Yn y canllaw hwn
3. Rwyf am godi/newid hysbysebion, arwyddion wynebfwrdd neu arwyddion ymestynnol fy siop
Bydd angen caniatâd ar gyfer pob hysbyseb, naill ai gan yr awdurdod lleol neu gan y ddeddfwriaeth – mae arddangos hysbyseb heb ganiatâd yn drosedd.
Efallai y bydd gan rai hysbysebion sy'n ymwneud â busnes y safle ganiatâd tybiedig dan y ddeddfwriaeth sy'n rheoli hysbysebion.
Er enghraifft, mae'n debygol y bydd caniatâd tybiedig yn berthnasol i lawer o arwyddion wynebfwrdd ac arwyddion ymestynnol traddodiadol na chânt eu goleuo, cyhyd â'u bod yn cydymffurfio â llawer o amodau a therfynau megis rhai'n ymwneud â maint.
Os yw hysbyseb yn bodloni pob un o'r meini prawf ar gyfer caniatâd tybiedig, ni fydd angen caniatâd diamwys arnoch.
Cliciwch yma i ddarllen y wybodaeth am fanylion caniatâd tybiedig (Saesneg yn unig).
Oherwydd bod hysbysebion amhriodol yn gallu niweidio ardal yn weledol (ac yn economaidd hyd yn oed), mae llawer o awdurdodau wedi cynhyrchu cyfarwyddyd atodol ynghylch dyluniad hysbysebion addas ac arwyddion masnachol.
Yn achos hysbysebion eraill nad oes ganddynt ganiatâd tybiedig, bydd angen caniatâd hysbyseb diamwys arnynt gan yr awdurdod lleol. Os yw'r adeilad wedi'i restru, bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch hefyd.
Rhaid ichi gael caniatâd, oherwydd mae'n ofynnol cyn arddangos hysbyseb, a gallai'r Awdurdod Cynllunio Lleol gymryd camau gweithredu (gan gynnwys eich erlyn) os na fydd gennych ganiatâd.
Efallai hefyd y bydd arnoch angen caniatâd y landlord neu'r tirfeddiannwr.