Dylai optegwyr ddilyn y canllawiau hyn i ddarparu gwasanaethau yn ddiogel yn ystod y cofnod oren.
Cynnwys
Overview
Mae'n ofynnol i bractisau wneud y canlynol:
- blaenoriaethu diogelwch, iechyd a llesiant y cyhoedd ac optometryddion, optegwyr dosbarthu a'r gweithlu ehangach (e.e. staff sy'n gweithio yn y dderbynfa)
- cydymffurfio â holl reoliadau'r Deyrnas Unedig a rheoliadau Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddiadau Deddfwriaethol, Cylchlythyrau Iechyd Cymru a chanllawiau priodol eraill, gan gynnwys canllawiau a hyfforddiant penodol ar gyfarpar diogelu personol COVID-19
- cydymffurfio â'r holl fesurau cadw pellter cymdeithasol (gweler yr adran isod)
- darparu mwy o wasanaethau o bell e.e. dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo lle y bo'n bosibl
- lleihau'r amser a dreulir gyda phob claf mewn gofod cyfyngedig (ni ddylai hyn fod yn fwy na 15 munud lle y bo'n bosibl); ystyried elfennau o daith y claf nad ydynt yn hanfodol, yn unol ag egwyddorion darbodus
- cydymffurfio â safonau hylendid ychwanegol ar gyfer ardaloedd aros a chynnal safonau hylendid cyfarpar cyfredol
- adolygu prosesau gweinyddu cyfredol er mwyn cyfyngu ar yr amser cyswllt rhwng cleifion a'r gweithlu
Mesurau cadw pellter cymdeithasol
Bydd yr arfer o gadw pellter cymdeithasol yn teimlo'n wahanol iawn i'r gweithlu optometreg ac i gleifion. Nod y mesurau ymarferol a amlinellir isod yw sicrhau bod cyn lleied o amser cyswllt â phosibl rhwng y claf a'r gweithlu.
Mesurau cyffredinol
Mae'n ofynnol i bractisau wneud y canlynol:
- sicrhau bod pob optometrydd yn cwblhau modiwl hyfforddiant COVID-19 WOPEC y cytunwyd arno'n genedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn gwybod pryd a sut i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol
- cynnig gwasanaeth o bell i gleifion fel dewis cyntaf lle y bo'n briodol
- brysbennu apwyntiadau cleifion, dros y ffôn neu drwy fideo, gan ystyried y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o golli eu golwg
- gofyn i gleifion fynd i apwyntiadau ar eu pennau eu hunain; ac eithrio achosion pan fydd angen diogelu cleifion sy'n wynebu risg o niwed a'r rhai o dan 16 oed
- sicrhau bod cleifion sy'n aros am eu hapwyntiad yn sefyll neu'n eistedd 2 fetr i ffwrdd oddi wrth gleifion eraill; efallai y bydd angen i gleifion giwio y tu allan i'r practis
- defnyddio marciau clir er mwyn i gleifion a'r gweithlu weld lle y dylai claf eistedd neu sefyll wrth aros am ei apwyntiad
- ystyried gofyn i gleifion a hoffent i'w sbectols neu lensys cyffwrdd gael eu danfon i'w cartref fel dewis cyntaf, a threfnu apwyntiadau dilynol o bell
Trefnu apwyntiad a brysbennu
Mae'n ofynnol i bractisau wneud y canlynol:
- gofyn i bob claf a oes ganddo ef neu unrhyw un yn ei gartref dymheredd, peswch parhaus neu unrhyw symptomau eraill sy'n gysylltiedig â COVID-19 drwy system frysbennu dros y ffôn, ac eto pan fydd yn mynd i'r apwyntiad. (https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/); mae'n hollbwysig nad oes gan unrhyw glaf sy'n mynychu practis am unrhyw reswm symptomau er mwyn lleihau'r risg y caiff y clefyd ei drosglwyddo
- cynnig gwasanaeth o bell i gleifion fel dewis cyntaf; gofyn i'r claf a fyddai ymgynghoriad dros y ffôn/drwy fideo yn briodol, neu a oes angen iddo fynd i ymgynghoriad yn bersonol
- egluro'r protocolau ar gyfer mynychu apwyntiad yn y practis, y mesurau newydd a'r ffyrdd newydd o weithio sy'n deillio ohonynt (gweler yr adran ar ymgynghoriad cyn apwyntiad isod)
Ymgynghoriad cyn apwyntiad
Dylai'r broses ymgynghori cyn apwyntiad gael ei chwblhau pan fydd y claf yn trefnu apwyntiad ac eto pan fydd yn cyrraedd y practis. Nod hyn yw sicrhau:
- bod y claf yn cydymffurfio â'r mesurau newydd ac egluro'r hyn y gall ei ddisgwyl, beth y dylai fynd gydag ef i'r apwyntiad a'r hyn y bydd angen iddo ei wneud os bydd ciw yn y practis pan fydd yn cyrraedd
- cadarnhau bod y wybodaeth a nodwyd eisoes am y claf yn gywir a gofyn unrhyw gwestiynau ychwanegol iddo e.e. ei fanylion cyswllt; Cydsyniad GDPR
- cadarnhau’r daith briodol ar gyfer y claf
- cadarnhau'r archwiliadau priodol ar gyfer taith y claf
- cadarnhau'r holiadur priodol e.e. holiadur ffordd o fyw a/neu holiadur CL
- diweddaru'r adran Hanes a Symptomau ar gofnod pob claf
- cadarnhau'r holl wybodaeth a gasglwyd am y claf a thrafod a chytuno â gofynion dosbarthu'r claf, gan gynnwys egluro'r opsiynau a'r costau dan sylw
Dosbarthu o bell
Penderfynodd y Cyngor Optegol Cyffredinol (y Cyngor) lacio'r cyfyngiadau ar gyflenwi sbectols yn ystod y pandemig COVID-19 ac mae'r canllawiau cyfredol yn nodi'r canlynol:
- Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol mewn perthynas â chyflenwi sbectols drwy, neu o dan oruchwyliaeth optometryddion neu optegwyr dosbarthu a gofrestrir â'r Cyngor, gan gynnwys ar gyfer defnyddwyr o dan 16 oed neu'r rhai y cofrestrwyd bod ganddynt nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg (adran 27 o'r Ddeddf Optegwyr). Os nad oes unrhyw angen clinigol i glaf fynd i bractis optegol, dylai rheolwr y practis ystyried anfon sbectols at y claf drwy'r post neu eu danfon i'w gartref.
- Os na fydd y claf yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i'w olwg ac nad oes gan yr optometryddion unrhyw bryderon, dylai'r optegydd dosbarthu ystyried darparu gwasanaeth sbectols a/neu lensys cyffwrdd o bell e.e. ymgynghoriad dros y ffôn neu drwy fideo.
- Dylid ystyried gwasanaeth danfon i'r cartref gan gydymffurfio â mesurau newydd ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.
- Dylid ystyried ffonio pob claf ar ôl iddo gael ei weld.
Mynychu apwyntiad
- Dylech ystyried a oes angen i aelod o staff/ceidwad drws gael ei leoli wrth y fynedfa i'r practis i groesawu/cyfarch pawb sy'n mynd i mewn a chadarnhau'r rheswm dros eu hymweliad. Mae'n rhaid i geidwad y drws sicrhau ei bod yn ddiogel i bobl fynd i'w hapwyntiad gan gynnwys cadarnhau nad oes ganddynt symptomau'r coronafeirws ac nad ydynt wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â symptomau (p'un a yw'r coronafeirws wedi'i gadarnhau ai peidio).
- Bydd ceidwad y drws yn ystyried nifer y bobl sydd yn y practis ar unrhyw adeg benodol, ac yn galluogi pobl i fynd i mewn ac allan o'r practis, gan gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol (fel y gwelir mewn archfarchnadoedd ledled y DU). Bydd ceidwad y drws yn chwarae rôl allweddol wrth i fwyfwy o bobl ymweld â'r practis.
- Dylech ystyried sefydlu ardal frysbennu yn rhan flaen y practis. Dylai'r lle hwn gael ei ddefnyddio i frysbennu pobl, gan gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol. Os oes gan yr adeilad ddwy fynedfa, dylid ystyried defnyddio un ohonynt fel mynedfa a'r llall fel allanfa os yw'n ddiogel gwneud hynny.
- Dylech egluro i'r gweithlu a'r cleifion mai'r prif ffocws yw cadw cleifion a staff yn ddiogel tra eu bod yn y practis.
- Dylech egluro i'r gweithlu a'r cleifion fod y marciau ar y llawr, y defnydd o gyfarpar diogelu personol a'r arferion glanhau yn cydymffurfio â'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.
- Dylech ystyried darparu hylif diheintio dwylo ar gyfer y gweithlu a chleifion.
- Gofynnwch i gleifion fynd i'r ardal frysbennu ar gyfer apwyntiadau/ymweliadau heb eu trefnu a'r lleoliad priodol ar gyfer apwyntiadau a drefnwyd.
Diagnosteg a chyn sgrinio
- Sicrhewch fod y gweithlu yn gwisgo'r cyfarpar diogelu personol sy'n briodol i'r dasg sy'n cael ei chyflawni/gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu (ar GOV.UK).
- Glanhewch bob darn o gyfarpar cyn bod pob claf yn dod i mewn i'r ystafell ymgynghori. Eglurwch y profion diagnostig a'u cynnal
- Prawf awtoblygiant (lle y bo'n briodol)
- Meysydd golwg (lle y bo'n briodol)
- Tomograffeg cydlyniad optegol (lle y bo'n bosibl)
- Ffotograffiaeth retinol ddigidol (lle y bo'n bosibl)
- Tonometreg ddigyffwrdd (yn dibynnu ar y cyngor proffesiynol cyfredol)
- Dylid cael gwared ar gyfarpar diogelu personol neu ei ddiheintio, fel y bo'n briodol, ar ôl apwyntiad pob claf.
Archwiliadau
- Dylai fod gan ystafelloedd ymgynghori bolisi un claf llym, ac eithrio lle y bydd angen i warcheidwad neu gydymaith plentyn neu oedolion sy'n agored i niwed fod yn bresennol hefyd.
- Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid treulio cyn lleied o amser â phosibl gyda chleifion yn yr ystafell ymgynghori. Dylid cyfyngu'r archwiliad i 15 munud er mwyn lleihau'r risg y caiff y coronafeirws ei drosglwyddo.
- Dylai practisau sicrhau bod pob optometrydd yn ymwybodol o ganllawiau diweddaraf y diwydiant ar agweddau penodol ar yr archwiliad.
- Dylech ystyried llif yr archwiliad:
- Dylai'r optometrydd ddarllen a chofnodi gwybodaeth am hanes, symptomau a ffordd o fyw'r claf, yn ogystal â chanlyniadau diagnostig, ar gofnod y claf, cyn gwahodd y claf i mewn i'r ystafell ymgynghori.
- Dylai'r optometrydd wisgo cyfarpar diogelu personol newydd neu gyfarpar sydd wedi'i ddiheintio ar gyfer pob claf cyn iddo fynd i mewn i'r ystafell ymgynghori.
- Dylid glanhau pob darn o gyfarpar rhwng cleifion.
- Dylid cwblhau'r archwiliad ac, os nodir bod pwysedd yn y llygaid, defnyddio tonometreg gyffwrdd gan ddilyn y rheolau ar hylendid.
- Dylid diweddaru'r cofnodion ar y system (ar ôl i'r claf adael yr ystafell ymgynghori).
- Dylai'r optometrydd gael gwared ar ei gyfarpar diogelu personol neu ei ddiheintio ar ôl pob claf.
Dosbarthu
- Dylech ystyried faint y gellir ei drafod gyda'r claf yn yr ymgynghoriad o bell a gynhelir dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo cyn yr ymweliad.
- Dylai'r optegydd dosbarthu neu'r optometrydd wisgo cyfarpar diogelu personol priodol.
- Dylid glanhau a sychu pob ffrâm sbectol ar ôl i'r claf ei gwisgo cyn ei rhoi yn ôl yn y man arddangos.
- Dylid sychu'r ddesg ddosbarthu, y cadeiriau ac unrhyw offerynnau a ddefnyddir yn y broses ddosbarthu.
- Dylid cofnodi'r holl fesuriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir danfon sbectol yn llwyddiannus i gartref y claf.
- Dylid gwneud trefniadau ar gyfer y broses gasglu – danfon i'r cartref yw'r trefniant delfrydol.
- Dylid ystyried ffonio pob claf ar ôl iddo gael ei weld.
Prynu
- Dylid marcio ardal benodol i ddangos lle y dylai cleifion sefyll pan fyddant yn talu (e.e. marciau ar y llawr fel y gwelir mewn archfarchnadoedd). Dylid atgoffa cleifion i dalu â cherdyn. Dylid ceisio osgoi cymryd arian parod lle y bo'n bosibl. Dylid sicrhau bod pob aelod o'r staff yn golchi ei ddwylo ar ôl cymryd taliad ac, yn benodol, ar ôl trafod arian.
- Dylid sychu'r peiriant talu â cherdyn cyn ei gyflwyno i bob person.
- Dylid sychu'r peiriant talu â cherdyn ar ôl i bob person gwblhau'r trafodiad (ac eithrio taliadau di-gyswllt).
- Yn sgil yr amgylchedd COVID-19 cyfredol, mae diwydiant taliadau'r DU wedi penderfynu cynyddu'r swm uchaf y gellir ei dalu â cherdyn yn ddi-gyswllt o £30 i £45. Mae'r cynnydd hwn yn y terfyn ar gyfer trafodion di-gyswllt mewn siopau yn fesur arall i leihau lledaeniad COVID-19 drwy drafod arian parod. Mae'n rhaid i bractisau wneud cais i'w cyflenwyr er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Mae newidiadau dros dro mewn rheoliadau sy'n ymwneud â darparu sbectols yn golygu'r canlynol:
- Gall practisau gynnig gwasanaeth danfon i'r cartref i bawb, gan gynnwys y rhai o dan 16 oed.
- Defnyddiwch eich barn broffesiynol wrth ehangu'r gwasanaeth a darllenwch y canllawiau clinigol diweddaraf.
- Cydnabyddir nad yw gwasanaeth danfon i'r cartref yn addas i bawb. Dylai practisau ddefnyddio'r un broses frysbennu i sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i gyfyngu ar nifer yr ymweliadau â'r practis a'r risg, gan wneud penderfyniadau ar sail achosion unigol.
Casglu o'r practis
Dylai practisau ystyried y llif casglu:
- Dylid cwblhau'r broses gyfarfod, cyfarch a brysbennu.
- Dylid glanhau a sychu'r ddesg a'r gadair ddosbarthu cyn i'r claf eistedd i lawr.
- Dylai'r staff olchi eu dwylo a gofyn i gleifion wneud yr un peth wrth gasglu sbectols.
- Dylai'r staff wisgo'r cyfarpar diogelu personol priodol.
- Dylid glanhau a sychu'r ffrâm a'r cas o flaen pob person.
- Dylid sicrhau bod y ffrâm yn ffitio'n gywir. Dylid sicrhau bod y sbectol yn gyfforddus a holi am olwg y claf.
- Dylid glanhau a sychu'r ffrâm eto cyn ei rhoi yn y cas ac yna i'r person.
- Dylid glanhau a sychu pob darn o gyfarpar ac yna waredu neu ddiheintio cyfarpar diogelu personol fel y bo'n briodol.
Lensys cyffwrdd
Cyhoeddodd y Cyngor Optegol Cyffredinol y datganiad canlynol mewn perthynas â chyflenwi lensys cyffwrdd yn ystod y pandemig COVID-19: Os oes angen clinigol, neu os yw'r fanyleb wedi dod i ben yna, yn ystod y cyfnod argyfwng hwn, dylai cofrestreion ystyried y risg y gallai claf gael coronafeirws neu y gallai ei ledaenu o bosibl pe bai angen iddo fynd i bractis optegol, o gymharu ag unrhyw risg glinigol sydd ynghlwm wrth gyflenwi lensys cyffwrdd ar fanyleb sydd wedi dod i ben a defnyddio eu barn broffesiynol i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu.
Ystyriwch a ddylid cynnal archwiliadau iechyd dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo fel mater o drefn yn hytrach nag eithriad. Os byddwch yn penderfynu:
- bod gan y claf gofnodion blaenorol gyda'r practis
- ei fod dros 16 oed
- ei fod yn gwisgo lensys cyffwrdd meddal ond nad yw'n gwisgo lensys am gyfnodau estynedig
Ystyriwch hefyd a ellir trefnu apwyntiadau o bell i addysgu'r claf sut i ddefnyddio lensys cyffwrdd drwy ymgynghoriad fideo.
Addasiadau ac atgyweiriadau
Dylai claf sy'n galw (ffonio) i fynegi pryderon ynghylch a yw pâr o sbectol a brynwyd yn ddiweddar yn ffitio/ei olwg gael ei frysbennu er mwyn penderfynu a oes angen iddo ddychwelyd i'r practis/a oes angen i'r sbectol gael ei dychwelyd:
- os yw'n bosibl, dylid defnyddio ymgynghoriad fideo o bell i asesu pa mor dda y mae'r sbectol yn ffitio a siarad â'r claf o bosibl ynghylch sut mae gwneud mân addasiadau i'r sbectol os bydd angen
- os bydd angen i'r claf ddychwelyd i'r practis, dylid trefnu apwyntiad dosbarthu er mwyn rheoli nifer y cleifion a sicrhau bod aelod priodol o'r staff ar gael
- os bydd claf yn dychwelyd i'r practis am fod ganddo bryderon ynghylch a yw sbectol yn ffitio/ei olwg, dylai gael ei frysbennu wrth y fynedfa i'r practis.