Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o beth sy'n rhaid i chi ei wneud a beth sydd ar agor ar lefel rhybudd isel lefel 1.

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy'n rhaid i chi wneud ar lefel rhybudd 1

Ar lefel 1, rhaid ichi:

  • Gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda chi neu sydd ddim yn rhan o’ch aelwyd estynedig chi.
  • Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) yn mhob lle cyhoeddus dan do.
  • Peidio â ffurfio aelwyd estynedig gyda mwy na 2 aelwyd arall. Peidiwch â’u newid.
  • Peidio â chwrdd â mwy na 5 o bobl eraill dan do.
  • Peidio â chwrdd â mwy na 5 o bobl eraill mewn gardd breifat.
  • Peidio â chwrdd â mwy na 30 o bobl yn yr awyr agored.
  • Gweithio gartre os medrwch.
  • Peidio â theithio heb esgus resymol i ardal sydd â llawer o achosion.

Beth sy'n gallu agor ar lefel rhybudd 1

  • Ysgolion, colegau a darparwyr gofal plant.
  • Sefydliadau addysg uwch.
  • Safleoedd trwyddedig (yn cael gwerthu alcohol rhwng 6am a 10pm. Rhaid i’r safle gau erbyn10:20pm).
  • Siopau nad ydyn nhw’n hanfodol.
  • Gwasanaethau cyswllt agos.
  • Lletygarwch.
  • Llety gwyliau.
  • Mannau o adloniant.
  • Atyniadau dan do i ymwelwyr.
  • Atyniadau awyr agored i ymwelwyr.
  • Cyfleusterau hamdden a ffitrwydd.
  • Canolfannau digwyddiadau a chynadledda.
  • Theatrau a neuaddau cyngerdd.
  • Addoldai.
  • Canolfannau cymunedol.
  • Amlosgfeydd.
  • Llyfrgelloedd ac archifdai.
  • Cyrtiau chwaraeon, cyrsiau golff.
  • Parciau chwarae a pharciau cyhoeddus.
  • Gweithgaredd dan do wedi’i threfnu (hyd at 50 o bobl).
  • Gweithgaredd awyr agored wedi’i threfnu (hyd at 100 o bobl).
  • Teithio dramor.
  • Priodasau (y lleoliad fydd yn pennu faint o bobl).
  • Derbyniad priodas / Te angladd / Gwylnos (50 o bobl dan do, 100 awyr agored).

Beth sy'n gorfod cau ar lefel rhybudd 1

  • Clybiau nos a mannau adloniant i oedolion.