Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bwriad y canllaw hwn yw helpu cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru i gyhoeddi eu data'n agored ac i'w wneud mor hygyrch â phosibl fel ei fod ar gael i'w ailddefnyddio.

Data agored yw data sydd ar gael yn rhwydd i bawb cael ato, ei ddefnyddio a'i rannu*

* Ond rhaid ei fod wedi'i gyhoeddi o dan drwydded agored

Dylech wastad cyhoeddi pob data yn agored oni bai bod rhesymau dros beidio.

Mae Sbectrwm Data'r Sefydliad Data Agored (ODI) yn esbonio pa ddata sydd ddim yn addas ar gyfer ei gyhoeddi fel data agored. Mae wedi creu cynrychioliad gweledol o ddata agored, data wedi'i rannu a data caeedig a'r cyfyngiadau o ran pwy all eu gweld. Os oes cyfyngiadau, efallai y gallech rannu data gydag unigolion/sefydliadau eraill cyn belled â'ch bod yn bodloni rhai amodau.

Image
© Open Data Institute (ODI)

Yn y canllaw hwn, mae data agored yn golygu data sector cyhoeddus nad yw'n fasnachol sensitif ac nad oes modd nabod pobl trwyddo. Felly, peidiwch â chyhoeddi'r canlynol fel data agored:

  • Unrhyw ddata personol neu sensitif
  • Unrhyw ddata nad ydych yn berchen arno
  • Unrhyw ddata dan hawlfraint lle nad ydych wedi cael caniatâd i'w gyhoeddi

Rydym yn annog sefydliadau i wneud eu data agored mor rhwydd ei weld â phosibl. Mae'r cynllun sgorio 5 seren canlynol, a ddatblygwyd gan Syr Tim Berners-Lee, yn rhoi syniad o'r lefelau gwahanol o fod yn agored. Argymhellir bod sefydliadau  yn anelu at gyhoeddi eu data ar o leiaf y lefel 3 seren.

Cynllun sgorio 5 Seren

1 seren - Gosod eich data fel ei fod ar gael ar-lein (beth bynnag yw'r fformat) o dan drwydded agored

2 seren - Gosod eich data fel ei fod ar gael fel data wedi'i strwythuro ond mewn fformat perchenogol h.y. yn eiddo i gwmni masnachol (e.e. Excel yn lle tabl wedi'i sganio)

3 seren - Gosod eich data mewn fformat agored heb fod yn berchenogol (e.g. CSV yn ogystal ag Excel)

4 seren - Yn defnyddio dynodwyr (URIs) i gyfeirio at bethau, er mwyn i bobl allu pwyntio at eich data

5 seren - Cysylltu'ch data â data arall i roi cyd-destun

Canllaw i bwy yw hwn?

Er mai canllaw ar gyfer cyrff y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yw hwn yn bennaf, gall fod yn berthnasol i sefydliadau'r Trydydd Sector, y Sector Academaidd a'r Sector Preifat yng Nghymru hefyd.

Mae'r canllaw hwn wedi'i lunio ar gyfer cyhoeddwyr a darpar gyhoeddwyr data agored. Ei nod yw helpu sefydliadau i gyhoeddi'r setiau data a ddisgrifir ynddo, ac unrhyw ddata arall y maen nhw am ei gyhoeddi fel data agored.

Pam cyhoeddi data agored?

Mae gan gyrff y Sector Cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau bod eu data'n agored. Mae manteision mawr o wneud hyn, gan gynnwys:

Bod yn fwy agored, mwy tryloyw a mwy atebol

Helpu pobl i ddeall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, ble mae arian yn cael ei wario a pha mor dda y mae sefydliadau'n gwneud eu gwaith.

Gwella gwasanaethau

Helpu i gynllunio a thargedu gwasanaethau'n well fel eu bod yn diwallu anghenion pobl.

Arloesi a thwf economaidd

Trwy gynyddu faint o ddata sydd ar gael, gallwch gynyddu'r cyfleoedd ddaw i sbarduno arloesedd. Mae hynny yn ei dro yn helpu'r economi i dyfu.

Gwella ansawdd data

Bydd camgymeriadau'n fwy tebygol o gael eu gweld gan arwain at wella ansawdd data.

Gwneud penderfyniadau gwell

Fel bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.

Arbedion trwy fod yn effeithlon

Helpu i arbed amser ac arian drwy symleiddio prosesau. Bydd yn lleihau ceisiadau am ddata.

Pa setiau data y dylwn eu cyhoeddi'n agored?

Argymhellir bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn cyhoeddi'r data canlynol yn agored yn rheolaidd:

  1. Siart o'r sefydliad
  2. Cyflog uwch reolwyr
  3. Data Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  4. Data'r Gymraeg
  5. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
  6. Gwariant sy'n fwy na (£500)
  7. Trafodion cardiau caffael y llywodraeth
  8. Gwybodaeth gaffael am gontractau

1. Siartiau o'r sefydliad

Dylai sefydliadau gyhoeddi siart o staff o leiaf 3 lefel uchaf y sefydliad. Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys ar gyfer pob aelod o staff yn y siart:

  • gradd
  • teitl y swydd
  • adran a thîm
  • parhaol ynteu dros dro
  • manylion cyswllt

2. Cyflog uwch reolwyr

Dylech gyhoeddi o leiaf yr wybodaeth ganlynol, yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:

  • nifer y gweithwyr gafodd eu talu o leiaf £60,000 y flwyddyn honno
  • manylion tâl a theitl swydd rhai o'r uwch gyflogeion sy'n ennill o leiaf £60,000 o gyflog, a
  • rhaid enwi'r cyflogeion sy'n ennill £150,000 o gyflog neu fwy

Pwysig: ar gyfer gweithwyr neu swyddogion sy'n gweithio'n rhan amser neu dros dro, dylid lleihau'r symiau £60,000 a £150,000 pro rata.

3. Data Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae gofyn i sefydliadau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gyhoeddi data cydraddoldeb bob blwyddyn. Dylai sefydliadau gyhoeddi gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig canlynol eu gweithlu:

  • ailbennu rhywedd
  • anabledd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • crefydd neu gred
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hil
  • oedran
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • rhyw

4. Data'r Gymraeg

Dylai sefydliadau sy'n gorfod bodloni safonau Cymraeg gyhoeddi data ynghylch yr hysbysiadau cydymffurfio y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi'u rhoi iddyn nhw.

Bob blwyddyn, dylai sefydliadau gyhoeddi gwybodaeth am sgiliau llafar, gwrando, darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg eu gweithwyr.

  • nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg yn ôl lefel eu gallu
  • canran y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg yn ôl lefel eu gallu
  • y fframwaith asesu sgiliau Cymraeg sy'n cael ei ddefnyddio

5. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi'r hawl i'r cyhoedd weld unrhyw wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Felly mae angen i sefydliadau gyhoeddi'r wybodaeth ganlynol:

  • dyddiad y daeth y cais i law
  • yr wybodaeth y gofynnwyd amdani
  • yr ymateb
  • dyddiad yr ymateb

6. Gwariant sy'n fwy na (£500)

Dylai sefydliadau gyhoeddi manylion pob eitem unigol o wariant sy'n fwy na £500. Eitemau o wariant fel:

  • anfonebau unigol
  • talu grant
  • talu costau
  • talu am nwyddau a gwasanaethau
  • grantiau
  • cymorth grant
  • rhent
  • nodiadau credyd dros £500, a
  • trafodion â chyrff cyhoeddus eraill

Ar gyfer pob eitem unigol o wariant, dylid cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol:

  • dyddiad y gwariant
  • adran sy'n ysgwyddo'r gwariant
  • pwy sy'n cael ei dalu
  • crynodeb o bwrpas y gwariant
  • swm
  • Treth ar Werth na ellir ei hadennill, a
  • categori'r masnachwr (e.e. cyfrifiaduron, meddalwedd ac ati)

7. Trafodion cardiau caffael y Llywodraeth

Dylai sefydliadau gyhoeddi manylion pob trafodiad ar Gerdyn Caffael y Llywodraeth. Ar gyfer pob trafodiad, dylid cyhoeddi'r manylion canlynol:

  • dyddiad y trafodiad
  • adran sy'n ysgwyddo'r gwariant
  • pwy sy'n cael ei dalu
  • swm
  • Treth ar Werth na ellir ei hadennill
  • crynodeb o bwrpas y gwariant, a
  • categori'r masnachwr (e.e. cyfrifiaduron, meddalwedd ac ati)

8. Gwybodaeth am gaffael

Wrth gyhoeddi data am gaffael, dylai cyrff yn sector cyhoeddus datganoledig Cymru gyhoeddi gwybodaeth am dryloywder drwy GwerthwchiGymru gan ddilyn y Safon Data Contractio Agored (OCDS).

Ceir canllawiau pellach yn WPPN 01/24: Tryloywder – Cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contractau.

Sut i gyhoeddi data’n agored?

Y prif gamau ar gyfer cyhoeddi data'n agored yw:

  1. Defnyddio fformat agored hygyrch i gyhoeddi'ch data
  2. Trefnu'ch data'n glir
  3. Darparu metadata
  4. Defnyddio trwydded agored
  5. Gofalu bod eich data ar gael

1. Defnyddio fformat agored hygyrch

Wrth fformatio'ch data, gofalwch eich bod yn ei drefnu'n dda a lle medrwch, sicrhau ei fod ar gael mewn fformat agored er mwyn ei wneud mor rhwydd â phosibl i bobl gael ato. Yn ddelfrydol, dylech hefyd geisio sicrhau bod eich data ar gael mewn fformat y gall peiriant ei ddarllen.

Enw arall ar fformat agored yw fformat 'diberchennog', na fydd angen defnyddio meddalwedd drwyddedig sy'n eiddo i gwmni i gael gweld y data. Mae'n well defnyddio fformatau agored gan y gall fformatau 'perchenogol', fel Microsoft Excel, gyfyngu ar allu pobl i weld y data sydd wedi'i storio yn y fformat hwnnw.

Mae fformat y gall peiriant ei ddarllen yn golygu rhoi data mewn fformat strwythuredig fel y gall cyfrifiadur ei brosesu'n awtomatig gan ddefnyddio cod.

Pa fformat agored ddylwn i ei ddefnyddio?

Bydd y fformat agored mwyaf priodol i'w ddefnyddio yn dibynnu ar y math o ddata rydych chi'n bwriadu ei gyhoeddi. Mae'r canlynol yn darparu rhai o'r fformatau agored sydd ar gael ar gyfer gwahanol fathau o ddata:

Data mewn tabl

Y strwythur mwyaf cyffredin ar gyfer rhoi data yw'r tabl. Trefnir y data'n rhesi a cholofnau sy'n rhestru gwerthoedd, fel gwariant.

Mae fformatau agored yn cynnwys ODS a CSV.

Data cymhleth

Dyma lle ceir perthynas rhwng pwyntiau data gwahanol. Mae data geo-ofodol yn enghraifft dda o ddata cymhleth.

Mae fformatau agored yn cynnwys JSON, XML, KML, GML a GeoJSON.

Data ar ffurf testun

Dyma ddata a gyflwynir ar ffurf geiriau, brawddegau a pharagraffau, fel canllawiau ac adroddiadau.

Mae fformatau agored yn cynnwys ODT, ODP a HTML.

Delweddau

Data graffigol neu ddarluniadol.

Mae fformatau agored yn cynnwys: JPEG 2000 a PNG.

Sain

Data sain neu awdio.

Mae fformatau agored yn cynnwys: FLAC ac ogg.

Fideo

Data sydd wedi'i ffurfio o gyfres o ddelweddau symudol.

Mae fformatau agored yn cynnwys MPEG-4 / MP4, WebM a MKV.

2. Trefnu'ch data'n glir

Pa fath bynnag o ddata rydych chi'n ei gyhoeddi, mae'n bwysig ei drefnu'n dda. Mae hynny'n golygu gosod y data allan yn glir fel ei fod yn hawdd ei ddefnyddio a'i ddeall.

Mae'n bwysig eich bod yn trefnu'r data mewn ffordd gyson fel ei fod yn bodloni safonau data perthnasol. Bydd cadw at safonau data y cytunwyd arnynt wrth drefnu'ch data yn sicrhau bod y data'n hawdd ei ddeall, ei ddefnyddio a'i rannu. Yn ogystal â safonau data trawsbynciol, megis fformatio dyddiadau ac amser, mae safonau penodol hefyd i bynciau, megis safonau data sy'n ymwneud â gofal iechyd a chontractio. Mae rhagor o wybodaeth am safonau agored ar gyfer data llywodraeth y DU ar gael ar GOV.UK.

Ceisiwch fod yn gyson wrth drefnu'ch data. Os medrwch, wrth ddiweddaru'r data, peidiwch â newid trefn/fformat y data. Felly, er enghraifft, ceisiwch beidio â newid enwau eich eitemau / meysydd data na'u trefn.

3. Darparu metadata

Mae metadata yn wybodaeth ddisgrifiadol sy'n helpu defnyddwyr i ddeall eich data yn well a'i ddefnyddio'n effeithiol. Mae'n rhoi gwybod i bobl pwy gynhyrchodd y data a phryd, pa mor aml y caiff ei ddiweddaru ac am unrhyw gyfyngiadau y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ohonynt. Gall hefyd helpu i wneud data'n haws cael hyd iddo.

Bydd faint o fetadata a lefel y manylion a gyflwynwch ochr yn ochr â'ch data yn amrywio gan ddibynnu ar y data ei hun a'r defnydd a fwriadwyd.

Lle bo'n briodol, fe'ch cynghorir i ddefnyddio safon metadata cydnabyddedig i sicrhau cysondeb yn y metadata a gyflwynir. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn ymarferol, dylech o leiaf ddarparu'r metadata canlynol, sy'n ymddangos yn y rhan fwyaf o safonau metadata, ochr yn ochr â'ch data:

Elfennau metadata

Teitl

Teitl clir, hawdd ei ddeall.

Er enghraifft, 'Adeiladau rhestredig yng Nghymru, 2023'.

Crynodeb

Crynodeb – Disgrifiad byr o'r hyn mae'ch data yn ei ddangos

Er enghraifft, 'Mae'r set ddata hon yn dangos lleoliad adeiladau a strwythurau o bwys cenedlaethol sy'n cael eu gwarchod trwy'r gyfraith drwy gael eu rhoi ar 'Restr' o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig.'

Nodiadau

Nodiadau am gyfyngiadau'r data, a fydd y data'n cael ei adolygu neu ei addasu, pa mor aml bydd y data yn cael ei ddiweddaru ac ati.

Er enghraifft, 'Mae rhestru adeiladau a strwythurau yn broses ddi-dor. Gellir tynnu adeiladau a strwythurau o'r Rhestr hefyd mewn proses o'r enw 'Dad-restru'. Rhag ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr chwilio am y fersiwn ddiweddaraf o'r data.'

Cyhoeddwyd gan

Y sefydliad a/neu'r tîm sy'n gyfrifol am y data a gyhoeddwyd.

Er enghraifft, 'Cadw - Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru'.

Manylion cysylltu

Manylion y bobl i gysylltu â nhw os oes gan ddefnyddwyr ymholiadau am y data.

Er enghraifft, 'CADW@gov.cymru'.

Diweddarwyd ddiwethaf

Pryd cafodd y data ei ddiweddaru ddiwethaf.

Er enghraifft, 05 Mehefin 2023.

Trwydded

Enw'r drwydded y mae'r data ar gael drwyddi.

Er enghraifft, 'Trwydded Llywodraeth Agored (OGL)'.

Geiriau allweddol

Geiriau a ddefnyddir yn gyffredin mewn perthynas â'r data sy'n cael ei gyhoeddi.

Er enghraifft, 'Adeiladau rhestredig, adeiladau hanesyddol, amgylchedd hanesyddol'.

Safonau metadata: pa un i'w ddefnyddio?

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio safon metadata, wrth benderfynu pa un i gadw ati, mae angen i chi ystyried a oes unrhyw ofynion statudol neu anstatudol sy'n dweud bod rhaid cadw at safon metadata benodol.

Er enghraifft, mae Cyfarwyddeb INSPIRE yr UE yn mynnu'ch bod yn casglu metadata ar gyfer data gofodol sy'n bodloni gofynion penodol. Felly, byddai angen defnyddio safon fel safon metadata UK GEMINI gan ei bod yn ateb gofynion INSPIRE.

Os ydych chi'n bwriadu cyhoeddi'ch data ar blatfform / gwefan gyhoeddi, efallai y bydd gofyn cadw at safon metaddata benodol.

Os na fydd unrhyw un o'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i chi wrth ddewis y safon fwyaf priodol i'w defnyddio, ystyriwch pa wybodaeth y gallai fod ei hangen ar bobl i ddod o hyd i'ch data, ei ddeall a'i ddefnyddio.

Lle bo'n briodol, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio un o'r safonau metadata canlynol:

DCAT

Mae DCAT (Data Catalog Vocabulary) yn diffinio ffordd safonol o gyhoeddi metadata y gall peiriant ei ddarllen am set ddata.

Dublin Core

Mae Dublin Core yn safon metadata gyffredin a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth o adnoddau ffisegol a digidol.

UK GEMINI

UK GEMINI (GEo-spatial Metadata INteroperability Initiative) yw safon metadata daearyddol y DU.

4. Defnyddio trwydded agored

Mae data a gwybodaeth yn ddarostyngedig i hawlfraint. Rhaid i delerau ac amodau ar gyfer ailddefnyddio data agored gael eu nodi'n glir. Gall hyn fod ar ffurf trwydded fel y Drwydded Llywodraeth Agored neu gall fod ar ffurf datganiad a gyhoeddir gan berchennog yr hawlfraint. Mae hyn yn esbonio i ddefnyddwyr sut y gallant ailddefnyddio'r data.

Os nad ydych yn siŵr pa drwydded i weithredu neu sut i ysgrifennu datganiad hawlfraint, gofynnwch am gyngor gan eich sefydliad eich hun.

Pa drwydded i'w defnyddio?

Y drwydded agored ddiofyn ar gyfer cyrff cyhoeddus yw Trwydded Llywodraeth Agored (OGL). Mae'r drwydded yn nodi'r telerau ac amodau ailddefnyddio 

Mae rhagor o wybodaeth am yr OGL a sut i'w weithredu ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol.

Gwybodaeth arall am drwyddedau agored

Os nad yw'r OGL yn ateb y gofyn, mae trwyddedau agored eraill ar gael. Mae'r Sefydliad Data Agored (ODI) yn argymell y dylech ddewis trwydded sy'n cefnogi'ch model busnes data agored. I'ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa fath o drwydded agored sydd fwyaf addas ar gyfer eich data, mae gwefan ODI yn darparu dau ganllaw cynhwysfawr:

Publisher’s Guide to Open Data Licensing – Open Data Institute (ODI)

Reuser’s Guide to Open Data Licensing – Open Data Institute (ODI)

5. Gofalu bod eich data ar gael

Dylech gyhoeddi'ch data ar eich gwefan eich hun neu ar blatfform cyhoeddi penodol. Hefyd, er mwyn gallu cael at eich data'n rhwydd, dylid ystyried y Gymraeg a safonau hygyrchedd hefyd.

Y Gymraeg

Wrth gyhoeddi'ch data, rhaid i chi ystyried dyletswyddau'ch sefydliad o ran y Gymraeg. Er efallai nad oes gofyn i chi gyhoeddi'ch data yn y ddwy iaith, rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod eich data a'ch metadata ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Bydd angen ystyried sut orau i gyflwyno'r data a'r metadata yn ddwyieithog fesul achos. Mae'n well gosod y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr â'i gilydd, os medrwch. Ond weithiau, nid hwnnw yw'r opsiwn gorau wrth gyflwyno data manwl a/neu gymhleth. Er enghraifft, os ydych chi'n cyflwyno data manwl gyda llawer o fetadata ar ffurf taenlen, efallai y byddai'r data'n haws ei ddarllen a'i ddeall pe baech yn cyflwyno'r Gymraeg a'r Saesneg ar wahanol daflenni neu lyfrau gwaith.

Felly, wrth gyflwyno data dwyieithog, dylech ystyried pa mor gymhleth a manwl yw'ch data a beth yw'r opsiwn gorau ar gyfer gwneud eich data mor hygyrch a hawdd ei ailddefnyddio â phosibl i ddefnyddwyr.

Un adnodd a allai fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i gyflwyno'ch data a'ch metadata yn ddwyieithog yw gwefan cyfieithwyr Llywodraeth Cymru, BydTermCymru.

Safonau hygyrchedd

Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus gymryd y camau angenrheidiol i wneud eu gwefannau a'u cymwysiadau ar gyfer dyfeisiau symudol yn fwy hygyrch trwy sicrhau bod modd eu gweld, eu gweithio a'u deall a'u bod yn wydn, oni bai y byddai'n anymarferol gwneud hynny.

Er mai dim ond i wefannau a chymwysiadau y mae'r rheoliadau'n gymwys, mae'r holl gysyniad o ddata agored yn seiliedig ar wneud data yn hygyrch i bawb trwy ei wneud yn rhwydd i bawb ei ddefnyddio. Felly, dylid ystyried sut a ble rydych yn cyhoeddi'ch data fel ei fod mor hygyrch â phosibl.

Ble i gyhoeddi data agored?

Yn gyffredinol, mae dau opsiwn ar gyfer cyhoeddi'ch data yn agored:

  • Defnyddio'ch gwefan bresennol
  • Defnyddio platfform cyhoeddi

Yr opsiwn symlaf a mwyaf cost-effeithiol, yn enwedig os dim ond ychydig o setiau data sydd gennych, yw cyhoeddi'ch data ar wefan sy'n bod eisoes. Ond cofiwch, mae'n bosibl y bydd dewis yr opsiwn hwn yn golygu na fydd eich data mor hygyrch. Bydd gofyn i chi hefyd ystyried sut y byddwch yn diweddaru'ch data a sut i reoli'r nifer cynyddol o setiau data y byddwch yn eu cynhyrchu.

Mae defnyddio platfform cyhoeddi yn ei gwneud yn haws cael hyd i'ch data a defnyddio'ch data. Gwefannau yn y bôn yw platfformau cyhoeddi lle mae data'n cael ei osod i bobl chwilio amdano a'i lawrlwytho. Mae rhai o'r platfformau hyn yn gallu cael eu darllen hefyd gan beiriant.

Os byddwch yn dewis defnyddio platfform cyhoeddi, dyma'r dewis:

  • Defnyddio platfform cyhoeddi sy'n bod eisoes
  • Prynu platfform cyhoeddi data agored
  • Datblygu'ch platfform cyhoeddi eich hun

Lle medrwch, dylech ddefnyddio platfform sy'n bod eisoes. O safbwynt y defnyddiwr, lleia'n y byd o blatfformau cyhoeddi sydd, hawsa'n y byd yw cael hyd i'r data agored sydd ei angen. Mae ailddefnyddio platfformau sy'n bod eisoes yn arbed costau ac adnoddau.

Os nad oes platfform addas ar gael, mae yna blatfformau data agored y gellir eu prynu a allai fod yn fwy cost effeithiol na datblygu'ch platfform eich hun.

Pa blatfform cyhoeddi ddylwn i ei ddefnyddio?

MapDataCymru

Mae MapDataCymru yn blatfform cyhoeddi geo-ofodol dibynadwy ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gellir cael at ddata'n uniongyrchol hefyd trwy APIs. Maen nhw'n cynnal data geo-ofodol.

Cyswllt: Data@gov.wales

Data Agored Cymru

Mae Data Agored Cymru yn wefan i gyrff y sector cyhoeddus gyhoeddi eu data agored. Mae'n cynnal data ar ffurf tablau

Cyswllt: Enquiries@data.cymru

StatsCymru

Mae StatsCymru yn blatfform cyhoeddi ar gyfer ystadegau swyddogol a chenedlaethol, a data rheoli. Mae'r platfform yn caniatáu i ddefnyddwyr drin a gweld data trwy ddeunydd wedi'i lawrlwytho ac APIs. Mae'n cynnal data ar ffurf tablau.

Cysylltwch â: stats.web@gov.wales

Wrth ddewis pa blatfform sydd orau i chi, efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • A oes platfform sy'n cyhoeddi data agored yn eich sector/pwnc/data chi?
  • A oes unrhyw gostau ynghlwm wrth ddefnyddio'r platfform am y tro cyntaf ac wedi hynny?
  • A yw'r platfform yn gwneud yr holl bethau sydd eu hangen arnoch?
  • A yw'n gosod unrhyw gyfyngiadau megis mathau o ddata a safonau metadata?
  • Ydy'r platfform yn gynaliadwy? Ydych chi'n hyderus y bydd yn dal i fod ar gael?
  • Pa mor hawdd yw hi i chi lanlwytho'ch data i'r platfform?
  • A yw'r platfform yn cydymffurfio â safonau'ch sefydliad?