Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Hydref 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 478 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym wedi ymgynghori ddwy waith o'r blaen ar y canllaw hwn ar dargedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio. Nawr, hoffem gael eich barn derfynol chi ar y canllaw drafft.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Gorchymyn Targedau Ailgylchu Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Diffiniadau) (Cymru) 2011 yn diffinio targedau ailgylchu paratoi i ailddefnyddio a chompostio ar gyfer y targedau yn adran 3 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010.
Yn Rheoliadau Targedau Ailgylchu Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 yn disgrifio sut bydd cydymffurfio â thargedau’n cael ei fonitro. Hefyd mae’n disgrifio’r cosbau ariannol sy’n wynebu defnyddiwr os nad yw’r defnyddiwr yn bodloni’r amodau.
Paratoir y Canllaw hwn o dan adran 7 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2011. Mae’n cefnogi’r diffiniadau yn y Gorchymyn a’r drefn fonitro sydd wedi’i phennu o dan reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau.