Yn y canllaw hwn
5. Rhestr termau
Maint ar hyd llinell syth – Mae'n golygu mesur mewn llinell syth, o un ymyl yr antena i'r ymyl sydd gyferbyn. Dylai'r mesuriad gynnwys yr antena'n unig, ac ni ddylai gynnwys unrhyw offer y mae eu hangen i'w rhoi'n sownd wrth y wal neu'r to, neu'i chysylltu â'ch cyfarpar.
Elfen borthi ymestynnol – Mewn antena sydd ar ffurf dysgl, bydd y signal sy'n cyrraedd yn cael ei dderbyn gan y ddysgl a fydd yna'n adlewyrchu'r signal i mewn i gorn porthi canolog. Fel rheol, caiff y corn ei osod yn agos i'r ddysgl (rai modfeddi i ffwrdd) a'i ddal yn ei le gan fraich neu freichiau sy'n ymestyn allan.
Capasiti ciwbig – Mae'n golygu cyfaint gwrthrych (ei faint mewn 3 dimensiwn) gan ddefnyddio dull hysbys o fesur.