Canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig: asesiad effaith integredig
Sut fydd y canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn effeithio ar faterion fel cyfle cyfartal a phreifatrwydd (HTML).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweithredu Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi pleidiau gwleidyddol i ddatblygu strategaethau i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant ymysg ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Cymru; i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymysg ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd ac i ystyried cwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod ar gyfer etholiadau’r Senedd.
Mae’r canllawiau hyn yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau i etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i gyd wedi galw am fesurau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli’r bobl mae’n eu gwasanaethu’n well. Yn fwyaf diweddar, argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd mewn adroddiad ym mis Mai 2022 (Diwygio ein Senedd Llais cryfach i bobl Cymru ar Senedd Cymru) y dylai:
pob plaid wleidyddol sydd ag ymgeiswyr yn sefyll mewn etholiad Senedd
cael eu hannog:
i gyhoeddi strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, gan nodi sut y mae wedi ceisio hwyluso amrywiaeth o fewn ei hymgeiswyr, o leiaf chwe mis cyn etholiad y Senedd sydd wedi’i drefnu.
Argymhellodd yr un pwyllgor y dylid casglu gwybodaeth am amrywiaeth Aelodau’r Senedd a’i chyhoeddi fel ei bod yn hawdd i’w gweld.
Ceisiodd Gweinidogion Cymru weithredu argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (ar Senedd Cymru) (“Deddf 2024”). Mae Adran 30 o Ddeddf 2024, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2024, yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi Rhannau 1 a 2 o’r canllawiau hyn cyn 1 Mai 2025 a’i hadolygu’n gyson. Cyhoeddir Rhan 3 y canllawiau o dan bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 60 a 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Un o ddibenion Deddf 2024 yw cyfrannu tuag at nod Cenedlaethau’r Dyfodol o Gymru fwy cyfartal, gyda’r bwriad o wneud democratiaeth a phleidleisio yn fwy hygyrch i bob aelod o gymdeithas ac annog cyfranogiad gweithredol ym mywyd democrataidd Cymru gan bawb mewn cymdeithas, beth bynnag fo’u hamgylchiadau neu gefndir.
Mae thema gyffredin o dangynrychiolaeth hanesyddol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru a’r DU o ran grwpiau penodol o bobl sy’n rhannu nodweddion neu amgylchiadau gwarchodedig penodol. I rai o’r bobl hyn, ac yn enwedig i’r rhai hynny a allai rannu mwy nag un nodwedd, gall y llwybr i fyd gwleidyddiaeth gyflwyno ystod o rwystrau, mae’r rhain yn amrywio o rwystrau ariannol, diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol i rwystrau sefydliadol, strwythurol a ffisegol. Gall cefndir, addysg, profiadau a safbwyntiau, galwedigaeth, amgylchiadau ariannol, mynediad at wybodaeth a rhwydweithiau unigolyn, er enghraifft, i gyd fod yn ffactorau sy’n cyfrannu at ddiffinio taith rhywun i fyd gwleidyddiaeth, neu p’un a fyddai’n ystyried mynd i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cyntaf.
Mae’r ymchwil a ystyriwyd wrth ddatblygu’r canllawiau wedi dangos bod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol yn fwy tebygol o wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Yn benodol, mae tystiolaeth yn dangos bod pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, yn ogystal â phobl anabl, yn fwy tebygol o wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Felly, ystyrir y bydd ymdrechion i chwalu rhwystrau i gyfranogiad gwleidyddol pobl o rai grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli hefyd yn helpu i chwalu rhwystrau i bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol (Adolygu’r dystiolaeth: anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal).
Nod y canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol yw annog pleidiau gwleidyddol i gymryd camau i gyflawni’r amcan cyffredin o gael Senedd fwy cynrychioladol sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang poblogaeth Cymru, gan arwain at bolisïau a phenderfyniadau sy’n cael eu craffu ar a’u llywio gan ystod o safbwyntiau a lleisiau.
Mae hwn yn bolisi hirdymor sy’n canolbwyntio ar gasglu a chyhoeddi gwybodaeth nad yw ar gael ar hyn o bryd er mwyn rhoi gwybodaeth well am gamau gweithredu gan bleidiau gwleidyddol, a phartneriaid allweddol eraill, i roi mesurau ar waith sy’n atal rhwystrau ac anghydraddoldebau o ran mynediad at swyddi etholedig yng Nghymru. Mae ein hymchwil yn awgrymu y bydd cyhoeddi data amrywiaeth a chamau i wella lefelau amrywiaeth yn y Senedd yn integreiddio’n dda â pholisïau cenedlaethol ehangach, yn enwedig y rheini sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth mewn rolau arwain yng Nghymru. Mae’r polisi’n cyd-fynd â nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sef ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’ a hefyd Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i
greu Cymru lle gall pawb o’r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain”.
Mae’r canllawiau hefyd yn cefnogi cynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ (2023)
- Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol (2022)
- Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru (2020).
Mae’r polisi’n cydnabod bod rôl bwysig i bleidiau gwleidyddol o ran gwella amrywiaeth cynrychiolaeth yn ein cyrff democrataidd. Bwriad y canllawiau yw cefnogi pleidiau gwleidyddol i fod yn fwy tryloyw ynghylch eu cynlluniau hirdymor ar gyfer cyflawni’r uchelgais cyffredin hwn yn ogystal â’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd yn y byrdymor i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth a mynd i’r afael â rhwystrau i gyfranogiad, gan gynnwys drwy gynnwys grwpiau ymylol a chydweithio â phartneriaid allweddol. Dylai’r canllawiau hefyd feithrin dull mwy cyson a safonol o gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o ran ymgeiswyr y Senedd ac annog pleidiau i ystyried pa gamau y gallant eu cymryd i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd, gan ei gwneud yn fwy effeithiol.
Roedd y canllawiau’n destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 12 Tachwedd 2024 a 7 Ionawr 2025, sydd wedi helpu i lywio’r Asesiad Effaith Integredig.
Casgliad
Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant drafft ar gyfer pleidiau gwleidyddol rhwng 12 Tachwedd 2024 a 7 Ionawr 2025.
Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd rhanddeiliaid cyn y cyfnod ymgynghori er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad a darparwyd sesiynau briffio technegol ar gyfer y grwpiau canlynol yn ystod y cyfnod ymgynghori:
- Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ffydd
- pleidiau gwleidyddol
- Cawcws Menywod y Senedd
- Aelodau o’r Senedd
- rhanddeiliaid cyffredinol sydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad
- arbenigwyr academaidd
Cafwyd cyfanswm o 49 ymateb i'r ymgynghoriad. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys:
- unigolion a oedd yn ymateb yn breifat
- sefydliadau trydydd sector sy’n cynrychioli buddiannau grwpiau sy’n rhannu rhai o’r nodweddion penodol a nodir yn y canllawiau, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Llywodraeth Leol, gan gynnwys cynghorwyr, cyrff cynrychioliadol a chyrff etholiadol
- arbenigwyr academaidd
- pleidiau gwleidyddol (lleol a chenedlaethol) neu grwpiau sy’n gysylltiedig â phleidiau
- chorff statudol
Mae ymatebion i’r ymgynghoriad wedi helpu i lywio’r canllawiau terfynol.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Bydd y canllawiau, os ydynt yn cael eu gweithredu gan bleidiau gwleidyddol, yn cyfrannu tuag at gyflawni nod Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o ‘Cymru sy’n fwy cyfartal - Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir na’u hamgylchiadau, gan gynnwys eu cefndir economaidd-gymdeithasol a’u hamgylchiadau. Bydd yn helpu i hyrwyddo cydraddoldeb yn gadarnhaol drwy:
- gwell tryloywder ynghylch y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd, neu sy’n cael eu cynllunio, gan bleidiau gwleidyddol: ar hyn o bryd, prin yw’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am strategaethau pleidiau gwleidyddol, ac yn benodol sut maen nhw’n bwriadu gweithredu i wella amrywiaeth ymysg darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd. Drwy gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, byddai pleidiau gwleidyddol yn fwy tryloyw ynghylch yr hyn maen nhw’n ei wneud i hyrwyddo amrywiaeth ymysg eu hymgeiswyr, a sut y gallent helpu ymgeiswyr penodol i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn etholiadau Cymru.
- gwell wybodaeth am amrywiaeth ymysg ymgeiswyr Senedd: bydd unrhyw wybodaeth sydd wedi’i hanonymeiddio y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei chyhoeddi am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd yn ategu gwybodaeth a gyhoeddir am ymgeiswyr llywodraeth leol gan ddefnyddio’r broses bresennol a sefydlwyd drwy Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Os cyhoeddir yr wybodaeth hon gan bleidiau gwleidyddol, bydd yn helpu darparu darlun cyfannol o gynrychiolaeth ar draws etholiadau datganoledig yng Nghymru yn hytrach na llywodraeth leol neu’r Senedd ar ei phen ei hun. Gellid defnyddio’r wybodaeth hon wedyn i lywio penderfyniadau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wella cynrychiolaeth ar lefel Cymru gyfan.
- gwell tebygolrwydd o gael Senedd gytbwys o ran y rhywiau o 2026 ymlaen: Os yw pleidiau gwleidyddol yn cael eu hannog i weithredu cwotâu rhywedd yn wirfoddol, mae’n fwy tebygol bod cyfran y menywod sy’n cael eu hethol i’r Senedd yn adlewyrchu cyfran poblogaeth Cymru yn fras.
Mae llawer iawn o ymchwil academaidd wedi asesu'r budd i sefydliadau democrataidd o ganlyniad i gynnydd yn y gynrychiolaeth o fenywod, mae hyn yn cynnwys:
- mwy o amlygrwydd mewn dadleuon ar gynigion polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â materion sy’n effeithio ar fenywod, addysg, teulu a chymdeithas sifil ac sy’n adlewyrchu buddiannau ystod ehangach o gymunedau a phobl, gan gynnwys pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig
- hyrwyddo diwylliannau ac arferion gwaith penodol sy’n fwy cynhwysol
- cydweithio rhwng pleidiau gwleidyddol i gyflawni nodau cyffredin
- modelau rôl cadarnhaol mewn arweinyddiaeth wleidyddol, a all helpu i gryfhau dilysrwydd deddfwrfa (Sut mae cwotâu rhyw etholiadol yn effeithio ar bolisi? ar Annual Reviews)
- lefelau is o lygredd mewn gwleidyddiaeth (Menywod a Llygredd: Pa swyddi y mae'n rhaid iddynt eu dal i wneud gwahaniaeth? ar SSRN)
Mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu hannog i gasglu gwybodaeth am sgiliau iaith Gymraeg ymgeiswyr. Bydd casglu a chyhoeddi’r wybodaeth hon yn helpu i greu darlun o ba mor amrywiol yw ymgeiswyr o ran y Gymraeg, yn erbyn data poblogaeth ehangach.
Er nad oes disgwyl i’r canllawiau gyfrannu at anghydraddoldebau canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol, mae’n ceisio tynnu sylw at yr anghydraddoldebau presennol o ran canlyniadau a brofir o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol yng nghyd-destun etholiadau Cymru ac annog pleidiau gwleidyddol i gymryd camau i leihau anghydraddoldebau o’r fath.
O ran yr effeithiau negyddol posibl sy’n deillio o’r canllawiau, roedd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn poeni y gellir adnabod unigolion o’r wybodaeth am amrywiaeth a gyhoeddwyd gan bleidiau gwleidyddol. Teimlai rhai y gallai pleidiau llai gael mwy o drafferth na phleidiau mwy i weithredu Rhan 2 y canllawiau, sy’n ymwneud â chasglu, trefnu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ar ymgeiswyr y Senedd. Wrth gyhoeddi data ymgeiswyr, bydd angen i bleidiau gwleidyddol fod yn ofalus nad yw’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n golygu bod modd adnabod unrhyw ymgeisydd unigol. Bydd angen iddynt fod yn ystyriol bod y risg y bydd unigolion penodol yn cael eu hadnabod yn cynyddu wrth i wybodaeth gael ei dadgyfuno neu ei chyflwyno ar sail groestoriadol. Nodir hefyd efallai na fydd rhai ymgeiswyr yn dymuno datgelu gwybodaeth amdanynt eu hunain neu efallai y byddant yn teimlo’n anghyfforddus yn gwneud hynny.
Roedd effaith negyddol arall a nodwyd gan ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn ymwneud â’r posibilrwydd o ddryswch o ganlyniad i ddiffyg diffiniadau o dermau allweddol yn y canllawiau a’r defnydd o’r term ‘rhywedd’. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y gallai hyn arwain at ymgeiswyr yn hunanddiffinio eu hunain yn fenywod er mwyn sicrhau lle blaenoriaethol ar restr plaid, gan arwain yn y pen draw at wahaniaethu yn erbyn, ac erydu hawliau, ymgeiswyr sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig ‘rhyw’. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy’n cael ei gyhoeddi ar wahân.
Sut bydd y cynnig yn gwneud y mwyaf o gyfraniad at ein hamcanion a'n nodau lles ac yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Gan ystyried amcan cyffredinol y canllawiau, sef ceisio sicrhau cyrff etholedig mwy cynrychioliadol ac effeithiol yng Nghymru, ystyrir bod gan y cynnig y potensial i gyfrannu’n gadarnhaol at greu ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’ a thuag at gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus Gweinidogion Cymru yn adran 149 o’r Ddeddf Cydraddoldeb i roi sylw dyladwy i’r angen i wneud y canlynol:
- dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth a gweithgarwch anghyfreithlon;
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig berthnasol;
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig berthnasol.
Fel rhan o ymgyrch barhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo mwy o amrywiaeth mewn swyddi etholedig, mae nifer o fesurau pwysig yn cael eu cyflwyno a fydd yn arwain at newidiadau yn y Senedd ac mewn llywodraeth leol drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (ar legislation.gov.uk) a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (ar legislation.gov.uk). Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r canllawiau hyn, mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn rhoi dyletswydd arnynt i ddarparu gwasanaethau i hyrwyddo amrywiaeth o ran nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol y rhai hynny sy’n ceisio cael eu hethol mewn etholiadau lleol ac etholiadau Senedd Cymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad yn gysylltiedig â’u hanableddau. Gall Gweinidogion Cymru hefyd ddarparu ar gyfer yr un cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr sydd â nodweddion neu amgylchiadau penodol i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â’r nodweddion neu’r amgylchiadau hynny. Mae’r canllawiau hyn yn ffurfio rhan o’r pecyn ehangach hwn o fesurau sydd â’r nod o wireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 sef Cymru fwy ffyniannus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n Gymru fwy cyfartal, sydd â chymunedau cydlynol, diwylliant bywiog a lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Er mwyn lleihau a lliniaru’r effeithiau negyddol posibl sy’n ymwneud â diogelu data, mae’r canllawiau’n cynnig mesurau amrywiol y gall pleidiau gwleidyddol ystyried eu cymryd er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol a ddarperir gan ymgeiswyr yn cael ei thrin a’i storio’n ddiogel a bod statws dienw ymgeiswyr yn cael ei ddiogelu pan gyhoeddir yr wybodaeth. Mae’r canllawiau’n atgoffa pleidiau gwleidyddol (fel rheolwyr data) o’u cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data ac yn eu cyfeirio at wybodaeth berthnasol a ddylai eu helpu i roi’r canllawiau ar waith ar yr un pryd â chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Wrth gyhoeddi data eu hymgeiswyr, bydd angen i bleidiau gwleidyddol fod yn ofalus nad yw’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n golygu bod modd adnabod unrhyw ymgeisydd unigol ac mae'r canllawiau wedi’i gryfhau i helpu i gefnogi pleidiau gwleidyddol i gymryd camau priodol yn hyn o beth.
Bydd y ddarpariaeth o wybodaeth gan ymgeiswyr ar sail wirfoddol. Mae Rhan 2 o’r canllawiau yn annog partïon i ganiatáu i ymgeiswyr gwblhau opsiwn ‘mae’n well gen i beidio â dweud’ mewn perthynas â’r holl gwestiynau am amrywiaeth yn nhempled yr arolwg enghreifftiol. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd ddarparu gwybodaeth amdanynt eu hunain os nad yw’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Mae hwn yn fesur lliniaru pwysig os yw datgelu gwybodaeth am unrhyw un o’i nodweddion neu ei amgylchiadau yn gwneud i unrhyw unigolyn deimlo’n anghyfforddus.
O ran yr effeithiau posibl a amlygwyd gan rai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn ymwneud â diffyg diffiniadau clir, mae’r canllawiau wedi cael eu diwygio fel bod cysylltiad clir rhwng y nodweddion gwarchodedig a’r diffiniadau perthnasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae Rhan 3 o’r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn glir y byddai’r nodwedd warchodedig ‘rhyw’ yn berthnasol i unrhyw gamau cadarnhaol a gymerir gan bleidiau gwleidyddol i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth menywod ymysg eu hymgeiswyr e.e. drwy gwotâu gwirfoddol. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at y ffaith bod gan bartïon rwymedigaethau cyfreithiol y dylent eu hystyried o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys mewn perthynas â chymryd camau cadarnhaol ac atal gwahaniaethu.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?
Ni fydd y canllawiau eu hunain yn effeithio’n uniongyrchol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig neu bobl mewn amgylchiadau penodol. Bydd maint yr effaith ar unrhyw grŵp penodol yn dibynnu ar y camau penodol a gymerir, a llwyddiant neu fethiant y camau hynny, gan bleidiau gwleidyddol. Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd modd dadansoddi’r data amrywiaeth dros amser i benderfynu a fu cynnydd yn amrywiaeth yr ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig yn etholiadau Cymru.
Mae’r canllawiau’n argymell bod pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi eu strategaethau o leiaf 6 mis cyn etholiad y Senedd yn 2026, a’u bod yn cael eu hadolygu’n barhaus, gan ddefnyddio’r wybodaeth am amrywiaeth sydd ar gael iddynt. Mae’r canllawiau hefyd yn cynghori pleidiau i gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr y Senedd hyd at 6 wythnos ar ôl pob etholiad yn y Senedd.
Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r canllawiau o bryd i’w gilydd, a’u diwygio os oes angen. Bydd y broses hon o adolygu parhaus yn cynnwys ystyried pa mor effeithiol yw’r canllawiau, ar sail trafodaethau gyda rhanddeiliaid perthnasol ac adborth ganddynt.
Ar ddechrau’r Seithfed Senedd, mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn gosod dyletswydd bod cynnig yn cael ei gyflwyno bod pwyllgor yn adolygu gweithrediad ac effeithiolrwydd y Ddeddf ac yn edrych ar i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru. Rhagwelir y bydd yr adolygiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae’r Seithfed Senedd yn adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru.