Gwnaeth Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, ymweld ag Aberystwyth heddiw i agor adeiladau’r Ganolfan Bioburo a’r Biofanc Hadau newydd ar Gampws Arloesi a Menter y Brifysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyhoeddodd Mr Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru, fuddsoddiad o £3.7m gan yr UE i ymestyn y rhaglen bio-economi BEACON tan 2022. Mae’r rhaglen hon wedi ennill gwobrau ac mae’n cael ei harwain gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r cyllid hwn yn caniatáu i Brifysgol De Cymru ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe fel partner newydd, gan ddod â rhagor o wybodaeth ac arbenigedd i'r prosiect, a sicrhau manteision ehangach a fydd yn cyrraedd gweddill Cymru a thu hwnt.

Mae tîm BEACON yn dwyn ynghyd bartneriaid busnes ac academaidd er mwyn troi gwaith ymchwil yn gynnyrch arloesol. Bydd technoleg ffisegol, gemegol a fiolegol yn cael ei defnyddio er mwyn trawsnewid adnoddau sy’n deillio o Gymru neu sydd wedi'u tyfu yma, fel planhigion a gwastraff biolegol, yn gynnyrch terfynol defnyddiol gan gynnwys plastigau, deunyddiau adnewyddadwy, tanwyddau a chemegau arbenigol drwy broses bioburo.

Drwy'r prosiect hwn, gellir trawsnewid cnydau ynni fel rhyg, sy'n laswellt siwgraidd iawn, yn fiodanwyddau. Gellir hefyd addasu deilliadau planhigion a micro-organebau at ddibenion gwahanol i greu cemegau neu ddeunyddiau adeiladu i'w defnyddio yn yr economïau sy'n ymwneud â fferylliaeth, trafnidiaeth, eco-adeiladu, ynni a gofal iechyd.

Yn ogystal â gwaith ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar fioburo, bydd Prifysgol Bangor yn gweithio ar blastig a deunydd pacio sy’n seiliedig ar ddeunyddiau biolegol, bydd Prifysgol Abertawe yn parhau â'i gwaith ym maes Gwyddorau Bywyd, a bydd Prifysgol De Cymru yn canolbwyntio ar ymchwil i’r broses ehangach lle mae bacteria a ffwng yn treulio deunydd planhigion yn y broses bioburo, a’r deunydd hwnnw yn ymweithio.

Bydd £440,000 arall o gyllid gan yr UE yn ymestyn prosiect BEACON ledled Cymru, gan fynd i'r afael â heriau lleol penodol, yn ogystal â chysylltu â phartneriaid newydd a gwneud defnydd llawn o adnoddau naturiol penodol i ardal.

Gyda'i gilydd, bydd tua 140 o fusnesau yng Nghymru yn elwa ar yr estyniad i'r prosiect.

Dywedodd Mr Miles:

"Mae'r prosiect hwn yn ehangu ein dealltwriaeth o'r defnydd o adnoddau naturiol sydd ar gael yn rhwydd neu y gellir eu tyfu yng Nghymru, yn ogystal â gwastraff sydd wedi deillio o gynhyrchu bwyd a thechnegau rheoli cadwraeth, i ddatblygu cynnyrch newydd. Mae hi'n ffordd hynod arloesol o roi technolegau gwyrdd ar waith yng Nghymru a rhoi hwb i gadernid lleol drwy ailgylchu ac addasu adnoddau naturiol at ddibenion gwahanol.

“Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac adfer cydbwysedd yn economi Cymru. Mae Cymru yn arwain arloesedd ac ymchwil o'r radd flaenaf mewn perthynas ag economi garbon isel, ac mae gan Brifysgolion Cymru le i fod yn falch eu bod yn rhan o ymchwil academaidd flaengar i fioburo a'r bio-economi.

"Mae'r cyllid hwn gan yr UE yn galluogi cynnydd hanfodol mewn perthynas ag ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, seilwaith a sgiliau yng Nghymru, yn ogystal â hybu twf economaidd a chreu swyddi newydd. Mae hi'n bwysig iawn bod y cyllid hwn yn parhau, er mwyn caniatáu i Gymru arwain ar ymchwil ar systemau technoleg sy'n gallu rhedeg ar ychydig iawn o bŵer, ac i sicrhau Cymru fwy cyfartal, fwy ffyniannus a gwyrddach."

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr BEACON:

"Mae'r cyllid estynedig hwn yn dangos ymddiriedaeth yn BEACON, sydd wedi gweithio'n llwyddiannus gyda chwmnïau o Gymru i dyfu'r economi werdd ers 2010.

"Yn sgil newid yn yr hinsawdd, rhaid inni drawsnewid ein heconomi o un sy'n seiliedig ar danwyddau ffosil i economi sy'n seiliedig ar ddefnyddiau crai naturiol, a bydd arnom angen creu 'economi gylchol' hefyd.

"Mewn economi gylchol, rydym yn ystyried gwastraff fel adnoddau ac rydym yn dylunio cynnyrch a phrosesau sy'n caniatáu i ddeunyddiau ddal i gael eu defnyddio neu gael eu hailgylchu yn hytrach na chael eu taflu.

"Mae economi sy'n seiliedig ar ddefnyddiau crai naturiol yn cynnig cyfle gwych i ardaloedd gwledig Cymru, a bydd hyn yn caniatáu i ffermwyr arallgyfeirio y tu hwnt i gynhyrchu bwyd."