Neidio i'r prif gynnwy

3. Gosodiadau panel solar arunig ar dir adeilad annomestig

Rhaid cadw at yr holl amodau a ganlyn:

  • cyhyd ag y bo’n ymarferol, dylid lleoli paneli mewn man sy’n golygu eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar amwynder yr ardal
  • dylid lleoli’r paneli, hyd y gellir, mewn modd sy’n sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith gan lewyrch neu ddisgleirdeb
  • dylid eu tynnu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd eu hangen bellach i gynhyrchu ynni.

Rhaid bodloni'r holl gyfyngiadau a ganlyn:

  • ni chaniateir i baneli solar fod o fewn 3km i faes awyr neu faes glanio
  • dim ond y gosodiad solar cyntaf sy’n sefyll ar ei ben ei hun fydd yn ddatblygiad a ganiateir. Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosodiadau pellach.
  • ni ddylai unrhyw ran o'r gosodiad fod yn uwch na 4 metr,
  • dylai'r gosodiad fod o leiaf 5m o ffin yr eiddo.
  • ni ddylai maint yr holl osodiadau gyda’i gilydd fod yn fwy na 9 metr sgwâr neu 3m o led a 3m o ddyfnder.
  • ni ddylai paneli gael eu gosod o fewn ffin adeilad rhestredig neu heneb gofrestredig.
  • os yw'r eiddo o fewn ardal ddynodedig*, ni ddylai unrhyw ran o'r gosodiad solar fod yn agosach at unrhyw briffordd sy'n ffinio â thir yr eiddo na’r rhan o'r adeilad sydd agosaf at y briffordd honno.
  • ni ddylai’r system fedru cynhyrchu mwy na 45kW o wres neu 50kW o drydan.

* Mae tir dynodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Sylwer - Os ydych yn lesddeiliad, efallai y bydd angen ichi gael caniatâd eich landlord, eich rhydd-ddeiliad neu gwmni rheoli.