Araith 'THE Campus Live' gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch o galon ichi am fy ngwahodd i siarad â chi'r bore yma.
Fel y gwelwch chi, rwy wedi cymryd teitl y sesiwn hwn, sef 'Beyond Westminster', braidd yn llythrennol, ac yn lle ymuno â chi yn Llundain, rwy'n siarad â chi o'm swyddfa weinidogol yma ym mhencadlys Llywodraeth Cymru yng nghanol Caerdydd.
Ond rhaid dweud bod y golygfeydd yn wych yma.
Os edrychaf allan o'r ffenestr ar y dde gallaf weld Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ond yn anffodus nid yw'r sain odidog a gynhyrchir yno yn cario'r 50 llath i'm swyddfa. Ac os edrychaf tua'r chwith gallaf weld Adeilad Syr Martin Evans, Prifysgol Caerdydd, a enwyd ar ôl un o enillwyr Gwobr Nobel Cymru.
Felly, gallaf lynu'n agos at yr egwyddorion hyd braich, a chadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd mewn dau o'n sefydliadau blaengar ar yr un pryd!
Y cyd-destun
Mewn gwirionedd, mae'r ffaith bod sefydliadau addysg uwch annibynnol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r Amgueddfa Genedlaethol a Neuadd Dinas Caerdydd, i gyd yma ym Mharc Cathays yn cynrychioli traddodiad Cymru o “ddemocratiaeth sy'n ymgysylltu â phobl”.
Cyfraniadau glowyr, chwarelwyr a gweithwyr cyffredinol ledled y wlad a dalodd am ein prifysgolion, ein cymdeithasau addysg, ein hysbytai, ein theatrau, ein llyfrgelloedd a mwy.
Rydyn ni bellach wedi dechrau ar gam newydd ac wedi gosod trefn newydd, gyda'n sefydliadau democrataidd cenedlaethol ein hunain, fel y Senedd a Llywodraeth Cymru, sy'n atebol yn uniongyrchol i bobl Cymru.
Dros y deunaw mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld sut mae ethos ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi llywio ein hymateb i'r pandemig – ac rwy'n cynnwys yr ymdeimlad o ymgysylltiad dinesig a welir yn ein prifysgolion fel rhan o hynny o beth hefyd.
Rydyn ni wedi gweld cyfraniad enfawr ym mhob rhan o'n sefydliadau, yn arbennig gan staff a myfyrwyr.
Mae ein prifysgolion wedi agor eu drysau i roi llety i bobl ddigartref a staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd (GIG). Maen nhw wedi agor canolfannau profi cymunedol, wedi cefnogi ysgolion a cholegau o ran darparu dysgu ar-lein a hyfforddiant, ac wedi defnyddio eu cyfleusterau hyfforddiant clinigol blaengar i brofi ymyriadau Unedau Gofal Dwys i gleifion â COVID-19.
Maen nhw wedi datblygu peiriannau i lanhau ambiwlansys a systemau monitro dŵr gwastraff er mwyn olrhain cyfraddau heintio yn y gymuned; mae eu data wedi cefnogi llywodraethau yn ogystal ag ychwanegu at waith cynllunio'r GIG at argyfyngau, ac at waith y gymuned ehangach o ymchwilwyr. Mae ein myfyrwyr wedi bod yn gofalu am ei gilydd a'u cymunedau hefyd – a bu llawer o fyfyrwyr yn gweithio ar reng flaen y GIG a'r heddlu, yn ogystal â gwirfoddoli ledled ein cymunedau.
Mae'r cyfnod heriol hwn wedi bod yn anodd i bob un ohonon ni.
Ond mae hefyd wedi dangos mai'r ffordd y mae Cymru wedi mynd ati i ymdrin â gweithio mewn partneriaeth, materion cymunedol ac amcanion er budd y cyhoedd – yn ogystal â'r ffaith ein bod ni'n wlad fach a hyblyg – wedi ein galluogi i weithio ar y cyd i Ddiogelu Cymru, a sicrhau ein bod ni'n Dal ati i Ddysgu.
Felly heddiw rwyf am rannu â chi:
sut y byddwn ni'n symud ymlaen yn yr un ysbryd hwnnw, gan wynebu'r dyfodol ar ôl y pandemig mewn modd hyderus, mentrus a radical;
sut y bydd cenhadaeth hanesyddol ac ethos ein sector addysg drydyddol yn ysbrydoliaeth i ni, yn hytrach na nod a fydd yn ein cyfyngu ni;
sut y byddwn ni – am y tro cyntaf erioed – yn cynnwys dyletswyddau a dibenion strategol ein sector addysg drydyddol gyfan mewn deddfwriaeth;
sut y byddwn ni'n diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ond yn ildio pwerau gweinidogol ar yr un pryd, gan sefydlu stiward cenedlaethol newydd i brifysgolion, colegau, colegau chweched dosbarth, prentisiaethau, ymchwil ac arloesi;
a sut, o ran partneriaeth gymdeithasol, y byddwn ni'n gofyn i ddarparwyr fynd i'r afael â ffyrdd o gynnwys dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ar bob agwedd ar eu haddysg, eu buddion a'u pryderon, ym mhob rhan o'r system addysg drydyddol.
Dewis amgen?
Ond yn gyntaf, cyn bwrw iddi i sôn am yr hyn y mae ein Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd am ei gyflawni, hoffwn i drafod y syniad y tu ôl i'r teitl a roddwyd i'r sesiwn gan y Times Higher, sef
'Beyond Westminster: An alternative approach'
(Efallai ei fod yn amlwg erbyn hyn pam nad ydw i wedi ymuno â chi heddiw)
Mae'n ddiddorol gweld fy ffordd i, a ffordd Cymru o fynd ati, hynny yw ein dull ni, yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth “amgen” i'r hyn a geir yn San Steffan.
Ar y naill law, mae yn amgen o raid.
Mae'n golygu cydweithio yn lle cystadlu; grantiau i bob myfyriwr, yn lle mynd i ddyled; rhaglen cyfnewid ryngwladol sy'n wirioneddol gilyddol, a llawer mwy.
Ond mae'r teitl yn awgrymu, yn anfwriadol o bosibl, mai polisïau San Steffan a Lloegr yw'r arfer, y patrwm, yr uwchgynllun cytûn, ac felly mae'n dilyn bod polisïau Cymru, neu unrhyw bolisi arall o ran hynny, yn ddieithr, yn annormal, ac yn amgen i'r farn gyffredin.
Ond rwy am fod yn glir.
O ran polisïau addysg, nid ni sy'n wahanol; nid ni sy'n mynd ar gyfeiliorn, nid ni sy'n troedio llwybr newydd.
Mae Seland Newydd a'r Alban, er enghraifft, yn arfer yr un dull â ni o ran edrych ar addysg drydyddol o safbwynt strategol a system gyfan.
Fel y gwelsom yr wythnos diwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin, bu cyn-weinidogion diweddar yn beirniadu dull Llywodraeth y DU o hybu cystadlu rhwng colegau a phrifysgolion yn lle cydweithio.
Mae ein dull o sicrhau bod pob myfyriwr prifysgol, boed yn llawn amser neu'n rhan amser, boed yn dilyn cwrs gradd neu gwrs ôl-radd, yn gymwys i gael grantiau cymorth i fyfyrwyr, yn fwy tebyg o lawer i'r hyn sy'n digwydd yn rhyngwladol, nag i'r duedd i weld myfyrwyr fel cwsmeriaid a defnyddwyr a welir yn Lloegr.
Yn olaf, ar y pwynt hwn, mae ein hymrwymiad i system wirioneddol ddwyieithog, gan gefnogi myfyrwyr, prentisiaid, ymchwilwyr ac academyddion i ddal ati i ddysgu a mwynhau gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, yn debyg i'r hyn a wneir gan ein ffrindiau yng Ngwlad y Basg neu yng Nghanada, er enghraifft.
Fodd bynnag, dylwn i bwysleisio bod gweithio yng nghyd-destun DU gyfan a chyd-destun Ewrop yn dod â llawer o fuddion i ddinasyddion, sefydliadau ac academyddion ledled ein pedair gwlad.
Mae gennym lawer i'w ddysgu oddi wrth ein gilydd, a llawer o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Ond gallem wneud mwy i barchu ein gwahaniaethau wrth gydnabod yr amcanion sydd gennym mewn cyffredin.
Trosolwg
Felly i'r un perwyl, o ran rhannu arferion gorau, hoffwn ddyfynnu geiriau cyn-Weinidog sy'n sôn am gynllunio a strategaeth addysg drydyddol.
"There is a bewildering array of regulatory and funding bodies out there in the landscape... (We need to) move to a joined-up system of regulation and funding for all post-16 education."
Nid geiriau fy rhagflaenydd fel Gweinidog Addysg Cymru yn trafod ein cynlluniau ar gyfer Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yw'r rheini, er y bydden nhw'n addas at y diben hwnnw.
Geiriau Jo Johnson ydyn nhw, pan fu'n siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi fel rhan o ddadl a gynhaliwyd ar Fil Sgiliau Llywodraeth y DU.
Rwy'n gwybod y bydd Jo Johnson yn ymuno â chi ar banel yn nes ymlaen y bore yma i drafod meithrin cysylltiadau rhwng y DU a Tsieina, felly gobeithio y bydd e'n cymryd hyn yn yr un ysbryd ag y bwriadwyd.
Mae pwynt da iawn ganddo, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef.
Dyna pam rydyn ni'n sefydlu'r Comisiwn.
Fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, bydd y Comisiwn yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio'r sector hwn, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ansawdd y sector.
Am y tro cyntaf erioed byddwn ni'n dwyn ynghyd mewn un lle: sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru, ysgolion chweched dosbarth a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned yn ogystal â chyrff sy'n gyfrifol am ymchwil ac arloesi.
Bydd y Comisiwn yn cydweithio mewn ffordd gydlynol a system gyfan, er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn eu bywydau, ac er mwyn cael darparwyr cadarn, annibynnol ac amrywiol sy'n gwneud cyfraniadau pwysig i lesiant a ffyniant y wlad.
Fel y soniais yn gynharach, gwnaethom nodi naw dyletswydd strategol yn y bil i sefydlu'r Comisiwn sydd wrthi'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd.
Gyda'i gilydd, maen nhw'n darparu'r fframwaith cynllunio strategol hirdymor ar gyfer yr hyn y mae angen i'r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn, gan gynnwys prifysgolion, ei gyflawni wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.
Ymhlith y dyletswyddau hyn, sy'n darparu dibenion strategol y Comisiwn ar gyfer y sector cyfan yn fy marn i, mae dysgu gydol oes, cenhadaeth ddinesig a rhagolwg byd-eang yn ogystal â gwelliant parhaus, cydweithio a chydlyniant, a chyfle cyfartal.
Fel y dywedais yn gynharach, ein gwerthoedd a'n traddodiadau yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y dull hwn, ond maen nhw yno er mwyn helpu pob un ohonon ni i wynebu'r dyfodol a derbyn heriau newydd.
Rwy'n credu ein bod ni'n gweithio mewn modd radical drwy roi awdurdod deddfwriaethol amlwg i'r dyletswyddau a'r gwerthoedd hyn.
Maen nhw'n darparu diben clir, gan sicrhau mai llwyddiant a llesiant dysgwyr o bob oedran, ym mhob lleoliad ac ym mhob cymuned, sydd wrth wraidd y gwaith.
Fel y Gweinidog Addysg, bydd yn ofynnol i mi lunio a chyhoeddi datganiad yn nodi'r blaenoriaethau strategol cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi.
Ar y cyd â'r dyletswyddau strategol, bydd hyn yn sail i gynllun strategol y Comisiwn ei hun, a'r ffordd y bydd yn gweithredu ac yn dyrannu cyllid.
Gan weithio gyda'r sector, bydd y Comisiwn yn llywio'r system drwy fuddsoddi, gan gysylltu darparwyr a rhannu gwybodaeth. Ac o wneud hynny, bydd modd i'r Comisiwn gymryd safbwynt strategol a sicrhau bod dysgwyr yn datblygu'n ddinasyddion Cymru sy'n cyfrannu, yn ogystal â bod yn fentrus ac yn addysgedig.
Mae'r cysyniad hwn o ddinasyddiaeth hefyd wrth wraidd ein Cwricwlwm cenedlaethol newydd i ysgolion, sy'n sicrhau bod cysylltiad rhwng y sectorau cyn-16 ac ôl-16, gan fanteisio ar ein dull Cymreig o gyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau.
Amseru
Felly pam rydyn ni'n gwneud hyn nawr?
Lluniwyd llawer o'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud ag addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru sawl degawd yn ôl bellach.
Cafodd ei llunio cyn datganoli democrataidd, cyn ehangu'r sector addysg uwch, a chyn y newidiadau sylweddol diweddar mewn patrymau economaidd a phatrymau gyrfa, a'r tro ar fyd a welwyd ym maes technoleg sy'n parhau i effeithio ar y ffordd rydyn ni'n dysgu, yn byw ac yn gweithio.
Ac wrth gwrs cyn i ni hyd yn oed fod wedi gallu meddwl am yr heriau a fyddai'n codi yn sgil COVID-19.
Fel Llywodraeth Llafur yng Nghymru, rydyn ni'n gwybod bod angen cymryd camau mentrus i leihau anghydraddoldeb o ran addysg, ehangu cyfleoedd a chodi safonau.
Er mwyn cyflawni hynny, mae'n glir i mi fod angen i ni chwalu rhwystrau, sicrhau llwybrau haws i ddysgwyr a pharhau i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi.
Drwy sefydlu'r Comisiwn, bydd stiward cenedlaethol gan Gymru am y tro cyntaf, a fydd yn goruchwylio gwaith y sector addysg drydyddol cyfan.
Bydd y Comisiwn yn gweithio i ddeall perfformiad y sector, gosod a monitro blaenoriaethau strategol a gweithredol, a dyrannu cyllid mewn modd sy'n llwyr seiliedig ar wybodaeth, ac yn unol â chyfrifoldebau strategol a statudol.
Bydd y trefniadau a roddir ar waith drwy'r Bil hwn yn ein helpu ni i greu sector amrywiol a dynamig sy'n cefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau, ac sy'n gweithio er lles cymunedau, cyflogwyr a'r genedl gyfan.
Rwy'n gobeithio cael cyfle rywbryd arall i rannu ein syniadau a'n cynigion ar gyfer Cytundebau Deilliannau, y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, ein Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, egwyddorion sector gyfan ar ansawdd, dysgu gydol oes a llawer mwy... Ta beth, rwy'n gobeithio fy mod i wedi gallu rhoi cipolwg i chi o'n nodau a'n diwygiadau.
Casgliad
I gasglu, hoffwn i gyhoeddi unwaith eto fy mod i'n ddiolchgar am ymdrechion ein prifysgolion, ein myfyrwyr a'n staff yng Nghymru dros y deunaw mis diwethaf.
Gan weithio yng Nghymru, gyda chydweithwyr ledled y DU ac yn rhyngwladol, maen nhw wedi bod yn hanfodol i bob agwedd ar ein hymateb i'r pandemig, ac i'r gwaith o ddychmygu ein ffordd tuag at y dyfodol.
Bues i'n tynnu coes yn gynharach ynghylch pa mor agos yw bywyd academaidd, y llywodraeth a bywyd dinesig yng Nghymru.
Fodd bynnag, rwy'n credu'n gryf mai'r ffaith ein bod ni'n gweithredu ar raddfa gymharol fach fydd yn sicrhau y byddwn ni'n llwyddo yn y dyfodol.
A gallwn ni wneud hyd yn oed fwy ar ran ein dinasyddion a'n cymunedau, gan fanteisio ar y ffaith ein bod ni'n fach ac yn hyblyg, drwy osgoi cystadlu llesteiriol, drwy symleiddio rolau a chyfrifoldebau, a thrwy roi hwb i gydweithio ac amrywiaeth.
Felly mae'n wir, rywle y tu hwnt i San Steffan, drwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni'n creu sector a system sy'n dod â phrifysgolion, colegau a darparwyr eraill ynghyd, yn lle gadael iddyn nhw ymladd â'i gilydd.
P'un a ydych chi o'r farn mai dewis "amgen" yw hyn ai peidio, rwy'n gobeithio fy mod i wedi disgrifio i chi lefel ein huchelgais, a dangos bod y diwygiadau hyn yn hanfodol, yn fy marn i, er mwyn rhoi i'n sector addysg ôl-16 y llwyfan sydd ei hangen arno i wynebu'r dyfodol.
Diolch yn fawr.