Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Rwyf am addasu fy siop yn swyddfa (dosbarth defnydd B1) neu'n lle storio (B8) neu'n lle a ddefnyddir at ddibenion eraill

Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y newid defnydd hwn, a fyddai'n newid o bwys, oherwydd mae'r defnydd newydd arfaethedig yn perthyn i ddosbarth defnydd gwahanol o fewn y system gynllunio.

Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ardaloedd siopa neu ardaloedd masnachol dynodedig yn eu polisïau cynllunio, sy'n aml yn cynnwys polisïau ynghylch sicrhau cydbwysedd o ran dosbarthiadau defnydd mewn ardal.

Efallai y bydd gan rai awdurdodau bolisïau arbennig i gynnal lefel benodol o ddosbarthiadau defnydd sy'n gysylltiedig â manwerthu.

Mae'n debygol y bydd angen caniatâd hysbyseb diamwys ar gyfer newidiadau o ran arwyddion.

Er na fydd angen caniatâd ar gyfer y newid defnydd cyn i'r gwaith ddechrau, os gwrthodir rhoi caniatâd bydd yn rhaid dadwneud y gwaith, a gallai'r awdurdod gymryd camau gorfodi ffurfiol yng nghyswllt y newid defnydd a gyflawnwyd heb ganiatâd cynllunio.

Efallai hefyd y bydd arnoch angen caniatâd y landlord neu'r tirfeddiannwr.

Cliciwch yma i ddarllen y cyfarwyddyd ynghylch dosbarthiadau defnydd yn y drefn gynllunio.