Canllaw i rieni am hawliau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Canllaw ar hawliau o dan y system ADY.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r canllaw hwn yn Cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- sut y bydd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi o dan y system ADY
- sut y bydd y system ADY yn gweithio
- yr hyn y gall rhieni ei wneud os ydyn nhw’n anghytuno â phenderfyniadau a waned gan sefydliadau sy’n darparu cymorth i’w plentyn
- yr hawliau sydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system ADY
Darperir ar gyfer yr hawliau sydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system ADY yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY). Caiff yr hawliau hyn eu hegluro’n fanwl yng ‘Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ (Cod ADY).
At ddibenion y system ADY a’r canllaw hwn, pan fo’r canllaw yn dweud rhiant, mae hyn yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â dyletswydd gofal dros blentyn.
Pan fo’r canllaw yn dweud plentyn, mae’n golygu person o’i eni hyd at ddiwedd oedran ysgol gorfodol. Mae plant yn cael hawliau o dan y Ddeddf ADY ac mae’r rhan fwyaf o’r hawliau hyn hefyd yn cael eu rhoi i’w rhieni. Mae hyn yn newid pan fydd plentyn yn dod yn berson ifanc.
Mae person ifanc yn berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond o dan 25 oed. Pan ddaw plentyn yn berson ifanc, dim ond i’r person ifanc y rhoddir yr hawliau. Mae hyn yn golygu nad oes gan rieni yr un hawliau â’r person ifanc.
Pan fo’r canllaw yn dweud meithrinfa a/neu ysgol, mae hyn yn golygu meithrinfa awdurdod lleol neu ysgol awdurdod lleol.
Beth sy’n newid?
Efallai bod eich plentyn eisoes wedi cael ei nodi fel plenty sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA).
Mae’n bosibl bod eich plenty yn cael cymorth ychwanegol yn yr ysgol i’w helpu i ddysgu neu efallai bod ganddo ddatganiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y mae’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael anawsterau â’r dysgu.
Mae’r system ADY yn cymryd lle y system AAA.
Pan gyflwynir y system ADY, byddwch chi’n sylwi ar rai newidiadau i’r hyn y mae pethau’n cael eu galw:
- bydd anghenion addysgol arbennig (AAA) yn dod yn anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- bydd cydlynwyr anghenion addysgol arbennig (CAAA) yn dod yn gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY) – CADY yw’r cydlynwyr arweiniol ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY ac maen nhw’n gweithio mewn ysgolion, colegau ac unedau cyfeirio disgyblion
- bydd darpariaeth addysgol arbennig yn dod yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
- bydd cynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (CAU), datganiadau a chynlluniau dysgu a sgiliau yn cael eu disodli gan gynllun newydd o’r new cynllun datblygu unigol (CDU)
Bydd rhai pethau yn aros yr un fath. Mae bod ag ADY yr un fath â bod ag AAA. Mae hyn yn golygu, os oes gan blentyn AAA, mae’n debygol y bydd ganddo ADY hefyd.
Ffyrdd newydd o weithio
Fel rhiant efallai eich bod chi’n bryderus ynghylch y ffaith bod gan eich plentyn ADY.
Bydd y Ddeddf ADY newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu’r canlynol i’ch plentyn ac i chi fel rhiant:
- gwell cydweithredu
- cynllun unedig
- cyfle i gymryd rhan a chael llais
- system symlach sy’n achosi llai o anghydfodau
Nod y system ADY yw:
- ein bod ni’n gwrando ar farn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch sut i helpu plant a phobl ifanc
- bod y cymorth cywir yn cael ei roi ar waith yn gyflym i helpu plant a phobl ifanc sydd ag ADY
- bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd i helpu plant a phobl ifanc sydd ag ADY, gan gynnwys gwasanaethau addysg ac iechyd
- bod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag ADY yn gallu mynd i’w meithrinfa, eu hysgol, eu huned cyfeirio disgyblion neu eu coleg lleol, os yw’n briodol iddyn nhw
- bod plant a’u rhieni yn gallu cael mynediad at gymorth dysgu hyd yn oed cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol neu’r feithrinfa
- bod plant, eu rhieni a phobl ifanc yn deall y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n cael ei chynnig
- bod plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael help yn y Gymraeg, pan fo modd, os oes angen hynny arnyn nhw
- bydd cymhwyso dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ganolog i’r gwaith o gynllunio a darparu cefnogaeth gan awdurdodau lleol ac ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a cholegau
Mae’r system ADY hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu Gwybodaeth a chyngor diduedd am ADY a’r system ADY. Gall ysgol neu goleg eich plentyn hefyd roi cymorth a gwybodaeth i chi.
Bydd yr wybodaeth yn eich helpu i ddeall y system ADY. Bydd hefyd yn egluro’r hawliau sydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc a beth i’w wneud os nad ydyn nhw’n cytuno gyda’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan ysgolion, colegau neu awdurdodau lleol.
Beth yw anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)?
Mae’n bosibl bod gan eich plentyn ADY os oes angen cymorth ychwanegol arno I ddysgu. Gallai hyn fod oherwydd:
- ei fod yn ei chael hi’n anoddach dysgu na phlant eraill o’r un oedran
- mae’n methu defnyddio, neu’n ei chael hi’n anodd defnyddio, cyfleusterau ar gyfer dysgu yn y feithrinfa, yr ysgol neu’r coleg lleol oherwydd anabledd
Gelwir y cymorth ychwanegol a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag ADY i’w helpu i ddysgu yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).
Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn sy’n iau na 3 oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer person 3 oed neu hŷn yw addysg neu hyfforddiant, fel arfer mewn meithrinfa, ysgol neu goleg sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i, yr hyn sydd ar gael i’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran.
Mae Pennod 2 o ‘God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am ADY a DDdY.
Nodi ADY
Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ADY, mae’r camau i’w cymryd yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae hefyd yn dibynnu os ydyn nhw’n mynd i feithrinfa neu ysgol awdurdod lleol.
Pan fo plentyn yn mynychu ysgol, gall y plentyn neu ei rieni ddweud wrth y CADY, y pennaeth neu’r athro dosbarth eu bod nhw’n credu bod gan y plentyn ADY.
Pan fo person ifanc yn mynychu ysgol, gall y person ifanc ddweud wrth y CADY, y pennaeth neu’r athro dosbarth ei fod yn credu bod ganddo ADY.
Pan fo person ifanc yn mynychu coleg, gall ddweud wrth y CADY neu ei diwtor.
Gall rhieni plant o’u geni hyd at 5 oed (o dan oedran ysgol gorfodol) nad ydyn nhw’n mynychu meithrinfa awdurdod lleol nac ysgol awdurdod lleol ddweud wrth swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar yr awdurdod lleol neu’r tîm ADY blynyddoedd cynnar.
Gallwch chi ddweud wrth yr awdurdod lleol eich bod chi’n credu bod gan eich plentyn ADY ar unrhyw adeg. Nid oes angen i’r plentyn gael ei atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol (fel ymwelydd iechyd, darparwr gofal plant neu ddarparwr meithrinfa) ac nid oes rhaid i blentyn fod â diagnosis penodol, nac unrhyw fath neu lefel benodol o ADY, i rywun ddweud wrth awdurdod lleol eu bod nhw’n credo bod gan y plentyn ADY.
Pan fyddwch chi’n dweud wrth yr awdurdod lleol eich bod chi’n credu bod gan eich plentyn ADY, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad ynghylch a oes gan eich plentyn ADY.
Cyn cysylltu â’r awdurdod lleol, efallai yr hoffech chi siarad â gweithiwr proffesiynol (fel ymwelydd iechyd) i drafod eich pryderon.
Pan na fo eich plentyn yn mynychu meithrinfa, ysgol neu uned cyfeirio disgyblion awdurdod lleol, gall y plentyn neu ei rieni ddweud wrth yr awdurdod lleol eu bod nhw’n credu bod gan y plentyn ADY.
Pan na fo person ifanc yn mynychu ysgol neu uned cyfeirio awdurdod lleol, gall y person ifanc ddweud wrth yr awdurdod lleol ei fod yn credu bod ganddo ADY.
Hawl i bob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY gael cynllun statudol o’r enw cynllun datblygu unigol (CDU)
Os oes gan blentyn ADY yna mae ganddo hawl i gynllun statudol o’r enw cynllun datblygu unigol (CDU).
Bydd gan bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd ag ADY hawl i gael CDU os byddan nhw’n aros mewn addysg.
Mae CDU yn gynllun statudol. Mae hyn yn golygu bod deddfau ynglŷn â’r canlynol:
- pwy ddylai gael CDU
- pa mor hir y gall ei gymryd i baratoi CDU ar gyfer plentyn neu berson ifanc
- beth sy’n rhaid ei gynnwys yn y CDU
Caiff CDU ei baratoi gan ysgolion, colegau neu awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’r plentyn, ei rieni neu’r person ifanc, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol (fel gweithwyr iechyd proffesiynol).
Bydd y CDU yn dweud pa gymorth sydd ei angen ar y plentyn neu’r person ifanc i’w helpu i ddysgu, gan nodi’r canlynol:
- y math o ADY sydd gan y plentyn neu’r person ifanc (angen)
- sut y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn cael cymorth i ddysgu, a phwy fydd yn rhoi’r cymorth iddo (darpariaeth)
- yr hyn y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn gallu ei gyflawni pan fydd y cymorth yn cael ei roi ar waith (deilliant)
- enw unrhyw feithrinfa, ysgol neu uned cyfeirio disgyblion y bydd angen i’r plentyn neu’r person ifanc fynd iddi neu goleg y bydd angen i’r plentyn neu’r person ifanc fynd iddo
- a ddylai’r cymorth gael ei ddarparu yn Gymraeg
- gwybodaeth am y rhesymau dros yr hyn a nodir yn y cynllun
- pethau sydd wedi digwydd sy’n gwneud gwahaniaeth i ADY y plentyn neu’r person ifanc
Bwriedir i’r CDU fod yn ddogfen hyblyg. Bydd yn amrywio o ran ei hyd a’i gymhlethdod yn dibynnu ar wahanol anghenion y plentyn neu’r person ifanc.
Rhaid adolygu CDUau bob deuddeg mis, neu’n gynt os oes angen.
Gall CDU gael ei baratoi gan ysgolion, colegau neu awdurdodau lleol a byddan nhw’n gofalu amdano (ei gynnal).
Does dim ots pwy sy’n cynnal y CDU, mae’n gynllun statudol. Mae hyn yn golygu y bydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc hawliau i wneud rhywbeth am benderfyniadau ynghylch ADY nad ydyn nhw’n hapus â nhw.
Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid darparu’r DDdY a nodwyd yn y CDU.
Mae Pennod 23 o ‘God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am baratoi a chynnal CDU a’i gynnwys.
Hawl i blant, eu rhieni a phobl ifanc herio penderfyniadau am ADY y maen nhw’n anghytuno â nhw
Hawl i blant, eu rhieni a phobl ifanc herio penderfyniadau am ADY y maen nhw’n anghytuno â nhw Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc herio penderfyniadau a wnaed gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion, awdurdod lleol neu goleg am ADY os ydyn nhw’n anghytuno â nhw. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ynghylch:
- a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
- y ffordd mae ADY plentyn neu berson ifanc yn cael eu disgrifio mewn CDU
- y cymorth a ddisgrifir yn y CDU
- pwy sy’n gyfrifol am gynnal CDU – ysgol, uned cyfeirio disgyblion, coleg neu awdurdod lleol
Hawl i ofyn i awdurdod lleol ailystyried penderfyniad a wnaed gan feithrinfa, ysgol neu uned cyfeirio disgyblion awdurdod lleol
Mae’r Ddeddf ADY yn darparu sawl hawl i blant, eu rhieni a phobl ifanc I ofyn am ailystyried rhai penderfyniadau.
Gall plentyn, ei riant neu berson ifanc sy’n anhapus â phenderfyniad a wnaed gan feithrinfa, ysgol neu uned cyfeirio disgyblion awdurdod lleol ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y penderfyniad.
Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y penderfyniadau a’r cynlluniau a ganlyn:
- penderfyniad gan ysgol ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
- CDU ysgol gyda’r bwriad o’i ddiwygio
- penderfyniad ysgol i roi’r gorau i gynnal CDU (rhoi terfyn arno)
Gall plentyn, ei riant neu berson ifanc ofyn i’r awdurdod lleol ‘gymryd drosodd’ y cyfrifoldeb am gynnal CDU.
Hawl i eiriolwr siarad dros blant a phobl ifanc sy’n anghytuno â phenderfyniad am ADY
Mae’n bwysig gwybod bod pobl ar gael i gynghori, i helpu ac I siarad dros blant a phobl ifanc os oes anghytundeb. Eiriolwyr yw’r rhain.
Gall eiriolwyr ddweud wrth bobl sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo a beth sydd ei angen arnyn nhw i’w helpu yn yr ysgol, yr uned cyfeirio disgyblion neu’r coleg.
Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eiriolwr i’w helpu ac i siarad drostyn nhw os oes anghytundeb. Bydd eiriolwr yn siarad ar ran plentyn neu berson ifanc pan fydd yn defnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau neu os yw am wneud apêl i’r Tribiwnlys Addysg Cymru.
Gall plant a phobl ifanc ofyn i’r awdurdod lleol am eiriolwr.
Hefyd, rhaid i awdurdodau lleol ddweud wrth blant, eu rhieni a phobl ifanc am eiriolwyr.
Os yw eich plentyn yn gofyn am eiriolwr i:
- helpu gydag apêl bosibl i Dribiwnlys Addysg Cymru (gweler tudalen 14)
- siarad ar ei ran mewn apêl
- siarad ar ei ran wrth ddefnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau
yna rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod eiriolwr ar gael. Nid oes unrhyw gost i blant, eu rhieni na phobl ifanc am wasanaethau a ddarperir gan eiriolwr awdurdod lleol.
Defnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau
Weithiau, mae anghytundebau’n gallu codi. Y rhan fwyaf o’r amser, gellir datrys anghytundebau drwy drafod y broblem gyda’r ysgol, yr uned cyfeirio disgyblion, y
coleg neu’r awdurdod lleol.
Os ydych chi’n anhapus ag unrhyw beth, dylech chi ddweud wrth yr ysgol, yr uned cyfeirio disgyblion neu’r coleg cyn gynted â phosibl. Drwy gydweithio bydd cyfleoedd i drafod unrhyw broblemau gan helpu i’w datrys yn gynnar.
Os ydych chi’n parhau i deimlo’n anhapus, gallwch chi siarad â’ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach.
Mae’r Ddeddf ADY yn dweud bod yn rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud trefniadau a darparu mynediad at wasanaethau annibynnol i ddatrys anghydfodau er mwyn helpu i ddatrys anghydfodau.
Mae’r gwasanaeth yn gwneud hyn drwy helpu pawb dan sylw i drafod yr anghytundeb a cheisio dod o hyd i ateb.
Mae gwasanaethau datrys anghydfodau yn lleihau’r angen i fynd ag anghytundeb i’r Tribiwnlys Addysg Cymru a gall arwain at setlo anghytundebau’n gyflymach.
Nid yw defnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau yn orfodol. Gall plant, eu rhieni a phobl ifanc wneud apêl i’r Tribiwnlys Addysg Cymru heb ddefnyddio gwasanaethau datrys anghydfodau.
Nid yw defnyddio’r gwasanaeth datrys anghydfodau chwaith yn atal plentyn, ei rieni na pherson ifanc rhag gwneud apêl. Hyd yn oed os oes apêl wedi’i gwneud, gall plant, eu rhieni a phobl ifanc barhau i siarad â’r awdurdod lleol i geisio dod i gytundeb.
Gwneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru
Mae gan blant, eu rhieni a phobl ifanc yr hawl i apelio I Dribiwnlys Addysg Cymru.
Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn annibynnol a bydd yn ystyried apeliadau mewn achosion pan fo anghytundeb â phenderfyniadau awdurdodau lleol neu goleg.
Gellir apelio yn erbyn:
- penderfyniad gan awdurdod lleol neu goleg ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
- penderfyniad gan awdurdod lleol nad oes angen llunio CDU ar gyfer person ifanc
- y ffordd y disgrifir ADY plentyn neu berson ifanc yn ei CDU
- y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd wedi’i chynnwys mewn CDU
- y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd heb ei chynnwys mewn CDU
- penderfyniad ynghylch a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) gael ei darparu yn Gymraeg
- peidio â chynnwys meithrinfa, ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu goleg penodol mewn CDU
- peidio â chynnwys darpariaeth arall sydd ei hangen – fel peidio â chynnwys bwyd a llety i fynychu meithrinfa, ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu goleg penodol
- penderfyniad awdurdod lleol i beidio â bod yn gyfrifol am CDU yn hytrach na meithrinfa, ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu goleg
- penderfyniad awdurdod lleol i beidio â newid CDU y mae’r ysgol neu’r uned cyfeirio disgyblion yn gyfrifol amdano
- awdurdod lleol neu goleg yn gwrthod penderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY gan ei fod wedi penderfynu hyn o’r blaen ac nad yw’n credu bod unrhyw beth wedi newid
- penderfyniad i ddod â CDU i ben
Ni ellir apelio i’r Tribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan feithrinfeydd, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.
Cael help gan gyfaill achos
Efallai y bydd rhai plant angen help i ddeall eu hawliau o dan y system ADY. Os nad yw plentyn yn deall, mae’n bwysig gwybod y gall cyfaill achos siarad ar ran y plentyn, cefnogi’r plentyn a gwneud penderfyniadau ar ran y plentyn.
Mae cyfaill achos yn helpu plant i gyflwyno anghytundeb – achos – i Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae cyfaill achos yn gwneud hyn drwy weithredu ar ran plentyn wrth wneud apêl.
Gall cyfaill achos hefyd helpu plant i ddeall gwybodaeth a roddir iddyn nhw am y system ADY.
Gall plant a’u rhieni ofyn i Dribiwnlys Addysg Cymru am gyfaill achos.