Neidio i'r prif gynnwy

6. Rwyf am baentio tu allan fy fflat

Ni fydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i beintio neu i gynnal a chadw waliau allanol eich fflat neu’ch maisonette. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, mae’r hawliau hyn wedi’u tynnu’n ôl (drwy’r hyn a elwir yn gyfarwyddyd Erthygl 4). Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr. 

Os ydych yn lesddeiliad, efallai y bydd angen ichi gael caniatâd eich landlord, eich rhydd-ddeiliad neu’ch cwmni rheoli yn gyntaf.

Os yw’ch fflat yn adeilad rhestredig, bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch oni bai eich bod yn ailbeintio’r fflat gan ddefnyddio’r lliw presennol, a dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau hynny.

Mae gwneud gwaith sy’n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.