Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rheolau sy’n ymwneud ag adeiladau allan yn berthnasol i siediau, tai gwydr a garejis yn ogystal ag adeiladau atodol eraill mewn gerddi, megis pyllau nofio, pyllau, cabanau sawna, cytiau cŵn, lleoedd caeedig (gan gynnwys cyrtiau tennis) a llawer o fathau gwahanol o strwythurau eraill sydd at ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd.

Caiff adeiladau allan eu hystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, cyhyd â’u bod yn cydymffurfio â’r amodau a’r terfynau a ganlyn:

Lleoli

  • ni chaiff adeiladau allan orchuddio mwy na 50% o gyfanswm arwynebedd y cwrtil
  • ni cheir gosod adeiladau allan o flaen llinell adeiladu prif wedd y tŷ
  • ni chaiff adeiladau allan ymestyn y tu hwnt i ochr y tŷ pe bai’r datblygiad yn agosach i’r briffordd na’r tŷ presennol, neu dylai fod o leiaf 5 metr o’r briffordd – pa un bynnag sydd agosaf
  • ni chaiff unrhyw ran o’r datblygiad sydd o fewn 2 fetr i ffin y tŷ fod yn uwch na 2.5 metr
  • ni chaiff unrhyw ran o’r datblygiad sydd o fewn 2 fetr i’r tŷ fod yn uwch na 1.5 metr.

Uchder

  • ni chaiff adeiladau allan fod yn uwch nag un llawr
  • ni chaiff adeilad allan fod yn uwch na 4 metr pan fo gan yr adeilad fwy nag un goleddf (e.e. to goleddf deuol neu do talcen slip)
  • ni chaiff fod yn uwch na 3 metr pan fo gan yr adeilad do un goleddf neu do o fath arall
  • ni chaiff adeiladau to fflat fod yn uwch na 2.5 metr
  • ni chaiff bargod yr adeilad fod yn uwch na 2.5m.

Os yw’ch eiddo mewn Parc Cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu ardal gadwraeth, mae’r cyfyngiadau isod yn berthnasol hefyd:

  • ni chaiff adeiladau allan sy’n fwy nag 20 metr o unrhyw un o waliau’ch annedd orchuddio mwy na  10 metr sgwâr
  • ni cheir gwneud unrhyw waith datblygu ar dir rhwng ochr yr annedd bresennol a ffin ochr eich eiddo.

Adeiladau rhestredig

Bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu neu i addasu unrhyw adeilad allan sydd o fewn cwrtil adeilad rhestredig.

Ferandâu, balconïau a phlatfformau 

Ni chaniateir ferandâu, balconïau na phlatfformau uchel pe byddai unrhyw ran o’r datblygiad yn uwch na 300mm o wyneb y tir islaw.

Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar fflatiau a maisonettes.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr. 

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.