Neidio i'r prif gynnwy

2. Pympiau gwres ffynhonnell daear: pympiau gwres (annomestig)

Gosod pwmp gwres o’r ddaear ar diroedd adeilad annomestig

Rhaid cadw at yr holl amodau a ganlyn:

  • pan na fydd eu hangen bellach ar gyfer microgynhyrchu, dylai pympiau gael eu symud cyn gynted â phosibl a dylai'r tir, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, gael ei adfer i'w gyflwr cyn i'r datblygiad ddigwydd, neu i gyflwr y cytunwyd arno'n ysgrifenedig rhwng yr awdurdod cynllunio lleol a'r datblygwr
  • ni ddylai cyfanswm arwynebedd y cloddio fod yn fwy na 0.5 hectar
  • dim ond un pwmp gwres o’r ddaear y dylid ei gael o fewn y cwrtil
  • ni ddylai’r system fedru cynhyrchu mwy na 45kW o wres.

Bydd angen cael caniatâd cynllunio er mwyn gosod pwmp gwres o’r ddaear o fewn cwrtil adeilad rhestredig, neu ar safle a ddynodwyd yn heneb gofrestredig.