Canllawiau addysg ddewisol yn y cartref
Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ynglŷn â'r canllawiau hyn
1.1 Datblygwyd y canllawiau hyn i gefnogi awdurdodau lleol i arfer eu swyddogaethau o dan adran 463A o Ddeddf Addysg 1996. Mae’r adran hon yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i adnabod plant yn eu hardaloedd sydd o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn ddysgwyr cofrestredig mewn ysgol ac nad ydynt yn derbyn addysg addas heblaw yn yr ysgol. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw [1] i’r canllawiau statudol hyn wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran honno.
1.2 Mae'r canllawiau hyn hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol a rhieni [2] o dan y fframwaith deddfwriaethol presennol.
1.3 Mae'r canllawiau hyn wedi eu llywio gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Fe'u datblygwyd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a addysgir yn y cartref, yn cael yr hawliau a roddir iddynt yn CCUHP.
1.4 Mae egwyddorion cyffredinol CCUHP yn llywio'r ffordd y caiff hawliau'r plentyn eu hyrwyddo a'u hamddiffyn drwy'r canllawiau hyn. Dyma'r egwyddorion:
- dim gwahaniaethu (Erthygl 2)
- budd gorau’r plentyn (Erthygl 3)
- yr hawl i fyw, i oroesi ac i ddatblygu (Erthygl 6)
- parchu barn plant (Erthygl 12)
Yr hawl i dderbyn addysg
1.5 Mae adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 yn nodi’r ddyletswydd a roddir ar rieni i sicrhau bod plant o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg amser llawn, addas ac effeithlon. Gallant sicrhau’r addysg hon drwy naill ai anfon y plentyn i'r ysgol neu drwy ffyrdd eraill. Un o’r ffyrdd hyn yw bod rhieni yn penderfynu darparu addysg yn y cartref. Rhaid taro cydbwysedd rhwng y penderfyniad hwnnw a'r disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn gallu asesu addasrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhieni. Er mwyn i awdurdod lleol gyflawni'r swyddogaeth honno, nid yw'n afresymol i awdurdodau lleol holi rhieni ynghylch eu dull gweithredu a’r addysg a ddarperir. Dylai awdurdodau lleol seilio unrhyw benderfyniad ynghylch addasrwydd yr addysg a ddarperir, ar ddull gweithredu y rhieni a'r addysg a ddarperir. Ni ddylent ei seilio ar ofynion y Cwricwlwm i Gymru [3].
1.6 Mae Erthygl 28 o CCUHP yn datgan hawl pob plentyn i dderbyn addysg ac mae Erthygl 29 o CCUHP yn datgan y dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalentau pob plentyn i’r eithaf. Dylai annog plant i barchu eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill.
Addysg yng Nghymru
1.7 Mae Cenhadaeth ein Cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r system addysg i sicrhau llwyddiant, safonau uchel a lles pob dysgwr. Mae egwyddorion Cenhadaeth ein Cenedl yn berthnasol i bob plentyn gan gynnwys y rhai sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref.
1.8 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hyrwyddo Cymru fwy cyfartal drwy gefnogi system addysg gynhwysol, gyfartal sy'n cefnogi plant i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chymryd rhan.
Addysg yn y cartref
1.9 Mae addysg yn y cartref yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa lle y mae rhieni yn darparu addysg yn y cartref i’w plant, yn hytrach na’u hanfon i'r ysgol.
1.10 Mae'r gymuned addysgu yn y cartref yng Nghymru yn boblogaeth amrywiol gyda theuluoedd yn dewis addysgu eu plant yn y cartref am amryw resymau. Gall y rhesymau hyn gynnwys:
- rhesymau yn ymwneud ag ideoleg neu athroniaeth
- rhesymau iechyd (gan gynnwys iechyd a llesiant emosiynol, a bwlio)
- rhesymau diwylliannol
- rhesymau crefyddol
- gofynion o ran darpariaeth ddysgu ychwanegol
- dewis iaith
- hyd y daith i'r ysgol
- aros am le yn eu dewis ysgol
- cael hyblygrwydd a'r gallu i deilwra’r dull gweithredu
1.11 Bydd addysg yn y cartref yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau gweithredu. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer dull gweithredu unigol wedi ei deilwra i anghenion a buddiannau penodol pob plentyn. Nid yw un dull o reidrwydd yn fwy dilys nag un arall ac nid oes un ateb i bawb. Mae llawer o rieni sy'n addysgu yn y cartref yn teimlo eu bod yn gallu diwallu anghenion unigol eu plant ac addasu i’w harddulliau dysgu yn fwy effeithiol nag y gellid ei wneud mewn ystafell ddosbarth. Gall addysg yn y cartref fod yn brofiad dysgu parhaus lle bynnag y bo'r plentyn.
1.12 Nid yw'n ofynnol i blant a addysgir yn y cartref:
- ddilyn y Cwricwlwm i Gymru nac unrhyw gwricwlwm penodedig arall
- bodloni meini prawf o ran nifer yr oriau dysgu
Ceir continwwm o ddulliau addysgu yn y cartref, o addysg ffurfiol, strwythuredig, sy'n dilyn amserlen, a gyflwynir yn bennaf yn amgylchedd y cartref, i addysg hunanlywodraethol neu addysg a arweinir gan y plentyn. Hefyd, gall amrywio dros amser ac yn ôl pwnc. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn yn symud o ddull mwy hunanlywodraethol pan fydd yn iau i ddull mwy strwythuredig ar gyfer arholiadau TGAU (os bydd y plentyn yn dewis eu sefyll). Dros y flwyddyn, gall addysg yn y cartref fod yn fwy strwythuredig yn ystod y gaeaf ac yn fwy ymatebol i'r tywydd a chyfleoedd lleol yn ystod yr haf. Gall rhai pynciau fel mathemateg gael eu cyflwyno gan ddefnyddio dull strwythuredig, tra gall eraill, fel hanes, gael eu cyflwyno drwy brosiect a reolir gan y plentyn ei hun.
1.13 Pan ofynnir i swyddogion awdurdodau lleol am gyngor ar yr addysg a ddarperir, mae'n bwysig eu bod yn cydnabod nad yw’r defodau, yr arferion a’r safonau a geir mewn addysg yn yr ysgol o reidrwydd yn berthnasol i addysg yn y cartref. Dylai unrhyw gyngor fod yn seiliedig ar amgylchiadau unigol pob plentyn.
Cyfrifoldebau a hawliau cyfreithiol
Hawl rhieni i addysgu eu plant yn y cartref
2.1 Yng Nghymru, mae addysg yn orfodol, ond nid yw'n orfodol anfon plant i'r ysgol. Os bydd plentyn yn cael ei addysgu yn y cartref, mae’r rhieni yn gorfod sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg amser llawn ‘effeithlon’ ac ‘addas’, mae'r rhwymedigaeth hon i'w gweld yn adran 7 o Ddeddf Addysg 1996. Rhaid i rieni sy'n penderfynu addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am hynny, a gall fod goblygiadau ariannol i hyn.
2.2 Mae adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 yn datgan:
The parent of every child of compulsory school age shall cause him to receive efficient full- time education suitable to his age, ability and aptitude, and to any special educational needs (in the case of a child who is in the area of a local authority in England) or additional learning needs (in the case of a child who is in the area of a local authority in Wales) he may have, either by regular attendance at school or otherwise.
2.3 Mae Erthygl 2 o Brotocol 1 i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn golygu bod dymuniadau rhieni yn berthnasol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu mai nhw yw'r unig rai sy'n penderfynu beth yw addysg addas. Mae Erthygl 2 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn nodi:
No person shall be denied the right to education. In the exercise of any functions which it assumes in relation to education and to teaching, the State shall respect the right of parents to ensure such education and teaching in conformity with their own religious and philosophical convictions.
2.4 Mae canllaw ar Erthygl 2, sef rhan o'r gyfres Canllawiau Cyfraith Achosion a gyhoeddwyd gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn datgan:
The right to education guaranteed by the first sentence of Article 2 of Protocol no. 1 by its very nature calls for regulation by the State, regulation which may vary in time and place according to the needs and resources of the community and of individuals. Such regulation must never injure the substance of the right to education nor conflict with other rights enshrined in the Convention. The Convention therefore implies a just balance between the protection of the general interest of the Community and the respect due to fundamental human rights.
2.5 Mae'n bosibl y bydd rhieni yn penderfynu addysgu eu plentyn yn y cartref o oed ifanc iawn. Felly, mae'n bosibl na fydd y plentyn wedi ei gofrestru mewn ysgol yn flaenorol. Gallant hefyd benderfynu addysgu yn y cartref ar unrhyw gam hyd at ddiwedd oedran ysgol gorfodol.
2.6 Er bod rhaid i rieni sicrhau bod eu plant yn cael addysg amser llawn, nid oes angen iddynt gadw at oriau ysgol nac amseroedd tymor. Mae amser cyswllt bron yn barhaus a gall cyfleoedd dysgu godi ar unrhyw adeg.
2.7 Nid oes angen unrhyw gymwysterau ar rieni er mwyn addysgu yn y cartref. Gallant:
- addysgu eu plentyn eu hunain
- cyflogi tiwtor
- cofrestru eu plentyn ar gyfer sesiynau addysgol
- addysgu mewn grwpiau gyda phlant eraill a gaiff eu haddysgu yn y cartref
2.8 Pan fo addysg amser llawn yn cael ei darparu i 5 neu fwy o ddysgwr o oedran ysgol gorfodol, neu i un dysgwr o'r oedran hwnnw sy'n derbyn gofal, sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA), cynllun datblygu unigol (CDU) neu gynllun Addysg, Iechyd a Gofal (AIG), a hynny mewn un lleoliad heblaw am ysgol a gynhelir, gallai'r trefniant hwn ddod o fewn cwmpas ysgol annibynnol. Nid oes diffiniad cyfreithiol o addysg ‘amser llawn’. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod sefydliad yn darparu addysg amser llawn os bydd yn darparu addysg y bwriedir iddi ddarparu holl addysg plentyn, neu ran sylweddol ohoni. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru fod wedi ei chofrestru â Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw un sy'n cynnal unrhyw ysgol annibynnol nad yw wedi ei chofrestru yn torri'r gyfraith ac yn agored i ddirwy a (neu) garchariad (Deddf Addysg 2002 (Legislation.gov.uk)).
2.9 Nid ystyrir bod rhieni unigol sy'n addysgu eu plant eu hunain wedi sefydlu ysgol y byddai'n ofynnol iddi gael ei chofrestru fel ysgol annibynnol.
2.10 Pan fydd rhiant yn hysbysu'r ysgol yn ysgrifenedig o'i fwriad i addysgu ei blentyn yn y cartref, rhaid i enw’r plentyn gael ei dynnu oddi ar y gofrestr derbyniadau (rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010). Rhaid i'r ysgol (gan gynnwys ysgolion yn y sector annibynnol) wneud datganiad i'r awdurdod lleol (yn nodi enw a chyfeiriad y plentyn) o fewn 10 diwrnod ysgol yn dilyn y dyddiad y tynnwyd yr enw oddi ar y gofrestr (rheoliad 12(3)).
2.11 Os bydd plentyn wedi ei gofrestru mewn ysgol arbennig o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol a bod y rhieni am ei addysgu yn y cartref, dylent ysgrifennu at yr ysgol gan ddatgan eu bod am addysgu eu plentyn heblaw yn yr ysgol. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i'r awdurdod lleol am ddymuniadau'r rhieni ond ni fydd yn tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr nes y bydd yr awdurdod lleol wedi cytuno i hynny.
Mae rheoliad 8(2) o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn nodi:
'...pan fo plentyn, o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol, wedi dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig, ni cheir dileu enw'r plentyn hwnnw o gofrestr dderbyn yr ysgol honno heb fod yr awdurdod hwnnw'n cydsynio, neu, os yw'r awdurdod hwnnw'n gwrthod cydsynio, heb gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.’
2.12 Gall rhieni addysgu yn y cartref blentyn sydd â datganiad o AAA neu CDU (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
2.13 Pan gaiff ei ddwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo'n ymddangos fel arall i awdurdod lleol y gallai plentyn y mae'n gyfrifol amdano ac sy'n derbyn addysg yn y cartref (ac eithrio plentyn sy'n derbyn gofal) fod ag ADY, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn ADY ai peidio. Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid iddo lunio a chynnal CDU a sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a ddisgrifir yn y cynllun hwnnw (adran 18.21 o Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021) (y Cod ADY).
2.14 Dylai awdurdod lleol sy'n paratoi neu adolygu CDU ar gyfer plentyn a addysgir yn y cartref:
- weithio gyda'r plentyn a rhiant y plentyn i nodi'r DDdY briodol
- sicrhau’r DDdY sy’n cael ei nodi
Mae hyn yn cynnwys nodi’r math o DDdY y mae anghenion y plentyn yn galw amdani ac a fydd y rhiant yn gallu ei darparu (naill ai'n uniongyrchol neu drwy drefnu i rywun arall ei darparu). Yn dilyn hynny, os yw'r rhiant am ei darparu fel rhan o addysg y plentyn yn y cartref, er mwyn sicrhau'r DDdY a nodir yn y CDU, bydd angen i'r awdurdod lleol ei fodloni ei hun ei bod yn cael ei darparu. Pan na fo’r rhieni yn gallu darparu'r holl DDdY y mae anghenion y plentyn yn galw amdani, bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried sut y gellir sicrhau'r DDdY. Gall fod ffyrdd amrywiol o wneud hyn, gan gynnwys:
- darpariaeth ychwanegol a drefnir gan yr awdurdod lleol i ategu'r addysg a ddarperir gan y rhiant yn y cartref
- hyfforddiant i helpu'r rhiant i ddarparu'r DDdY angenrheidiol yn y cartref
Mewn achosion eraill, efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau addysg er mwyn sicrhau addysg i'r plentyn mewn ysgol benodol (adran 18.23 o’r Cod ADY).
2.15 Caiff Deddf ADY a’r Cod ADY eu gweithredu dros 4 blynedd ysgol, 2021 i 2025. Yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gweithredu ochr yn ochr â'r system AAA, a gaiff ei diddymu'n raddol yn ystod y cyfnod hwn.
2.16 Hyd nes y bydd plentyn yn symud i'r system ADY, bydd y ddeddfwriaeth AAA (Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996) yn dal yn weithredol mewn perthynas â'r plentyn a rhaid parhau i roi darpariaeth addysgol arbennig.
Mae'r system ADY yn cyfeirio at y system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ag ADY. Mae'r fframwaith statudol ar gyfer y system ADY wedi ei nodi yn y Ddeddf ADY ac is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Cod ADY. Mae'r Cod ADY yn rhoi gofynion ar:
- ysgolion
- unedau cyfeirio disgyblion
- sefydliadau addysg bellach
- awdurdodau lleol
- cyrff y GIG
Mae'n rhoi canllawiau iddynt hwy ac eraill ar y system ADY. Ceir rhagor o wybodaeth am weithredu'r system ADY yn y canllaw gweithredu i ymarferwyr.
Mae'r Ddeddf ADY yn creu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer cynllunio a darparu cymorth i blant a phobl ifanc ag ADY.
Mae adran 13 o'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd (yn amodol ar eithriadau penodol) ar awdurdod lleol, os tynnir ei sylw at blentyn y mae'n gyfrifol amdano sydd ag ADY neu yr ymddengys fel arall fod hynny'n wir, i benderfynu a oes gan y plentyn ADY ai peidio. Nid yw'r dyletswydd yn benodol i grwpiau penodol o blant a byddai'n cynnwys y rheini sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.
O dan adran 14 o'r Ddeddf, os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod gan blentyn ADY, rhaid paratoi a chynnal CDU ar gyfer y plentyn.
Mae adran 14 o'r Ddeddf hefyd yn nodi pan fo awdurdod lleol yn cynnal CDU ar gyfer plentyn neu berson ifanc, fod rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a ddisgrifir yn y cynllun. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu'r DDdY yn uniongyrchol. Pan fo'r CDU, er enghraifft, yn nodi mai cymorth un i un yw'r DDdY, gallai hyn gael ei darparu gan riant sy'n addysgu'r plentyn yn y cartref.
Pan fo angen darpariaeth dysgu ychwanegol ar y plentyn, byddai angen i'r awdurdod lleol benderfynu:
- a fyddai'n rhesymol i'r cymorth gael ei ddarparu yng nghartref y plentyn
- a fyddai angen i'r ddarpariaeth gael ei gwneud rywle arall, er enghraifft mewn ysgol neu leoliad addysgol arbennig
Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y DDdY yn cael ei darparu. Byddai hyn yn cael ei asesu fel rhan o'r adolygiad o'r CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol, y mae rhaid ei gynnal bob blwyddyn neu'n amlach os yw hynny'n briodol.
Bydd yn hanfodol i swyddogion addysg yn y cartref a chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yr awdurdod lleol feithrin perthynas waith agos. Bydd hyn yn sicrhau bod plant ag ADY a addysgir yn y cartref yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.
Hawliau plant
2.17 Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) fel sail i'w holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i hawliau plant, fel y nodir yn CCUHP. Mae Cynllun Hawliau Plant 2014 yn nodi'r trefniadau i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i hawliau plant wrth arfer unrhyw swyddogaethau.
2.18 Mae Erthygl 12 o CCUHP yn rhoi'r hawl i blant fynegi eu barn ac i bwysau dyledus gael ei roi i'r farn honno, yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd y plentyn. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn rhoi awdurdod i blant dros rieni. Dylai awdurdodau lleol, drwy eu gwasanaethau cefnogi cyfranogiad plant, ystyried sut y gall lleisiau unigol a thorfol plant a addysgir yn y cartref gael eu clywed.
2.19 Mae Erthygl 28 o CCUHP yn nodi bod gan bob plentyn yr hawl i addysg ac y dylai addysg gynradd fod yn orfodol ac am ddim. Mae Erthygl 29 yn nodi y dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalentau pob plentyn i’r eithaf. Fodd bynnag, budd pennaf y plentyn yw un o egwyddorion sylfaenol CCUHP, ac mae Erthygl 3 o CCUHP yn ei gwneud yn ofynnol i bob oedolyn feddwl sut y bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar blant, a gwneud yr hyn sydd orau i'r plentyn.
2.20 Bwriad canllawiau Hawliau Plant Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru yw helpu ymarferwyr, swyddogion llunio polisi a rhanddeiliaid i ddatblygu eu dealltwriaeth o hawliau plant a deall sut mae gweld pethau o safbwynt hawliau plant yn eu gwaith.
Cyfrifoldebau awdurdodau lleol
Adran 436A o Ddeddf Addysg 1996
2.21 O dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i adnabod plant yn eu hardaloedd sydd o oedran addysg gorfodol ac nad ydynt yn derbyn addysg addas. Mae adran 436A o Ddeddf Addysg 1996 yn nodi:
(1) A local authority must make arrangements to enable them to establish (so far as it is possible to do so) the identities of children in their area who are of compulsory school age but (a) are not registered pupils at a school, and (b) are not receiving suitable education otherwise than at a school.”
Mae adran 436(A)(3) yn nodi:
‘suitable education’, in relation to a child, means efficient fulltime education suitable to his age, ability and aptitude and to any special educational needs he may have (in the case of a local authority in England) or suitable to the child's age, ability and aptitude and to any additional learning needs the child may have (in the case of a local authority in Wales).
2.22 Dylai awdurdodau lleol nodi y dylid dehongli'r cafeat yn adran 436A, ‘so far as it is possible to do so’, i olygu y dylai'r awdurdod lleol wneud popeth sy'n rhesymol, yn ymarferol ac yn briodol er mwyn adnabod plant. Gweler adran 5 i gael rhagor o wybodaeth.
Mae cynsail cyfreithiol wedi pennu y gall awdurdodau lleol wneud ymholiadau anffurfiol i rieni er mwyn cael manylion y ddarpariaeth addysgol a wneir ar gyfer eu plentyn. Mae Goodred v Portsmouth City Council yn datgan:
There is nothing remotely problematic in the defendant approaching a home-schooling parent…to request evidence that, if satisfactory, would enable the defendant to discharge its duty under section 436A without the need to serve a [notice to satisfy under section 437(1) of the Education Act 1996]
R. (on the application of Goodred) v Portsmouth City Council 16, Tachwedd 2021
Polisi addysg yn y cartref a'r broses graffu
2.23 Mae craffu yn chwarae rôl bwysig o ran hyrwyddo gwelliant parhaus yn y ffordd y mae awdurdod lleol yn cyflenwi gwasanaethau i'w cymunedau. Dylai awdurdodau lleol adrodd i bwyllgorau craffu perthnasol ac aelodau etholedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag addysg yn y cartref, a hynny o leiaf unwaith y flwyddyn. Ymysg rhai eraill, gall yr adroddiadau hyn gynnwys pynciau fel:
- nifer y plant a addysgir yn y cartref ac unrhyw dueddiadau sydd wedi’u hadnabod
- materion i'w hystyried
- arferion da
- asesu risgiau
- blaengynllunio
- ffactorau sy'n cyfrannu at addysg yn y cartref (er enghraifft AAA, ADY, bwlio canfyddiadol, angen heb ei ddiwallu, osgoi erlyniad am ddiffyg presenoldeb)
2.24 Mae Beth rydym ni'n ei arolygu Gwasanaethau addysg llywodraeth leol ar gyfer arolygiadau o 2022 yn nodi y caiff arolygwyr werthuso goruchwyliaeth awdurdodau lleol o blant a addysgir yn y cartref gan eu rhieni. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd â chynlluniau statudol ar gyfer eu haddysg. Caiff arolygwyr ystyried a yw'r awdurdod lleol yn darparu canllawiau defnyddiol i rieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref, ac yn eu cyfeirio at gymorth.
2.25 Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod gan bob awdurdod lleol uwch-swyddog penodol yn gyfrifol am bolisi a gweithdrefnau addysg yn y cartref, a fydd yn datblygu ac yn cynnal cysylltiadau â gwaith arall ar faterion megis:
- plant sy'n colli addysg
- lleoliadau heb eu cofrestru
- plant agored i niwed
- llesiant
2.26 Hefyd, disgwylir i swyddogion addysg yn y cartref gydweithio'n agos ag adrannau eraill yn yr awdurdod lleol i adnabod plant a addysgir yn y cartref a'u cefnogi. Mae’r adrannau hyn yn cynnwys y gwasanaeth lles addysg, y tîm ADY a’r tîm addysg heblaw yn yr ysgol. Dylai'r swyddog addysg yn y cartref gydweithio â swyddogion perthnasol yn yr awdurdod lleol i atal datgofrestru pan na fo’n ddewis gwirfoddol sy’n seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu fel cyfryngwr rhwng yr ysgol a theulu'r dysgwr er mwyn helpu i ddatrys unrhyw wahaniaeth barn sy'n effeithio ar addysg y dysgwr. Pan fo plentyn wedi cael ei ddatgofrestru, dylai'r awdurdod lleol gyfarfod â'r teulu cyn gynted â phosibl er mwyn cael gwybod y rhesymau dros addysgu yn y cartref. Pan fo'n briodol, dylai'r awdurdod lleol gynorthwyo'r teulu i wneud ceisiadau am leoedd ysgol neu ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.
2.27 Fel arfer da, cynghorir awdurdodau lleol i adolygu eu gweithdrefnau a'u harferion i gyd yn rheolaidd, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag addysg yn y cartref. Dylai sefydliadau addysg yn y cartref, rhieni sy’n addysgu yn y cartref a phlant a addysgir yn y cartref gael eu cynnwys yn y broses adolygu. Bydd adolygiadau effeithiol, ynghyd â phrosesau sensitif ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw gwynion, yn helpu i feithrin a sicrhau partneriaeth fwy effeithiol.
Defnyddio data i lywio polisi
2.28 Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ynghyd â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) a Data Cymru wedi cynnal ymarfer casglu data er mwyn datblygu set ddata gadarn a chyson ar addysg yn y cartref dros amser ym mhob awdurdod lleol. Mae hyn wedi sefydlu llinell sylfaen o ddata ar addysg yn y cartref, sy'n darparu lefel sylfaenol o wybodaeth a gofnodir ar lefel awdurdod lleol. Mae’n galluogi awdurdodau lleol i:
nodi patrymau a thueddiadau addysg yn y cartref yn eu hardaloedd [4]
2.29 Disgwylir i awdurdodau lleol ddefnyddio'r data hyn i:
- lywio'r gwaith o ddatblygu eu polisïau a'u harferion o ran addysg yn y cartref
- deall yn well y rhesymau pam y mae rhai teuluoedd yn dewis addysgu yn y cartref
- rhoi ar waith y cymorth a'r cyngor y bydd ei angen ar rai teuluoedd
Dylai'r awdurdod lleol hefyd ystyried tueddiadau addysg yn y cartref mewn cyd-destun strategol ehangach. Gallai hyn gynnwys nodi:
- diffygion mewn darpariaeth yn yr ysgolion lleol a lleoliadau darpariaeth amgen
- methiannau gan ysgolion i reoli presenoldeb ac ymddygiad yn briodol, cefnogi lles dysgwyr a diwallu eu ADY
Ysgolion yn rhoi pwysau ar rieni i dynnu eu plant oddi ar gofrestr yr ysgol
2.30 Ceir tystiolaeth anecdotaidd o achosion pan fo ysgolion wedi rhoi pwysau ar rieni i dynnu eu plant oddi ar gofrestr yr ysgol er mwyn eu haddysgu yn y cartref. Mewn rhai achosion, defnyddiwyd y bygythiad o wahardd plentyn i annog rhieni i dynnu eu plentyn o'r ysgol.
2.31 Ni ddylai rhieni ar unrhyw gyfrif gael eu hannog i dynnu eu plentyn oddi ar gofrestr ysgol er mwyn:
- osgoi gwaharddiad
- osgoi erlyniad am fethu â sicrhau bod eu plentyn wedi mynychu'r ysgol
- gwella canlyniadau perfformiad yr ysgol
2.32 Nid yw'n dderbyniol i ysgolion ddefnyddio’r arfer hon. Dylai penderfyniadau a wneir gan ysgolion gefnogi hawl plant i gael addysg (Erthyglau 28 a 29 o CCUHP). Dylent hefyd gael eu gwneud er budd pennaf y dysgwr (Erthygl 3). Dim ond pan fydd yn angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny y gall ysgolion wahardd dysgwyr yn gyfreithlon. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir y dylai penderfyniad i wahardd dysgwr ond cael ei wneud mewn ymateb i achosion difrifol o dorri polisi ymddygiad yr ysgol, ac os byddai caniatáu i'r dysgwr aros yn yr ysgol yn gwneud niwed difrifol i addysg neu lesiant y dysgwr neu ddysgwyr eraill yn yr ysgol. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid gwahardd disgybl yn barhaol.
2.33 Mae cyfrifoldeb ar awdurdod lleol i eirioli ar ran pob plentyn. Caiff awdurdodau lleol eu hannog yn gryf i ddefnyddio'r data sydd ar gael iddynt i nodi tueddiadau o ran datgofrestru at ddibenion gwella canlyniadau perfformiad ysgol. Pan fo modd iddynt nodi arwyddion cynnar o fwriad i ddatgofrestru, dylai awdurdodau lleol gysylltu â'r rhieni i drafod eu rhesymau. Mae'n bwysig sicrhau bod penderfyniad rhieni i addysgu yn y cartref yn benderfyniad gwirfoddol sy’n seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael, a bod barn y plant yn cael ei pharchu er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad hwn.
2.34 Mae'n bwysig bod penderfyniad y rhieni i addysgu yn y cartref yn ddewis cadarnhaol. Ni ddylai rhieni ei ystyried yn opsiwn pan fydd plant wedi ymddieithrio oddi wrth addysg cyn cael eu haddysgu yn y cartref oherwydd bydd anawsterau wrth geisio ymgysylltu â phlant sydd eisoes wedi ymddieithrio oddi wrth addysg. Y disgwyliad yn yr achosion hyn fyddai i awdurdodau lleol roi cymorth ar waith ar gyfer y plant hyn, gan gynnwys addysg heblaw yn yr ysgol pan fo'n briodol.
2.35 Pan fo tystiolaeth bod ysgolion yn rhoi pwysau ar rieni i dynnu eu plentyn oddi ar gofrestr yr ysgol, dylai awdurdodau lleol herio ysgolion ac ystyried defnyddio eu pwerau ymyrryd statudol.
Gorchmynion mynychu'r ysgol (gweler adran 5)
2.36 O dan adran 437(1) o Ddeddf Addysg 1996, os yw'n ymddangos i awdurdod lleol nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol yn derbyn addysg addas, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ysgrifenedig i'r rhiant yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhiant fodloni’r awdurdod lleol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad (heb fod yn llai na 15 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y caiff yr hysbysiad ei gyflwyno), fod y plentyn yn derbyn addysg o'r fath. Os bydd y rhiant yn methu â bodloni'r awdurdod lleol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a bod yr awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn hwylus i'r plentyn fynychu'r ysgol yna rhaid iddo ddyroddi gorchymyn mynychu'r ysgol i'r rhiant mewn perthynas â'r plentyn hwn, sy'n nodi pa ysgol y dylai'r plentyn ei mynychu (adran 437(3), Deddf Addysg 1996).
Gorchmynion goruchwylio addysg (gweler adran 5)
2.37 O dan adran 447 o Ddeddf Addysg 1996, os bydd rhiant yn methu â chydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried a fyddai'n briodol (yn hytrach na chychwyn achos o fethu â chydymffurfio neu yn ogystal â hynny) gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg mewn perthynas â'r plentyn. Gallai methiant i gydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol arwain at euogfarn droseddol neu at osod gorchymyn goruchwylio addysg neu'r ddau.
Dyletswyddau diogelu awdurdodau lleol (gweler adran 7)
2.38 Dylai awdurdodau lleol ymdrin â phob achos lle ceir amheuaeth ynghylch addasrwydd addysg yn y cartref gan ddefnyddio eu pwerau o dan Ddeddf Addysg 1996. Dylent hefyd fod yn barod, os ymddengys bod diffyg addysg addas yn debygol o amharu ar ddatblygiad plentyn, i arfer yn llawn eu pwerau diogelu a'u ddyletswyddau i amddiffyn lles y plentyn. Yr amcan pennaf yn yr achosion hyn yw sicrhau y caiff datblygiad y plentyn ei ddiogelu rhag niwed sylweddol. Gweler adran 7 i gael rhagor o ganllawiau.
Adnabod plant nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol
3.1 Mae'n debygol iawn y bydd plant a addysgir yn y cartref mewn ardal awdurdod lleol na fydd yr awdurdod lleol yn gwybod amdanynt. Bydd nifer o resymau am hyn, er enghraifft:
- efallai nad yw'r plentyn erioed wedi cael ei gofrestru mewn ysgol
- efallai bod teulu wedi symud i'r awdurdod lleol o ran arall o'r wlad
3.2 O dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i alluogi'r awdurdod i ganfod, hyd y gellir gwneud hynny, pwy yw'r plant o oedran ysgol gorfodol yn eu hardaloedd nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol, ac nad ydynt yn cael addysg addas heblaw mewn ysgol. Dylai awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffyrdd o adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddynt, gan wneud popeth sy'n rhesymol ac yn briodol.
3.3 Mae'n hanfodol bod gan awdurdodau lleol fesurau cadarn ar waith i nodi'n gyflym pan fydd plentyn yn colli addysg, neu fod potensial bod hynny'n wir. Dylai’r mesurau hyn yn eu caniatáu i gymryd camau dilynol gan ddefnyddio systemau olrhain ac ymholi effeithiol i ddod o hyd iddynt. Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg yn gymwys. Mae perygl y bydd plant sy'n colli addysg yn cael eu hallgáu yn gymdeithasol ac maent yn annhebygol o allu cyflawni yn y dyfodol.
Rhannu gwybodaeth ag asiantaethau partner
3.4 Gall swyddogion awdurdodau lleol rannu gwybodaeth yn unol â'r Rheoliad
Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data (Deddf 2018). Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried rhannu gwybodaeth pa bryd bynnag y mae'n gyfreithlon gwneud hynny.
3.5 Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob plentyn o oedran addysg gorfodol yn cael ei adnabod. Felly, dylai awdurdodau lleol geisio datblygu protocolau rhannu gwybodaeth. Mae’r protocolau hyn yn egluro o dan ba amgylchiadau y gellir ac y dylid rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau sy'n cefnogi plant. Fodd bynnag, nid yw diffyg cytundeb neu gydsyniad ar gyfer rhannu gwybodaeth benodol yn golygu na ellir rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau pan fo lles plentyn mewn perygl. Mae’n briodol o hyd i rannu gwybodaeth bersonol heb dorri Deddf Diogelu Data 2018 ar yr amod bod gwneud hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni swyddogaethau statudol.
3.6 Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (y cytundeb) yn fframwaith sy'n helpu pob darparwr gwasanaeth i rannu data personol mewn ffordd gyfreithlon, ddiogel ac effeithiol. Mae'r cytundeb hwn yn gyfres gyffredin o egwyddorion a safonau, sy'n cefnogi'r broses o rannu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau. Mae derbyn ac arwyddo'r cytundeb yn gam gwirfoddol. Fodd bynnag, anogir pob darparwr gwasanaethau cyhoeddus i ymuno. Mae pob un o'r 22 o awdurdodau lleol wedi arwyddo'r cytundeb. Mae’r cytundeb yn darparu templedi ar gyfer cytundebau rhannu data fel protocolau rhannu gwybodaeth a Chytundebau Datgelu Data i’w defnyddio gan awdurdodau lleol.
3.7 Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg addas, mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru a Lloegr. Yn ogystal â rhannu gwybodaeth yng Nghymru, disgwylir i awdurdodau lleol Cymru ddatblygu protocolau rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw plant sy'n symud ar draws ffiniau yn colli addysg.
3.8 Mae Erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn nodi'r hawl i fywyd preifat ac i fywyd teulu. Mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol hefyd yn nodi'r hawl i beidio â chael addysg wedi ei gwrthod (Erthygl 2, Protocol 1). Rhaid i rannu gwybodaeth fod yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn unol â'r gyfraith.
Cydweithio ag asiantaethau partner
3.9 Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn cydweithio'n barhaus ag asiantaethau partner a chael trefniadau ar waith i adnabod plant nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol. Mae'n bosibl y bydd plant yn hysbys i asiantaethau eraill, ac na fyddant yn hysbys i'r awdurdod lleol y maent yn byw ynddo.
3.10 Caiff ffurflen ei llunio gan yr heddlu yn dilyn unrhyw achos pan fo plentyn neu berson ifanc yn cael ei ddwyn i’w sylw a phan fo rheswm dros gredu fod y plentyn neu berson ifanc mewn perygl. Yn y rhan fwyaf o'r achosion hyn, bydd yr heddlu wedi cael eu galw i achos domestig a’r plentyn neu berson ifanc yn gysylltiedig â’r achos hwnnw. Gall plentyn neu berson ifanc fod yn gysylltiedig ag achos fel:
- aelodau o’r cartref
- tystion
- personau a oedd yn rhan ohoni
Pan na fo unrhyw ysgol wedi ei nodi ar y ffurflen, dylai'r gwasanaethau cymdeithasol sicrhau y cyfeirir y mater hwn at y gwasanaeth lles addysg er mwyn iddo gael ei groesgyfeirio yn erbyn cofnodion yr awdurdod lleol. Bydd angen i’r gwasanaeth lles addysg bennu a yw'r plentyn:
- ar gofrestr ysgol
- yn cael addysg heblaw yn yr ysgol
- wedi ei gofrestru fel plentyn sy’n cael addysg yn y cartref
Os na ellir pennu dim un o'r uchod, bydd angen i’r awdurdod lleol gynnal ymchwiliad pellach i benderfynu a yw'r plentyn yn colli addysg.
Cyrchoedd triwantiaid
3.11 Dylai'r rheini sy'n cymryd rhan mewn gwaith cyrchu triwantiaid fod yn ymwybodol y gall fod rhesymau dilys pam y mae plant o oedran ysgol allan o'r ysgol. Mae cyrchoedd triwantiaid yn ffordd effeithiol iawn o adnabod plant sydd y tu allan i'r system addysg. Mae’r plant hyn yn cynnwys y rheini sy'n mynd ar goll o addysg a phlant sy'n colli addysg. Gall gweithwyr proffesiynol sy'n cymryd rhan mewn cyrchoedd triwantiaid ddod i gysylltiad â phlant a addysgir yn y cartref ac felly nad ydynt yn yr ysgol. Ni ddylid cymryd unrhyw gamau pellach pan fo plant yn nodi eu bod yn cael eu haddysgu yn y cartref oni bai bod rheswm dros amau nad yw hynny'n wir. Os bydd gweithwyr proffesiynol yn dod i gysylltiad â phlentyn a gaiff ei addysgu yn y cartref, bydd angen iddynt hysbysu’r awdurdod lleol perthnasol. Mae angen rhoi gwybod i rieni sy'n addysgu yn y cartref y gall fod angen i weithwyr proffesiynol sy'n cymryd rhan mewn cyrchoedd triwantiaid ddilysu unrhyw wybodaeth a roddir iddynt o dan yr amgylchiadau hyn.
3.12 Gallai cyrchoedd triwantiaid adnabod plant nad ydynt ar gofrestr ysgol ac a all fod o deuluoedd sy'n gyndyn i ymgysylltu â gwasanaethau statudol, neu'n gwrthod gwneud hynny. Gall cyrchoedd triwantiaid, felly, o gael eu trefnu'n briodol, fod yn ffordd ddefnyddiol o wneud cysylltiad â'r grŵp hwn.
Pwyntiau trosglwyddo
3.13 Dylai awdurdodau lleol groesgyfeirio data derbyniadau ysgolion â'r gofrestr genedigaethau byw er mwyn adnabod plant o oed derbyn nad ydynt wedi eu cofrestru mewn ysgol. Mae'n bwysig:
- bod awdurdodau lleol yn ceisio cyrraedd cynifer â phosibl o ddarpar ddysgwyr o oed derbyn cychwynnol
- bod gan awdurdodau lleol gytundebau rhannu gwybodaeth i hwyluso'r broses o groesgyfeirio plant sy'n dechrau mewn darpariaeth statudol yn erbyn cronfeydd data partneriaid (megis blynyddoedd cynnar, timau gofal plant ac iechyd)
Pan na fo lle mewn ysgol wedi’i gymryd, dylid rhoi gwybod i'r gwasanaeth lles addysg er mwyn gwneud ymholiadau pellach. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth ar rai teuluoedd gyda'r broses dderbyn. Efallai y bydd rhai teuluoedd wedi methu â chymryd camau dilynol mewn cysylltiad â chais. Efallai bod rhai eraill heb gael lle yn yr ysgol yr oeddent yn ei ffafrio a heb dderbyn cynnig am le mewn ysgol arall. Mae'n bwysig bod gan awdurdodau lleol weithdrefnau a strategaethau ar waith ar gyfer y camau dilynol i'w cymryd mewn sefyllfaoedd o'r fath, gan leihau'r cyfle i blant fynd ar goll o addysg. Lle y nodwyd bod teulu yn addysgu yn y cartref, gellir cynnig cymorth a chyngor yn unol â dymuniadau teulu, pan fo hynny’n briodol.
Plant sy'n colli addysg
3.14 Diben dyletswydd adran 436A yw gwneud yn siŵr bod:
- plant sy'n mynd ar goll o addysg yn cael eu hadnabod yn gyflym
- systemau monitro effeithiol yn cael eu rhai ar waith i sicrhau bod plant sy’n colli addysg yn cael gafael ar y ddarpariaeth fwyaf priodol cyn gynted â phosibl
3.15 Mae'n bosibl na fydd yr ymholiadau hyn bob amser yn arwain at ddod o hyd i'r plentyn, ond byddant yn llywio'r camau sydd angen eu cymryd, er enghraifft:
- cysylltu â'r heddlu
- cysylltu â gofal cymdeithasol plant
- mewn achosion pan fo pryderon am ddiogelwch plentyn sydd wedi teithio dramor, cysylltu â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad
Ysgol i Ysgol (s2s)
3.16 Gwefan trosglwyddo data yn ddiogel yw Ysgol i Ysgol (s2s) sydd ar gael i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ei defnyddio. Fe'i dyluniwyd i'w gwneud yn bosibl i ffeiliau fformat trosglwyddo cyffredin (CTF) gael eu hanfon rhwng unrhyw ysgolion a gynhelir. Mae dyletswydd statudol ar bob ysgol a gynhelir yng Nghymru i ddefnyddio'r system drosglwyddo gyffredin (CTS) ar gyfer Cymru a Lloegr i drosglwyddo gwybodaeth benodol yn electronig, drwy wefan ‘Ysgol i Ysgol: s2s’ pan fydd disgybl yn ymuno ag ysgol neu'n gadael ysgol.
3.17 Pan fydd dysgwyr yn symud o un ysgol i un arall, gwefan s2s yw'r dull a ddefnyddir i gadw trac arnynt. Mae’n sicrhau nad ydynt yn cael eu colli o'r system. Mae hefyd yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth arwyddocaol, er enghraifft AAA/ADY, neu fanylion, fel eu bod yn blant sy'n derbyn gofal, ar gael ar unwaith i'r ysgol newydd. Rhaid creu ffeil CTF ar gyfer pob dysgwr sy'n gadael ysgol, hyd yn oed os nad yw'n mynd i ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr neu os nad yw'r lleoliad nesaf yn hysbys.
3.18 Ar ôl 4 wythnos, dylai'r ysgol, mewn ymgynghoriad â'r awdurdod lleol, dynnu enw'r plentyn neu berson ifanc oddi ar eu cofrestr os bydd bob un o’r canlynol yn berthnasol i’r plentyn neu’r person ifanc:
- mae wedi gadael yr ysgol heb fod y lleoliad nesaf yn hysbys
- mae’r ysgol a'r gwasanaeth lles addysg wedi dilyn gweithdrefnau ac mae’r pob 'ymdrech resymol' i ddod o hyd i’r plentyn neu berson ifanc wedi bod yn aflwyddiannus
Wedyn, dylai’r ysgol greu ffeil CTF ‘disgybl coll’ gan nodi XXXXXXX fel y lleoliad. Dylai'r ffeil CTF hon gael ei llwytho i fyny i safle diogel s2s lle caiff ei dal yn y 'Gronfa Ddata Disgyblion Coll'. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i awdurdodau lleol olrhain darpariaeth yn y dyfodol gan helpu i sicrhau nad yw plant yn aros yn rhai 'coll'.
3.19 Dylai awdurdodau lleol wirio'r 'Gronfa Ddata Disgyblion Coll' yn rheolaidd am blant sydd o bosibl yn colli addysg a (neu) a all fod yn cael eu haddysgu yn y cartref.
Addysg effeithlon ac addas
4.1 Mae'r dull gweithredu a ddefnyddir gan rieni sy'n addysgu yn y cartref i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg addas yn debygol o gael ei lywio gan eu hathroniaeth neu eu barn eu hunain. Mewn llawer o achosion, gall absenoldeb asesiadau ffurfiol fod yn nodwedd o'r ddarpariaeth addysgol. Gall cynnydd, dros y tymor hir, amlygu'i hun drwy amrywiaeth o ffurfiau.
4.2 Mae dyletswydd rhiant i sicrhau addysg addas ac effeithlon wedi ei nodi yn adran 7 o Ddeddf Addysg 1996. Mae’r adran hon yn nodi’r canlynol:
the parent of every child of compulsory school age shall cause him to receive efficient full-time education suitable: (a) to his age, ability and aptitude, and (b) to any special educational needs (in the case of a child who is in the area of a local authority in England) or additional learning needs (in the case of a child who is in the area of a local authority in Wales) he may have, either by regular attendance at school or otherwise’ [5].
4.3 Yn ôl cyfraith achosion, rhaid i gynnwys y ddarpariaeth fod yn addas er mwyn iddi wneud y canlynol:
equips a child for life within the community of which he is a member….as long as it does not foreclose the child’s options in later years to adopt some other form of life if he wishes to do so.’
(R v Secretary of State for Education, ex parte Talmud Torah Machzikei Hadass School Trust, The Times, 12 Ebrill 1985)
4.4 Yn Harrison & Harrison v Stevenson, diffiniodd y barnwr ddeilliannau addysg addas fel y canlynol:
- paratoi'r plant ar gyfer bywyd mewn cymdeithas fodern waraidd
- eu galluogi nhw i wireddu eu potensial
In our judgement ‘education’ demands at least an element of supervision, merely to allow a child to follow its own devices in the hope that it will acquire knowledge by imitation, experiment or experience in its own way and in its own good time is neither systematic nor instructive … such a course would not be education but, at best, child-minding. We should not, in the ordinary case, regard a system of education as suitable for any child capable of learning such skills, if it failed to instil in the child the ability to read, write or cope with arithmetical problems, leaving it to time, chance, and the inclination of the child to determine whether, if ever, the child eventually achieved even elementary proficiency in those skills”.
(Harrison & Harrison v Stevenson [1982] (QB (DC) 729/81)
4.5 Mae addysg effeithlon yn un sy'n cyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni. Mae'n bwysig nad yw'r cysyniad hwn yn cael ei gymysgu ag addasrwydd. Gallai addysg gwbl anaddas gael ei chyflwyno mewn modd effeithlon, ond fe fyddai'n dal i fod yn anaddas.
4.6 Ar hyn o bryd, nid oes diffiniad cyfreithiol o ystyr addysg ‘amser llawn’. Bydd plant sy'n mynychu'r ysgol fel arfer yn cael rhwng 22 a 25 o oriau o diwtora yr wythnos am 38 o wythnosau y flwyddyn. Fodd bynnag, nid yw'r mesuriad hwn o ‘amser cyswllt’ bob amser yn berthnasol i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref lle. Iddyn nhw, mae'n bosibl y bydd cyswllt un i un neu gyswllt grŵp bron yn barhaus. Mae'n bosibl hefyd y cynhelir yr addysg y tu allan i 'oriau ysgol' arferol. Fodd bynnag, mae'n debygol na fydd addysg y mae'n amlwg nad yw'n llenwi cyfran sylweddol o fywyd y plentyn yn bodloni gofyniad hwn yn adran 7.
4.7 Ni waeth pa ddull a ddefnyddir i ddarparu addysg addas, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried a yw'r dull yn addas i anghenion y plentyn unigol. Mae hynny’n golygu darparu addysg effeithlon sy'n addas i oedran, gallu a doniau'r plentyn ac i unrhyw AAA neu ADY a all fod ganddo.
4.8 Gall dysgu ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref. Gall hefyd gael ei ategu gan brofiadau eraill fel:
- ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb
- ymweliadau â chyfleusterau fel llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau
Un o nodweddion addysg yn y cartref yw'r gallu i fod yn hyblyg ac addasu i ddigwyddiadau ac amgylchiadau yn ddyddiol.
4.9 Mae i'w ddisgwyl, o dan rai amgylchiadau, y bydd llai o gynllunio dysgu ffurfiol, neu ddim o gwbl, mewn cyferbyniad â chynllunio strwythuredig mewn ysgolion. Bydd y gweithgareddau dysgu yn wahanol iawn i'r rhai a geir mewn ysgolion. Mae'n bosibl na fydd gwaith ysgrifenedig yn elfen mor amlwg o'r dysgu ag y mae mewn ysgolion. Mae hynny oherwydd ei bod yn bosibl bod dysgu un i un yn lleihau'r angen i ddefnyddio gwaith ysgrifenedig fel dull o fesur dealltwriaeth. Fodd bynnag, ni ddylid diystyru gwerth sgiliau ysgrifennu.
4.10 Er y byddai'n afrealistig barnu pa mor addas yw darpariaeth addysg yn y cartref o fewn ychydig ddiwrnodau o'r adeg y dechreuodd, dylai teuluoedd fod yn anelu at gynnig addysg foddhaol yn y cartref o'r cychwyn. Dylent fod wedi gwneud paratoadau i'r perwyl hwnnw. Mae cyfraith achosion yn nodi'r canlynol:
Essentially the duty of an education authority in carrying out that function is … simply to give the applicant a fair and reasonable opportunity to satisfy it as to the matters set out in the Regulation.
(R v Gwent County Council (1985))
4.11 Ni ddylai asesu addasrwydd addysg ymwneud â mesur cyrhaeddiad y plentyn neu roi profion iddo. Mae'n bosibl na fydd arferion a dulliau addysgu yn yr ysgol yn berthnasol i rai teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref. Gall darpariaeth addysg yn y cartref fod yn anghonfensiynol. Mae angen i awdurdodau lleol fod yn sicr y bydd yr addysg a ddarperir gan y rhieni yn peri i'r plentyn dderbyn addysg 'addas'. Dylai’r dystiolaeth a ddarperir gan y rhieni ddangos bod yr addysg sydd mewn gwirionedd yn cael ei darparu yn addas, yn hytrach nag yn ddatganiad o fwriad.
4.12 Nes i'r awdurdod lleol fod yn sicr bod y plentyn a addysgir yn y cartref yn derbyn addysg addas, mae'n bosibl y bydd y plentyn o fewn cwmpas dyletswydd adran 436A a bydd canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg yn gymwys.
4.13 Dylai awdurdodau lleol gofio nad yw'n ofynnol i addysgwyr yn y cartref:
- addysgu'r Cwricwlwm i Gymru
- dilyn amserlen
- bod â safle ac ynddo gyfarpar i safon benodol
- marcio gwaith a wneir gan eu plentyn
- pennu'r oriau y bydd yr addysg yn cael ei chynnal
- meddu ar unrhyw gymwysterau penodol
- cwmpasu'r un maes llafur ag unrhyw ysgol
- gwneud cynlluniau manwl ymlaen llaw
- cadw at oriau, diwrnodau neu dymhorau ysgol
- cynnal gwersi ffurfiol
- atgynhyrchu cymdeithasoli ymhlith grŵp cymheiriaid fel a geir mewn ysgol
- cydweddu â safonau ysgolion sy'n benodol i oedran
4.14 Fodd bynnag, os yw'r addysg yn y cartref yn cynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru neu safonau ysgolion annibynnol, gallai hyn fod yn arwydd bod yr addysg yn addas.
Nodweddion awgrymedig addysg addas ac effeithlon
4.15 Byddai addysg addas yn:
- ynnwys darpariaeth mewn sgiliau rhifedd, llythrennedd ac iaith
- addas i oedran, gallu a doniau'r plentyn
- addas i unrhyw AAA neu ADY a allai fod ganddo
Nid yw addysg addas yn ymwneud â dysgu academaidd yn unig. Dylai hefyd gynnwys cymdeithasoli. Mae hyn yn hanfodol er mwyn paratoi'r plentyn i gyfranogi a gweithredu mewn cymdeithas.
4.16 Dylai sgiliau llythrennedd ac iaith gyfateb i allu cyffredinol y plentyn (gan gynnwys unrhyw AAA neu ADY a all fod ganddo) a galluogi'r plentyn i wneud y canlynol:
- caffael sgiliau gwrando a siarad
- caffael sgiliau darllen sy'n cynnwys geirfa a dealltwriaeth
- caffael sgiliau ysgrifennu sy'n cynnwys gramadeg, atalnodi a sillafu
4.17 Dylai sgiliau rhifedd gyfateb i allu cyffredinol y plentyn (gan gynnwys unrhyw AAA neu ADY a all fod ganddo) ac adlewyrchu cam datblygu'r plentyn.
4.18 Wrth ystyried yr addysg a ddarperir gan rieni yn y cartref, dylai awdurdodau lleol ddisgwyl yn rhesymol iddi:
- gynnwys cyfraniad cyson y rhieni neu ofalwyr arwyddocaol eraill
- ymateb i anghenion a budd pennaf y plentyn
- ystyried meysydd dysgu sydd o ddiddordeb i'r plentyn
- cyfoethogi potensial y plentyn
- sicrhau bod y plentyn yn cael cyfleoedd i ymgysylltu ag ystod resymol o eang o brofiadau dysgu
- darparu cyfleoedd i’r plentyn ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol i'w helpu i'w paratoi ar gyfer bywyd diweddarach a dod yn ddinasyddion ymgysylltiol
- sicrhau bod y plentyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau sylfaenol (gan ystyried unrhyw AAA neu ADY sydd ganddo)
- cynnwys athroniaeth neu ethos lle y mae'r rhieni'n dangos ymrwymiad, brwdfrydedd a chydnabyddiaeth o anghenion, agweddau a dyheadau'r plentyn
- cynnwys cyfleoedd i'r plentyn gael ei ysgogi gan ei brofiadau dysgu
- cynnwys sbectrwm eang o gyfleoedd a gweithgareddau dysgu sy'n briodol i oedran y plentyn a'i gam datblygu
- cynnwys mynediad at adnoddau a deunyddiau priodol
- cynnwys cyfle i ddatblygu llythrennedd digidol
- cynnwys cyfle ar gyfer lefel briodol o weithgarwch corfforol a chwarae
- cynnwys cyfle i ryngweithio â phlant ac oedolion eraill
Asesu addasrwydd addysg
4.19 Mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn deall:
- cymhelliant rhieni
- sut mae amgylchiadau a' phrofiadau rhieni wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i addysgu yn y cartref
Bydd gan rieni sy'n addysgu yn y cartref resymau gwahanol dros beidio ag anfon eu plant i'r ysgol. Gall y rhesymau hyn newid dros amser. Mewn rhai achosion, bydd y rhesymau hyn yn gymhleth ac mae'n bosibl y byddant wedi cael effaith ddwys ar y teulu.
4.20 Felly, wrth wneud ymholiadau am yr addysg a ddarperir, dylai awdurdodau lleol:
- fod yn sensitif i amgylchiadau'r teulu
- ceisio deall pam y dewisodd y teulu addysgu yn y cartref
- edrych ar y ddarpariaeth fesul achos
Mae addysg yn y cartref yn unigryw i bob plentyn. Gall rhieni gynnig profiad sydd wedi ei deilwra'n unigol ar gyfer eu plentyn, sy'n addas i oedran, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw AAA neu ADY a all fod ganddo.
4.21 Er mwyn i awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod yr addysg a ddarperir gan y rhieni yn addas, dylai'r awdurdod lleol [6] weld y plentyn a chyfathrebu ag ef. Mater i’r awdurdod lleol yw penderfynu ym mhob set unigol o amgylchiadau a oes angen iddo gwrdd â’r plentyn. Mewn rhai achosion, bydd yn bosibl i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun ynghylch addasrwydd yr addysg ar sail y deunyddiau a ddarperir gan y rhiant, ar gais yr awdurdod lleol. Heb weld y plentyn a chyfathrebu ag ef, bydd yn anodd i awdurdod lleol asesu addasrwydd yr addysg yn rhesymol a gwybod a yw tystiolaeth am addasrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhiant yn ymwneud â'r plentyn hwnnw. Er enghraifft, p’un a ellir dweud yn rhesymol bod y dystiolaeth a roddir wedi ei gwneud gan y plentyn hwnnw neu am y plentyn hwnnw. Gallai gweld y plentyn a chyfathrebu ag ef yn rhoi cyfle i'r awdurdod lleol feithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y mae'r plentyn yn dysgu a pha feysydd dysgu y mae ganddo ddiddordeb ynddynt. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar rieni a phlant cymwys Gillick [7] gwrdd â'r awdurdod lleol ac maent yn rhydd i wrthod cyfarfod os byddant yn dymuno.
4.22 Yn yr achos hwnnw, bydd angen i’r awdurdod lleol benderfynu a yw wedi ei fodloni ynghylch addasrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhieni ar sail yr wybodaeth sydd ar gael. Pe bai’r awdurdod lleol yn penderfynu gwneud cais am gyfarfod â phlentyn ar y sail fod hynny’n angenrheidiol i wneud penderfyniad ynghylch addasrwydd, a’r cais hwnnw’n cael ei wrthod, mae’n bosibl na fyddai’r awdurdod lleol mewn sefyllfa i fod wedi ei fodloni bod yr addysg a ddarperir yn addas.
4.23 Gall fod achlysuron lle nad yw er budd gorau'r plentyn i'r awdurdod lleol gyfarfod ag ef, neu, o dan rai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol ddod i'r casgliad bod y plentyn yn derbyn addysg addas, heb ei weld na chyfathrebu ag ef. Lle deuir i gasgliad o'r fath, dylid pennu dyddiad priodol i adolygu'r penderfyniad, gan ystyried amgylchiadau unigol y plentyn.
4.24 Mae gan bob plentyn yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar ei fywyd a dylid rhoi pwysau dyledus i'w farn ynghylch addasrwydd ei addysg, yn unol â'i allu, fel y nodir yn Erthygl 12 o CCUHP [8]. Bydd hyn yn helpu'r awdurdod lleol i ystyried barn y plentyn mewn ffordd ystyrlon wrth ffurfio barn ar addasrwydd yr addysg.
4.25 Os bydd gwybodaeth a barn a ddarperir gan y plentyn yn bwrw amheuaeth ar addasrwydd yr addysg a ddarperir, yna dylai'r farn honno fod yn rhan o'r wybodaeth sy'n arwain at gasgliad yr awdurdod lleol nad yw'r addysg yn addas. Os yw'n glir nad yw plentyn yn dymuno cael ei addysgu yn y cartref er bod yr addysg a ddarperir yn foddhaol, dylai'r awdurdod lleol drafod y rhesymau dros hyn gyda'r rhieni a'u hannog i ystyried a yw addysg yn y cartref er budd pennaf y plentyn a hithau yn amlwg nad dyna ddymuniad y plentyn. Dylai'r awdurdod lleol helpu'r teulu i ddod i farn gyffredin ar yr hyn sydd orau, er enghraifft, drwy gyfeirio neu gynnig gwasanaethau cyfryngu teuluol iddynt.
4.26 Mae gweld y plentyn i drafod ei ddarpariaeth addysg yn cydweddu â nifer o erthyglau yn CCUHP fel hawl y plentyn i addysg ac i wireddu ei botensial. Mae hyn yn cynnwys ei hawl i:
- fynegi ei farn
- cael gwybodaeth briodol er mwyn gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth
- cael cymorth a darpariaeth
- chwarae ac i wneud gweithgareddau hamdden
- cael ei gadw'n ddiogel
4.27 Nid oes rhaid i gyfarfod o'r fath gael ei gynnal yn y cartref, gellir ei gynnal mewn lleoliad y cytunir arno gan y ddau barti. Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i awdurdodau lleol drafod yr addysg a ddarperir ac unrhyw gymorth y gall fod ei angen ar y teulu. Byddant hefyd yn rhoi cyfle i'r awdurdod lleol feithrin perthynas gadarnhaol â theuluoedd a chaniatáu i blant a addysgir yn y cartref rannu eu barn ar yr addysg y maent yn ei derbyn.
4.28 Dylid defnyddio dulliau eraill yn ogystal â'r cyfarfod, er mwyn sicrhau'r awdurdod lleol bod yr addysg yn addas. Gallai awdurdod lleol, pe bai o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, anfon holiadur cyn cyfarfod â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref i’r rhieni, a’r plant pan fo’n briodol, ei lenwi gyda’i gilydd. Bydd hyn yn rhan o ddull mwy cyfannol o asesu addasrwydd addysg. Gall yr awdurdod lleol ddefnyddio'r ymateb i'r holiadur i lywio ei drafodaeth gyda'r rhieni sy'n addysgu yn y cartref a'u plant.
4.29 Fel rhan o'r cyfarfodydd hyn, dylai'r awdurdod lleol ofyn am gael gweld enghreifftiau o ddysgu, er mwyn pennu addasrwydd yr addysg a ddarperir. Gellir gofyn am waith sydd wedi ei gwblhau a gwaith sydd ar y gweill o safonau amrywiol, a'i drafod gyda'r rhieni a'r plentyn er mwyn dysgu am brofiad dysgu'r plentyn. Mae hyn oll yn adlewyrchu'r dysgu a'r cynnydd a wneir gan y plentyn.
4.30 Byddai'n anodd pennu bod addysg yn ddigon addas o un neu ddwy enghraifft o waith. Byddai angen i awdurdodau lleol gadw mewn cof y bydd gan rieni wybodaeth fanwl am y cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud. Dylid ceisio eu barn ar y cynnydd a wneir gan eu plentyn, a rhoi pwysau digonol ar y farn honno wrth asesu addasrwydd yr addysg. Dylid hefyd geisio barn y plentyn am ei addysg, a dylai awdurdodau lleol roi pwysau priodol i'r farn honno wrth iddynt bwyso a mesur.
4.31 Mae'n bosibl y bydd awdurdodau lleol am drafod y canlynol gyda rhieni:
- y prif feysydd dysgu y mae'r rhieni yn darparu ar eu cyfer
- pa egwyddor neu athroniaeth sy'n ategu'r dysgu
- pa ystyriaeth a roddwyd i anghenion dysgu'r plentyn, a sut y caiff yr anghenion hyn eu diwallu dros amser
- y dull a ddefnyddir, megis dysgu ymreolaethol neu strwythuredig neu led-strwythuredig
Plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
4.32 Mae plant ag AAA neu ADY yn ei chael hi'n llawer anos i ddysgu na'r rhan fwyaf o blant o'r un oed â nhw, ac mae'n bosibl y byddant yn wynebu rhwystrau i ddysgu. Mae'n bosibl felly, y byddant yn:
- cymryd mwy o amser i brosesu gwybodaeth a datblygu sgiliau newydd
- ei chael hi'n anodd rhyngweithio â phobl eraill
Gall yr AAA a’r ADY amrywio'n sylweddol o ran y math a'r lefel. Er enghraifft, efallai y bydd gan rai plant anawsterau dysgu penodol sydd ond yn effeithio ar un neu ddau faes dysgu. Gall y meysydd hwn gynnwys:
- darllen
- ysgrifennu
- deall yr hyn a ddywedir wrthynt
Ond efallai y bydd gan eraill anawsterau dysgu dwys a lluosog sy'n effeithio ar eu lefel o annibyniaeth bersonol. Ar gyfer y dysgwyr hyn, mae'r cynnydd a wneir yn debygol o gael ei wneud mewn camau bach iawn ac mewn ffyrdd cynnil.
4.33 Mae'n bosibl y bydd angen ffurfiau ychwanegol o gymorth ar ddysgwyr er mwyn gwneud cynnydd yn eu haddysg neu gyfleu eu barn. Gallai’r cymorth hwn gynnwys eu hatgyfeirio neu’u cyfeirio at wasanaethau eraill. Mae disgwyl i awdurdodau lleol ystyried hyn ymlaen llaw mewn modd rhagweithiol wrth gynllunio i gyfarfod â theulu er mwyn trafod addysg plentyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i unrhyw addasiadau angenrheidiol neu gymorth gael eu trefnu er mwyn caniatáu i'r plentyn gymryd rhan yn y trafodaethau am ei addysg. I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, cyfeiriwch at y Cod AAA a'r Cod ADY.
Beth yw cais rhesymol am dystiolaeth o addysg addas?
4.34 Mae cynsail cyfreithiol wedi pennu y gall awdurdodau lleol wneud ymholiadau anffurfiol i rieni er mwyn cael manylion y ddarpariaeth addysgol a wneir ar gyfer eu plentyn. Mae cyfraith achosion wedi nodi:
It is not in the interests of parents or of the local authority (discharging its public interest duty) to construe the legislation in such a way that the local authority becomes satisfied of relevant matters only after a [notice to satisfy under section 437(1) of the Education Act 1996] (NTS) has been served…..it is plain that a parent who receives an informal inquiry at this stage needs to respond to it in a meaningful way, if he or she is to avoid the necessity of responding to an NTS."
Goodred v Portsmouth City Council 16, Tachwedd 2021 [2021] EWHC 3057 (Gweinyddol)
Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd rhwng teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref ac awdurdodau lleol
4.35 Dylai amlder y cyfarfodydd â theuluoedd sy’n addysgu yn y cartref fod yn gymesur ac yn seiliedig ar amgylchiadau unigol pob plentyn. Dylid cynnal cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau y cynhelir addasrwydd yr addysg ac yr ystyrir bod y plentyn yn gwneud cynnydd addas.
4.36 Os oes gan yr awdurdod lleol bryderon am addasrwydd addysg, bydd angen iddo ystyried gweld y teulu yn amlach er mwyn ei fodloni ei hun bod y plentyn yn derbyn addysg addas. Mae'n bosibl y bydd angen i'r awdurdod lleol gysylltu â phartneriaid perthnasol eraill yr awdurdod lleol, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r plentyn, wrth benderfynu pa mor aml y dylid cyfarfod â'r teulu.
4.37 Mae'n bosibl y bydd angen help neu gefnogaeth ychwanegol ar rai rhieni er mwyn darparu addysg addas. Disgwylir i'r awdurdod lleol wneud pob ymdrech resymol i roi help neu gefnogaeth i'r teulu. Gall hyn gynnwys rhoi gwybodaeth i rieni am wasanaethau ataliol a, pan fo'n briodol, sicrhau cydsyniad rhieni am atgyfeiriad i'r gwasanaethau ataliol hynny sydd ar gael yn lleol. Cynnig yw hwn, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y rhieni i dderbyn y cymorth.
4.38 Dylai'r awdurdod lleol fod yn rhesymol ac yn hyblyg wrth drefnu'r cyfarfodydd hyn. Fodd bynnag, os nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon ar y canlynol:
- (a) bod rhesymau didwyll dros wrthod y cyfarfod. neu
- (b) os yw'r teulu wedi canslo cyfarfodydd droeon neu heb ddod i gyfarfod, neu
- (c) mae teulu wedi gwrthod caniatáu i'w plentyn gymryd rhan mewn cyfarfodydd heb reswm da
yna bydd angen iddo ystyried a oes modd iddo ddod i'r casgliad bod plentyn yn derbyn addysg addas (gweler adran 4.21).
4.39 Pan na fo modd i’r awdurdod lleol ddod i'r casgliad bod plentyn yn derbyn addysg addas, rhaid iddo weithredu yn unol â'r gyfraith fel yr amlinellir yn adran 5.
Adroddiad ysgrifenedig yn dilyn cyfarfod â'r teulu sy'n addysgu yn y cartref
4.40 Dylai'r awdurdod lleol baratoi adroddiad heb fod yn hwyrach na 10 diwrnod [9] ar ôl cyfarfod â'r teulu. Dylai'r adroddiad amlinellu:
- a yw'r ddarpariaeth yn addas neu'n anaddas
- y rhesymau dros yr asesiad o'r ddarpariaeth honno
Mae'n bosibl y bydd yn ddefnyddiol i'r awdurdod lleol ystyried y canlynol wrth benderfynu a yw'r plentyn yn derbyn addysg addas:
- agweddau llwyddiannus ar y ddarpariaeth
- agweddau llai llwyddiannus ar y ddarpariaeth
- i ba raddau y mae'r ddarpariaeth yn diwallu anghenion y plentyn
- barn y plentyn (pan fo wedi’i darparu) ar ei addysg
- i ba raddau y mae'r ddarpariaeth yn debygol o ddiwallu'r gofyniad am addysg 'addas’
- a oes modd gwneud penderfyniad o ran a yw'r ddarpariaeth a ddarperir yn addysg 'addas’
- a oes digon o dystiolaeth i gefnogi eich barn
4.41 Ymhlith y nodweddion eraill y gallai’r adroddiad eu cynnwys mae:
- unrhyw gamau gweithredu dilynol ar gyfer yr awdurdod lleol a (neu'r) rhiant
- a yw'r angen am help ychwanegol neu gefnogaeth wedi ei nodi, yr hyn y bydd yr awdurdod lleol yn ei wneud er mwyn helpu i hwyluso hynny, yn ogystal â’r amserlenni
- nodi pryd y dylai'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal
- unrhyw bryderon neu faterion a godwyd gan y teulu
- unrhyw geisiadau am help neu wybodaeth a wnaed gan y teulu
- a oes angen atgyfeirio i asiantaethau eraill neu wasanaethau cymorth
- cyfleoedd ar gyfer cymorth ychwanegol
4.42 Dylid rhoi cyfle i rieni drafod yr adroddiad gyda'r awdurdod lleol ac i gywiro unrhyw wallau ffeithiol yn ddi-oed.
Gorchmynion mynychu'r ysgol a gorchmynion goruchwylio addysg
Gorchmynion mynychu'r ysgol
5.1 Bydd gorchmynion mynychu'r ysgol yn gymwys pan fydd y ddau beth isod yn berthnasol:
- mae rhiant plentyn o oedran addysg gorfodol yn methu â bodloni'r awdurdod lleol bod y plentyn yn derbyn addysg addas
- mae’r awdurdod lleol o'r farn y dylai'r plentyn fynychu'r ysgol
5.2 Pan na fo’n glir bod plentyn yn derbyn addysg addas (gweler adran 4), dylai'r awdurdod lleol geisio eglurder ar y mater drwy ymholiadau a chyswllt anffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle nad oes unrhyw wybodaeth o gwbl ar gael. Mae dyletswydd awdurdod o dan adran 436A o Deddf Addysg 1996 (a'r ddyletswydd o dan adran 437) yn sail ddigonol ar gyfer ymholiadau anffurfiol. Ar ben hynny, mae adran 436A yn creu dyletswydd i fabwysiadu system ar gyfer gwneud ymholiadau o'r fath.
5.3 Y dull mwyaf amlwg o weithredu yw i awdurdodau lleol gyfarfod â'r rhieni a'r plentyn a addysgir yn y cartref i drafod yr addysg a ddarperir i'r plentyn. Os bydd diffyg gwybodaeth sy'n awgrymu bod plentyn yn cael addysg addas, ac os yw'r rhieni'n gwrthod ateb am reswm nad yw'n gysylltiedig â'r addysg, yr unig gasgliad y mae'n rhesymol i'r awdurdod lleol ddod iddo yw ei bod yn ymddangos nad yw'r addysg yn y cartref yn addas.
5.4 Mae adran 437(1) o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol weithredu os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas:
If it appears to a local authority that a child of compulsory school age in their area is not receiving suitable education, either by regular attendance at school or otherwise, they shall serve a notice in writing on the parent requiring him to satisfy them within the period specified in the notice that the child is receiving such education.
5.5 Yn dilyn cyfnod heb fod yn llai na 15 diwrnod yn dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad, os bydd rhiant yn methu â sicrhau awdurdod lleol bod plentyn yn cael addysg addas, a'i bod yn hwylus i'r plentyn fynychu'r ysgol ym marn yr awdurdod lleol, yna rhaid i'r awdurdod, yn unol â'r cyfarwyddyd yn adran 437(3), ddyroddi gorchymyn mynychu'r ysgol.
5.6 Mae adran 437(3) yn cyfeirio at gyflwyno gorchmynion mynychu'r ysgol:
If (a) parent on whom a notice has been served under subsection (1) fails to satisfy the local authority, within the period specified in the notice, that the child is receiving suitable education, and
(b) in the opinion of the authority it is expedient that the child should attend school, the authority shall serve on the parent an order (referred to in this Act as a ‘school attendance order’), in such form as may be prescribed, requiring him to cause the child to become a registered pupil at a school named in the order.
5.7 Pan fo ysgol a gynhelir wedi ei henwi mewn gorchymyn mynychu'r ysgol, rhaid i'r awdurdod lleol roi gwybod i gorff llywodraethu a phennaeth yr ysgol honno (Deddf Addysg 1996).
5.8 Pan fo ysgol a gynhelir wedi ei henwi mewn gorchymyn mynychu'r ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu a'r awdurdod lleol (yn achos ysgol a gynhelir) dderbyn y plentyn i'r ysgol.
5.9 Byddai rhaid bod amgylchiadau eithriadol er mwyn i awdurdodau lleol gyfiawnhau peidio â chreu gorchymyn mynychu'r ysgol, er enghraifft:
- os yw'r plentyn o fewn ychydig wythnosau i beidio â bod o oedran ysgol gorfodol mwyach
- os oes gan y plentyn anghenion corfforol, meddygol neu addysgol sy'n achosi iddo fod yn agored iawn i niwed mewn lleoliad ysgol, dylai'r awdurdod lleol ystyried dewisiadau amgen fel cael tiwtor a ddarperir gan yr awdurdod ei hun
- os yw'r rhiant wrthi'n gweithio gyda'r awdurdod i wella'r addysg yn y cartref a'i bod yn edrych yn debygol y bydd yn sicrhau addasrwydd o fewn cyfnod byr
Anghenion addysgol arbennig
5.10 Pan fo gan blentyn ddatganiad AAA, yna o dan adran 441 o Ddeddf Addysg 1996 os:
- bydd y datganiad yn enwi ysgol benodol, caiff yr ysgol honno ei henwi yn y gorchymyn
- nad yw'r datganiad yn enwi ysgol benodol, bydd yr awdurdod lleol yn diwygio'r datganiad fel ei fod yn enwi ysgol benodol, ac yna caiff yr ysgol honno ei henwi yn y gorchymyn
- bydd gorchymyn mynychu'r ysgol ar waith mewn perthynas â phlentyn y mae'r awdurdod lleol yn cynnal datganiad ar ei gyfer a bod enw'r ysgol a nodir yn y datganiad yn newid, bydd yr awdurdod lleol yn newid y gorchymyn yn unol â hynny
ADY
5.11 Pan fo gan blentyn CDU, yn unol ag adran 441A o Ddeddf Addysg 1996 os:
- bydd y CDU yn enwi'r ysgol, rhaid i'r ysgol honno gael ei henwi yn y gorchymyn
- bydd y CDU yn enwi ysgol benodol, a bydd yr awdurdod lleol yn newid y CDU i enwi ysgol arall, yna rhaid diwygio'r gorchymyn mynychu’r ysgol hefyd yn unol â hynny
- bydd gorchymyn mynychu'r ysgol mewn grym ar gyfer plentyn na chynhelir CDU ar ei gyfer lle caiff ysgol benodol ei henwi, a bod CDU lle caiff ysgol benodol ei henwi yn dechrau cael ei gynnal ar gyfer y plentyn, yna rhaid i'r awdurdod lleol ddiwygio'r gorchymyn yn unol â hynny.
Ar ôl i orchymyn mynychu'r ysgol gael ei gyflwyno
5.12 Ar ôl i orchymyn mynychu'r ysgol gael ei ddyroddi, caiff rhieni gyflwyno tystiolaeth i'r awdurdod lleol i ddangos eu bod bellach wedi gwneud trefniadau boddhaol ar gyfer addysg y plentyn a gwneud cais i ddirymu'r gorchymyn. Dylai'r awdurdod lleol gyfeirio at baragraffau 4.21 i 4.30 (‘Asesu addasrwydd addysg’) yn y canllawiau hyn wrth ystyried y dystiolaeth.
5.13 Ar ôl ystyried y dystiolaeth, os bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod y rhieni wedi gwneud trefniadau addysg boddhaol, rhaid dirymu'r gorchymyn.
5.14 Ni waeth a yw'r rhieni wedi gwneud cais am ddirymiad ai peidio, os nad yw'r rhieni'n sicrhau bod y plentyn yn mynychu'r ysgol, dylai'r awdurdod ystyried erlyn. Dylai’r awdurdod lleol fwrw ymlaen â hyn oni bai bod rheswm da iawn dros beidio â gwneud hynny. O dan adran 447(1) o Ddeddf 1996, rhaid i awdurdod lleol sy'n ystyried erlyn rhiant am fethu â chydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol ystyried gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg yn unol â pharagraff 5.19, a hynny naill ai fel cam gweithredu amgen yn lle erlyn, neu fel cam gweithredu yn ogystal ag erlyn.
5.15 Os bydd yr awdurdod lleol yn erlyn y rhieni am beidio â chydymffurfio â'r gorchymyn, mater i'r llys fydd penderfynu a yw'r addysg a ddarperir yn addas, yn addysg amser llawn ac yn effeithlon ai peidio. Os bydd y llys wedi’i fodloni bod y rhiant yn cyflawni’r gofyniad i ddarparu addysg addas, gall y llys gyfarwyddo i'r gorchymyn beidio â bod mewn grym.
Bydd gorchymyn mynychu'r ysgol yn parhau mewn grym tra bod y plentyn o oedran ysgol gorfodol oni bai:
- y caiff ei ddirymu gan yr awdurdod lleol
- mewn proses erlyn, bydd y llys yn rhoi cyfarwyddyd i'r gorchymyn mynychu'r ysgol beidio â bod mewn grym
- gwnaed cais llwyddiannus i'r llys i gyfarwyddo ei fod yn peidio â bod yn gymwys mwyach
5.16 Pan na fo rhieni wedi cydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol, dylai awdurdodau lleol gadw mewn cof eu cyfrifoldebau cyhoeddus fel erlynwyr. Os bydd awdurdodau lleol yn gyndyn o erlyn am resymau yn ymwneud â chostau, mae'n bosibl y byddant am geisio cyngor cyfreithiol ar y posibilrwydd o sicrhau gorchymyn costau yn erbyn diffynnydd llwyddiannus ar y sail y byddai'r erlyniad wedi bod yn ddiangen oni bai am ymddygiad afresymol y diffynyddion.
5.17 Mae'n bwysig nodi mai dim ond unwaith y cyflawnir y drosedd o beidio â chydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol penodol. Felly, os nad yw rhieni yn cydymffurfio â'r gorchymyn ar ôl erlyniad, rhaid cynnal y broses o gyflwyno hysbysiad eto. Mae hyn yn golygu y gall rhiant sy'n fodlon ac yn gallu cael ei ddirwyo dro ar ôl tro barhau i ddarparu addysg anfoddhaol yn y cartref yn ddi-ben-draw. Goblygiad hyn yw y bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried defnyddio pwerau heblaw deddf addysg. Gweler adran 5.18 ymlaen ar orchmynion goruchwylio addysg ac adran 7 ar ddiogelu.
Gorchmynion goruchwylio addysg
5.18 Mae gan awdurdodau lleol rôl oruchwylio ffurfiol mewn cysylltiad ag addysg plant sy'n ddarostyngedig i orchymyn goruchwylio addysg o dan adran 36 o Ddeddf Plant 1989. Gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg yn aml fydd yr ymateb cymesur pan na fydd rhieni'n cydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol.
5.19 O dan adran 447 o Ddeddf Addysg 1996 rhaid i awdurdod lleol ystyried gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg cyn penderfynu erlyn rhieni am bresenoldeb gwael yn yr ysgol neu am fethu â chydymffurfio â gorchymyn mynychu'r ysgol. Gall awdurdod lleol wneud cais am orchymyn goruchwylio addysg yn lle erlyn y rhieni, neu yn ogystal â gwneud hynny. Os bydd yr awdurdod lleol yn dewis peidio â gwneud cais am orchymyn goruchwylio addysg, dylai gofnodi neu ddarparu tystiolaeth o'i ystyriaethau a'r rhesymau dros ystyried nad oedd u gorchymyn goruchwylio addysg yn briodol.
5.20 O dan Ddeddf Plant 1989 mae gorchymyn goruchwylio addysg yn rhoi'r cyfrifoldeb dros gynghori, cynorthwyo a chyfeillio a rhoi ‘cyfarwyddiadau’ i'r plentyn a gaiff ei oruchwylio a'i rieni i'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ffordd briodol.
5.21 Wrth bennu telerau unrhyw gyfarwyddiadau o'r fath, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i roi ‘ystyriaeth ddyledus’ i ‘ddymuniadau a theimladau’ y plentyn (rhoi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn) a rhieni'r plentyn. Gall hyn arwain at addysg well yn y cartref, fodd bynnag, mae gorchymyn goruchwylio addysg yn rhoi dyletswydd ar rieni i ganiatáu i'r awdurdod lleol gael cyswllt rhesymol â'r plentyn. Pan fo gorchymyn goruchwylio addysg mewn grym, mae nifer o oblygiadau i'r rhieni a'r plentyn. Caiff dyletswyddau rhieni o dan adrannau 7 a 444 o Ddeddf Addysg 1996 eu disodli gan eu dyletswydd i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau sydd mewn grym o dan y gorchymyn goruchwylio addysg.
5.22 Mae methiant parhaus i gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir o dan orchymyn goruchwylio addysg yn drosedd oni all y rhiant ddangos ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio, neu fod y cyfarwyddyd yn afresymol. Mae dirwy am y drosedd “ ‘not exceeding level 3 on the standard’ scale” fesul rhiant am bob plentyn nad yw'n derbyn addysg addas (adran 122).
Cymhwyso
5.23 Gellir defnyddio gorchymyn goruchwylio addysg i sicrhau bod plentyn yn derbyn addysg amser llawn sy'n addas ar gyfer:
- ei oedran
- ei allu a’i ddoniau
- unrhyw AAA neu ADY sydd ganddo
a bod y rhiant a'r plentyn yn cael digon o gymorth ac arweiniad.
5.24 Fel arfer, bydd gorchymyn goruchwylio addysg yn peidio â bod mewn grym:
- ar ôl blwyddyn
- pan fydd plentyn dros oedran ysgol gorfodol
- pan wneir gorchymyn gofal mewn perthynas â'r plentyn
- pan gaiff ei ryddhau gan y llys yn dilyn cais gan y plentyn, un o rieni'r plentyn neu'r awdurdod lleol
5.25 Ar gais yr awdurdod lleol, gall llys ymestyn gorchymyn goruchwylio addysg cyn iddo ddod i ben fel arall am hyd at 3 blynedd, os tybir bod hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod addysg y plentyn yn parhau i ddatblygu. Ni ddylid gwneud cais o'r fath cyn pen 3 mis cyn i'r gorchymyn goruchwylio addysg ddod i ben. Ni chaiff llysoedd greu gorchymyn goruchwylio addysg os yw’r plentyn eisoes yng ngofal yr awdurdod lleol.
Y broses
5.26 Mae ‘gorchymyn goruchwylio addysg’ yn fater ‘achos teulu’ fel y'i diffinnir yn Neddf Plant 1989, sy'n ystyried mai llesiant y plentyn yw'r pryder pennaf.
5.27 Wrth wneud cais am orchymyn goruchwylio addysg, dylai awdurdodau lleol ddarparu adroddiad ar y plentyn i'r llys, a ddylai gynnwys:
- manylion perthnasol am amgylchiadau'r plentyn, gan gynnwys, oedran, rhywedd, cefndir ac unrhyw anghenion corfforol, emosiynol neu addysgol penodol (gan gynnwys unrhyw AAA neu ADY a all fod gan y plentyn)
- asesiad o'r rhesymau dros bresenoldeb gwael y plentyn
- asesiad meddygol, os yw'n berthnasol
- awgrym o agweddau'r plentyn, y rhiant, yr ysgol ac asiantaethau eraill tuag at y presenoldeb gwael
- disgrifiad byr o effaith y gwaith a wnaed eisoes
- y rhesymau dros wneud cais am orchymyn goruchwylio addysg ac asesiad o'r ffordd y gallai'r plentyn fod dan anfantais os na chrëir gorchymyn goruchwylio addysg
- amlinelliad o'r ymyrraeth arfaethedig, gan gynnwys targedau ar gyfer amseru a monitro
- y rhaglen o'r gwaith y bwriedir ei wneud, gan awgrymu rôl y plentyn, y rhieni a'r ysgol, a chydag awgrym o sut y mae'r awdurdod lleol o'r farn y bydd yn helpu i ddatrys y broblem a sicrhau bod y plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd
Rhaid i'r llys hefyd ystyried anghenion llesiant y plentyn (rhoddir rhestr o'r rhain yn adran 1(3) o Ddeddf Plant 1989), a bydd angen ceisio dymuniadau a theimladau'r plentyn a'u hystyried.
Dylai gorchymyn goruchwylio addysg gael ei adolygu'n rheolaidd, drwy drafodaeth rhwng y swyddogion goruchwylio a'u rheolwyr.
Cymorth i blant a addysgir yn y cartref
6.1 Rhaid i rieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i ysgwyddo cyfrifoldeb ariannol llawn am hynny. Bydd hyn yn cynnwys cost unrhyw arholiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, anogir awdurdodau lleol i gynnig cymorth pan fydd adnoddau'n caniatáu.
6.2 Disgwylir i awdurdodau lleol helpu rhieni sy'n addysgu yn y cartref. Dylent gydnabod y gall rhieni sy'n addysgu yn y cartref fabwysiadu ystod eang ac amrywiol o ddulliau o addysgu yn y cartref, a defnyddio amrywiaeth o athroniaethau a dulliau. Dylai awdurdodau lleol, pan fo'n bosibl, hyrwyddo mynediad at gyfleoedd dysgu sydd ar gael i bob plentyn yn eu hardaloedd.
6.3 Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i gytuno ar becyn ehangach o gymorth, a fydd yn sicrhau cynnig cyson gan awdurdodau lleol i deuluoedd sy’n addysgu yn cartref a'u plant.
Gwybodaeth glir
6.4 Dylai awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig glir a chywir am eu polisïau addysg yn y cartref ar eu gwefannau. Dylai hynny fod ar dudalen benodol ar gyfer addysg yn y cartref. Dylai gynnwys manylion cyswllt sefydliadau cymorth addysg yn y cartref pan fo’r rheini ar gael.
6.5 Dylai awdurdodau lleol rhoi enw swyddog cyswllt yn yr awdurdod i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, neu sy'n ystyried gwneud hynny. Dylai'r swyddog hwnnw:
- fod yn gyfarwydd â pholisi ac ymarfer addysg yn y cartref
- deall yr amrywiaeth o athroniaethau addysgol
- bod â dolen at y Llawlyfr i Addysgwyr yn y Cartref gan Lywodraeth Cymru, neu gopi ohono
6.6 Dylai awdurdodau lleol, cyn belled ag y bo'n ymarferol, sicrhau bod staff a allai fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhiant sy'n ystyried addysg yn y cartref, (er enghraifft, staff sy’n ateb ymholiadau ffôn), yn deall hawl rhiant i ddewis addysg yn y cartref.
Cymorth ymarferol ac adnoddau
6.7 Ymhlith rhai o'r ffyrdd y gallai awdurdodau lleol ddewis cefnogi teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, mae'r canlynol:
- datblygu tudalen ar wefan yr awdurdod lleol sydd wedi ei hanelu'n benodol at addysg yn y cartref
- darparu cyngor cyffredinol
- hwyluso mynediad i unrhyw gyfraddau gostyngol am ddeunyddiau addysgol
- rhoi gwybod i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref am unrhyw brosiectau y gallai plant a addysgir yn y cartref gael mynediad atynt yn rhesymol
- rhoi mynediad i gyfleusterau cymunedol a chwaraeon y mae'r awdurdod lleol yn berchen arnynt yn yr un modd ag i blant ysgol
- cynnal digwyddiadau gwybodaeth ac ymgysylltu ar y cyd â gwasanaethau a sefydliadau eraill fel Gyrfa Cymru a’r gwasanaethau ieuenctid
- cytuno i roi'r pecyn llawn o gymorth ar waith sy’n cynnwys:
- cyfle i sefyll arholiadau mewn canolfan arholi a nodir
- mynediad i wasanaethau cwnsela awdurdod lleol
- mynediad i wasanaethau Gyrfa Cymru
- cyngor ADY yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2021
- mynediad i CADW
- mynediad i arlwy’r awdurdod lleol o gymorth i blant a addysgir yn y cartref a ddatblygwyd gan ddefnyddio unrhyw gyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref
- hwyluso mynediad i Hwb lle y bo modd
Gwasanaethau ieuenctid
6.8 Dylai plant a addysgir yn y cartref gael mynediad i'r amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth sydd ar gael, fel cyngor gyrfaoedd a gwasanaethau cymorth ieuenctid. Mewn llawer o achosion, mae darpariaeth o'r fath ar gael yn rhad ac am ddim ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu anffurfiol ac achrededig yn aml i blant, yn ogystal â mynediad i gymorth a all gyfoethogi eu dysgu a'u lles.
6.9 Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid sy'n cynnig cyfleoedd dysgu i blant a phobl ifanc 11 i 25 oed. Mae hyn o ganlyniad i'r cyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru i awdurdodau lleol yn 2002 i ddarparu a sicrhau darpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid, neu gyfranogi ynddi drwy adran 123(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Diffinnir gwasanaethau cymorth ieuenctid fel gwasanaethau a fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn annog, galluogi neu gynorthwyo pobl ifanc (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i wneud y canlynol:
- cymryd rhan yn effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant
- manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth
- gymryd rhan mewn ffordd effeithiol a chyfrifol ym mywydau eu cymunedau
6.10 Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu, i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, becynnau gwybodaeth sy’n cynnwys cysylltiadau i wasanaethau cymorth ieuenctid. Mae eraill yn hyrwyddo mynediad at wasanaethau cymorth addysg arbenigol fel seicolegwyr addysg a'r gwasanaeth nyrsio i blant oedran ysgol (y mae hawl gan bob plentyn o oedran ysgol iddo). Argymhellir bod gan staff yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ymgysylltu â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref wybodaeth gyfredol am yr holl wasanaethau o'r fath yn eu hardal. Bydd hyn yn eu galluogi i gynghori teuluoedd ar ddarpariaeth a allai gyfoethogi profiad addysgol plant a addysgir yn y cartref. Dylai'r rhain gynnwys rhwydweithiau lleol, ee fforymau ieuenctid a ffynonellau eraill o gyngor a chymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc.
6.11 Ochr yn ochr â'r gwasanaethau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith ieuenctid y maent yn ei gynnig i bobl ifanc. Nod gwaith ieuenctid yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn ffordd gyfannol, gan hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol. Drwy hyn, mae'n ceisio eu helpu i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas ac i gyflawni eu potensial llawn.
6.12 Darperir cyllid hefyd i gefnogi'r gwaith o gyflenwi'r Fframwaith ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid. Mae'r Fframwaith yn chwarae rôl bwysig wrth weithredu dulliau gweithredu effeithiol o gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu sy'n wynebu'r risg o ddod yn NEET. Mae'n cynnig dull systematig o:
- adnabod y rheini sydd angen cymorth
- pennu pa gymorth sydd ar gael
- olrhain cynnydd pobl ifanc wrth iddynt drosglwyddo o addysg i addysg bellach neu gyflogaeth
Mae'n gofyn am ddull amlasiantaeth o weithio er mwyn osgoi dyblygu a'r perygl y caiff pobl ifanc eu pasio o un sefydliad i'r llall yn ddiangen. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi'r Fframwaith ar waith.
6.13 Mae gan bob awdurdod lleol fforwm ieuenctid. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth am eu fforymau ar gael i addysgwyr yn y cartref. Mae'r fforymau'n rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn eu cymuned leol, ac i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc lle y maent yn byw. Mae pob fforwm yng Nghymru yn gweithio mewn ffordd wahanol. Fodd bynnag, y bobl ifanc sydd bob amser yn adnabod y materion, ac yna'n ymgyrchu dros newid. Mae gan rai ardaloedd fforymau plant hefyd.
Astudiaeth achos 1: Blaenau Gwent
Ym Mlaenau Gwent, mae'r gwasanaeth cynhwysiant yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth ieuenctid i gynnig cymorth i bobl ifanc a addysgir yn y cartref, yn enwedig y rhai o oed Blwyddyn 11. Gall pobl ifanc a addysgir yn y cartref yn y grŵp oedran Blwyddyn 7 i 10 gael gafael ar gwnsela a chymorth gwaith ieuenctid mwy cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at weithgareddau grwpiau cymdeithasol a chyfleoedd dysgu. I ddysgwyr ym Mlwyddyn 11, mae'r gweithwyr ieuenctid yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer trosglwyddo, sy’n gallu helpu gyda:
- chyfleoedd profiad gwaith
- ymweliadau â cholegau
- darparwyr hyfforddiant
- helpu i gysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau eraill, gan gynnwys Gyrfa Cymru
Maent hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu eu hyder, eu hunan-barch a'u sgiliau cymdeithasol, drwy:
- waith grŵp
- cymorth unigol
- gweithgareddau ymarferol fel gwneud yn siŵr bod ganddynt gyfrif banc
Mynediad i arholiadau
6.14 Rhieni sy'n gyfrifol am gostau unrhyw arholiadau. Rhaid i arholiadau gael eu sefyll mewn canolfan arholi gymeradwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i roi mynediad i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref i arholiadau CBAC mewn canolfan arholi a nodir. Cyfrifoldeb yr addysgwr yn y cartref fydd cysylltu â'r awdurdod lleol a holi ynghylch y ffordd benodol iawn y byddant yn ymdrin ag ymgeiswyr preifat.
6.15 Mae pob awdurdod lleol wedi cytuno i dderbyn ymgeiswyr annibynnol o deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref mewn canolfan arholi a nodir. Dylai colegau addysg bellach hefyd gael eu hannog i agor eu cyfleusterau i blant a addysgir yn y cartref ar gyfer arholiadau.
6.16 Dylai awdurdodau lleol, lle y bo'n bosibl, gyfeirio teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref at ysgolion a chanolfannau sy'n caniatáu i fyfyrwyr allanol sefyll arholiadau. Anogir swyddogion addysg yn y cartref i weithio gyda darparwyr canolfannau arholi a nodir yn eu hawdurdod lleol i ddarparu ar gyfer plant a addysgir yn y cartref lle y bo'n bosibl.
Astudiaeth achos 2: Rhondda Cynon Taf
Ymgynghorir â rhieni sy'n addysgu plant 14 i 16 oed yn y cartref ar yr ystod o gymwysterau yr oedd ganddynt ddiddordeb yn eu holrhain a beth a all fod yn ymarferol o safbwynt gweinyddol y gwasanaeth addysg heblaw yn yr ysgol. Cynhelir boreau coffi misol ar y cyd rhwng addysgwyr yn y cartref a rhieni plant sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol. Mae gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o asiantaethau, gan gynnwys seicoleg addysg, cwnsela, Gyrfa Cymru, colegau a hyfforddiant porth yn dod i'r boreau coffi hefyd er mwyn rhoi cyngor.
Astudiaeth achos 3: Sir Fynwy
Nododd Sir Fynwy y gwasanaeth cyfeirio disgyblion fel canolfan a allai gael ei defnyddio ar gyfer ymgeiswyr arholiadau allanol. Ymgysylltodd swyddogion addysg yn y cartref â rhieni dysgwyr Blwyddyn 11 yn y gymuned addysg yn y cartref i gynnig y cyfle i ddysgwyr sefyll arholiadau yn y gwasanaeth cyfeirio disgyblion. Cafodd gwaith asesu nad oedd yn cael ei arholi ei farcio hefyd gan athrawon y gwasanaeth cyfeirio disgyblion. Cofrestrodd cydlynydd y gwasanaeth cyfeirio disgyblion y ganolfan fel canolfan arholi TGAU rhyngwladol. Gwnaeth hyn olygu bod modd cynnig amrywiaeth o fyrddau arholi i ddysgwyr. Cafodd y swyddogion addysg yn y cartref a’r swyddogion lles addysg eu hyfforddi fel goruchwylwyr arholiadau am nad oeddent wedi addysgu'r dysgwyr.
Addysgu hyblyg
6.17 Dylai budd pennaf y plentyn fod wrth wraidd y penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol ac ysgolion fel ei gilydd. Wrth ystyried y ffordd orau o gefnogi plentyn, mae'n bwysig cydnabod efallai nad yw ysgol yn addas i bob plentyn. Ymhlith yr achosion lle gallai addysgu hyblyg fod yn fuddiol i blentyn, mae'r canlynol (ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr) pan fo'r plentyn:
- yn trosglwyddo yn ôl i'r ysgol
- yn trosglwyddo i'r ysgol am y tro cyntaf
- â chyflwr sbectrwm awtistiaeth ac mae ysgol yn heriol iddo
- yn dioddef o ffobia ysgol neu orbryder
- yn sâl
6.18 Mae'n bwysig nodi bod addysgu hyblyg yn wahanol i addysg yn y cartref. Mae addysgu hyblyg yn drefniant rhwng rhieni plentyn a'r ysgol pan fo'r dysgwyr wedi ei gofrestru yn yr ysgol yn y ffordd arferol, ond ei fod ond yn mynychu'r ysgol yn rhan-amser. Caiff y dysgwyr eu haddysg yn y cartref weddill yr amser ond byddant yn parhau i fod ar gofrestr yr ysgol.
6.19 Mae addysg yn y cartref yn ddewis dilys a gall fod yr opsiwn gorau ar gyfer y teulu a'r dysgwr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir i bob teulu o reidrwydd. Mae addysgu hyblyg yn golygu bod plant a allai fod yn cael eu haddysgu yn y cartref yn dal i fod mewn ysgol brif ffrwd am gyfran o'r amser ac felly yn gallu elwa ar ei manteision. Mewn rhai amgylchiadau, gall addysgu hyblyg fod yn ffordd ddilys o gynnig cymorth addysgol i ddysgwyr. Anogir awdurdodau lleol i weithio gyda phenaethiaid iddynt ystyried a yw eu hysgol yn gallu hwyluso addysgu hyblyg lle bo hynny er budd pennaf y plentyn.
6.20 O dan y Fframwaith Presenoldeb presennol ar gyfer Cymru Gyfan, cofnodir dysgwyr addysgu hyblyg o dan god presenoldeb 'C' sy'n cyfrif fel 'absenoldeb awdurdodedig' o'r ysgol. Er y bydd hyn yn effeithio ar ffigurau presenoldeb yr ysgol, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull mwy cyfannol o wella ysgolion drwy gael gwared ar y drefn o gyfrifo data perfformiad ysgolion (gan gynnwys y data presenoldeb) a oedd yn rhan o Gam 1 y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion. Golyga hyn y bydd cyd-destun ysgol (gan gynnwys trefniadau addysgu hyblyg) yn fwy amlwg wrth ddod i benderfyniad ar hunanwerthusiad ysgol a'i gallu i wella.
Diogelu ac addysg yn y cartref
7.1 P'un a ydynt mewn ysgol neu'n cael eu haddysgu yn y cartref, dylai diogelwch a lles pob plentyn a pherson ifanc fod o'r pwys mwyaf i bawb sy'n ymwneud â nhw.
7.2 Gellir ond cyflawni a chynnal deilliannau gwell i blant a phobl ifanc pan fydd unigolion a chyrff allweddol yn cydweithio i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau mwy integredig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.
7.3 Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol gael eu hategu gan 2 egwyddor allweddol:
- trin diogelu fel cyfrifoldeb i bawb: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol, rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran yn llawn, a hynny'n unigol ac mewn cydweithrediad â'i gilydd
- dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol, dylent gael eu seilio ar ddealltwriaeth glir o'r deilliannau personol i'r plentyn a'r hyn sy'n bwysig iddo (dylai hawliau'r plentyn fod yn ganolog i'r dull o weithredu a'i fudd gorau fydd y peth pwysicaf)
Diogelu plant sy’n wynebu risg
7.4 Mae Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn nodi'r hyn y mae rhaid ac y dylid ei wneud er mwyn diogelu plant ac oedolion. Mae hyn yn gymwys i bob plentyn ni waeth ymhle nac ym mha ffordd y bydd yn derbyn ei addysg.
7.5 Mae adran 130 o Ddeddf 2014 yn cynnwys dyletswydd ar bartneriaid perthnasol [10] awdurdod lleol a'r tîm troseddwyr ifanc perthnasol i hysbysu'r awdurdod os oes ganddo achos rhesymol i amau bod plentyn yn ei ardal yn blentyn sy’n wynebu risg (neu os yw'r plentyn yn ardal awdurdod lleol arall, i hysbysu'r awdurdod arall).
7.6 Mae adran 130(4) yn diffinio 'plentyn sy'n wynebu risg' fel plentyn:
- sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed
- y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio)
7.7 Pan fydd yr awdurdod lleol wedi cael gwybod am blentyn yn unol ag adran 130, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried a oes rheswm dros wneud ymholiadau yn unol ag adran 47 o Ddeddf Plant 1989.
7.8 Mae Rhan 9 o Ddeddf 2014 yn gofyn am gydweithredu a phartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a'i bartneriaid perthnasol ac eraill. Mae adran 164yn nodi os bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad, neu wybodaeth gan ei bartneriaid perthnasol ac eraill a nodir yn is-adran 4 wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i'r person gydymffurfio â'r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i'w ddyletswyddau neu fel arall yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau ei hun.
7.9 Rhaid i berson sy'n gwrthod cydweithredu neu roi gwybodaeth roi rhesymau ysgrifenedig i'r awdurdod lleol yn esbonio ei benderfyniad dros wrthod (adran 164(3)). Yn yr un modd, mae adran 164A yn galluogi awdurdod lleol i ofyn am gydweithrediad awdurdodau lleol yn Lloegr.
7.10 Mae adran 28(2) o Ddeddf Plant 2004 yn rhoi dyletswydd ar bersonau [11] a chyrff penodol i wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau yn cael eu cyflawni, gan roi sylw i'r angen i ddiogelu a hybu llesiant plant. Caiff y personau a'r cyrff y mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol iddynt eu rhestru yn adran 28(1).
7.11 O dan adran 135 o Ddeddf 2014, amcanion y Bwrdd Diogelu Plant yw:
- diogelu plant yn ei ardal sy'n profi cam-driniaeth, esgeulustod neu niwed arall neu sy'n wynebu risg o hynny
- atal plant yn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gam-driniaeth, esgeulustod neu newid arall
Mae adran 137 yn rhoi'r pŵer i'r Bwrdd Diogelu i wneud cais am wybodaeth benodol gan berson neu gorff cymwys, ar yr amod mai diben y cais yw galluogi neu gynorthwyo'r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau.
7.12 Ni all unrhyw ymarferydd unigol gael darlun llawn o blentyn na'i deulu. Felly dylid cyflwyno cymorth i deuluoedd drwy ddull gweithredu amlasiantaeth cydgysylltiedig. Mae'r gallu i weithio ar draws a rhwng asiantaethau yn hanfodol er mwyn meithrin dealltwriaeth well o amgylchiadau'r teulu cyfan a'u hanghenion o ran gofal a chymorth. Gall cydberthnasau gwaith cryf a dull amlasiantaethol atal anghenion rhag dwysáu a nodi pan fydd plentyn neu aelod o'r teulu yn wynebu risg.
7.13 Mae gan bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau addysg a ddaw i gysylltiad â phlant a'u teuluoedd rôl i'w chwarae o ran diogelu plant, p'un a ydynt wedi eu cyflogi gan yr awdurdod lleol neu beidio.
Addysg yn y cartref
7.14 Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod plant a addysgir yn y cartref yn wynebu mwy o risg o gael eu hesgeuluso neu eu cam-drin na phlant a addysgir yn yr ysgol. Mae addysg yn y cartref yn brofiad cadarnhaol i lawer o blant. Fodd bynnag, mae ysgolion a lleoliadau addysg yn chwarae rôl bwysig o ran diogelu plant. Maent yn lleoedd lle gall plant gael eu gweld a'u clywed yn rheolaidd. Mae'n bwysig, felly, bod pob plentyn yn cael yr hawl i fod yn ddiogel, ni waeth ble a sut y mae'n derbyn ei addysg.
7.15 Nid yw penderfyniad rhiant i addysgu yn y cartref ynddo'i hun yn destun pryder am ddiogelwch a lles plentyn. Fodd bynnag, fel yn achos pob plentyn ni waeth ymhle y caiff ei addysgu, gall fod amgylchiadau sydd, ar eu pen eu hunain neu o'u cyfuno, yn rhoi achos i ymarferwyr geisio mwy o wybodaeth am blentyn.
7.16 Dylai awdurdodau lleol ymdrin â phob achos lle ceir amheuaeth am addasrwydd addysg yn y cartref gan ddefnyddio'u pwerau o dan Ddeddf Addysg 1996 (cyfeiriwch at adran 5). Dylent hefyd fod yn barod, os yr ymddengys y bydd diffyg addysg addas yn debygol o effeithio ar ddatblygiad plentyn, i arfer eu pwerau a'u dyletswyddau diogelu yn llawn er mwyn diogelu lles plentyn, sy'n cynnwys addysg addas.
7.17 Wrth arfer pwerau diogelu, byddai awdurdod lleol fel arfer yn cychwyn ymchwiliad o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989, ar y sail bod diffyg gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol plentyn yn gallu bodloni'r prawf bod 'achos rhesymol dros gredu' bod risg o niwed sylweddol o dan y ddarpariaeth honno. Gall achos rhesymol gynnwys diffyg gwybodaeth gadarn am addysg plentyn. Felly os bodlonir y prawf 'os ymddengys fod' yn adran 437(1) o Ddeddf 1996, yna bydd achos rhesymol yn nhermau adran 47 fel arfer. Gall yr ymholiadau hyn gynnwys cymryd camau i sicrhau cyswllt â'r plentyn. Felly, bydd canlyniad ymholiadau yn dilyn ymchwiliad adran 47 yn galluogi awdurdod lleol i benderfynu a ddylid cymryd camau i ddiogelu llesiant plentyn.
7.18 Yn dilyn ymchwiliad adran 47, os bydd awdurdod lleol yn dod i'r casgliad bod y trothwy niwed sylweddol wedi ei gyrraedd, ond nad yw'r rhieni yn unioni'r pryderon a nodwyd, mae'n bosibl y bydd angen gwneud cais am orchymyn gofal. Mae methu â darparu addysg yn gallu bodloni meini prawf y trothwy 'niwed sylweddol' o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989.
7.19 Gall ‘niwed’ gynnwys llesteirio iechyd neu ddatblygiad. Mae datblygiad yn golygu datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol. Felly mae'n amlwg y gall darparu addysg anaddas fod gyfystyr â hyn. Nid oes rhaid i'r broses o achosi niwed sylweddol fod yn fwriadol neu'n bwrpasol. Fodd bynnag, mae cyfraith achosion [12] yn nodi bod rhaid iddi fod yn ‘sylweddol, yn nodedig neu'n bwysig’. Mae hwn yn bwynt allweddol i awdurdodau lleol wrth iddynt ystyried a yw'r defnydd o bwerau diogelu yn briodol mewn achos yn ymwneud â phlentyn nad yw'n derbyn addysg addas. Dylai awdurdodau lleol fod yn glir ynghylch y ffaith os oes cyfiawnhad dros ddefnyddio pwerau diogelu, yna dylid eu defnyddio.
7.20 Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Dylai asiantaethau sicrhau bod ymarferwyr sy'n dod i gysylltiad â phlant yn ymwybodol o'r trefniadau a nodir yn y canlynol:
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
- Canllawiau Llywodraeth Cymru Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 5: Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy’n Wynebu Risg a ddyroddwyd o dan Ddeddf 2014
7.21 Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan, a gyhoeddwyd yn hydref 2019, yn cael eu cefnogi drwy nifer o Ganllawiau Ymarfer Cymru Gyfan ar ddiogelu plant o dan amgylchiadau penodol. Bydd y Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan amlasiantaethol hyn yn darparu gwybodaeth am ymateb i faterion yn ymwneud â diogelu. Mae hyn yn cynnwys Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan gydag adran ar ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.
Rhannu gwybodaeth
7.22 Mae rhannu gwybodaeth yn rhan allweddol o arferion da ym maes diogelu. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn darparu ar gyfer rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio'n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o'r amgylchiadau penodol sy'n darparu ar gyfer rhannu gwybodaeth yw er mwyn atal camdriniaeth neu niwed difrifol i eraill. Pan na chaiff gwybodaeth ei rhannu mewn ffordd amserol ac effeithiol, mae'n bosibl y gwneir penderfyniadau ar sail gwybodaeth ddiffygiol gan arwain at ymarfer diogelu gwael a gadael plant mewn perygl o wynebu niwed. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl sy'n rhoi rhagor o gyngor.
Plentyn neu berson ifanc nad yw mewn cysylltiad â gwasanaethau cyffredinol
7.23 Gall fod amgylchiadau pan na fydd plentyn wedi cael cyswllt uniongyrchol â gwasanaethau cyhoeddus am gyfnod sylweddol o amser. Nid yw hyn ynddo'i hun yn dystiolaeth bod plentyn yn wynebu risg o niwed. Wedi dweud hynny, dylai beri i ymarferwyr ystyried pa gamau pellach y gall fod angen iddynt eu cymryd, drwy drafodaeth â'r uwch swyddog sy'n gyfrifol am addysg yn y cartref. Fodd bynnag, bu nifer o achosion lle y cafodd plant nad ydynt wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus niwed sylweddol. Mewn rhai achosion, gall fod sail i roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol am bryder diogelu os oes tystiolaeth i awgrymu na fu unrhyw gyswllt rhwng plentyn a gwasanaethau cyhoeddus am gyfnod estynedig. Mae Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan ar gael i ddarparu cyngor pellach a dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.
Ôlnodiadau
- [1]Ystyr ‘rhoi sylw’ yw bod rhaid iddynt ystyried y canllawiau ac, os byddant yn penderfynu gwyro oddi wrthynt, dylai fod ganddynt resymau clir dros wneud hynny (R (Khatun) v Newham LBC [2005] QB37.
- [2]Yn y canllawiau hyn, mae i ‘rhiant’ yr un ystyr a roddir i ‘parent’ yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 ac felly mae'n cynnwys person â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn a pherson sy'n gofalu am blentyn.
- [3]Nodir y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 a'r rheoliadau, y codau a'r canllawiau a wnaed oddi tani. Mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno'n raddol dros nifer o flynyddoedd a chaiff ei gyflwyno'n llawn ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn 2026.
- [4]Mae'r holl ddata yn gyfanredol ac yn destun rheolaeth lem o ran datgelu cyn adrodd.
- [5]Hyd nes y bydd plentyn sydd â datganiad AAA wedi cael ei drosglwyddo i'r system ADY (gweler paragraff 2.16 o'r canllawiau hyn) rhaid i'r addysg fod yn addas ar gyfer oedran, gallu a doniau'r plentyn hwnnw ac unrhyw AAA a all fod ganddo.
- [6]Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau statudol hyn. Golyga hyn fod rhaid iddynt eu hystyried ac, os byddant yn penderfynu gwyro oddi wrthynt, dylai fod ganddynt resymau clir dros wneud hynny (R (Khatun) v Newham LBC [2005] QB37.
- [7]Gall plentyn wneud ei benderfyniadau ei hun pan fydd ganddo ddigon o ddealltwriaeth a deallusrwydd i allu gwneud ei benderfyniad ei hun ar y mater y gwneir y penderfyniad yn ei gylch.(Gillick v Ardal Awdurdod Iechyd West Norfolk ac Wisbech [1985] UKHL 7).
- [8]‘Rhaid i Wladwriaethau sicrhau i'r plentyn sy'n gallu ffurfio ei farn ei hun hawl i leisio'r farn honno'n ddirwystr ym mhob mater sy'n effeithio arno, a bod pwys priodol yn cael ei roi ar farn y plentyn yn ôl ei oedran a'i aeddfedrwydd’.
- [9]Ar gyfer amgylchiadau mwy cymhleth, mae'n bosibl y bydd angen mwy o amser ar yr awdurdod lleol, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol eraill yn cael eu cynnwys, fel seicolegwyr addysg a therapyddion lleferydd neu iaith.
- [10]Caiff 'partneriaid perthnasol' eu diffinio gan adran 162(4) o Ddeddf 2014.
- [11]Caiff y term personau penodol ei ddiffinio yn adran 28(1) o Ddeddf Plant 2004.
- [12]Yn parth B (Plentyn)(trafodion achos: Meini Prawf Trothwy)[2013] 1 WLR 1911.