Yn y canllaw hwn
2. Adeiladau rhestredig
Mae rhai adeiladau’n cael eu ‘rhestru’ oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Gall eich adran gynllunio leol ddweud wrthych a yw’r adeilad yn adeilad ‘rhestredig’ ai peidio. Os ydych yn byw mewn ‘adeilad rhestredig’ ac os ydych am osod antena ar yr adeilad, bydd angen ichi wneud cais am ‘ganiatâd adeilad rhestredig’ fel rheol. Mae’r caniatâd hwnnw’n wahanol i ganiatâd cynllunio. Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch ar gyfer unrhyw antena sy’n effeithio ar gymeriad neu olwg adeilad rhestredig neu’i leoliad.