Canllawiau Drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig
Canllawiau gwirfoddol ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig yw’r rhain ac maent yn wirfoddol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd pleidiau sy’n cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau Cymreig yn cymryd y camau a awgrymir fel rhan o’u hymrwymiad i gyflawni ein nod cyffredin o greu Senedd fwy amrywiol.
I’w nodi: mae cyfeiriadau a wneir drwy’r ddogfen hon at ‘bleidiau gwleidyddol’ neu ‘bleidiau’ yn cyfeirio at bleidiau gwleidyddol cofrestredig (mae plaid wleidyddol gofrestredig yn golygu plaid sydd wedi’i chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000). Mae cyfeiriadau at ‘strategaethau’ neu ‘strategaeth’ yn cyfeirio at strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant pleidiau gwleidyddol.
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ar wahanol gamau y gallent ystyried eu cymryd. Fel rhan o’r ystyriaeth honno, efallai y bydd angen iddynt gael cyngor cyfreithiol ynghylch a fyddai cam arfaethedig yn gyfreithlon yn eu hamgylchiadau nhw ac ynghylch sut mae cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth fynd ar drywydd y cam hwnnw. Cyfrifoldeb y pleidiau yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith wrth gymryd unrhyw gamau yn sgil y canllawiau hyn. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Mae rhagor o gyngor ac arweiniad ar GDPR y DU ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Mae rhagor o gyngor ac arweiniad ar wahaniaethu gan gymdeithasau ar gael ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC). Mae’r Comisiwn hefyd wedi cynhyrchu canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar yr hyn y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei olygu i bleidiau gwleidyddol a’u haelodau.
Mae Rhannau 1 a 2 o’r canllawiau hyn yn cael eu dyroddi o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae Rhan 3 o’r canllawiau hyn yn cael ei dyroddi o dan bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 60 a 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cefndir
Mae cryn dipyn o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i ystyried pa ddiwygiadau y gallai fod eu hangen i wneud y Senedd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae hyn wedi arwain at gyflwyno nifer o newidiadau ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i gael mwy o gapasiti i graffu ar waith y Llywodraeth. O 2026 ymlaen, bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol i gynrychioli pob un o’r 16 etholaeth newydd ledled Cymru, gan wneud cyfanswm o 96 Aelod o’r Senedd, a bydd yr Aelodau hyn yn cael eu hethol o dan system etholiadol gyfrannol ‘rhestr gaeedig’.
Yn ogystal â’r diwygiadau hyn i’r system etholiadol a’r ffiniau, mae pwyllgorau dros y blynyddoedd wedi dod i’r casgliad y dylid cymryd camau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli poblogaeth Cymru yn well.
Mae’r adroddiadau wedi canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau diwylliannol, strwythurol ac ariannol y mae pobl yn eu hwynebu wrth sefyll am swydd etholedig, a’r heriau sy’n wynebu rhai wrth iddynt geisio cadw eu swydd. Maent hefyd wedi galw am fwy o dryloywder ynghylch ymdrechion pleidiau gwleidyddol i hwyluso amrywiaeth a chynhwysiant ymysg ymgeiswyr, ac amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd.
Mae pob grŵp gwleidyddol yn y Senedd wedi mynegi ei ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ymysg Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys gwella cynrychiolaeth menywod ac unigolion o grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys pobl sydd â hunaniaethau croestoriadol. Mae Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi cydnabod bod gan bob plaid gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod hyn yn digwydd, a bod angen gweithredu mewn nifer o feysydd.
Mae’r canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi fel adnodd i gefnogi pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried camau ymarferol i’w cymryd i gyfrannu at yr uchelgais gyffredin o gael mwy o amrywiaeth ymysg ein cynrychiolwyr etholedig, a sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli.
Diwygio'r Senedd: argymhellion pwyllgorau
Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i gyd wedi galw am gamau i sicrhau bod mwy o amrywiaeth yn y Senedd a’i bod yn cynrychioli’r bobl mae’n eu gwasanaethu’n well.
Dywedodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017 (Senedd sy’n gweithio i Gymru) ei fod yn credu’n gryf y byddai dethol ac ethol Cynulliad mwy amrywiol yn gwella gweithrediad y Cynulliad a’r ffordd y mae’n gweithio i bobl Cymru ac yn eu cynrychioli.
Fe wnaeth Panel Arbenigol 2017 hefyd argymell y dylai deddfwriaeth diwygio’r Senedd gynnwys darpariaeth a fyddai’n sicrhau bod gwybodaeth am amrywiaeth ar gael.
Dywedodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020 ei fod, drwy gydol ei ymchwiliad, wedi clywed dadleuon darbwyllol am fanteision amrywiaeth ymysg cynrychiolwyr etholedig, gan fynd ymlaen i argymell y canlynol:
Dylai pleidiau gwleidyddol sy’n ymladd etholiadau’r Senedd baratoi a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant sy’n asesu amrywiaeth a chynhwysiant eu diwylliant, eu prosesau, eu ffyrdd o weithio a’u cynrychiolaeth, a nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gynyddu amrywiaeth eu haelodaeth, ymgeiswyr ac Aelodau etholedig.
Daeth yr un pwyllgor i’r casgliad er bod ‘y Senedd wedi perfformio’n gymharol gryf o ran cynrychiolaeth gytbwys o ran rhywedd, bod prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd’, ac argymhellodd y dylai pleidiau gwleidyddol fynd ati’n wirfoddol i gasglu, anonymeiddio a chyhoeddi data am amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd.
Gwnaeth y Pwyllgor Diben Arbennig ar ddiwygio’r Senedd, a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Mai 2022, nifer o argymhellion gyda’r nod o gynyddu amrywiaeth y Senedd, gan ddefnyddio tryloywder a gwybodaeth i sbarduno newid, ac i nodi a chael gwared ar rwystrau rhag cael swyddi cyhoeddus. Mae’r argymhellion canlynol yn berthnasol iawn i’r canllawiau hyn:
- “Rydym yn argymell bod deddfwriaeth diwygio’r Senedd yn cynnwys darpariaethau sy’n annog pob plaid wleidyddol sydd ag ymgeiswyr yn sefyll mewn etholiad Senedd i gyhoeddi strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, gan nodi sut y mae wedi ceisio hwyluso amrywiaeth o fewn ei hymgeiswyr, o leiaf chwe mis cyn etholiad y Senedd sydd wedi’i drefnu.
- “Rydym yn argymell gosod gofyniad deddfwriaethol ar Awdurdod Datganoledig yng Nghymru i gasglu a chyhoeddi data dienw ar amrywiaeth ymgeiswyr.
Diwygio ein Senedd - Llais cryfach i bobl Cymru, 2022
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r argymhellion hyn ac mae’n cyhoeddi’r canllawiau hyn i gefnogi pleidiau gwleidyddol i weithredu yn y ddau faes pwysig hyn.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae gan Gomisiwn y Senedd gynlluniau i adolygu ei weithdrefnau a’i arferion gyda golwg ar ddenu a chadw ystod mor eang ac amrywiol â phosibl o Aelodau. Ers pandemig Covid-19, mae Aelodau o’r Senedd wedi gallu cymryd rhan o bell mewn trafodion Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau, ac mae Comisiwn y Senedd yn defnyddio technoleg i helpu i gael gwared ar rwystrau rhag cymryd rhan ym musnes y Senedd. Yn ogystal, rhoddir ystyriaeth i rannu swyddi ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau a bydd gwaith i addasu’r Siambr i gynnwys 96 o Aelodau yn ceisio sicrhau bod unrhyw newidiadau i ffyrdd o weithio yn y dyfodol yn ystyried anghenion pawb sy’n dymuno sefyll i gael eu hethol i’r Senedd (mae rhagor o fanylion ar gael yn llythyr y Llywydd at y Pwyllgor ar y Bil Diwygio, dyddiedig 15 Ebrill 2024). Mae adolygiad thematig y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyflogau a chymorth personol Aelodau, wrth ystyried y newidiadau sy’n ofynnol ar gyfer y Seithfed Senedd, hefyd yn ystyried sut gellir dileu rhwystrau i gefnogi amrywiaeth Aelodau (Rhaglen Waith Strategol 2022-26).
Ym mis Hydref 2024, sefydlodd y Senedd Bwyllgor Senedd y Dyfodol a fydd yn adrodd erbyn 9 Mai 2025. Rhan o gylch gwaith y pwyllgor hwn fydd ystyried atebion i rwystrau (go iawn ac ymddangosiadol) a allai, neu sydd â’r potensial i, lesteirio gallu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiadau bywyd, dewisiadau a chredoau. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y canllawiau hyn ar gyfer pleidiau gwleidyddol fel rhan o’i waith.
Beth ydyn ni’n ei wybod am amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig mewn llywodraeth leol ac yn y Senedd?
Ar hyn o bryd, nid oes fawr o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd am strategaethau pleidiau gwleidyddol, ac yn benodol sut maen nhw’n bwriadu gweithredu i wella amrywiaeth ymysg darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd. Drwy gyhoeddi strategaethau, byddai pleidiau gwleidyddol yn fwy tryloyw ynghylch yr hyn maen nhw’n ei wneud i hybu amrywiaeth ymysg yr ymgeiswyr sy’n eu cynrychioli mewn etholiadau Cymreig, a sut maen nhw’n helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan mewn etholiadau Cymreig.
Mae rhywfaint o wybodaeth ar gael am amrywiaeth ymgeiswyr llywodraeth leol ac Aelodau etholedig, ond nid yw hyn yn rhoi darlun cynhwysfawr gan fod cyfraddau ymateb i arolygon llywodraeth leol yn isel.
Mae’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn dangos (o’r rheini a ymatebodd) yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf yn 2022 (Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol: 2022):
- Roedd 40% o’r Cynghorwyr Sir etholedig a ymatebodd i’r arolwg yn fenywod (43% o’r Cynghorwyr Cymuned).
- Roedd 46% o’r Cynghorwyr Sir etholedig yn 60 oed neu’n hŷn (56% o’r Cynghorwyr Cymuned).
- Dywedodd 96% o’r Cynghorwyr Sir a Chymuned etholedig eu bod yn perthyn i grŵp ethnig gwyn.
- Dywedodd 89% o’r Cynghorwyr Sir etholedig eu bod yn heterorywiol neu’n strêt (88% o’r Cynghorwyr Cymuned), dywedodd 6% eu bod yn lesbiaid, yn hoyw neu’n ddeurywiol (5% o’r Cynghorwyr Cymuned).
- Dywedodd 1% o’r holl ymgeiswyr nad yw’r rhywedd y maent yn uniaethu ag ef yr un fath â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni. Dewisodd 2% beidio ag ymateb.
- Roedd 13% o’r Cynghorwyr Sir etholedig yn eu hystyried eu hunain yn anabl (15% o’r Cynghorwyr Cymuned).
Ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021, nododd gwasanaeth Ymchwil y Senedd (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd?) mai ychydig o wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n gyhoeddus am amrywiaeth a chefndir Aelodau o’r Senedd. Fodd bynnag, nododd yr ymchwil y canlynol:
- Roedd 43% o’r Aelodau etholedig yn fenywod (o’i gymharu â 40% yn Nhŷ’r Cyffredin yn dilyn etholiad cyffredinol mis Gorffennaf 2024 (Female Members of Parliament), 46% yn Senedd yr Alban a 37% yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon (Women in politics and public life)).
- Roedd 5% o’r Aelodau etholedig yn dod o gefndir ethnig leiafrifol.
- Roedd 5% yn arddel hunaniaeth LHDT+ yn gyhoeddus.
- Nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn o bryd am nifer yr Aelodau sy’n eu hystyried eu hunain yn anabl.
O’i gymharu, yn ôl Cyfrifiad 2021:
- Merched oedd 51.1% o boblogaeth Cymru (Amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi Cymru:Cyfrifiad 2021).
- Nododd 93.8% o’r boblogaeth eu bod yn perthyn i grŵp ethnig gwyn (Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru).
- Roedd 3% o’r boblogaeth yn eu h ystyried eu hunain yn LHDT+, a dewisodd 7.6% beidio ag ateb am eu cyfeiriadedd rhywiol (Cyfeiriadedd rhywiol - Cyfrifiad 2021).
- Roedd 21.1% o boblogaeth Cymru yn anabl (Anabledd, Cymru a Lloegr - Cyfrifiad 2021).
Adroddodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020 er bod ‘y Senedd wedi perfformio’n gymharol gryf o ran cynrychiolaeth gytbwys rhwng y rhywiau, bod prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd’ (Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf).
Bydd unrhyw wybodaeth ddienw y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei chyhoeddi am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd yn ategu gwybodaeth a gyhoeddir am ymgeiswyr llywodraeth leol gan ddefnyddio’r broses bresennol a sefydlwyd drwy Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Bydd hefyd yn darparu darlun cyfannol o gynrychiolaeth ar draws etholiadau datganoledig yng Nghymru yn hytrach na llywodraeth leol neu’r Senedd ar ei phen ei hun. Gellid defnyddio’r wybodaeth hon wedyn i lywio penderfyniadau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wella cynrychiolaeth ar lefel Cymru gyfan.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u rhannu’n dair rhan fel a ganlyn:
Rhan 1: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd.
Rhan 2: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy’n ymwneud ag ymgeiswyr ac Aelodau etholedig.
Rhan 3: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod.
Nodweddion ac amgylchiadau penodedig
At ddibenion Rhannau 1 a 2 o’r canllawiau hyn, nodir isod y nodweddion a’r amgylchiadau penodedig y dylai pleidiau gwleidyddol fod yn eu targedu i hybu amrywiaeth wrth ddatblygu eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant a’r bobl hynny y dylid casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth amdanynt.
Mae’r nodweddion a’r amgylchiadau hyn yn cynnwys rhai o’r nodweddion gwarchodedig a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond nid pob un ohonynt. Mae’r nodweddion a’r amgylchiadau canlynol wedi’u pennu ar sail dealltwriaeth bresennol Llywodraeth Cymru o ba grwpiau a allai gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth a/neu a allai wynebu rhwystrau penodol rhag cael eu hethol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried y nodweddion a’r amgylchiadau sy’n rhan o arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol yng Nghymru ar hyn o bryd ar y sail y bydd yn ddefnyddiol sicrhau bod rhywfaint o gysondeb a chymharedd rhwng y setiau data lle bo hynny’n bosibl. Ar sail yr ystyriaethau hyn, mae’r canllawiau’n awgrymu y dylai pleidiau gwleidyddol ystyried y nodweddion a’r amgylchiadau canlynol wrth gasglu gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ac wrth ddatblygu eu strategaethau:
- Oedran*
- Anabledd*
- Hil*
- Crefydd neu gred*
- Rhyw*
- Cyfeiriadedd rhywiol*
- Statws neu hanes traws (gan gynnwys ailbennu rhywedd*)
- Cefndir economaidd-gymdeithasol
- Cyflyrau iechyd
- Profiad gwleidyddol blaenorol
- Cyfrifoldebau gofalu
- Cyfrifoldeb rhiant
- Iaith
* Nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (mae diffiniadau perthnasol wedi’u cynnwys yn adrannau 5 – 7, a 9 – 12 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
Rhan 1: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd
Pwrpas
Pwrpas y rhan hon o’r canllawiau yw cefnogi pleidiau gwleidyddol i ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd.
Bwriedir i’r rhan hon ategu Rhan 2 o’r canllawiau sy’n ymwneud â chamau gweithredu y dylai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Gallai’r wybodaeth hon am amrywiaeth helpu pleidiau gwleidyddol i asesu pa mor amrywiol yw eu hymgeiswyr a’u Haelodau etholedig a gallai fod yn ddefnyddiol wrth lywio eu strategaethau i fynd i’r afael ag unrhyw dangynrychiolaeth a nodwyd.
Beth yw strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant?
Mae strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant yn ddogfen sydd wedi’i llunio i gyflwyno ymrwymiad sefydliad i feithrin amgylchedd mwy amrywiol, teg a chynhwysol. Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, byddai’n cyflwyno ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ymgeiswyr ac Aelodau etholedig mewn etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd a sut mae’n bwriadu cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.
Pam y dylai pleidiau gwleidyddol gael strategaeth?
Mae cael cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein cynrychiolwyr etholedig yn golygu mwy na chynyddu amrywiaeth yr ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio. Mae’n ymwneud â newid diwylliannol tymor hir a mynd i’r afael â materion systemig yn ein system wleidyddol a diwylliant sefydliadol pleidiau gwleidyddol. O ganlyniad, caiff yr ystod lawn o brofiadau a safbwyntiau eu hystyried yn well wrth wneud penderfyniadau. Byddai hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd sy’n digwydd o ganlyniad i ddiffyg cynrychiolaeth amrywiol yn y Llywodraeth.
Mae strategaeth yn galluogi pleidiau gwleidyddol i ailwerthuso eu strwythurau a’u prosesau mewnol i feithrin amgylchedd mwy cynhwysol, ac annog pobl o grwpiau ymylol neu grwpiau sydd o dan anfantais i oresgyn rhwystrau rhag cael eu hethol ar bob lefel o lywodraeth.
Mae strategaeth gyhoeddedig yn gofyn am ymrwymiad tymor hir i amrywiaeth a chynhwysiant, nid dim ond adeg etholiadau, ac mae’n galluogi pleidiau gwleidyddol i fod yn dryloyw ynghylch y camau y maent yn eu cymryd i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth.
Syniadau ar sut mae llunio strategaeth
Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio gwybodaeth, ymchwil a thystiolaeth berthnasol, fel yr adroddiadau cyhoeddedig y cyfeirir atynt yn yr Atodiad i’r canllawiau hyn. Bydd hyn yn helpu pleidiau gwleidyddol i asesu beth yw eu man cychwyn, pa grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, y rhwystrau sy’n wynebu’r grwpiau hynny, ac yn helpu i dargedu ymgysylltiad er mwyn llunio eu strategaeth.
Dylai pleidiau gwleidyddol ymgysylltu â rhanddeiliaid (gan gynnwys unrhyw rwydweithiau pleidiau mewnol sy’n cynrychioli grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli) wrth ddatblygu eu strategaethau. Bydd hyn yn helpu i nodi’r rhwystrau penodol sy’n wynebu pobl â nodweddion penodol ac unigolion mewn amgylchiadau penodol sy’n awyddus i ymgeisio am swydd etholedig, ynghyd â chamau y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny. Dylai pleidiau gwleidyddol gofio y gallai fod angen dull croestoriadol, gan ystyried y bydd rhai unigolion yn gallu uniaethu ag amryw o nodweddion neu amgylchiadau.
Beth y dylid ei gynnwys mewn strategaeth?
Fel arfer, mae strategaethau’n cynnwys gwybodaeth sy’n dangos ymrwymiad, ar y lefel uchaf yn y sefydliad, i feithrin diwylliant amrywiol a chynhwysol, bod yn agored ac yn dryloyw. Maent hefyd fel arfer yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol a llwybr ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno yn y tymor hir – yn aml wedi’i rhannu’n amcanion mesuradwy tymor byr a thymor canolig.
Dylai strategaeth gynnwys yr elfennau allweddol canlynol:
- Ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant gan uwch-arweinwyr y blaid, yn ogystal â gwahanol lefelau yn y blaid.
- Cyfathrebu clir ynghylch pam mae amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i’r blaid e.e. sut maen nhw’n cyd-fynd â gwerthoedd y blaid?
- Beth yw cenhadaeth y blaid wleidyddol o ran amrywiaeth e.e. beth yw’r nod terfynol, beth yw llwyddiant, a sut mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth?
- Pa ddull y mae’r blaid yn ei ddefnyddio i sicrhau bod y rheini sy’n rhan o’r blaid yn deall ac yn mabwysiadu’r diwylliant sydd ei angen i alluogi amrywiaeth i ffynnu.
- Trosolwg o’r sefyllfa bresennol e.e. beth yw’r data sylfaenol sy’n dangos y lefelau presennol o gynrychiolaeth o fewn y blaid ar draws gwahanol grwpiau?
- Pennu amcanion amrywiaeth a thargedau mesuradwy (Dangosyddion Perfformiad Allweddol).
- Sut bydd cynnydd yn cael ei fesur, e.e. casglu data’n rheolaidd, cymharu’n barhaus â data sylfaenol, ymchwil ansoddol i ddeall profiadau aelodau pleidiau, ymgeiswyr ac Aelodau etholedig dros amser?
- Hyfforddiant y gallai’r blaid ei gynnig i godi ymwybyddiaeth o faterion amrywiaeth.
Camau gweithredu y dylid eu hystyried
Rydym wedi cynnwys isod rai camau y dylai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i helpu pobl sydd â’r nodweddion penodedig, neu sydd yn yr amgylchiadau penodedig, i oresgyn rhwystrau rhag cael eu hethol. Nodwyd hefyd rai o fanteision gwneud hynny. Dylai’r pleidiau gofnodi’r camau hyn, a’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un, yn eu strategaethau.
Mae’r camau gweithredu hyn, a’r manteision cysylltiedig, wedi’u grwpio’n bedwar categori cyffredinol:
- Cynllunio strategol – yn seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a gwybodaeth
- Diwylliant sefydliadol
- Asesu a dethol ymgeiswyr
- Cymorth i ymgeiswyr
Cynllunio strategol – yn seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a gwybodaeth
Camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried:
- Neilltuo Cydlynydd neu Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar lefel briodol ac ystyried a ellid paratoi adroddiad amrywiaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol / at sylw’r blaid ar lefel Weithredol mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu yn y Gynhadledd Flynyddol. Gellid cysylltu’r adroddiad amrywiaeth â strategaeth y blaid a’r camau y mae’r blaid wedi ymrwymo iddynt drwy’r strategaeth honno.
- Defnyddio pecyn cymorth ar-lein fel yr un a gyhoeddwyd gan y Glymblaid Cynrychiolaeth Gyfartal yn yr Alban (Equal Representation in Politics Toolkit), fel ffordd o asesu sefyllfa gychwynnol y blaid o ran amrywiaeth a chynhwysiant ac fel sail i’r strategaeth.
- Ystyried tystiolaeth ac ymchwil berthnasol sy’n ymwneud ag unrhyw ffactorau sy’n atal unigolion rhag dilyn gyrfa fel cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol neu Aelodau o’r Senedd, ac ystyried camau y gall y blaid eu cymryd i fynd i’r afael â’r ffactorau hynny. Yn y lle cyntaf, efallai y bydd pleidiau’n dymuno nodi’r wybodaeth yn yr Atodiad i’r canllawiau hyn.
- Mynd ati’n weithredol i fonitro amrywiaeth ymysg ymgeiswyr, Aelodau etholedig a staff yn y sefydliad. Bwriad Rhan 2 o’r canllawiau hyn yw helpu pleidiau i ymgymryd â’r gwaith monitro rheolaidd hwn.
- Gosod targedau gwirfoddol realistig sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynyddu amrywiaeth ymysg ymgeiswyr ar gyfer etholiad, ac ar gyfer Aelodau etholedig.
- Cyhoeddi strategaeth i ganiatáu i bob aelod a’r cyhoedd weld yr hyn y maent yn gweithio tuag ato a sut maent yn bwriadu ei gyflawni.
Manteision posibl:
- Sicrhau bod aelod o staff, ar lefel briodol, sydd â ffocws strategol ar wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y blaid.
- Darparu her ac atebolrwydd i uwch-reolwyr a sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei integreiddio ym mhob agwedd ar waith a pholisïau’r blaid.
- Galluogi monitro cynnydd yn erbyn y strategaeth i adrodd yn ôl i’r uwch-reolwyr ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol neu i’w ystyried mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
- Dangos ymrwymiad y blaid i gynyddu amrywiaeth ac yn annog gweithredu i gyrraedd targedau penodol.
- Gall casglu data meintiol yn rheolaidd ac yn gyson roi trosolwg o ffigurau amrywiaeth, tynnu sylw at feysydd o arfer da neu feysydd y mae angen eu gwella, a helpu i fonitro cynnydd dros amser.
- Gall casglu data ansoddol gasglu barn a safbwyntiau aelodau i nodi a mynd i’r afael â rhwystrau, datblygu ffyrdd mwy cynhwysol o weithio, a mesur ymatebion i fentrau pleidiau.
- Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud yn dda a’r hyn y gallent ei wneud yn wahanol i annog amrywiaeth a chynhwysiant.
Diwylliant sefydliadol
Camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried:
- Dangos ymrwymiad sylfaenol i amrywiaeth a chynhwysiant drwy eu gwneud yn rhan annatod o gyfansoddiad y blaid.
- Bod â pholisïau clir ar waith sy’n adlewyrchu ymrwymiad y blaid i hybu amrywiaeth a chynhwysiant.
- Sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu cefnogi a’u hannog fel rhan o’r cod ymddygiad ar gyfer yr holl staff, gwirfoddolwyr, aelodau a chynrychiolwyr etholedig, a bod ymwybyddiaeth ymysg y grwpiau hyn o ymrwymiad y blaid i amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys strategaeth y blaid.
- Darparu rhaglen hyfforddi a datblygu i’r holl staff, ar lefel leol a chenedlaethol, sy’n cynnwys ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant.
- Annog a hwyluso rhwydweithiau o fewn y blaid i gynrychioli buddiannau pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
- Archwilio prosesau’r blaid drwy lens cydraddoldeb i benderfynu a ydynt yn gydnaws ag anghenion diwylliannol, crefyddol a threftadaeth pawb.
- Sicrhau bod maniffestos y blaid a’i hysbysebion, ei negeseuon a’i chyfathrebiadau yn gynhwysol ac yn hybu amrywiaeth.
Manteision posibl:
- Adlewyrchu ymrwymiad y blaid, ar y lefel uchaf, i hybu amrywiaeth a chynhwysiant, a chael gwared ar rwystrau.
- Dangos tryloywder, ymddiriedaeth ac atebolrwydd cyhoeddus.
- Helpu i osod disgwyliadau clir a meithrin diwylliant mwy cynhwysol ar bob lefel yn y blaid, gan sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd a manteision amrywiaeth.
- Grymuso rhwydweithiau yn y blaid i gynrychioli gwahanol fuddiannau; annog cyfranogiad llefarwyr o ystod eang o gefndiroedd sydd â phrofiadau bywyd gwahanol; helpu i sicrhau bod y rhwystrau sy’n wynebu pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn cael eu cyfleu a herio’r blaid i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’n gynhwysol.
- Creu amgylchedd gwaith parchus a chroesawgar, a allai ddenu mwy o aelodau a staff amrywiol yn y dyfodol.
- Addysgu staff am rwystrau a mathau o wahaniaethu a rhagfarn sy’n gallu bodoli (yn ymwybodol neu’n ddiarwybod), yr effaith y gall y rhain ei chael a sut i’w lleihau.
- Dangos dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu, cam-drin, casineb at fenywod, homoffobia, hiliaeth neu ragfarn ar sail anabledd.
- Rhoi sicrwydd y bydd aelodau’r blaid ac ymgeiswyr yn cael eu cefnogi os byddant yn profi gwahaniaethu.
Asesu a dethol ymgeiswyr
Camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried:
- Sicrhau bod dull y blaid o ddethol ymgeiswyr yn hygyrch ac yn gynhwysol ar bob cam. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod paneli dethol yn amrywiol, bod aelodau’r panel dethol wedi cael hyfforddiant addas ar amrywiaeth a rhagfarn ddiarwybod a’r Model Cymdeithasol o Anabledd a bod y cyfweliadau dethol yn hygyrch i bawb.
- Gofyn cwestiynau i ymgeiswyr sy’n uniongyrchol berthnasol i’w sgiliau neu i’r rôl, ac nid cwestiynau sy’n ymwneud â’u hamgylchiadau neu eu nodweddion personol.
- Ystyried cymryd camau i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth drwy gefnogi unigolion o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i deimlo eu bod yn gallu a’u bod yn barod i gyflwyno eu hunain ar gyfer y broses ddethol. Gallai hyn gynnwys ariannu rhwydweithiau a rhaglenni cymorth gan gymheiriaid ar gyfer pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
- Ymgymryd â gweithgareddau allgymorth rhagweithiol i recriwtio ystod amrywiol o ddarpar ymgeiswyr. Mae defnyddio iaith glir i gyfathrebu â darpar ymgeiswyr yn bwysig fel bod pobl o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan.
- Bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch prosesau’r blaid ar gyfer diwydrwydd dyladwy mewn perthynas ag ymgeiswyr ac ynghylch trefniadau dethol y blaid, gan gynnwys y camau y mae’r blaid yn eu cymryd i wneud y trefniadau hyn yn hygyrch, yn wrthrychol, yn deg ac yn gynhwysol.
- Bod yn agored ynghylch unrhyw feini prawf ar gyfer bod yn ymgeisydd, er enghraifft os oes gofyniad i berson fod wedi bod yn aelod o blaid am gyfnod penodol cyn y gall sefyll fel ymgeisydd.
- Ystyried pa gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd fel rhan o drefniadau dethol y blaid i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth. Cofiwch, mae gweithredu cadarnhaol yn wirfoddol, ond os bydd pleidiau’n penderfynu cymryd camau o’r fath, rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Manteision posibl:
- Rhoi mwy o hyder i bobl a allai fod â diddordeb mewn sefyll (ond a allai fod â diffyg profiad neu hyder) fod ganddynt obaith realistig o gael eu dethol ac y byddant yn cael eu cefnogi gan y blaid.
- Rhoi cefnogaeth i ddarpar ymgeiswyr yn ystod y broses ymgeisio.
- Gallai amrywiaeth ar banel dethol helpu i sicrhau bod safbwyntiau amrywiol ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac mae’n lliniaru unrhyw risg bod rhagfarn neu wahaniaethu diwylliannol neu sefydledig yn parhau.
- Mae’n dangos bod y blaid yn cydnabod gwerth ymgeiswyr sydd ag ystod eang o brofiadau, cefndiroedd a safbwyntiau – nid dim ond y rheini sydd â phrofiad blaenorol o’r blaid.
- Mae mwy o dryloywder yn y broses ddethol yn debygol o arwain at fwy o ymddiriedaeth yn y broses.
Cymorth i ymgeiswyr
Camau gweithredu i’r pleidiau eu hystyried:
- Cyflwyno cyfleoedd mentora, hyfforddi a chysgodi i ddarpar ymgeiswyr. Gallai hyn fod ar ffurf cynllun ‘cyfaill’ wedi’i drefnu o fewn y blaid. Os nad yw cynlluniau o’r fath ar gael yn y blaid, efallai y bydd cynlluniau eraill y gallai’r blaid gyfeirio pobl atynt, er enghraifft:
- Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal - a allai fod o fudd i unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn dod yn gynghorydd lleol neu’n Aelod o’r Senedd. Mae’r rhaglen hon yn cael ei harwain gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru a Stonewall Cymru. Ei nod yw cynyddu amrywiaeth y gynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.
- Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth (Mynediad at wleidyddiaeth) - sy’n ceisio ennyn diddordeb mwy o bobl anabl mewn gwleidyddiaeth ac annog eu cyfranogiad yn y maes, gan gynnwys sefyll am swydd etholedig ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.
- Hyrwyddo unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael yn y blaid neu yn rhywle arall ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig penodol neu sydd o grwpiau ymylol, fel y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.
- Egluro yn nogfennau’r blaid pa gostau ymgyrchu fydd yn cael eu talu gan y blaid
- Ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i gefnogi ymgeiswyr anabl gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â chludiant a hygyrchedd, gan nodi bod y costau hyn wedi’u heithrio rhag terfynau gwario ymgyrchoedd.
- Ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i ddiogelu ymgeiswyr rhag cael eu cam-drin a’u bygwth, gan nodi y bydd y costau hyn yn cael eu heithrio rhag terfynau gwario ymgyrchoedd o 2026 ymlaen. Mae ymgeiswyr o grwpiau penodol fel arfer yn wynebu mwy o wahaniaethu, cam-drin a throseddau casineb nag eraill. Dylai pleidiau fabwysiadu dull gweithredu cadarn drwy sefydlu proses effeithiol, gyson, dryloyw a hygyrch ar gyfer delio â chwynion am wahaniaethu neu gam-drin sy’n digwydd yn fewnol mewn plaid.
- Rhoi cymorth i ddarpar ymgeiswyr ac ymgeiswyr, gan gynnwys eu cefnogi i roi gwybod i’r awdurdodau priodol, fel yr Heddlu, am achosion o gam-drin a bygythiadau.
Manteision posibl:
- Mae’n galluogi pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i gael gwybodaeth gan berson profiadol yn y blaid a/neu i ddysgu gan eraill sydd â’r un dyheadau ac sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
- Ysbrydoli unigolion a’u gwneud yn fwy cyfarwydd â bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.
- Mae’n darparu modelau rôl i feithrin y sgiliau, yr wybodaeth, yr hyder a’r awdurdod sydd eu hangen ar unigolion i sefyll mewn etholiad.
- Cefnogi datblygiad a chynhwysiant pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn enwedig os ydynt yn teimlo y bydd y blaid yn cymryd camau i’w hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a’u bygwth.
- Mae’n agor rhwydweithiau newydd i unigolion a gallai fod yn gam tuag at gyfleoedd newydd.
- Mae’n galluogi unigolion i ddysgu gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o chwalu rhwystrau rhag cael eu hethol.
- Sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt – naill ai gan y blaid neu o ffynonellau eraill.
- Mae’n helpu i leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal pobl rhag cael eu hethol ac yn annog pobl o wahanol gefndiroedd i geisio cael swydd etholedig.
- Mae mynd i’r afael â cham-drin, aflonyddu a bwlio yn hanfodol er mwyn cefnogi pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, a gwneud iddynt deimlo eu bod yn gallu cynnig eu hunain fel ymgeiswyr. Gall canllawiau ynghylch diogelwch a chyfathrebu mewn ymgyrchoedd, gan gynnwys canllawiau ynghylch y cyfryngau cymdeithasol, fod yn ddefnyddiol fel ffordd o sicrhau diogelwch ac atebolrwydd. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn dymuno nodi’r canllawiau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer ymgeiswyr gwleidyddol a phleidiau ar Ryddid Mynegiant a Thrafodaeth Barchus.
Cyhoeddi strategaeth: pryd ac ymhle?
Dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi eu strategaethau mewn lle amlwg ac mewn fformatau hygyrch ar eu gwefannau er mwyn sicrhau tryloywder a gwelededd.
Fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi eu strategaethau o leiaf 6 mis cyn etholiad y Senedd yn 2026 i ddarparu tryloywder cynnar ac i sicrhau bod pleidleiswyr yn cael digon o wybodaeth am y strategaeth (Diwygio ein Senedd - Llais cryfach i bobl Cymru). Tra bo strategaeth fanylach yn cael ei datblygu, dylai pleidiau gwleidyddol ystyried a allant gyhoeddi Datganiad o Fwriad i ddangos eu hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant.
O ran y strategaeth y mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu hannog i’w chyhoeddi cyn etholiad y Senedd yn 2026, bydd angen i bleidiau ddefnyddio gwybodaeth bresennol am amrywiaeth a chynhwysiant yn y blaid yn hytrach na gwybodaeth newydd am amrywiaeth yng nghyswllt ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd sy’n cael ei chasglu a’i chyhoeddi yn unol ag argymhelliad Rhan 2 o’r canllawiau hyn. Dylai pleidiau gwleidyddol wedyn geisio adolygu a diweddaru eu strategaeth cyn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd yn y dyfodol (gan ddefnyddio’r wybodaeth am amrywiaeth sydd wedi’i chyhoeddi i lywio ei chynnwys) ac yn barhaus ac yn rheolaidd ar ôl hynny, gyda’r bwriad o ddiweddaru eu strategaethau ymhell cyn etholiadau cenedlaethol a lleol.
Disgrifiad o’r Ffigur: Darlun fertigol, o’r brig i’r gwaelod, o’r camau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi ac adolygu strategaeth plaid wleidyddol (fel y disgrifir uchod).
Defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth i helpu i lunio strategaeth (gweler Rhan 2 am ragor o fanylion)
Bydd yr wybodaeth am amrywiaeth a gesglir gan blaid wleidyddol yn bwysig wrth lunio ei strategaeth. Bydd yr wybodaeth hon yn tynnu sylw at unrhyw dangynrychiolaeth ac yn galluogi plaid wleidyddol i benderfynu ar y camau penodol i’w cynnwys yn y strategaeth i wella cynrychiolaeth. Gall gwybodaeth am amrywiaeth hefyd helpu pleidiau gwleidyddol i asesu pa mor llwyddiannus fu’r camau a gymerwyd i gynyddu amrywiaeth ac i ystyried y newidiadau sydd eu hangen.
Dull adolygu
Dylai’r pleidiau gwleidyddol adolygu’r strategaethau’n rheolaidd a’u diweddaru i adlewyrchu’r cynnydd (neu fel arall) o ran gwella amrywiaeth ymysg ymgeiswyr ac Aelodau etholedig mewn etholiadau lleol a chenedlaethol.
Dros amser, dylai’r pleidiau adolygu pa mor dda y maent yn perfformio yn erbyn y camau yr ymrwymwyd iddynt yn flaenorol yn eu strategaeth, yn ogystal â’u hamcanion, eu targedau a’u Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Bydd hyn yn sicrhau bod pleidiau’n parhau i fod yn atebol am yr ymrwymiadau a wnaed i wella amrywiaeth.
Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol
Atgoffir pleidiau gwleidyddol o’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) ac o’u rhwymedigaethau i beidio â gwahaniaethu yn erbyn eu haelodau oherwydd nodwedd warchodedig. Mae dolenni i ganllawiau perthnasol ar gael yn y cyflwyniad i’r canllawiau.
Rhan 2: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy’n ymwneud ag ymgeiswyr ac Aelodau etholedig
Pwrpas
Pwrpas y rhan hon o’r canllawiau yw cefnogi pleidiau gwleidyddol i gymryd camau i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiaeth ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Ar hyn o bryd, nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu’n eang ac nid yw’r prosesau presennol yn dryloyw nac yn gyson, sy’n ei gwneud yn anodd asesu amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol i’r Senedd ac fel Aelodau o’r Senedd.
Bwriedir iddi ategu Rhan 1 o’r canllawiau sy’n annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol.
Beth yw gwybodaeth am amrywiaeth?
Yn y cyd-destun hwn, mae gwybodaeth am amrywiaeth yn golygu gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â nodweddion neu amgylchiadau personol unigolyn (gweler y nodweddion a’r amgylchiadau penodedig a restrir yn y cyflwyniad i’r canllawiau) y gall pleidiau gwleidyddol eu casglu am ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau yn etholiadau’r Senedd.
Gellir casglu’r wybodaeth drwy arolwg a drefnir gan y blaid wleidyddol. Mae rhai pleidiau gwleidyddol eisoes yn casglu’r wybodaeth hon, ond nid yw’n cael ei chyhoeddi fel mater o drefn o ran ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd, ac ar hyn o bryd nid yw’r broses yn dryloyw.
Gall yr wybodaeth hon helpu pleidiau gwleidyddol i ddeall yr hyn y gallant ei wneud ac y mae angen iddynt ei wneud i fod yn rhan o’r uchelgais o gael Senedd fwy amrywiol sy’n cynrychioli’r bobl y mae yma i’w gwasanaethu. Mae ganddi hefyd y potensial i alluogi sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, sefydliadau’r trydydd sector, a phleidiau gwleidyddol eu hunain, i nodi camau i gefnogi grwpiau penodol neu ddileu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Dulliau casglu / sut a phryd i gasglu data
Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio’r arolwg templed sydd wedi’i gynnwys yn nes ymlaen yn yr adran hon i gasglu gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Mae defnyddio’r un cwestiynau yn creu cysondeb o ran yr hyn sy’n cael ei ofyn ac, o ganlyniad, yr wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n caniatáu i ni gymharu etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.
Dylai pleidiau gwleidyddol ystyried y dulliau canlynol o gasglu a chrynhoi gwybodaeth am amrywiaeth:
- Y camau y mae’n rhaid eu dilyn i sicrhau bod pleidiau’n cydymffurfio â deddfwriaeth GDPR y DU, a allai gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cynnal Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (How do we do a DPIA?), nodi sail gyfreithlon briodol ar gyfer prosesu, a darparu Hysbysiad Preifatrwydd ochr yn ochr ag unrhyw arolwg y gofynnir i unigolion ei lenwi.
- Gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n gyfrifol am drin y data wedi cael digon o hyfforddiant i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU ac i ddiogelu cyfrinachedd yr ymatebwyr (ICO call for views: Anonymisation, pseudonymisation and privacy enhancing technologies guidance).
- Gofyn i ddarpar ymgeiswyr lenwi arolwg fel rhan o’u cais i ddod yn ymgeisydd. Efallai mai dyma’r amser gorau o ran cael cyfradd ymateb uchel.
- Esbonio pwrpas casglu’r wybodaeth a phwysleisio y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chyhoeddi’n ddienw er mwyn diogelu preifatrwydd unigolion.
- A oes modd i’r wybodaeth a gesglir gael ei dadgyfuno’n grwpiau ar wahân i’w chyhoeddi? Dylai pleidiau gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ar gyfer ‘pob ymgeisydd’ a chyhoeddi’r un wybodaeth ar wahân ar gyfer ymgeiswyr ‘llwyddiannus’ ac ‘aflwyddiannus’.
- A yw’n bosibl cyhoeddi gwybodaeth am gyfran yr ymgeiswyr sy’n rhannu mwy nag un nodwedd, e.e. cyfuniad o oedran a rhyw fel un categori, a rhyw ac anabledd fel categori ar wahân. Fodd bynnag, dylai pleidiau sicrhau nad ydynt yn cyhoeddi unrhyw beth a allai ddatgelu pwy yw unigolion.
- Ystyried canllawiau (Harmonised standards and guidance) ar dechnegau, meincnodi a gwyddor data (Simplifying how employers measure socio-economic background: An accompanying report to new guidance) i wella cymharedd a chydlyniad ystadegau.
Cyhoeddi gwybodaeth
Dylai pleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiaeth yn amlwg ar eu gwefannau o fewn 6 wythnos i ddyddiad pob etholiad y Senedd. Bydd sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn gynnar ar ôl etholiad 2026, yn benodol, yn sicrhau bod yr wybodaeth werthfawr hon ar gael i’r Senedd ac i eraill a allai fod yn dymuno asesu i ba raddau y mae’r Seithfed Senedd yn cynrychioli pobl Cymru.
Fel y nodwyd uchod, lle bo modd, dylai pleidiau gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ‘pob ymgeisydd’ ar gyfer yr etholiad perthnasol a chyhoeddi’r un wybodaeth ar wahân mewn perthynas ag ymgeiswyr ‘llwyddiannus’ ac ‘aflwyddiannus’.
Wrth gyhoeddi data eu hymgeiswyr, bydd angen i bleidiau gwleidyddol fod yn ofalus nad yw’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n golygu bod modd adnabod unrhyw ymgeisydd unigol (Chapter 2: How do we ensure anonymisation is effective?). Dylai pleidiau gwleidyddol fod yn ymwybodol y gallai’r risg y bydd unigolion penodol yn cael eu hadnabod gynyddu wrth i wybodaeth gael ei dadgyfuno neu ei chyflwyno ar sail groestoriadol.
Sut y dylid defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth i lunio strategaeth
Bydd yr wybodaeth gychwynnol am amrywiaeth a gaiff ei chasglu, ei chrynhoi a’i chyhoeddi gan bleidiau gwleidyddol yn allweddol i alluogi pleidiau gwleidyddol i ddeall yn well i ba raddau y mae eu hymgeiswyr i’r Senedd yn cynrychioli poblogaeth ehangach Cymru. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg cyntaf yn ffurfio gwaelodlin i asesu cynnydd yn y dyfodol.
Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio’r wybodaeth hon i asesu pa grwpiau o bobl sy’n cael eu tangynrychioli, neu sy’n wynebu rhwystrau rhag bod yn ymgeisydd neu rhag cael eu hethol. Gellir defnyddio’r wybodaeth i nodi strategaethau neu gamau gweithredu y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i ddileu neu leihau’r rhwystrau hynny wrth symud ymlaen, a’u cofnodi yn strategaethau’r pleidiau.
Dylid adolygu strategaethau’n rheolaidd i ystyried y cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth dros amser, yn ogystal ag ymchwil a thystiolaeth arall sy’n berthnasol i ddeall pam mae rhai pobl yn llai tebygol o ymgeisio am swydd etholedig neu o fynd i swydd etholedig, neu’n llai llwyddiannus o ran cael eu hethol.
Gellir defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth hefyd i asesu pa mor effeithiol fu’r strategaeth a’r camau a gymerwyd hyd yma, ac i alluogi pleidiau i addasu, mireinio neu ehangu eu dull gweithredu.
Cynnwys yr arolwg
Mae arolwg templed wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, a dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio hwn yn sail i’w harolwg o ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd.
Mae’r arolwg templed yn cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig yn fras ar Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol i sicrhau cysondeb ac i alluogi cymharu ar lefel leol a chenedlaethol.
Sylwch fod rhai cwestiynau wedi cael eu cynnwys nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â nodweddion gwarchodedig er mwyn cyd-fynd â’r arolwg cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y ffordd orau o sicrhau cysondeb rhwng arolygon llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd yn y dyfodol.
Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol
Atgoffir pleidiau gwleidyddol o’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) ac o’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i beidio â gwahaniaethu yn erbyn eu haelodau oherwydd nodwedd warchodedig. Mae dolenni i ganllawiau perthnasol ar gael yn y cyflwyniad i’r canllawiau.
Ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd: Arolwg Amrywiaeth (templed)
Rhan 3: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod
Ystod ehangach o nodweddion
Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a gyflwynodd adroddiad yn 2022 ‘bod pwyllgor perthnasol yn ystyried sut y gellir gwneud rhagor o waith i ystyried rhinweddau a goblygiadau cwotâu amrywiaeth deddfwriaethol ar gyfer nodweddion ar wahân i rywedd’ (Diwygio ein Senedd - Llais cryfach i bobl Cymru). Argymhellodd hefyd ar gyfer y nodweddion eraill hyn y byddai’n fwy priodol canolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar wella’r wybodaeth sydd ar gael am lefelau presennol cynrychiolaeth ymysg y grwpiau hyn ac am y camau gweithredu y mae pleidiau gwleidyddol yn eu cymryd i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant.
Yn unol ag argymhellion adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, mae Rhan 1 o’r canllawiau hyn yn darparu awgrymiadau ar gyfer camau gweithredu i bleidiau gwleidyddol eu hystyried er mwyn cynyddu amrywiaeth cynrychiolwyr etholedig ar draws ystod eang o nodweddion ac amgylchiadau. Mae Rhan 2 yn rhoi cyngor ymarferol ar sut gall pleidiau gwleidyddol gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr, er mwyn darparu sail glir ar gyfer pennu eu nodau tymor hwy a chynllunio pa gamau gweithredu a allai fod fwyaf priodol ac effeithiol o ran cynyddu cynrychiolaeth y grwpiau hyn.
Gall gweithredu positif ar gyfer y nodweddion ehangach hyn fod yn rhywbeth y mae pleidiau gwleidyddol yn dymuno ei ystyried [Troednodyn 1], ond mae Rhan 1 o’r canllawiau hyn yn nodi rhai camau pwysig y gall pob plaid wleidyddol eu cymryd i ddeall beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd o ran cynrychiolaeth ymysg y nodweddion hyn ac i ddileu rhai o’r rhwystrau hysbys sy’n atal y grwpiau hyn rhag cymryd rhan.
Cynrychiolaeth rhywedd a pham ei bod yn bwysig
Mae cynrychiolaeth rhywedd, yn enwedig yn y Senedd, wedi cael ei harchwilio’n fanylach gan amrywiol baneli a phwyllgorau arbenigol dros y blynyddoedd diwethaf. Un o’r rhesymau dros hyn yw bod rhywedd ymgeiswyr yn fwy amlwg na nodweddion ac amgylchiadau eraill a bod tueddiadau o ran cynrychiolaeth rhywedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 wedi’u cofnodi’n dda.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Senedd sy’n gytbwys o ran rhywedd ac mae’n dymuno gweithio gydag eraill i gyflawni’r uchelgais hon nawr ac yn y dyfodol. Llwyddodd y Senedd i sicrhau cydbwysedd rhywedd ymysg ei Haelodau yn 2003. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i rai pleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu camau gwirfoddol i gynyddu cynrychiolaeth menywod, gan gynnwys cwotâu. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen gwneud mwy er mwyn i’r Senedd adlewyrchu’n fras gyfansoddiad rhywedd y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae cryn dystiolaeth ac ymchwil ryngwladol yn ymwneud â manteision seneddau sy’n gytbwys o ran rhywedd ac sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd cwotâu fel ffordd o gyflawni hyn. Mae manteision cael mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn cael eu harchwilio’n fanylach yn yr Atodiad i’r canllawiau hyn. Ar wahân i bwysigrwydd amlwg sicrhau bod modelau rôl ar gael ar gyfer menywod a merched eraill, mae ymchwil yn dangos bod menywod yn tueddu i ganolbwyntio ar feysydd polisi sy’n gysylltiedig, er enghraifft, â gofal iechyd, tlodi, hawliau menywod, y teulu a chymdeithas sifil. Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd bod menywod yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant mewn deddfwrfeydd, gan hybu ffyrdd penodol o weithio, a chydweithio ar draws y rhaniad gwleidyddol ar feysydd o ddiddordeb cyffredin. Mae hefyd yn dangos bod deddfwrfa sy’n fwy cytbwys o ran rhywedd yn cryfhau ei dilysrwydd. Gall twf yn nifer y menywod sy’n wleidyddion adfywio democratiaeth, gan fod tystiolaeth bod diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymhlith pleidleiswyr benywaidd yn cynyddu pan fydd mwy o fenywod yn ymgeiswyr.
Sut gellir cynyddu cynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth?
Yn hanesyddol, mae nifer y menywod sy’n sefyll i gael eu hethol yng Nghymru wedi bod yn isel. Yn 2021, er enghraifft, dim ond 31% o ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd oedd yn fenywod (Etholiad y Senedd yn 2021: Papur Briffio).
Felly, y cam cyntaf yw denu mwy o fenywod i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cyntaf. Bydd y camau a awgrymir yn Rhan 1 o’r canllawiau hyn yn ddefnyddiol yn hyn o beth oherwydd efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn gweld, drwy gymryd y camau hyn, eu bod yn gallu cefnogi ac annog mwy o fenywod, gan gynnwys rhai sy’n cynrychioli grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli neu grwpiau ar y cyrion, i sefyll am swydd etholedig.
Yn ogystal â recriwtio mwy o fenywod, dylai pleidiau gwleidyddol ystyried sut gallant gefnogi’r broses o ethol yr ymgeiswyr hyn i sicrhau bod y Senedd, a phobl Cymru, yn elwa o amrywiaeth eang o safbwyntiau, galluoedd a sgiliau. Dyma lle gallai cwotâu gwirfoddol fod yn adnodd defnyddiol. Mae cwotâu rhywedd hefyd yn cael eu hystyried yn bwysig o ran cynyddu amrywiaeth ymgeiswyr yn fwy cyffredinol, gan fod hunaniaethau pobl yn aml yn aml-ddimensiwn, ac nad yw menywod yn grŵp unffurf (Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf).
Beth all pleidiau gwleidyddol ei wneud i gefnogi menywod i sefyll mewn etholiad i’r Senedd?
Gan fod nifer y dynion sy’n ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd fel arfer yn fwy na nifer y menywod, os na fydd pleidiau gwleidyddol yn gweithredu, mae perygl y bydd y duedd gyffredinol o anghydbwysedd rhywedd yn parhau yn ein senedd genedlaethol. Mae risg benodol y gallai ehangu’r Senedd yn sylweddol, gan gynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96, arwain at fwy o anghydbwysedd rhywedd nag ar hyn o bryd.
Dylai pleidiau gwleidyddol ystyried unrhyw gamau pellach y gallent eu cymryd, gan gynnwys gweithredu cwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod, gyda’r bwriad o sicrhau cydbwysedd rhywedd ymysg eu hymgeiswyr sy’n cael eu hethol i’r Senedd. Gallai gweithredu cwotâu gwirfoddol arwain at gydbwysedd rhywedd yn y Senedd sy’n adlewyrchu’r boblogaeth yn well ac, yn ei dro, gallai wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol.
Fel y nodwyd yn y Cyflwyniad i’r canllawiau, mae pleidiau gwleidyddol yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys unrhyw rwymedigaethau perthnasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Rhan 7 o’r Ddeddf honno yn cynnwys darpariaeth benodol (yn adran 104) ynghylch sut dylai pleidiau gwleidyddol fynd ati i ddethol ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd (ac etholiadau eraill). Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau i gymdeithasau, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, ar yr hyn y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei olygu iddynt (Deddf Cydraddoldeb 2010: Canllawiau i Bleidiau Gwleidyddol).
Efallai y bydd angen i bleidiau gwleidyddol adolygu a diwygio eu trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd sydd wedi’u trefnu ar gyfer 2026 a’r dyfodol o ystyried newidiadau i’r system bleidleisio. Wrth wneud hynny, dylent ystyried a allant, yn eu hamgylchiadau nhw, ymgorffori darpariaethau ynghylch cynnwys a lleoli ymgeiswyr benywaidd ar eu rhestrau ymgeiswyr a beth ddylai unrhyw ddarpariaethau o’r fath fod. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol hefyd yn dymuno ystyried a yw grwpiau eraill o bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn cael eu tangynrychioli ymysg eu cynrychiolwyr etholedig (os oes ganddynt yr wybodaeth honno) ac, os oes, pa gamau y gallent eu cymryd i fynd i’r afael â hynny.
Wrth ddylunio unrhyw brosesau dethol gyda’r nod o gynyddu cynrychiolaeth menywod, dylai pleidiau gwleidyddol ystyried y ffactorau canlynol gan eu bod yn cael eu cydnabod yn eang fel y tri dimensiwn pwysig sy’n ffurfio cwota effeithiol ar gyfer system bleidleisio gyfrannol ‘rhestr gaeedig’, sef:
- Trothwy cynrychiolaeth – mae hyn yn gosod isafswm o fenywod sy’n ymgeiswyr ar gyfer rhestrau ymgeiswyr plaid e.e. o leiaf 50% o fenywod ar bob rhestr ymgeiswyr (trothwy gofynnol o 50% oedd y model a gynigiwyd ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a dynnwyd yn ôl yng Nghyfnod 2. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Pwyllgor y Bil Diwygio.)
- Meini prawf fertigol – meini prawf ar gyfer lleoli menywod ar restr ymgeiswyr ar gyfer etholaeth e.e. gosod menywod mewn swyddi am yn ail ar y rhestr
- Meini prawf llorweddol – meini prawf o ran cyfran y rhestrau lle bo menyw yn y safle cyntaf neu yn yr unig safle ar y rhestr e.e. sicrhau bod o leiaf hanner rhestrau ymgeiswyr plaid ledled Cymru yn dechrau gyda menyw.
Mae’r elfennau uchod yn gweithio’n dda ar gyfer system statudol o gwotâu, sy’n gorfod bod yn berthnasol i bob plaid, beth bynnag fo’i hamgylchiadau a chyfran y cynrychiolwyr mewn corff etholedig. Mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu sut mae ymdrin â’r mater hwn gan ystyried eu hamgylchiadau penodol, gan gynnwys eu hasesiad o’r safleoedd mwy ffafriol ar eu rhestrau. Roedd rhai o’r sefydliadau a gyflwynodd dystiolaeth wrth graffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi ymgeiswyr benywaidd mewn safleoedd sydd, ym marn y pleidiau, yn rhai ffafriol ar restrau ymgeiswyr (SCECLB2 - P - Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru). Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn dymuno ystyried trefniadau wedi’u targedu’n well, gan ddefnyddio’r elfennau uchod ac yn dibynnu ar eu hamgylchiadau penodol.
Fel canllaw, gall fod o gymorth i bleidiau gwleidyddol wybod bod rhestrau ymgeiswyr sydd wedi’u trefnu yn y ffordd fertigol ganlynol (h.y. rhestr am yn ail gyda menyw yn y safle cyntaf ac yna am yn ail) yn cael eu hystyried yn fwy tebygol o arwain at grŵp o Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli cyfran y menywod yn y boblogaeth gyffredinol.
Dylai pleidiau gwleidyddol hefyd ystyried a ddylid cael meini prawf llorweddol, yn ogystal â meini prawf fertigol. Os yw pob rhestr ymgeiswyr yn dechrau gyda dyn a’i bod wedyn yn eu rhestru am yn ail, oni bai fod y blaid yn ennill nifer gyfartal o seddi (neu ddim seddi) ym mhob etholaeth, bydd mwy o ddynion o lawer yn cael eu hethol fel Aelodau o’r Senedd ar gyfer plaid na menywod. Felly, gall y safle llorweddol fel yr eglurir yn (iii) uchod hefyd fod yn bwysig o ran sicrhau grŵp o Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli cyfran y menywod yn y boblogaeth gyffredinol.
Enghraifft o restr lawn o 8 ymgeisydd sydd wedi’u rhestru am yn ail gyda menyw yn y safle cyntaf:
- [Safle 1: Menyw]
- [Safle 2: Dyn]
- [Safle 3: Menyw]
- [Safle 4: Dyn]
- [Safle 5: Menyw]
- [Safle 6: Dyn]
- [Safle 7: Menyw]
- [Safle 8: Dyn]
Troednodiadau
1. Efallai y bydd pleidiau gwleidyddol yn gweld bod Rhan 1 o ganllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer pleidiau gwleidyddol ar y Ddeddf Cydraddoldeb yn ddefnyddiol wrth ystyried pa gamau cadarnhaol maen nhw’n eu cymryd yn eu prosesau dethol i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol. Yn ôl i destun