Neidio i'r prif gynnwy

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru ac yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy’n cynnwys pam ein bod yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n deg a chyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Cefndir

Achubwch ar y cyfle i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd a pham ein bod yn casglu ac yn prosesu’r data a gesglir gennym.

Llywodraeth Cymru fydd Rheolwr y Data ar gyfer y data personol rydych yn eu darparu i ni. Mae’r prosesu’n angenrheidiol i Lywodraeth Cymru gyflawni ei thasg gyhoeddus ac ymarfer ei hawdurdod swyddogol ar gyfer y Môr a Physgodfeydd yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu a’i chadw o’ch cais yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn/rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost a manylion y llong.

Beth rydym yn ei wneud â’ch gwybodaeth?

Diben casglu’r data hyn yw i Lywodraeth Cymru ddarparu i chi y trwyddedau, papurau caniatâd a chofrestriadau pysgodfeydd rydych yn gofyn i Lywodraeth Cymru amdanynt.

Mae angen gwybodaeth gyswllt er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch agor a chau pysgodfeydd ac unrhyw wybodaeth bwysig arall y penderfynir sydd ei hangen i reoli pysgodfa gynaliadwy yn ddiogel.

Defnyddir Manylion Dalfeydd i’n cynorthwyo gyda’r gwaith o fonitro’r bysgodfa wrth i ni ymarfer ein dyletswydd swyddogol ac i ddiogelu hyfywedd y y pysgodfeydd dan sylw yn y dyfodol.

 phwy rydym yn rhannu’ch gwybodaeth?

Bydd timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a gesglir. Ni fydd gweinyddwyr technegol systemau’n defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

Mae cytundeb rhannu data’n bodoli rhwng y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i gefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaethau statudol a deddfwriaeth genedlaethol mewn perthynas â rheoli gweithgarwch pysgota a gorfodi pysgodfeydd cysylltiedig.

Caiff data Manylion Dalfeydd eu rhannu â sefydliadau gwyddonol penodedig Llywodraeth Cymru i ddadansoddi’r patrymau a’r tueddiadau i gefnogi’r gwaith o reoli pysgodfeydd cynaliadwy.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw eich data personol am 5 mlynedd yn unig, yn unol â pholisi cadw data corfforaethol Llywodraeth Cymru ac at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon.

Ar ôl y pwynt hwn caiff y data a goledir naill eu dileu neu eu hanonymeiddio yn unol ag arferion gorau a’u defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • cael gafael ar y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
  • gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (mewn amgylchiadau penodol) gwrthwynebu i’r gwaith prosesu neu gyfyngu arno 
  • (mewn amgylchiadau penodol) gofyn i’ch data gael eu ‘dileu’
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn i gael gweld yr wybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych yn ei darparu i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn unrhyw bryd a chewch eich hysbysu o unrhyw newidiadau ar unwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru