Neidio i'r prif gynnwy

8. Rwyf am osod dysgl lloeren ar gyfer fy fflat

Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod dysgl lloeren ar eich fflat neu'ch maisonette.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am ganiatâd cynllunio sy'n ymwneud â dysglau lloeren.

Os ydych yn lesddeiliad, efallai y bydd arnoch angen cael caniatâd eich landlord, eich rhydd-ddeiliad neu'ch cwmni rheoli.

Os yw eich fflat yn adeilad rhestredig, bydd arnoch angen caniatâd adeilad rhestredig, a dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith. Mae cyflawni gwaith sy'n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.