Neidio i'r prif gynnwy

3. Rwyf am addasu tŷ (neu un fflat) yn nifer o fflatiau neu fflatiau un ystafell, neu rwyf am rannu’r lle mewn rhyw ffordd arall

Rhaid ichi gael caniatâd cynllunio i rannu tŷ yn llawer o unedau llai.

Os yw eich tŷ yn adeilad rhestredig, mae’n debygol y bydd arnoch angen caniatâd adeilad rhestredig, a dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith. Mae cyflawni gwaith sy’n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.

Os yw eich fflat mewn ardal gadwraeth ac os yw eich cynigion yn cynnwys elfen o ddymchwel, efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth, a dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor.