Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Gorffennaf 2015.

Cyfnod ymgynghori:
16 Mehefin 2015 i 30 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 151 KB

PDF
151 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn pennu'r canllaw drafft sy'n disgrifio'r opsiynau ar gyfer darparu system garthffosydd gynaliadwy i eiddo nad ydynt wedi'u cysylltu â'r system carthffosydd cyhoeddus.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r rhan fwyaf o eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi’u cysylltu â’r system carthffosydd cyhoeddus ond mae rhyw 4% o eiddo yn dibynnu ar systemau annibynnol sy’n eiddo ac o dan weithrediad preifat.

Lle na all y systemau hyn gynnig ateb boddhaol tymor hir un opsiwn i berchennog yw gwneud cais am garthffos gyhoeddus o dan ddarpariaethau carthffosydd tro cyntaf yn Adran 101A Deddf Diwydiant Dŵr 1991.

Mae'r canllaw drafft hwn yn rhoi gwybodaeth i helpu deiliaid meddianwyr a pherchenogion tai ac eiddo i benderfynu a yw Adran 101A yn cynnig yr ateb iawn iddyn nhw ac yn disgrifio rolau a chyfrifoldebau’r:

  • ymgymerwyr carthffosydd
  • rheoleiddwyr amgylcheddol (Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd) a
  • pherchenogion eiddo

ar sut y dylid cymhwyso Adran 101A.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y mater yma yn 2014. O ganlyniad i’r ymatebion i’r ymgynghoriad gwnaethom nifer o newidiadau i’r Canllaw a gafodd ei gyhoeddi wedi hynny ym mis Gorffennaf 2014.

Yn sgil cyhoeddi’r Canllaw mynegwyd pryder am un newid oedd yn ymwneud ag esbonio a ddylid ystyried carafanau sefydlog a chartrefi symudol yn ‘adeiladau’ at ddiben ystyried a yw eiddo yn addas ar gyfer ei gysylltu â charthffos gyhoeddus o dan Adran 101A.  Cafwyd sylwadau bod y newid yn awgrymu bod rheol gyfreithiol anhyblyg bod carafanau sefydlog a chartrefi symudol yn ‘adeiladau’ a bod hwn wedi’i ychwanegu heb ystyriaeth bellach.

Mae’r Canllaw wedi’i newid i adael y cwestiwn a yw carafanau sefydlog ac ati yn ‘adeiladau’ yn benagored.  Rydym yn rhestru’r ystyriaethau y dylai ymgymerwr eu hystyried wrth benderfynu a yw am ddarparu carthffos gyhoeddus i eiddo â charafanau sefydlog a chartrefi symudol ynddo.

Mae’r Canllaw wedi’i newid hefyd i adlewyrchu penderfyniad Gweinidogion Cymru i ddynodi’r Arolygiaeth Gynllunio fel y corff i dorri dadleuon sy’n codi yn sgil goblygiadau Adran 101A.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn rydym wedi penderfynu ailymgynghori ac yn croesawu eich barn am y newidiadau a gynigir ar gyfer y canllaw ac am unrhyw agweddau arall arno.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 756 KB

PDF
756 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.