Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Beth yw’r ddogfen hon?

Mae’r ddogfen hon wedi’i pharatoi i gyd-fynd â Chymru’r Dyfodol. Mae’n rhoi arweiniad ar y cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i Lywodraeth Cymru ers cyhoeddi Cymru’r Dyfodol ym mis Chwefror 2021.

Beth yw statws y ddogfen hon?

Dogfen wybodaeth yw hon. Nid yw’n rhan o Gymru’r Dyfodol ac nid yw’n ddogfen bolisi. Mae’n seiliedig ar y ddeddfwriaeth ac nid yw’n cyflwyno gofynion newydd. Dylai darllenwyr edrych ar y ddeddfwriaeth i weld beth yn union yw’r gofynion statudol, a Pholisi Cynllunio Cymru a Chymru’r Dyfodol i wybod beth yw’r gofynion polisi.

A yw'r canllawiau yn y 'Canllaw i Gymru’r Dyfodol: Cwestiynau Cyffredin' cyntaf yn dal i fod yn berthnasol?

Ydyn.

A fydd canllawiau cynllunio ffurfiol yn cael eu cyhoeddi i gefnogi Cymru’r Dyfodol?

Bydd. Yn ôl Cymru’r Dyfodol, bydd canllawiau'n cael eu paratoi ar ddatblygu ynni gwynt ar y tir, a chreu lleoedd drwy ddulliau strategol. Bydd y gwaith o baratoi'r canllawiau hyn yn dechrau yn 2021.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu rôl bosibl canllawiau pellach i gefnogi'r gwaith o weithredu polisïau Cymru’r Dyfodol.

A oes mapiau digidol o Ardaloedd Cyn-Asesu ar gyfer Ynni Gwynt (Polisi 17) ar gael?

Oes. Gellir eu gweld ar borth mapio Lle.

A all Awdurdodau Cynllunio Lleol ddechrau gwaith anffurfiol i gefnogi'r gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol cyn sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol yn ffurfiol?

Gallant. Bydd Rheoliadau Sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol (CJC) yn dod i rym ym mis Chwefror 2022 ar gyfer De-ddwyrain Cymru ac ym mis Mehefin/Gorffennaf 2022 ar gyfer y tri rhanbarth CJC sy'n weddill gan eu galluogi i arfer y swyddogaeth o baratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS).

Cyn hyn, dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) ym mhob rhanbarth ddechrau nodi'r dystiolaeth (presennol a newydd) y bydd ei hangen i baratoi CDS; sicrhau bod dulliau o lunio cynlluniau (e.e. methodolegau) yn gydnaws ac yn gallu cefnogi dull rhanbarthol ar y cyd; ac adolygu Dyfodol Cymru, Polisi Cynllunio Cymru a strategaethau a pholisïau allweddol eraill i ddatblygu dealltwriaeth gynnar o'r materion y bydd angen i CDS fynd i'r afael â nhw. Bydd dealltwriaeth drylwyr o adnoddau, gan gynnwys materion ariannol, yn helpu i drosglwyddo'n llyfn i ffordd ranbarthol o weithio.
5

Mae Polisi 19 Dyfodol Cymru yn nodi'r polisïau y dylai CDSau eu sefydlu ar gyfer y rhanbarth ac mae Adran 10 y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn cynnwys canllawiau manwl ar baratoi a chynnwys CDSau.

Ydy Llywodraeth Cymru yn dal i fwriadu datblygu Coedwig Genedlaethol? A oes gwybodaeth ar gael am y cynnig?

Ydy – mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu Coedwig Genedlaethol yn symud yn eu blaen. Bwriedir defnyddio coetiroedd sydd eisoes yn bodoli fel lleoliad posibl ar gyfer y Goedwig Genedlaethol ac mae map ar wefan Llywodraeth Cymru yn enwi 14 o goetiroedd.

A fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi mapiau pellach o’r ardaloedd i’w hystyried yn lleiniau glas?

Na fydd. Mater i’r CDSau fydd diffinio ffiniau ardaloedd y lleiniau glas.

Sut y dylai ACLlau ystyried safleoedd ar ffin yr ardal a/neu’n agos at y ffin honno i'w hystyried ar gyfer lleiniau glas?

Cyn mabwysiadu CDS, a fydd yn diffinio ffin ardal llain las, dylai ACLlau ddefnyddio eu barn i benderfynu a ddylid trin safle yn safle y tu mewn neu du allan i’r ardal i’w hystyried. Dylai ACLlau nodi eu syniadau a'r broses y maent wedi'i dilyn i wneud eu penderfyniad.

Enghreifftiau o gwestiynau y gellir eu defnyddio i gynorthwyo'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau:-

  1. Ble mae'r safle'n cael ei ystyried ar y diagram strategol rhanbarthol?
  2. A yw'r safle yn rhan naturiol o'r ardal agored ehangach a fyddai'n cael ei gorchuddio'n rhesymegol gan lain las? Neu a yw'n amlwg ar wahân i'r ardal agored ehangach?
  3. Sut mae'r safle'n perfformio o ran dibenion y llain las fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru?

A yw datblygiad amaethyddol yn dderbyniol mewn egwyddor yn yr ardaloedd i’w hystyried yn lleiniau glas?

Ydy. Mae paragraff 3.75 o Bolisi Cynllunio Cymru yn nodi nad yw datblygu ar gyfer anghenion 'mentrau gwledig' cyfiawn yn amhriodol mewn llain las. Mae paragraff 4.3.2 o Nodyn Cyngor Technegol 6, yn nodi mai ‘busnesau sy’n gysylltiedig â thir yw mentrau gwledig cymwys. Mae’r rhain yn cynnwys busnesau amaethyddol, coedwigol a gweithgareddau eraill y mae eu mewnbynnau sylfaenol yn deillio o’r safle, fel prosesu cynhyrchion amaethyddol, coedwigol a mwynol, ynghyd â gweithgareddau rheoli tir a gwasanaethau cymorth (gan gynnwys contractio amaethyddol)’. Felly, ni fyddai datblygiad sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn amhriodol mewn egwyddor.

A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi defnyddiau nad ydynt yn rhai manwerthu yng nghanol trefi?

Ydy. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu polisi Canol Trefi yn Gyntaf sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau sy'n ategu canolfannau manwerthu a masnachol (a ddisgrifir ym Mholisi Cynllunio Cymru) chwilio am safleoedd yn y canolfannau hynny yn gyntaf cyn ystyried lleoliadau eraill (gweler Polisi Cynllunio Cymru 4.3.18). Dyma'r lleoliad mwyaf cynaliadwy ar gyfer defnyddiau o'r fath, o ran defnydd tir, hygyrchedd a chefnogi canolfannau bywiog a hyfyw.

Mae Cymru’r Dyfodol yn cefnogi'r egwyddor hon ac mae Polisi 6 yn gofyn am leoli cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden neu wasanaeth cyhoeddus newydd sylweddol yng nghanol trefi a dinasoedd. Mae'r datblygiadau hyn, a allai gael nifer mawr o ymwelwyr, wedi'u cyfeirio'n flaenorol at leoliadau llai cynaliadwy sy'n llai hygyrch drwy deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ac sy'n llai tebygol o gefnogi polisïau datgarboneiddio.

Gall CDSau a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) ystyried dyrannu safleoedd neu dynnu ffiniau o amgylch canol trefi a dinasoedd i gynllunio ar gyfer defnydd sylweddol.

A oes diffiniad o 'arwyddocaol' ar gyfer Polisi 6 Cymru’r Dyfodol?

Nac oes. Mater i'r ACLl yw penderfynu ar sail ei wybodaeth am ei ardal leol. Bydd ystyr y term 'arwyddocaol' yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru ac yn ymwneud â graddfa, rôl a swyddogaeth aneddiadau.

Gall CDSau a CDLlau nodi pa ddatblygiadau y maent yn eu hystyried yn arwyddocaol yng nghyd-destun eu hardaloedd a sut y gallai hyn amrywio rhwng gwahanol aneddiadau. Wrth benderfynu a yw datblygiad ar raddfa sylweddol (cyn polisïau perthnasol y CDS/CDLl) dylai ACLlau ystyried maint y datblygiad newydd yng nghyd-destun yr anheddiad a/neu'r ardal y mae i'w leoli ynddi ac a yw'n ehangach na lleol ei natur. Gallai hyn gynnwys ystyried nifer posibl yr ymwelwyr a pha mor bell y mae’n debygol y bydd ymwelwyr yn teithio i’r datblygiad.

Pa ddull y dylid ei ddefnyddio i leoli datblygiadau lleol llai?

Dylid cymhwyso'r un egwyddorion ar raddfa lai. Dylai canolfannau lleol defnydd cymysg y mae modd cerdded iddynt fod yn ganolbwynt ar gyfer cyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd, hamdden neu wasanaeth cyhoeddus lleol newydd (a phreswyl lle y bo'n briodol) yn hytrach na defnyddio dull sy'n annog patrwm datblygu mwy gwasgaredig. Nid yw'r egwyddorion hyn yn newydd. Mae manteision canolfannau defnydd cymysg, lleol sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau lleol yn hytrach na defnyddio dull gwasgaredig, heb ei gynllunio, yn amlwg.

Fel y cydnabyddir ym Mholisi Cynllunio Cymru (4.3.21) efallai y bydd gan rai defnyddiau addysgol, gofal iechyd a chymunedol, er enghraifft, ofynion hygyrchedd penodol sy'n golygu bod angen eu lleoli'n agos at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Dylai ACLlau fod yn ymwybodol o ofynion o'r fath a chynllunio'n unol â hynny.

Dylai ACLlau ddefnyddio eu cynlluniau datblygu i gryfhau a chefnogi canolfannau lleol a sicrhau nad yw penderfyniadau rheoli datblygu yn tanseilio swyddogaeth canolfannau lleol pwysig.

A oes angen profion o angen manwerthu ar gyfer pob defnydd arwyddocaol?

Nac oes. Dim ond ar gyfer datblygiadau manwerthu y mae angen profion o angen manwerthu, fel y disgrifir ym Mholisi Cynllunio Cymru a TAN 4: Datblygiadau Manwerthu a Masnachol. Dylai defnyddiau arwyddocaol eraill y mae'r polisi hwn yn effeithio arnynt gymhwyso'r prawf dilyniannol os na ellir cynnwys y cynnig mewn dinas neu ganol tref.

Pryd fydd Parthau Gweithredu Telathrebu Symudol yn cael eu sefydlu ac ymhle y byddant?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sefydlu lleoliad y parthau a bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd nesaf i gwblhau eu hunion leoliad. Bydd y rhan fwyaf o Barthau Gweithredu Telathrebu Symudol mewn ardaloedd lle nad oes darpariaeth 4G gan unrhyw ddarparwr rhwydwaith symudol ond lle mae galw 'nas bodlonir' fel cartrefi, busnesau, ffyrdd, rheilffyrdd, safleoedd cymunedol a thwristiaeth.

Beth mae ‘band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit' yn ei olygu yng nghyd-destun Polisi 13 Cymru’r Dyfodol?

Mae ‘band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit' yn derm a ddefnyddir i gyfeirio at gysylltedd band eang cyflym a ddarperir fel arfer gan dechnoleg cysylltiad ffeibr i'r adeilad (FTTP), er y gall technolegau eraill hefyd sicrhau cyflymderau tebyg. Mae FTTP yn gallu darparu 1000 Mbps (neu 1 gigabit) a thu hwnt, er bod cyflymderau gwirioneddol yn dibynnu ar y gwasanaeth rhyngrwyd a ddarperir.

Mae Cymru’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd datblygu gael o leiaf ‘band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit’ sy'n golygu gosod pibelli ar gyfer cludo band eang ochr yn ochr â gwasanaethau hanfodol eraill. Mae gosod pibelli yn sicrhau bod band eang ffeibr ar gael ac y gellir ei osod yn hawdd a’i gysylltu â’r adeilad. Weithiau gall mathau eraill o fand eang fod yn briodol megis mynediad di-wifr sefydlog.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd datblygwyr yn cofrestru gyda darparwr rhwydwaith band eang (er enghraifft Openreach) i drefnu i ddarparu seilwaith band eang a fydd yn cynnwys gosod pibelli ar gyfer cludo band eang a ffeibr os yw ar gael. Dylai datblygwyr hysbysu darparwr rhwydwaith band eang yn gynnar yn y broses ddatblygu, fel y gellir eu cynghori ar sut a phryd y caiff seilwaith ei ymgorffori ar y safle datblygu.

Mae'r testun ategol i Bolisi 2 Cymru’r Dyfodol yn dweud y ‘dylai datblygiadau newydd mewn ardaloedd trefol anelu at ddwysedd o 50 o anheddau fesul hectar (net) o leiaf, gyda dwyseddau uwch mewn lleoliadau mwy canolog a hygyrch'.

A yw hyn yn golygu bod 50 o anheddau yr hectar yn isafswm y mae'n rhaid ei gyflawni ar bob safle?

Nac ydy. Nid yw 50 o anheddau yr hectar yn darged, ond mae'n cynrychioli lefel a all gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau lleol drwy greu màs critigol. Mae Polisi 2 yn nodi bod cynyddu dwysedd y boblogaeth yn egwyddor strategol ar gyfer gwneud lleoedd. Awdurdodau cynllunio lleol sydd yn y sefyllfa orau i ystyried cyd-destun lleol a safle unrhyw ddatblygiad penodol ac i bennu dwysedd priodol ar gyfer y datblygiad sy'n ei alluogi i gyflawni yn unol â’r egwyddorion creu lleoedd. Gellir gweld arweiniad pellach ar ystyried dwyseddau priodol yn y Canllaw Dadansoddi Safle a Chyd-destun Canllawiau ar Ddadansoddi Safleoedd a Chyd-destun: Pennu gwerth safle.

Ble ca i weld Cymru’r Dyfodol?

Mae Cymru’r Dyfodol ar gael ichi ei weld.

Ble ca i wybod mwy am sut cafodd Cymru’r Dyfodol ei baratoi?

Disgrifir y drefn ar gyfer paratoi a newid Cymru’r Dyfodol yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (fel y’i diwygir gan Ddeddf Gynllunio (Cymru) 2015).

Mae Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd yn nodi’r amserlen a’r drefn ar gyfer paratoi Cymru’r Dyfodol.

Mae’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a'r Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd yn disgrifio’r broses asesu a fu’n sail ar gyfer paratoi Cymru’r Dyfodol.

Mae’r Casgliad o Dystiolaeth yn disgrifio’r dystiolaeth a gafodd ei defnyddio wrth baratoi Cymru’r Dyfodol.

Fe welwch amrywiaeth o wybodaeth amdano ar dudalennau Cymru’r Dyfodol.

Sut alla i gael newyddion am Cymru’r Dyfodol?

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Cymru'r Dyfodol