred) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Crefydd, cred a diffyg cred) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill,rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
Crefydd, cred a diffyg cred: rhesymau dros eich penderfyniad
Tynnodd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad sylw at bwysigrwydd sicrhau bod amrywiaeth ymysg ymgeiswyr y Senedd o ran barn a chred. Fel llawer o nodweddion gwarchodedig, mae crefydd a chred yn bersonol ac yn aml yn anweledig.
Felly, prin yw’r wybodaeth sydd ar gael am ba mor gynrychioladol yw’r Senedd yn hyn o beth, gan gyflwyno “rhwystr i bleidiau ac i ymgyrchwyr sy’n ceisio annog a sicrhau bod amrywiaeth o ymgeiswyr a chynrychiolwyr yn cael eu dewis a’u hethol”.
Drwy gasglu gwybodaeth am broffil eu hymgeiswyr, gan gynnwys crefydd, cred a diffyg cred, bydd pleidiau’n gallu canfod i ba raddau y mae eu hymgeiswyr yn adlewyrchu ystod eang o farn a safbwyntiau.
Crefydd, cred a diffyg cred: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Rhyw a rhywedd
Mae’r nodwedd warchodedig ‘rhyw’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
Rhyw a rhywedd: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
(Rhyw a rhywedd ) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Rhyw a rhywedd) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill,rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
(Rhyw a rhywedd) effaith gadarnhaol 2: cwotâu rhywedd gwirfoddol
Os bydd pleidiau gwleidyddol yn dewis defnyddio cwotâu rhywedd gwirfoddol, gall hyn arwain at gyfran uwch o fenywod yn cael eu hethol i’r Senedd ac felly gallai roi mwy o amlygrwydd ac ystyriaeth i faterion polisi sy’n ymwneud â menywod a theuluoedd yn y Senedd, yn ogystal â rhannu safbwyntiau ehangach ar ystod o faterion eraill [Troednodyn 1] [Troednodyn 2].
(Rhyw a rhywedd) effaith negyddol 1: cwotâu rhywedd gwirfoddol
Negyddol: Nodwyd y gallai fod effaith negyddol gyfyngedig ar ddynion oherwydd, o ganlyniad i ddefnyddio cwota, efallai na fydd rhai dynion yn cael eu rhoi ar restr ymgeiswyr neu byddant yn cael eu rhoi mewn safle llai ffafriol ar y rhestr. Gall hyn olygu nad ydynt yn cael eu hethol.
(Rhyw a rhywedd) effaith negyddol 2: cwotâu rhywedd gwirfoddol
Negyddol: Nododd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad y gallai fod effaith negyddol bosibl ar hawliau menywod o ganlyniad i beidio â chael diffiniad clir yn y canllawiau o ystyr ‘rhyw’ a ‘menyw’. Roedd pryder y gallai hyn arwain at roi lle ar restr a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer menywod i ymgeisydd nad yw’n fenyw fel rhan o ddull plaid o ymdrin â chwotâu gwirfoddol.
Fel rhan o’r ymgynghoriad, mynegwyd barn y gallai peidio â diffinio ‘rhyw’ arwain at beidio bodloni anghenion merched a menywod sy’n agored i niwed ac arwain at wahaniaethu gweithredol yn erbyn merched a menywod sy’n agored i niwed
Rhyw a rhywedd: rhesymau dros eich penderfyniad
Yn gyffredinol, ers datganoli ym 1999, mae menywod wedi cael eu tangynrychioli yn y Senedd. Rydym hefyd yn gwybod bod menywod wedi’u tangynrychioli’n sylweddol ymysg ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd. Roedd cyfanswm o 470 o ymgeiswyr wedi sefyll i gael eu hethol i’r Senedd yn 2021. O’r rhain, roedd 322 (69%) yn ddynion ac roedd 148 (31%) yn fenywod (Etholiad y Senedd yn 2021: Papur briffio on Senedd Cymru).
Canfu’r adroddiad Dadansoddi Amrywiaeth: roedd menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o ystyried bod rhwystr sy'n atal pobl rhag cymryd rhan yn fwy ‘sylweddol’, ac yn ystyried cymhellion yn fwy cadarnhaol.
Fel y nodwyd yn gynharach yn yr asesiad hwn, mae cryn ymchwil a thystiolaeth ynghylch y manteision amrywiol o gael menywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Mae’r awgrym yn y canllawiau bod pleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu’r defnydd o gwotâu rhywedd gwirfoddol yn ceisio gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, drwy geisio sicrhau ei bod yn adlewyrchu cyfansoddiad rhywedd poblogaeth Cymru yn well, gyda’r manteision polisi cysylltiedig y disgwylir iddynt ddeillio o hyn.
Nod yr awgrym yn y canllawiau o ran lleoli menywod ar restrau pleidiau ar lefelau fertigol (etholaeth) a llorweddol (cenedlaethol) yw sicrhau’r canlyniad a ddymunir i fwy o fenywod gael eu hethol (Brooke, Mona Lena, (2009), ‘Quotas for Women in Politics’, tud. 38.).
Rhyw a rhywedd: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Mae’r canllawiau terfynol wedi cael eu diwygio yn sgil sylwadau gan randdeiliaid ynghylch y posibilrwydd o ddryswch wrth ddefnyddio’r termau ‘rhyw’ a ‘rhywedd’.
Mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu a ddylid mabwysiadu’r defnydd o gwotâu rhywedd gwirfoddol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau penodol ac yn unol â’u rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y darpariaethau perthnasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae Rhan 7 o’r Ddeddf honno yn cynnwys darpariaeth benodol (yn adran 104) ynghylch sut dylai pleidiau gwleidyddol fynd ati i ddethol ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd (ac etholiadau eraill). Gwneir hyn yn glir yn y canllawiau.
Mae’r dull gweithredu sydd wedi’i nodi yn y canllawiau gwirfoddol yn cael ei ystyried yn gymesur er mwyn cyflawni’r nod o gael Senedd fwy effeithiol, gan fod menywod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol ac wedi bod felly yn hanesyddol.
Mae Rhan 3 o’r canllawiau’n argymell camau gweithredu, gan gynnwys cwotâu rhywedd a allai, yn amodol ar amgylchiadau penodol parti, gael eu cymryd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Felly, bydd partïon yn rhwym wrth y diffiniadau sy’n berthnasol i’r Ddeddf honno. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio nodwedd warchodedig rhyw a’r termau dyn a menyw a ddefnyddir yn y diffiniad hwnnw. Mae Rhan 3 y canllawiau yn cyfeirio at y diffiniadau hyn.
Cyfeiriadedd rhywiol
Mae’r nodwedd warchodedig ‘cyfeiriadedd rhywiol’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau.
Cyfeiriadedd rhywiol: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
(Cyfeiriadedd rhywiol) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Cyfeiriadedd rhywiol) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill,rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
(Cyfeiriadedd rhywiol) effaith negyddol 1: cwotâu rhywedd gwirfoddol
Nododd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad y gallai fod effaith negyddol bosibl ar hawliau menywod lesbiaidd sy’n cael eu hystyried yn llai pwysig na hawliau dynion sy’n eu galw eu hunain yn fenywod.
Cyfeiriadedd rhywiol: rhesymau dros eich penderfyniad
Roedd tua 3.3% o boblogaeth y DU sy’n 16 oed neu’n hŷn wedi nodi eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol (LGB) yn 2022, cynnydd o 3.1% yn 2020 a thros ddwywaith y ganran o 2014 (1.6%) (Cyfeiriadedd rhywiol, y DU ar Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Yn y Senedd bresennol, mae o leiaf 5% o Aelodau’n dweud yn agored eu bod yn LHD, (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd? ar Senedd Cymru) sy’n ganran uwch na chyfartaledd y DU. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn mynd i barhau i fod yn wir ar ôl y cynnydd yn Aelodau’r Senedd o 2026 ymlaen
Mewn perthynas ag ymgeiswyr LHDTC+, canfu Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig (Building inclusive democracies: A guide to strengthening the participation of LGBTI+ persons in political and electoral processes ar Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig) y gellid categoreiddio’r rhwystrau y mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu fel rhai strwythurol, unigol, sefydliadol, a chysylltiedig â thrais. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rwystrau fel diffyg modelau rôl gwleidyddol, sylw ystrydebol yn y cyfryngau, allgáu o restrau ymgeiswyr pleidiau, ac aflonyddu neu drais yn erbyn ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig LHDTC+. Roedd hefyd yn tynnu sylw at rwystrau fel pleidiau gwleidyddol yn darparu llai o adnoddau a chyfleoedd gweladwy i’w hymgeiswyr LHDTC+ eu hunain, a chostau uchel etholiadau.
Priodas a phartneriaeth sifil
Priodas a phartneriaeth sifil: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Nid yw’r nodwedd warchodedig ‘priodas a phartneriaeth sifil’ yn un o’r nodweddion a nodir yn y canllawiau, er y bydd hyn yn cael ei adolygu’n gyson.
Priodas a phartneriaeth sifil: rhesymau dros eich penderfyniad
Roedd nifer fach o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn credu y dylid cynghori pleidiau gwleidyddol i ofyn i ymgeiswyr am eu statws o ran ‘priodas a phartneriaeth sifil’ ar y sail bod priodas yn effeithio’n wahanol ar ragolygon gwleidyddol dynion a menywod.
Priodas a phartneriaeth sifil: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Nid yw’r grŵp hwn wedi’i gynnwys oherwydd mae’n rhaid i ddarpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd fod yn oedolion, h.y. rhaid iddynt fod yn 18 oed o leiaf.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed: rhesymau dros eich penderfyniad
Amherthnasol.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol.
Aelwydydd incwm isel
Aelwydydd incwm isel: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae cefndir ‘economaidd-gymdeithasol’ wedi’i gynnwys yn y canllawiau fel amgylchiad penodol.
(Aelwydydd incwm isel) effaith gadarnhaol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Aelwydydd incwm isel) effaith gadarnhaol 2: strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant
Drwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, bydd y canllawiau’n codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n atal grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill,rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodir.
Aelwydydd incwm isel: rhesymau dros eich penderfyniad
Mae digon o dystiolaeth fod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol yn fwy tebygol o wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol (Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau), felly nid yw bob amser yn ddigonol nac yn briodol ystyried un elfen, neu un math o rwystr, ar ei ben ei hun. Mae’r rhesymau dros dangynrychiolaeth yn aml yn gymhleth ac yn aml-haenog, ac mae’n bosibl y bydd gan rhai pobl nodweddion croestoriadol a all arwain at wynebu nifer o rwystrau.
Mae papur ymchwil gan Dŷ’r Cyffredin (Political disengagement in the UK: Who is disengaged?, tudalen 6 ar Parliament UK) wedi nodi:
nad oes llawer yn hysbys am gefndir economaidd-gymdeithasol cynghorwyr, ymgeiswyr ac ASau, er bod nifer yr ASau o gefndiroedd sgiliau is wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fel y nodwyd gan adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig yn 2022, mae diffyg gwybodaeth o’r fath o ran ymgeiswyr ac Aelodau’r Senedd yn golygu
rhwystr i bleidiau ac i ymgyrchwyr sy’n ceisio annog a sicrhau bod amrywiaeth o ymgeiswyr a chynrychiolwyr yn cael eu dewis a’u hethol.
Bydd bod yn fwy systematig a chyson wrth gasglu data amrywiaeth mewn perthynas ag ymgeiswyr y Senedd yn helpu i sbarduno tryloywder a chamau gweithredu.
Aelwydydd incwm isel: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Hawliau dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig
Erthygl 8: Yr hawl i breifatrwydd
Yr hawl i breifatrwydd: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
(Yr hawl i breifatrwydd) effaith negyddol 1: gwybodaeth am amrywiaeth
Mae yna bosibilrwydd o ganlyniad negyddol yn sgil cyhoeddi’r data, ac mae hyn yn ymwneud a thorri preifatrwydd pobl.
Yr hawl i breifatrwydd: rhesymau dros eich penderfyniad
Er bod risgiau’n gysylltiedig â chasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth, gellir rheoli a lliniaru’r rhain drwy bolisïau a gweithdrefnau priodol.
Roedd rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn credu bod y risg yn fwy tebygol o ddod i’r amlwg pe bai pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n cael ei rhannu’n gategorïau llai a gwybodaeth groestoriadol. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo fod hyn yn risg benodol i bleidiau llai ac roeddent o’r farn y gallai hyfforddiant a strwythurau ar gyfer rhannu arferion da fod o fudd i bartïon
Yr hawl i breifatrwydd: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau negyddol?
Byddai’r rheolwyr data, h.y. pleidiau gwleidyddol cofrestredig, yn gyfrifol am ddiogelu preifatrwydd eu hymgeiswyr.
Mae’r canllawiau’n cynnig mesurau amrywiol y gall pleidiau gwleidyddol ystyried eu cymryd er mwyn sicrhau bod data cyhoeddedig yn aros yn ddienw, gan gynnwys sicrhau bod staff sy’n delio â’r wybodaeth yn cael eu hyfforddi’n ddigonol ac yn briodol.
Mae’r canllawiau hefyd yn cyfeirio at yr wybodaeth a’r canllawiau perthnasol sydd ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae cwestiynau’r arolwg i gyd yn rhoi opsiwn ‘gwell gen i beidio â dweud’ sy’n golygu nad yw’r canllawiau’n awgrymu y dylai fod yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd ddarparu gwybodaeth amdano’i hun os nad yw’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
Erthygl 9: Rhyddid meddwl, cred a chrefydd
Rhyddid meddwl, cred a chrefydd: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
(Rhyddid meddwl, cred a chrefydd) effaith gadarnhaol: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
Rhyddid meddwl, cred a chrefydd: rhesymau dros eich penderfyniad
Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i gyd wedi galw am fesurau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli’r bobl mae’n eu gwasanaethu’n well.
Mae’r canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig wedi cael eu datblygu o ganlyniad i’r galwadau hyn ac maent yn ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd gan ymchwil Llywodraeth Cymru (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid (crynodeb)) (ac ymchwil arall) bod rhwystrau i sefyll am swydd etholedig yng Nghymru ar gyfer pobl â nodweddion penodol.
Fel y nodir mewn perthynas ag Erthygl 3 o Brotocol 1.
Rhyddid meddwl, cred a chrefydd: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau negyddol?
Amherthnasol gan na nodwyd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o’r cynnig.
Erthygl 14: Amddiffyn rhag gwahaniaethu
Amddiffyn rhag gwahaniaethu: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
(Amddiffyn rhag gwahaniaethu) effaith gadarnhaol: gwybodaeth am amrywiaeth
Bydd argaeledd data yn tynnu sylw at i ba raddau y mae grwpiau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig hon, neu gyfuniad o’r nodwedd warchodedig hon ag eraill, wedi’u tangynrychioli yn y broses wleidyddol. O ganlyniad i hyn, bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio ymyriadau i ddenu mwy o bobl o’r grwp a dangynrychiolir.
(Amddiffyn rhag gwahaniaethu) effaith negyddol: Cwotâu rhywedd gwirfoddol
Fel y nodir isod, mae sgôp i effeithiau negyddol ar ymgeiswyr posibl, ond gall fod yn fwy ar gyfer dynion na menywod, neu'n digwydd yn amlach mewn perthynas â hwy.
Nododd rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad risg i fenywod pe bai dynion sy’n ystyried eu hunain yn fenywod yn dymuno hawlio cymhwysedd am le cwota ar restr.
Amddiffyn rhag gwahaniaethu: rhesymau dros eich penderfyniad
Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i gyd wedi galw am fesurau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli’r bobl mae’n eu gwasanaethu’n well.
Mae’r canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig wedi cael eu datblygu o ganlyniad i’r galwadau hyn ac maent yn ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd gan ymchwil Llywodraeth Cymru (ac ymchwil arall) bod rhwystrau i sefyll am swydd etholedig yng Nghymru ar gyfer pobl â nodweddion penodol (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid (crynodeb)).
Fel y nodir mewn perthynas ag Erthygl 3 o Brotocol 1.
Amddiffyn rhag gwahaniaethu: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau negyddol?
Nid yw’r model cwota enghreifftiol gan gynnwys y meini prawf lleoli enghreifftiol a nodir yn y canllawiau yn y pen draw yn atal unrhyw blaid rhag cael yr un nifer o ddynion a menywod ar eu rhestrau ac yn y safle cyntaf ar draws yr holl etholaethau lle maent yn dewis sefyll ymgeiswyr, gan ei gwneud yn bosibl i ddynion a menywod gael eu cynrychioli yn yr un niferoedd yn gyffredinol yn yr etholiad.
Bydd pleidiau gwleidyddol yn gyfrifol am weithredu cwotâu o fewn paramedrau’r gyfraith. Gwneir hyn yn glir yn y canllawiau.
Erthygl 3 protocol 1: Hawl i sefyll etholiad (rhawl i gael etholiadau rhydd)
Hawl i sefyll etholiad: beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Mae’r canllawiau’n wirfoddol eu natur, felly nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol i’w gweithredu. Ni fyddai’r syniadau ar gyfer gweithredu cadarnhaol gan bleidiau gwleidyddol, gan gynnwys y model cwotâu rhywedd gwirfoddol yn Rhan 3 yn atal unrhyw berson neu blaid rhag sefyll mewn etholiad yn y Senedd.
Yn dibynnu ar ddull plaid o weithredu cwotâu rhywedd gwirfoddol, gallai hyn arwain at rhai ymgeiswyr posibl yn peidio â sefyll mewn etholiad pan fyddent fel arall wedi gwneud hynny neu fod mewn safle is ar restr plaid nag y byddent fel arall. Gallai hyn olygu nad yw'r ymgeiswyr hyn yn cael eu hethol pan allent fod wedi cael eu hethol fel arall.
Hawl i sefyll etholiad: rhesymau dros eich penderfyniad
Os bydd plaid yn penderfynu gweithredu cwotâu rhywedd gwirfoddol neu fesurau cadarnhaol eraill, gallai hyn olygu bod ymgeiswyr posibl yn cael eu hepgor o restr ymgeiswyr plaid er mwyn cyflawni’r effaith ddymunol o ethol mwy o unigolion o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Hawl i sefyll etholiad: sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau negyddol?
Bwriad y canllawiau yw helpu i gyflawni’r nod cyfreithlon o wneud y Senedd yn adlewyrchiad gwell o’r boblogaeth y mae’n ceisio ei chynrychioli a’i gwasanaethu.
Bydd angen i bleidiau gwleidyddol, ym mhob achos, ystyried pa gamau gweithredu sy’n bosibl eu cymryd gan ddibynnu ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Hawliau Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir
Ni fydd y canllawiau arfaethedig ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn cael effaith negyddol ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir y mae eu hawliau’n cael eu diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion.
Troednodiadau
[1] Funk, Kendall D.; Paul, Hannah L.; and Philips, Andrew Q. (2021) ‘Point break: using machine learning to uncover a critical mass in women’s representation’, Political Science Research and Methods, Cyfrol. 10, Rhifyn 2, tud. 372–90.
[2] Cowper-Coles, Minna (2021) ‘Women political leaders: the impact of gender on democracy’, The Global Institute for Women’s Leadership yn King’s College Llundain a’r Westminster Foundation for Democrac, tud. 8-9.