Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig: atodiad
Pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus a hyrwyddo hawliau a chanlyniadau pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig a’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo hawliau cyfranogiad gwleidyddol sydd mewn cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol fel y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a’r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Gwahaniaethu ar Sail Hil.
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno creu ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’ (Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol), i bawb, gan gynnwys cefnogi cydraddoldeb i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifo (Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol), pobl anabl (Tasglu Hawliau Pobl Anabl), ac aelodau o gymunedau LHDTC+ (Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru), yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau (Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau: cynllun gweithredu).
Nod Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru (Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol: trosolwg), a gyflwynwyd yn 2021, yw gwella canlyniadau i’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol ystyried profiadau pobl y mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio arnynt, gan sicrhau yr ymgynghorir ag unigolion, a bod newidiadau cadarnhaol yn cael eu gwneud.
Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd er mwyn helpu i wreiddio ystyriaethau cydraddoldeb drwy’r holl dystiolaeth ar draws y Llywodraeth. Mae cael tystiolaeth ddibynadwy y gellir ei defnyddio yn hanfodol i ddeall yr anghydraddoldebau systemig y mae dinasyddion yng Nghymru yn eu hwynebu ac i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn sy’n cael effaith niweidiol ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig. Mae blaenoriaethau’r Unedau wedi cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid ar sail yr ymrwymiadau presennol, gan gynnwys gofynion o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, y Cynllun Gweithredu LHDTC+, a chynlluniau a strategaethau allweddol eraill Llywodraeth Cymru.
Mae digon o dystiolaeth fod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol yn fwy tebygol o wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol (Adolygu’r dystiolaeth: anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal), felly nid yw bob amser yn ddigonol nac yn briodol ystyried un elfen, neu un math o rwystr, ar ei ben ei hun. Mae’r rhesymau dros dangynrychiolaeth yn aml yn gymhleth ac yn aml-haenog, ac mae’n bosibl y bydd gan rhai pobl nodweddion croestoriadol a all arwain at wynebu nifer o rwystrau. Rhaid cadw hyn mewn cof wrth ddatblygu a gweithredu polisïau sydd â’r nod o gefnogi mwy o amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae nod cyffredinol Llywodraeth Cymru yn cael ei adlewyrchu yn y pumed Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol, sef ‘creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain’ (Datganiad Ysgrifenedig: Sicrhau Cymru deg: Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024-28). Datblygwyd yr amcanion hyn ar y cyd â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wynebu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ac maent yn darparu sylfaen ar gyfer ein gwaith i ddileu anghydraddoldeb, hybu cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth.
Mae gallu adlewyrchu ieithoedd Cymru hefyd yn rhan bwysig o wireddu’r weledigaeth o sefydliadau democrataidd sy’n cynrychioli’r boblogaeth. Mae Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwy yn sail i gynlluniau Llywodraeth Cymru o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol. Er mwyn i’r iaith ffynnu yn ein cymdeithas, mae’n bwysig cael modelau rôl cadarnhaol mewn swyddi o rym a dylanwad sy’n defnyddio’r iaith i gynnal busnes, gan gynnwys mewn cyrff sy’n cael eu hetholi yn ddemocrataidd yng Nghymru.
O fewn y cyd-destun strategol ehangach hwn y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld holl wynebau Cymru, a chlywed holl leisiau Cymru, yn cael eu hadlewyrchu yn y sefydliadau democrataidd sy’n gwneud penderfyniadau sydd, yn y pen draw, yn diffinio sut rydym yn byw ein bywydau ac sy’n effeithio arnom o ddydd i ddydd.
Pam mae amrywiaeth yn dda i ddemocratiaeth
Mae gan amrywiaeth, yn ei holl ffurfiau, y potensial i gynyddu dilysrwydd ein sefydliadau democrataidd. Gall arwain at wneud penderfyniadau gwell yn sgil ystod ehangach o safbwyntiau a phrofiadau, a chanlyniadau gwell gyda threfniadau craffu gwell ar bolisi, gwariant a deddfwriaeth. Hefyd, po fwyaf cynrychioliadol yw ein haelodau etholedig, y mwyaf o hyder ac ymddiriedaeth fydd yn ein systemau democrataidd. Mae nifer o adroddiadau diweddar yn ymwneud â diwygio’r Senedd wedi dod i’r casgliad y byddai dewis ac ethol Senedd fwy amrywiol yn gwella ei gallu i gynrychioli pobl Cymru yn effeithiol a dilys.
O ran deall sut y gall amrywiaeth fod o fudd i’r broses ddemocrataidd, mae casgliad sylweddol o ymchwil a thystiolaeth yn ymwneud â chyfraniad menywod i swyddi cyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i Ran 3 o’r canllawiau i bleidiau gwleidyddol.
Ceir ymchwil, er enghraifft, sy’n dangos bod menywod, pan gânt eu hethol i sefydliadau democrataidd, yn rhoi blaenoriaeth i faterion polisi sy’n ymwneud â menywod, teulu, a chymdeithas sifil, fel addysg a gofal iechyd (Women Political Leaders: the impact of gender on democracy, t.11, t.59) a’u bod hefyd yn gallu dod â phersbectif gwahanol i feysydd polisi sy’n cael eu hystyried yn rhai gwrywaidd yn draddodiadol, fel nawdd a threth – un enghraifft yw menywod sy’n ASau yn San Steffan yn lobïo dros gael gwared ar TAW ar eitemau ar gyfer y mislif (The substantive representation of women: The case of the reduction of VAT on sanitary products). Mae tystiolaeth bod menywod sy’n Aelodau o’r Senedd yn fwy tebygol o ofyn cwestiynau am faterion sy’n effeithio ar fenywod, fel gofal plant ac iechyd menywod (Power to the people? Tackling the gender imbalance in combined authorities and local government).
Canfyddir bod menywod sy'n wleidyddion yn dod â rhinweddau gwahanol i'r rôl o fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys yr adegau maent yn ymgysylltu ag etholwyr. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod menywod yn tueddu i flaenoriaethu gwaith etholaeth a’u bod yn fwy tebygol o gyd-noddi deddfwriaeth gyda menywod eraill, gan gynnwys ar draws y gagendor gwleidyddol, er mwyn datblygu meysydd o ddiddordeb cyffredin sy’n ymwneud â’u rhywedd megis polisïau sy’n effeithio ar deuluoedd a chymdeithas gymdeithasol (Women Political Leaders: the impact of gender on democracy, t.8; How Do Electoral Gender Quotas Affect Policy?, t.242).
Mae tystiolaeth yn dangos, pan fydd menywod yn cael eu hethol fel grŵp mwy, y gall eu presenoldeb fod yn gatalydd ar gyfer newid yn niwylliant ac arferion gweithio’r corff democrataidd. Er enghraifft, gwelwyd menywod yn newid tôn y drafodaeth o fod yn un ymosodol i fod yn un lle mae cyd-barch (The Impact of Women’s Leadership in Public Life and Political Decision-making, t.3). Mae menywod hefyd yn tueddu i fabwysiadu dulliau arwain mwy cynhwysol sy’n gallu lleihau hierarchaethau (Women Political Leaders: the impact of gender on democracy, t.10) a gwthio’r corff etholedig i fabwysiadu arferion gweithio (er enghraifft, gweithio’n hybrid neu rannu swyddi) sy’n galluogi cynrychiolwyr i gydbwyso eu rôl wleidyddol yn well â chyfrifoldebau eraill fel dyletswyddau gofalu neu fagu plant (The Impact of Women’s Leadership in Public Life and Political Decision-making, t.2). Gall mesurau o’r fath newid y canfyddiad ynghylch swyddi etholedig, a'i gwneud yn yrfa fwy deniadol i ystod ehangach o bobl. Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall cael mwy o ymgeiswyr benywaidd annog ymgeiswyr o safon uwch yn gyffredinol, sy'n arwain at wleidyddion o ansawdd gwell
Mae'n bwysig nodi y dangoswyd bod cael mwy o fenywod sy’n wleidyddion yn cynyddu dilysrwydd sefydliadau democrataidd, yn benodol ymhlith menywod sy'n pleidleisio. Yn sgil gweld menywod yn cymryd rhan yn y trafodaethau a’r penderfyniadau ar bolisïau sy’n effeithio ar eu bywydau, mae menywod yn fwy tebygol o fod yn awyddus i ddangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth (The Politics of Presence). Mae hyn, law yn llaw â chael menywod mewn swyddi arweinyddiaeth wleidyddol, yn darparu modelau rôl pwysig, sydd â’r potensial i annog menywod eraill i deimlo eu bod yn cael eu grymuso i gyflwyno eu hunain (Power to the people? Tackling the gender imbalance in combined authorities and local government, t.38).
Beth rydym yn ei wybod am y rhwystrau i swyddi etholedig
Mae thema gyffredin o dangynrychiolaeth hanesyddol ymysg grwpiau penodol o bobl ar draws gwleidyddiaeth yng Nghymru a’r DU. I rai o’r bobl hyn, ac yn enwedig i’r rheini a allai uniaethu â mwy nag un grŵp, gall fod amrywiaeth o rwystrau ar y daith i fyd gwleidyddiaeth (Adolygu’r dystiolaeth: anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal). Gall cefndir, addysg, profiadau, galwedigaeth, amgylchiadau ariannol, mynediad at wybodaeth a rhwydweithiau unigolyn, er enghraifft, fod yn ffactorau sy’n cyfrannu at ddiffinio taith rhywun i fyd gwleidyddiaeth, neu p’un a fyddai’n ystyried mynd i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cyntaf.
Mae corff cynyddol o ymchwil ar y rhwystrau i swyddi etholedig a wynebir gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Gall hyn gynnwys rhwystrau ariannol, diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol, sefydliadol, strwythurol a ffisegol rhag cymryd rhan.
Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd yn 2018, sy’n archwilio’r rhwystrau y mae darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn eu hwynebu. Canfu’r adroddiad fod rhai grwpiau mewn cymdeithas yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael eu dewis fel ymgeisydd oherwydd canfyddiadau ynghylch yr hyn mae’r pleidiau yn chwilio amdano (stereoteipiau), y broses ddethol, a rhagfarn ddiarwybod. Canfu’r adroddiad hefyd fod diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau enwebu yn annymunol i ddarpar ymgeiswyr, yn enwedig y rheini sy’n newydd i wleidyddiaeth plaid.
Canfu’r adroddiad fod oedran hefyd yn cael ei ystyried yn ffactor wrth ddewis ymgeiswyr, gyda phobl ifanc, yn benodol, yn ei nodi fel rhwystr. Roedd menywod yn llawer mwy tebygol o ystyried bod rhai rhwystrau’n arwyddocaol, yn enwedig diogelwch personol a theuluol, a llwyth gwaith trwm.
Nodwyd hefyd yn yr adroddiad bod prosesau dethol ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn rhwystr mawr i ddewis unigolion ethnig leiafrifol am fod ‘pleidiau yn tueddu i fod â’r farn bod ymgeiswyr ethnig leiafrifol yn colli pleidleisiau ymysg pleidleiswyr gwyn’ (Dadansoddi Amrywiaeth).
Comisiynwyd ymchwil hefyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 ar chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig penodol. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2022 ac mae’n cyflwyno damcaniaeth newid (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid) ar gyfer gwella cynrychiolaeth ac amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol yng Nghymru.
Canfu’r ymchwil hwn fod rhwystr ariannol yn atal pobl â nodweddion gwarchodedig penodol rhag cymryd rhan, yn ogystal â phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig a phobl â chyfrifoldebau gofalu, gan ei bod yn bosibl na fyddai’r pleidiau gwleidyddol yn talu costau ymgyrchu’r unigolion. Gwelwyd hefyd fod menywod ‘yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu, gweithio’n rhan-amser, a chymryd seibiant gyrfa i fagu plant’ o’i gymharu â dynion (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid).
Roedd yr adroddiad yn nodi cyfnod mewn swydd yn benodol fel rhwystr a oedd yn arwain at lai o gyfleoedd i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Adroddwyd hefyd y gall prosesau dethol mewn llywodraeth leol fod â thuedd tuag at bobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol.
Roedd gan bapur ymchwil a gyhoeddwyd gan Gynghrair Hil Cymru (Gwnewch y peth iawn – sicrhau tegwch mewn cynrychiolaeth hil-ddiffiniedig mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru) farn debyg, a chyfeiriodd at ‘flocio seddi’ fel proses lle mae swyddog etholedig yn ceisio cael ei ailbenodi ar gyfer ei etholaeth neu ward, sy’n golygu nad oes lle’n cael ei greu i unigolion newydd geisio cael eu hethol. Mae’r papur yn mynd yn ei flaen i nodi pan fydd lle'n cael ei wneud i ymgeiswyr newydd ei fod yn aml yn cael ei hysbysebu’n fewnol i gangen y blaid yn unig a bod angen mwy o dryloywder ynghylch y prosesau hynny.
Mewn perthynas ag ymgeiswyr LHDTC+, canfu Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig (Building inclusive democracies: A guide to strengthening the participation of LGBTI+ persons in political and electoral processes) y gellid categoreiddio’r rhwystrau y mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu fel rhai strwythurol, unigol, sefydliadol, a chysylltiedig â thrais. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rwystrau fel diffyg modelau rôl gwleidyddol, sylw ystrydebol yn y cyfryngau, allgáu o restrau ymgeiswyr pleidiau, ac aflonyddu neu drais yn erbyn ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig LHDTC+. Roedd hefyd yn tynnu sylw at rwystrau fel pleidiau gwleidyddol yn darparu llai o adnoddau a chyfleoedd gweladwy i’w hymgeiswyr LHDTC+ eu hunain, a chostau uchel etholiadau.
Fe wnaeth Disability and political representation: Analysing the obstacles to elected office in the UK, a gyhoeddwyd yn 2022, ddangos, er bod anableddau weithiau’n ‘gudd’, y gallai pobl sy’n dymuno ymgeisio am swyddi etholedig fod yn amharod i’w datgelu. Canfuwyd bod cyfran y gwleidyddion anabl yn is na 20%, sef y gyfran fras o bobl anabl ym Mhrydain Fawr.
Nododd yr adroddiad y rhwystrau penodol i swyddi etholedig y mae pobl anabl yn eu hwynebu; roedd rhai ohonynt yn debyg i'r rhai y mae menywod ac ymgeiswyr ethnig leiafrifol yn eu hwynebu gyda chyfres benodol o rwystrau ychwanegol sy’n cael eu categoreiddio fel hygyrchedd, adnoddau ac ableddiaeth. Dyma rai enghreifftiau:
- Adeiladau a seilwaith anhygyrch i bobl â nam corfforol sy'n dylanwadu ar eu symudedd.
- Mae unigolion sydd ag amhariadau sy’n effeithio ar eu clyw, eu lleferydd neu eu golwg yn aml angen addasiadau er mwyn cael gafael ar wybodaeth neu gyfathrebu.
- Cyfyngiadau ariannol yn cael eu defnyddio i egluro neu gyfiawnhau pam na wnaed addasiadau i wella hygyrchedd.
- ‘Diwylliant abl’ yn sail i ‘agweddau o ran hygyrchedd ac adnoddau’.
Roedd adroddiad gan Brifysgol Caerfaddon yn 2018 (Barriers to women entering parliament and local government) yn tynnu sylw at rwystrau cymdeithasol a diwylliannol, ac roedd yn cyfeirio at yr amgylchedd gwleidyddol ym Mhrydain fel rhywle lle mae dynion gwyn o’r dosbarth canol yn trechu a bod hynny'n rhwystr mawr i ehangu cyfranogiad ymhlith menywod a grwpiau eraill sy'n cael eu tangynrychioli. Cyfeiriodd at rôl barhaus menywod o ran ysgwyddo’r prif gyfrifoldebau gofalu a gwaith tŷ, a’r rhwystrau ariannol cysylltiedig sy'n eu hatal rhag cyfranogi. Nodwyd hefyd yr heriau o sicrhau cydbwysedd derbyniol rhwng bywyd a gwaith oherwydd gofynion arferion gweithio hir ac afreolaidd.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ‘ddatgysylltiad’ rhwng polisïau cenedlaethol pleidiau gwleidyddol ynghylch agweddau at amrywiaeth a sut mae’r rhain yn cael eu dehongli a’u rhoi ar waith ar lefel leol, yn ogystal â thystiolaeth o wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn erbyn menywod.
Mae Addressing Barriers to Women's Representation in Party Candidate Selections yn cyfeirio at ‘alw’ a ‘chyflenwad’ wrth recriwtio menywod i’r maes gwleidyddol. Mae’r adroddiad yn dadlau bod cyflenwad yn cynyddu ac yn lleihau mewn ymateb i alw pleidiau gwleidyddol am ymgeiswyr benywaidd. Mae hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch aflonyddu, cam-drin a bygwth ymgeiswyr benywaidd ac aelodau etholedig, a allai atal llawer o ddarpar ymgeiswyr benywaidd rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd pryderon cynyddol ynghylch diogelwch a’r dirywiad mewn trafodaethau gwleidyddol.
Nododd Women Political Leaders: the impact of gender on democracy, t.42, a gyhoeddwyd gan y Global Institute for Women’s Leadership yn King’s College Llundain a’r Westminster Foundation for Democracy, oherwydd rhagfarn ymysg detholaethau pleidiau, fod menywod yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael eu dewis fel ymgeisydd etholiadol o’i gymharu â dynion. Wrth adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael mewn astudiaethau amrywiol, mae Dr Cowper-Cowles yn nodi bod 'rhagfarn yn erbyn menywod adeg dewis ymgeiswyr' yn 'rhwystr mawr sy'n atal menywod rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth’
Canfu astudiaeth arall gan Gymdeithas Fawcett (Strategies for success: Women’s experiences of selection and election in UK Parliament) dystiolaeth o 'ymwrthedd gan aelodau pleidiau a'r cyhoedd at fenywod fel ymgeiswyr credadwy' a thystiolaeth o 'ffafriaeth amlwg a llwyr at ymgeiswyr gwrywaidd ymysg detholaethau’.
Mae'r Global Institute for Women’s Leadership hefyd yn awgrymu bod 'menywod yn cael eu rhoi yn is i lawr ar restrau ymgeiswyr na dynion neu mewn sefyllfaoedd lle mae'n anoddach ennill' mewn cyd-destunau lle defnyddir systemau etholiadol cyfrannol rhestr gaeedig (Women Political Leaders: the impact of gender on democracy, t.22). Codwyd y mater hwn gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn ei thystiolaeth i un o bwyllgorau craffu’r Senedd pan gyflwynodd ei chanfyddiadau a’i modelau ar gyfer cwotâu rhywedd. Nododd, er y bydd ‘seddi y gellir eu hennill yn wahanol i wahanol bleidiau, oherwydd y system etholiadol newydd, bydd yn rhaid i bleidiau chwarae rhan weithredol wrth ystyried ble i osod menywod’. Nododd hefyd ‘o ganlyniad i 16 etholaeth newydd, bydd angen i bleidiau ailasesu beth sy’n sedd y gallan nhw ei hennill’ ac felly gellir ystyried lleoliad menywod wrth ymgymryd â’r ymarfer yma (SCECLB2 - P - Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru).
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hwyluso mwy o amrywiaeth yn ein sefydliadau democrataidd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers tro bwysigrwydd amrywiaeth ar bob lefel o lywodraeth, ac mae wedi cyflwyno mesurau i annog pobl o bob cefndir i ystyried sefyll am swydd etholedig. Enghraifft o hyn yw’r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, a lansiwyd gyntaf yn 2014, sy’n ceisio cynyddu nifer yr ymgeiswyr llywodraeth leol o gefndiroedd amrywiol drwy fentora ac ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol. Mae cyflwyno darpariaethau absenoldeb teuluol mewn prif gynghorau yng Nghymru yn galluogi aelodau etholedig i gydbwyso eu rolau â’u cyfrifoldebau teuluol a’u cyfrifoldebau eraill.
Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 nifer o ddarpariaethau i gynyddu amrywiaeth mewn cynghorau. Roedd y rhain yn cynnwys dyletswyddau ar gynghorau i annog cyfranogiad lleol wrth wneud penderfyniadau, darpariaethau ar gyfer mynychu cyfarfodydd o bell, a dileu rhwystrau i drefniadau rhannu swyddi mewn gweithrediaethau cynghorau. Mae rhagor o waith yn mynd rhagddo i edrych ar ymestyn y trefniadau hyn i rolau anweithredol mewn cynghorau.
Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cynlluniau penodol, gan gynnwys y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, er mwyn hybu a galluogi mwy o amrywiaeth ymysg y rheini sy’n sefyll mewn etholiad.
Fel rhan o ymgyrch barhaus Llywodraeth Cymru i hybu mwy o amrywiaeth mewn swyddi etholedig, rydym yn cyflwyno nifer o fesurau pwysig a fydd yn arwain at newidiadau yn y Senedd ac mewn llywodraeth leol drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 a roddwyd ar waith yn ddiweddar.
Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r canllawiau hyn, mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn rhoi dyletswydd arnynt i ddarparu gwasanaethau i hybu amrywiaeth o ran nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad yn gysylltiedig â’u hanableddau. Yn ogystal â hynny, mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â’u nodweddion a’u hamgylchiadau penodedig.
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 hefyd yn gwneud newidiadau i’r fformat a’r broses ymgysylltu o ran datblygu a chyflawni’r arolwg o ymgeiswyr sy’n ofynnol mewn cysylltiad ag etholiadau llywodraeth leol. Bydd canllawiau arolygon Etholiadau Lleol yn parhau i esblygu ac ymgorffori’r gwersi a ddysgwyd o bob cyfres o etholiadau, gan gynnwys sut mae annog mwy o bobl i gymryd rhan yn yr arolwg i gynyddu’r adborth cyfoethog a gesglir fel rhan o’r broses.
Casgliad
Mae’n amlwg o’r ymchwil sydd ar gael bod gwahaniaethu, cefnogaeth annigonol, a thriniaeth annheg yn gallu rhwystro rhai pobl rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth na cheisio cael eu hethol. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno mynd i’r afael â rhwystrau o’r fath a chynyddu cyfleoedd i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli chwarae rhan lawn yn y gwaith o gefnogi a chynrychioli eu cymunedau. Er y cydnabyddir bod materion ehangach ar waith, sydd y tu hwnt i bŵer uniongyrchol pleidiau gwleidyddol, bwriad y canllawiau yw annog pleidiau i wneud yr hyn a allant i weithio tuag at yr amcan cyffredin hwn.